Adroddiad corfforaethol

Cynllun busnes Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus: 2017 i 2018 (fersiwn y we)

Diweddarwyd 24 September 2020

Applies to England and Wales

Cyflwyniad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus a phrif weithredwr

Alan Eccles, Gwarcheidwad Cyhoeddus a phrif weithredwr.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 eleni, yn yr un modd â Deddf Galluedd Meddyliol (2005) a sefydlodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn 2007.

Dros y degawd diwethaf rydym wedi trawsnewid ein gwasanaethau a sut rydym yn gweithio. Bydd hyn yn parhau wrth i ni edrych at y 3 blynedd diwethaf a’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn.

Yn ystod 2016 i 2017, rydym unwaith eto wedi gweld niferoedd uwch nag erioed o bobl yn gwneud cais am atwrneiaeth arhosol (LPA), gan gyrraedd y garreg filltir o 2 filiwn LPA ar y gofrestr ym mis Hydref.

Rydym yn parhau i drawsnewid y busnes i reoli’r cynnydd mewn galw, ac rydym yn falch o fod wedi bodloni neu uchafu ar rai targedau gwasanaeth cwsmeriaid a oedd yn gofyn llawer.

Fel asiantaeth weithredol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (WG), mae ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn a ddaw yn alinio gydag amcanion strategol yr WG o drawsnewid yr adran a darparu cefnogaeth barhaol ar gyfer oedolion agored i niwed.

Ymhlith y pethau y byddwn yn canolbwyntio arnynt eleni mae:

  • hyrwyddo ein gwasanaethau yn ehangach - gan geisio cyrraedd y sawl gallai fod yn meddwl na fod LPAs ar eu cyfer
  • gwella ein hoffer digidol - ehangu ein system rheoli achosion i gynnwys arolygu ac archwilio staff, a dod â systemau adrodd ar-lein i ddirprwyon awdurdodau cyhoeddus
  • parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu - gan weithio gyda phartneriaid sydd â dyletswydd i ddiogelu oedolion mewn perygl
  • datblygu ein pobl - trwy ein strategaeth pobl gyntaf un a’n cynllun gweithredu.

Yn dilyn ein hadroddiad i’r senedd yn ôl yn 2014, byddwn hefyd yn ystyried a yw’r newidiadau a wnaethom yn dilyn yr adolygiad arolygu wedi cyflwyno’r buddion a ragwelwyd gennym.

Yn olaf, wrth i ni agosáu at ein degfed mlynedd, byddwn yn dathlu yr hyn rydym wedi ei gyflawni ac yn edrych ymlaen at y cyfle i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r egwyddorion sydd wedi’u hymgorffori ynddi.

Alan Eccles

Gwarcheidwad Cyhoeddus a phrif weithredwr

Ynglŷn â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OGP) yn cefnogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gynnal swyddogaethau cyfreithiol Deddf Galluedd Meddyliol 2005.Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl yng Nghymru a Lloegr sydd efallai heb y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol eu hunain, megis am eu hiechyd neu faterion ariannol.

Rydym hefyd yn helpu pobl i gynllunio ymlaen llaw i rywun wneud penderfyniadau pwysig penodol drostynt, pe byddent yn methu â gwneud hynny oherwydd bod ganddynt ddiffyg galluedd meddyliol.

Rydym yn gyfrifol am:

  • gofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus (LPA ac EPA) er mwyn i bobl allu dewis pwy maen nhw eisiau i wneud penderfyniadau penodol drostynt, pe byddent yn colli’r galluedd i wneud y penderfyniadau hynny eu hunain

  • cynnal y gofrestr gyhoeddus o atwrneiod a dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod

  • goruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod, gan sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau gyda buddion pennaf eu cleientiaid mewn cof ac yn unol â gofynion y Ddeddf Galluedd Meddyliol

  • cynnal ymchwiliadau a gweithredu pan fod yna bryderon am atwrnai nei ddirprwy

Cenhadaeth

Cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau trwy hyrwyddo a chynnal egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Gweledigaeth

Mae gan OPG enw da am ragoriaeth, arloesi a gofal, gyda’n defnyddwyr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Diben

Gweithio i hyrwyddo gwneud penderfyniadau a’r hawl i ddewis. Ble mae gan bobl ddiffyg galluedd, rydym yn cefnogi’r sawl sy’n gweithredu ar eu rhan i wneud penderfyniadau da. Rydym yn creu’r diwylliant a’r amodau i’n staff ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n hygyrch ac yn fforddiadwy.

Themâu strategol

Mae ein strategaeth yn amlinellu cyfeiriad yr OPG am y 5 i 10 mlynedd nesaf.

Mae ganddi 5 phrif thema sy’n gweithredu fel y prif sbardun ar gyfer ein cynllun busnes.Mae gan y themâu hyn gyswllt clir ag amcanion strategol yr MoJ hefyd o drawsnewid yr adran a darparu cefnogaeth barhaol i oedolion agored i niwed.

O fewn pob thema rydym wedi rhoi manylion am ein nodau dros y 3 blynedd nesaf a sut byddwn yn gwybod a ydym wedi bod yn llwyddiannus.Yna, rydym yn amlinellu y pethau y byddwn yn eu gwneud yn y flwyddyn busnes hon i gyfrannu at y nodau hyn.

Mae’r themâu strategol fel a ganlyn:

1. Codi ymwybyddiaeth a hybu niferoedd

Sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’n gwasanaethau, yn ymwybodol o’r buddion o gynllunio at y dyfodol, ac yn gallu gwneud penderfyniad gweithredol o ran cael LPA.

2. Gwella gwasanaethau ar gyfer ein defnyddwyr

Sicrhau bod gwasanaethau’r OPG yn canolbwyntio ar y defnyddiwr a bod newid yn cael ei yrru gan anghenion y defnyddwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

3. Diogelu

Sicrhau bod yr OPG yn diogelu ei defnyddwyr a, pan fod pryderon yn cael eu codi, ei bod yn ymchwilio yn gyflym ac yn broffesiynol.

4. Gweithio’n fwy effeithiol

Sicrhau bod gwasanaethau’r OPG yn cael eu cyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posib, gyda’r defnyddiwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

5. Ein pobl

Sicrhau bod yr OPG yn byw yn ôl ei gwerthoedd ac yn darparu gweithle sy’n caniatáu i’w staff weithio i’w llawn potensial.

Mae poblogaeth y DU yn heneiddio a daw hynny gyda heriau penodol, nid lleiaf y niferoedd cynyddol o bobl sy’n byw gyda chyflyrau megis dementia. Mae hefyd y sawl sy’n byw gyda chyflyrau eraill sy’n effeithio ar alluedd meddyliol, megis anawsterau dysgu, anafiadau a geir i’r ymennydd a materion iechyd meddwl.

Mae’n glir y bydd y galw am wasanaethau’r OPG yn cynyddu dros y blynyddoedd i ddod a rhaid i ni sicrhau ein bod mewn sefyllfa ireoli hyn.

Rhaid i ni hefyd sicrhau bod pobl yn gwybod pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau hysbys o ran cynllunio at y dyfodol. Yn y flwyddyn a ddaw byddwn yn parhau ein gwaith i ddeall yn well y bobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau.

Mae hyn yn cynnwys deall y sbardunau sy’n arwain at bobl yn cymryd LPA neu’n ymgeisio am ddirprwyaeth. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o’r pethau sy’n stopio grwpiau demograffeg penodol rhag gynllunio ymlaen llaw, gan gynnwys y rhwystrau a wynebir ganddynt, a defnyddio’r mewnwelediad hwn i dargedu’n well y sawl sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein sail cwsmeriaid.

Galw

Ers lansio’r OPG yn 2007, mae’r galw am ein gwasanaethau wedi tyfu’n raddol. Rydym yn disgwyl i’r tueddiad hwn barhau ac rydym wedi cynhyrchu rhagolygon galw ar gyfer atwrneiaethau arhosol sy’n rhagweld twf parhaus dros nifer o flynyddoedd.

Mae galw am ardaloedd eraill o fusnes yr OPG hefyd yn cynyddu. Mae nifer y dirprwyon a benodir gan y llys sydd angen goruchwyliaeth yn tyfu, yn yr un modd â nifer yr ymchwiliadau a gynhelir gennym. Mae’r rhain yn dal i gynrychioli canran isel o’i gymharu â’n llwyth achos yn gyffredinol.

Newid a gwelliant parhaol

Mae adborth defnyddwyr yn bwysig ar gyfer pob ardal o’r busnes a chaiff ei defnyddio i yrru rhaglen o newid a gwelliant parhaol ar draws yr OPG.

Mae adborth defnyddwyr hefyd yn llywio’r gwelliannau cynyddol a wneir i’n gwasanaeth digidol LPA.Rydym hefyd wedi gwella ein prosesau mewnol i gofrestru LPAs, gan leihau’n sylweddol yr amser a gymerir i gofrestru LPA - cyrhaeddiad arwyddocaol gan ystyried y cynnydd parhaol yn llwythi gwaith.Bydd adborth defnyddwyr yn gyrru gwelliannau pellach yn seiliedig ar y defnyddiwr yn ystod 2017 i 2018.

Ystâd

Rydym wedi gwneud ymrwymiad i gadw ein presenoldeb yn Nottingham tan o leiaf 2020 ac rydym wedi symud i leoliad newydd i ganiatáu am ehangiad posib ein gweithlu. Bydd ein strategaeth ystadau at y dyfodol yn cael ei phennu ochr yn ochr â menter genedlaethol ehangach yr WG.

Codi ymwybyddiaeth a hybu niferoedd

Sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’n gwasanaethau, yn ymwybodol o’r buddion o gynllunio at y dyfodol, ac yn gallu gwneud penderfyniad gweithredol ar gael LPA.

Rydym wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth fel bod y bobl a fyddai’n buddio o LPA yn gallu gwneud hynny.

O fewn 3 blynedd, byddwn yn gostwng oedran rhoddwr ar gyfartaledd o 73 i 65 ac yn sicrhau bod ein sail cwsmeriaid yn cynrychioli sbectrwm mwy amrywiol o’r gymdeithas.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os yw oedran y rhoddwyr newydd ar gyfartaledd wedi cwympo i 65 a bod cynnydd o 50% wedi bod mewn ceisiadau o grwpiau cymdeithasol-economaidd sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn datblygu strategaeth marchnata gyda’r nod o annog pobl o grwpiau cymdeithasol-economaidd sydd wedi’u tangynrychioli i gymryd LPA, ac i bobl gynllunio ymlaen llaw yn ifancach

I wneud hyn, erbyn mis Awst 2017, byddwn yn:

  • rhoi strategaeth marchnata ar waith yn seiliedig ar wybodaeth gan ein sail cwsmeriaid gyfredol
  • meddu ar wybodaeth o grwpiau newydd posib o gwsmeriaid ac yn defnyddio hyn i greu strategaeth marchnata bellach gyda’r nod o roi hwb i’r niferoedd â LPA o fewn y grwpiau hyn.

Erbyn mis Ionawr 2018, byddwn yn:

  • meddu ar strategaeth marchnata wedi’i chostio’n llawn sy’n amlinellu pa grwpiau cwsmeriaid y byddwn yn eu targedu a sut byddwn yn gwneud hynny
  • cychwyn rhoi’r strategaeth ychwanegol hon ar waith.

Gwella gwasanaethau ar gyfer ein defnyddwyr

Sicrhau bod gwasanaethau’r OPG yn canolbwyntio ar y defnyddiwr a bod newid yn cael ei yrru gan anghenion defnyddwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Cyflwyno gwasanaethau yn ddigidol

Byddwn yn parhau i wella ein offer digidol i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau ac i ddarparu’r gwybodaeth sydd ei hangen arnom mewn modd sy’n addas iddyn nhw.

O fewn 3 blynedd, byddwn yn gallu cynnig dewis gwell o offer digidol.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os:

  • ddigidol gyda’r OPG a bod ganddynt mynediad ar-lein i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, megis cyflwyno eu hadroddiad dirprwyaeth
  • oes canran gynyddol o LPAs yn cael eu gwneud gan ddefnyddio’r offer ar-lein a bod 80% o ddirprwyon yn cyflwyno eu hadroddiadau ar-lein

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn:

  • parhau i weithio tuag at ddiffinio LPA gwbl ddigidol a fydd yn bodloni anghenion cwsmeriaid ac yn ymrwymo gyda budd-ddeiliaid i helpu datblygu cynigion
  • cwblhau’r cyflwyniad cychwynnol o’n gwasanaeth adrodd digidol i ddirprwyon ac yn ei ryddhau i ddirprwyon lleyg ac awdurdodau cyhoeddus

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn

  • cwblhau’r cam ‘darganfod’ er mwyn pennu’r pethau mae cwsmeriaid eu eisiau o chwiliad digidol a’r pethau y caniateir yn ôl y gyfraith
  • peilota arf rheoli achos Sirius ar gyfer timau arolygu ac ymchwilio
  • cynllunio ac yn peilota’r broses awtomatig o geisiadau LPA ‘perffaith’
  • cyflawni ein targed o 30% o LPAs newydd yn cael eu creu gan ddefnyddio’r arf ar-lein

LPA gydol oes

O fewn 3 blynedd, byddwn yn meddu ar gynnig yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer deddfwriaeth am LPA gydol oes sy’n hyblyg ac yn addasadwy.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os rydym wedi drafftio cynnig cymeradwy.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn diffinio sut mae LPA gydol oes yn edrych er mwyn bodloni anghenion ein cwsmeriaid orau.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • casglu ac yn adolygu’r ffynonellau data ac ymchwil sydd ar gael er mwyn hysbysu ein darganfyddiadau
  • cynnal neu gomisiynu ymchwil pellach yn benodol ar fformat yr LPA yn y dyfodol
  • diffinio fformat yr LPA yn y dyfodol ac yn cychwyn ar y dasg o’i chreu

Datrysiadau ar gyfer y Gymraeg

O fewn 3 blynedd, byddwn yn cyflwyno datrysiad ar gyfer y Gymraeg ar gyfer ein prif offer digidol.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os yw ein prif offer digidol ar gael yn Gymraeg neu os oes datrysiad addas, nad yw’n dechnegol, yn seiliedig ar dystiolaeth yn ei le.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn amlinellu cynllun gweithredu ac yn cychwyn gweithio ar y datrysiadau o’r blaenoriaeth mwyaf.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn

  • diffinio gofynion ein cwsmeriaid o ran y Gymraeg o fewn ein gwasanaethau cyfredol
  • sicrhau bod unrhyw offer a gynigir gennym yn y dyfodol yn cael eu adeiladu i allu cynnwys y Gymraeg, pe bydd yr angen yn codi

Unigolion coll

O fewn 3 blynedd, byddwn yn creu ardal newydd o fusnes yr OPG i fodloni anghenion unigolion coll, pe bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei roi mewn lle

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os yw’r gwarcheidwaid a benodir gan y llys y reoli eiddo a materion ariannol unigolion coll yn cael eu goruchwylio gan, ac yn adrodd yn ôl, i’r Gwarcehdwad Cyhoeddus

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn ymrwymo’n llawn yn y broses o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth unigolion coll, yn cynnal yr ymchwil briodol ac yn llunio cynlluniau gweithredu pe fydd y ddeddfwriaeth sylfaenol yn cwblhau ei thaith trwy’r llywodraeth

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn

  • creu cynllun prosiect
  • ymrwymo gyda budd-ddeiliaid a sicrhau bod eu mewnbwn yn hysbysu’r prosiect
  • cynnig datrysiad gyda’r holl gostau ac yn paratoi ar gyfer deddfwriaeth

Goruchwyliaeth: adolygiad ôl-weithredu

O fewn 3 blynedd, byddwn yn adolygu’r buddion a gafwyd o’n model newydd i oruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y llys.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os rydym wedi cwblhau’r adolygiad ac adrodd i’r Gweinidog ar y buddion a gafwyd.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn creu cynllun prosiect ac yn dechrau adolygu gwahanol elfennau’r model newydd, gan ganiatáu amser i roi unrhyw newidiadau ar waith yn llawn.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • penderfynu ar ddulliau o fesur buddion y model newydd a’r diogelwch a ddarperir
  • dechrau cynnal yr adolygiadau

Rheoli achosion gyda ffocws ar gwsmeriaid

O fewn 3 blynedd, byddwn yn rhoi ymagwedd rheoli achosion ar waith y mae cwsmeriaid yn dweud wrthym sy’n bodloni eu disgwyliadau.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os:

  • rydym yn cyflawni cywirdeb 0 95% wrth brosesu LPAs, gan gyflwyno gwasanaethau y mae’n cwsmeriaid yn dweud wrthym sy’n darparu gwerth am arian ac yn gweld lefelau bodlonrwydd yn codi’n uwch na 80%
  • oes gennym un pwynt cyswllt ar gyfer ein cwsmeriaid

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn adolygu sut rydym yn gweithio fel bod gan ein dulliau gweithio gyswllt uniongyrchol â’r gwasanaethau mae cwsmeriaid yn dweud wrthym y maen nhw eu heisiau.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • casglu adborth i gefnogi gwelliannau i’r gwasanaeth ac yn cyflawni lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid sy’n uwch na’n canlyniadau yn 2016 i 2017
  • adnabod anghenion ar-lein ein cwsmeriaid trwy ystyried ein gwaith ar fapio taith ddigidol y cwsmer
  • caffael data cymaradwy ar gyfer ein ceisiadau papur trwy ein prosesau o adolygu arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid er mwyn sicrhau ein bod yn alinio i anghenion ein cwsmeriaid

Gwasanaethau cwsmeriaid

O fewn 3 blynedd, byddwn yn sicrhau bod pob cyswllt y cwsmer gyda’r OPG yn hawdd ac yn bodloni eu hanghenion.

Byddwn yn gwybod a ydym wedi bod yn llwyddiannus os yw bodlonrwydd cwsmeriaid wedi gwella, yw methiant galw wedi cael ei ddileu, yw cyswllt y gellir ei osgoi wedi cael ei leihau a’n bod yn derbyn llai o gwynion.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn rhoi proses yn ei le i gofnodi a dadansoddi adborth cwsmeriaid o amrywiaeth o ffynonellau ac yn defnyddio’r adborth yma i wneud gwelliannau mesuradwy.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn

  • defnyddio pob math o adborth i lunio llais casgliadol i gwsmeriaid y gellir ei defnyddio i hysbysu dyluniad a gweithrediad polisi a chynnyrch yr OPG a bod gwasanaethau’r OPG
  • yn defnyddio canlyniadau ein mewnwelediad i wneud gwelliannau mesuradwy

Diogelu

Sicrhau bod yr OPG yn diogelu ei defnyddwyr ac yn ymchwiliad i bryderon a godir yn gyflym ac yn broffesiynol

Astudiaeth diogelu

O fewn 3 blynedd, byddwn yn cyhoeddi strategaeth, a gytunir gan weinidogion ac asiantaethau partner sy’n lleoli’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn y dirwedd ddiogelu aml-asiantaeth.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os yw’r strategaeth ddiogelu wedi cael ei chytuno gan weinidogion a bod y broses o’i roi ar waith wedi cychwyn.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn gorffen ein hastudiaeth ddiogelu ac yn defnyddio’r canlyniadau i ddiffinio ein strategaeth.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn

  • defnyddio canlyniadau ein mewnwelediad i wneud gwelliannau mesuradwy
  • cynnal adolygiad llawn o’n model diogelu er mwyn sicrhau bod yr ethos o ddiogelu yn cael ei ymgorffori ledled yr OPG
  • diffinio cynllun gweithrediad budd-ddeiliaid gydag amserlen, camau gweithredu a buddion mesuradwy, i’w cytuno gyda’n hasiantaethau partner

Pwerau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

O fewn 3 blynedd, byddwn yn meddu ar gorff o dystiolaeth sy’n dangos a oes angen pwerau ychwanegol ar y Gwarcheidwad Cyhoeddus i gynnal ei dyletswyddau statudol yn effeithiol, o fewn un strategaeth gydlynol.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os rydym wedi gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ar y pwerau ychwanegol i’w ceisio trwy newid deddfwriaethol.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn sefydlu sail o dystiolaeth, gan gynnwys penderfyniadau’r llysoedd, i ymchwilio i’r achos dros gynyddu pwerau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn creu sail o dystiolaeth i helpu pennu a oes unrhyw bwerau ychwanegol yn briodol ac i’n helpu i baratoi ar gyfer cyflwyniadau’r dyfodol.

Datrysiad ymwelwyr y Llys Gwarchod

O fewn 3 blynedd, byddwn yn datblygu datrysiad a fydd yn rhoi’r mynediad gofynnol at systemau’r OPG i ymwelwyr y Llys Gwarchod (YLlG), gan wella eu gallu i ddiogelu cleientiaid agored i niwed ac i gefnogi defnyddwyr.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os yw ymwelwyr y YLlG yn derbyn y dogfennau achos sydd eu hangen arnynt trwy fynediad at systemau’r OPG a’n bod yn rhannu gwybodaeth mewn modd mwy clyfar ac effeithiol.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn diffinio’r mynediad at reoli achosion sydd ei angen ar ymwelwyr i’r YLlG, yn penderfynu sut i ddarparu hyn ac yn datblygu achos busnes er mwyn sicrhau ariannu cyfalaf.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • adnabod y prif budd-ddeiliaid mewnol i gyflwyno’r gwaith yma
  • gweithio gyda budd-ddeiliaid i bennu’r mynediad sydd ei angen ar ymwelwyr i’r YLlG
  • ymgynghori ar sicrwydd gwybodaeth er mwyn pennu a datrys unrhyw risgiau neu rwystrau
  • pennu adnodd i adeiladu’r system sydd ei angen a monitro costau

Gweithio’n fwy effeithiol

Sicrhau bod gwasanaethau’r OPG yn cael eu cyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posib, gyda’r defnyddiwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Isadeiledd TG yr WG

O fewn 3 blynedd, byddwn yn meddu ar y dechnoleg i gefnogi staff i weithio’n gwbl hyblyg, gan ystyried patrymau gweithio, gweithio o gartref a rheoli timau o bell. Bydd hyn hefyd yn ein caniatáu i gyflwyno gwasanaethau yn syml ac yn llyfn gyda phartneriaid a darparwyr allanol.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os oes gan pob aelod o staff yn yr OPG y dechnoleg briodol i weithio’n hyblyg, yn ôl yr angen.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn:

  • sicrhau bod yr OPG yn barod i roi Rhaglen Trawsnewid Technoleg yr WG ar waith ledled y busnes
  • harneisio gallu offer cydweithredol newydd megis SharePoint a fersiwn gorfforaethol Skype

I wneud hyn, erbyn mis Awst 2017, byddwn yn:

  • paratoi, ac yn barod, i ymrwymo’n llawn gyda rhaglenni ehangach yr WG i roi Rhaglen Trawsnewid Technoleg yr WG ar waith ar ddiwedd 2017
  • sicrhau bod pob aelod o staff wedi’u hyfforddi’n llawn i wneud y defnydd gorau o’r offer digidol, cydweithredol newydd wrth iddynt ddod ar gael
  • sicrhau bod ystâd yr OPG yn cael ei pharatoi a’i bod yn barod ar gyfer y gweithrediad
  • cynnal asesiad o anghenion yr OPG o’r rhaglen, ac yn sicrhau ei bod yn bodloni ein hanghenion i’r graddau y gallwn wneud hynny

Model ariannu OPG

O fewn 3 blynedd, byddwn yn:

  • meddu ar fodel ariannol cynaliadwy a thryloyw a fydd yn sicrhau cyflwyniad parhaus y busnes ac yn caniatáu am fuddsoddiad i ddatblygu gwasanaethau gwell ar gyfer ein cwsmeriaid
  • bydd hyn yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn ac yn gysylltiedig â llywodraethu gorchmynion ffioedd priodol a deddfwriaeth arall

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os oes gan yr OPG strwythur ffioedd cynaliadwy sy’n caniatáu cyflawniad ein busnes a thrawsnewidiad parhaol ein gwasanaethau.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn adolygu mecanwaith ariannu’r OPG i alluogi rhoi gorchymyn ffioedd blynyddol yn ei le.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • adolygu strwythur costau’r OPG ac yn cefnogi’r adolygiad ffioedd a arweinir gan bolisi’r WG, gyda’r nod o gael ffioedd priodol yn eu lle ar gyfer ein holl wasanaethau
  • ymgymryd â dadansoddiad i ddeall y cyswllt thwng nifer a hirhoedledd yr LPA a llwythi gwaith dirprwyon
  • pennu sut gallai hyn effeithio ar gostau’r OPG yn y dyfodol a modelau ariannu’r dyfodol gan gynnwys y polisi eithrio a dileu

Gwasanaethau a rennir ac arweinyddiaeth swyddogaethol

O fewn 3 blynedd, byddwn yn meddu ar fodel gwasanaethau a rennir ac arweinyddiaeth swyddogaethol sy’n cefnogi cyflwyno ein gwasanaethau, sy’n gallu bod yn hyblyg i fodloni galw cyfredol a galw’r dyfodol ac sy’n ffitio’n glir gyda strategaeth yr WG.

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os oes darpariaeth gynaliadwy yn ei le i gyflwyno gwasanaethau i’r OPG yn effeithiol ac yn effeithlon, gan ein galluogi i fodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn gosod paramedr o wasanaethau ac yn sicrhau cefnogaeth i’r galw cyfredol.

I wneud hyn, erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • chwarae ein rhan i sicrhau bod arweinyddiaeth swyddogaethol yn llwyddiant
  • pennu ac yn cyfathrebu anghenion yr OPG am wasanaethau gan gynnwys digidol, Adnoddau Dynol, cyllid, cyfathrebu a gwasanaethau eraill a rennir, gan sicrhau bod ein hanghenion yn cael eu bodloni

Modelau galw yn seiliedig ar ddata

O fewn 3 blynedd, byddwn yn:

  • meddu ar set lawn o fodelau galw yn seiliedig ar ddata gan gynnwys cofrestriadau LPA, dirprwyon ac ymchwiliadau
  • meddu ar well dealltwriaeth o sut mae cysylltiadau rhwng modelau galw a’r newid i’r sianel ddigidol yn effeithio ar alw
  • sicrhau bod modelau galw yn cynnwys dadansoddiad demograffeg a daearyddol a fydd, ynghyd â’n mewnwelediad cyfredol i gwsmeriaid, yn hysbysu gwasanaethau’r OPG a’n model busnes at y dyfodol

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os oes gan yr OPG fodelau gall ragweld llwythi gwaith y dyfodol ar gyfer pob ardal o fusnes y gellir ei defnyddio i yrru cyflawniad y busnes hwnnw.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn

  • sicrhau bod gennym fynediad at yr adnoddau a sgiliau cywir trwy wasanaethau dadansoddi yr WG i gefnogi prosiectau dadansoddol
  • dechrau datblygu model rhagweld hir dymor ar gyfer dirprwyon
  • rhagolwg ymchwiliadau hir dymor gyda dadansoddiad daearyddol
  • gwell model rhagweld LPAs tymor byr

I wneud hyn, erbyn mis Hydref 2017, byddwn yn datblygu rhagolwg tymor byr gwell ar gyfer LPAs we mwyn cael gwell dealltwriaeth o berfformiad yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys amrywiad tymhorol.

Erbyn mis Tachwedd 2017, byddwn yn parhau i ymestyn yr amrediad o fodelau rhagweld LPAs hir dymor i hysbysu cynllunio a deall busnesau ble gallai’r niferoedd fod wedi codi.

Erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • adeiladu rhagolwg cychwynnol hir dymor ar gyfer goruchwyliaeth, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol a demograffeg, i hysbysu gwasanaethau cwsmeriaid a chynllunio busnes
  • adeiladu rhagolwg cychwynnol hir dymor ar gyfer ymchwiliadau, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol a demograffeg

Ein pobl

Sicrhau bod yr OPG yn byw yn ôl ei gwerthoedd ac yn darparu gweithle sy’n caniatáu i’w staff weithio i’w llawn potensial.

O fewn 3 blynedd, byddwn yn datblygu ac yn rhoi ar waith Cynllun Pobl a fydd yn:

  • cyflwyno cynnig cyflogaeth modern, yn gwella dargadwad staff ac ynlleihau trosiant
  • cyflwyno hyfforddiant ac achrediad proffesiynol i’r gweithlu
  • datblygu amrywiaeth gymesur ar draws staff o bob gradd
  • cefnogi pob aelod o staff i weithio mewn modd hyblyg a sionc mewn lleoliad sy’n addas i’r tasgau sy’n cael eu cyflawni

Byddwn yn gwybod a fyddwn wedi bod yn llwyddiannus os yw’r OPG yn gallu recriwtio a dargadw’r gweithlu angenrheidiol i gyflwyno ei fusnes a sicrhau bod y gweithlu’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth yn gyffredinol.

Yn y flwyddyn busnes hon, byddwn yn:

  • ceisio pennu ein gofynion ac yn creu cynllun gweithredu i ddatblygu gweithlu proffesiynol a chymwys
  • rhoi rhaglen o newid diwylliannol ar waith i baratoi’r gweithlu ar gyfer gweithio amgen (hyblyg), ble fo’n briodol
  • drafftio Cynllun Pobl yr OPG ac yn dechrau ei roi ar waith

I wneud hyn, erbyn mis Mehefin, byddwn yn:

  • cyflwyno llwybrau dysgu i staff
  • ceisio pennu’r rolau sy’n hanfodol i’r busnes ac yn cynhyrchu matrics sgiliau
  • adnabod y ddemograffeg gyfredol ar draws yr holl raddau.

Erbyn mis Awst 2017, byddwn yn:

  • trefnu hyfforddiant i reolwyr i adnabod a chefnogi sêr y dyfodol
  • ceisio pennu strategaeth hir dymor ar recriwtio staff newydd a dargadw staff cyfredol

Erbyn mis Medi 2017, byddwn yn:

  • recriwtio o leiaf 40 prentis dan y cynllun prentisiaeth cyflenwi gweithredol ac yn cytuno ar raglen i gynyddu’r niferoedd hynny dros gyfnod yr adolygiad gwariant
  • rhoi rhaglen yn ei le i ehangu prentisiaethau ar draws yr asiantaeth gyfan.

Erbyn mis Ebrill 2018, byddwn yn:

  • adnabod y set gyntaf o gymwysterau proffesiynol ar gyfer yr OPG ac yn rhoi proses ar waith i ymrestru myfyrwyr creu rolau a swydd ddisgrifiadau sy’n cynrychioli gweithlu hyblyg
  • pennu diffiniad o weithio amgen
  • adolygu blwyddyn gyntaf y Cynllun Pobl, yn adrodd ar y buddion ac yn cynllunio ar gyfer y flwyddyn a ddaw

Dangosyddion perfformiad 2017 i 2018

Rhif Disgrifiad Nod
1 Amser clirio gwirioneddol ar gyfer atwrneiaethau arhosol 40 diwrnod gwaith
2 Amser a gymerir ar gyfartaledd i ymateb i geisiadau ar gyfer chwiliadau haen 1 y gofrestr 5 diwrnod gwaith
3a Cyswllt cyntaf i gynnig cefnogaeth i’r dirprwy o fewn 35 diwrnod gwaith 85%
3bi Amser a gymerir ar gyfartaledd i gael gafael aradroddiad blynyddol 40 diwrnod gwaith
3bii Amser a gymerir ar gyfartaledd i adolygu’r adroddiad blynyddol 15 diwrnod gwaith
3c Adolygu 33% ddirprwyon proffesiynol/awdurdod lleol -
4a Asesiad risg o fewn 2 ddiwrnod gwaith 95%
4b Amser a gymerir ar gyfartaledd i gyrraedd penderfyniad ffurfiol a gymeradwyir gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus 70 diwrnod gwaith
4ci Amser a gymerir ar gyfartaledd i roi camau gweithredu’r OPG o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith , ble mae achos llys wedi cael ei bennu’n angenrheidiol 35 diwrnod gwaith
4cii Amser a gymerir ar gyfartaledd i roi camau gweithredu’r OPG o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith, ble nad yw achos llys wedi cael ei bennu’n angenrheidiol 25 diwrnod gwaith

Dangosyddion gwasanaeth cwsmeriaid 2017 i 2018

Rhif Disgrifiad Nod
1 Amser aros ar gyfartaledd wrth ffonio’r ganolfan cyswllt cwsmeriaid <60 eiliad
2 Ymateb i gwynion yn llawn o fewn terfyn amser (terfyn amser delfrydol o 10 diwrnod gwaith) 90%
3 Ymateb i ohebiaeth cwsmeriaid o fewn 10 diwrnod gwaith 90%
4 Arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid % yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon gyda gwasanaethau’r OPG 80%
4b Arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid % yn fodlon neu’n weddol fodlon gyda gwasanaethau digidol yr OPG 80%
5 Cwsmeriaid yn dewis cyflwyno eu ceisiadau LPA yn ddigidol 30%

Atodiad 1: Statws a llywodraethu

Statws o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder (WG)

Mae’r OPG yn asiantaeth weithredol i’r MoJ.Mae ein Prif Weithredwr yn atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar gyfer gweithrediad effeithiol yr asiantaeth.

Gweinidogion y llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros yr OPG yw:

  • Y Gwir Anrhydeddus David Lidington, Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder
  • Dr Phillip Lee, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, gweinidog dros ddioddefwyr, ieuenctid a chyfiawnder teuluol.

Trefniadau ariannu

Ym mis Mawrth 2017, amcan ariannol yr OPG yw cyflawni holl gost ei busnes, ac eithrio dileadau ac eithriadau.

Mae’r OPG yn cyflawni hyn trwy godi ffioedd am ei wasanaethau. Caiff y ffioedd eu rhagnodi trwy arf statudol ac mae’n nhw’n dod yn bennaf o’r canlynol:

  • ceisiadau atwrneiaeth (LPA ac EPA)
  • costau sefydlu dirprwyaeth a goruchwyliaeth flynyddol.

Gostyngwyd y ffi i gofrestru atwrneiaeth yn £82 ym mis Ebrill 2017.Rydym wedi ymrwymo at wneud dirprwyaethau yn hygyrch yn ariannol a byddwn yn adolygu’r strwythur ffioedd yn ystod 2017 i 2018.

Lleoliad a staffio

Mae gan yr OPG leoliadau yn Llundain, Nottingham a Birmingham. Ym mis Mawrth 2017 roedd 1372 staff yn gweithio yma (1294.49 cyfwerth ag amser llawn).

Ein bwrdd a llywodraethiant

Rôl bwrdd yr OPG yw sicrhau ein bod yn bodloni amcanion ein cynllun busnes. Mae’n gwneud hyn trwy oruchwylio cyfeiriad fframwaith llywodraethiant yr WG/OPG. Mae ei aelodau yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ac nid fel cynrychiolwyr yr ardaloedd busnes y gallent fod yn eu rheoli.

Mae’r bwrdd yn darparu cyfeiriad strategol, yn cytuno ar amcanion busnes ac yn gosod targedau. Mae hefyd yn monitro perfformiad, yn goruchwylio gweithrediadau ac yn rheoli risg. Mae’r bwrdd yn cefnogi perthynas waith gryf rhwng yr OPG a’i sefydliadau partner.

Rôl y bwrdd yw sicrhau bod cynllunio, perfformiad a rheolaeth ariannol yr OPG yn cael eu cynnal yn effeithiol, yn effeithlon ac yn dryloyw. Mae hefyd yn cymeradwyo ein cynllun busnes blynyddol.

Mae Bwrdd yr OPG yn cynnwys yr aelodau canlynol:

  • Alan Eccles, Gwarcheidwad Cyhoeddus a phrif weithredwr (cadeirydd)
  • Chris Jones, pennaeth strategaeth a datblygiad busnes
  • Ria Baxendale, pennaeth goruchwylio ac ymchwiliadau
  • Iain Dougall, pennaeth gweithrediadau
  • Karen Morley, pennaeth gwasanaethau corfforaethol
  • Elizabeth Gibby, dirprwy gyfarwyddwr yr adran gyfiawnder teuluol, cynrychiolydd yr WG
  • Dean Parker, cyfarwyddwr anweithredol a chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg
  • Shaun Gallagher, cyfarwyddwr anweithredol
  • Alison Sansome, cyfarwyddwr anweithredol
  • Yr Athro Anthony Shapira, cyfarwyddwr anweithredol

Rheoli risg

Cynhelir fframwaith risg a sicrwydd yr OPG yn unol â’r arweiniad yn nogfen ‘Rheoli Arian Cyhoeddus a Rheoli Risg - Egwyddorion a Chysyniadau’ y Drysorlys. Mae’n gyson gyda Pholisi Rheoli Risg yr WG ac arweiniad Swyddfa Masnach y Llywodraeth ar Reoli Risg (MoR), gan ddyrchafu risgiau yn ôl yr angen.

Mae proses rheoli risg yr OPG yn adnabod, yn monitro, yn rheoli ac yn rhoi gwybod a risgiau neu fygythiadau i gyflawni ei amcanion. Mae hyn yn cynnwys dyrchafu risgiau i Gofrestr Risg yr WG os oes angen.

Atodiad 2: Cyfraddau ffioedd

Ffioedd EPA a LPA o 1 Ebrill 2017

Disgrifiad Swm
Cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) £82
Cais i gofrestru atwrneiaeth barhaus (EPA) £82
Cais i gofrestru LPA dro ar ôl tro £41
Copi’r swyddfa o LPA £35
Copi swyddfa o EPA £25

Mae’r holl ffioedd yn daladwy wrth ymgeisio ac nid oes modd eu had-dalu (hyd yn oed os nad yw’r atwrneiaeth yn cael ei chofrestru yn ddiweddarach).

Mae ffi ar wahân yn daladwy ar gyfer ceisiadau i gofrestru LPA eiddo a materion ariannol a LPA iechyd a llesiant.

Mae ffioedd cais i gofrestru yn daladwy o ystâd/gronfeydd y rhoddwr (y person sy’n gwneud yr atwrneiaeth).

Mae ffioedd copi swyddfa yn daladwy gan y person sy’n gwneud cais am y ddogfen. Does dim dilead neu eithriadau.

Ffioedd dirprwyaeth o 1 Hydref 2011

Disgrifiad Swm
Ffi asesu dirprwyaeth £100
Ffi goruchwylio £320
Ffi goruchwylio isafswm £35

Mae’r holl ffioedd dirprwyaeth yn daladwy o ystâd/gronfeydd y cleient (h.y. y person y penodir y ddirprwyaeth ar ei gyfer).

Mae’r ffi asesu dirprwyaeth yn daladwy pan mae’r OPG wedi derbyn y gorchymyn o’r Llys, wedi asesu a sefydlu’r ddirprwyaeth gyda’r tîm goruchwylio perthnasol.

Mae’r ffi goruchwylio blynyddol a’r ffi lleiafswm goruchwylio yn daladwy yn flynyddol ym mis Mawrth. Caiff y ffioedd eu hôl-dalu a byddant yn cael eu cyfrifo ar sail pro rata os oes unrhyw newidiadau yn ystod y flwyddyn.

Atodiad 3: Ein strategaeth

Mae ein cynllun gweithredu strategol yn amlinellu ein cyfeiriad ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf.

Caiff ei danategu gan 5 thema strategol a fydd yn cyfeirio ein hymdrechion i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posib ar gyfer ein defnyddwyr a’r awyrgylch gywir ar gyfer ein staff.

Ein themâu strategol

1. Codi ymwybyddiaeth a hybu niferoedd

Sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’n gwasanaethau, yn ymwybodol o’r buddion o gynllunio at y dyfodol, ac yn gallu gwneud penderfyniad gweithredol o ran cael LPA.

2. Gwella gwasanaethau ar gyfer ein defnyddwyr

Sicrhau bod gwasanaethau’r OPG yn canolbwyntio ar y defnyddiwr a bod newid yn cael ei yrru gan anghenion y defnyddwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

3. Diogelu

Sicrhau bod yr OPG yn diogelu ei defnyddwyr a, pan fod pryderon yn cael eu codi, ei bod yn ymchwilio yn gyflym ac yn broffesiynol.

4. Gweithio’n fwy effeithiol

Sicrhau bod gwasanaethau’r OPG yn cael eu cyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posib, gyda’r defnyddiwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

5. Ein pobl

Sicrhau bod yr OPG yn byw yn ôl ei gwerthoedd ac yn darparu gweithle sy’n caniatáu i’w staff weithio i’w llawn potensial.

Adlewyrchir ein 5 thema strategol yn y cynlluniau gweithredu manwl y gellir eu gweld yng nghynlluniau busnes yr OPG.

1. Codi ymwybyddiaeth a hybu niferoedd

Tra bod yr OPG wedi cael twf cynaliadwy yn nifer y LPAs sy’n cael eu cofrestru, mae dal llawer mwy i’w wneud.

Rydym wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth fel bod y bobl a fyddai’n buddio o LPA yn gallu gwneud hynny.

Mae yna resymau cymhellol dros gymryd LPA. Gallwch ddewis pwy fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnoch ac mae’n gwneud pethau’n haws i’ch perthnasau ac anwyliaid eraill pe byddwch erioed yn colli galluedd.

Mae’r ffaith eich bod yn dewis rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i weithredu ar eich rhan yn golygu bod y penderfyniadau a wneir ganddynt yn fwy tebygol o fod er eich budd pennaf.

Ehangu ein sail o ddefnyddwyr

Ar hyn o bryd, mae ein sail o ddefnyddwyr yn oedrannus gan fwyaf, gyda dim ond ychydig dros 10% o gofrestriadau LPA yn dod o bobl iau na 60.

Mae mwyafrif yr LPAs yn cael eu cofrestru pan fo’r rhoddwr 71 oed neu’n hynach.

Rydym wedi ymrwymo at gyrraedd pobl y tu allan i’r sail hon o ddefnyddwyr, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r buddion o roi LPA yn ei le a’u bod yn gallu dewis cynllunio’n weithredol at y dyfodol.

Byddwn yn targedu ein gweithgarwch gohebu yn y dyfodol at grwpiau anoddach eu cyrraedd ac yn defnyddio data, tystiolaeth ac ymchwil i adnabod y ffyrdd gorau o wneud hyn.

Rydym hefyd rhan o’r ffordd trwy raglen o waith a fydd yn ein helpu i wneud hyn.

Uchafbwyntiau

Byddwn yn:

  • agor sianeli newydd o gyfathrebu i’n helpu i gyrraedd yr holl bobl hynny sydd angen cynllunio ymlaen llaw ac yn defnyddio potensial cyfryngau cymdeithasol i wneud pobl yn ymwybodol o’n gwasanaethau
  • optimeiddio ein gwasanaethau digidol i sicrhau bod pobl yn dod o hyd i ni yn gyflym ac yn hawdd ar-lein
  • ei gwneud yn bosib i bobl chwilio ein cofrestr o LPAs a gorchmynion dirprwyaeth yn ddiogel, a gwneud hyn eu hunain
  • datblygu cysylltiadau gydag adrannau a chyfryngwyr llywodraethol eraill i roi hwb i niferoedd LPAs a gwneud dinasyddion yn fwy ymwybodol o’r goblygiadau o beidio â pharatoi at y dyfodol
  • rhedeg cynlluniau peilot gyda’r nod o annog grwpiau anoddach eu cyrraedd i weld pa ymagweddau sy’n gweithio orau
  • targedu grwpiau anodd eu cyrraedd ble mae gennym niferoedd isel gyda LPA ar hyn o bryd ac hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth gyffredinol o’r MCA i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau’r OPG
  • datblygu cysylltiadau agosach fyth gyda’r Fforwm Galluedd Meddyliol i wella gweithrediad yr MCA er budd dinasyddion

2. Gwella gwasanaethau ar gyfer ein defnyddwyr

Mae’r OPG wedi ymrwymo i sicrhau bod defnyddwyr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, byddwn yn parhau i wella ac ehangu ein gwasanaethau cyfredol, gan sicrhau ei bod yn bodloni anghenion ein defnyddwyr.

Byddwn yn archwilio dulliau newydd i ddefnyddwyr ryngweithio gyda ni yn y modd sydd fwyaf addas iddyn nhw.

Byddwn hefyd yn cynnig ein sianeli cyfredol, megis LPA ar ffurf papur, cyhyd â’u bod o werth.

Mesur sut mae ein cynnyrch yn bodloni anghenion y defnyddiwr a gwella bodlonrwydd defnyddwyr

Mae ein tîm rheoli ein perthynas â chwsmeriaid yn darparu tystiolaeth a mewnwelediad i hysbysu ein hymagwedd trwy ymchwil ansoddol a meintiol a gaiff ei thargedu’n ofalus.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio ymchwil gan ganolbwyntio ar y defnyddiwr i’n helpu i ddeall ein defnyddwyr yn llawn ac i ddarparu tystiolaeth i yrru gwelliannau i brosesau ym mhob ardal o’r OPG.

Bydd gwaith profiad cwsmeriaid ac ymchwil yn canolbwyntio ar ffactorau sy’n gyrru bodlonrwydd defnyddwyr.

Byddwn yn defnyddio technolegau newydd i adeiladu mesurau bodlonrwydd defnyddwyr i mewn i’n gwasanaethau, gan ganiatáu i ni wneud newidiadau yn gyflym, ble fo angen.

Gwella hygyrchedd a sicrhau hwylustod

Fel rhan o’n hymrwymiad i welliant parhaus, byddwn yn adolygu hygyrchedd ein cynnyrch a gwasanaethau.

Rydym yn gwneud mwy o’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â thrwy fformatau cyfredol, wrth i ni gadw i fyny gyda datblygiadau digidol.

Mae ein hymrwymiad i wella a chynyddu ein gwasanaethau digidol yn unol â’r strategaeth ddigidol a gyhoeddwyd gennym.

Rydym eisoes yn cefnogi pobl sy’n cael trafferth yn defnyddio’r rhyngrwyd, trwy wasanaethau digidol a gynorthwyir.

Byddwn yn gweithio gyda defnyddwyr, partneriaid a budd-ddeiliaid i ddeall eu hanghenion yn well, tra’n parhau i roi gwybod iddynt am welliannau a wneir gennym, a’u cynnwys yn y broses.

Uchafbwyntiau

Byddwn yn:

  • cyflwyno technoleg newydd i wella ansawdd ein prosesau er mwyn i ni allu perfformio’n well rhyngweithio gyda defnyddwyr, er enghraifft trwy ddarparu cymorth ar-lein
  • defnyddio sicrwydd hunaniaeth ar-lein i helpu defnyddwyr i gofrestru a defnyddio ein gwasanaethau
  • gwella ein data, dadansoddi a gallu ymchwilio er mwyn i ni allu darparu tystiolaeth o anghenion ein defnyddwyr nawr ac yn y dyfodol i helpu cyflwyno gwell canlyniadau ar eu cyfer
  • gweithio gyda darparwyr trydydd sector i’w helpu i ddatblygu’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i’n defnyddwyr ymhellach
  • cyflwyno sianeli digidol newydd i’w gwneud yn haws i’n defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau ac i ddarparu’r gwybodaeth sydd ei angen arnom mewn modd sy’n addas iddyn nhw
  • meddu ar ddarpariaeth well ar gyfer dinasyddion sy’n siarad Cymraeg ac yn cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ble bynnag a phryd bynnag y gallwn

3. Diogelu

Mae dyletswydd ar yr OPG i ddiogelu oedolion agored i niwed trwy weithio’n rhagweithiol gydag atwrneiod, dirprwyon, partneriaid ac eraill i leihau’r risg o gamdriniaeth.

Mae dyletswydd arnom hefyd i weithredu’n brydlon ac yn effeithiol pan godir pryderon.

Cefnogi rhwydwaith diogelu cryf ar gyfer oedolion agored i gamdriniaeth

Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o rôl ddiogelu’r OPG a chynyddu ein proffil fel sefydliad gweithgar a chefnogol.

Ble fo’n briodol, byddwn yn sefydlu trefniadau rhannu data a chyd-weithio gyda sefydliadau eraill yn yr arena ddiogelu.

Lleihau’r potensial i gam-drin defnyddwyr agored i niwed

Bydd gwell cefnogaeth ar gyfer atwrneiod, dirprwyon ac eraill yn helpu lleihau’r potensial am gamdriniaeth ariannol, corfforol neu emosiynol ein defnyddwyr agored i niwed.

Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’n llinell gymorth chwythu’r chwiban, ble gall unrhyw un godi pryderon.

Ble nad oes gennym y pwerau i ymdrin â phryderon diogelu, byddwn yn sicrhau ein bod yn gallu cyfeirio pobl yn effeithiol i’r asiantaethau neu bartneriaid priodol.

Uchafbwyntiau

Byddwn yn:

  • adolygu’n gyson ac yn ceisio sicrhau pwerau ychwanegol i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ble fo’n angenrheidiol, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben ac yn caniatáu i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynnal ei dyletswyddau yn effeithiol
  • cryfhau ein perthynas waith gyda’n partneriaid ar draws rhwydweithiau diogelu
  • datblygu arf asesu risg i dynnu sylw at y cleientiaid a’r rhoddwyr fwyaf tebygo o fod mewn peryg o gamdriniaeth
  • hyrwyddo’r llinell gymorth chwythu’r chwiban er mwyn i bobl wybod eu bod yn gallu seinio rhybudd neu dynnu sylw at bryder yn ymwneud â diogelwch
  • datblygu pecynnau e-ddysgu ar gyfer atwrneiod a dirprwyon er mwyn eu haddysgu a’u cefnogi’n well yn eu rolau

4. Gweithio’n fwy effeithiol

Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar y pethau rydym yn anelu at gyflawni a hefyd ar sut byddwn yn mynd ati i’w cyflawni.

Bydd partneriaid yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ein hamcanion, ond byddwn hefyd yn edrych ar welliannau pellach o fewn yr OPG i sicrhau ein bod yn cyflwyno gwasanaeth o ansawdd sy’n cynrychioli gwerth am arian.

Byddwn yn gwella ein prosesau cynllunio a rhagweld ymhellach i sicrhau bod gennym y staff cywir yn ei le i gyflwyno gwasanaeth effeithiol, effeithlon ac economegol.

Defnyddio technoleg a gwasanaethau digidol newydd i wella effeithiolrwydd ac ansawdd

Mae’r OPG yn sefydliad sy’n arwain y gad yn ddigidol yn y llywodraeth, sydd wedi ymrwymo at gynnig gwasanaethau ‘digidol yn gyntaf’, wedi’u teilwra at anghenion defnyddwyr.

Rydym yn parhau i adeiladu gwasanaethau digidol mewnol ac allanol ac i weithio gyda’n partneriaid i hyrwyddo’r gwasanaethau hyn.

Byddwn yn datblygu modd mwy hyblyg o gaffael y dechnoleg a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ein hamcanion strategol.

Ffafrio a hyrwyddo sianeli digidol gan ddefnyddio egwyddorion digidol yn gyntaf

I gyflawni ein hamcan o fod yn fwy effeithlon, byddwn yn cynyddu ein ffocws ar elfennau digidol, gan gael gwared ar bapur ble fo’n bosib.

Byddwn yn estyn allan i ystod oedran ehangach, gan helpu mwy o ddefnyddwyr i fuddio o’n ddefnyddio ein gwasanaethau digidol, gan eu cefnogi trwy’r broses.

Byddwn yn adeiladu ar ein mentrau cymorth digidol llwyddiannus i ddarparu cefnogaeth well ar gyfer y sawl sydd eisiau defnyddio ein gwasanaethau digidol ond sydd angen cymorth yn gwneud hynny.

Gweithio gyda’r Llys Gwarchod i ddarparu taith llyfn i ddefnyddwyr

Byddwn yn gweithio gyda’r Llys Gwarchod i sicrhau bod ein defnyddwyr yn cael y gwasanaeth gorau o ddechrau’r broses i’r diwedd.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw un sy’n gwneud cais i’r llys i ddod yn ddirprwy yn deall beth sy’n gynwysedig ac yn ymwybodol o rôl yr OPG wrth oruchwylio a chefnogi dirprwyon.

Byddwn hefyd yn edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio technoleg ar y cyd i sicrhau ein bod yn gwybod cyn gynted â phosib pan mae gorchymyn llys yn cael ei wneud.

Uchafbwyntiau

Byddwn yn:

  • Rhoi’r egwyddorion a ymgorfforir ym menter Swyddfa’r Cabinet i drosglwyddo’r gweithle yn y gwasanaeth sifil ar waith, gan ei wneud yn fwy hyblyg, ystwyth a symudol
  • galluogi defnyddwyr i wneud trafodion ariannol trwy sianeli digidol er mwyn iddynt allu hawlio dileadau a thalu ffioedd yn y modd sydd mwyaf cyfleus iddyn nhw
  • defnyddio rhaglen ddatblygu i sicrhau bod gennym y staff a sgiliau cywir i gyflwyno’r strategaeth hon a gwella’r gwasanaeth ar gyfer ein defnyddwyr
  • datblygu cysylltiadau cryf gyda’r Llys Gwarchod i sicrhau bod dirprwyon a’u cleientiaid yn cael y gwasanaeth gorau posib
  • cyflwyno mwy o’n gwasanaethau’n ddigidol ac yn ecsbloetio cyfleoedd technoleg newydd gan wneud y sianel ddigidol y sianel o ddewis

5. Ein pobl

Mae ein staff yn frwdfrydig am y gwaith maen nhw’n ei wneud a gellir priodoli llwyddiant yr OPG hyd yn hyn i’w hymrwymiad a’u ffyddlondeb.

Fodd bynnag, rhaid i ni feithrin a datblygu ein pobl ymhellach os ydym am greu diwylliant ac amodau ble gall ein staff ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

Mae angen i ni sicrhau bod ein staff yn gymwys i ddelio gyda newidiadau mewn arferion gwaith ac i wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg newydd a fydd yn cael ei chyflwyno dros y blynyddoedd i ddod.

Bydd yr ymrwymiad hwn at ddatblygu ein pobl yn golygu eu bod yn gallu cyflwyno gwasanaeth ardderchog sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Grymuso ein staff, gan werthfawrogi ein gilydd a gweithio gyda’n gilydd

Byddwn yn grymuso staff, o’r uwch reolwyr i lawr, i wneud mwy i adeiladu diwylliant positif o fewn yr OPG.

Golyga hynny y bydd staff ar bob lefel yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ein hamcanion strategol.

Byddwn yn annog gweithio’n gydweithredol ar draws yr OPG ac yn rhoi’r hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen ar staff i fod yn hunangynhaliol.

Bydd straeon defnyddwyr yn cael eu defnyddio i helpu staff i wella eu gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau defnyddwyr.

Darparu ac annog awyrgylch waith dda

Bydd ein uwch dîm rheoli yn chwarae rôl hanfodol wrth adeiladu ein diwylliant delfrydol.

Byddwn yn ecsbloetio technegau a mentrau a ddefnyddir gan adrannau eraill y llywodraeth yn ogystal â rhai sefydliadau eraill yr ydym yn gwybod sy’n gyson yn creu awyrgylch waith ardderchog ar gyfer eu pobl.

Rydym yn anelu at wella llesiant cyffredinol ein staff trwy ymgynghori â hwy a rhoi ein polisïau ein hunain ar waith yn yr ardal hon.

Byddwn yn addasu i fodelau a chyfrifoldebau teuluoedd modern, gan roi polisïau sy’n addas i deuluoedd ar waith er mwyn helpu staff i reoli eu cydbwysedd gwaith a bywyd.

Uchafbwyntiau

Byddwn yn:

  • archwilio opsiynau i wella ffyrdd i’n helpu i gadw’r bobl a’r sgiliau sydd eu hangen arnom i gyflwyno gwasanaeth ardderchog
  • datblygu arbenigedd trwy ehangu nifer y benthyciadau a secondiadau o fewn sefydliadau partner y tu allan i’r WG, gan ddysgu o’u profiadau
  • datblygu rhaglen gwirfoddoli i helpu staff i weld gwerth eu gwaith a deall yn well anghenion y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau
  • gwella ein gwasanaeth trwy ddatblygu awyrgylchoedd gwaith sy’n annog gwell cydweithredu rhwng timau
  • ddatblygu llyfrgell ddysgu ddigidol er mwyn i staff gael mynediad at ddeunyddiau hyfforddiant ac arweiniad i wella sut maen nhw’n gwneud eu gwaith
  • ddatblygu ein diwylliant cyfredol i wobrwyo ac adnabod ymddygiad sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd

Geirfa

Atwrnai

Atwrnai yw’r person a ddewisir i weithredu dros rywun arall ar atwrneiaeth arhosol.

Atwrneiaeth arhosol (LPA)

Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau penodol eich hun.

Mae dau fath o LPA:

  • iechyd a lles
  • eiddo a materion ariannol

Rhaid cofrestru’r ddau fath o LPA gyda’r OPG cyn gellir eu defnyddio.

Atwrneiaeth barhaus (EPA)

Disodlwyd atwrneiaeth barhaus gan atwrneiaeth arhosol (LPA) ym mis Hydref 2007.

Yn yr un modd ag LPA, dogfen gyfreithiol ydyw sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd.

Mae atwrneiaeth barhaus a lofnodwyd a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda’r OPG pan mae’r rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol, neu pan mae wedi ei golli.

Buddion pennaf

Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu weithrediadau a gymerir, ar ran rhywun arall sydd wedi colli galluedd gael eu gwneud er eu budd pennaf. Mae yna gamau safonol isafswm i’w dilyn wrth benderfynu ar fuddion pennaf unigolyn.Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 neu yng nghod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Cleient

Dyma’r gair a ddefnyddir gan yr OPG i gyfeirio at y person rydych wedi cael eich penodi i weithredu ar ei ran. Yn aml, fe gyfeirir at y person hwn fel ‘P’.

Defnyddiwr

Mae defnyddiwr yn cyfeirio at unrhyw un sy’n gwneud defnyddio o wasanaethau’r OPG.Gallai hyn fod yn uniongyrchol (rhoddwyr LPA/EPA, atwrneiod, dirprwyon, cleientiaid) neu’n anuniongyrchol (partneriaid, cyfryngwyr). Mae hefyd yn cynnwys staff mewnol yn defnyddio systemau’r OPG.

Dirprwy

Dyma rhywun a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd i wneud penderfyniadau penodol eu hunain.

Penodir dirprwy os oes rhywun yn colli galluedd a bod dim atwrneiaeth arhosol yn ei le.

Galluedd

Galluedd yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg honno pan fod rhaid gwneud y penderfyniad.

Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad o alluedd yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Rhoddwr

Rhoddwr yw rhywun sydd wedi creu naill ai atwrneiaeth barhaus neu arhosol.

Manylion cyswllt

Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

Ffôn: 0300 456 0300
Ffôn testun: 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw

Sylwer, oherwydd diffyg staff sy’n siarad Cymraeg, ni allwn ateb galwadau yn Gymraeg. Gallwch naill ai barhau â’ch galwad yn Saesneg, neu ysgrifennu eich ymholiad mewn e-bost a’i anfon i customerservices@publicguardian.gov.uk. Yna, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg.