Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad

Diweddarwyd 25 September 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cwmpas a rhagor o wybodaeth

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn y canlynol:

  • Deddf Cofrestru Tir 2002
  • Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967, fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002
  • Deddf Tai Cymru 2014
  • Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002
  • Deddf Landlord a Thenant 1987
  • Rheolau Cofrestru Tir 2003
  • Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005.

Sylwch fod y canlynol oddi allan i gwmpas y cyfarwyddyd hwn:

  • newidiadau a darpariaethau Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 nad oedd mewn grym ar 1 Mai 2003
  • ymestyn prydlesi trwy gytundeb – gweler cyfarwyddyd ymarfer 28: ymestyn prydlesi
  • breinio addoldai o dan Ddeddf (Breinio) Addoldai 1920
  • gweithredoedd ehangu o dan adran 153 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925

O ran breinio prydlesoedd ac ymestyn prydlesi tai a fflatiau, mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Senedd Cymru yn cyhoeddi llyfrynnau yn cwmpasu amrywiol agweddau ar y ddeddfwriaeth a threfnau ar gyfer arfer hawliau.

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cyhoeddi amrywiaeth o gyfarwyddiadau ac mae cyfeiriad at rai ohonynt yn yr adrannau perthnasol. Mae’r canlynol yn cynnwys gwybodaeth berthnasol i amrywiaeth o geisiadau sy’n cael eu trafod yn y cyfarwyddyd hwn a dylid eu darllen fel bo angen.

2. Ffïoedd

Dylech gyfrifo ffïoedd yn unol â’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

3. Camau cyntaf

3.1 Chwiliad o’r map mynegai

Dylai tenantiaid sydd â diddordeb mewn caffael rifersiwn rhydd-ddaliol eu heiddo neu ymestyn eu prydles ddarganfod ar y dechrau os yw’r teitl i’r budd, neu fuddion, rifersiwn wedi ei gofrestru.

Gwnewch hyn trwy wneud cais am chwiliad swyddogol o’r map mynegai. Caiff y drefn ei disgrifio yng nghyfarwyddyd ymarfer 10: chwiliadau swyddogol o’r map mynegai.

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r portho.

Mae’n annoeth i wneud cais am gopi swyddogol o’r gofrestr heb wybod y rhif teitl, yn ôl y disgrifiad yng nghyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol, gan y gallai hyn beri darparu copi swyddogol diangen.

Nid yw rhif teitl y prydleswr, os yw wedi ei ddangos ar gofrestr teitl y ceisydd, bob amser yn gyfoes. Wrth gwrs, mae modd archwilio’r teitl hwnnw – gweler Archwilio cofrestr uwch-deitlau cofrestredig - ond edrychwch yn ofalus ar yr atodlen rhybudd o brydlesi i sicrhau ei bod yn cynnwys prydles y ceisydd. Nid yw’n ddigon i edrych ar ddisgrifiad y gofrestr eiddo gan y gall hwnnw hefyd fod ar ôl yr oes os yw tir wedi cael ei ddileu o’r teitl.

Efallai y gall cwsmeriaid porthol Cofrestrfa Tir EF gael pob un neu rai o’r rhifau teitl perthnasol trwy gyfrwng disgrifiad yr eiddo neu’r cyfeiriad post, ond nid yw hyn yn rhywbeth yn lle chwiliad swyddogol o’r map mynegai.

3.2 Archwilio cofrestr uwch-deitlau cofrestredig

Gall pawb wneud cais am gopi swyddogol o’r cofnodion yn y gofrestr, y cynllun teitl, ac unrhyw ddogfennau gyda chyfeiriad atynt yn y gofrestr sy’n cael eu cadw gan y cofrestrydd. Caiff y cyfleusterau hyn eu disgrifio yng nghyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol.

3.3 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.

Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

4. Tai: breinio ac ymestyn prydlesi o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967

4.1 Yn gyffredinol

Mae Deddf 1967 yn rhoi hawl i denant tŷ am y ddwy flynedd diwethaf o dan denantiaeth hir am rent isel naill ai i:

  • gaffael y rhydd-ddaliad, ar freinio, neu
  • i gael prydles estynedig o’r tŷ ac eiddo ac adeiladau yn dod i ben 50 mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod presennol i ben – adran 1AA o Ddeddf 1967 (fel y’i newidiwyd)

Mae hawl ychwanegol i freinio o ran tenantiaethau sy’n methu’r prawf rhent isel. Nid yw ‘tŷ’ yn cynnwys fflatiau mewn adeilad a rannwyd yn llorweddol ac mae ‘eiddo ac adeiladau’ yn cynnwys unrhyw fodurdy, tŷ allan, gardd, buarth ac atodion, wedi eu gosod a’u meddiannu, ac yn cael eu defnyddio at ddiben y tŷ (adran 2(1) i (3) o Ddeddf 1967). ‘Tenantiaeth hir’ yw unrhyw denantiaeth a roddwyd yn wreiddiol am gyfnod dros 21 mlynedd boed yn derfynadwy trwy rybudd neu ailfynediad neu beidio (adran 3 o Ddeddf 1967 (fel y’i newidiwyd)).

Rhaid i denantiaid busnes tŷ ateb gofyniad preswylio a dal o dan denantiaeth a roddwyd yn wreiddiol am 35 mlynedd neu fwy.

Erbyn hyn mae gan gynrychiolwyr personol tenant ymadawedig hawliau breinio cyfyngedig.

Mae amodau ac eithriadau pellach yn berthnasol o dan amgylchiadau arbennig.

Hyd yn oed os oedd y brydles wreiddiol yn cynnwys y mwyngloddiau a mwynau ni fyddant yn cael eu cynnwys yn y breinio os yw’r landlord am iddynt gael eu heithrio ac y gwnaed darpariaeth ar gyfer cynnal yr eiddo (adran 2(6) o Ddeddf 1967). Bydd nodyn o unrhyw eithriad yn cael ei gofnodi yn y gofrestr.

Mae amrywiaeth o ddarpariaethau statudol sy’n berthnasol i freinio o dan Ddeddf 1967. Os nad yw’r weithred na’r cais yn cynnwys datganiad eglur, fel yr un isod, bydd y cofrestrydd yn methu ei gydnabod. Mae nifer mawr o geisiadau i gofrestru prynu rifersiynau a phrydlesi newydd yn hollol anghysylltiedig â Deddf 1967. Os yw’r ceisydd am sicrhau bod y cais yn cael ei gwblhau’n gyflym ac yn gywir heb ymholiadau:

  • yn achos trosglwyddiadau, trawsgludiadau neu brydlesi eraill dylai datganiad tebyg i’r canlynol ymddangos yw’n amlwg yn y weithred

“Gwneir y [trosglwyddiad hwn] [trawsgludiad hwn] [brydles hon] o dan ddarpariaethau Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967”

  • yn achos prydles cymalau penodedig, dylai cymal LR5.2 gyfeirio at Ddeddf 1967

Nid yw’r prawf rhent isel o ran yr hawl i ryddfreinio (ond nid yr hawl i ymestyn prydles) yn gymwys i brydlesi hir yn Lloegr a roddir ar neu ar ôl 7 2009 oni bai eu bod yn deillio o gytundeb am brydles a wneir cyn 7 Medi 2009 (adran 300 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 a ddaeth i rym ar 7 Medi 2009).

4.2 Gwarchod hawliadau trwy rybudd

Pan fo tenant wedi rhoi rhybudd o’i ddymuniad i gael y rhydd-ddaliad neu i gael prydles estynedig, mae modd gwarchod y rhybudd hwnnw fel pe bai yn gontract ystad. Os caiff y teitlau rifersiwn o dan sylw eu cofrestru, mae modd gwneud hyn trwy gais am gofnodi rhybudd o dan adran 34 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni all hawl y tenant ffurfio budd sy’n gor-redeg o fewn Atodlenni 1 neu 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Dylid gwneud cais am rybudd a gytunwyd ar ffurflen AN1 ynghyd â chopi ardystiedig o’r rhybudd (fydd yn cael ei ffeilio yng Nghofrestrfa Tir EF). Byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr arwystlon:

“Cofnodwyd rhybudd yn unol ag adran 5(5) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 bod rhybudd dyddiedig ___ wedi cael ei gyflwyno o dan y Ddeddf honno gan ___ o ___

NODYN: Copi yn y ffeil.”

Fel arall, mae modd gwneud cais am rybudd unochrog ar ffurflen UN1.

Os yw rhai o’r teitlau rifersiwn o dan sylw yn ddigofrestredig, mae modd gwarchod y rhybudd gyda chofnod dosbarth C (iv) yn Adran Pridiannau Tir.

4.3 Breinio

Wrth gwblhau caffael y teitl rhydd-ddaliol, dylid gwneud cais yn y ffordd arferol i gofrestru’r trosglwyddiad, os cofrestrwyd y teitl eisoes, neu am gofrestriad cyntaf y tir, os yw’n ddigofrestredig.

Os yw budd y tenant neu unrhyw uwch-fudd prydlesol i gael ei gyd-doddi â’r rhydd-ddaliad, dylid cynnwys cais i gyd-doddi yn y cais, yn ôl y disgrifiad yn Cyd-doddi prydlesi wrth gaffael y rhydd-ddaliad.

Lle bo gweithred arwystl amnewidiol yn trosglwyddo arwystl cyfreithiol ar brydles a gyd-doddwyd i’r rhydd-ddaliad yn cael ei chyflwyno, fel arfer, bydd yr arwystl yn cael ei gofrestru ar gyfer y teitl rhydd-ddaliol. Os yw’r arwystl i gael ei nodi yn unig, cyflwynwch ffurflen AN1 neu ffurflen UN1, yn dibynnu ar os yw’r cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog.

Sylwer: Lle bo dau arwystl neu fwy yn cael eu cofrestru, rhaid i’w blaenoriaethau fod yn amlwg. Mae’r darpariaethau arbennig canlynol yn berthnasol wrth gaffael rhydd-ddaliad y tŷ a byddant yn cael eu hadlewyrchu yn y gofrestr.

4.3.1 Traddodi hawliau a beichiau o dan Ddeddf 1967

Mae adran 10(2) o Ddeddf 1967 yn darparu bod hawliau penodol sy’n effeithio ar y budd prydlesol yn parhau ohonynt eu hunain wrth freinio o blaid ac yn erbyn y rhydd-ddaliad ond heb ragfarn i unrhyw hawliau all gael eu rhoi neu eu neilltuo’n benodol.

Yr hawliau’n traddodi o dan adran 10(2) sy’n effeithiol i’r graddau y gall y landlord eu rhoi’ yw hawliau cynnal, hawliau mynediad i oleuni ac awyr a hawliau mynediad, defnyddio neu gynnal y gwasanaethau cyffredin arferol, megis dŵr, nwy neu danwydd arall trwy bibell, draeniad, trydan, ffôn ac ati.

Caiff cofnodion eu gwneud yn y gofrestr bob amser o ran y tir a drosglwyddwyd, boed y brydles wedi ei chyd-doddi neu beidio.

Yn y gofrestr eiddo:

“Mae gan y tir ___ fudd y fath hawddfreintiau a hawliau ag a roddwyd gan y __ dyddiedig ___ y cyfeiriwyd ato yn y gofrestr arwystlon yn rhinwedd adran 10(2)(i) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967__.”

Neu:

“Mae gan y tir ___ fudd y fath hawddfreintiau a hawliau ag a roddwyd gan y ___ dyddiedig __ y cyfeiriwyd ato uchod yn rhinwedd adran 10(2)(i) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967___.”

Os yw’r trawsgludiad neu drosglwyddiad yn eithrio neu’n cyfyngu’n benodol unrhyw un o’r hawliau perthynol, y byddid fel arall yn tybio iddynt draddodi trwy oblygiad statudol, bydd hyn yn cael ei adlewyrchu ar ddiwedd y cofnod uchod.

Yn y gofrestr arwystlon:

“Mae ar y tir ___ y fath hawddfreintiau a hawliau ag a roddwyd arno gan __ dyddiedig ___ a wnaed rhwng ___ yn rhinwedd adran 10(2)(ii) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967.”

Neu:

“Mae ar y tir ___ y fath hawddfreintiau a hawliau ag a roddwyd arno gan __ dyddiedig _____ y cyfeiriwyd ato uchod yn rhinwedd adran 10(2)(ii) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967.”

Fel arfer, ni fydd cyfeiriad at unrhyw weithred (pa un ai’r brydles neu fel arall) sy’n cynnwys rhoi neu neilltuo hawliau a roddwyd yn rhinwedd adran 10(2) o Ddeddf 1967. Fodd bynnag, os bydd cais penodol yn cael ei wneud, bydd yn cael ei wneud yn naill ai’r gofrestr eiddo neu’r gofrestr arwystlon fel a ganlyn:

Yn y gofrestr eiddo:

“O ran effaith adran 10(2)(i) [neu (ii)] o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 rhoddodd/neilltuodd prydles/trosglwyddiad/gweithred ddyddiedig __ a wnaed rhwng _____ yr hawliau canlynol [neu hawliau draenio, neu’n ôl fel y bo’n digwydd].”

Yn y gofrestr arwystlon:

“O ran effaith adran 10(2)(ii) Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 rhoddodd/neilltuodd prydles/trosglwyddiad/gweithred ddyddiedig __ a wnaed rhwng _____ yr hawliau canlynol [neu hawliau draenio, neu’n ôl fel y bo’n digwydd].”

Os yw’r trawsgludiad neu drosglwyddiad yn eithrio neu’n cyfyngu’n benodol unrhyw un o’r hawliau perthynol, y byddid fel arall yn tybio iddynt draddodi trwy oblygiad statudol, bydd cofnod o’r ddarpariaeth hon yn cael ei wneud yn y gofrestr eiddo.

Os yw’r trawsgludiad neu drosglwyddiad yn cynnwys hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu newydd o dan adran 10(3) a (4) o Ddeddf 1967, bydd cofnodion yn ymwneud â hwy yn cael eu gwneud yn y gofrestr yn unol ag arfer rheolaidd.

Dylai ceiswyr sicrhau naill ai:

  • os yw’r rifersiwn dros yr hwn mae’r hawddfraint yn cael ei roi wedi ei gofrestru yn enw’r landlord ond o dan deitl gwahanol i un y tŷ, bod cais yn cael ei wneud hefyd ar gyfer y teitl caeth
  • lle bo’r tir yn ddigofrestredig bod teitl da yn cael ei ddiddwytho

Lle bo trosglwyddiad o ran o deitl cofrestredig yn cael ei wneud yn unol â Deddf 1967, bydd yr hawliau a grëwyd o dan adran 10(2) yn galw am wneud cofnodion ar deitl y trosglwyddwr yn ogystal.

Lle bo teitl y trosglwyddwr yn cynnwys dim mwy na thri eiddo, bydd cofnodion penodol yn debyg i’r rhai y cyfeiriwyd atynt uchod yn cael eu gwneud, ond lle bo’n cynnwys mwy o eiddo bydd cofnod fel a ganlyn yn cael ei wneud yn y gofrestr eiddo:

“Daeth y fath drosglwyddiadau o’r rhannau gydag ymyl ac wedi eu rhifo mewn gwyrdd ar y cynllun teitl ag a wnaed o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 i rym gyda budd ac yn amodol ar hawddfreintiau a hawliau eraill fel y’u pennir gan adran 10(2) y Ddeddf honno”

4.3.2 Rhyddhau arwystlon ar ystad landlord (cofrestredig neu ddigofrestredig)

Ni fydd anhawster os oes modd rhyddhau neu ollwng, arwystl a gofrestrwyd neu a nodwyd, neu unrhyw forgais ar gyfer teitl y landlord, yn y ffordd arferol pan fo’r tenant yn caffael y rhydd-ddaliad. Fodd bynnag, mae Deddf 1967 yn darparu peirianwaith ychwanegol ar gyfer rhyddhau arwystlon neu forgeisi lle bo angen, all olygu y gall y dystiolaeth neu dderbynneb gonfensiynol fod yn amhriodol. Mae’r paragraffau canlynol yn disgrifio pa dystiolaeth fydd yn cael ei derbyn yn yr achosion hyn.

Gall y tenant sy’n prynu fod wedi talu digon o arian yn uniongyrchol i forgeisai’r landlord er mwyn rhyddhau’r tir o’r morgais (adran 12 o Ddeddf 1967). Os yw’r morgeisai wedi derbyn tâl am y cyfan neu ran ddigonol o’r arian prynu mewn rhyddhad llwyr o’r eiddo o’u morgais, rhaid cyflwyno copi o’r dderbynneb, mewn geiriau felly, gyda’r cais.

Os talwyd yr arian i’r llys o dan adran 13 o Ddeddf 1967, rhaid i’r tenant ddarparu copi o’r affidafid, y byddant wedi ei wneud i’r diben hwnnw, a chopi hefyd o dderbynneb swyddogol y llys.

Gallwn gyflwyno rhybudd ar ôl i’r cais am gofrestriad gael ei gyflwyno. Bydd y rhybudd yn cael ei gyflwyno i’r morgeisai cofrestredig ac unrhyw un arall sy’n ymddangos yn ôl y gofrestr i fod â budd yn y morgais, a bydd yn rhoi manylion:

  • y morgais
  • y ceiswyr a natur y cais
  • y bwriad i gau rhan berthnasol y teitl os yw’r trosglwyddiad o ran
  • sut mae modd gwrthwynebu’r cais

Os na chaiff ateb i’r rhybudd ei dderbyn o fewn yr amser a ganiateir, bydd cofrestru’n cael ei gwblhau’n rhydd o unrhyw gyfeiriad at yr arwystl. Os bydd y morgeisai’n dangos sail ar yr olwg gyntaf i wrthwynebiad wrth ateb y rhybudd (er enghraifft, oherwydd y talwyd rhan annigonol o’r arian prynu i’r llys), gellir cytuno y bydd cofnod y morgais yn aros ar gofrestr teitl y prynwr nes bydd tystiolaeth briodol o ryddhau yn llawn yn cael ei chyflwyno, neu fod y mater yn cael ei derfynu fel arall.

4.3.3 Rhent-dâl ar ystad landlord

Fel arfer, bydd y trosglwyddiad neu drawsgludiad yn dod i rym yn amodol ar unrhyw rent-daliadau cynharach sy’n effeithio ar y teitl. Fodd bynnag, lle bo’r rhent-dâl yn fwy na’r hyn sydd i’w dalu fel rhent o dan y brydles, gall y tenant fynnu bod y landlord yn rhyddhau’r tŷ ac eiddo ac adeiladau o’r rhent-dâl hyd at faint y gormodedd. Lle bo anawsterau’n codi wrth dalu’r pris adbrynu, gwnaed darpariaeth ar gyfer talu i’r llys (adran 11(4) o Ddeddf 1967). Bydd y dystiolaeth sydd arnom ei hangen i ryddhau’r rhent-dâl yn debyg i’r hyn a grybwyllwyd yn Rhyddhau arwystlon ar ystad landlord (cofrestredig neu ddigofrestredig).

Gall y landlord gaffael rhyddhad o’r rhent-dâl oddi wrth berchennog y rhent-dâl. Bydd gofyn cael y dystiolaeth drawsgludo arferol gan gynnwys cyflwyno unrhyw dystysgrifau perthnasol. Fel arall, gallai’r landlord fynnu, yn amodol ar ganiatâd rhesymol y tenant (adran 11(1) o Ddeddf 1967 (fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Rhent-daliadau 1977, adran 17(1); Atodlen 1, paragraff)). Rhaid cyflwyno’r dystiolaeth drawsgludo arferol o ryddhad neu ddosraniad ffurfiol neu anffurfiol.

4.4 Prydlesi estynedig

Oherwydd bod Deddf 1967 yn caniatáu i lesddeiliaid unigol gaffael rhydd-ddaliad eu heiddo, ychydig o geisiadau i gofrestru prydlesi estynedig o dan y Ddeddf honno a dderbyniwyd. Fodd bynnag, gan fod y darpariaethau yn dal ar gael i’w defnyddio ac, o’u defnyddio, yn gallu creu anawsterau i ni, caiff ceisiadau i gofrestru prydlesi o’r fath eu trin yn y paragraffau canlynol.

4.4.1 Cofrestru prydles newydd – gofynion Cofrestrfa Tir EF

Wrth gwblhau caffael prydles newydd a roddwyd yn lle prydles gyfredol yn unol ag adran 14 o Ddeddf 1967, dylech wneud cais i gofrestru’r brydles. Os bydd angen, dylech gyflwyno cais hefyd i roi effaith yn y gofrestr i ildio tybiedig y brydles gyfredol, fydd wedi digwydd trwy weithredu’r gyfraith.

Mae Atodiad 2: ceisiadau i gofrestru prydlesi estynedig yn egluro gofynion Cofrestrfa Tir EF mewn cysylltiad â’r ceisiadau hyn.

4.4.2 Cofnodion yn y gofrestr

Pan fo’n briodol, bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud ar y teitl newydd:

“’Mae’r fath hawliau ar y tir ag a all fod yn bodoli o blaid y rhai sydd â budd o dan Arwystl dyddiedig ___ ac a wnaed rhwng ___ y budd prydlesol o dan Brydles ddyddiedig __ y rhoddwyd y brydles gofrestredig yn ei lle, yn unol â Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967”

Os nad oes modd gwneud y math o gofnod a ddisgrifiwyd uchod (er enghraifft, oherwydd bod y brydles wreiddiol yn ddigofrestredig ac na chyflwynwyd tystiolaeth o unrhyw forgeisi’n effeithio arni), bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud:

“’Mae’r fath hawliau ar y tir ag a all fod yn bodoli o blaid y rhai sydd â budd o dan unrhyw arwystl o’r budd prydlesol o dan Brydles ddyddiedig _____ y rhoddwyd y brydles gofrestredig yn ei lle, yn unol â Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967.”

4.5 Isbrydlesi

Mae darpariaethau dyrys yn Atodlen 1 i Ddeddf 1967 i benderfynu pa brydleswr sydd i weithredu fel rifersiynydd ar ran yr holl brydleswyr lle bo isbrydlesi.

Mae’n bwysig sylwi nad yw’r isbrydlesai o angenrheidrwydd yn gorfod cyflwyno’r rhybudd o dan adran 5 o Ddeddf 1967 ar bawb sydd â budd (gweler paragraff 8 Atodlen 3 i Ddeddf 1967).

4.6 Amrywiol

4.6.1 Nid oes angen caniatâd y Comisiynwyr Elusennau

Lle bo teitl y landlord yn cael ei ddal gan elusen yna ni fydd unrhyw gyfyngiad yn y gofrestr ar ffurf E i Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn effeithio ar y trosglwyddiad neu brydles. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw warediad o dir cofrestredig neu ddigofrestredig gynnwys y datganiad priodol a lle bo’r brydles yn brydles cymalau penodedig, rhaid cynnwys y datganiad yng nghymal LR5.1.

4.6.2 Hawliau datblygu yn y dyfodol a rhagbrynu

Wrth freinio neu ymestyn prydles, gall landlordiaid arbennig, gan gynnwys awdurdodau lleol a’r Comisiwn dros y Trefi Newydd, fynnu bod y tenant:

  • yn cyfamodi i atal y tenant rhag datblygu neu glirio’r tir rhag ofn y bydd y prydleswr ei angen ar gyfer datblygu yn y dyfodol
  • yn cyfamodi na fyddant yn rhoi tenantiaeth o’r eiddo heb ganiatâd y landlord ac na fyddant yn ei werthu heb ei gynnig i’r landlord yn gyntaf

Byddwn yn gwneud cofnod priodol yn y gofrestr os yw trawsgludiad, trosglwyddiad, neu brydles estynedig yn cynnwys cyfamodau fel hyn (paragraff 1(3) Atodlen 4 i Ddeddf 1967 fel y’i newidiwyd).

5. Fflatiau: breinio ac ymestyn prydlesi fflatiau o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

5.1 Yn gyffredinol

Mae Rhan I o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn rhoi i denantiaid cymwys fflatiau naill ai:

  • hawl gyfunol i brynu rhydd-ddaliad yr adeilad (breinio cyfunol) os yw’r fflatiau mewn adeilad sy’n bodloni rhai amodau
  • hawl unigol i brydles newydd yn dod i ben 90 mlynedd ar ôl terfyniad prydles gyfredol

Nid oes modd arfer y naill na’r llall o’r hawliau hyn pan fo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchennog unrhyw fudd neu pan fo’r fflat o fewn libart eglwys gadeiriol. Caiff libart ei ddiffinio o dan Fesur Gofalu am Eglwysi Cadeiriol 1990 trwy gyfeirio at y cynlluniau sydd yn nwylo Comisiwn Adeiledd Eglwysi Cadeiriol Lloegr. Lle nad yw’r Goron yn landlord uniongyrchol ond yn landlord uwch yna, mewn rhai achosion, bydd hawl i brydles newydd (adran 94 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

5.2 Hawl tenantiaid i freinio cyfunol

5.2.1 Yn gyffredinol

Dyma hawl tenantiaid i gaffael rhydd-ddaliad eu hadeilad boed y landlord eisiau gwerthu neu beidio.

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn pennu fframwaith ar gyfer cyd-drafod gyda’r bwriad o gael contract i werthu yn y ffordd arferol. Nid yw Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rhoi hawddfreintiau statudol, yn wahanol i Ddeddf 1967 a ddisgrifiwyd yn Tai: Breinio ac ymestyn prydlesi o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967. Yn lle hynny, dywed Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 fod yn rhaid i’r partïon gynnwys unrhyw hawddfreintiau angenrheidiol, fel hawliau cynnal, yn y trawsgludiad neu drosglwyddiad, fel bod y partïon yn gorfod penderfynu beth sydd ei angen yn eu sefyllfa arbennig.

Wrth gaffael y rhydd-ddaliad bydd unrhyw brydles ryngol rhwng prydlesi’r tenantiaid a’r rhydd-ddaliad yn cael ei chaffael hefyd. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os oes gan y tenantiaid gwmni rheoli fflatiau eisoes yn dal prydles ryngol, y bydd y brydles honno yn cael ei chaffael o dan adran 2(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Ni fyddai’n ymddangos fod unrhyw fodd osgoi hyn gan fod adran 2(1)(a) a (2) yn ymddangos yn orfodol O dan yr amgylchiadau hyn dylai’r tenantiaid efallai ystyried peidio â defnyddio’r drefn yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993.

Lle bo tenantiaid yn caffael yr eiddo ac adeiladau oddi allan i’r ddeddfwriaeth, trwy gyd-drafod annibynnol, nid yw darpariaethau Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn berthnasol.

Felly, mae’n ofyniad bod y trawsgludiad neu drosglwyddiad yn gorfod cynnwys datganiad fel a ganlyn lle caiff trefn Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ei defnyddio:

“Caiff y trawsgludiad [neu drosglwyddiad] hwn ei gyflawni at ddibenion Pennod I Rhan I o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993” (adran 34(10), o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a rheol 196 o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Mae Pennod I Rhan I o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn rhoi hawl i denantiaid cymwys fflatiau gael rhywun a benodwyd ganddynt at y diben i gaffael rhydd-ddaliad yr eiddo ac adeiladau, sy’n cynnwys y fflatiau, ar eu rhan.

Caiff rhywun a benodwyd felly ei alw yn brynwr enwebedig (adran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

Mae rhywun yn denant cymwys os ydynt yn denant o dan brydles hir am gyfnod dros 21 mlynedd.

5.2.2 Gwarchod hawliau tenantiaid – rhybuddion

Mae’r trefnau sydd i’w defnyddio gan denantiaid cymwys i fynnu eu hawliau cyfunol i gaffael y rhydd-ddaliad oddi allan i gwmpas y cyfarwyddyd hwn ac eithrio’r gofyniad ar gyfer llofnodi o dan adran 99(5)(a) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Gweler Rhybuddion ar gyfer y drefn i warchod rhybudd o hawliad i arfer hawliau o’r fath.

5.2.3 Cwblhau caffaeliad

Wedi i bawb gytuno ar bopeth, neu iddo gael ei ddatrys fel arall, bydd contract ymrwymol yn cael ei gytuno ar gyfer caffael y rhydd-ddaliad a buddion prydlesol uwch gan y prynwr enwebedig gyda’r rifersiynydd (adran 34(2) a pharagraff 6(1)(b)(ii) Atodlen 1 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Gall gwybod pwy yn union yw’r rifersiynydd fod yn gymhleth, yn arbennig lle mae teitlau prydlesol rhyngol.

Yna bydd y caffaeliad yn cael ei gwblhau trwy drawsgludiad neu drosglwyddiad o’r rhydd-ddaliad i’r prynwr enwebedig, yn amodol yn unig ar unrhyw lyffetheiriau all fod wedi cael eu cytuno neu eu pennu. Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu ar gyfer y math o faterion y dylid eu cynnwys mewn unrhyw werthiant, heb fod yn gyfarwyddol o ran eu hunion gynnwys. Lle bo’r prynu yn cynnwys caffael budd prydlesol uwch, bydd angen diddwytho teitl, os nad yw wedi ei gofrestru, i holl fuddion caffaeledig, fel hefyd y bydd teitl i dir y bydd unrhyw un yn rhoi hawddfreintiau drosto o blaid y tir a gafwyd gan y prynwr enwebedig. Lle bo’r buddion prydlesol neu rydd-ddaliol, neu unrhyw dir cyfagos y mae hawddfreintiau’n cael eu rhoi drosto, wedi eu cofrestru, mae angen cais ar gyfer y teitlau priodol.

Os yw’r rhydd-ddeiliad yn rhoi hawddfreintiau a’r tir y maent yn cael eu rhoi drosto yn cael ei ddal ar brydles gan lesddeiliad, sydd â rhan o’i fudd hefyd yn cael ei gwerthu i’r prynwr enwebedig, er mwyn i’r hawddfreintiau fod yn effeithiol ar gyfer y lesddeiliad hwnnw bydd y lesddeiliad yn gorfod bod yn rhan o roi’r hawddfreintiau rhydd-ddaliol fel eu bod yn gyfrwymol arno yn ystod cyfnod y brydles. Bydd hyn yn cynnwys gwneud cofnod ar deitl y lesddeiliad fel y bydd perchenogion dilynol yn cael rhybudd o’r hawliau.

Mae’r trawsgludiad neu drosglwyddiad yn effeithiol o ran gorgyrraedd unrhyw lyffetheiriau y gellir eu gorgyrraedd (adran 34(3) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993), sy’n golygu’r rhan fwyaf o lyffetheiriau fyddai wedi eu gorgyrraedd ar werthiant hyd braich. Y prif eithriad yw rhai rhent-daliadau sy’n cael eu trafod isod. Caiff morgeisi ar y rhydd-ddaliad neu deitlau rhyngol eu trafod yn ddiweddarach hefyd.

Fel arfer, y rhydd-ddeiliad fydd yn cyflawni’r trosglwyddiad neu drawsgludiad a bydd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn ei ddynodi fel yr rifersiynydd. Lle bo teitlau prydlesol rhyngol bydd yr rifersiynydd yn gweithredu ar ran y landlordiaid eraill yn y trosglwyddiad neu drawsgludiad ac yn cyflawni’r weithred ar eu rhan, er y dylent gael eu disgrifio fel partïon yn y weithred at ddiben y gwerthiant ac unrhyw gydsynio i roi hawddfreintiau neu hawliau eraill (paragraff 6(1)(iii) Atodlen 1 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Fodd bynnag, gall y landlordiaid eraill eithrio o’r drefn hon a gallant drosglwyddo neu gyflawni’r budd eu hunain, fel yn wir y gall y prynwr enwebedig (paragraff 7 Atodlen 1 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

Lle bo teitl prydlesol rhyngol yn ddigofrestredig, byddai’n ddoeth i nodyn o unrhyw drosglwyddiad o ran neu o roi hawddfraint gael ei ardystio ar y brydles.

Bydd y cofrestrydd yn cymryd yn ganiataol, lle bo landlord rhyngol yn cael ei ddisgrifio fel parti yn y trosglwyddiad, na ddigwyddodd unrhyw eithrio. Fodd bynnag, os yw’r trosglwyddiad yn ddistaw, bydd ymholiad yn cael ei wneud a fydd yn gofyn am drosglwyddiad, trawsgludiad neu neilltuad o’r budd rhyngol ar wahân.

Lle bo’r rifersiynydd, sef y sawl sy’n gwneud y trosglwyddiad i’r prynwr enwebedig, yn cael ei enwi ar y teitl fel perchennog cofrestredig y rhydd-ddaliad neu’n cael ei ddangos fel bod â’r ystad gyfreithiol mewn ffi syml absoliwt mewn teitl digofrestredig ni fydd angen rhagor o dystiolaeth o bŵer y rifersiynydd i drawsgludo’r adeilad. Fodd bynnag, pan fo’r llys wedi penodi unrhyw un arall fel rifersiynydd, bydd gofyn cael copi ardystiedig o’r gorchymyn llys. Bydd rhywun a benodwyd felly yn gweithredu fel pe baent yn rifersiynydd rhydd-ddaliol (Atodlen 1, Rhan I i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

5.2.4 Cofrestru prynwr enwebedig

Gall y prynwr enwebedig fod yn unrhyw un neu rai (gan gynnwys cwmni) a benodwyd gan y tenantiaid cyfrannog. Er bod Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn galw’r prynwr yn ‘enwebai’ gall beidio bod, mewn gwirionedd, yn enwebai yn ôl y gyfraith. Os caiff cwmni neu gorfforaeth arall ei ddefnyddio fel cyfrwng i brynu’r tir mae’n edrych yn debygol mai’r cwmni fydd â hawl lesiannol gyda’r tenantiaid cymwys yn arfer eu hawliau trwy eu cyfranddaliad. Pa un ai yw’r prynwr enwebedig yn wir enwebai, neu efallai’n rhyw fath arall o ymddiriedolwr neu beidio, dylai cais am gyfyngiad addas fod gyda’r cais i gofrestru’r prynwr enwebedig.

Sylwer: Ni fydd y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad oni bai bod cais priodol am un neu fod Deddf Cofrestru Tir 2002 neu Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn ei fynnu fel arall.

Ym mron pob achos, bydd prydlesi’r tenantiaid presennol yn llyffetheiriau ar y gwerthiant. Rhaid cyflwyno gwrthrannau’r prydlesi hyn, ac unrhyw ôl-brydlesu newydd, gyda’r cais os na chawsant eu nodi eisoes fel llyffetheiriau yng nghofrestr arwystlon y teitl yr effeithir arno gan y gwerthiant.

Yn amodol ar y materion gaiff eu crybwyll yn yr adran hon, dylid gwneud y cais yn y ffordd arferol ar ffurflen AP1 neu ffurflen FR1 yn dibynnu ar os yw teitl y rifersiynydd yn gofrestredig neu ddigofrestredig. Dylid delio â chyd-doddiad prydles ryngol gyda’r rhydd-ddaliad yn unol ag Atodiad 1 – Cyd-doddi prydlesi wrth gaffael y rhydd-ddaliad.

5.2.5 Hawlrwym gwerthwr heb ei dalu

Gall hawlrwym gwerthwr godi ar y trosglwyddiad i’r prynwr enwebedig, lle bo arian heb ei dalu yn unrhyw rai o’r categorïau canlynol (adran 32(2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993):

  • y pris taladwy
  • symiau dyledus oddi wrth denantiaid (nid yn unig y rhai sy’n cyfranogi yn y prynu) o ran eu prydlesi neu o dan neu o ran cytundebau cyfochrog iddynt
  • unrhyw swm sy’n daladwy i’r gwerthwr yn rhinwedd adran 18(2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (lle gostyngwyd y prisiad oherwydd methiant y prynwr enwebedig i ddadlennu bodolaeth cytundeb neu gyfranddaliad perthnasol)
  • unrhyw gostau sy’n daladwy gan y prynwr enwebedig (adran 33 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993)

Nid oes modd cofrestru’r hawlrwym yn safonol, ond gall fod yn destun cais i warchod trwy rybudd yn y gofrestr. Fodd bynnag, gan nad yw’r hawlrwym yn codi ohono’i hun, ond yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos penodol, ni fyddwn yn gwneud dim heblaw pan fyddwn yn derbyn cais penodol i nodi’r hawlrwym.

5.2.6 Rhyddhau morgeisi ar ystad y landlord (ac ystad unrhyw lesddeiliad sy’n cael ei chaffael) ar drosglwyddo i’r prynwr enwebedig (cofrestredig neu ddigofrestredig)

Mae’n well rhyddhau, diddymu neu dderbynebu unrhyw arwystl a gofrestrwyd neu a nodwyd neu unrhyw forgais ar gyfer teitl y landlord neu unrhyw deitl prydlesai rhyngol yn y ffordd arferol pan fydd y tenant yn caffael y rhydd-ddaliad. Mae hyn oherwydd na fydd yn eglur fyth, ar waethaf darpariaethau adran 35 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 y cyfeirir atynt isod, fod ei darpariaethau’n berthnasol, oni bai y talwyd yr arian i’r llys, oherwydd effaith cyfyngu difrifol paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (Dyletswydd prynwr enwebedig i adbrynu morgeisi).

Oni bai bod ffurflen DS1, ffurflen DS3, Rhyddhad Electronig, Hysbysiad Rhyddhau Electronig cais, i ddiddymu rhybudd, neu dystiolaeth o dalu i’r llys, yn cael ei gyflwyno gyda’r cais bydd y cofrestrydd naill ai’n gofyn am ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd neu’n cyflwyno rhybudd, lle bo modd, i bwy bynnag sydd â budd y morgais neu arwystl.

Mae’r canlynol yn disgrifio pa dystiolaeth fydd yn foddhaol at ein dibenion a pha gamau a gymrwn.

O dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 effaith y trosglwyddiad neu drawsgludiad yw rhyddhau’r holl dir caffaeledig, gan gynnwys unrhyw fudd prydlesol rhyngol, o unrhyw arwystl arno (adran 35(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993) heb i’r morgeisai neu arwystlai orfod cyflawni’r trosglwyddiad neu drawsgludiad na dod yn rhan o’r trawsgludiad. Fodd bynnag, gall y partïon gytuno y bydd morgais ar y tir. Os byddant yn bwriadu i hyn ddigwydd yna dylai’r trosglwyddiad neu drawsgludiad wneud hyn yn hollol glir, neu fe all yr arwystlon gael eu diddymu.

Gall y prynwr enwebedig fod wedi talu digon o arian yn uniongyrchol i arwystlai’r landlord er mwyn rhyddhau’r tir o’r arwystl. Os yw’r arwystlai wedi derbyn taliad am y cyfan, neu ran ddigonol o’r arian prynu, i ryddhau’r eiddo’n llwyr o’r arwystl, rhaid cyflwyno copi o’r dderbynneb gyda’r cais.

Os talwyd yr arian i’r llys o dan adran 35 ac Atodlen 8 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, rhaid i’r prynwr ddarparu copi o’r affidafid neu ddatganiad o wirionedd y bydd wedi ei wneud i’r diben hwnnw, a chopi o dderbynneb swyddogol y llys hefyd. Gallwn gyflwyno rhybudd o’r cais i’r arwystlai cofrestredig ac unrhyw un arall sy’n ymddangos i fod â budd yn yr arwystl yn ôl y gofrestr.

Bydd yn rhoi manylion:

  • yr arwystl
  • y ceiswyr a natur y cais
  • y bwriad i gau rhan berthnasol y teitl lle mae’n drosglwyddiad o ran
  • sut i wneud unrhyw wrthwynebiad i’r cais

Os na ddaw ateb i’r rhybudd o fewn yr amser a ganiateir, cwblheir cofrestru yn rhydd o unrhyw gyfeiriad at yr arwystl.

Os yw’r arwystlai yn dangos sail i’w wrthwynebiad ar yr olwg gyntaf wrth ymateb i’r rhybudd, er enghraifft, oherwydd y talwyd rhan annigonol o’r arian prynu i’r llys, gall fod cytundeb y bydd cofnod yr arwystl yn aros ar gofrestr teitl y prynwr nes caiff tystiolaeth briodol o ryddhad llawn ei chyflwyno neu y caiff y mater ei derfynu fel arall.

5.2.7 Rhent-dâl ar ystad landlord

Fel arfer, bydd y trosglwyddiad neu drawsgludiad yn dod i rym yn amodol ar unrhyw rent-dâl cynharach sy’n effeithio ar y teitl (adran 34(6) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Gall y landlord gaffael rhyddhad o’r rhent-dâl oddi wrth berchennog y rhent-dâl. Bydd gofyn cael y dystiolaeth drawsgludo arferol.

Fel arall, gall y landlord fynnu, yn amodol ar ganiatâd rhesymol y tenant (adran 34(8) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993), bod y rhent-dâl i’w arwystlo’n unig ar dir arall fel ag i ryddhau’r tir a drawsgludwyd neu, fel arall, ei fod yn cael ei ddosrannu. Rhaid cyflwyno tystiolaeth drawsgludo arferol rhyddhau neu ddosrannu ffurfiol neu anffurfiol.

5.2.8 Ôl-brydlesu i’r rhydd-ddeiliad blaenorol

Wrth gaffael y rhydd-ddaliad yn yr adeilad cyfan mae angen i’r prynwr enwebedig o dan rai amgylchiadau roi prydlesi’n ôl i rydd-ddeiliad blaenorol yr unedau neu fflatiau hynny yn yr adeilad nas prydleswyd gan y tenantiaid cymwys ac nad ydynt yn eu caffael. Bydd prydlesi o’r fath am gyfnodau o 999 mlynedd am rent hedyn pupur (adran 36 ac Atodlen 9 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

Rhaid gwneud y cais i gofrestru prydles o’r fath ar ffurflen AP1 neu ffurflen FR1 yn dibynnu ar os yw teitl y rifersiynydd wedi ei chofrestru. Ar ben hynny, bydd y sefyllfa o ran statws y brydles yn wahanol yn dibynnu a gofrestrwyd y rhydd-ddaliad eisoes neu beidio.

Rhydd-ddaliad cofrestredig

Bydd y brydles newydd yn warediad o dir cofrestredig ac, felly, bydd yn dod i rym mewn ecwiti nes caiff ei chofrestru’n unig. Byddai’n ymddangos bod y darpar brydlesai yn brynwr o fewn ystyr rheol 131 o Reolau Cofrestru Tir 2003 er mwyn gallu gwneud chwiliad gwarchod. Gan fod Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu bod y prynwr enwebedig yn gorfod rhoi’r brydles yn ôl, mae’r trafodiad yn un lle bydd gan unrhyw forgeisai o’r rhydd-ddaliad ar y pryd hawl i brydles newydd. Bydd chwiliad swyddogol yn diogelu’r flaenoriaeth y mae gan y darpar brydlesai hawl iddi.

Dylai’r prydlesai hefyd wneud natur y trafodiad yn glir mewn llythyr gyda’r cais am gofrestriad. Mae hyn oherwydd y gall y cais i gofrestru’r brydles gael ei wneud cyn un y rhydd-ddaliad am nad oes gan y prydlesai unrhyw reolaeth dros amseriad y cais i gofrestru gwaredu’r rhydd-ddaliad. Yna bydd yn ymddangos bod y rhydd-ddeiliad yn ceisio rhoi prydles i’w hunain, sy’n amhosibl, a byddem yn gwrthod y cais. Lle bo’r ‘camamseru’ hwn yn digwydd, byddwn yn dal y cais prydlesol, ond pan dderbyniwn y cais i drosglwyddo’r rhydd-ddaliad, bydd yn cael ei gofnodi ar y rhestr ddydd o geisiadau sy’n aros i’w prosesu ac yna bydd y cais prydlesol yn cael ei gofnodi eto ar y rhestr ddydd ar ôl y trosglwyddiad fel bod y blaenoriaethau’n gywir.

Tir digofrestredig

Lle bo’r rhydd-ddaliad yn ddigofrestredig, bydd yn amodol ar gofrestriad cyntaf a bydd y brydles newydd yn dod i rym fel ystad gyfreithiol boed y prynwr yn gwneud y cais am gofrestriad cyn cyflwyno’r cais am brydles newydd neu beidio. Eto, byddai’n ddefnyddiol pe bai llythyr cysylltiedig yn dangos yr amgylchiadau. Pan gaiff y cais rhydd-ddaliol ei gyflwyno dylai’r cais ddadlennu bodolaeth yr ôl brydlesu a dylid cyflwyno’r wrthran gyda’r cais.

Bydd gofyn cael tystiolaeth drawsgludo arferol y teitl rhydd-ddaliol, gan gynnwys y chwiliadau Pridiannau Tir priodol.

5.2.9 Gorchmynion breinio

Mae Pennod I Rhan I o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn rhoi per i’r llys wneud gorchmynion breinio:

  • lle bo’r anghydfod ynghylch telerau caffaeliad
  • lle nad oes cytundeb ar gontract (adran 24 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993)
  • lle bo’r rifersiynydd yn methu rhoi gwrthrybudd (adran 25 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993) neu nad oes modd dod o hyd iddo neu wybod pwy yw (adran 26 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993)

O ran gwarchod gorchmynion o’r fath gweler Gorchmynion breinio a wnaed o dan adrannau 26(1) neu 50(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (lle nad oes modd dod o hyd i neu wybod pwy yw’r landlord perthnasol) a Gorchmynion a wnaed o dan adrannau 24, 25, 48 neu 49 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (lle mae anghydfod).

5.2.10 Amrywio prydlesi fflatiau

Nid oes dim yn y drefn freinio gyfunol yn effeithio ar hyd prydlesi’r tenantiaid. Lle bo’r tenantiaid am fanteisio ar eu rhyddid newydd i ‘ymestyn’ eu prydlesi gallant wneud hynny trwy gytundeb, neu efallai trwy arfer hawliau o dan Bennod II Rhan I o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Fodd bynnag, dylent fod yn effro i’r maglau sydd yn y gyfraith yn y maes hwn a nodi gofynion Cofrestrfa Tir EF mewn cysylltiad ag ymestyn prydlesi’n wirfoddol yn ôl cyfarwyddyd ymarfer 28: ymestyn prydlesi.

5.3 Hawl tenant i gaffael prydles newydd

Mae Pennod II Rhan I o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn rhoi hawl unigol i denant cymwys fflat am y ddwy flynedd diwethaf gaffael prydles newydd ar y fflat o dalu premiwm sydd wedi’i bennu’n unol â fformiwla statudol. Mae rhywun yn denant cymwys os yw (yn amodol ar eithriadau arbennig) yn denant fflat o dan brydles hir (adran 39(3) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Caiff yr hawl ei hatal os yw’r tenantiaid yn ceisio prynu’r rhydd-ddaliad ar y cyd.

O ganlyniad i’r penderfyniad yn Cadogan & Ors v 26 Cadogan Square Ltd, Howard de Walden Estates Ltd v Aggio & Ors [2008] UKHL 44, mae hawl gan brif brydles, o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, i brydles estynedig fflat unigol sy’n cynnwys rhan o’r tir a brydleswyd gan y brif brydles. Dylid darllen a dehongli’r cyfarwyddyd hwn yn unol â hynny.

Os yw tenant cymwys yn trosglwyddo ei brydles bresennol ar ôl cyflwyno rhybudd o’i hawliad i brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, gall aseinio hefyd i fudd y rhybudd hwnnw. Pan fo hyn yn digwydd, bydd hawl gan y trosglwyddai i gymryd rhoi’r brydles newydd yn lle’r tenant cymwys, os aseiniwyd budd y rhybudd ar yr un pryd â throsglwyddiad y brydles bresennol, boed yn y trosglwyddiad neu mewn dogfen ar wahân.

5.3.1 Dull gweithredu ar hawliad tenant i brydles newydd

Mae’r trefnau ar gyfer mynnu hawl tenant cymwys i brydles newydd y tu hwnt i gwmpas y cyfarwyddyd hwn ac eithrio’r gofyniad ar gyfer llofnodi o dan adran 99(5)(a) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Mae’r drefn ar gyfer gwarchod rhybudd o hawliad i arfer hawl o’r fath yn cael ei thrafod yn Rhybuddion.

5.3.2 Telerau’r brydles newydd

Bydd y brydles newydd, ddaw yn effeithiol yn lle’r brydles gyfredol, am gyfnod sy’n dod i ben 90 mlynedd ar ôl dyddiad cyfnod y brydles gyfredol am rent hedyn pupur (adran 56(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Mae’r brydles newydd i fod ar yr un telerau â’r brydles gyfredol ond gyda’r fath newidiadau ag y bydd gofyn amdanynt neu a fydd yn briodol (adran 57 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

Er mai’r hawl yw hawl i gael prydles newydd ar y tir a brydleswyd i’r tenant, o dan y brydles gyfredol, mae’n amlwg bod modd amrywio’r maint a’r hawliau a roddir (adran 57(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Felly, bydd archwiliad gofalus iawn o feintiau unrhyw fflatiau presennol ac o delerau hawddfreintiau yn ofynnol i sicrhau bod pŵer gan y landlord i roi’r brydles newydd. Mae’n eithaf tebygol na fydd rhai prydlesi newydd o’r un maint gan fod trefniadau anffurfiol rhwng tenantiaid dros gyfnod hir yn ‘amrywio’ telerau eu prydlesi’n ymarferol. Gall hyn achosi problemau ar adeg rhoi prydlesi newydd, er enghraifft cyfnewid llefydd parcio ceir, llefydd biniau a chyfleusterau cyffredin eraill. Bydd angen i landlordiaid sicrhau bod y maint a roddir a thelerau’r brydles newydd (gan gynnwys unrhyw hawddfreintiau) yn cyd-fynd ag unrhyw brydlesi eraill sy’n bodoli.

5.3.3 Datganiad i’w gynnwys mewn prydles newydd

Rhaid i’r brydles gynnwys datganiad fel a ganlyn:

“’Rhoddir y brydles hon o dan adran 56 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993.’ (adran 57(11) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a rheol 196 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Lle bo’r brydles yn brydles cymalau penodedig rhaid mewnosod y datganiad hwn yng nghymal LR5.1 neu gyfeirio at y cymal, paragraff neu atodlen yn y brydles sy’n cynnwys y datganiad hwn yn llawn.

Os nad yw’r brydles yn cynnwys datganiad o’r fath bydd y cofrestrydd yn cymryd yn ganiataol nad yw wedi ei gwneud yn unol â Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Er nad oes unrhyw ffurf benodedig o ddatganiad lle bo’r brydles yn cael ei rhoi o dan adran 93(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (prydlesi a roddir ar delerau cymeradwy i’r llys) byddai’n ddefnyddiol pe byddai yn cynnwys datganiad o’r fath oherwydd y canlyniadau sy’n deillio o’r adran honno fel y crybwyllir yn y paragraffau canlynol. O dan yr amgylchiadau hynny dylid cyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn llys o dan yr adran honno hefyd.

5.3.4 Teitlau rifersiwn

Os nad oes gan landlord uniongyrchol y tenant cymwys fudd digonol (hynny yw, nid ef yw’r rhydd-ddeiliad ac nid oes ganddo fudd prydlesol o hyd digonol i roi prydles newydd) bydd y brydles newydd yn cael ei rhoi gan y landlord agosaf sydd â budd digonol, a nhw fydd y ‘landlord cymwys’ at ddibenion Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (adran 40(1) a (2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Mae modd cofrestru teitl y landlord rhyngol ond bydd teitl y landlord cymwys yn ddigofrestredig.

Mae’n bwysig canfod y landlord cymwys yn gynnar er mwyn penderfynu pa dystiolaeth o’i deitl i roi’r brydles sydd ei hangen (gweler Atodiad 2 – Ceisiadau i gofrestru prydlesi estynedig).

Mae hyn yn peri rhai problemau o ran prydles ryngol bresennol.

Teitl y landlord cymwys

Bydd y brydles newydd yn warediad gan y landlord cymwys. Os yw teitl y landlord cymwys wedi ei gofrestru, bydd y nodyn canlynol yn cael ei wneud yn yr atodlen rhybudd o brydlesi:

“NODYN: Gwnaed y brydles yn ôl darpariaethau adran 56 neu 93(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993.”

Os yw prydles sy’n cynnwys y fflat yn cael ei nodi ar deitl y landlord cymwys yna bydd cofnod ychwanegol yn cael ei wneud ar ei chyfer yn debyg i’r canlynol:

“Ystyriwyd bod y brydles ddyddiedig ___ i _____ [y cyfeiriwyd ati uchod] wedi cael ei hildio a’i hailroddi yn dilyn rhoi prydles neu brydlesi o dan adran 56 neu 93(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 gyda’r effaith y darparwyd ar ei chyfer gan baragraff 10 Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.”

Bydd angen i geiswyr a’u cynghorwyr ystyried pa dystiolaeth a memoranda trawsgludo, os oes rhai, y dylid eu hardystio ar neu eu gosod gyda’r gweithredoedd.

Teitl(au) prydlesol rhyngol

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer y sefyllfa lle mae prydlesi rhyngol (adran 40(3) ac Atodlen 11 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993.

Mae gan brydleswr rhyngol fudd rifersiwn heb ddigon o flynyddoedd ar ôl i roi prydles newydd. Fe all fod mwy nag un prydleswr rhyngol. Dim ond yn y landlord cymwys mae’r hawl i roi’r brydles newydd yn breinio ond mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu bod unrhyw brydles ryngol yn cael ei hystyried i fod wedi ei hildio a’i hailroddi. Mae hon yn ddyfais i sicrhau bod cywirdeb prydlesi rhyngol yr adeilad cyfan ac unrhyw drefniadau tâl am wasanaeth sydd ynddynt yn cael eu cadw. Daeth y cofrestrydd i’r casgliad nad effaith y ddarpariaeth hon yw peri ildio ac ailroddi mewn gwirionedd fyddai’n gofyn bod prydleseion rhyngol yn gwneud cais i gau eu teitl a chais i’w gofrestru eto. Mae’r prydleswr rhyngol yn rhwym o dan delerau’r brydles newydd am iddi gael ei rhoi yn unol â phŵer statudol. Dylid cyflwyno rhybudd bod y brydles newydd wedi ei chofrestru i unrhyw brydleswr rhyngol cofrestredig.

Caiff nodyn yn debyg i’r canlynol ei wneud yn y gofrestr eiddo:

“Ystyriwyd bod y brydles gofrestredig wedi cael ei hildio a’i hailroddi yn dilyn rhoi prydles neu brydlesi o dan adran 56 neu 93(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 gyda’r effaith a nodwyd ym mharagraff 10 Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.”

Bydd unrhyw brydles a roddir yn ôl y darpariaethau hyn yn cael ei nodi yn yr atodlen rhybudd o brydlesi a chaiff nodyn yn debyg i’r canlynol ei wneud ar gyfer y cofnod:

“NODYN: Rhoddwyd y brydles hon yn ôl darpariaethau adran 56 neu 93(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ac mae darpariaethau paragraff 10 Atodlen 11 i’r Ddeddf honno yn berthnasol.”

Yr unig amgylchiad lle nad yw’r darpariaethau hyn o ran prydlesi rhyngol yn berthnasol yw lle bo prydles ryngol ym meddiant y tenant neu’n cael ei dal ar ymddiried iddynt (paragraff 10(3) Atodlen 11 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Yn yr achos hwn bydd angen i gais y tenant wneud hyn yn glir a chynnwys cais i gau unrhyw deitl cofrestredig (efallai ran ohono) yr effeithir arno, gan mai effaith rhoi’r brydles newydd yw peri ildio’r brydles ryngol ar unwaith.

5.3.5 Cofrestru prydles newydd – gofynion Cofrestrfa Tir EF

Pan fo prydles newydd yn cael ei chaffael yn lle prydles gyfredol, yn unol ag adran 56 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, dylech wneud cais i gofrestru’r brydles. Os bydd angen, dylech gyflwyno cais hefyd i roi grym i ildio tybiedig y brydles gyfredol, fydd wedi digwydd trwy weithredu’r gyfraith. Mae Atodiad 2 – Ceisiadau i gofrestru prydlesi estynedig yn egluro ein gofynion mewn cysylltiad â’r ceisiadau hyn.

5.3.6 Cofnodion yn y gofrestr

Bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud yn y gofrestr eiddo yn union ar ôl y cofnod sy’n ymwneud â’r brydles gofrestredig:

“Rhoddwyd y brydles gofrestredig yn ôl darpariaethau adran 56 neu 93(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993.”

Y rheswm am y cofnod hwn yw, o dan adran 56 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, os yw’r perchennog cofrestredig yn rhoi prydles hir newydd allan o’r teitl, ni all yr is-denant hawlio prydles newydd oddi wrth y landlord cymwys o dan y ddeddf honno.

Lle bydd arwystl yn cael ei ddwyn ymlaen o’r ystad brydlesol a ildiwyd, dyddiad ei gofrestru fydd un y cais i gofrestru’r brydles newydd. Bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud wrth gofrestru neu ailgofrestru’r arwystl.

“NODYN: Roedd yr arwystl hwn, [sy’n] effeithiol ar gyfer y teitl hwn yn ôl darpariaethau adran 58(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, [wedi ei gofrestru gynt ar gyfer rhif(au) teitl _____ ]”

Os yw’r arwystl ond yn cael ei nodi, bydd cofnod tebyg:

“NODYN: Roedd yr arwystl hwn, [sy’n] effeithiol ar gyfer y teitl hwn yn ôl darpariaethau adran 58(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, [wedi ei nodi gynt ar gyfer rhif(au) teitl __ ]”

Oni bai iddynt gael eu gohirio, bydd gan holl arwystlon a chofnodion eraill a ddygwyd ymlaen yr un flaenoriaeth ag a oedd ganddynt ar yr hen deitl – gweler adran 58A o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, a fewnosodwyd gan Ddeddf Tai 1996.

5.3.7 Meddu prydles a thystysgrif lle’r oedd morgeisai’n dal gweithredoedd prydles a ildiwyd

Lle bo prydles newydd yn dod i rym, yn amodol ar forgais a bod gan y morgeisai bryd hynny hawl i feddu dogfennau teitl yn ymwneud â’r brydles a ildiwyd, daw hawl i’r morgeisai yn yr un modd i feddu dogfennau teitl yn ymwneud â’r brydles newydd. Yn y fath achos, mae’r tenant wedi ei gyfrwymo i gyflenwi’r brydles newydd i’r morgeisai cyn pen mis wedi’r dyddiad y caiff ei derbyn o Gofrestrfa Tir EF yn dilyn ei chofrestru.

5.3.8 Gorchmynion breinio

Gall y llys wneud gorchmynion breinio lle bo anghydfod ynghylch telerau caffaeliad neu nad oes modd cael prydles (adran 48, –) neu lle bo’r rifersiynydd yn methu rhoi gwrthrybudd (adran 49 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993) neu nad oes modd dod o hyd iddo na gwybod pwy yw (adran 50 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). O ran gwarchod gorchmynion o’r fath, gweler Gorchmynion breinio a wnaed o dan adran 26(1) neu 50(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a Gorchmynion a wnaed o dan adrannau 24, 25, 48 neu 49 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (lle mae anghydfod).

5.4 Rhybuddion

5.4.1 Rhybudd o hawliad i arfer hawl breinio cyfunol neu hawl i brydles newydd

Mae cyfnod hir cyd-drafodaethau all ddigwydd yn aml o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn ei gwneud yn werthfawr iawn i warchod hawliau’r partïon yn y gofrestr. Y rheol gyffredinol yw y bydd cofrestru gan y tenantiaid neu denant ar gyfer teitl y rhydd-ddeiliad neu, yn achos tenant yn hawlio prydles newydd, ar gyfer y landlord cymwys, sy’n gallu bod y rhydd-ddeiliad neu beidio. Fodd bynnag, gall fod yn werth cofrestru hefyd ar gyfer pobl eraill yn ogystal, ac mae’r adran hon yn ystyried pryd y gellid gwneud hyn.

Nid yw unrhyw hawl tenant sy’n deillio o rybudd a gyflwynwyd o dan adran 13 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhybudd o gais i arfer hawl breinio cyfunol gan denantiaid cymwys fflatiau) neu adran 42 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(rhybudd o gais i arfer yr hawl i brydles newydd gan denant cymwys fflat) (‘rhybudd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993’) yn fudd gyda statws gor-redol o fewn ystyr Deddf Cofrestru Tir 2002 ond mae modd ei warchod yn y gofrestr trwy rybudd fel pe bai’n gontract ystad (adran 97(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993).

Os bydd cais yn cael ei wneud i gofnodi rhybudd a gytunwyd o dan reol 81 o Reolau Cofrestru Tir 2003, fel arfer, dylai’r dystiolaeth ategol gynnwys copi ardystiedig o’r rhybudd (fydd yn cael ei ffeilio).

Mae’n bwysig bod y gofynion llofnodi yn adran 99(5)(a) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn cael eu dilyn. Mae gofynion gwahanol mewn grym rhwng 13 Mai 2014 ac 1 Rhagfyr 2014 ar gyfer Cymru a Lloegr o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Newidiad) 2014 (a ddiddymwyd ar 1 Rhagfyr 2014).

Lle y mae’r eiddo yn Lloegr, rhaid i rybudd a roddir cyn 13 Mai 2014 gael ei lofnodi’n bersonol gan bob tenant, neu (yn ôl fel y digwydd) gan y tenant sy’n ei roi. Ar neu ar ôl y dyddiad hwn, nid yw tenantiaid yn cael eu cynnwys yn y gofyniad hwn a gall rhywun arall arwyddo’r rhybudd ar eu rhan.

Lle y mae’r eiddo yng Nghymru, rhaid i rybudd a roddir cyn 1 Rhagfyr 2014 gael ei lofnodi’n bersonol gan bob tenant bob tro, neu, yn ôl fel y digwydd, gan y tenant sy’n ei roi. Ar, ac ar ôl y dyddiad hwn, mae tenantiaid wedi eu heithrio o’r gofyniad hwn, felly gall rhywun arall arwyddo’r rhybudd ar eu rhan.

Bydd y cofnod yn y gofrestr arwystlon fel a ganlyn:

“Rhybudd a gofnodwyd yn unol ag adran 97(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 bod rhybudd dyddiedig __ wedi ei gyflwyno o dan adran 13 [neu 42] y Ddeddf honno gan ____ o __.

NODYN: Copi yn y ffeil.”

Os yw’r cais am rybudd unochrog, bydd angen i’r datganiad neu dystysgrif y trawsgludwr a roddir yn ffurflen UN1 ddatgan bod rhybudd wedi ei gyflwyno gan neu ar ran y buddiolwr i’r perchennog cofrestredig (y dylid ei enwi) yn unol ag adrannau 13 neu 42 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ar ddyddiad a enwyd.

5.4.2 Gorchmynion breinio a wnaed o dan adrannau 26(1) neu 50(1) o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (lle nad oes modd dod o hyd i na gwybod pwy yw’r landlord perthnasol)

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i orchymyn o’r fath gan ei fod yn berthnasol i orchymyn sy’n effeithio ar dir a wnaed gan y llys i orfodi dyfarniad (adran 97(2)(a) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Felly, gallwch wneud cais am y fath orchymyn neu wneud cais i’r llys i warchod gorchymyn o’r fath trwy rybudd. Ystyrir bod budd digonol gan rywun sydd wedi gwneud cais am orchymyn o’r fath ac sy’n gwneud cais am gyfyngiad ar Ffurf N i Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 a rhywun sydd wedi cael gorchymyn ac sy’n gwneud cais am gyfyngiad ar Ffurf L neu N i wneud cais am y cyfyngiad (rheolau 93(q) ac (o) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn eu tro).

5.4.3 Gorchmynion a wnaed o dan adrannau 24, 25, 48 neu 49 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (lle mae anghydfod)

Nid oes unrhyw ddarpariaethau pendant yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn ymwneud â gwarchod gorchymyn o’r fath neu gais i’r llys am orchymyn o’r fath. Fodd bynnag, o ystyried ei natur, mae modd gwarchod gorchymyn o’r fath neu gais i’r llys am orchymyn o’r fath trwy rybudd.

5.4.4 Gwarchod rhag pobl heblaw’r rhydd-ddeiliad neu landlord cymwys

Breinio cyfunol

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu na all y rhydd-ddeiliad, ar ôl cyflwyno a chofrestru unrhyw rybudd dechreuol, ‘wneud unrhyw warediad sy’n torri ei fudd yn yr eiddo ac adeiladau neu’ mewn unrhyw eiddo a bennir yn y rhybudd na rhoi rhai prydlesi. Yn yr un modd, ni all unrhyw brydlesai rhyngol roi rhai prydlesi, er bod modd gwerthu neu forgeisio’r budd prydlesol ei hun (adran 19(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Mae unrhyw grant neu waredu sy’n mynd yn groes i adran 19(1) yn ddi-rym.

Lle bo’r cofrestrydd yn ansicr os yw gwarediad yn cael ei ddal gan y darpariaethau hyn neu beidio, bydd yn gofyn i’r cyfreithwyr roi tystysgrif i’r rhydd-ddeiliad neu’r prydlesai canolradd (yn ôl fel y digwydd) nad yw’r trafodiad yn un y mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn berthnasol iddo. Mae hyn yn cynnwys unrhyw warediad gan forgeisai o dan unrhyw bŵer gwerthu. Am y rhesymau hyn, mae’r cofrestrydd yn ystyried y dylai’r prynwr enwebedig wneud cais ar gyfer holl deitlau y mae’r rhybudd yn effeithio arnynt, nid yn unig un y rifersiynydd. Lle nad yw unrhyw fudd wedi ei gofrestru, dylid cofrestru pridiant tir.

Prydlesi fflatiau unigol newydd

Mae rhybudd tenant yn cyfyngu’n ddifrifol ar hawl y landlord a landlord cymwys i derfynu prydles y tenant (Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Gan y byddai’n ymddangos yn annerbyniol i brynwr oddi wrth brydlesai rhyngol beidio gwybod am sefyllfa’r tenant, dylai tenant o’r fath ystyried gwarchod y rhybudd ar deitl unrhyw landlord rhyngol, neu yn Adran Pridiannau Tir.

Yn gyffredinol

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn gwneud cryn ddarpariaeth ar gyfer cyflwyno rhybuddion neu wrthrybuddion. Mae’n ymddangos na fyddai’r rhan fwyaf o’r rhain yn achosion tir arfaethedig. Fodd bynnag, lle mae ceisiadau penodol i’r llys neu i dribiwnlys, byddai’n ymddangos y gallent fod, er enghraifft cais i’r llys i drechu hawliad tenant ar sail ailddatblygiad o dan adran 47(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Yn yr achosion hynny, dylai rifersiynwyr, landlordiaid rhyngol a thenantiaid ystyried yn ofalus ar gyfer pwy y dylid gwneud cofrestriad.

5.4.5 Diddymu’n gyffredinol

Dylid gwneud cais am ddiddymiad naill ai ar ffurflen CN1 neu ffurflen UN4 a chais i ddileu rhybudd unochrog ar ffurflen UN2. Yn unol ag ymarfer arferol Cofrestrfa Tir EF, ni fydd unrhyw ddiddymu rhybuddion yn digwydd ohono’i hun lle bo cais yn cael ei dderbyn i gofrestru trosglwyddiad o’r rhydd-ddaliad neu brydles newydd. Lle gwarchodwyd y rhybudd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 trwy rybuddiad, dylid cyflwyno diddymiad ar ffurflen WCT.

5.4.6 Cais diweddarach i gofrestru gwarediad lle gwarchodwyd rhybudd a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn y gofrestr

Rhaid i unrhyw gais i gofrestru gwarediad gynnwys tystysgrif nad yw’r gwarediad yn un sy’n cynnwys gwarediad neu roi prydles o fewn adran 19(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. (Mae’r gofyniad hwn hefyd yn berthnasol i drosglwyddiad gan forgeisai wrth arfer ei bŵer gwerthu.) Nid yw o bwys a ddyddiwyd y gwarediad cyn neu ar ôl y rhybudd yn y gofrestr.

Unwaith y byddwch wedi darparu’r dystysgrif hon, yna byddwn yn rhoi rhybudd o’ch cais i fuddiolwr y rhybudd unochrog neu’r ceisydd am y rhybudd a gytunwyd. Os na dderbyniwn unrhyw wrthwynebiad i’r rhybudd, byddwn yn cwblhau’r cofrestriad, ond ni fyddwn yn diddymu cofnod y rhybudd adran 13 yn y gofrestr.

5.4.7 Cais diweddarach am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog lle gwarchodwyd rhybudd a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn y gofrestr

Yn gyffredinol, byddwn yn anwybyddu rhybudd adran 13 lle bo’r cais diweddarach yn un i gofnodi rhybudd unochrog neu rybudd a gytunwyd. Yr eithriad i’r rheol gyffredinol hon yw lle bu’n rhaid i ni argyhoeddi ein hunain o ddilysrwydd cais yr ymgeisydd o dan adran 34(3)(c) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Yn yr achos hwnnw, lle mae’n ymddangos y gall y cais fod yn un i gofrestru rhybudd sy’n gwarchod budd yn deillio o dan warediad o fewn adran 19(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, byddwn angen tystysgrif ac yn rhoi rhybudd fel y cyfeiriwyd ato yn Cais diweddarach i gofrestru gwarediad lle gwarchodwyd rhybudd a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn y gofrestr.

6. Fflatiau: hawliau tenantiaid fflatiau o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1987

6.1 Yn gyffredinol

Mae Deddf Landlord a Thenant 1987 yn rhoi hawliau penodol i denantiaid fflatiau yn erbyn eu landlord sy’n dal i fodoli ochr yn ochr â darpariaethau mwy cyffredinol Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993. Mewn rhai achosion, fel y crybwyllir yn Rhybuddion, gall fod angen gwneud cofnod yn y gofrestr er mwyn yr hawliau os yw’r teitl i’r brydles neu i’r rifersiwn wedi ei gofrestru. Fel y crybwyllir yn Amrywio prydlesi mae modd amrywio telerau’r brydles hefyd.

6.2 Rhybuddion

6.2.1 Hawl tenant i gynnig cyntaf i brynu’r rifersiwn

Rhaid i landlord adeilad yn cynnwys fflatiau beidio â gwared na chontractio i waredu budd yn yr eiddo ac adeiladau hynny oni bai eu bod wedi cyflwyno rhybudd o’u bwriad i’r tenantiaid yn rhoi hawl cynnig cyntaf iddynt ar y cyd (adrannau 1(1), 4A a 5(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987).

Mae diffiniadau manwl o beth yw ystyr y landlord, gwarediad, yr eiddo ac adeiladau a thenant cymwys, ac mae trefnau penodedig sydd raid eu dilyn o adeg cyflwyno’r rhybudd dechreuol i’r adeg pan fydd y landlord yn gwared eu budd i’r tenantiaid neu y daw’n rhydd i’w wared fel arall.

Caiff ei ddatgan yn eglur hefyd mewn cysylltiad â’r trefnau hyn bod unrhyw gyfeiriad at gynnig yn gyfeiriad at gynnig a wneir yn amodol ar gontract, a bod unrhyw gyfeiriad at dderbyn cynnig yn gyfeiriad at ei dderbyn yn amodol ar gontract (adran 20(2) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987). O dan yr amgylchiadau hynny, nid oes modd gwarchod unrhyw fudd yn y gofrestr. Fodd bynnag, unwaith y bydd contract wedi ei gytuno, gall y tenantiaid warchod eu budd trwy wneud cais i gofnodi rhybudd ar deitl y landlord neu gofnod yn Adran Pridiannau Tir yn y ffordd arferol.

Lle bo landlord wedi gwaredu budd yn yr eiddo ac adeiladau yn groes i hawl tenantiaid i gynnig cyntaf, mae gan y tenantiaid hawliau ychwanegol, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, hawl i gymryd budd y contract, hawl i orfodi’r prynwr i werthu iddynt neu, yn achos ildio, hawl i brydles newydd21. Nid yw’r rhybudd ei hun trwy’r hwn yr arferir yr hawl yn rhoi budd y bydd modd ei warchod yn y gofrestr ond, pan fydd contract ymrwymol wedi ei gytuno yn unol â rhybudd prynu, mae modd gwarchod budd y tenantiaid trwy rybudd yn y ffordd arferol.

6.2.2 Penodi rheolwyr (yr adeilad fflatiau)

Gall tenant adeilad yn cynnwys fflatiau wneud cais i’r llys benodi rheolwr os yw’r landlord wedi methu rheoli’r eiddo ac adeiladau yn unol â’i ymrwymiadau neu os yw’r taliadau am wasanaeth yn afresymol (adran 21 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987). Yna gall y llys, os gwêl yn dda, orchymyn penodi rheolwr i weithredu mewn cysylltiad â rheoli neu weithredu fel derbynnydd. Bydd unrhyw orchymyn o’r fath yn gofrestradwy fel gorchymyn yn penodi derbynnydd neu secwestrydd tir (adran 24(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987; adran 87(2)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yn achos tir cofrestredig mae hyn yn gofyn am warchod trwy gofrestru cyfyngiad. Trosglwyddwyd yr awdurdodaeth hon i dribiwnlysoedd prisio prydlesol: adran 86 o Ddeddf Tai 1996. O ran tribiwnlysoedd prisio lesddaliadau gweler adran 52A o Ddeddf Landlord a Thenant 1987.

6.2.3 Caffaeliad gorfodol o fudd eu landlord gan denantiaid

Lle bo landlord adeilad yn cynnwys fflatiau wedi torri eu hymrwymiadau i’w tenantiaid o ran cynnal neu reoli’r eiddo ac adeiladau, gall y llys, ar gais y tenantiaid, wneud gorchymyn caffael (adrannau 25, 28 a 29 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987). Os yw’n penderfynu gwneud gorchymyn, bydd y llys yn darparu bod rhywun i’w enwebu gan y tenantiaid yn cael hawl i gaffael budd y landlord yn yr eiddo ac adeiladau ar y fath delerau ag a gaiff eu cytuno neu, o fethu cytuno, ar y fath delerau ag y bydd y tribiwnlys priodol yn eu pennu (adrannau 30 a 31 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987).

Mae cais am orchymyn caffael yn gofrestradwy fel achos tir arfaethedig oherwydd, yn achos tir cofrestredig, bod modd ei warchod trwy rybudd. Pan fydd gorchymyn caffael wedi cael ei wneud, bydd yn gofrestradwy fel gorchymyn yn effeithio ar dir a wnaed gan y llys at ddiben gorfodi dyfarniad ac, yn achos tir cofrestredig, mae modd ei warchod hefyd trwy gofnodi rhybudd. Ystyrir bod budd digonol gan rywun sydd wedi gwneud cais am orchymyn o’r fath ac sy’n gwneud cais am gyfyngiad ar Ffurf N i Atodlen 4 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a rhywun sydd wedi cael gorchymyn ac sy’n gwneud cais am gyfyngiad ar Ffurf L neu N i wneud cais am y cyfyngiad (rheolau 93(o) ac (n) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn eu tro).

6.3 Cofrestru yn dilyn gorchymyn caffael

Mae’r adran hon yn trafod ceisiadau am gofrestriad cyntaf tir digofrestredig yn dilyn gorchymyn caffael a wnaed o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1987, a cheisiadau i gofrestru enwebai’r tenantiaid lle bo gorchymyn caffael yn cael ei wneud o ran tir a gofrestrwyd eisoes.

6.3.1 Cofrestriad cyntaf

Dylech wneud y cais yn y ffordd arferol ar ffurflen FR1. Lle na fu unrhyw drosglwyddiad dylai’r canlynol fod gyda’r cais:

  • copi swyddogol o’r gorchymyn llys, wedi ei stampio’n briodol
  • cadarnhad o’r taliad i’r llys
  • unrhyw dystiolaeth o deitl y landlord blaenorol sydd ar gael

Os nad oes tystiolaeth ddogfennol o’r teitl ar gael, mae rhyddid i chi wneud cais am deitl meddiannol, gyda chefnogaeth datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd) gan rywun sydd â’r wybodaeth angenrheidiol o’r ffeithiau – fel arfer cyfarwyddwr neu ysgrifennydd neu gyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig y cwmni sy’n gwneud y cais. Gan na fyddant efallai yn ymwybodol o anghydfodau rhwng y landlord blaenorol a thrydydd partïon, efallai na fyddant ond yn gallu siarad am y cyfnod y bu’r ceisydd yn dal tir.

6.3.2 Cofrestru enwebai fel perchennog

Dylech wneud y cais yn y ffordd arferol ar ffurflen AP1. Lle na fu unrhyw drosglwyddiad dylai fod copi swyddogol o’r gorchymyn llys, wedi ei stampio’n briodol, a chadarnhad o’r taliad i’r llys fod gyda’r cais.

Bydd rhybudd o’r cais yn cael ei gyflwyno i’r perchennog cofrestredig ac unrhyw bobl eraill sy’n ymddangos o’r gofrestr i fod â budd yn y teitl. Os na chaiff unrhyw wrthwynebiad ei dderbyn bydd y cofrestriad yn cael ei gwblhau, o dan rif teitl newydd os bydd angen.

6.4 Amrywio prydlesi

Gall unrhyw barti i brydles hir ar fflat wneud cais i’r llys am orchymyn yn amrywio’r brydles ar sail bod y brydles yn methu darparu’n foddhaol o ran atgyweirio, cynnal a chadw, darparu gwasanaethau, yswiriant, adennill treuliau neu gyfrif taliadau am wasanaeth (adran 35 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987). Yna gall y llys wneud gorchymyn priodol fydd yn gyfrwymol ar y partïon i’r brydles ac unrhyw bobl eraill o dan sylw (adrannau 38 a 39 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987).

Bydd cofnodi’r gorchymyn amrywio yng nghofrestri’r teitlau yr effeithir arnynt yn cael ei drin yn yr un modd â gweithred amrywio, heblaw nad oes modd gwneud cais am rybudd unochrog i warchod gorchymyn llys o dan adrannau 39 a 39 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (rheol 80(d) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

7. Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 a’r hawl i reoli

Daeth Rhan 2, Pennod 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 i rym ar 30 Medi 2003. Mae’n darparu i swyddogaethau rheoli’r landlord (a thrydydd partïon penodol) gael eu harfer trwy gwmni hawl i reoli yn lle’r landlord. Mae cwmni hawl i reoli yn gwmni arbennig sydd wedi’i gyfyngu trwy warant ac y mae ei aelodaeth wedi’i gyfyngu i denantiaid cymwys. Fel rheol tenant o dan brydles hir yw tenant cymwys.

Mae Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn cynnwys gweithdrefnau manwl y mae’n rhaid i’r cwmni hawl i reoli gydymffurfio â hwy cyn y gall gaffael statws cwmni hawl i reoli. Daw’r hawl i rym o’r dyddiad caffael, fel y nodir yn adran 90 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

Mae adran 98 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn darparu y gall y cwmni hawl i reoli (lle y mae wedi caffael statws cwmni hawl i reoli) gymryd swyddogaethau’r landlord mewn perthynas â chymeradwyaethau o dan y prydlesi, gan gynnwys caniatâd sy’n ofynnol o dan gyfyngiad yn y gofrestr. Mewn achos o arallu, newidiadau strwythurol a defnydd, rhaid i’r cwmni hawl i reoli roi 30 diwrnod o rybudd i’r landlord cyn y gall roi cymeradwyaeth. Ym mhob achos arall rhaid iddo roi 14 diwrnod o rybudd. Yn ystod y cyfnod rhybudd hwnnw, mae gan y landlord gyfle i wrthwynebu (gweler adran 99 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002). Mae’n bosibl arfer holl gyfamodau tenant heblaw’r rhai sy’n ymwneud ag ailfynediad neu fforffedu gan y cwmni hawl i reoli (gweler adran 100 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002).

Newidiwyd Deddf Cofrestru Tir 1925 o ganlyniad i adran 104 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 er mwyn galluogi i rybuddion gael eu cofnodi a rhybuddiadau gael eu cyflwyno mewn perthynas â chwmni hawl i reoli. Gan fod hyn yn awgrymu nad oes gan y cwmni hawl i reoli hawl gwrthwynebus sy’n effeithio ar deitl y landlord i’r ystad, rydym o’r farn nad yw ceisiadau i warchod cwmni hawl i reoli trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog (yn achos ystad gofrestredig), neu gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf (yn achos ystad ddigofrestredig), ar ffurflen AN1, ffurflen UN1 neu ffurflen CT1 o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (nad yw wedi’i newid yn yr un modd gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002) yn briodol.

Fodd bynnag, mae rheol 79A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn caniatáu i gais gael ei wneud ar ffurflen AP1 i gofnod gael ei wneud yn y gofrestr perchnogaeth i gofnodi caffaeliad statws cwmni hawl i reoli gan gwmni hawl i reoli. Rhaid cynnwys tystiolaeth i fodloni’r cofrestrydd gyda chais o’r fath:

  • fod y ceisydd yn gwmni hawl i reoli
  • bod yr hawl i reoli mewn perthynas â’r eiddo sydd wedi’i gynnwys yn yr ystad gofrestredig
  • mai perchennog cofrestredig yr ystad gofrestredig yw’r landlord o dan brydles yr holl neu ran o’r ystad gofrestredig
  • bod yr hawl i reoli’r eiddo wedi’i gaffael a’i fod yn aros yn arferadwy gan y cwmni hawl i reoli

Gellir cyflwyno tystiolaeth o’r fath trwy dystysgrif a roddir gan drawsgludwr neu’r cwmni Hawl i Reoli.

Nid yw’r cofnod yn gwarantu y caffaelwyd statws cwmni hawl i reoli na’i fod yn aros yn arferadwy os y’i caffaelwyd, ond mae’n amlygu i’r sawl sy’n cynnig delio â’r landlord bod cwmni hawl i reoli sy’n hawlio iddo gaffael statws cwmni hawl i reoli mewn perthynas â’r eiddo o dan sylw.

7.1 Cyfyngiad yn y gofrestr lle y mae cwmni hawl i reoli’n caffael yr hawl i reoli

Efallai y bydd angen caniatâd landlord neu gwmni rheoli neu dystysgrif ganddynt ar gyfyngiad ar deitl i ystad brydlesol. Mae adran 98(7) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn datgan y canlynol: “an approval required to be obtained by virtue of a restriction entered on the register of title kept by the Chief Land Registrar is, so far as relating to a long lease of the whole or any part of the premises, to be treated for the purposes of this Chapter as an approval under the lease”.

Lle y mae’r hawl i reoli wedi ei chaffael gan gwmni hawl i reoli, rhaid i’r cwmni hawl i reoli roi’r caniatâd neu dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad, lle y mae hwn yn ofynnol o ran swyddogaethau rheoli’r landlord.

Yn ychwanegol at y caniatâd neu dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad, dylid anfon tystysgrif ar wahân gan drawsgludwr neu’r cwmni Hawl i Reoli gyda’r gwarediad am gofrestriad sy’n cael ei ddal gan y cyfyngiad, yn cadarnhau’r canlynol:

  • y rhoddwyd y rhybudd sy’n ofynnol gan adran 98 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 gan Y [y cwmni hawl i reoli sy’n rhoi’r caniatâd neu dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad] mewn perthynas â’r [caniatâd neu dystysgrif, fel sy’n briodol] sy’n ofynnol o dan delerau’r cyfyngiad a bod y cyfnod rhybudd gofynnol wedi mynd heibio heb i wrthwynebiad gael ei wneud

Lle na wnaed cofnod o dan reol 79A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cofnodi caffaeliad yr hawl i reoli gan y cwmni hawl i reoli sy’n rhoi’r caniatâd neu dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad, rhaid i’r dystysgrif gadarnhau’r canlynol hefyd:

  • bod X [yr unigolyn a enwir yn y cyfyngiad] yn landlord [neu nodwch arall] o dan y brydles ddyddiedig [rhowch fanylion] a wnaed rhwng [rhowch fanylion]
  • bod y cyfyngiad yn gwarchod swyddogaethau rheoli’r [landlord [neu nodwch eraill] o dan y brydles ddyddiedig [nodwch fanylion] a wnaed rhwng [nodwch fanylion]
  • bod Y [y cwmni hawl i reoli sy’n rhoi’r caniatâd neu dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad] yn gwmni hawl i reoli, ac wedi caffael yr hawl i reoli o ran swyddogaethau rheoli X [landlord] o dan y brydles
  • y rhoddwyd y rhybudd sy’n ofynnol gan adran 98 o Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 gan Y [y cwmni hawl i reoli sy’n rhoi’r caniatâd neu dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad] mewn perthynas â’r [caniatâd neu dystysgrif, fel sy’n briodol] sy’n ofynnol o dan delerau’r cyfyngiad a bod y cyfnod rhybudd angenrheidiol wedi mynd heibio heb dderbyn gwrthwynebiad

8. Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022

8.1 Yn gyffredinol

Daeth Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 i rym ar 30 Mehefin 2022 (ac eithrio ar gyfer prydlesi eiddo ymddeol penodol lle mae’r ddeddf yn berthnasol iddynt o Ebrill 2023).

Mae’n cyfyngu’r rhent tir sy’n daladwy ar y rhan fwyaf o brydlesi preswyl hir newydd i un hedyn pupur y flwyddyn (ar ôl i’r brydles flaenorol ddod i ben yn achos amnewid prydles cyn-gychwyn). Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 hefyd yn gwahardd taliadau gweinyddol mewn perthynas â rhenti hedyn pupur.

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 hefyd yn rhoi gweithdrefn statudol ar waith, a thrwyddi gall tenant neu landlord wneud cais i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf (yn Lloegr) neu’r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (yng Nghymru) wneud datganiad ynghylch effaith y ddeddf ar delerau prydles. Gall y Tribiwnlys gyfarwyddo’r landlord i wneud cais i Gofrestrfa Tir EF gofnodi’r datganiad yn y teitl cofrestredig, a gall y tenant wneud cais o’r fath beth bynnag.

8.2 Prydlesi a reoleiddir gan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 yn berthnasol i ‘brydlesi rheoleiddiedig’ (adran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 sy’n brydlesi sy’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn:

  • mae naill ai’n

    • brydles a roddir am gyfnod hirach na 21 mlynedd
    • brydles sy’n adnewyddadwy’n barhaus
    • brydles sy’n dod i rym o dan adran 149(6) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (sy’n ymwneud â phrydlesi penodol y gellir eu terfynu ar farwolaeth neu briodas/partneriaeth sifil)

o annedd sengl (a all fod yn dŷ neu’n fflat)

  • yn cael ei rhoi am bremiwm neu ar ffurf ildiad tybiedig (ddim yn ddatganedig) ac ail-roi prydles flaenorol
  • yn cael ei rhoi ar neu ar ôl i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 ddod i rym (oni bai y caiff ei rhoi yn unol â chontract blaenorol), ac
  • nid yw’n brydles wedi ei heithrio gan adran 2 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022

8.3 Cofrestru prydles sy’n cynnwys rhent tir sy’n torri Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022

Nid yw prydles sy’n torri Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 yn ddi-rym a rhaid gwneud cais o hyd o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 27(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

8.4 Cofnodi datganiad Tribiwnlys yn y gofrestr

Gall tenantiaid a landlordiaid wneud cais i’r Tribiwnlys am ddatganiad ynghylch effaith Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 ar delerau prydles (adran 15 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022). Nid yw datganiad o’r fath yn amrywiad ar y brydles, gan mai’r cwbl a wneir gan y Tribiwnlys yw datgan yr hyn y tybir i’r brydles ei dweud trwy Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 o’r cychwyn.

Gellir gwneud cais i newid y gofrestr i gofnodi’r datganiad a rhaid ei wneud ar ffurflen AP1, wedi ei chefnogi gan gopi ardystiedig o’r datganiad. Fel rheol, byddwn yn ffeilio copi o’r datganiad ac yn gwneud cofnodion priodol yn y gofrestr i gyfeirio ato. Ni fyddwn fel rheol yn ffeilio copi diwygiedig ar wahân o’r brydles ei hunan, nac yn gwneud unrhyw newidiadau i’r copi ffeil sy’n bodoli.

Mae ffi sefydlog yn daladwy o dan Atodlen 3, Rhan 1(13) o’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol – gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffioedd Gwasanaethau Cofrestru.

8.5 Canllawiau pellach

Mae canllawiau pellach ar gael i lesddeiliaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli.

Mae canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau gorfodi ar gael hefyd.

9. Atodiad 1: cyd-doddi prydlesi wrth gaffael y rhydd-ddaliad

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

Pan fo rhywun â hawl, yn yr un modd, i’r lesddaliad ac unrhyw uwch lesddaliad a’r teitlau rhydd-ddaliol i eiddo, bydd y teitlau prydlesol yn cael eu cyd-doddi os bydd y perchennog cofrestredig neu ei ymarferydd yn gwneud cais i gyd-doddi a chaiff unrhyw gofnodion ar y teitl(au) israddol fyddai’n atal cyd-doddi yn cael eu diddymu neu eu dileu.

Mae peirianwaith y cais yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos, yn ôl yr esboniad isod. Os na allwch gyflwyno’r brydles am unrhyw reswm (er enghraifft lle nad yw’r brydles ym meddiant y prydlesai oherwydd ei bod yn effeithio ar dir arall hefyd) dylid anfon llythyr byr yn rhoi’r rheswm dros beidio ei chyflwyno.

9.1 Cyd-doddi prydlesi cofrestredig

Pan gofrestrwyd y teitl rhydd-ddaliol eisoes, mae modd gwneud y cais i gau’r teitl(au) prydlesol ym mhanel 4 ffurflen AP1, ddylai gyfeirio at rifau teitl y teitlau sydd i’w cau.

Pan fo’r teitl rhydd-ddaliol yn destun cais am gofrestriad cyntaf, dylid gwneud y cais i gyd-doddi ym mhanel 5 ffurflen FR1 ac, yn ogystal, dylech gyflwyno ffurflen AP1 i gau’r teitl(au) prydlesol. Dylai’r brydles fod gyda’r cais. Nid oes modd cau’r teitl prydlesol cofrestredig nes bydd yr holl gofnodion yn y gofrestr wedi cael eu trin yn foddhaol.

Fel arfer, rhaid tynnu unrhyw gyfyngiad yn y gofrestr yn ôl trwy gyfrwng ffurflen RX4 wedi ei llofnodi gan y cyfyngwr neu ei drawsgludwr, oni bai bod cyfyngiad cyfatebol i’w gofnodi ar gyfer y teitl rhydd-ddaliol.

Bydd cyfyngiad o blaid arwystlai yn cael ei ddiddymu ohono’i hun pan gaiff y teitl ei gau (a’i gofnodi eto ar y teitl newydd os yw’r arwystl i gael ei gofrestru ar ei gyfer).

Bydd cyfyngiad Ffurf A ar warediadau gan unig berchennog yn cael ei ddiddymu hefyd ohono’i hun wrth gau’r teitl.

Gall gwaharddiad yn deillio o waharddeb neu orchymyn llesteirio atal cau’r teitl, neu gall cyfyngiad gael ei gofnodi ar y teitl rhydd-ddaliol, yn dibynnu ar delerau’r gorchymyn llys y seiliwyd y cofnod arno. Mae modd ei ddiddymu trwy gyflwyno copi swyddogol o’r gorchymyn llys sy’n rhoi pen ar y gorchymyn gwreiddiol.

Dylid gwneud cais i ddiddymiad neu ddileu unrhyw rybudd ar ffurflen CN1, ffurflen UN4 neu ffurflen UN2 fel y bo’n briodol.

Mae tystiolaeth i gefnogi ceisiadau arbennig wedi ei rhestru isod.

Pan fo arwystl cofrestredig yn ymddangos ar y teitl rhaid cyflwyno rhyddhad o’r arwystl, neu weithred arwystl amnewidiol.

Lle bo arwystl a nodwyd yn ymddangos ar y teitl rhaid ei gyflwyno gyda derbynneb ardystiedig neu dystiolaeth arall o ryddhau, neu weithred arwystl amnewidiol.

Fel arfer, bydd rhybudd credydwr ar y teitl prydlesol yn cael ei gofnodi ar y teitl rhydd-ddaliol. Os nad oes ei angen mwyach, mae modd diddymu’r rhybudd o wneud cais ynghyd â chopi swyddogol o’r gorchymyn llys yn gwrthod neu’n tynnu’r ddeiseb mewn methdaliad yn ôl neu’n dadwneud neu’n dirymu’r gorchymyn methdaliad dilynol.

Mae modd diddymu gwaharddiad methdaliad a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925, neu gyfyngiad a gofrestrwyd o dan adran 86 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, wrth gyflwyno copi swyddogol o’r gorchymyn llys a barodd ddadwneud neu ddirymu’r gorchymyn methdaliad.

Gall gwaharddiad yn deillio o waharddeb neu orchymyn llesteirio atal cau’r teitl, neu mae modd cofnodi cyfyngiad ar y teitl rhydd-ddaliol, yn dibynnu ar delerau’r gorchymyn llys y seiliwyd y cofnod arno. Mae modd ei ddiddymu o gyflwyno copi swyddogol o’r gorchymyn llys sy’n rhoi pen ar y gorchymyn gwreiddiol.

Mae modd tynnu rhybudd hawliau cartrefi (priodasol) nad yw mwyach yn effeithio ar y teitl yn ôl trwy gyfrwng cais ar ffurflen HR4. Os na chaiff ei dynnu’n ôl na’i ddiddymu, bydd y rhybudd yn cael ei ddwyn ymlaen i’r teitl rhydd-ddaliol.

Mae modd diddymu rhybudd o orchymyn mynediad o dan Ddeddf Mynediad at Dir Cyfagos 1992 o gyflwyno’r dystiolaeth briodol ac, os na chaiff ei ddiddymu, bydd yn cael ei ddwyn ymlaen yn yr un modd i’r teitl rhydd-ddaliol.

Mae modd tynnu rhybuddiad yn ôl trwy gyfrwng ffurflen WCT.

9.2 Cyd-doddi prydles ddigofrestredig a nodwyd ar gyfer uwch-deitl cofrestredig

Dylech wneud y cais ar ffurflen CN1, gyda chefnogaeth y brydles a holl weithredoedd a dogfennau sy’n ymwneud â’r teitl prydlesol. Dylai’r dogfennau a gyflwynwyd gynnwys chwiliad pridiannau tir cyfoes.

9.3 Cyd-doddi prydles ddigofrestredig heb ei nodi ar gyfer uwch-deitl cofrestredig

Os yw’r uwch-deitl yn cael ei gofrestru neu yn destun cais ar ffurflen CN1, dylid cyfeirio at y brydles yn y cais.

Os cofrestrwyd yr uwch-deitl eisoes a’r brydles heb ei nodi ar ei gyfer, nid oes angen cais i gyd-doddi. Yn y naill achos neu’r llall dylid cyflwyno’r brydles wreiddiol a’r holl weithredoedd a dogfennau sy’n ymwneud â’r teitl iddi. Dylai’r dogfennau a gyflwynwyd gynnwys chwiliad pridiannau tir cyfoes.

10. Atodiad 2: ceisiadau i gofrestru prydlesi estynedig

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

10.1 Cofrestru prydles newydd

Dylid gwneud y cais i gofrestru’r brydles newydd ar ffurflen FR1 os yw’r teitl rifersiwn yn ddigofrestredig, neu ar ffurflen AP1 os yw’r teitl rifersiwn wedi ei gofrestru.

Dylai’r canlynol fod gyda’r cais:

  • y brydles sy’n cael ei chofrestru ac (os ydych yn dymuno inni ddychwelyd y gwreiddiol) copi ardystiedig
  • prydles wedi ei hildio, os yw’r brydles newydd yn cael ei llunio trwy gyfeirio at delerau’r brydles sy’n cael ei hildio
  • tystysgrif Treth Tir Toll Stamp neu Dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os oes angen
  • tystiolaeth o deitl y prydleswr i roi’r brydles, os oes angen
  • caniatâd morgeisai’r prydleswr, os oes angen
  • unrhyw ganiatâd sydd ei angen trwy gyfyngiad yn effeithio ar deitl y prydleswr
  • manylion unrhyw brydlesi rhyngol rhwng teitl y prydleswr a’r brydles newydd (gweler Teitlau rifersiwn, teitlau prydlesol rhyngol)
  • cais i roi grym i ildio tybiedig y brydles gyfredol ac unrhyw brydles ryngol sy’n cael eu dal gan neu mewn ymddiried ar ran y ceisydd
  • os oes arwystl ar y brydles a ildiwyd, gweler y cyfarwyddyd/gofynion yn Arwystlon a gofrestrwyd ar y teitl prydlesol sy’n cau
  • cais am unrhyw gyfyngiad neu rybudd angenrheidiol ar y teitl i’r brydles newydd
  • ffïoedd

Gall y brydles newydd fod naill ai’n brydles llawn hyd, cyflawn, neu gall fod wedi ei llunio trwy gyfeirio at delerau’r brydles sy’n cael ei hildio. Dylech osgoi defnyddio gweithred amrywio. Gall ymddangos mai effaith y drefn yw amrywio hyd cyfnod y brydles wreiddiol, ond nid dyma fel y mae. Daw’r brydles newydd yn effeithiol yn lle’r brydles gyfredol.

Ni all prydles newydd o dan adran 56 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 godi trwy ildiad tybiedig ac ail-roi yn codi o weithred amrywio sy’n honni estyn cyfnod y brydles sy’n bodoli, hyd yn oed os yw’n cynnwys datganiad sy’n cydymffurfio â rheol 196(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

10.2 Teitl y prydleswr

Os yw teitl y prydleswr yn ddigofrestredig, dylid cael crynodeb archwiliedig neu dalfyriad o deitl y prydleswr, a chwiliad cyfredol yn Adran Pridiannau Tir, a’u cyflwyno gyda’r cais, gyda’r nod o roi teitl prydlesol llwyr. Fel arfer mae modd rhoi teitl prydlesol llwyr yn unig os cymeradwyodd Cofrestrfa Tir EF deitl y prydleswr ac unrhyw uwch-deitlau o’r blaen ar gais am gofrestriad cyntaf neu eu bod yn cael eu cyflwyno gyda’r cais.

10.3 Caniatâd morgeisai’r prydleswr

Gellir cyflwyno caniatâd arwystlai’r landlord gyda’r cais ond nid yw’n ofynnol yn ddieithriad i gofrestru’r brydles hyd yn oed lle ceir cyfyngiad yn y gofrestr o ran hyn.

O dan adran 58 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, mae hawl gan denant cymwys i gael prydles newydd er gwaethaf y ffaith y rhoddwyd y brydles sy’n bodoli yn dilyn creu arwystl ar fudd y landlord a heb ei awdurdodi gan yr arwystlai.

Mae’n glir o adran 58(1)(b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, bod y brydles yn rhwymo’r arwystlai, yn ddarostyngedig i adran 58(2). Mae adran 58(2) yn dweud na fydd prydles a roddwyd o dan adran 56 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn rhwymo’r arwystlai os cafodd ei rhoi ar ôl 1 Tachwedd 1993 a hefyd “being granted subsequent to the creation of the mortgage, would not, apart from that subsection, be binding on the persons interested in the mortgage.” Mae adran 58(1)(a) yn mynd ymhellach wrth ddweud am y brydles “shall be deemed to be authorised as against the persons interested in any mortgage on the landlord’s interest (however created or arising)”.

Barn Cofrestrfa Tir EF felly yw:

  • ym mhob achos, ni ellir cwestiynu pŵer y prydlesai i roi’r brydles ar gyfrif bodolaeth morgais ar ei deitl

  • os yw’r morgais ei hun yn cynnwys cymal nad oes gwarediad i’w wneud gan y landlord heb ganiatâd ysgrifenedig yr arwystlai, ystyrir bod y cymal wedi ei fodloni yn rhinwedd adran 58(1)(a) a Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn gyffredinol

  • mae geiriad adran 58(1)(a) yn ddigonol i ystyried caniatâd ysgrifenedig yr arwystlai, hyd yn oed at ddibenion cyfyngiad yn y gofrestr sy’n gofyn am ganiatâd ysgrifenedig yr arwystlai i warediad gan y landlord. Mae telerau’r cyfyngiad wedi eu bodloni at ddibenion adran 41(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002

  • mae’r amod yn adran 58(2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn golygu os gwnaed y canlynol o ran y brydles:

    • rhoddwyd hi ar neu ar ôl 1 Tachwedd 1993

    • gwnaed hi ar ôl dyddiad arwystl y landlord, a

    • heb ganiatâd yr arwystlai

rhaid rhoi’r brydles newydd o dan adran 56 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a chaiff ei hawdurdodi fel pe bai yn erbyn yr arwystlai o dan adran 58(1) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, ond efallai na fydd yn rhwymo ar yr arwystlai o dan adran 58(1)(b) oni bai bod digwyddiadau eraill wedi peri ei bod yn rhwymo. Ni all Cofrestrfa Tir EF benderfynu a yw’r brydles yn rhwymo ar yr arwystlai ai peidio ond nid yw hyn yn ein rhwystro rhag cofrestru’r brydles, yn ddarostyngedig i gofnod gwarchodol. Bydd unrhyw arwystlai yn cadw unrhyw rwymedi sydd ar gael iddo o dan yr arwystl.

Felly, lle na chaiff caniatâd arwystlai y landlord ei gyflwyno ac ymddengys bod y brydles sy’n bodoli:

  • wedi ei rhoi ar neu ar ôl 1 Tachwedd 1993

  • wedi ei gwneud ar ôl dyddiad arwystl y landlord, a

  • heb ganiatâd yr arwystlai

gwneir y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl newydd:

“Yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig … o blaid … sy’n effeithio ar deitl y prydleswr (ac, i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny, unrhyw arwystl sy’n disodli neu yn amrywio’r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran y swm cyfan neu ran o’r swm a warantwyd gan yr arwystl hwn), mae teitl i’r brydles yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a all fod wedi codi o ganlyniad i absenoldeb caniatâd arwystlai, oni bai bod y brydles wedi’i hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.”

Ni wneir y cofnod hwn os cyflwynir copi o’r weithred morgais ynghyd â chadarnhad y cafwyd caniatâd i roi’r brydles yn ôl telerau’r morgais (trwy gyfeirio at y cymal perthnasol yn y weithred) ac os nad oedd angen caniatâd y morgeisai.

10.4 Cais i roi grym i ildio tybiedig y brydles gyfredol

Bydd ffurf y cais hwn yn dibynnu ar os yw’r brydles gyfredol wedi ei chofrestru, os yw’r brydles a ildiwyd wedi cael ei nodi ar unrhyw deitl rifersiwn, ac os yw’r cais o dan Ddeddf 1967 neu Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993.

Os yw teitl prydlesol presennol y ceisydd wedi ei gofrestru, dylid gwneud cais i roi grym i ildio’r brydles gyfredol trwy gau’r teitl hwnnw. Os nad yw teitl prydlesol y ceisydd wedi ei gofrestru ond bod rhybudd ohono wedi ei gofnodi ar unrhyw deitl rifersiwn, rhaid i chi wneud cais i ddiddymu’r rhybudd.

Hyd yn oed os nad yw’r brydles a ildiwyd naill ai’n gofrestredig nac wedi ei nodi ar unrhyw deitl rifersiwn, mae’n dal yn angenrheidiol cyflwyno’r brydles a ildiwyd a theitl y ceisydd iddi, ynghyd â chwiliad cyfredol yr Adran Pridiannau Tir. Dylid cyflwyno unrhyw forgeisi sy’n effeithio ar y brydles hefyd.

Dylid cysylltu ag unrhyw forgeiseion prydles gyfredol y ceisydd cyn cwblhau’r brydles newydd a gwneud y trefniadau angenrheidiol.

Dylid ystyried unrhyw fudd arall sy’n effeithio ar y brydles gyfredol yn ofalus hefyd.

Os yw wedi ei warchod yng nghofrestr y brydles gyfredol ond nad yw’n effeithio ar y brydles newydd, dylech gyflwyno cais i dynnu’r cyfyngiad yn ôl, neu rybudd adneuo neu fwriad i adneuo, neu ddiddymu’r rhybudd. Os yw ef, neu fudd cyfatebol, yn effeithio ar y brydles newydd, dylid cynnwys cais i’w ddiogelu trwy gyfrwng cofnod addas yn y gofrestr, neu anfon un gyda’r cais i gofrestru’r brydles newydd.

10.5 Cau teitl prydlesol presennol

Dylech wneud y cais i gau teitl presennol y ceisydd ar ffurflen AP1 a disgrifio’r cais ym mhanel 4 fel ‘Cau teitl prydlesol’. Dylai’r brydles wreiddiol fod gyda’r cais.

10.6 Diddymu rhybudd o brydles gyfredol ar deitl rifersiwn (pan fo prydles gyfredol yn ddigofrestredig)

Dylech wneud y cais ar ffurflen CN1. Dylid cyflwyno’r brydles a ildiwyd a theitl y ceisydd iddi, ynghyd â chwiliad cyfredol yr Adran Pridiannau Tir. Dylid cyflwyno unrhyw forgeisi sy’n effeithio ar y brydles hefyd.

10.7 Arwystlon a gofrestrwyd ar y teitl prydlesol sy’n cau

10.7.1Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

Lle rhoddir y brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, mae’r ddeddfwriaeth yn darparu y bydd unrhyw arwystlon ar y brydles a ildiwyd yn trosglwyddo’n awtomatig. Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn mynnu bod gweithred arwystl amnewidiol yn cael ei chyflwyno. Dylai’r ceisydd wneud cais i gofrestru’r arwystl ym mhaneli 4 a 10 ffurflen AP1 neu baneli 5 a 10 ffurflen FR1, y ffurflen i’w defnyddio’n dibynnu a gofrestrwyd teitl y rifersiynydd neu beidio. Nid oes ond angen trefnu cyflwyno’r arwystl os na chofrestrwyd y brydles a ildiwyd. Os yw’r arwystl i gael ei warchod trwy rybudd yn unig, ac y cofrestrwyd teitl y rifersiynydd, dylech lenwi naill ai ffurflen AN1 neu ffurflen UN1, fel y bo’n briodol. Yn achos prydles a roddwyd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, mae modd cofrestru neu nodi’r morgais ar gyfer y teitl newydd yn y ffordd arferol.

10.7.2 Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967

Fodd bynnag, lle bo’r brydles newydd yn cael ei rhoi o dan Ddeddf 1967, nid yw morgais yn trosglwyddo ohono’i hun i’r brydles newydd a dylid, felly, naill ai ei ryddhau a’i ddisodli, neu ei drosglwyddo i’r brydles newydd trwy weithred. Os yw’r morgais yn cael ei ryddhau, dylid cyflwyno’r morgais a ryddhawyd a thystiolaeth o ryddhau a’r morgais newydd, os oes un, gyda chopi ardystiedig os yw’r morgais newydd i gael ei gofrestru, gyda’r cais. Os caiff gweithred arwystl amnewidiol ei defnyddio, dylid cyflwyno’r morgais ynghyd â’r weithred ac, os yw’r morgais i gael ei gofrestru ar gyfer y teitl newydd, copi ardystiedig.

Os nad oes modd cael cydweithrediad y morgeisai, bydd Cofrestrfa Tir EF yn ceisio cyflwyno rhybudd arbennig iddo, ac unrhyw un arall sy’n ymddangos i fod â budd yn y morgais, yn rhoi manylion:

  • y morgais
  • y ceiswyr a natur y cais
  • y bwriad i gau’r teitl i’r brydles gyfredol (os cofrestrwyd)
  • y bwriad i ddiddymu rhybudd y brydles gyfredol ar uwch-deitl (os nad yw’r brydles gyfredol wedi ei chofrestru ond y nodwyd hi ar deitl o’r fath)
  • effaith y cais ar y morgais, o’i gwblhau
  • sut mae modd gwneud unrhyw wrthwynebiad i’r cais; ac yn gofyn am gyflwyno’r morgais gwreiddiol

Os nad oes unrhyw ymateb i’r rhybudd, bydd y cais yn cael ei gwblhau. Yn achos prydles a roddwyd o dan Ddeddf 1967, bydd cofnod arbennig yn cael ei wneud, yn ôl y disgrifiad yn Cofnodion yn y gofrestr.

Os bydd y derbynnydd yn cyflwyno’r morgais gwreiddiol, mewn ymateb i’r rhybudd, bydd naill ai’n cael ei gofrestru neu’n cael ei nodi. Os bydd raid cyflwyno rhybudd o ran mwy nag un morgais sy’n bodoli, bydd cofnodion ar wahân yn cael eu gwneud yn y gofrestr yn unol â blaenoriaethau priodol y morgeisi o dan sylw.

10.8 Cofnodion eraill ar deitl prydlesol presennol

Bydd cyfyngiad o blaid arwystlai yn cael ei ddiddymu ohono’i hun pan gaiff yr hen deitl ei gau (a’i ailgofnodi ar y teitl newydd os yw’r arwystl wedi ei gofrestru ar ei gyfer). Bydd cyfyngiad ffurf A ar gyfer gwarediadau gan unig berchennog hefyd yn cael ei ddiddymu wrth gau’r teitl. Fel arfer, rhaid tynnu cyfyngiad gwirfoddol yng nghofrestr yr hen deitl yn ôl trwy gyfrwng ffurflen RX4 wedi ei llofnodi gan y cyfyngwr neu ei drawsgludwr, oni bai bod cais wedi ei wneud am gyfyngiad cyfatebol ar gyfer y brydles newydd.

Dylid gwneud cais i ddiddymu neu ddileu unrhyw rybuddion heblaw un yn gwarchod cost ariannol, ar ffurflen CN1, ffurflen UN4 neu ffurflen UN2 fel y bo’n briodol.

Mae tystiolaeth i gefnogi ceisiadau arbennig yn cael eu dangos isod. Fel arfer, bydd rhybudd credydwyr yn cael ei gofnodi ar y teitl newydd. Os nad oes ei angen mwyach, dylai copi swyddogol o’r gorchymyn llys yn gwrthod neu’n tynnu’r ddeiseb mewn methdaliad yn ôl neu’n dadwneud neu’n dirymu’r gorchymyn methdaliad dilynol fod gyda’r cais. Mae modd diddymu cyfyngiad methdaliad trwy gyflwyno copi swyddogol o’r gorchymyn llys a berodd ddadwneud neu ddirymu’r gorchymyn methdaliad.

Mae modd tynnu rhybudd hawliau cartrefi (priodasol) nad yw mwyach yn effeithio ar y teitl yn ôl trwy gyfrwng cais ar ffurflen HR4. Os na chaiff ei dynnu’n ôl neu ei ddiddymu, bydd y rhybudd yn cael ei ddwyn ymlaen i’r teitl newydd.

Mae rhybudd o orchymyn mynediad o dan Ddeddf Mynediad at Dir Cyfagos 1992 angen cyflwyno’r dystiolaeth briodol ac, os na chaiff ei ddiddymu, bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i’r teitl newydd.

Mae modd tynnu rhybuddiad yn ôl trwy gyfrwng ffurflen WCT.

Gall gwaharddiad yn deillio o waharddeb neu orchymyn llesteirio atal cau’r teitl neu mae modd cofnodi cyfyngiad ar y teitl rhydd-ddaliol, yn dibynnu ar delerau’r gorchymyn llys y seiliwyd y cofnod arno. Mae modd ei ddiddymu trwy gyflwyno copi swyddogol o’r gorchymyn llys sy’n rhoi diwedd ar y gorchymyn gwreiddiol.

Byddwn yn ystyried unrhyw gofnod sy’n effeithio ar yr hen deitl sydd heb ei dynnu’n ôl na’i ddiddymu ac nad yw’n cael ei ddwyn ymlaen i, neu’n cael ei ddisodli gan, gofnod cyfatebol ar y teitl newydd yn ôl yr achos. Mewn rhai achosion gall fod modd delio â’r mater trwy gyflwyno rhybudd.

10.9 Gwarchod buddion sy’n effeithio ar y brydles newydd

Fel gyda holl geisiadau i gofrestru prydles, rhaid cofnodi manylion llawn holl fuddion trydydd parti sy’n effeithio ar y brydles ym mhanel priodol ffurflen AP1 neu ffurflen FR1 a gwneud ceisiadau ar wahân i’w cofnodi yn y gofrestr pan fo’n briodol. Yn ogystal â hyn, rhaid gwneud cais am unrhyw gyfyngiad sydd ei angen yn ffurflen RX1.

11. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.