Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 13: chwiliadau swyddogol o'r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau

Diweddarwyd 3 April 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw mynegai o ddisgrifiadau geiriol o ryddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig ac o faenorau cofrestredig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Caiff unrhyw un wneud cais, ar ffurflen SIF, am chwiliad swyddogol o’r mynegai (rheol 146 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Bydd tystysgrif y canlyniad yn dangos a oes unrhyw ryddfraint gysylltiedig neu faenor gofrestredig yn berthnasol i’r ardal(oedd) gweinyddol a chwiliwyd ynghyd â’r rhifau teitl sy’n effeithio a’r math o gofrestriad. Mae Mynegai disgrifiadau geiriol yn rhestru’r gwahanol fathau o gofrestriad y bydd modd eu datgelu trwy chwiliad swyddogol o’r mynegai.

2. Rhyddfraint

Hawl neu fraint a roddwyd gan y Goron yw rhyddfraint. Mae enghreifftiau’n cynnwys hawl i godi toll neu hawl i gynnal ffair neu farchnad. Mae’n hawl anniriaethol. Nid yw’n cynnwys perchnogaeth y tir diriaethol ac mae ar wahân i unrhyw rydd-ddaliad neu fuddion prydlesol yn y tir ei hun. Yn iaith y gyfraith, mae’n hereditament anghorfforol. Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu cofrestru rhyddfraint gyda’i theitl ei hun. Yn y cyd-destun hwn nid yw rhyddfraint yn cynnwys unrhyw hawliau masnachol/masnachu na chreu corfforaeth siartredig nad oes ganddynt unrhyw effaith uniongyrchol ar eiddo.

Yn 2003 byddai’n anodd diffinio rhyddfraint a roddwyd gan gyfeirio at ‘City of Sunlight’ yn 1189 oherwydd y bydd terfynau’r ddinas wedi newid yn sylweddol. Caiff y fath hon o ryddfraint ei galw’n ‘rhyddfraint gysylltiedig’ gan ei bod yn berthnasol dim ond yn gyffredinol i ardal. Nid ydym yn paratoi cynllun teitl ar gyfer cofrestru rhyddfraint gysylltiedig a bydd yn cael ei chofnodi yn y mynegai geiriol. Ar y llaw arall, caiff ‘rhyddfraint sy’n effeithio’, y gellir ei diffinio fel un sy’n effeithio ar ardal, ei mynegeio ar y map mynegai.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau: cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ryddfreintiau. Mae cyfarwyddyd ymarfer 10: y map mynegai: chwiliad swyddogol yn egluro sut i chwilio’r map mynegai er mwyn gweld a yw rhyddfraint sy’n effeithio wedi ei chofrestru.

3. Maenor

Mae’r maenorau cofrestredig sy’n ymddangos yn y mynegai yn rhai ar gyfer teitlau arglwyddiaeth. Enw ar arglwydd y faenor yn unig yw arglwyddiaeth y faenor. Mewn llawer achos ni fydd unrhyw dir na hawliau ynghlwm wrth y teitl mwyach. Oherwydd ei darddiad a diffyg sylwedd diriaethol mae hefyd yn cael ei alw’n hereditament anghorfforol. Nid oes cynlluniau teitl ar gyfer y cofrestriadau hyn ac nid ydym yn dal unrhyw gofnod swyddogol o faint y faenor wreiddiol.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 22: maenorau: teitlau a hawliau maenoraidd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am dir maenoraidd.

4. Mynegai disgrifiadau geiriol

Rhaid i Gofrestrfa Tir EF gadw mynegai sy’n fodd i gael gwybod a oes unrhyw ystadau cofrestredig neu rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn berthnasol i ddarn o dir (adran 68 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Am nad oes modd penderfynu maint rhyddfraint gysylltiedig neu faenor yn fanwl gywir, daliwn y wybodaeth mewn mynegai disgrifiadau geiriol yn dwyn yr enw mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Trefnwyd y mynegai yn ôl ardal weinyddol ac mae’n cynnwys rhifau teitl a manylion y mathau canlynol o gofrestriad.

  • ceisiadau am gofrestriad cyntaf teitl i ryddfreintiau cysylltiedig sy’n aros i’w prosesu
  • ceisiadau sy’n aros i’w prosesu am rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
  • rhyddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig
  • maenorau cofrestredig
  • rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad

5. Sut i gael gwybodaeth sy’n cael ei dal yn y mynegai

5.1 Ffurflen SIF

Rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen benodedig SIF i wneud cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai.

Sylwer: byddwn yn gwrthod unrhyw gais am chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig nad ydynt ar y ffurflen benodol.

Gallwch ddefnyddio ffurflen SIF i chwilio ardaloedd gweinyddol yn unig. Bydd cofnodion yn y mynegai yn cael eu cofnodi ar gyfer yr ardal(oedd) weinyddol sy’n berthnasol iddynt.

Ar unrhyw chwiliad rhaid i chi ddyfynnu’r holl ardaloedd gweinyddol presennol sy’n berthnasol i’r tir o dan sylw. At ddibenion ceisiadau ar ffurflen SIF, ardal weinyddol yw sir neu awdurdod unedol.

Mae rhestr o’r ardaloedd gweinyddol, ynghyd â manylion swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF sy’n eu gwasanaethu, i’w cael yn Atodiad A i’r cyfarwyddyd hwn. Byddwn yn gwrthod unrhyw gais nad yw’n cyfeirio at ardal weinyddol ar y rhestr.

Byddwn yn anwybyddu unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd fel disgrifiad eiddo manwl neu gynllun. Byddwn yn prosesu’r cais trwy gyfeirio at yr ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd yn unig.

Os nad yw panel 1 ffurflen SIF wedi ei gwblhau, byddwn yn cwblhau’r cais ar gyfer rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau.

5.2 Ffïoedd

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w dalu am y gwasanaeth hwn.

5.3 Cyflwyno eich cais

I ganfod ble i anfon eich cais wedi’i gwblhau, gweler Cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.

5.4 Tystysgrif canlyniad

Lle bo modd, bydd tystysgrif y canlyniad yn cael ei hanfon gyda throad y post. Lle bo’r chwiliad yn dangos bod cofnodion yn y mynegai’n ymwneud â’r ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd, bydd y dystysgrif yn cynnwys detholiad o’r mynegai. Lle nad oes unrhyw gofnodion i’w dadlennu, bydd y dystysgrif yn cynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

6. Ymholiadau

Os oes gennych bryder arbennig sydd heb gael sylw yn y cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF cyn unrhyw chwiliad. Os yw’r broblem yn arbennig o gymhleth, gall fod yn well i chi wneud eich ymholiad yn ysgrifenedig yn swyddfa Cofrestrfa Tir EF fydd yn prosesu eich cais.

7. Atodiad A

Trefnwyd y mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau yn ôl ardal weinyddol. Dengys y tabl yr holl ardaloedd gweinyddol sy’n addas at ddibenion cais ffurflen SIF gyda swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF sy’n eu gwasanaethu.

Ardal weinyddol Swyddfa Cofrestrfa Tir EF
Lloegr    
Barnsley Nottingham  
Bedford Peterborough  
Birmingham Coventry  
Blackburn gyda Darwen Fylde  
Blackpool Fylde  
Bolton Fylde  
Bournemouth, Christchurch a Poole Weymouth  
Bracknell Forest Caerloyw  
Bradford Nottingham  
Brighton a Hove (Dinas) Portsmouth  
Bryste (Dinas) Caerloyw  
Bury Fylde  
Caerefrog Durham  
Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf Plymouth  
Caerlŷr Caerlŷr  
Caint Nottingham  
Calderdale Nottingham  
Cernyw Plymouth  
Cilgwri Penbedw  
Coventry Coventry  
Cumberland Durham  
Darlington Durham  
De Swydd Gaerloyw Caerloyw  
De Tyneside Durham  
Derby (Dinas) Nottingham  
Doncaster Nottingham  
Dorset Weymouth  
Dudley Coventry  
Dwyrain Essex Coventry  
Dwyrain Sussex Portsmouth  
Dwyrain Swydd Gaer Penbedw  
Dyfnaint Plymouth  
Essex Peterborough  
Gateshead Durham  
Glannau Mersi Penbedw  
Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln Kingston upon Hull  
Gogledd Gwlad yr Haf Plymouth  
Gogledd Swydd Gaerefrog Durham  
Gogledd Swydd Lincoln Kingston upon Hull  
Gogledd Swydd Northampton Caerlŷr  
Gogledd Tyneside Durham  
Gorllewin Berkshire Caerloyw  
Gorllewin Sussex Portsmouth  
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer Penbedw  
Gorllewin Swydd Northampton Caerlŷr  
Gwlad yr Haf Plymouth neu Weymouth  
Halton Penbedw  
Hartlepool Durham  
Hampshire Weymouth  
Kingston upon Hull (Dinas) Kingston upon Hull  
Kirklees Nottingham  
Knowsley Penbedw  
Leeds Nottingham  
Lerpwl Penbedw  
Luton Peterborough  
Manceinion Fylde  
Medway Nottingham  
Middlesbrough Durham  
Milton Keynes Caerlŷr  
Newcastle upon Tyne Durham  
Norfolk Kingston upon Hull  
Northumberland Durham  
Nottingham (Dinas) Nottingham  
Oldham Fylde  
Peterborough (Dinas) Peterborough  
Plymouth (Dinas) Plymouth  
Portsmouth Weymouth  
Reading Caerloyw  
Redcar a Cleveland Durham  
Rochdale Fylde  
Rotherham Nottingham  
Rutland Caerlŷr  
St Helens Penbedw  
Salford Fylde  
Sandwell Coventry  
Sefton Penbedw  
Sheffield Nottingham  
Slough Caerloyw  
Solihull Coventry  
Southampton Weymouth  
Southend-on-Sea Peterborough  
Stockport Fylde  
Stockton-on-Tees Durham  
Stoke-on-Trent (Dinas) Penbedw  
Suffolk Kingston upon Hull  
Sunderland Durham  
Surrey Durham  
Swindon Weymouth  
Swydd Amwythig Telford  
Swydd Bedford Ganolog Peterborough  
Swydd Buckingham Caerlŷr  
Swydd Derby Nottingham  
Swydd Durham Durham  
Swydd Gaer Telford  
Swydd Gaergrawnt Peterborough  
Swydd Gaerhirfryn Fylde  
Swydd Gaerloyw Caerloyw  
Swydd Gaerlŷr Caerlŷr  
Swydd Gaerwrangon Coventry  
Swydd Henffordd (Sir) Telford  
Swydd Hertford Caerlŷr  
Swydd Lincoln Kingston upon Hull  
Swydd Nottingham Nottingham  
Swydd Rydychen Caerloyw  
Swydd Stafford Penbedw  
Swydd Warwig Caerloyw  
Tameside Fylde  
Thurrock Peterborough  
Torbay Plymouth  
Traean Dwyreiniol Swydd Gaerefrog Kingston upon Hull  
Trafford Fylde  
Wakefield Nottingham  
Walsall Coventry  
Warrington Penbedw  
Westmorland and Furness Durham  
Wigan Fylde  
Wiltshire Weymouth  
Windsor a Maidenhead Caerloyw  
Wokingham Caerloyw  
Wolverhampton (Dinas) Coventry  
Wrekin (Sir) (a elwir hefyd The Wrekin) Telford  
Ynysoedd Sili Plymouth  
Ynys Wyth Weymouth  
Awdurdodau Llundain    
Barking a Dagenham Telford  
Barnet Abertawe  
Bexley Croydon  
Brent Abertawe  
Bromley Croydon  
Camden Croydon  
Croydon Croydon  
Dinas a Sir Dinas Llundain Abertawe  
Dinas Westminster Croydon  
Ealing Abertawe  
Enfield Abertawe  
Greenwich Telford  
Hackney Abertawe  
Hammersmith a Fullham Penbedw  
Haringey Abertawe  
Harrow Abertawe  
Havering Penbedw  
Hillingdon Abertawe  
Hounslow Abertawe  
Islington Abertawe  
Kensington a Chelsea Penbedw  
Kingston upon Thames Croydon  
Lambeth Telford  
Lewisham Telford  
Merton Croydon  
Newham Telford  
Redbridge Penbedw  
Richmond upon Thames Telford  
Southwark Telford  
Sutton Croydon  
Tower Hamlets Abertawe  
Waltham Forest Abertawe  
Wandsworth Telford  
Y Deml Fewnol a’r Deml Ganol Abertawe  
Cymru Ymdrinnir â phob ardal gan Swyddfa Abertawe  
Abertawe    
Blaenau Gwent    
Bro Morgannwg    
Caerdydd    
Caerffili    
Casnewydd    
Castell-nedd Port Talbot    
Ceredigion    
Conwy    
Gwynedd    
Merthyr Tudful    
Pen-y-bont ar Ogwr    
Powys    
Rhondda Cynon Taf    
Sir Benfro    
Sir Ddinbych    
Sir Fynwy    
Sir y Fflint    
Sir Gaerfyrddin    
Sir Geredigion    
Tor-faen    
Wrecsam    
Ynys Môn    

8. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.