Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2017

Cyhoeddwyd 13 February 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,756

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

5.2%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.4%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017, i fyny o 5.0%, yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Rhagfyr 2017 (PDF,633KB) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei gyfres o ddisgwyliadau pris yn y dyfodol agos yn parhau’n negyddol ar -6%. Wedi iddynt sefydlogi yn yr adroddiad blaenorol, lleihaodd ymholiadau gan brynwyr newydd gyda gweddill net o ‑15% o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw (yn hytrach na chynnydd), o’i gymharu â -5% yn Nhachwedd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Rhagfyr 2017 (PDF,829KB) fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi lleihau gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017. Rhwng Tachwedd 2017 a Rhagfyr 2017, lleihaodd trafodion gan 3.9%.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod ei weddill net ar gyfer cyfarwyddiadau newydd wedi parhau’n negyddol am y 24ain mis yn olynol. Parhaodd y lefelau stoc a nodwyd gan asiantau tai yn sefydlog ar y cyfan, dal yn agos i’r lefelau isaf erioed. Arhosodd eu rhagolygon tri mis ar gyfer disgwyliadau gwerthiannau cenedlaethol yn wastad, er bod mwy o optimistiaeth ar gyfer y rhagolygon deuddeg mis.

Wrth edrych ar ranbarthau Lloegr, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn Ne Orllewin Lloegr ar 7.5%, i fyny o 6.1% yn y mis blaenorol. Dilynwyd hyn gan Ddwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr, gyda’r ddwy ardal yn tyfu ar 6.3%. Ar 2.5%, Llundain oedd â’r twf blynyddol isaf o holl ranbarthau’r DU, er bod hyn i fyny o 2.0% yn y mis blaenorol. Dyma’r 13eg mis yn olynol i’r twf blynyddol yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU. Yorkshire and The Humber oedd yr ail ardal arafaf, yn tyfu ar 2.8%.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Welsh Annual price change for UK by country over the past 5 years

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017 (i fyny o 5.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017).

Cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 7.7% dros y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 5.4% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 5.0% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.3% dros y flwyddyn hyd at chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £154,398 1.0% 5.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) £130,482 1.0% 4.3%
Lloegr £243,582 0.4% 5.0%
Yr Alban £148,783 0.2% 7.7%
De Ddwyrain Lloegr £322,269 -0.5% 4.2%
De Orllewin Lloegr £254,081 1.0% 7.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £185,694 0.6% 6.3%
Dwyrain Lloegr £290,341 0.2% 5.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £191,050 0.1% 6.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,838 2.7% 3.6%
Gogledd Orllewin Lloegr £158,370 0.2% 5.9%
Llundain £484,173 0.8% 2.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £156,781 0.2% 2.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Rhagfyr 2017 Rhagfyr 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £342,541 £325,270 5.3%
Tŷ pâr £213,023 £201,622 5.7%
Tŷ teras £183,085 £174,168 5.1%
Fflat neu fflat deulawr £204,949 £195,784 4.7%
Holl £226,756 £215,500 5.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Hydref 2017 Hydref 2016 Gwahaniaeth
Cymru 3,805 3,957 -3.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) 5,501 6,033 -8.8%
Lloegr 63,603 70,825 -10.2%
Yr Alban 8,831 8,503 3.9%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Hydref

Sales volumes for 2013 to 2017 by country: October welsh

Yn Hydref 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 8.5% o’i gymharu â Hydref 2016. O’i gymharu â Medi 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 6.6%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Hydref 2017 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Hydref 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £299,443 2.2% 14.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £221,588 0.2% 5.1%

Sylwer: Er Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £190,722 0.0% 4.7%
Cyn berchen-feddiannydd £263,775 0.7% 5.8%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,985 0.3% 5.2%
Morgais £236,636 0.4% 5.4%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Mae ystadegau’n cael eu hadolygu bob chwarter i gynnwys gwerthiannau a dderbyniwyd ers y cyhoeddiad diwethaf, sef gwerthiannau eiddo newydd sydd wedi eu cynnwys yn Rhestr Brisio GI a gwerthiannau hwyr a adroddir i CThEM. Gwelwyd adolygiad sylweddol i lawr i’r prisiau/mynegai annedd newydd yn Ch3 2017, a oedd yn bennaf oherwydd bod mwy o werthiannau ar gael, ond gwaethygodd oherwydd gwall prosesu mewnol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen 4 o adroddiad ystadegol Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU
0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban
44 (0)131 659 6111 Est. 6387