Guidance

Teithio i'r UE gyda phasbort y Deyrnas Unedig os nad oes cytundeb Brexit

Published 13 September 2018

Gwiriwch os byddwch wedi’ch effeithio gan y newidiadau i’r rheolau ar gyfer dinasyddion Prydain i rai gwledydd Ewropeaidd wedi Mawrth 2019 os yw’r Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb.

Manylion Bydd y gofynion mynediad i ddeiliaid pasbortau Prydain, yn cynnwys rhai gyda phasbortau a gyhoeddwyd gan Diriogaethau Dibynnol ar y Goron (Guernsey, Ynys Manaw a Jersey) a Gibraltar, yn teithio i wledydd ardal Schengen yn newid wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr UE.

Wedi 29 Mawrth 2019, bydd angen i chi wirio manylion eich pasbort ac, os oes angen, ymgeisio am un newydd cyn i chi deithio i wlad ardal Schengen. I’r mwyafrif, ni fydd angen gwneud dim, ond os bydd eich pasbort yn hŷn na 9 mlynedd a 6 mis ar y dyddiad y bwriadwch deithio, bydd angen i chi ei adnewyddu o flaen llaw.

Mae sefyllfa lle bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb (sefyllfa ‘dim cytundeb) yn parhau yn annhebygol o ystyried y budd sydd i’r Deyrnas Unedig a’r UE o sicrhau canlyniad y cytunwyd arno.

Mae’r trafodaethau yn mynd yn dda ac rydym ni a’r UE yn parhau i weithio’n galed i geisio cael cytundeb cadarnhaol. Ond ein dyletswydd ni fel llywodraeth gyfrifol yw paratoi ar gyfer pob canlyniad posibl, gan gynnwys ‘dim cytundeb’, nes y gallwn fod yn sicr o ganlyniad y trafodaethau.

Ers dwy flynedd mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i sicrhau y bydd y Deyrnas Unedig yn barod o’r diwrnod cyntaf ym mhob sefyllfa, gan gynnwys canlyniad ‘dim cytundeb’ posibl ym Mawrth 2019.

Mae wedi bod yn wir o’r dechrau, wrth i ni nesáu at Fawrth 2019, y byddai’n rhaid i’r paratoadau ar gyfer sefyllfa heb gytundeb gael eu cyflymu. Nid yw cyflymu o’r fath yn adlewyrchu bod canlyniad ‘dim cytundeb’ yn fwy tebygol. Yn hytrach mae’n ymwneud â sicrhau bod ein cynlluniau yn eu lle yn y sefyllfa annhebygol y byddai’n rhaid dibynnu arnynt.

Mae’r gyfres hon o hysbysiadau technegol yn nodi gwybodaeth er mwyn i fusnesau a dinasyddion ddeall beth fyddai’n rhaid iddynt ei wneud mewn sefyllfa ‘dim cytundeb’, fel eu bod yn gallu gwneud cynlluniau a pharatoadau ar sail gwybodaeth.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhan o’r gyfres honno

Hefyd wedi ei gynnwys mae hysbysiad fframio cyffredinol yn esbonio dull cyffredinol y llywodraeth i baratoi’r Deyrnas Unedig ar gyfer y canlyniad hwn er mwyn lleihau amhariad a sicrhau ymadawiad esmwyth a threfnus ym mhob senario.

Rydym yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar hysbysiadau technegol a byddwn yn parhau i wneud hyn wrth i gynlluniau ddatblygu.

Cyn 29 Mawrth 2019

Mae’r rhan fwyaf o wledydd yr UE (ond nid y Deyrnas Unedig) yn aelodau o Gytundeb Schengen. Mae’r cytundeb yma yn dileu gwiriadau pasbort a rheolaeth ffiniau ar y terfyn rhwng gwledydd o fewn ardal Schengen. Gall pobl deithio o amgylch yr ardal fel petai’n un wlad.

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig, fel gwladolyn yr UE cewch ddod i mewn i ardal Schengen ar hyn o bryd os oes gennych chi basbort dilys. Nid oes gofyniad i basbortau Prydeinig gael uchafswm na lleiafswm cyfnod dilysrwydd yn weddill pan fyddwch yn dod i mewn i neu’n gadael yr ardal Schengen.

Mae’r canlynol yn aelodau o’r Cytundeb Schengen:

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Y Weriniaeth Tsiec
  • Denmarc
  • Estonia
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Yr Almaen
  • Hwngari
  • Gwlad yr Iâ
  • Yr Eidal
  • Latfia
  • Liechtenstein
  • Lithwania
  • Lwcsembwrg
  • Malta
  • Yr Iseldiroedd
  • Norwy
  • Gwlad Pwyl
  • Portiwgal
  • Slofacia
  • Slofenia
  • Sbaen
  • Sweden
  • Swistir

Nid yw’r gwledydd yr Undeb Ewropeaidd hyn yn yr ardal Schengen: Iwerddon, Rwmania, Bwlgaria, Croatia a Chyprus.

Ar ôl Mawrth 2019 os na fydd cytundeb

Wedi 29 Mawrth 2019, os ydych yn ddeiliad pasbort Prydeinig (yn cynnwys pasbortau a gyhoeddwyd gan Diriogaethau Dibynnol ar y Goron a Gibraltar), byddwch yn cael eich ystyried i fod yn wladolyn trydedd wlad - dan y Cod Ffiniau Schengen ac felly bydd angen i chi gydymffurfio gyda gwahanol reolau i ddod i mewn i a theithio o amgylch ardal Schengen. Mae gwladolion trydydd gwledydd yn ddinasyddion gwledydd (fel Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau) nad ydynt yn perthyn i’r UE na’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Yn ôl Cod Ffiniau Schengen, rhaid i basbortau trydydd gwledydd:

  • fod wedi eu cyhoeddi o fewn y 10 mlynedd diwethaf ar ddyddiad cyrraedd mewn gwlad Schengen, a
  • cael o leiaf 3 mis o ddilysrwydd yn weddill ar ddyddiad yr ymadawiad arfaethedig o’r wlad olaf yr ymwelir â hi yn yr ardal Schengen. Oherwydd y gall gwladolion trydedd wlad aros yn yr ardal Schengen am 90 niwrnod (oddeutu 3 mis), gallai’r gwiriad a gyflawnir mewn gwirionedd fod i weld a oes gan y pasbort o leiaf 6 mis o ddilysrwydd yn weddill ar ddyddiad cyrraedd.

Os ydych chi’n bwriadu teithio i’r ardal Schengen wedi 29 Mawrth 2019, er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd na fydd eich pasbort oedolyn Prydeinig yn cydymffurfio â Chod Ffiniau Schengen rydym yn awgrymu eich bod yn gwirio’r dyddiad cyhoeddi ac yn sicrhau nad yw’ch pasbort yn hŷn na 9 mlynedd a 6 mis ar y dyddiad teithio.

Er enghraifft, os ydych chi’n bwriadu teithio i ardal Schengen ar 30 Mawrth 2019, dylai eich pasbort gael dyddiad cyhoeddi ar neu wedi 1 Hydref 2009.

Os nad yw’ch pasbort yn bodloni’r meini prawf hyn, fe wrthodir mynediad i chi i unrhyw un o wledydd ardal Schengen, a dylech adnewyddu eich pasbort cyn teithio.

Y ffordd hawsaf i adnewyddu eich pasbort yw ar-lein. Neu dysgwch am ddulliau eraill o adnewyddu eich pasbort.

Os ydych chi’n bwriadu teithio wedi 29 Mawrth 2019, ac y bydd eich pasbort wedi ei effeithio gan y rheolau dilysrwydd newydd, rydym yn argymell eich bod yn ystyried adnewyddu eich pasbort yn fuan i osgoi unrhyw oedi, gan y gall y gwasanaeth cyhoeddi pasbortau fod yn brysur, yn arbennig yn y gwanwyn.

Os ydych yn rhiant neu’n warchodwr

Ar gyfer pasbortau 5 mlynedd a gyhoeddwyd i rai dan 16 oed, gwiriwch y dyddiad dod i ben a sicrhau y bydd yna o leiaf 6 mis o ddilysrwydd yn weddill ar y dyddiad teithio.

Er enghraifft, dylai blentyn sy’n bwriadu teithio i ardal Schengen ar 30 Mawrth 2019, gael pasbort gyda dyddiad dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2019.

Os nad yw pasbort plentyn yn bodloni’r meini prawf hyn, fe wrthodir mynediad iddo/iddi i unrhyw un o wledydd ardal Schengen, a dylech adnewyddu’r pasbort cyn teithio.

Y ffordd hawsaf i adnewyddu pasbort plentyn yw ar-lein. Neu dysgwch am ddulliau eraill o adnewyddu pasbort plentyn.

Teithio i wledydd sydd yn yr UE ond nid yn yr ardal Schengen

Ar gyfer gwledydd sydd yn yr UE ond nid yn yr ardal Schengen, bydd angen i chi wirio’r gofynion ar y wlad rydych yn teithio iddi cyn i chi deithio.

Teithio i Iwerddon wedi gadael yr UE

Bydd teithio i Iwerddon yn destun trefniadau Ardal Deithio Gyffredin ar wahân a fydd yn cael eu cynnal wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr UE.

Ceir rhagor o wybodaeth am deithio i Iwerddon yma.

Pasbortau gyda dilysrwydd o dros 10 mlynedd (5 mlynedd i blant)

Ers 2001, cafodd rhai pasbortau Prydeinig eu cyhoeddi gyda dilysrwydd hirach na 10 mlynedd. Mae hyn oherwydd os gwnaethoch chi adnewyddu eich pasbort cyn iddo ddod i ben, roeddech yn gallu ychwanegu’r amser oedd yn weddill ar eich hen basbort i’ch pasbort newydd. Uchafswm y cyfnod dilysrwydd oedd ar gael oedd 10 mlynedd a 9 mis. Mae hyn yn golygu na allwch ddefnyddio’r dyddiad dod i ben i wirio os bydd eich pasbort oedolyn yn ddilys dan y rheolau newydd.

O ddechrau Medi 2018, ni fydd dilysrwydd ychwanegol yn cael ei ychwanegu i basbortau mwyach a bydd yr uchafswm dilysrwydd ar gyfer pasbort y Deyrnas Unedig yn 10 mlynedd, ac ar gyfer pasbort plentyn bydd yn 5 mlynedd. Rydym wedi gwneud y newid hwn yn dilyn argymhellion a sefydlwyd gan y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol ac i ddarparu eglurder ynghylch dilysrwydd pasbortau yn ardal Schengen yn y dyfodol.

Pasbortau Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron a Gibraltar

Os yw eich pasbort Prydeinig yn basbort a gyhoeddwyd gan Diriogaeth Dibynnol ar y Goron neu Gibraltar ac y byddwch yn teithio i wlad yn ardal Schengen o 30 Mawrth 2019, bydd y rheolau newydd hyn hefyd yn berthnasol i chi. Os nad yw’ch pasbort yn bodloni’r meini prawf hyn, fe wrthodir mynediad i chi i unrhyw un o wledydd ardal Schengen, a dylech adnewyddu eich pasbort cyn teithio.

Gallwch ymgeisio am basbort newydd yn eich swyddfa basbortau berthnasol yn eich Tiriogaeth Dibynnol ar y Goron neu Gibraltar:

Pasbortau Prydeinig a gyhoeddwyd wedi 29 Mawrth 2019

Bydd cynllun y pasbort Prydeinig yn newid wedi i Brydain adael yr UE. Bydd hyn yn digwydd mewn dau gam.

Bydd pasbortau a argraffir rhwng 30 Mawrth 2019 hyd at gyflwyno’r cynllun pasbort newydd yn lliw gwin ond ni fyddant yn cynnwys y geiriau ‘Undeb Ewropeaidd’ ar y clawr blaen. Mae hyn yn cynnwys pasbortau a gyhoeddwyd gan Diriogaethau Dibynnol ar y Goron a Gibraltar.

Bydd pasbortau glas yn dechrau cael eu cyhoeddi o ddiwedd 2019.

Os byddwch yn adnewyddu eich pasbort rhwng diwedd 2019 a dechrau 2020, byddwch yn cael naill ai pasbort Prydeinig glas neu liw gwin yn awtomatig.

Rhoi arweiniad yn unig yw diben yr hysbysiad hwn. Dylech ystyried a oes arnoch angen cyngor proffesiynol ar wahân cyn gwneud paratoadau penodol.

Mae’n rhan o raglen barhaus y llywodraeth o gynllunio at bob canlyniad posibl. Rydym yn disgwyl negodi cytundeb llwyddiannus gyda’r UE.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn glir yn y senario hwn bod yn rhaid i ni barchu ein perthynas unigryw gydag Iwerddon, gan ein bod yn rhannu ffin ar y tir â nhw, ac sy’n gydlofnodwyr i Gytundeb Belfast. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gosod cynnal y Cytundeb hwn a’i olynwyr yn ganolog i’n hymagwedd. Mae’n diogelu’r egwyddor cydsyniad y mae statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon yn seiliedig arno. Rydym yn cydnabod y sail mae wedi ei ddarparu ar gyfer cydweithrediad economaidd a chymdeithasol dwfn ar ynys Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cydweithrediad Gogledd-De rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, yr ydym yn ymroddedig i’w ddiogelu yn unol â geiriad ac ysbryd Edefyn dau’r Cytundeb.

Mae llywodraeth Iwerddon wedi awgrymu y byddai angen iddynt drafod trefniadau os na cheir cytundeb gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ac Aelod Wladwriaethau’r UE. Byddai’r Deyrnas Unedig yn sefyll yn barod yn y senario hwn i ymgysylltu’n adeiladol i fodloni ein hymrwymiadau ac i weithredu er lles pobl Gogledd Iwerddon, gan gydnabod yr heriau arwyddocaol iawn y byddai diffyg cytundeb cyfreithiol rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE yn cyflwyno yn y cyd-destun unigryw a hynod sensitif hwn.

Er hynny, mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb i lywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y llywodraeth sofran yng Ngogledd Iwerddon, i barhau i baratoi ar gyfer yr amrediad llawn o ganlyniadau posibl, yn cynnwys dim cytundeb. Wrth i ni wneud hyn, ac wrth i ni wneud penderfyniadau, byddwn yn ystyried yn llawn amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon.

Mae Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn rhan o’r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn cymryd rhan mewn trefniadau eraill gan yr Undeb Ewropeaidd. Fel y cyfryw, mewn sawl maes, mae’r gwledydd hyn yn mabwysiadu rheolau’r Undeb Ewropeaidd. Pan fydd hyn yn wir, gall yr hysbysiadau technegol yma fod yn berthnasol iddynt hwythau, a dylai busnesau a dinasyddion yr AEE ystyried a oes angen iddynt gymryd camau i baratoi ar gyfer sefyllfa ‘dim cytundeb’.