Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2025
Diweddarwyd 5 Tachwedd 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2025
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £211,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 104.7
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2025 am 9.30am ddydd Mercher 22 Hydref 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Awst 2025, i £211,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 2.1% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 3.0% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Awst 2025.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.0% rhwng Gorffennaf 2025 ac Awst 2025, o’i gymharu â chynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Gorffennaf 2025 ac Awst 2025.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2024 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 33.2% yng Nghymru a chynyddodd gan 23.7% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 18 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2025. Pen-y-bont ar Ogwr welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 6.0% i £212,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2025. Mewn cyferbyniad, Merthyr Tudful welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 8.5% i £137,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2025.
Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 3.8% yn y 12 mis hyd at Awst 2025, i’r pris cyfartalog o £212,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 1.4% yn y 12 mis hyd at Awst 2025, i’r pris cyfartalog o £128,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Awst 2025 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 2.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Awst 2025 | Awst 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £210,836 | £199,826 | 5.5% |
| Blaenau Gwent | £140,606 | £133,600 | 5.2% |
| Bro Morgannwg | £288,724 | £288,437 | 0.1% |
| Caerdydd | £269,466 | £265,159 | 1.6% |
| Caerffili | £194,315 | £184,320 | 5.4% |
| Casnewydd | £222,665 | £217,204 | 2.5% |
| Castell-nedd Port Talbot | £161,315 | £156,722 | 2.9% |
| Ceredigion | £220,623 | £233,091 | -5.3% |
| Conwy | £205,260 | £206,841 | -0.8% |
| Gwynedd | £194,690 | £198,847 | -2.1% |
| Merthyr Tudful | £137,237 | £150,010 | -8.5% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £212,369 | £200,385 | 6% |
| Powys | £235,050 | £232,140 | 1.3% |
| Rhondda Cynon Taf | £158,092 | £152,112 | 3.9% |
| Sir Benfro | £218,604 | £217,788 | 0.4% |
| Sir Ddinbych | £196,408 | £194,811 | 0.8% |
| Sir Fynwy | £331,990 | £329,043 | 0.9% |
| Sir y Fflint | £210,325 | £206,425 | 1.9% |
| Sir Gaerfyrddin | £200,034 | £191,218 | 4.6% |
| Torfaen | £193,508 | £189,433 | 2.2% |
| Wrecsam | £207,319 | £197,843 | 4.8% |
| Ynys Môn | £231,117 | £227,834 | 1.4% |
| Cymru | £211,361 | £207,156 | 2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Awst 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £332,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Merthyr Tudful, lle mai £137,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Awst 2025 | Awst 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £329,065 | £324,985 | 1.3% |
| Tŷ pâr | £211,836 | £204,074 | 3.8% |
| Tŷ teras | £169,084 | £165,714 | 2.0% |
| Fflat neu fflat deulawr | £128,392 | £130,252 | -1.4% |
| Holl | £211,361 | £207,156 | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
| Awdurdodau lleol | Mehefin 2025 | Mehefin 2024 |
|---|---|---|
| Abertawe | 184 | 209 |
| Blaenau Gwent | 44 | 66 |
| Bro Morgannwg | 146 | 150 |
| Caerdydd | 248 | 415 |
| Caerffili | 116 | 180 |
| Casnewydd | 95 | 206 |
| Castell-nedd Port Talbot | 89 | 134 |
| Ceredigion | 42 | 61 |
| Conwy | 104 | 138 |
| Gwynedd | 90 | 122 |
| Merthyr Tudful | 31 | 58 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 95 | 149 |
| Powys | 82 | 106 |
| Rhondda Cynon Taf | 139 | 263 |
| Sir Benfro | 87 | 103 |
| Sir Ddinbych | 73 | 94 |
| Sir Gaerfyrddin | 110 | 197 |
| Sir Fynwy | 76 | 119 |
| Sir y Fflint | 125 | 129 |
| Torfaen | 51 | 100 |
| Wrecsam | 67 | 124 |
| Ynys Môn | 36 | 51 |
| Cymru | 2,130 | 3,174 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2025 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 33.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fehefin 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 11.2% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Mehefin 2021 | 7,096 |
| Mehefin 2022 | 3,618 |
| Mehefin 2023 | 3,210 |
| Mehefin 2024 | 3,174 |
| Mehefin 2025 | 2,130 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £352,264 | 3.6% | 18.5% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £206,843 | 0.5% | 1.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £181,639 | 0.9% | 2.2% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £252,517 | 1.2% | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Awst 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £210,260 | 1.2% | 1.2% |
| Morgais | £211,923 | 1.0% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2025 |
|---|---|
| Cymru | 8 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288