Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 7: cofnodi data'r pris a dalwyd neu'r gwerth a ddatganwyd yn y gofrestr

Diweddarwyd 17 January 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys gwybodaeth am ymarfer Cofrestrfa Tir EF ar gofnodi gwybodaeth pris a dalwyd neu’r gwerth yn y gofrestr.

2. Pam y mae Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi’r pris a dalwyd neu’r gwerth yn y gofrestr

Mae Cofrestrfa Tir EF o dan rwymedigaeth statudol o dan reol 8(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 i gofnodi’r pris a dalwyd neu’r gwerth, pryd bynnag y bo’n ymarferol, mewn tair sefyllfa.

  • Cofrestriad cyntaf ystad gofrestredig, hynny yw, pan fydd eiddo yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf.
  • Cofrestru prydles am fwy na 7 mlynedd.
  • Pan fydd newid perchennog ar gyfer eiddo cofrestredig presennol, boed a yw’r perchennog presennol hefyd yn aros yn y gofrestr neu beidio.

Ceir rhai eithriadau i hyn, megis pan fydd cyfnod prydles gofrestredig yn cael ei estyn.

Ni fydd telerau cymal cyfrinachedd yn drech na rhwymedigaeth y cofrestrydd i gofnodi’r pris a dalwyd yn y gofrestr. Ni fydd y cofrestrydd yn cofrestru’r pris a dalwyd os bydd y cofrestrydd yn ei ystyried yn gamarweiniol, megis pan fydd y gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo. Gweler Absenoldeb cofnod i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

3. Pryd y bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi’r pris neu’r gwerth

Byddwn yn gwneud cofnod yn y gofrestr perchnogaeth pan fydd yn glir bod swm o arian (heblaw rhent o dan brydles) wedi cael ei dalu. Y swm a gofnodir fydd y gwir swm o arian y mae’r prynwr wedi ei dalu i’r gwerthwr. Mae’n bosibl na fydd y swm hwn yr un fath â gwerth marchnadol yr eiddo.

Caiff cofnod ei wneud pan fydd y pris yn cynnwys eiddo arall yn ogystal ag arian.

Os yw’r gydnabyddiaeth neu’r premiwm yn cynnwys elfen TAW, byddwn yn cyfeirio at hyn yn y cofnod pris a dalwyd.

Byddwn yn cofnodi’r pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd lle y gellir disgwyl yn rhesymol i’r ceisydd gael y wybodaeth hon. Byddwn yn disgwyl i’r wybodaeth fod ar gael yn hawdd i’r ceisydd lle, er enghraifft:

  • y talwyd treth tir toll stamp neu dreth trafodiadau tir
  • nad yw’r pris wedi ei ddatgan yn y trosglwyddiad/prydles ond wedi ei gynnwys mewn dogfen ar wahân
  • cafwyd prisiad profiant

Os ydym yn derbyn cais heb y wybodaeth hon ond byddwn yn disgwyl iddi fod ar gael, byddwn yn gofyn i’r ceisydd ddarparu’r pris a dalwyd neu’r gwerth. Gallwn ddileu’r cais os ydym yn credu bod y wybodaeth ar gael yn hawdd ac nid yw wedi ei darparu. Mae hyn oherwydd y rhwymedigaeth statudol sydd ar y cofrestrydd i wneud cofnod.

Ni fyddwn yn gwneud ymholiad am y pris a dalwyd, lle y cyfeirir ato mewn dogfen nad yw wedi ei chyflwyno gyda ni, os yw’r trosglwyddiad neu brydles wedi eu dyddio cyn 1 Mai 2013, neu ar ffurf y gofynnir amdani’n benodol mewn cytundeb a luniwyd cyn 1 Mai 2013.

Byddwn yn cofnodi’r pris a dalwyd hyd yn oes os yw mewn arian cyfred heblaw punt sterling, ond nid ydym yn trosi’r pris.

4. Os na wneir unrhyw daliad neu os nad oes modd cyfrifo’r pris

Mewn achosion lle na wneir taliad neu lle na ellir cyfrifo’r pris, byddwn yn gwneud cofnod gwerth a ddatganwyd. Os nad yw’r union werth yn hysbys, mae’n bosibl y gwneir cofnod yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd i Gofrestrfa Tir EF ar gyfer asesu’r ffïoedd.

Felly, gall y cofnod gyfeirio at fand gwerthoedd sy’n cynnwys gwerth yr eiddo, megis:

“Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng £xxx a £yyy.”

Neu’r gwerth isaf neu’r uchaf o’r bandiau isaf neu uchaf, megis:

“Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] dros £xxx.”

Fodd bynnag, byddwn yn hepgor y cofnod pe byddai’n gamarweiniol, er enghraifft, pan fydd y gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo.

5. Gostyngiadau a chymhelliannau

Yn aml bydd gwerthwyr yn cynnig gostyngiadau a chymhelliannau i ddarpar brynwyr.

Ystyriwn fod gostyngiad yn swm arian parod a ddiddymwyd o’r pris prynu. Gall gostyngiad hefyd gael ei gyfeirio ato fel gostyngiad ecwiti, rhodd o flaendal, rhodd o ecwiti neu daliad arian-yn-ôl.Pan fydd trafodiad eiddo yn cynnwys gostyngiad, byddwn yn didynnu gwerth y gostyngiad o’r pris gros ac yn cofnodi’r pris a dalwyd net (is) yn y gofrestr. Os nad ydym yn gwybod y pris net, byddwn yn gofyn amdano. Er enghraifft, os nodir bod gwerthiant ar gyfer £300,000 a bod hyn yn cynnwys blaendal o £30,000 a dalwyd gan y gwerthwr, byddem yn cofnodi’r pris a dalwyd fel £270,000.

Os yw cydnabyddiaeth yn cynnwys cymhelliant, ein harfer yw cofnodi’r pris gros. Ystyriwn fod cymhelliant yn rhywbeth megis cymorth gyda chostau symud, y gwerthwr yn talu costau cyfreithiol neu dreth tir toll stamp neu dreth trafodiadau tir, darparu carpedi neu nwyddau gwynion, neu uwchraddio ffitiadau cegin ac ystafell ymolchi oherwydd nid yw’r rhain yn golygu bod swm yn cael ei ddidynnu o’r pris gwerthu. Ystyriwn hefyd fod cymorth o dan gynllun Cymorth Prynu (arian a roddir ar fenthyg i brynwr trwy gynlluniau Cymorth Prynu neu Gymorth i Brynu) yn gymhelliant ac nid yn ostyngiad oherwydd mae’n rhaid iddo gael ei ad-dalu rywbryd yn y dyfodol. Rhaid ichi gofnodi’r pris a dalwyd yn glir o unrhyw ostyngiad (y gwir swm y mae’r prynwr wedi ei dalu i’r gwerthwr) yn y panel cydnabyddiaeth neu gymal penodedig LR7 o brydles cymalau penodedig wrth baratoi trosglwyddiad neu brydles cymalau penodedig. Gallwch gyfeirio at ostyngiad neu gymhelliant ym mhanel darpariaethau ychwanegol trosglwyddiad neu yng nghorff prydles os oes angen. Yn y cyswllt hwn, sylwch fod Ffurflen Datblygu Cyllid y DU yn ‘offeryn’ i helpu rhoddwyr benthyg i asesu faint y maent yn barod i’w roi ar fenthyg, ac ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn edrych ar hyn i benderfynu’r cofnod a wneir.

Gweler Atodiad: enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau i gael enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau.

6. Ffurf y cofnod pan fydd yr union bris neu’r gwerth yn hysbys

Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.

“Datgenir mai’r pris a dalwyd ar [dyddiad gwarediad] oedd £xxx.”

“Datgenir mai’r pris, ac eithrio’r rhenti, a dalwyd wrth roi’r brydles oedd £xxx.”

“Datgenir mai’r gwerth ar [dyddiad y cais] oedd £xxx.”

7. Ffurf y cofnod os asesir y gwerth o lefel y ffïoedd a dalwyd

Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.

“Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] o dan/dros £xxx.”

“Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng £xxx a £yyy.”

8. Am faint caiff y wybodaeth ei chadw yn y gofrestr

Bydd y wybodaeth yn aros yn y gofrestr hyd nes bydd newid perchnogaeth eto sy’n arwain at gofnodi pris neu’r gwerth newydd. Nid yw’r cofnod pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd yn gamarweiniol dim ond am ei fod yn hanesyddol gan fod dyddiad yn cael ei gofnodi hefyd fel rhan o’r cofnod yn y gofrestr. Ni fydd y cofnod yn gamarweiniol ychwaith dim ond oherwydd bod gwaith adnewyddu, er enghraifft, wedi cynyddu gwerth yr eiddo ers ei werthu.

9. Dibynadwyedd y wybodaeth

Mae’r cofnod yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir inni. Mae’n bosibl na fydd yn cynrychioli gwerth marchnadol llawn yr eiddo. Mae’r cofnod yn egluro bod y ffigur a nodir yn seiliedig ar yr hyn a ddywedwyd wrthym. Ni fyddwn yn ei wirio. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fydd yn cynrychioli’r darlun cyflawn. Er enghraifft, pan fydd y partïon yn gysylltiedig â’i gilydd gallai fod llawer o resymau pam nad gwerth llawn yr eiddo yw’r pris a dalwyd neu pan fydd trosglwyddiad neu brydles yn cyfeirio at ddisgownt neu daliad arian-yn-ôl, byddwn yn cofnodi’r gwerth isaf neu’r gwerth net.

10. Absenoldeb cofnod

Nid yw’r ffaith nad yw’r cofnod pris a dalwyd i’w weld yn y gofrestr o reidrwydd yn golygu y gwnaethpwyd rhodd o’r eiddo. Gallai’r wybodaeth pris a dalwyd a ddarparwyd fod yn gamarweiniol (am ryw rheswm yn gysylltiedig â natur y trafodiad o dan sylw), neu efallai nad oedd y pris yn hawdd ei ganfod. Mae hefyd yn bosibl bod Cofrestrfa Tir EF wedi derbyn y cais i gofrestru’r newid perchnogaeth cyn 1 Ebrill 2000 (sef pryd y dechreuom gofnodi’r pris a dalwyd yn y gofrestr) neu y byddai rhyw agwedd ar y trafodiad yn gwneud cofnod y gwerth a ddatganwyd yn gamarweiniol.

Enghreifftiau o pryd na fyddwn efallai’n gwneud cofnod yw:

  • trosglwyddiadau o gyfranddaliadau (lle y rhoddir gwerth y cyfranddaliad yn unig)
  • trosglwyddiadau sy’n ddarostyngedig i bridiant
  • dim ond rhan o’r eiddo sy’n cael ei gaffael ar farwolaeth cydberchennog
  • prynu rhydd-ddaliad gan y prydleswr presennol sy’n gwneud cais i uno ei brydles
  • trosglwyddiadau sy’n cyfeirio yn y panel cydnabyddiaeth at arian prynu heb ei dalu neu rwymedigaethau i dalu symiau pellach
  • trosglwyddiadau sy’n cynnwys mwy na 5 theitl ac nid yw’r gydnabyddiaeth wedi cael ei dosrannu
  • trosglwyddiad mewn setliad o ddyled, trwy gyfrwng dosbarthiad in specie neu mewn cydnabyddiaeth o gyfranddaliadau

Yn yr achosion hyn, ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod o’r newydd o’r pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd ond byddwn yn cadw unrhyw gofnod pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd presennol.

11. Gwybodaeth a gyhoeddir gan Gofrestrfa Tir EF

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cyhoeddi gwybodaeth grynswth am brisiau eiddo preswyl. Rydym yn darparu gwybodaeth grynswth hefyd i lefel sector post ac er Chwefror 2012 rydym wedi cyhoeddi data misol ar y pris a dalwyd ar gyfer gwerthiannau eiddo preswyl unigol. Er Hydref 2015 rydym hefyd wedi cyhoeddi’n fisol y pris a dalwyd am drosglwyddiadau o dan bŵer gwerthu/adfeddiannau, prynu-i-werthu (lle y gellir eu hadnabod gan forgais) a throsglwyddiadau i unigolion nad ydynt yn breifat. Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth grynswth yn ymwneud ag eiddo masnachol. Gallwch gael copi o gofrestr eiddo unigol trwy wneud cais am gopi swyddogol o’r cofrestriad teitl perthnasol.

12. Gwybodaeth gefndir

Cyn 1 Ebrill 2000, roedd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi’r pris a dalwyd yn y gofrestr ond dim ond pan gafwyd cais i wneud hyn. Yn dilyn ymgynghoriad yn 1997, penderfynodd yr Arglwydd Ganghellor fabwysiadu cynnig i ddiwygio’r Rheolau Cofrestru Tir fel y dylai pris a dalwyd neu’r gwerth gael ei gofnodi bob amser yn y gofrestr pan fo’n ymarferol i wneud hynny.

Ystyriwyd y mater o breifatrwydd yn ofalus iawn. Fodd bynnag, mewn nifer o wledydd, roedd y pris a dalwyd am eiddo arbennig eisoes yn gofnod cyhoeddus, yn fwyaf nodedig yn yr Alban er 1617, ac nid oedd yn ymddangos fod hyn wedi achosi unrhyw broblemau. O dan rai amgylchiadau roedd y pris a dalwyd eisoes yn gyhoeddus trwy ffynonellau eraill, megis lle cafodd yr eiddo ei werthu mewn arwerthiant. Ystyririwyd bod manteision cael y wybodaeth hon yn drech na’r dadleuon ynghylch preifatrwydd. Mae cofnodi’r pris a dalwyd neu’r gwerth yn y gofrestr yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol a diogelu data.

13. Cael gwybodaeth am y pris a dalwyd ar gyfer eiddo arbennig

Archebwch gopi swyddogol o’r gofrestr gan ddefnyddio ffurflen OC1, a gewch o’r Llyfrfa neu unrhyw werthwr deunyddiau cyfreithiol. Fel arall, gallwch lwytho’r ffurflen OC1 i lawr. Anfonwch y ffurflen OC1, ynghyd â’r tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru) i Gofrestrfa Tir EF (gweler cyfeiriadau Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau). Gall cwsmeriaid y porthol archebu copïau swyddogol ar-lein.

14. Atodiad: enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau

14.1 Enghraifft 1

Mae panel 9 o ffurflen TP1 yn datgan “Mae’r trosglwyddwr wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddai am yr eiddo y swm o £403,000 ac mae’r trosglwyddai wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddwr y cymhelliannau”.

Mae’r trosglwyddiad yn datgan bod y cymhelliannau yn “£1,500 tuag at gostau cyfreithiol a £20,000 tuag at y blaendal”.

Byddai angen ichi gadarnhau ai’r pris a dalwyd a nodir ym mhanel 9 o’r ffurflen TP1 o £403,000 yw’r gwerth gros neu’r gwerth net a dalwyd. Os mai’r pris a nodir yw’r pris gros, bydd yn rhaid inni ddidynnu £20,000, oherwydd ystyrir fod hwn yn ostyngiad. Dylai’r £1,500 tuag at y costau cyfreithiol gael ei gynnwys yn y pris a dalwyd oherwydd ei fod yn gymhelliant.

14.2 Enghraifft 2

Y gydnabyddiaeth yn y trosglwyddiad yw “£180,000 llai’r cymhelliannau ariannol y cyfeirir atynt yng nghymal 1.2 o’r contract ar gyfer gwerthu dyddiedig [ ] ac a waned rhwng y trosglwyddwr a’r trosglwyddai”.

Mae’r contract ar gyfer gwerthu yn cyfeirio at “gymhelliant ariannol a roddir gan y gwerthwr i’r prynwr: blaendal a dalwyd £9,050”.

Byddwn yn didynnu’r “cymhelliant ariannol” hwn o’r gydnabyddiaeth, gan gofnodi £170,950 fel y pris a dalwyd. Yn ein barn ni mae hwn yn ostyngiad mewn gwirionedd. Ni all gwerthwr dalu blaendal i’w hunan – i bob pwrpas mae’n lleihau neu’n diystyru’r pris gwerthu er mwyn peidio â chynnwys swm a fyddai wedi cael ei dalu fel rheol fel y blaendal.

14.3 Enghraifft 3

Mae’r premiwm yng nghymal LR7 o brydles yn datgan “£807,500 sy’n cynnwys £792,500 ar gyfer y fflat a £15,000 ar gyfer y dodrefn a’r ffitiadau”. Nid yw’r swm ar gyfer y dodrefn a’r ffitiadau yn gymhelliant oherwydd mae’r tenant yn talu am yr eitemau hyn. Yn seiliedig ar hyn, byddwn yn cofnodi’r pris a dalwyd fel £792,500.

15. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.