Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 66: buddion gor-redol a gollodd warchodaeth awtomatig yn 2013

Diweddarwyd 6 April 2018

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod gwarchod y buddion gor-redol hynny a gollodd eu statws gor-redol ar ganol nos ar 12 Hydref 2013 (adran 117 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 2 o Orchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) 2003). Mae’r buddion hyn fel a ganlyn:

Gellir gwarchod y buddion hyn:

Gall ceisydd sy’n dymuno gwarchod ei fudd trwy rybudd neu rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf wneud cais am chwiliad swyddogol o’r map mynegai i weld a oes unrhyw ran o’r wlad a chwilir yn gofrestredig ac, os felly, y rhifau teitl a’r math o gofrestriad a ddatgelwyd. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: chwiliadau swyddogol o’r map mynegai.

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn ddi-dâl i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r porthol ac mae’n darparu canlyniadau chwilio ar unwaith.

2. Buddion sydd eisoes yn cael eu gwarchod gan gofnodion yn y gofrestr

O ganlyniad i wybodaeth a ddarperir i Gofrestrfa Tir EF gyda chais, mae’n bosibl bod cofnod wedi cael ei wneud eisoes i warchod budd o’r fath. Lle gwneir cofnod o’r fath, peidiodd y budd â bod yn fudd gor-redol (adran 29(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn achos o’r fath ni fydd angen gwneud cais ychwanegol i warchod y budd.

Er enghraifft, os yw’r cofnod canlynol yn ymddangos yn y gofrestr.

“Mae’r tir yn ddarostyngedig i rent o 1s 0c a neilltuwyd i’r Goron gan drawsgludiad ohono dyddiedig 17 Gorffennaf 1893 a wnaed rhwng (1) Mawrhydi Ardderchocaf y Frenhines (2) Y Bwrdd Masnach a (3) Comisiynydd Pierau a Harbwr Clayport.

NODYN: Copi yn y ffeil.”

Felly, mae rhent y Goron a grëwyd gan drawsgludiad 17 Gorffennaf 1893 yn warchodedig eisoes ac wedi peidio â bod yn fudd gor-redol.

Mae enghreifftiau o gofnodion eraill a all ymddangos yn y gofrestr fel a ganlyn:

“Roedd y tir gynt yn gopi-ddaliad Maenor Pinechester. Mae’r cofrestriad hwn yn dod i rym yn ddarostyngedig i neilltuad unrhyw hawliau’r arglwydd y cyfeirir atynt yn 12fed Atodlen i Ddeddf Cyfraith Eiddo 1922.”

“Roedd y tir gynt yn gopi-ddaliad Maenor Pinechester ac wrth ei freinio eithriwyd y mwynfeydd a mwynau a hawliau y cyfeiriwyd atynt yn adran 48 o Ddeddf Copi-ddaliad 1852. Ni chynhwysir y cyfryw fwynfeydd a mwynau a hawliau yn y cofrestriad hwn.”

“Roedd y tir gynt yn gopi-ddaliad Maenor Pinechester ac wrth ei freinio eithriwyd y mwynfeydd a mwynau a hawliau y cyfeiriwyd atynt yn adran 23 o Ddeddf Copi-ddaliad 1894. Ni chynhwysir y cyfryw fwynfeydd a mwynau a hawliau yn y cofrestriad hwn.”

Ein barn yw mai rhybuddion o ran hawliau maenoraidd yw’r cofnodion hyn ac felly bydd y cyfryw hawliau wedi peidio â bod yn fuddion gor-redol felly nid oes angen eu gwarchod bellach. Fodd bynnag, gall fod dadleuon i gefnogi’r safbwynt gwrthwynebus. Felly gellir gwneud ceisiadau am rybudd o ran hawliau maenoraidd penodol er bod un o’r cofnodion hyn yn ymddangos yn y gofrestr eisoes.

3. Cofnodi rhybuddion yn y gofrestr

Gall cais i gofnodi rhybudd fod naill ai am:

  • rybudd unochrog
  • a gytunwyd

Ceir gweithdrefnau gwahanol ar gyfer cofnodi rhybuddion unochrog a rhybuddion a gytunwyd ac ar gyfer dileu’r cofnodion ar ôl iddynt gael eu gwneud. Mae ffurfiau’r cofnodion yn y gofrestr yn wahanol hefyd. Fodd bynnag, effaith pob math o rybudd yw gwarchod blaenoriaeth y budd sy’n berthnasol iddynt ar yr amod bod y budd yn ddilys. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

3.1 Natur ac effaith rhybuddion

Cofnod yn y gofrestr o ran baich budd sy’n effeithio ar ystad gofrestredig neu arwystl yw rhybudd. Mae effaith rhybudd yn gyfyngedig iawn. Nid yw cofnodi rhybudd yn gwarantu bod y budd a warchodir ganddo yn ddilys neu hyd yn oed ei fod yn bodoli (adran 32 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Unig effaith rhybudd yw sicrhau na chaiff blaenoriaeth y budd a warchodir ei gohirio yn awtomatig os yw gwarediad cofrestradwy dilynol am gydnabyddiaeth â gwerth yn cael ei gofrestru, os yw’r budd yn ddilys. Byddwch yn ymwybodol y collir statws gor-redol unwaith mae’r budd yn cael ei nodi ac nid oes modd ei ail greu hyd yn oed os yw’r rhybudd yn cael ei ddileu (adran 29(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Unwaith iddo gael ei gofnodi yn y gofrestr, ni chaiff unrhyw rybudd heblaw rhybudd unochrog ei ddileu oni bai fod y cofrestrydd yn fodlon bod y budd a warchodir wedi dod i ben, neu fod y budd a hawlir yn annilys fel arall. Bydd yn rhaid i rywun sy’n gwneud cais i ddileu rhybudd a gytunwyd gyflwyno tystiolaeth i fodloni’r cofrestrydd bod hyn yn wir.

3.2 Y ddyletswydd i ymddwyn yn rhesymol

Ni ddylai rhywun gyflwyno cais am rybudd heb achos rhesymol. Os yw’n gwneud hyn mae arno ddyletswydd i unrhyw un sy’n dioddef niwed, a gall y sawl yr effeithir yn wrthwynebus arno ddwyn achos am iawndal (adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

3.3 Rhybuddion unochrog

Mae modd cofnodi rhybudd unochrog heb ganiatâd y perchennog perthnasol. Nid oes rhaid i’r ceisydd fodloni’r cofrestrydd bod ei hawliad yn ddilys ac nid oes rhaid iddo gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei hawliad i’r budd. Fodd bynnag, bydd y cofrestrydd yn gwirio i sicrhau bod y budd a hawlir o’r fath y gellir ei warchod trwy rybudd unochrog.

Ni chaiff y perchennog perthnasol ei hysbysu o’r cais tan ar ôl i’r cofnod gael ei wneud felly ni fydd modd iddo wrthwynebu’r cais fel arfer. Fodd bynnag, caiff ei hysbysu bob tro ar ôl i’r cais gael ei gwblhau. Yna gall wneud cais ar unrhyw amser i ddileu’r rhybudd a, thrwy wneud hyn, fynnu bod y sawl sy’n hawlio mantais y budd a warchodir brofi dilysrwydd ei hawliad.

Mae dwy ran i unrhyw gofnod o rybudd unochrog sy’n ymddangos yn y gofrestr. Mae’r rhan gyntaf yn rhoi manylion byr y budd a warchodir ac yn nodi bod y cofnod yn rhybudd unochrog; mae’r ail ran yn rhoi enw a chyfeiriad y sawl a ddynodir gan y ceisydd fel buddiolwr y rhybudd. Mae angen y wybodaeth hon gan mai i’r buddiolwr y caiff y rhybudd ei gyflwyno a’r buddiolwr fydd yn gorfod profi dilysrwydd y budd os yw’r perchennog perthnasol yn gwneud cais i ddileu’r rhybudd.

Byddai enghraifft o rybudd unochrog fel a ganlyn:

“(22 Ionawr 2004) RHYBUDD UNOCHROG o ran atebolrwydd i gyfrannu at gynnal a chadw ac atgyweirio argloddiau Afon Hythe sy’n cyffinio â’r tir yn y teitl hwn ac sy’n codi yn rhinwedd defod Tref Hythehampton.

(22 Ionawr 2004) BUDDIOLWR: James Dean Perry o’r Maenordy, Upper Hythe, Cornshire XX1 3AB.”

3.4 Gwneud cais am rybudd unochrog

3.4.1 Y ffurflen gais

Mae’n rhaid gwneud cais am rybudd unochrog ar ffurflen UN1 ac mae’r ffi arferol yn daladwy.

3.4.2 Manylion natur hawliad y ceisydd

Mae’n rhaid nodi manylion am natur y budd a hawlir ym mhanel perthnasol ffurflen UN1. Gellir rhoi’r wybodaeth hon naill ai:

  • ar ffurf datganiad gan y buddiolwr neu rywun wedi’i awdurdodi ganddo, neu
  • mewn tystysgrif a roddir gan drawsgludwr

Nid oes angen i’r ceisydd gyflwyno unrhyw ddogfen arall i gefnogi ei gais. Fodd bynnag, os yw’n gwneud hynny, bydd y cofrestrydd yn cadw copi ohoni ac yn cyfeirio ati yng nghofnod y rhybudd. O ganlyniad byddai’r ddogfen ar gael i’r cyhoedd ei harchwilio. Byddwn yn cadw unrhyw ddogfen o’r fath yn electronig, hyd yn oed os yw’n ddogfen wreiddiol, ac yna caiff ei dinistrio (rheol 203(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

3.4.3 Adnabod buddiolwr y rhybudd

Mae’n rhaid i gais am rybudd unochrog nodi pwy sydd i’w enwi yn y cofnod fel buddiolwr y rhybudd a darparu hyd at dri chyfeiriad ar gyfer gohebu i’w cofnodi yn y gofrestr.

Gall y cyfeiriadau fod yn rhai post, DX neu gyfeiriadau electronig, er bod rhaid i un ohonynt fod yn gyfeiriad post, er nad oes rhaid iddo fod yn y DU (mae rheolau 198-9 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhoi rhagor o wybodaeth am gyfeiriadau ar gyfer gohebu a phryd rydym yn ystyried bod gohebu wedi digwydd). Anfonir unrhyw rybudd dileu o ran y rhybudd unochrog at y buddiolwr yn y cyfeiriad(-au) ar gyfer gohebu yn y gofrestr. Lle bo’n briodol gall un cyfeiriad fod ‘o dan ofal’ trawsgludwr y buddiolwr i sicrhau nad yw rhybudd dileu yn cael ei anwybyddu mewn camgymeriad ar ôl ei dderbyn.

3.4.4 Cofrestru buddiolwr newydd neu ychwanegol rhybudd unochrog

Er mwyn cadw’r gofrestr yn gyfoes, gall rhywun sydd â hawl neu wedi cael yr hawl i fantais budd a warchodir gan rybudd unochrog wneud cais i’w gofnodi fel buddiolwr y rhybudd hwnnw.

Rhaid i’r cais fod ar ffurflen UN3 a rhaid cyflwyno’r ffi safonol a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol – gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

3.5 Rhybuddion a gytunwyd

Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir cofnodi rhybudd a gytunwyd yn y gofrestr:

  • trwy, neu gyda chaniatâd y perchennog perthnasol (neu rywun sydd â hawl i’w gofrestru felly), neu
  • yw’r ceisydd yn gallu bodloni’r cofrestrydd bod y budd a hawlir yn ddilys

Nid oes rhaid inni gyflwyno rhybudd i’r perchennog perthnasol cyn cymeradwyo cais am rybudd a gytunwyd a wnaed heb gydweithrediad y perchennog. Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn penderfynu’r cais ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, heb ymgynghori â’r perchennog. Fodd bynnag, os yw’r cais yn un sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na chydweithrediad y perchennog, byddwn bob amser yn rhoi gwybod i’r perchennog bod y cofnod wedi’i wneud wrth gwblhau’r cais. Pan fo’r cais yn un am rybudd a gytunwyd i warchod yr hawl i atgyweirio cangell eglwys, byddwn bob amser yn anfon rhybudd.

Mae’n rhaid i gofnodion o rybuddion a gytunwyd roi manylion y budd a warchodir ganddynt. Gwneir hyn yn aml trwy gyfeirio at ddogfen sy’n disgrifio neu a greodd y budd. Gellir sganio a chadw’r ddogfen ei hun yn electronig a’i gwneud ar gael i’w harchwilio. Unwaith mae’r ddogfen wedi cael ei sganio, caiff ei dinistrio, hyd yn oed os mai’r ddogfen wreiddiol yw.

Byddai enghraifft o rybudd a gytunwyd fel a ganlyn:

“(22 Ionawr 2002) Mae trawsgludiad dyddiedig 17 Gorffennaf 1893 a wnaed rhwng (1) Mawrhydi Ardderchocaf y Frenhines (2) Y Bwrdd Masnach a (3) Comisiynydd Pierau a Harbwr Clayport yn neilltuo rhent o 1s 0c i’r Goron.

NODYN: Copi yn y ffeil.”

3.6 Gwneud cais am rybudd a gytunwyd

3.6.1 Y ffurflen gais

Mae’n rhaid i gais am rybudd a gytunwyd fod ar ffurflen AN1 gyda’r ffi a bennwyd o dan y Gorchymyn Cofrestru Tir cyfredol.

3.6.2 Ceisiadau yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na chaniatâd

Yn ymarferol, mae’n debygol y gwneir y rhan fwyaf o geisiadau o’r fath hon heb ganiatâd y perchennog cofrestredig. Lle bo’r caniatâd ar gael, gweler Ceisiadau a wneir gyda chydweithrediad y perchennog perthnasol.

Lle bo’r cais yn cael ei wneud heb ganiatâd rhaid ei gyflwyno gyda thystiolaeth ddigonol i fodloni’r cofrestrydd ynghylch dilysrwydd hawliad y ceisydd (rheol 81(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Wrth gwrs, bydd y dystiolaeth sy’n ofynnol i fodloni’r cofrestrydd ynghylch dilysrwydd yr hawliad yn amrywio yn ôl y cais. Mae enghreifftiau o’r math o dystiolaeth all fodloni’r cofrestrydd ynghylch dilysrwydd hawliad i’w gweld yn Tystiolaeth o hawliad y ceisydd.

3.6.3 Tystiolaeth o hawliad y ceisydd

Rhyddfraint

Yn achos rhyddfraint mae angen grant y Goron ar ffurf Siarter neu Lythyrau Breinio. Gellir ei hawlio hefyd trwy bresgripsiwn (sy’n rhagdybio defnydd ers cyn 1189 neu grant diweddarach a gollwyd). Mae rheol 217(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gwahaniaethu rhwng:

  • ‘rhyddfraint sy’n effeithio’ – “rhyddfraint sy’n ymwneud ag ardal ddiffiniedig o dir ac sy’n hawl wrthwynebus sy’n effeithio ar, neu sy’n gallu effeithio ar deitl i ystad neu arwystl”, a
  • ‘rhyddfraint gysylltiedig’ – “rhyddfraint nad yw’n rhyddfraint sy’n effeithio”

Gellir cofrestru rhyddfraint. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau.

Ystyrir mai rhyddfreintiau cysylltiedig yw’r rhan fwyaf o ryddfreintiau ac nid ydynt yn fuddion gor-redol am nad ydynt yn effeithio ar dir. Nid oes modd, felly, iddynt fod yn destun cais am rybudd.

Mae awdurdod cryf i gefnogi’r farn mai rhyddfraint gysylltiedig fydd rhyddfraint marchnad. Hyd yn oed os yw’r rhyddfraint marchnad yn ymwneud ag ardal y gellir ei diffinio o hyd, nid yw’n ymddangos ei bod yn rhoi hawl i ddeiliad y rhyddfraint fynd i’r tir heb ganiatâd perchennog y tir, ac felly nid yw’n rhoi hawliau eiddo sy’n effeithio’n wrthwynebus ar deitl unrhyw ystad neu arwystl.

Er mwyn profi dilysrwydd hawliad y ceisydd i ryddfraint sy’n effeithio at ddiben rhybudd a gytunwyd, fel arfer bydd yn rhaid darparu copi ardystiedig (ynghyd â chyfieithiad ardystiedig os yw’r copi o’r ddogfen yn Lladin) o’r Siarter neu Lythyrau Breinio. Byddwn yn derbyn y canlynol fel copi ardystiedig:

  • trawsgript
  • llungopi
  • ffotograff (ar yr amod ei fod yn ddarllenadwy)
  • copi ardystiedig o’r cofnod perthnasol yn y Rholau Siarter neu’r Rholau Patent a ddarperir gan yr Archifau Cenedlaethol (Y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus gynt)
  • copi o ddetholiad o galendr cyhoeddedig o Rolau Siarter a Phatent (ar yr amod bod y detholiad yn cynnwys manylion digonol)

Bydd yn rhaid ein bodloni hefyd y breiniwyd y rhyddfraint yn y ceisydd am y rhybudd a gytunwyd a gall fod angen arnom dystiolaeth ar ffurf datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd ei bod yn cael ei harfer o hyd, ac ystyrir y gofyniad olaf hwn yn angenrheidiol lle hawlir y rhyddfraint trwy bresgripsiwn. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd am wybodaeth ynghylch defnyddio datganiadau o wirionedd i gefnogi ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF.

Hawliau maenoraidd

Yn ei adroddiad Land Registration for the 21st Century – A Conveyancing Revolution (Law Com 271), Barn Comisiwn y Gyfraith yw bod ystyr penodol i ‘hawliau maenoraidd’. Mae hawliau o’r fath yn fwy cyfyngedig na’r hawliau perthynol y tybir eu bod yn gynwysedig mewn trawsgludiad Maenor yn rhinwedd Deddf Cyfraith Eiddo 1925 adran 62(3) (neu Ddeddf Trawsgludo 1881 adran 6(3)). Rhestrwyd yr hawliau o dan sylw yn fanwl ym mharagraffau 5 a 6 Atodlen 12 i Ddeddf Cyfraith Eiddo 1922. Er bod y rhestr hawliau hon yn berthnasol i effaith breinio o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1922, serch hynny gellir ei hystyried yn “ddatganiad cynhwysfawr o’r hawliau hyn” (gweler Law Com 271 ym mhar 8.41). Maent fel a ganlyn:

“(5) An enfranchisement by virtue of this Act of any land (including any mines and minerals hereinafter mentioned) shall not affect any right of the lord or tenant in or to any mines, minerals, limestone, lime, clay, stone, gravel, pits, or quarries, whether in or under the enfranchised land or not, or any right of entry, right of way and search, or other easement or privilege of the lord or tenant in, on, through, over, or under any land, or any powers which in respect of property in the soil might but for the enfranchisement have been exercised for the purpose of enabling the lord or tenant, their or his agents, workmen, or assigns, more effectually to search for, win, and work any mines, minerals, pits or quarries, or to remove and carry away any minerals, limestone, lime, stones, clay, gravel, or other substances had or gotten therefrom, or the rights, franchises, royalties, or privileges of the lord in respect of any fairs, markets, rights of chase or warren, piscaries, or other rights of hunting, shooting, fishing, fowling, or otherwise taking game, fish, or fowl.

Provided that the owner of the enfranchised land shall, notwithstanding any reservation of mines or minerals in this Act (but without prejudice to the rights to any mines or minerals, or the right to work or carry away the same), have full power to disturb or remove the soil so far as is necessary or convenient for the purpose of making roads or drains or erecting buildings or obtaining water on the land.

(6) An enfranchisement by virtue of this Act shall not affect any liability subsisting at the commencement of this Act (whether arising by virtue of a court leet regulation or otherwise) for the construction maintenance cleansing or repair of any dykes, ditches, canals, sea or river walls, piles, bridges, levels, ways and other works required for the protection or general benefit of any land within a manor or for abating nuisances therein; and any person interested in enforcing the liability may apply to the court to ascertain or apportion the liability and to charge the same upon or against the land or any interest therein; and the court may make such order as it thinks fit; and the charge when made by the order shall be deemed to be a land charge within the meaning of the Land Charges Registration and Searches Act, 1883 (as amended by any subsequent enactment), and may be registered accordingly; and, in addition, the jurisdiction of any court leet, customary or other court, in reference to the matter is hereby transferred to the court.”

Mae’r cofrestrydd yn rhannu’r un farn. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod sawl barn wahanol ar hyn.

Er mwyn profi dilysrwydd ei hawliad at ddiben rhybudd a gytunwyd fel arfer bydd yn rhaid i’r ceisydd gyflwyno:

  • tystiolaeth bod y tir o dan sylw yn gopi-ddaliad y faenor o dan sylw gynt (fel arfer gwneir hyn trwy gyflwyno copi o’r weithred freinio neu gytundeb iawndal)
  • tystiolaeth ei fod yn ddefod y faenor o dan sylw bod gan yr arglwydd yr hawliau a hawlir, er enghraifft trwy dystiolaeth o rolau’r llys
  • tystiolaeth bod yr hawliau o dan sylw wedi goroesi breinio (fel arfer gwneir hyn trwy gyflwyno copi o’r weithred freinio neu gytundeb iawndal)
  • tystiolaeth o deitl y ceisydd i’r hawliau maenoraidd penodol a hawlir (bydd hyn fel arfer yn cynnwys crynodeb neu dalfyriad teitl sy’n dangos teitl y ceisydd i arglwyddiaeth y faenor a bod yr hawliau heb gael eu hollti o’r arglwyddiaeth)

Mewn achos lle bo bwriad gwneud cais am gofrestriad safonol mwynfeydd a mwynau (sy’n fudd corfforeol) gweler cyfarwyddyd ymarfer 65: cofrestru mwynfeydd a mwynau. Ni ddylid drysu’r ceisiadau hyn â cheisiadau i warchod hawliau maenoraidd (sy’n fudd anghorfforeol). Nid yw adran 117 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn effeithio ar gofrestriad safonol mwynfeydd a mwynau.

Rhent y Goron

Mae rhent y Goron yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r:

  • rhent sy’n daladwy i’r Goron am dir rhydd-ddaliol mewn maenor hen ddemên, neu’r
  • rhent a neilltuwyd i’r Goron o dan grant ystad rydd-ddaliol, p’un ai a oedd yr ystad honno mewn maenor hen ddemên ai peidio

Fel arfer bydd yn rhaid i’r ceisydd gyflwyno copi o’r grant y mae’r rhent y Goron yn deillio ohono, a lle nad y Goron yw’r ceisydd, tystiolaeth o ddisgyniad rhent y Goron i’r ceisydd a chadarnhad bod rhent y Goron i’w dalu o hyd.

Hawl anstatudol o ran arglawdd neu fur môr neu afon

Mae hawl anstatudol o ran arglawdd neu fur môr neu afon yn berthnasol i atebolrwydd perchen (yn hytrach na chytundebol) sydd wedi codi trwy grant, cyfamod a gefnogir gan rent-dâl, presgripsiwn, defod neu ddeiliadaeth. Lle bo’r atebolrwydd wedi codi trwy grant neu gyfamod a gefnogir gan rent-dâl, bydd yn rhaid i’r ceisydd fel arfer gyflwyno copi o’r weithred y deilliodd yr hawl ohoni a thystiolaeth o ddisgyniad yr hawl i’r ceisydd.

Lle bo’r hawl wedi codi trwy bresgripsiwn neu ddefod, bydd yn rhaid i’r ceisydd fel arfer gyflwyno datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd sy’n disgrifio sut y cododd yr hawl a sut aeth ei budd i’r ceisydd. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd am wybodaeth ynghylch defnyddio datganiadau o wirionedd i gefnogi ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF.

Mae’n debyg y bydd atebolrwydd sy’n codi o ganlyniad i ddeiliadaeth yn anghyffredin iawn oherwydd ymddengys na allai unrhyw atebolrwydd o’r fath godi trwy grant ar ôl 1189 heblaw grant gan y Goron. Lle bo gan y ceisydd dystiolaeth o grant o’r fath dylid ei chyflwyno yn ogystal â thystiolaeth sy’n dangos sut y mae budd yr hawl yn breinio yn y ceisydd. Fodd bynnag, y farn yw ei fod yn fwy tebygol na fydd copi o’r grant ar gael mewn achosion o’r fath a bydd cais i brofi bodolaeth atebolrwydd deiliadol trwy ddangos (trwy dystiolaeth datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd) bod perchnogion dilynol y tir o dan sylw wedi cynnal a chadw’r arglawdd, mur môr neu afon am lawer o flynyddoedd.

Hawl i daliad yn lle degwm

Ymddengys mai’r unig daliadau yn lle degwm sy’n dal i fodoli yw’r rheiny sy’n daladwy allan o dir neu yn cael eu codi ar dir trwy unrhyw Ddeddf Seneddol heblaw un o’r Deddfau Degwm. Gelwir y taliadau hyn yn ‘rhenti ŷd’ yn aml ond dylid nodi nad yw pob taliad a elwir yn ‘rhent ŷd’ yn cael ei dalu yn lle degwm.

Fel arfer bydd yn rhaid i’r ceisydd gyflwyno tystiolaeth ynghylch y ddarpariaeth statudol sy’n sail i’r taliad, tystiolaeth bod budd yr hawl i’r taliad wedi disgyn i’r ceisydd a chadarnhad bod y taliad i’w dalu o hyd.

Hawl o ran atgyweirio cangell eglwys

Atebolrwydd atgyweirio cangell yw atebolrwydd perchennog y tir i dalu am atgyweirio cangell eglwys plwyf (gweler Aston Cantlow a Wilmcote gyda Chyngor Plwyfol Eglwysig Billesley yn erbyn Wallbank [2003] UKHL 37). Yng Nghymru, mae gan Gorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru’r hawl i gasglu’r arian ac yn Lloegr, mae gan y cyngor plwyfol eglwysig yr hawl. Gall fod atebolrwydd lle’r oedd tir gynt ynghlwm â rheithordy. Nid oes rhaid i gyn dir rheithorol o’r fath fod yn agos i adeilad eglwys. Ymhlith y perchnogion mae hyn yn effeithio arnynt mae unigolion preifat, corfforaethau eglwysig, prifysgolion a cholegau a chyrff corfforaethol eraill. Gelwir y perchnogion hyn yn rheithorion lleyg.

Mae rhai wedi dadlau nad yw atebolrwydd atgyweirio cangell yn fudd mewn tir y gellir ei warchod trwy rybudd. Ar hyn o bryd mae Cofrestrfa Tir EF yn gweithredu ar y sail ei fod yn fudd o’r fath. Ond byddwn yn cyflwyno rhybudd i’r perchennog cyn cofnodi rhybudd a gytunwyd.

Fel arfer bydd yn rhaid i’r ceisydd gyflwyno datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd sy’n manylu sut cododd yr atebolrwydd a sut mae budd yr hawl i’w orfodi wedi disgyn i’r ceisydd. Lle bo’r atebolrwydd neu ei fudd wedi bod yn destun gweithred, dylid cyflwyno copi o’r weithred os yw ar gael i’r ceisydd. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd am wybodaeth ynghylch defnyddio datganiadau o wirionedd i gefnogi ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF.

3.6.4 Ceisiadau a wneir gyda chydweithrediad y perchennog perthnasol

Oni bai fod y ceisydd yn gallu bodloni’r cofrestrydd bod y budd a hawlir yn ddilys, bydd yn rhaid i’r cais gael ei wneud gan neu gyda chaniatâd y perchennog perthnasol neu gan neu gyda chaniatâd rhywun â hawl i wneud cais i’w gofrestru fel y perchennog perthnasol.

Lle bo hawl gan y ceisydd (neu’r sawl sy’n rhoi ei ganiatâd) i’w gofrestru fel perchennog, bydd yn rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r hawl honno. Dyma dair enghraifft gyffredin lle gall fod gan rywun hawl i’w gofrestru fel perchennog:

  • mae wedi derbyn trosglwyddiad o’r ystad neu arwystl yn ddiweddar ond nid yw’n gofrestredig fel perchennog eto. Er enghraifft, lle cyflwynir ffurflen AN1 ar yr un pryd â’r cais i gofrestru
  • bu farw’r unig berchennog perthnasol a’r ceisydd yw’r cynrychiolydd personol y ceisydd yw ymddiriedolwr mewn methdaliad y perchennog perthnasol ac mae’r ystad neu arwystl yn rhan o ystad y methdalwr

Lle bo cydberchnogion neu rywrai sydd â hawl i’w cydgofrestru fel y perchennog perthnasol, bydd yn rhaid iddynt i gyd gydsynio neu ymuno fel ceiswyr.

Mae modd rhoi unrhyw ganiatâd a gyflwynir gyda’r cais ym mhanel 15 ffurflen AN1 neu gellir ei gyflwyno ar wahân.

3.7 Amrywio budd a nodwyd

Lle bo budd a nodwyd yn y gofrestr yn cael ei amrywio, dylid gwarchod blaenoriaeth y budd, fel y’i hamrywiwyd, yn y gofrestr – gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr am ragor o wybodaeth.

3.8 Dileu a thynnu rhybuddion o’r gofrestr

3.8.1 Dileu rhybudd unochrog

‘Dileu’ rhybudd unochrog yw’r term a ddefnyddir (adran 36 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) i ddisgrifio’r drefn lle bo angen i fuddiolwr y rhybudd brofi dilysrwydd y budd a hawlir. Os nad yw’n gallu gwneud hyn, caiff y rhybudd ei ddileu.

Dim ond y perchennog perthnasol (neu rywun â hawl i’w gofrestru fel y perchennog perthnasol) sydd â hawl i ddileu rhybudd unochrog ond gall wneud hyn ar unrhyw amser heb roi ei resymau.

Os yw’r cais yn cael ei wneud gan rywun â hawl i’w gofrestru fel y perchennog perthnasol, bydd yn rhaid i’r ceisydd ddarparu tystiolaeth o’i hawl hefyd. Bydd y cofrestrydd yn derbyn tystysgrif trawsgludwr i gadarnhau hawl y ceisydd.

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd unochrog ar ffurflen UN4 (adran 36 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 86 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes ffi am wneud y cais.

Pan fydd y cofrestrydd yn derbyn cais i ddileu rhybudd unochrog bydd yn cyflwyno rhybudd o’r cais i’r buddiolwr, sy’n cael cyfnod penodedig o 15 diwrnod gwaith i wrthwynebu’r cais. Os nad yw’r buddiolwr yn gwrthwynebu’r cais o fewn y cyfnod hwnnw, neu unrhyw estyniad, caiff y rhybudd ei ddileu.

Os yw’r buddiolwr yn gwrthwynebu, bydd yn rhaid iddo esbonio’r sail i’w wrthwynebiad oherwydd y byddwn yn ystyried yn gyntaf a oes gan ei wrthwynebiad unrhyw gyfle o lwyddo. Os nad yw’n gallu llwyddo, caiff ei ddileu (adran 73(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Er mwyn llwyddo bydd yn rhaid i’r buddiolwr ddarparu manylion y gyfraith neu ffeithiau sy’n rhoi hawl iddo gael y rhybudd.

Unwaith rydym wedi penderfynu nad yw gwrthwynebiad yn ddi-sail byddwn yn rhoi manylion i’r ceisydd. Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a ddylid dileu’r rhybudd nad oes modd ei ddatrys trwy gytundeb, caiff ei gyfeirio at is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau – cyfarwyddyd i ymarfer a threfnau Cofrestrfa Tir EF a chyfarwyddyd ymarfer 38: costau am ragor o wybodaeth.

3.8.2 Tynnu rhybudd unochrog ymaith

Rhaid i gais i dynnu rhybudd unochrog ymaith gael ei wneud gan y buddiolwr cofrestredig, ei gynrychiolydd personol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad neu gan drawsgludwr ar ran y ceisydd.

Rhaid gwneud y cais ar ffurflen UN2 (rheol 85 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes ffi am gais i dynnu rhybudd unochrog ymaith.

3.8.3 Dileu rhybudd a gytunwyd

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd a gytunwyd ar ffurflen CN1 (rheol 87 o Reolau Cofrestru Tir 2003) a rhaid iddo ddod â thystiolaeth briodol i fodloni’r cofrestrydd bod y budd a warchodir wedi dod i ben. Nid oes ffi am wneud y cais.

Nid yw Deddf Cofrestru Tir 2002 na Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn cyfyngu ar bwy sy’n gallu gwneud cais i ddileu, ond ni all y cofrestrydd gymeradwyo’r cais os nad yw’n fodlon bod y budd a warchodir wedi dod i ben. Os yw’r budd a warchodir gan y rhybudd wedi dod i ben yn rhannol yn unig, bydd yn rhaid i’r cofrestrydd wneud cofnod priodol.

4. Rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf

Lle bo budd gor-redol yn effeithio ar ystad gyfreithiol sy’n ddigofrestredig, gall y sawl sydd â mantais y budd hwnnw wneud cais i gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Am ragor o wybodaeth am rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn gyffredinol gweler cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf.

Yn achos rhyddfraint sy’n effeithio mae modd cofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf y rhyddfraint honno ac yn erbyn cofrestriad unrhyw ystad mewn tir y mae’n effeithio arni. Er bod modd cofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf rhyddfraint sy’n effeithio (yn hytrach nag yn erbyn y tir mae’n gysylltiedig ag ef), ni fydd rhybuddiad o’r fath yn gwarchod yn erbyn cais am gofrestriad cyntaf y tir mae’n gysylltiedig ag ef, am nad yw’n effeithio (sy’n golygu nad oes gan berchennog y rhyddfraint gysylltiedig hawl i fudd sy’n effeithio ar ystad gymwys yn ôl adran 15(1)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ar y tir hwnnw.

4.1 Natur ac effaith rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf

Mae effaith rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf yn gyfyngedig iawn. Mae’n rhoi hawl i’r rhybuddiwr gael rhybudd gan y cofrestrydd o unrhyw gais am gofrestriad cyntaf sy’n effeithio ar y tir a gynhwysir yn y rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf (adran 16 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) neu pan fydd perchennog yr ystad gyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r rhybuddiad yn gwneud cais i ddileu’r rhybuddiad (adran 18(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Ar dderbyn y rhybudd mae’n rhaid i’r rhybuddiwr benderfynu, o fewn y cyfnod rhybudd penodedig (gweler rheol 197 o Reolau Cofrestru Tir 2003), a yw am wrthwynebu’r cais am gofrestriad cyntaf. Am ragor o wybodaeth am yr ymarfer a threfnau sy’n berthnasol i wrthwynebiadau gweler cyfarwyddyd ymarfer 37: Gwrthwynebiadau ac anghydfodau – cyfarwyddyd i ymarfer a threfnau Cofrestrfa Tir EF.

Nid oes gan rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf unrhyw effaith arall yn y gyfraith ac yn benodol nid yw’n cadarnhau dilysrwydd budd y rhybuddiwr neu roi unrhyw flaenoriaeth iddo.

4.2 Y ddyletswydd i ymddwyn yn rhesymol

Ni ddylai rhywun gyflwyno rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf heb achos rhesymol. Os yw’n gwneud hynny, bydd arno ddyletswydd i unrhyw un sy’n dioddef niwed, a gall y sawl yr effeithir arno’n wrthwynebus ddwyn achos am iawndal (adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.3 Gwneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf

4.3.1 Ffurflen gais

Rhaid gwneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf ar [ffurflen CT1], gan amgáu’r ffi a bennwyd o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

4.3.2 Stent y tir y sy’n destun y rhybuddiad

Mae’n rhaid i’r ffurflen CT1 roi manylion digonol i’n galluogi i adnabod stent y tir sy’n destun y rhybuddiad ar fap yr Arolwg Ordnans (rheol 42 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn rhaid darparu cynllun oni bai fod disgrifiad post yn dynodi’r eiddo. Lle bo cynllun yn cael ei ddefnyddio bydd yn rhaid ei baratoi i raddfa briodol a dangos yn glir, trwy ymylu neu gyfeirnod arall, stent penodol y tir sydd i fod yn destun y rhybuddiad. Os nad ydych yn darparu cynllun ac nad oes modd inni adnabod yr eiddo fel arall, byddwn yn gwrthod y cais am rybuddiad.

Nid yw rhyddfreintiau cysylltiedig yn effeithio ar dir ond gellir cyflwyno rhybuddiad o ran cofrestriad cyntaf rhyddfraint o’r fath – gweler Rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Os yw mewn trefn caiff y rhybuddiad ei gofrestru yn y mynegai disgrifiadau geiriol a gedwir o dan reol 10(1)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

4.3.3 Manylion natur hawl y rhybuddiwr

Rhaid nodi manylion am natur y budd a hawlir gan y rhybuddiwr ym mhanel 10 ffurflen CT1, sy’n ddatganiad o wirionedd a wneir naill ai gan neu ar ran y rhybuddiwr neu gan drawsgludwr:

  • ar ffurf datganiad statudol
  • mewn tystysgrif a roddir gan drawsgludwr

Nid oes yn rhaid i’r rhybuddiwr gyflwyno unrhyw ddogfen arall i gefnogi ei hawl.

5. Buddion nad ydynt yn cael eu gwarchod gan rybudd neu rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf cyn 13 Hydref 2013

Os na warchodwyd un o’r buddion a drafodir yn y cyfarwyddyd trwy rybudd neu rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf cyn 13 Hydref 2013, ni ddaethant i ben yn awtomatig ar y dyddiad hwnnw. Disgrifir y sefyllfa isod.

Rhaid i’r llysoedd ystyried o hyd a fydd yn bosibl a phryd, ar ôl 12 Hydref 2013, i ddaliwr budd newid y gofrestr fel bod rhybudd yn cael ei gofnodi lle y mae’r perchennog cofrestredig yn rhydd o’r budd yn dilyn cofrestriad cyntaf neu’n dilyn cofrestriad gwarediad am gydnabyddiaeth â gwerth. Rhaid iddynt ystyried hefyd a fydd indemniad fyth yn daladwy lle na ellir newid y gofrestr yn y ffordd hon.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn parhau i dderbyn ceisiadau i gofrestru rhybuddion i warchod buddion gor-redol a gollodd eu gwarchodaeth awtomatig ar ôl 13 Hydref 2013 ac ni fydd yn edrych i weld a yw’r perchennog cofrestredig wedi newid oddi ar y dyddiad hwn cyn parhau â’r cais.

5.1 Cafodd y tir ei gofrestru ar ôl 12 Hydref 2013

Cyn cofrestriad cyntaf bydd unrhyw fuddion o’r fath yn rhwymo perchennog cyfreithiol y tir am fod pob un ohonynt yn fudd cyfreithiol. Ar gofrestriad cyntaf bydd yn dal yr ystad yn rhydd o’r cyfryw fuddion oni bai eu bod wedi eu gwarchod trwy rybudd ar adeg cofrestriad cyntaf.

Pan wneir cais am gofrestriad cyntaf, bydd y cofrestrydd yn cofnodi baich budd sy’n ymddangos wrth iddo archwilio’r teitl ei fod yn effeithio ar yr ystad gofrestredig rheol 35 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

5.2 Cafodd y tir ei gofrestru cyn 13 Hydref 2013

Hyd yn oed os yw’r budd heb gael ei warchod trwy gofnodi rhybudd yn y gofrestr, bydd y tir yn ddarostyngedig iddo o hyd. Ond, oni bai y cofnodir rhybudd o’r fath, bydd rhywun sy’n caffael yr ystad gofrestredig am gydnabyddiaeth â gwerth trwy warediad cofrestradwy ar ôl 12 Hydref 2013 yn rhydd o’r budd hwnnw (adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Hyd y cofrestrir y cyfryw warediad gall y sawl sydd â mantais y budd wneud cais i’w warchod trwy gofnodi rhybudd.

6. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.