Ffurflen

Cyfarwyddyd: sut i lenwi ffurflen TR1

Diweddarwyd 23 January 2024

Applies to England and Wales

Mae’r nodiadau hyn yn rhoi cyfarwyddyd cyffredinol ar sut i lenwi ffurflen TR1 ar gyfer trosglwyddo eiddo.

Nid oes yn rhaid ichi ddefnyddio cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall i lenwi ac anfon y ffurflen atom, ond mae’r cymorth y gallwn ei roi ichi yn gyfyngedig. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ichi. Os oes morgais yn gysylltiedig, gall y rhoddwr benthyg fynnu eich bod yn defnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig.

Yn y cyfarwyddyd hwn, y ‘trosglwyddwr’ yw’r unigolyn sy’n trosglwyddo’r eiddo, os yw’n ei werthu neu’n ei roi. Y ‘trosglwyddai’ yw’r unigolyn sy’n cael yr eiddo.

1. Pryd i ddefnyddio ffurflen TR1

Gallwch ddefnyddio ffurflen TR1 i drosglwyddo:

  • yr holl dir mewn un neu ragor o deitlau cofrestredig
  • eiddo sydd i’w gofrestru am y tro cyntaf

I drosglwyddo rhan o deitl cofrestredig, defnyddiwch ffurflen TP1 yn lle.

2. Cyn llenwi ffurflen TR1 dylech wneud y canlynol

2.1 Gweld a yw’r tir yn gofrestredig ai peidio

Bydd yn rhaid ichi wybod a yw’r eiddo’n gofrestredig ai peidio oherwydd mae hyn yn effeithio ar y wybodaeth y bydd yn rhaid ichi ei hanfon atom. I gael gwybod a yw’r eiddo’n gofrestredig ai peidio, gallwch wneud un o’r canlynol:

2.2 Gweld beth sydd yn y gofrestr

Os yw’r eiddo’n gofrestredig, mae’n bosibl y bydd cofnodion yn y gofrestr i’w hystyried cyn ichi allu cwblhau trosglwyddiad yr eiddo.

I weld beth sydd yn y gofrestr, gallwch wneud un o’r canlynol:

Gall cofnodion gynnwys:

  • cyfyngiad: cofnod sy’n gofyn am weithredu cyn y gellir cofrestru’r trosglwyddiad, ee cael caniatâd i drosglwyddo gan yr unigolyn a enwir mewn cyfyngiad, neu dystysgrif yn cydymffurfio â’r amodau mewn gweithred benodedig
  • rhybudd unochrog/rhybudd a gytunwyd/ rhybuddiad: mae’n bosibl y bydd yn rhaid ichi wneud cais i’w dileu/tynnu ymaith
  • cymal yn y brydles (os yw’r eiddo’n brydlesol) sy’n gofyn i’r landlord roi ei ganiatâd, neu o leiaf gael gwybod
  • caniatâd y rhoddwr benthyg os yw’r eiddo wedi ei forgeisio, neu dystiolaeth o ryddhau’r morgais os ydych yn clirio’r benthyciad

Dylech ystyried pob cofnod yn y gofrestr a chael y dystiolaeth y mae ei hangen arnoch cyn ichi anfon eich cais atom.

3. Sut i lenwi’r paneli ar ffurflen TR1

Bydd llenwi llawer o’r paneli ar y ffurflen yn haws os oes gennych gopi o’r gofrestr neu gopi swyddogol o’r gofrestr (gweler Gweld beth sydd yn y gofrestr.

3.1 Panel 1: rhifau teitl

Nodwch rif(au) teitl yr eiddo rydych am ei drosglwyddo (mae’r rhif hwn ar frig tudalen gyntaf copi swyddogol o’r gofrestr). Gallwch ddefnyddio’r un ffurflen ar gyfer mwy nag un rhif teitl. Os nad yw’r eiddo’n gofrestredig, gadewch y panel hwn yn wag.

Bydd defnyddio’r ffurflen drosglwyddo hon yn arwain at drosglwyddo’r holl eiddo yn y teitl cofrestredig. Os mai eich bwriad yw trosglwyddo rhan yn unig o’r eiddo yn y teitl, defnyddiwch ffurflen TP1 yn lle.

3.2 Panel 2: eiddo

Rhowch ddisgrifiad byr (gan gynnwys y cod post) o’r eiddo rydych yn bwriadu ei drosglwyddo. Os yw’r eiddo’n gofrestredig, fe welwch hyn ar ddechrau’r Gofrestr Eiddo fel y’i dangosir ar y copi swyddogol o’r gofrestr ac fel rheol bydd yn gyfeiriad post yr eiddo.

3.3 Panel 3: dyddiad

Nodwch y dyddiad cwblhau yn y panel hwn (gweler panel 12: cyflawni). Peidiwch â gwneud hyn nes bydd y trosglwyddiad wedi ei gyflawni.

3.4 Panel 4: y trosglwyddwr(wyr)

Ysgrifennwch enwau llawn (gan gynnwys pob enw canol) yr unigolyn neu’r unigolion sy’n mynd i drosglwyddo’r eiddo. Enw(au) y perchnogion cofrestredig yn y gofrestr fydd y rhain, neu rywun sy’n gallu profi ei fod yn gweithredu ar eu rhan (e.e. ysgutor).

Os nad yw’r wybodaeth a roddir yn y bwlch hwn yn cyd-fynd â’r manylion perchnogaeth sy’n ymddangos yn y gofrestr, bydd yn rhaid ichi roi tystiolaeth i egluro hynny. Gall hyn fod yn weithred newid enw neu dystysgrif priodi ar gyfer rhywun sydd wedi newid ei enw. Os yw cydberchennog wedi marw, bydd yn rhaid ichi anfon y dystysgrif marwolaeth neu grant profiant atom.

Os yw’r trosglwyddwr yn gwmni, bydd yn rhaid ichi gwblhau’r meysydd ychwanegol yn y panel.

3.5 Panel 5: y trosglwyddai(eion)

Ysgrifennwch enwau llawn yr unigolion y mae’r eiddo i gael ei drosglwyddo iddynt (uchafswm o bedwar). Peidiwch â chynnwys y teitlau ‘Mr’ neu ‘Mrs’, ond os oes ganddynt deitl arall, dylech ei gynnwys.

Os yw unig berchennog (fel Mr A) am drosglwyddo’r eiddo i ddau (neu ragor) o bobl gan gynnwys ei hunan (e.e. fel Mr a Mrs A), bydd yn rhaid cynnwys ei enw hefyd. Ni all drosglwyddo cyfran yn unig o’r eiddo.

Os yw’r trosglwyddai yn gwmni, bydd angen ichi gwblhau’r meysydd ychwanegol yn y panel.

3.6 Panel 6: cyfeiriad

Mae angen i bob trosglwyddai roi cyfeiriad ar gyfer gohebu inni, a rhaid iddo fod yn gyfeiriad post yn y DU neu dramor. Cofiwch gynnwys unrhyw god post neu god tramor cyfatebol. Gallwch roi hyd at ddau gyfeiriad arall ar gyfer pob trosglwyddai hefyd, a all fod yn gyfeiriad post, ebost, rhif blwch neu gyfeiriad cyfnewid dogfennau’r DU.

Mae’n bwysig cadw eich cyfeiriad yn gyfoes oherwydd gall fod angen inni anfon rhybuddion pwysig atoch a allai effeithio ar eich hawliau.

3.7 Panel 7: trosglwyddiad

Mae’r datganiad hwn yn briodol ym mhob achos; peidiwch ag ychwanegu ato, na newid y panel hwn mewn unrhyw ffordd arall.

3.8 Panel 8: cydnabyddiaeth

Nodwch y swm a dalwyd am yr eiddo sy’n cael ei drosglwyddo (yn y blwch cyntaf). Os yw’r trosglwyddiad trwy rodd, dewiswch yr ail flwch. Os yw’r trosglwyddiad am unrhyw gydnabyddiaeth arall, dewiswch y trydydd blwch a nodwch y manylion.

3.9 Panel 9: gwarantau teitl

Wrth ddarparu’r gwarantau hyn, mae’r trosglwyddwr(wyr) yn rhoi addewidion rhwymol penodol am y teitl i’r eiddo. Ceir dau fath, er y gellir addasu’r naill neu’r llall. Mae’r gwarantau hyn yn gosod rhwymedigaethau, a fydd yn parhau i rwymo’r perchennog hyd yn oed ar ôl cyflawni’r trosglwyddiad. Mae’r maes hwn yn gymhleth ac os oes gennych unrhyw amheuon rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ichi.

Y mathau o warantau yw:

  • Gwarant teitl llawn: mae’r trosglwyddwr(wyr) yn gwarantu, hyd eithaf ei wybodaeth, nad oes arwystlon ariannol/llyffethair (ee morgeisi) na buddion trydydd parti eraill (ee hawliau tramwy/prydlesi) yn effeithio ar yr eiddo heblaw’r rhai a ddatgelwyd eisoes i’r trosglwyddai(eion)
  • Gwarant teitl cyfyngedig: mae gwarant teitl cyfyngedig yn set fwy cyfyngedig o addewidion gan y trosglwyddwr(wyr). Mae’n gwarantu nad yw’r trosglwyddwr(wyr) wedi creu unrhyw arwystl, na galluogi unrhyw arwystl, llyffethair na budd trydydd parti sy’n bodoli o hyd ar ddyddiad y cydsyniad i gael ei greu.

Cwblhewch y panel hwn trwy ddewis y warant teitl, os oes un, i’w rhoi gan y trosglwyddwr ac ychwanegwch unrhyw addasiadau angenrheidiol at y warant honno.

3.10 Panel 10: datganiad o ymddiried

Dylid llenwi’r panel hwn os oes mwy nag un trosglwyddai.

Mae cydberchnogaeth yn faes anodd o’r gyfraith. Gall arwain at anghydfodau pan fo cydberchennog yn marw neu pan fo’r berthynas rhwng cydberchnogion yn torri. Mae’n bosibl y bydd cofnodi bwriadau’r cydberchnogion ym mhanel 10 y trosglwyddiad neu ar ffurflen JO ar wahân (a drafodir isod) yn cynorthwyo i osgoi anghydfodau o’r fath yn hwyrach. Fodd bynnag, dim ond man cychwyn yw hyn, oherwydd gall bwriadau’r cydberchnogion newid gydag amser.

Os oes mwy nag un trosglwyddai, fel cydberchnogion byddant yn dal yr eiddo ar ymddiried yn awtomatig i’w hunain a/neu rywun arall sydd â budd llesiannol yn yr eiddo.

Gall cydberchnogion ddal eu budd llesiannol yn yr eiddo fel cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd. Nid yw cyd-denantiaid llesiannol yn berchen ar gyfrannau penodedig yn yr eiddo. Os yw un ohonynt yn marw, mae ei fudd yn trosglwyddo’n awtomatig i’r cyd-denant(iaid) llesiannol sy’n goroesi hyd yn oed os yw wedi gwneud ewyllys yn ei adael i rywun arall.

Mae tenantiaid cydradd llesiannol yn berchen ar gyfrannau penodedig yn yr eiddo, a all fod yn gyfartal neu’n anghyfartal a gallant adael eu cyfran i rywun arall yn eu hewyllys.

Oni bai ei fod yn glir, ar adeg caffael, bod y cydberchnogion yn bwriadu dal y budd llesiannol ar ymddiried i’w hunain yn unig fel cyd-denantiaid, mae gennym ddyletswydd i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf A yn y gofrestr. Effaith y cyfyngiad hwn yw na fyddwn yn cofrestru gwerthiant na morgais o’r eiddo oni bai bod o leiaf dau berchennog cofrestredig, fel ymddiriedolwyr, i dderbyn arian y gwerthiant neu forgais ar y cyd. Mae hyn yn golygu nad oes hawl gan oroeswr olaf y tenantiaid cydradd werthu’r eiddo heb brofi bod yr ymddiried wedi dod i ben neu benodi cyd-ymddiriedolwr newydd.

Os yw’r cyd-drosglwyddeion yn bwriadu dal yr eiddo ar ymddiried i’w hunain yn unig fel cyd-denantiaid, dylent roi ‘X’ yn y blwch cyntaf. Fel arall, os ydynt yn bwriadu dal y budd llesiannol fel tenantiaid cydradd mewn cyfrannau cyfartal, dylent roi ‘X’ yn yr ail flwch. Dylent roi ‘X’ yn y trydydd blwch os ydynt yn bwriadu ei ddal mewn cyfrannau anghyfartal, neu ar eu cyfer eu hunain ac eraill (boed mewn cyfrannau cyfartal neu anghyfartal), neu o dan delerau gweithred ymddiried neu ewyllys sy’n bodoli ar wahân, ac ymhob achos dylent ychwanegu’r manylion perthnasol hefyd.

Fel dewis arall i lenwi’r panel hwn gallwch ddefnyddio’r ffurflen gwybodaeth ymddiried JO. Mae ffurflen JO yn cynnwys yr un dewisiadau â phanel 10 ond mae wedi ei llunio fel ffurflen ar wahân i gynorthwyo i ddarparu’r wybodaeth berthnasol a sicrhau bod pob cyd-drosglwyddai’n arwyddo datganiad o ymddiried (gweler panel 12 isod). Os yw datganiad yr ymddiried ar yr hyn y bydd y trosglwyddeion yn dal yr eiddo eisoes wedi ei gynnwys mewn gweithred neu ewyllys ar wahân, gall trawsgludwr gynnwys manylion amdano yn ffurflen JO a’i harwyddo yn lle’r trosglwyddeion.

Os nad yw panel 10 y trosglwyddiad neu ffurflen JO yn cael eu cwblhau a’u cyflwyno gyda’r cais i gofrestru trosglwyddiad i gyd-drosglwyddeion, byddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn ddiofyn. Os oes gennych unrhyw amheuon am yr hyn sydd ei angen, dylech geisio cyngor proffesiynol cyn parhau.

3.11 Panel 11: darpariaethau ychwanegol

Weithiau ceir cyfamodau neu gytundebau rhwng y trosglwyddwr(wyr) a’r trosglwyddai(eion). Dyma lle dylech nodi’r manylion. Efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol gan fod cyfamodau neu gytundebau o’r fath yn rhwymol ar yr unigolyn(ion) sy’n eu rhoi, hyd yn oed ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad.

3.12 Panel 12: cyflawni

Rhaid i’r holl drosglwyddwyr gyflawni (llofnodi’n gyfreithiol) y weithred, gan ddefnyddio’r geiriau canlynol:

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn y trosglwyddwr) ____ (llofnod)

Ym mhresenoldeb : _______ (llofnod tyst)

(enw a chyfeiriad y tyst mewn prif lythrennau)

Os cwblhawyd paneli 10 neu 11, rhaid i’r trosglwyddeion lofnodi hefyd.

Dylai’r tyst fod yn annibynnol, ac yn ddelfrydol, yn rhywun sy’n eich adnabod yn dda ac sy’n gallu cadarnhau ichi lofnodi’r weithred, os oes angen. Gall un unigolyn dystio i fwy nag un llofnod, ond rhaid iddo lofnodi a chwblhau’r manylion islaw pob llofnod a dystiwyd.

Ni all un parti mewn trosglwyddiad dystio i lofnod y parti arall mewn trosglwyddiad. Gall priod, partner sifil neu gydbreswylydd y trosglwyddwr neu’r trosglwyddai fod yn dyst (os nad yw’n barti mewn gweithred), ond mae’n well osgoi hyn.

Ceir gofynion gwahanol os caiff y trosglwyddiad ei lofnodi gan atwrnai neu gwmni, neu o dan gyfarwyddyd y trosglwyddwr. Os hoffech gael y geiriad o dan yr amgylchiadau hynny, gweler Cyfarwyddyd ymarfer 8 neu cysylltwch â ni.

4. Dogfennau i’w hanfon gyda ffurflen TR1

Rhaid i’r holl ddogfennau gofynnol gael eu hanfon gyda’ch ffurflen TR1 wedi ei llenwi.

4.1 Tystysgrif Treth Tir Toll Stamp

Os ydych yn talu Treth Tir Toll Stamp, bydd yn rhaid ichi anfon tystysgrif atom. Darllenwch ragor o wybodaeth gan Gyllid a Thollau EM.

4.2 Ffurflen AP1 neu ffurflen FR1

Os yw’r eiddo’n gofrestredig, rhaid ichi lenwi ffurflen AP1.

Os nad yw’r eiddo’n gofrestredig eto, rhaid ichi lenwi ffurflen FR1.

4.3 Tystysgrif hunaniaeth

Os ydych yn anfon ffurflen AP1 neu ffurflen FR1 ac nid ydych yn drawsgludwr, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth hefyd. Am ragor o wybodaeth, gweler:

5. Cysylltu â ni

Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch ynghylch llenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni. Sylwch nad ydym yn rhoi cyngor cyfreithiol.