Ffurflen

LP12 Gwneud a chofrestru eich atwrneiaeth arhosol: canllawiau (fersiwn y we)

Diweddarwyd 5 July 2022

Applies to England and Wales

Sut i ddefnyddio’r canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am wneud a chofrestru eich atwrneiaeth arhosol. Does dim rhaid i chi ei ddarllen nawr. Gallwch ddechrau llenwi eich ffurflen atwrneiaeth arhosol ac edrych ar y canllaw os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.

Eich atwrneiaeth arhosol (LPA)

Dogfen gyfreithiol yw atwrneiaeth arhosol sy’n caniatáu i chi (y ‘rhoddwr’) ddewis pobl rydych chi’n ymddiried ynddynt (‘atwrneiod’) i wneud penderfyniadau ariannol neu benderfyniadau iechyd a gofal ar eich rhan.

Gan amlaf, defnyddir atwrneiaeth arhosol os nad oes gennych y galluedd meddyliol i ddeall ac i wneud eich penderfyniadau eich hun. Mae angen galluedd meddyliol arnoch i wneud atwrneiaeth arhosol.

Galluedd meddyliol yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

Mae eich atwrneiaeth arhosol ar gyfer Cymru a Lloegr yn unig. Mae’n debyg na fydd yn gweithio’n unman arall, felly efallai yr hoffech ofyn am gyngor cyfreithiol os dymunwch.

Nid oes angen i chi gael cyfreithiwr i wneud atwrneiaeth arhosol, oni bai bod gennych ofynion anarferol neu benodol.

Mae adrannau ar y ffurflen atwrneiaeth arhosol lle gallech fod eisiau cyngor cyfreithiol yn cael eu nodi gyda’r symbol cyfreithiwr hyn:

Mae’r symbol cyfreithiwr yn dangos yr adrannau ar y ffurflen atwrneiaeth arhosol lle gallech fod eisiau cyngor cyfreithiol.

Mater i chi yw penderfynu os ydych eisiau cyngor cyfreithiol i lenwi’r adrannau hyn.

Gwneud eich atwrneiaeth arhosol: pa fath?

Bydd rhaid i chi benderfynu pa fath o benderfyniad y byddwch chi angen help ar ei gyfer. Ceir dau fath o atwrneiaeth arhosol, sy’n cwmpasu dau fath o benderfyniad:

  • arian, materion ariannol ac eiddo

  • iechyd a gofal

Mae gan bob atwrneiaeth arhosol ei ffurflen ei hun. I ddewis y ddau, llenwch y ddwy ffurflen.

Penderfyniadau ariannol: defnyddiwich ffurflen LP1F

Gallai penderfyniadau ariannol ymwneud ag:

  • agor, cau a defnyddio eich cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu

  • hawlio, derbyn a defnyddio eich budd-daliadau, pensiynau a lwfansau

  • talu eich biliau cartref, gofal a biliau eraill

  • gwneud neu werthu buddsoddiadau

  • prynu neu werthu eich cartref

Chi sy’n dewis os ydy eich atwrneiod yn gallu gweithredu ar eich rhan cyn gynted ag y mae’r atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru neu dim ond os na allwch ddeall a gwneud penderfyniadau mwyach (gweler rhan A5 o’r canllaw hwn).

Nid oes rhaid i chi berchen ar eich tŷ eich hun neu gael llawer o arian i wneud atwrneiaeth arhosol am benderfyniadau ariannol. Er enghraifft, os yw’n anodd rheoli eich cyfrif banc neu filiau ar eich pen eich hun, efallai y byddwch eisiau rhywun i helpu.

Gallwch benodi atwrneiod gwahanol ar gyfer eich materion ariannol personol a’ch materion busnes. I wneud hynny, llenwch ddwy ffurflen LP1F.

Penderfyniadau iechyd a gofal: defnyddiwch ffurflen LP1H

Gallai penderfyniadau iechyd a gofal ymwneud â:

  • rhoi neu wrthod caniatâd am ofal iechyd

  • aros yn eich cartref ei hun a chael help a chymorth wrth y gwasanaethau cymdeithasol

  • symud i ofal preswyl a dod o hyd i gartref gofal da

  • materion o ddydd i ddydd fel eich deiet, gwisg neu drefn ddyddiol

Dim ond pan nad oes gennych alluedd meddyliol y gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau.

Mae gan un penderfyniad pwysig iawn ei adran ei hun mewn atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal. Gallwch ddewis a ddylai eich atwrneiod neu eich meddygon wneud penderfyniadau ynglŷn â derbyn neu wrthod triniaeth feddygol i’ch cadw’n fyw, os na allwch wneud neu ddeall y penderfyniad hwnnw eich hun.

Darllenwch fwy am driniaeth cynnal bywyd yn rhan A5 o’r canllaw hwn.

Nid oes rhaid i chi gael problemau iechyd neu ofal cymhleth i wneud atwrneiaeth arhosol. Mae’n ffordd o gynllunio ar gyfer eich gofal rhag ofn na allwch wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.

Pobl sy’n gysylltiedig â’ch atwrneiaeth arhosol

Mae angen i chi (y rhoddwr) ddewis pobl ar gyfer eich atwrneiaeth arhosol. Trafodwch gyda nhw cyn i chi eu henwi ar eich ffurflen atwrneiaeth arhosol.

Cyn i’r ffurflen swyddogol ddechrau, mae yna dudalen i wneud nodyn o bawb sy’n gysylltiedig â’r atwrneiaeth arhosol - does dim rhaid i chi ei llenwi, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Pobl mae’n rhaid i chi eu cael i wneud atwrneiaeth arhosol

Rhoddwr:

gweler rhan A1 o’r canllaw hwn.

Atwrneiod:

gweler rhan A2 o’r canllaw hwn.

Darparwr tystysgrif:

gweler rhan A10 o’r canllaw hwn.

Tystion:

rhaid i berson diduedd fod yn dyst i chi a’ch atwrneiod yn llofnodi eich atwrneiaeth arhosol. Ni allwch fod yn dyst i lofnodion eich atwrneiod ac ni allant fod yn dyst i’ch llofnod chi.

Pobl y gallech fod eisiau eu cynnwys yn eich atwrneiaeth arhosol

Twrneiod newydd:

gweler rhan A4 o’r canllaw hwn.

Pobl i’w hysbysu:

gweler rhan A6 o’r canllaw hwn.

Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol

Cyn i chi allu defnyddio eich atwrneiaeth arhosol, mae’n rhaid i chi ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n costio £82 i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol fel ei bod yn barod i’w defnyddio. Mae’n well gwneud cais i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol cyn gynted ag y byddwch wedi llenwi rhan gyntaf y ffurflen.

Helpu ffrind i wneud atwrneiaeth arhosol

Os ydych yn helpu ffrind neu berthynas gydag atwrneiaeth arhosol drwy lenwi’r ffurflen ar eu rhan, rhaid i’r person hwnnw wneud yr holl ddewisiadau wrth wneud yr atwrneiaeth arhosol. Os na allant wneud y dewisiadau hyn yn annibynnol mwyach, ni allwch wneud atwrneiaeth arhosol ar eu rhan. Gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod, a fydd yn eich penodi chi neu rywun arall i’w helpu. I gael gwybod mwy.

Eich pecyn atwrneiaeth arhosol

Naill ai yr anfonwyd yr holl ddogfennau angenrheidiol i wneud ac i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol neu gallwch ddod o hyd iddynt ar yr un dudalen GOV.UK â’r canllaw hwn. Y dogfennau hynny yw:

  • ffurflen LP1F i wneud atwrneiaeth arhosol ariannol
  • ffurflen LP1H i wneud atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal
  • ffurflen LP3 os ydych eisiau hysbysu pobl pan anfonir eich atwrneiaeth arhosol i’w chofrestru
  • tudalennau parhad 1 i 4 – dim ond os yw’r ffurflen atwrneiaeth arhosol yn dweud hynny y dylech ddefnyddio’r rhain
  • ffurflen LPA120 i wneud cais am ffi rhatach os ydych ar incwm isel

Os ydym wedi anfon pecyn atoch a bod unrhyw un o’r rhain ar goll, ffoniwch ni ar 0300 456 0300 neu gallwch eu lawrlwytho.

Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Gwneud eich atwrneiaeth arhosol ar-lein

Gallwch hefyd wneud eich atwrneiaeth arhosol drwy ddefnyddio ein gwasanaeth digidol. Mae’n gyflym ac yn hawdd.

Os oes angen help arnoch i wneud eich atwrneiaeth arhosol ar-lein

Os hoffech wneud eich atwrneiaeth arhosol ar-lein ond yn ansicr ynglŷn â defnyddio cyfrifiaduron a gwefannau, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 456 0300 ac fe geisiwn ni helpu.

Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG): customerservices@publicguardian.gov.uk

Beth yw ‘galluedd meddyliol’?

Mae eich atwrneiaeth arhosol – a’r canllaw hwn – yn sôn am ‘alluedd meddyliol’ cryn dipyn. Mae’n bwysig deall y syniad hwn cyn i chi wneud atwrneiaeth arhosol. Mae ‘galluedd meddyliol’ yn golygu’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud. Mae gan berson sydd â galluedd meddyliol o leiaf dealltwriaeth gyffredinol o’r:

  • penderfyniad sydd angen iddynt ei wneud
  • pam mae angen iddynt ei wneud
  • unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad
  • beth sy’n debygol o ddigwydd pan fyddant yn ei wneud

Dylent allu cyfathrebu eu penderfyniad drwy leferydd, arwyddion, ystumiau neu mewn ffyrdd eraill.

Weithiau gall pobl wneud rhai penderfyniadau ond nid oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud rhai eraill. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun yn gallu penderfynu beth i’w brynu i swper ond yn methu â deall a threfnu yswiriant cartref.

Asesu galluedd meddyliol

I ystyried os oes rhywun â diffyg galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau, mae angen i chi ateb ‘oes neu ydy’ i’r ddau gwestiwn hyn:

  1. Oes ganddynt broblem feddyliol neu ymenyddol sy’n atal eu hymennydd neu eu meddwl rhag gweithio’n iawn?
  2. A yw’r broblem honno’n achosi cymaint o anhawster iddynt nawr fel na allant wneud y penderfyniad penodol hwn ar yr adeg y mae angen ei wneud?

Mae ‘methu â gwneud y penderfyniad penodol hwn’ yn golygu nad yw’r person yn gallu:

  • deall gwybodaeth berthnasol am y penderfyniad sydd angen ei wneud
  • cadw’r wybodaeth honno yn eu meddwl ddigon hir i wneud y penderfyniad
  • pwyso a mesur y wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniad
  • cyfathrebu eu penderfyniad – gallai hynny fod drwy siarad, defnyddio iaith arwyddion, lluniau neu drwy wasgu llaw neu flincio hyd yn oed

Weithiau – yn enwedig yn achos penderfyniadau mawr neu gymhleth – efallai y byddwch eisiau cael cyngor proffesiynol, er enghraifft, wrth feddyg teulu, seiciatrydd neu seicolegydd y person.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn cwmpasu atwrneiaeth arhosol. Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn egluro mwy gydag enghreifftiau, gan gynnwys sut mae’n rhaid i atwrneiod weithredu. Mae mwy o wybodaeth yn y Cod Ymarfer hefyd am alluedd meddyliol.

Gallwch lawrlwytho Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol neu brynu fersiwn brint o’r Llyfrfa.

Efallai y bydd eich llyfrgell leol yn gallu eich helpu os na allwch fynd ar-lein yn bersonol.

Gwneud penderfyniadau ar eich rhan

Gall atwrneiod wneud rhai penderfyniadau ar eich rhan, ond ni allant wneud fel y mynnant. Mae’n rhaid iddynt weithredu er eich lles pennaf bob amser. Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn manylu ar hyn yn llawnach. Mae’n nodi pum egwyddor sylfaenol y mae’n rhaid i atwrnai eu dilyn wrth benderfynu a ddylid gweithredu ar eich rhan a sut:

  1. Rhaid i’ch atwrneiod dybio eich bod yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun oni bai y sefydlir na allwch wneud hynny.
  2. Rhaid i’ch atwrneiod eich helpu i wneud cynifer o’ch penderfyniadau eich hun ag y gallwch. Rhaid iddynt gymryd bob cam rhesymol i’ch helpu i wneud penderfyniad. Dim ond os nad ydynt wedi llwyddo i’ch helpu i wneud penderfyniad drwy’r camau hynny y gallant eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad.
  3. Ni ddylai eich atwrneiod eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad oherwydd eich bod yn gwneud penderfyniad annoeth yn unig.
  4. Pan na allwch wneud penderfyniad, rhaid i’ch atwrneiod weithredu a gwneud penderfyniadau er eich lles pennaf.
  5. Cyn i’ch atwrneiod wneud penderfyniad neu weithredu ar eich rhan, rhaid iddynt ystyried a allant wneud y penderfyniad neu weithredu mewn ffordd sy’n cyfyngu llai ar eich hawliau a’ch rhyddid ond sy’n dal i gyflawni’r diben.

Rhaid i atwrneiod ddilyn yr egwyddorion hyn drwy’r amser.

Rhan A – Gwneud eich atwrneiaeth arhosol

Dewiswch ffurflen LP1F i wneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol neu ffurflen LP1H i wneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a gofal.

Dechreuwch lenwi’r ffurflen nawr.

Nid oes angen i chi ddarllen y canllaw hwn yn gyntaf. Defnyddiwch y canllaw wrth i chi lenwi’r ffurflen.

Cyn i’r ffurflen swyddogol ddechrau, mae yna dudalen i wneud nodyn o bawb sy’n gysylltiedig â’r atwrneiaeth arhosol - does dim rhaid i chi ei llenwi, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Pan welwch y gair ‘chi’ o hyn ymlaen, yn rhan A o’r canllaw hwn, mae’n golygu’r rhoddwr: y person sy’n penodi pobl eraill i wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Mae tudalennau llawn cyntaf y ffurflenni yn edrych fel hyn:

Rhan A1 - Y rhoddwr

Llenwch adran 1

Llenwch eich manylion yn adran 1 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol. Gallwch hefyd roi cyfeiriad e-bost, ond mae’n ddewisol.

Rhowch unrhyw enwau eraill a ddefnyddiwch, fel eich enw priod. Os nad yw eich atwrneiaeth arhosol yn cynnwys yr holl enwau rydych chi’n cael eich adnabod, efallai y bydd dryswch neu oedi os oes angen i’ch atwrneiod ei defnyddio.

Mwy o wybodaeth

Pwy all fod yn rhoddwr?

Dim ond ar gyfer un person y mae atwrneiaeth arhosol. Gallwch wneud atwrneiaeth arhosol:

  • os ydych yn 18 oed o leiaf
  • os oes gennych y galluedd meddyliol i wneud hynny

Mae ‘galluedd meddyliol’ yn golygu’r gallu i wneud ac i ddeall penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

Gall y rhan fwyaf o bobl wneud atwrneiaeth arhosol. Serch hynny, efallai y bydd cymhlethdodau oherwydd:

  • preswyliad – os ydych yn byw neu ag eiddo y tu allan i Gymru a Lloegr
  • methdaliad – os ydych yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled ac eisiau gwneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer eich penderfyniadau ariannol

All rywun helpu’r rhoddwr i lenwi’r ffurflen?

Gall. Serch hynny, os oes rhywun arall yn llenwi’r ffurflen ar eich rhan, rhaid i chi ddewis beth sy’n cael ei gynnwys yn eich atwrneiaeth arhosol. Dim ond chi sy’n gallu rhoi’r pŵer i eraill wneud penderfyniadau gyda’ch atwrneiaeth arhosol ar eich rhan.

Cymhlethdodau: preswyliad ac eiddo

Mae atwrneiaeth arhosol yn cwmpasu pobl sy’n byw neu’n berchen ar asedau yng Nghymru a Lloegr. Efallai na fydd eich atwrneiaeth arhosol yn gweithio mewn gwledydd eraill, gan gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol os ydych:

  • yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr
  • mae gennych eiddo y tu allan i Gymru a Lloegr a’ch bod yn gwneud atwrneiaeth arhosol am benderfyniadau ariannol
  • rydych yn bwriadu symud o Gymru a Lloegr
  • rhesymau eraill pam bod ble rydych chi’n byw yn cymhlethu’ch sefyllfa

Cymhlethdodau: methdaliad a gorchmynion rhyddhau o ddyled (atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol yn unig)

Ceir rheolau am fethdaliad a gorchmynion rhyddhau o ddyled am atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol.

Os ydych yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled, gallwch wneud, llofnodi a chofrestru atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol. Serch hynny, ni fydd gan eich atwrneiod y pŵer dros eich holl eiddo.

Os yw hyn yn gymwys i chi, dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol cyn i chi wneud eich atwrneiaeth arhosol.

Os dewch yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled ar ôl i’ch atwrneiaeth arhosol ariannol gael ei gwneud neu ei chofrestru, bydd yn cael ei chanslo.

Os daw atwrnai yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled, ni allant fod yn atwrnai i chi mwyach o dan eich atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol.

Nid yw methdaliad yn effeithio ar atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal.

Rhan A2 - Yr atwrneiod

Llenwch adran 2

Cwblhewch enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni eich atwrneiod.

Does dim ots ym mha drefn rydych chi’n ysgrifennu manylion yr atwrneiod ar y ffurflen. Mae pob atwrnai cyn bwysiced â’i gilydd.

Os ydych chi eisiau mwy na phedwar atwrnai, marciwch y blwch ‘Mwy o atwrneiod’ ar y dudalen hon ag ‘X’. Ewch â chopi o dudalen barhad 1, o’r enw ‘Pobl ychwanegol’. Ar gyfer pob atwrnai ychwanegol, marciwch y blwch ‘Atwrnai’ ar y dudalen ac ychwanegwch eu manylion. Mae’n rhaid i chi lofnodi a dyddio tudalen barhad 1 cyn i chi lofnodi’r ffurflen atwrneiaeth arhosol yn adran 9.

Os oes angen mwy nag un dudalen barhad, gallwch wneud copïau.

Os ydych chi eisiau dewis corfforaeth ymddiriedolaeth fel atwrnai ar gyfer eich atwrneiaeth arhosol ariannol, llenwch y manylion fan hyn a marciwch y blwch ‘corfforaeth ymddiriedolaeth’ ag ‘X’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r union enw y mae’r gorfforaeth ymddiriedolaeth yn ei ddefnyddio.

Rhaid i gynrychiolwyr y gorfforaeth ymddiriedolaeth gwblhau a llofnodi tudalen barhad 4.

Mwy o wybodaeth

Gelwir y bobl rydych chi’n eu dewis i weithredu ar eich rhan yn atwrneiod.

Mae’n rhaid i chi gael o leiaf un atwrnai. Nid oes uchafswm ond gallai gormod o atwrneiod wneud pethau’n anodd, gan y bydd angen iddynt weithio gyda’i gilydd.

Gwnewch yn siŵr bod pob person yn cytuno i fod yn atwrnai i chi cyn i chi eu henwi yn eich atwrneiaeth arhosol.

Wrth ddewis atwrneiod, ystyriwch:

  • faint rydych chi eisiau eu penodi ac a fyddan nhw’n gallu gweithio gyda’i gilydd
  • a ydych yn ymddiried ynddynt i weithredu er eich lles pennaf
  • pa mor dda rydych chi’n adnabod eich gilydd a pha mor dda maen nhw’n eich deall chi
  • pa mor barod fyddan nhw i wneud penderfyniadau ar eich rhan
  • pa mor dda ydyn nhw am drefnu eu materion eu hunain, fel pa mor dda ydyn nhw am ofalu am eu harian eu hunain

Peidiwch â theimlo bod angen i chi ddewis rhywun dim ond oherwydd nad ydych chi eisiau eu pechu. Os ydych chi eisiau iddyn nhw deimlo’n rhan o’r broses, fe allech chi eu gwneud yn ‘berson i’w hysbysu’ yn lle hynny (gweler adran A6 o’r canllaw hwn.)

Pwy sy’n gallu bod yn atwrnai?

Yn nhermau cyfreithiol, person sy’n cael gweithredu ar ran rhywun yw ‘atwrnai’.

Nid oes rhaid i atwrneiod fod yn gyfreithwyr. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis aelodau’r teulu, ffrindiau a phobl eraill maen nhw’n ymddiried ynddynt heb unrhyw gefndir cyfreithiol. Os nad yw atwrnai yn weithiwr proffesiynol, y peth pwysig yw eich bod yn adnabod eich gilydd yn dda a’u bod yn parchu eich barn ac yn gweithredu er eich lles pennaf.

Gallwch ofyn i unrhyw un sydd â galluedd meddyliol dros 18 oed i fod yn atwrnai i chi, gan gynnwys:

  • eich gwraig, gŵr, partner sifil neu bartner
  • aelod o’r teulu
  • ffrind agos
  • gweithiwr proffesiynol, fel cyfreithiwr

Rhaid i atwrneiod lofnodi eich atwrneiaeth arhosol ar ôl i chi lofnodi adran 9 ac ar ôl i’r darparwr tystysgrif lofnodi adran 10. Mae’n rhaid iddynt lofnodi cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ar ôl y darparwr tystysgrif – ar yr un diwrnod yn ddelfrydol.

Beth mae’n rhaid i atwrneiod ei wneud

Gall atwrneiod wneud rhai penderfyniadau ar eich rhan, ond ni allant wneud fel y mynnant. Mae’n rhaid iddynt weithredu er eich lles pennaf bob amser.

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn manylu ar hyn yn llawnach. Mae’n nodi pum egwyddor sylfaenol y mae’n rhaid i atwrnai eu dilyn wrth benderfynu a ddylid gweithredu ar eich rhan a sut:

  • rhaid i’ch atwrneiod dybio eich bod yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun oni bai y sefydlir na allwch wneud hynny
  • rhaid i’ch atwrneiod eich helpu i wneud cynifer o’ch penderfyniadau eich hun ag y gallwch. Rhaid iddynt gymryd bob cam rhesymol i’ch helpu i wneud penderfyniad. Dim ond os nad ydynt wedi llwyddo i’ch helpu i wneud penderfyniad drwy’r camau hynny y gallant eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad
  • ni ddylai eich atwrneiod eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad oherwydd eich bod yn gwneud penderfyniad annoeth yn unig
  • pan na allwch wneud penderfyniad, rhaid i’ch atwrneiod weithredu a gwneud penderfyniadau er eich lles pennaf
  • cyn i’ch atwrneiod wneud penderfyniad neu weithredu ar eich rhan, rhaid iddynt ystyried a allant wneud y penderfyniad neu weithredu mewn ffordd sy’n cyfyngu llai ar eich hawliau a’ch rhyddid ond sy’n dal i gyflawni’r diben.

Rhaid i atwrneiod ddilyn yr egwyddorion hyn drwy’r amser.

Atwrneiod atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol

Mae rhai pobl yn dewis atwrnai proffesiynol, fel cyfreithiwr, ar gyfer eu hatwrneiaeth arhosol ariannol.

Os ydych yn penodi atwrnai proffesiynol ar gyfer atwrneiaeth arhosol eiddo neu faterion ariannol, fel cyfreithiwr, mae’n rhaid i chi enwi unigolyn. Allwch chi ddim rhoi teitl swydd neu enw cwmni’n unig.

Fel arfer, mae atwrneiod proffesiynol yn codi ffi. Gofynnwch pa ffioedd y byddant yn eu codi. Rhaid i chi ychwanegu cyfarwyddiadau yn adran 7 ynglŷn â’r hyn rydych wedi cytuno i’w dalu. (Gweler adran A7 o’r canllaw hwn.)

Ni all unrhyw fethdalwr nas rhyddhawyd neu berson sy’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled fod yn atwrnai ar gyfer atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol.

Nid yw methdaliad a gorchmynion rhyddhau o ddyled yn effeithio ar atwrneiaeth arhosol iechyd a lles.

Corfforaeth ymddiriedolaeth – atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol yn unig (ffurflen LP1F)

Gall pobl â materion ariannol cymhleth neu sydd heb unrhyw un i reoli eu materion ariannol ddewis corfforaeth ymddiriedolaeth fel eu hatwrnai. Banc masnachol neu gwmni cyfreithiol yw hynny fel arfer.

Dylech ofyn pa ffioedd y byddant yn eu codi. Efallai y byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried dewis corfforaeth ymddiriedolaeth fel atwrnai.

Atwrneiod atwrneiaeth arhosol iechyd a lles

Rhaid i atwrnai ar gyfer atwrneiaeth arhosol iechyd a lles fod yn berson, ac nid cwmni. Gallwch gael cymaint o atwrneiod ag sydd eu hangen arnoch.

Pwy na all fod yn atwrnai

Ni all person sy’n fethdalwr ar hyn o bryd neu â gorchymyn rhyddhau o ddyled fod yn atwrnai ar atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol.

Nid yw methdaliad a gorchmynion rhyddhau o ddyled yn effeithio ar atwrneiaeth arhosol iechyd a lles.

Ni all person sydd ar restr wahardd Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd weithredu fel atwrnai – oni bai eu bod yn aelod o’r teulu ac nad ydynt yn derbyn ffi i fod yn atwrnai i chi. Byddant yn torri’r gyfraith os ydynt yn gwneud hynny.

Beth all atwrneiod ei wneud

Dim ond penderfyniadau rydych chi wedi caniatáu iddynt eu gwneud yn eich atwrneiaeth arhosol y gall eich atwrneiod eu gwneud. Er enghraifft, os yw eich atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol, ni all eich atwrneiod wneud penderfyniadau am eich gofal neu drefn ddyddiol. Os yw eich atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a gofal, ni allant wneud penderfyniadau am eich arian.

Pryd na all atwrneiod weithredu mwyach

Ni all atwrnai weithredu ar eich rhan os ydynt yn:

  • colli galluedd meddyliol
  • penderfynu nad yw am weithredu fel eich atwrnai mwyach (sy’n cael ei alw’n ‘ymwrthod â’u penodiad’)
  • mynd yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled ac yn atwrnai atwrneiaeth arhosol ariannol
  • wraig, gŵr neu bartner sifil i chi ond bod eich perthynas wedi dod i ben yn gyfreithiol – oni bai eich bod yn ysgrifennu cyfarwyddiadau yn adran 7 o ffurflen yr atwrneiaeth arhosol y gallant barhau i fod yn atwrnai i chi os daw eich perthynas i ben yn gyfreithiol

Weithiau, os yw atwrnai yn marw neu’n gorfod rhoi’r gorau i weithredu am un o’r rhesymau uchod, gall achosi problemau difrifol:

  • os wnaethoch chi benodi un atwrnai yn unig, byddai eich atwrneiaeth arhosol yn stopio gweithio’n gyfan gwbl
  • os ydych wedi dweud bod yn rhaid i’ch atwrneiod weithredu ‘ar y cyd’ am rai neu bob penderfyniad (gweler rhan A3 o’r canllaw hwn) yna ni fyddant yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny

Os yw’r naill neu’r llall o’r rhain yn berthnasol i chi, ystyriwch benodi atwrneiod i gymryd eu lle i ddiogelu eich atwrneiaeth arhosol. Darllenwch fwy am atwrneiod newydd yn rhan A4 o’r canllaw hwn.

Os ydych yn canslo eich atwrneiaeth arhosol, ni all eich atwrneiod weithredu ar eich rhan mwyach.

Rhan A3 – Sut dylai eich atwrneiaid wneud penderfyniadau?

Llenwch adran 3

Marciwch un blwch yn unig ar y dudalen hon ag ‘X’.

Os ydych wedi dewis un atwrnai yn unig, ticiwch y blwch: ‘Dim ond un atwrnai wnes i benodi’ ac ewch i adran 4.

Os ydych wedi dewis dau neu fwy o atwrneiod, rhaid i chi ddatgan sut dylent wneud penderfyniadau ar eich rhan. Dewiswch un o dri opsiwn drwy farcio un blwch yn unig ag ‘X’:

Eglurir bob dewis yn adran 3 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol isod. Os nad ydych yn siŵr pa opsiwn sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau chi, efallai y byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis ‘ar y cyd ac yn unigol’ oherwydd dyma’r ffordd fwyaf hyblyg ac ymarferol i atwrneiod wneud penderfyniadau.

Os dewiswch opsiwn gwahanol i ‘ar y cyd ac yn unigol’ ac na all eich atwrneiod gytuno’n unfrydol ar benderfyniad ar y cyd, ni ellir ei wneud. Gallai eich atwrneiaeth arhosol ddod yn anymarferol.

Os dewiswch ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’, rhaid i chi ddefnyddio tudalen barhad 2. Ar dudalen barhad 2:

  • marciwch y blwch ‘Penderfyniadau y dylai atwrneiod eu gwneud ar y cyd’
  • nodwch yn y gofod pa benderfyniadau y mae’n rhaid i’ch atwrneiod eu gwneud ar y cyd (gweler isod am enghreifftiau o’r hyn y gallech ei ysgrifennu)

Os ydych yn defnyddio tudalen barhad 2, rhaid i chi ei llofnodi a’i dyddio (ac unrhyw gopïau ychwanegol a ddefnyddiwch) cyn i chi lofnodi adran 9 o’ch atwrneiaeth arhosol.

Mwy o wybodaeth

Mae’n rhaid i chi ddatgan sut dylai eich atwrneiod weithredu - a allant wneud penderfyniadau ar wahân, neu a oes rhaid iddynt gytuno ar rai penderfyniadau neu bob un ohonynt yn unfrydol. Mae angen i chi ddewis un o dri opsiwn. Mae’r manylion isod.

Ar y cyd ac yn unigol (atwrneiod yn gweithredu naill ai gyda’i gilydd neu’n unigol)

Gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau ar eich rhan ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd.

Bydd unrhyw gamau a gymerir gan unrhyw atwrnai ar ei ben ei hun mor ddilys a phe mai nhw oedd yr unig atwrnai. Mater i’ch atwrneiod yw dewis sut maent yn gwneud penderfyniadau ond mae’n rhaid iddynt weithredu er eich lles pennaf bob tro.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis yr opsiwn hwn oherwydd:

  • gall atwrneiod wneud penderfyniadau syml neu benderfyniadau brys yn hawdd ac yn gyflym, heb ofyn i’ch atwrneiod eraill
  • os na all atwrnai weithredu mwyach, ni fydd yr atwrneiaeth arhosol yn cael ei chanslo

Os dewiswch yr opsiwn hwn, ni ddylech ddweud unrhyw le arall yn yr atwrneiaeth arhosol bod rhaid i benderfyniadau penodol gael eu gwneud gan:

  • un atwrnai penodol
  • rhai o’ch atwrneiod neu bob un o’ch atwrneiod
  • isafswm o atwrneiod

Mae cyfarwyddiadau fel hyn yn gwrth-ddweud eich dewis yma, felly efallai y caiff eich atwrneiaeth arhosol ei gwrthod.

Ceir adran nes ymlaen yn yr atwrneiaeth arhosol sy’n gadael i chi roi cyfarwyddiadau mwy penodol i’ch atwrneiod. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hyn, a gall fod yn fwy cymhleth nag y mae’n ymddangos. Darllenwch rhan A7 o’r canllaw hwn cyn penderfynu a ddylid ychwanegu unrhyw beth yno.

Ar y cyd (atwrneiod yn cytuno ar bob penderfyniad yn unfrydol)

Rhaid i’ch atwrneiod wneud bob penderfyniad gyda’i gilydd bob amser. Rhaid iddynt gytuno’n unfrydol a rhaid i bob un ohonynt lofnodi unrhyw ddogfennau perthnasol.

Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych eisiau i’ch atwrneiod gytuno ar bob penderfyniad, yn fach neu’n fawr.

Os na all bob un o’ch atwrneiod gytuno ar benderfyniad, ni all gael ei wneud.

Gyda’r opsiwn hwn:

  • os na all eich atwrneiod gydweithio, ni fydd eich atwrneiaeth arhosol yn gweithio
  • os na all un atwrnai weithredu mwyach neu’n marw, bydd eich atwrneiaeth arhosol yn stopio gweithio – oni bai eich bod wedi penodi atwrneiod i gymryd eu lle

Os yw eich atwrneiod yn byw ymhell wrth ei gilydd, gallant ei chael yn anodd gweithredu ar y cyd – er enghraifft, mynd i’r banc gyda’i gilydd.

Os na all un o’ch atwrneiod ar y cyd gwreiddiol weithredu mwyach, mae eich holl atwrneiod gwreiddiol yn stopio gweithredu ar eich rhan. Y rheswm am hynny yw bod y gyfraith yn trin atwrneiod sy’n gweithredu ar y cyd fel uned unigol. Os ydych wedi penodi atwrneiod i gymryd eu lle, byddan nhw’n cymryd yr awenau.

Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill

Rhaid i’ch atwrneiod wneud penderfyniadau penodol gyda’i gilydd a chytuno arnynt yn unfrydol – ond gallant wneud penderfyniadau eraill yn unigol.

Os dewiswch yr opsiwn hwn rhaid i chi nodi’n glir pa benderfyniadau y dylai eich atwrneiod eu gwneud gyda’i gilydd a chytuno arnynt yn unfrydol; hynny yw, pryd dylent weithredu ar y cyd.

Os na all eich atwrneiod i gyd gytuno ar benderfyniad, ni all gael ei wneud.

Mae rhai pobl yn dewis yr opsiwn hwn oherwydd nad oes ots ganddynt bod eu hatwrneiod yn cymryd penderfyniadau bob dydd ar eu pen eu hunain ond eisiau iddynt wneud penderfyniadau pwysig gyda’i gilydd, fel gwerthu tŷ.

Os yw eich atwrneiod yn byw yn bell wrth ei gilydd, efallai y bydd gweithredu ar y cyd yn anodd iddynt.

Gyda’r opsiwn hwn:

  • mae’n rhaid i chi ysgrifennu ar dudalen barhad 2 pa benderfyniadau y mae’n rhaid eu gwneud ar y cyd a pha rai y mae’n rhaid eu gwneud ar y cyd ac yn unigol – os na wnewch chi, ni fydd eich atwrneiaeth arhosol yn gweithio
  • os na all eich atwrneiod gytuno ar benderfyniad ar y cyd, ni all gael ei wneud
  • os na all atwrnai unigol weithredu mwyach neu ow yw’n marw, ni fydd eich atwrneiod sy’n weddill yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau ar y cyd, oni bai eich bod wedi penodi atwrneiod i gymryd eu lle

Gyda’r opsiwn hwn, os oes un atwrnai yn stopio gweithredu ar eich rhan, ond bod gennych atwrneiod i gymryd eu lle:

  • bydd yr atwrneiod sy’n cymryd eu lle yn cymryd yr awenau, gan wneud yr holl benderfyniadau ar y cyd yn lle eich atwrneiod gwreiddiol
  • gall eich atwrneiod newydd a’r atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill wneud unrhyw benderfyniadau y caniateir iddynt eu gwneud yn unigol

Enghreifftiau o weithio ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill

Enghreifftiau atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol:

Os dewiswch ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’, dylech wneud datganiad fel un o’r rhain ar dudalen barhad 2:

Mae rhaid i’m atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau ynglŷn â gwerthu neu osod fy nhŷ a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol ar gyfer popeth arall.

Mae rhaid i’m atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau ynglŷn â stociau a chyfrannau, a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol ar gyfer popeth arall.

Yn yr enghraifft gyntaf, mae ‘popeth arall’ yn golygu yr holl benderfyniadau ariannol ar wahân i werthu neu osod eich tŷ. Yn yr ail enghraifft, mae ‘popeth arall’ yn golygu’r holl faterion ariannol ar wahân i fuddsoddi mewn stociau a chyfrannau.

Peidiwch â defnyddio’r enghreifftiau hyn oni bai eu bod yn union yr hyn rydych chi ei eisiau – mae angen i chi nodi beth sy’n iawn i chi.

Enghreifftiau atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal:

Os ydych yn dewis ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ dylech wneud datganiad fel un o’r rhain ar dudalen barhad 2:

Mae’n rhaid i fy atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau ynglŷn â lle rwy’n byw a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol am bopeth arall.

Mae’n rhaid i fy atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau rydw i wedi eu hawdurdodi i’w gwneud ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol am bopeth arall.

Yn yr enghraifft gyntaf, mae ‘popeth arall’ yn golygu yr holl benderfyniadau am eich gofal a’ch triniaeth feddygol o ddydd i ddydd. Yn yr ail enghraifft, mae ‘popeth arall’ hefyd yn golygu gofal a thriniaeth feddygol o ddydd i ddydd a phenderfyniadau mwy ynglŷn â lle dylech chi fyw. Dim ond penderfyniadau am driniaethau i’ch cadw’n fyw sydd wedi’u heithrio.

Dim ond os ydych chi’n rhoi awdurdod i’ch atwrneiod roi neu wrthod cydsyniad am driniaeth cynnal bywyd drwy ddewis opsiwn A yn adran 5 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol y gallwch chi ddefnyddio rhywbeth fel yr ail enghraifft.

Peidiwch â defnyddio’r enghreifftiau hyn oni bai eu bod yn union yr hyn rydych chi ei eisiau – mae angen i chi nodi beth sy’n iawn i chi.

Diogelu eich buddiannau

Ym mha bynnag ffordd rydych yn penodi eich atwrneiod i weithredu, mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid iddynt weithredu er eich lles pennaf bob amser a gwneud pob ymdrech i ganfod a allwch wneud penderfyniad cyn iddynt wneud hynny.

Rhaid i atwrneiod hefyd ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ac ystyried unrhyw ddewisiadau a nodwch yn adran 7 o’ch ffurflen atwrneiaeth arhosol.

Mae Cod Ymddygiad y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn egluro dyletswyddau’r atwrneiod.

Cwestiynau i ofyn i chi’ch hun

  • Ydych chi eisiau dewis yr opsiwn ‘ar y cyd ac yn unigol’, sef yr opsiwn mwyaf hyblyg ac ymarferol?
  • Beth allai atal eich atwrneiod rhag gweithio gyda’i gilydd? Ydyn nhw’n cytuno? Beth fyddai’n digwydd pe byddent yn cweryla?
  • Ydych chi’n hapus i’ch atwrneiod ddewis a ydynt yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd neu’n unigol? Dewiswch ‘ar y cyd ac yn unigol’, sef yr opsiwn symlaf.
  • Hyd yn oed os all eich atwrneiod wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau ar eu pennau eu hunain, a oes rhai penderfyniadau mawr rydych chi eisiau iddynt gytuno arnynt? Dewiswch ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’.
  • Ydych chi eisiau i’ch atwrneiod neu atwrneiod newydd wneud eu holl benderfyniadau gyda’i gilydd a chytuno ar bob penderfyniad yn unfrydol, boed yn fach neu’n fawr? Dewiswch ‘ar y cyd’.
  • Ydy eich atwrneiod yn deall sut hoffech chi iddyn nhw wneud penderfyniadau? Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod eich dewis gyda nhw.
  • Ydych chi’n gwybod beth fydd yn digwydd os na all un atwrnai weithredu mwyach? Darllenwch yr adran hon unwaith eto os nad ydych yn siŵr.
  • Ydych chi eisiau atwrneiod i gymryd eu lle fel cynllun wrth gefn os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad gyda’i gilydd? Os na ddewiswch atwrneiod i gymryd eu lle, gall eich atwrneiaeth arhosol fod mewn perygl os yw atwrnai yn stopio gweithredu ar eich rhan.

Rhan A4 – Atwrneiod newydd

Llenwch adran 4 (dewisol)

Os ydych chi eisiau un neu fwy o atwrneiod newydd, nodwch eu manylion yn adran 4 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol.

Os ydych chi eisiau mwy na dau i ddod yn eu lle, marciwch y blwch ‘mwy o atwrneiod i gymryd eu lle’ ar y dudalen hon. Cymerwch gopi o dudalen barhad 1, o’r enw ‘Pobl ychwanegol’. Ar gyfer pob atwrnai newydd ychwanegol, marciwch y blwch ‘atwrnai newydd’ ar y dudalen ac ychwanegwch eu manylion.

Mae’n rhaid i chi lofnodi a dyddio tudalen barhad 1 cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol yn adran 9.

Os oes angen mwy nag un dudalen barhad arnoch, gallwch wneud copïau.

Newid pryd a sut y gall eich atwrneiod newydd weithredu

Marciwch y blwch ag X’ os ydych wedi penodi mwy nag un atwrnai newydd a’ch bod eisiau newid sut neu bryd y gallant weithredu.

Gall marcio’r blwch hwn greu cymhlethdodau ar gyfer eich atwrneiaeth arhosol. Ceir mwy o ganllawiau isod – darllenwch nhw. Efallai y byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol hefyd.

Mwy o wybodaeth

Mae atwrneiod newydd yn bobl rydych chi’n eu dewis i gamu i mewn os na all un o’ch atwrneiod gwreiddiol wneud penderfyniadau ar eich rhan mwyach.

Bydd atwrnai newydd yn camu i mewn os bydd un o’ch atwrneiod yn:

  • marw
  • colli galluedd meddyliol
  • penderfynu nad ydynt eisiau gweithredu ar eich rhan mwyach (caiff ei alw’n ‘ymwrthod â’u penodiad’)
  • yn wraig, gŵr neu bartner sifil i chi ond bod eich perthynas wedi dod i ben yn gyfreithiol (oni bai eich bod wedi ychwanegu cyfarwyddyd iddynt barhau)
  • yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled – mae hyn yn gymwys i atwrneiaeth arhosol materion ariannol yn unig

Dim ond os nad yw’r atwrnai gwreiddiol y mae’n cymryd ei le yn gallu gwneud penderfyniadau yn barhaol am un o’r rhesymau uchod y gall atwrnai newydd weithredu.

Ni all atwrnai newydd:

  • gamu i mewn dros dro am atwrnai sy’n dal i allu gweithredu (er enghraifft, tra bod yr atwrnai cyntaf ar wyliau)
  • ddod yn lle atwrnai sydd wedi dod i gymryd lle rhywun arall

Ni allwch ychwanegu cyfarwyddiadau yn dweud wrth atwrneiod newydd i ddechrau gweithredu mewn amgylchiadau penodol.

Os oes rhaid i’ch atwrneiod gwreiddiol wneud rhai o’r penderfyniadau neu bob penderfyniad ar y cyd ac na all un ohonynt weithredu ar eich rhan mwyach, bydd eich atwrneiod newydd yn gwneud y penderfyniadau hynny ar y cyd yn lle hynny. Gall eich atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill a’r rhai sydd wedi dod i gymryd eu lle wneud unrhyw benderfyniadau nad oes rhaid iddynt gael eu gwneud ar y cyd.

Fel arfer, bydd atwrneiod newydd yn camu i mewn cyn gynted ag y bydd un o’ch atwrneiod gwreiddiol yn stopio gweithredu ar eich rhan.

Diogelu eich atwrneiaeth arhosol

Mae cael atwrneiod sydd wedi dod i gymryd eu lle yn golygu y dylai eich atwrneiaeth arhosol dal i weithio os na all atwrnai gwreiddiol weithredu ar eich rhan mwyach.

Heb atwrneiod newydd:

  • os mai dim ond un atwrnai sydd gennych ac na all yr atwrnai hwnnw weithredu ar eich rhan mwyach, ni fydd eich atwrneiaeth arhosol yn gweithio mwyach
  • os oes gennych atwrneiod sy’n gorfod gwneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad gyda’i gilydd (‘ar y cyd’) ac na all un atwrnai weithredu mwyach, ni fydd y gweddill yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny ar y cyd

Os na ellir defnyddio eich atwrneiaeth arhosol ac nad oes gennych y galluedd meddyliol, bydd rhaid i rywun rydych yn ei adnabod wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael y pŵer i weithredu ar eich rhan – gall hyn fod yn gostus a bydd yn cymryd amser hir gan amlaf.

Pwy all fod yn atwrnai newydd?

Rhaid i atwrnai newydd fodloni’r un gofynion â’r atwrnai gwreiddiol. Mae hynny’n cynnwys cael galluedd meddyliol a bod dros 18 oed pan fyddwch yn llofnodi eich atwrneiaeth arhosol.

Ni all un o’ch atwrneiod gwreiddiol fod yn atwrnai newydd chwaith yn yr un atwrneiaeth arhosol.

Ni all person sydd ar restr wahardd Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd weithredu fel atwrnai – oni bai eu bod yn aelod o’r teulu ac nad ydynt yn derbyn ffi i fod yn atwrnai i chi. Byddant yn torri’r gyfraith os ydynt yn gwneud hynny.

Pan fydd atwrneiod newydd yn camu i mewn

Os ydych yn cynnwys mwy nag un atwrnai newydd yn eich atwrneiaeth arhosol, maent i gyd yn dechrau ar yr un pryd, oni bai eich bod wedi:

  • penodi eich atwrneiod i weithredu ar y cyd ac yn unigol
  • a nodi ym mha drefn y bydd eich atwrneiod gwreiddiol yn cael eu newid

Newid atwrnai sy’n gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’

Os ydych yn penodi eich atwrneiod i weithredu ar y cyd ac yn unigol, fel arfer bydd atwrneiod newydd yn camu i mewn os na all un o’r atwrneiod gwreiddiol weithredu ar eich rhan mwyach. Bydd yr atwrneiod sy’n cymryd eu lle ac unrhyw atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill yn gallu gwneud penderfyniadau ‘ar y cyd ac yn unigol’.

Newid atwrneiod sy’n gweithredu ‘ar y cyd’ neu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’

Os ydych yn penodi eich atwrneiod naill ai ‘ar y cyd’ neu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’, mae’n bwysig cael atwrneiod i gymryd eu lle.

Os na all un atwrnai gwreiddiol weithredu ar eich rhan mwyach, rhaid i’ch holl atwrneiod eraill stopio gwneud unrhyw benderfyniadau ar y cyd. Os bydd hynny’n digwydd, bydd unrhyw atwrneiod sy’n dod i gymryd eu lle yn camu i mewn i wneud y penderfyniadau ar y cyd. Os nad oes gennych unrhyw un i gymryd eu lle, bydd eich atwrneiaeth arhosol yn stopio gweithio ar gyfer penderfyniadau ar y cyd. Y rheswm am hynny yw bod y gyfraith yn gweld grŵp a benodwyd ‘ar y cyd’ fel uned unigol.

Darllenwch yr adran ar gymhlethdodau i weld enghreifftiau o sut allai hyn weithio’n ymarferol.

Newid pryd a sut y gall eich atwrneiod newydd weithredu

Marciwch y blwch ag X’ os ydych wedi penodi mwy nag un atwrnai newydd a’ch bod eisiau newid sut a phryd y gallant weithredu.

Mae dwy brif sefyllfa lle mae hyn yn ddefnyddiol. Mae gennych fwy nag un atwrnai newydd a:

  • rydych wedi penodi eich atwrneiod gwreiddiol ar y cyd ac yn unigol. Rydych eisiau i’ch rhai newydd gamu i mewn mewn trefn benodol. Darllenwch nodi trefn ar gyfer atwrneiod sy’n dod i gymryd eu lle.
  • dim ond un atwrnai gwreiddiol sydd gennych. Nid ydych eisiau i’ch atwrneiod newydd weithredu ar y cyd. Darllenwch y canllawiau am gymhlethdodau o’r enw
    ‘1. Un atwrnai a dau neu fwy o rai newydd i ddod yn eu lle’.

Mae yna rai sefyllfaoedd eraill lle efallai y byddwch am farcio’r blwch hwn. Fe welwch enghreifftiau o dan yr adran Cymhlethdodau: newid atwrneiod.

Nodi trefn ar gyfer atwrneiod sy’n dod i gymryd eu lle

Os ydych yn marcio’r blwch a’ch bod wedi penodi eich atwrneiod gwreiddiol i weithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’ yn adran 3 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol, gallwch nodi’r drefn y mae eich atwrneiod newydd yn camu i mewn.

Defnyddiwch dudalen barhad 2. Marciwch y blwch: ‘Sut mae atwrneiod newydd yn camu i mewn’. Defnyddiwch y gofod i ysgrifennu sut rydych chi eisiau i’ch atwrneiod newydd gamu i mewn. Efallai y byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth fel:

Os na all un o fy atwrnai (mam neu dad) weithredu mwyach, hoffwn i’m chwaer ddod yn atwrnai yn lle hynny. Os na fydd rhiant arall yn gweithredu mwyach nes ymlaen, hoffwn i’m mrawd ddod yn atwrnai.

Os nad yw fy atwrnai John Smith yn gallu gweithredu o dan yr atwrneiaeth arhosol hon, rydw i eisiau i Anne Hall gamu i mewn yn ei le fel atwrnai.

Peidiwch â nodi trefn i newid atwrneiod os yw eich atwrneiod gwreiddiol yn gweithredu ‘ar y cyd’ neu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’. Byddwch yn stopio eich atwrneiaeth arhosol rhag gweithio. Os ydych chi dal eisiau gwneud hyn, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol.

Cymhlethdodau: newid atwrneiod

Mae penodi atwrneiod newydd yn ffordd synhwyrol o ddiogelu atwrneiaeth arhosol, yn enwedig os mai un atwrnai gwreiddiol sydd yna, neu os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad ar y cyd.

Fel arfer, mae newid atwrneiod yn gweithio fel y byddech yn ei ddisgwyl. Er enghraifft, gallech chi enwi un atwrnai gwreiddiol ac un atwrnai i gymryd ei le. Yna, os bydd yr atwrnai gwreiddiol yn stopio gweithredu, bydd yr atwrnai newydd yn dod i gymryd ei le.

Serch hynny, os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad ar y cyd, neu os oes gennych fwy nag un atwrnai newydd, gall pethau annisgwyl ddigwydd.

Edrychwch ar yr enghreifftiau ar y ddwy dudalen nesaf: maen nhw’n ymdrin â rhai sefyllfaoedd eithaf cyffredin.

1. Un atwrnai a dau neu fwy o atwrneiod i gymryd ei le

Beth fydd yn digwydd

Oni bai eich bod yn dweud yn wahanol, bydd y rhai newydd yn gorfod gweithredu ar y cyd.

Beth fydd yn digwydd

Ni fydd yr atwrneiod gwreiddiol yn gallu gweithredu o gwbl unwaith fydd rhywun yn stopio gweithredu. Bydd yr atwrneiod sy’n dod i gymryd eu lle yn cymryd yr awenau ar bob penderfyniad.
 

Enghraifft

Rydych chi’n penodi eich dau frawd a’ch chwaer fel atwrneiod, yn gweithredu ar y cyd, ac yn penodi eich merch fel atwrnai i gymryd eu lle.

Mae rhywbeth yn digwydd i un o’ch brodyr/chwiorydd sy’n golygu na allant weithredu mwyach. Dyma pryd mae eich merch yn camu i mewn. Hi yw’r unig atwrnai, ac nid oes gan eich brodyr/chwiorydd sy’n weddill unrhyw lais mewn penderfyniadau a wneir o dan yr atwrneiaeth arhosol hon – ni allant weithredu ar eich rhan o gwbl.

Ffyrdd eraill

Os ydych wedi penodi eich atwrneiod gwreiddiol ‘ar y cyd’, nid yw’n hawdd trefnu pethau fel bod y lleill yn gallu parhau i weithredu ar ôl i un ohonynt orfod stopio – mae’n rhan o’r hyn y mae ‘ar y cyd’ yn ei olygu.

Gallech feddwl am benodi’r atwrneiod gwreiddiol ‘ar y cyd ac yn unigol’ yn lle hynny. Os oes rhai penderfyniadau mawr yr hoffech iddynt gytuno arnynt, gallech eu penodi ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ – serch hynny, fel y mae’r enghraifft isod yn ei dangos byddai’r un broblem yn digwydd eto.

Mae un ffordd o ddatrys y broblem.

Gallwch wneud ail atwrneiaeth arhosol rhag ofn y bydd eich un cyntaf yn stopio gweithio. Yn yr ail atwrneiaeth arhosol, gallwch benodi cyd-atwrneiod eich atwrneiaeth arhosol gyntaf fel atwrneiod.

Os ydych yn penodi eich atwrneiod ar y cyd ac yn unigol yn eich ail atwrneiaeth arhosol, byddwch yn osgoi’r broblem a gafwyd gyda’ch atwrneiaeth arhosol gyntaf.

Os ydych yn gwneud ail atwrneiaeth arhosol, mae’n rhaid i chi ysgrifennu cyfarwyddyd yn adran 7 o’ch ail atwrneiaeth arhosol, sy’n dweud y daw i rym pe bai eich atwrneiaeth arhosol gyntaf yn stopio gweithio. Efallai y byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth tebyg i:

Os yw fy atwrneiaeth arhosol wreiddiol ar gyfer penderfyniadau ariannol yn stopio gweithio, daw’r atwrneiaeth arhosol hon i rym.

Os yw fy atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn methu, bydd yr atwrneiaeth arhosol hon yn ei disodli.

Os ydych am wneud hyn, efallai y byddwch eisiau cyngor cyfreithiol neu ffonio ein llinell gymorth.

3. Atwrneiod sy’n cael eu penodi ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill yn ogystal ag un neu fwy o rai newydd i gymryd eu lle

Beth fydd yn digwydd

Ni fydd yr atwrneiod gwreiddiol yn cael unrhyw lais yn y penderfyniadau ar y cyd cyn gynted ag y bydd rhywun yn stopio gweithredu. Bydd y rhai newydd yn cymryd yr awenau o ran penderfyniadau ar y cyd.

Enghraifft

Rydych wedi penodi eich merch a’i gŵr fel atwrneiod. Mae’n rhaid iddynt weithredu ar y cyd ar gyfer unrhyw benderfyniad ynglŷn â gwerthu eich tŷ, ond gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol ar gyfer pob penderfyniad arall. Rydych yn penodi eich dau ŵyr (sydd dros 18 oed) fel atwrneiod i gymryd eu lle.

Mae eich mab yng nghyfraith yn stopio gweithredu fel atwrnai. Bellach, eich merch a’ch wyrion yw eich atwrneiod. Serch hynny, nid oes gan eich merch unrhyw lais wrth werthu eich tŷ. Gall eich wyrion wneud y penderfyniad hwnnw heb ymgynghori â hi – nhw yw’r unig atwrneiod ar gyfer penderfyniadau ar y cyd.

Ffyrdd eraill

Mae gan hyn yr un broblem â 2. Atwrneiod ar y cyd ac un neu fwy o atwrneiod amnewid.

Os ydych yn siŵr nad ydych am benodi eich atwrneiod gwreiddiol ar y cyd ac yn unigol, yna gallwch wneud dwy LPA.

I wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn 2. Atwrneiod ar y cyd ac un neu fwy o atwrneiod amnewid.

Rhan A5 – Pryd all eich atwrneiod wneud penderfyniadau? (atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol yn unig)

Llenwch adran 5

Mae’n rhaid chi ddewis pryd rydych chi eisiau i’ch atwrneiod allu gwneud penderfyniadau. Marciwch un blwch yn unig ag ‘X’.

Mae gennych ddau opsiwn:

  • Cyn gynted ag y bydd fy atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru (yn ogystal â phan na fydd gen i alluedd meddyliol)
  • Dim ond pan nad oes gen i alluedd meddyliol

Mwy o wybodaeth

Gall atwrneiaeth arhosol ariannol gael ei defnyddio fel arfer cyn gynted ag y bydd wedi’i chofrestru. Os oes gennych alluedd meddyliol, gallwch ddweud wrth eich atwrneiod i ddechrau defnyddio’r atwrneiaeth arhosol ar unwaith. Os ydych yn colli eich galluedd meddyliol ar ôl hynny, gallant barhau i ddefnyddio’r atwrneiaeth arhosol.

Fel arall, gallwch ddewis bod eich atwrneiaeth arhosol ariannol yn dod i rym – a bydd eich atwrneiod yn gallu gweithredu ar eich rhan – dim ond pan na fydd gennych alluedd meddyliol.

Cyn gynted ag y bydd fy atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru (a phan na fydd gen i alluedd meddyliol)

Marciwch y blwch ag ‘X’ os ydych chi eisiau i’ch atwrneiod eich helpu gyda’ch materion ariannol tra bod gennych alluedd meddyliol.

Er enghraifft, os na allwch adael y tŷ neu os yw’n anodd siarad â’ch cyflenwr trydan, gallech ofyn i’ch atwrneiod ddelio â’r banc neu dalu biliau. Gallech ofyn i’ch atwrneiod weithredu ar eich rhan os ydych i ffwrdd – er enghraifft, ar wyliau.

Gallwch roi cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r atwrneiaeth arhosol (gweler adran A7 o’r canllaw hwn) am benderfyniadau na all eich atwrneiod eu cymryd – er enghraifft, gwerthu eich tŷ. Efallai y byddwch chi’n ysgrifennu cyfarwyddiadau fel:

Tra bod gen i alluedd meddyliol, ni ddylai fy atwrneiod wneud unrhyw benderfyniadau am werthu fy nhŷ.

Cyhyd â bod gennych alluedd meddyliol, chi sy’n rheoli eich materion ariannol.

Dim ond pan na fydd gen i alluedd meddyliol

Marciwch y blwch ag ‘X’ os nad ydych chi eisiau i’ch atwrneiod wneud penderfyniadau neu weithredu ar eich rhan tra bod gennych alluedd meddyliol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gofalu am eich arian tra bod gennych alluedd meddyliol o hyd. Yna, os byddwch byth yn colli’r gallu hwnnw, bydd eich atwrneiaeth arhosol yn barod i’ch atwrneiod ei defnyddio.

Weithiau, mae banciau a sefydliadau ariannol eraill eisiau cadarnhad ysgrifenedig nad oes gan roddwr alluedd meddyliol cyn y byddant yn cydnabod awdurdod atwrnai i weithredu o dan atwrneiaeth arhosol.

Gofynnwch i feddyg teulu y rhoddwr, cydlynydd gofal, gweithiwr cymdeithasol neu staff cartrefi gofal ynglŷn ag asesiad galluedd meddyliol.

Pan gyrhaeddwch adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol, gallwch ychwanegu cyfarwyddiadau. Mae rhai pobl yn egluro sut dylid asesu eu galluedd meddyliol, fel:

Ni fydd fy atwrneiod yn gweithredu o dan y pŵer hwn oni bai eu bod wedi cael barn feddygol ysgrifenedig yn nodi nad oes gennyf alluedd meddyliol bellach i reoli a gweinyddu eiddo a’m materion ariannol.

Serch hynny, os ydych yn ymddiried yn eich atwrneiod i asesu eich galluedd meddyliol, nid oes angen i chi ychwanegu cyfarwyddiadau fel hyn.

Rhan A5 – Triniaeth cynnal bywyd (atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal yn unig)

Llenwch adran 5

Mae gennych ddau opsiwn:

  • opsiwn A – Rydw i’n rhoi awdurdod i’m atwrneiod roi neu wrthod cydsyniad am driniaeth cynnal bywyd ar fy rhan
  • opsiwn B – Nid wyf yn rhoi awdurdod i’m atwrneiod roi neu wrthod cydsyniad am driniaeth cynnal bywyd ar fy rhan

Llofnodwch un opsiwn yn unig.

Rhaid i chi lofnodi a dyddio’r dudalen hon. Rhaid i rywun fod yn dyst i’ch llofnod. Rhaid i’r tyst fod yn 18 oed neu’n hŷn ac ni all fod yn atwrnai neu’n atwrnai newydd o dan yr atwrneiaeth arhosol hon.

Llofnodwch yr adran hon cyn i chi lofnodi adran 9 o’ch atwrneiaeth arhosol. Gallwch lofnodi’r ddwy adran ar yr un dydd.

Os nad ydych yn gallu llofnodi neu wneud marc a bod rhywun arall yn llofnodi eich atwrneiaeth arhosol ar eich rhan, rhaid i’r person hwnnw lofnodi’r dudalen hon a rhoi dyddiad wrth ymyl eu llofnod. Rhaid i rywun fod yn dyst i’r llofnod.

Mwy o wybodaeth

Rhaid i chi ddewis yr hyn yr hoffech ei weld yn digwydd pe bai angen cymorth meddygol arnoch i’ch cadw’n fyw ac nad oedd gennych alluedd meddyliol mwyach.

Os ydych yn llofnodi opsiwn A ac angen triniaeth cynnal bywyd byth ond ddim yn gallu gwneud penderfyniadau, gall eich atwrneiod siarad â meddygon ar eich rhan fel pe baent yn chi. Gallwch ysgrifennu cyfarwyddiadau neu ddewisiadau ar gyfer eich atwrneiod yn adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol. Gweler isod rai enghreifftiau.

Os dewiswch opsiwn B, bydd meddygon yn gwneud penderfyniadau am driniaeth cynnal bywyd.

Triniaeth cynnal bywyd: diffiniad

Mae ‘triniaeth cynnal bywyd’ yn golygu gofal, llawdriniaeth, meddyginiaeth neu fath arall o gymorth wrth feddygon sydd eu hangen i gadw rhywun yn fyw.

Gall triniaeth cynnal bywyd gynnwys:

  • llawdriniaeth ddifrifol, fel llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon
  • cemotherapi, radiotherapi neu fath arall o driniaeth canser
  • trawsblaniad organau
  • maeth neu hydradiad artiffisial (bwyd neu ddŵr a roddir drwy ddulliau heblaw trwy’r geg)

Mae p’un a yw rhai triniaethau yn cynnal bywyd yn dibynnu ar y sefyllfa. Er enghraifft, pe bai rhywun yn cael niwmonia, gallai cwrs o wrthfiotigau gynnal bywyd.

Gall fod angen penderfyniadau am driniaeth cynnal bywyd o dan amgylchiadau annisgwyl. Un enghraifft yw llawdriniaeth arferol nad aeth fel y cynlluniwyd.

Opsiwn A: atwrneiod

Dewiswch opsiwn A os ydych chi eisiau i’ch atwrneiod benderfynu ar driniaeth cynnal bywyd rhag ofn na fyddwch byth yn gallu gwneud y penderfyniadau eich hun.

Triniaeth cynnal bywyd: dewisiadau (dewisol)

Gallwch ddefnyddio adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol i hysbysu eich atwrneiod o’ch dewisiadau, fel bod unrhyw benderfyniadau a wnânt mor agos â phosibl at y penderfyniadau y byddech wedi’u gwneud.

Efallai y byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth tebyg i:

Pe bawn yn niwrnodau olaf salwch angheuol, dim ond triniaethau i’m gwneud i’n gyfforddus y byddwn i eisiau. Fyddwn i ddim eisiau triniaethau i ymestyn fy mywyd neu a oedd yn golygu na allwn farw adref.

Dylai atwrneiod roi sylw i’ch dewisiadau, er nad oes rhaid iddynt eu dilyn.

Nid oes rhaid i chi roi unrhyw ddewisiadau ar gyfer triniaeth cynnal bywyd – gall eich atwrneiod weithredu hebddynt.

Triniaeth cynnal bywyd: cyfarwyddiadau (dewisol)

Gallwch nodi cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol i restru cyflyrau meddygol lle mae’n rhaid i’ch atwrneiod gydsynio neu beidio â chydsynio i driniaeth cynnal bywyd ar eich rhan. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth tebyg i:

Ni ddylai fy atwrneiod gytuno i driniaeth cynnal bywyd os ydw i mewn cyflwr diymateb parhaol.

Efallai y byddwch yn teimlo bod eich atwrneiod yn eich deall yn ddigon da ac nad oes angen i chi ysgrifennu cyfarwyddiadau. Siaradwch â nhw am yr hyn rydych ei eisiau.

Os byddwch yn ysgrifennu cyfarwyddiadau, mae’n rhaid i’ch atwrneiod eu dilyn. Rhaid i chi fod yn ofalus i beidio ag ysgrifennu unrhyw beth sy’n gwrth-ddweud yr hyn rydych wedi’i ddweud yn rhywle arall yn eich atwrneiaeth arhosol neu’n sy’n gwneud i’ch atwrneiod dorri’r gyfraith. Os felly, gallai wneud eich atwrneiaeth arhosol yn anymarferol. Os ydych am ysgrifennu cyfarwyddiadau ond yn ansicr, efallai y byddwch eisiau gofyn am gyngor cyfreithiol.

Does dim rhaid i chi roi cyfarwyddiadau am driniaeth cynnal bywyd.

Opsiwn B: meddygon

Dewiswch opsiwn B os ydych chi eisiau i’ch meddygon benderfynu ar driniaeth cynnal bywyd rhag ofn na fyddwch chi’n gallu gwneud. Os yw’r sefyllfa yn codi, dylent:

  • asesu beth sydd er eich lles pennaf
  • lle bo’n bosibl, ystyried safbwyntiau eich atwrneiod a phobl eraill sy’n gysylltiedig â’ch lles
  • ystyried yr hyn rydych wedi’i ddweud neu ysgrifennu amdano ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd, gan gynnwys unrhyw ganllawiau rydych wedi’u rhoi yn eich atwrneiaeth arhosol

Ffyrdd eraill o wneud eich dewisiadau triniaeth yn glir

Mae yna ffyrdd eraill o esbonio beth rydych chi am ei weld yn digwydd os oes angen triniaeth feddygol arnoch ac na allwch wneud penderfyniadau drosoch eich hun mwyach.

Mae penderfyniad ymlaen llaw yn ddogfen gyfreithiol rwymol lle rydych yn ysgrifennu pa driniaethau penodol nad ydych eu heisiau, rhag ofn na allwch benderfynu neu wneud eich dymuniadau’n hysbys. Mae rhai pobl yn ei alw’n ‘ewyllys fyw’ neu ‘gyfarwyddeb ymlaen llaw’.

Os ydych wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw y dylai eich meddygon neu’ch atwrneiod ei ystyried, cyfeiriwch ato yn eich cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol. Bydd angen i chi hefyd gynnwys copi o’r penderfyniad ymlaen llaw pan fyddwch yn anfon eich atwrneiaeth arhosol at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w chofrestru.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am benderfyniadau ymlaen llaw ar Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru.

Os ydych yn rhoi pŵer i’ch atwrneiod benderfynu ar driniaeth cynnal bywyd ac wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw, gallai eich atwrneiaeth arhosol fod yn drech na’ch penderfyniad ymlaen llaw.

Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol, yn enwedig os bydd y penderfyniad ymlaen llaw a’r atwrneiaeth arhosol yn dweud pethau gwahanol iawn.

Gallwch hefyd roi gwybod i bobl eich barn am driniaethau a gofal mewn:

  • datganiadau o ddymuniadau
  • cynlluniau gofal

Ceir mwy am driniaeth cynnal bywyd, penderfyniadau ymlaen llaw a sut mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymateb i’ch dymuniadau ysgrifenedig ym mhennod 9 o God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Rhan A6 – Pobl i’w hysbysu pan fydd atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru

Llenwch adran 6 (dewisol)

Gallwch ddewis hyd at bump o bobl i’w hysbysu am eich atwrneiaeth arhosol pan fydd ar fin cael ei chofrestru.

Dylai’r rhain fod yn bobl sy’n eich adnabod yn dda ac a fyddai’n fodlon codi pryderon ynglŷn â’ch atwrneiaeth arhosol. Gallant wrthwynebu’r atwrneiaeth arhosol os ydynt o’r farn eich bod o dan bwysau i’w gwneud neu os ydynt yn credu bod twyll yn rhan o bethau.

Serch hynny, nid oes rhaid i chi ddewis pobl i’w hysbysu.

Os ydych am benodi pobl i’w hysbysu, gallwch ysgrifennu enwau a chyfeiriadau hyd at bedwar yn adran 6. Os ydych am benodi pump o bobl i’w hysbysu, ticiwch y blwch sy’n dweud ‘Rydw i eisiau penodi person arall i’w hysbysu’. Cwblhewch enw a chyfeiriad y person ar dudalen barhad 1 a marciwch y blwch ‘Person i’w hysbysu’ ar y dudalen honno.

Rhaid i chi lofnodi a dyddio tudalen barhad 1 cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol yn adran 9. Os oes angen i chi ddefnyddio mwy nag un dudalen barhad, gallwch wneud copïau.

Rhaid i’r person sy’n gweud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol – naill ai chi neu eich atwrneiod – ddweud wrth unrhyw berson sydd angen eu hysbysu bod yr atwrneiaeth arhosol yn cael ei hanfon i’w chofrestru. Rhaid iddynt ddefnyddio ffurflen LP3 i wneud hynny, ychydig cyn anfon y ffurflen atwrneiaeth arhosol at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae Rhan C o’r canllaw hwn yn egluro sut i hysbysu’r bobl hyn.

Mwy o wybodaeth

Mae rhoi gwybod i bobl am eich atwrneiaeth arhosol ychydig cyn iddi gael ei chofrestru yn eich diogelu chi. Mae’n arbennig o bwysig os oes amser hir rhwng gwneud eich atwrneiaeth arhosol a’i chofrestru.

Dewiswch bobl i’w hysbysu

Gallwch ddewis hyd at bump o bobl i’w hysbysu ond ni allant fod yn atwrneiod neu atwrneiod newydd. Mae nifer o rhoddwyr yn dewis aelodau’r teulu neu ffrindiau agos. Gwiriwch gyda’r bobl rydych yn bwriadu rhoi gwybod iddynt eu bod yn hapus i gael eu henwi yn eich atwrneiaeth arhosol. Eglurwch:

  • nad oes rhaid iddyn nhw wneud unrhyw beth ar unwaith
  • dim ond pan fyddwch chi neu eich atwrneiod yn gwneud cais i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol y byddant yn cael gwybod
  • bydd eu henwau a’u cyfeiriadau yn cael eu hanfon at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • nid oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth pan gysylltir â nhw, oni bai bod ganddynt bryderon

Rhan A7 – Dewisiadau a chyfarwyddiadau

Llenwch adran 7 (dewisol)

Os ydych chi’n llenwi’r dudalen hon ac angen mwy o le, ticiwch y blwch ar waelod adran 7 a defnyddiwch dudalen barhad 2. Marciwch naill ai’r blwch ‘Dewisiadau’ neu’r blwch ‘Cyfarwyddiadau’ ag ‘X’ ar dudalen barhad 2. Os oes angen mwy o le arnoch o hyd, gallwch wneud copïau o dudalen barhad 2.

Rhaid i chi lofnodi tudalen barhad 2 cyn i chi lofnodi adran 9 o’ch atwrneiaeth arhosol.

Mwy o wybodaeth

Gallwch roi cyfarwyddiadau i’ch atwrneiod neu ddweud wrthynt beth yw eich dewisiadau yn yr adran hon o’r atwrneiaeth arhosol - ond nid oes rhaid i chi fel arfer. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gadael y dudalen hon yn wag.

Gallwch siarad â’ch atwrneiod ac egluro sut hoffech iddynt weithredu ar eich rhan. Yna bydd eich atwrneiod yn rhydd i wneud penderfyniadau maen nhw’n meddwl sy’n iawn, a byddant yn gwybod sut byddech chi eisiau iddynt gael eu gwneud.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w roi yn yr adran hon o’ch atwrneiaeth arhosol, efallai y byddwch eisiau gofyn am gyngor cyfreithiol.

Mewn amgylchiadau lle mae gennych fuddsoddiadau eisoes sy’n cael eu rheoli ar eich rhan gan weithiwr buddsoddi proffesiynol (a elwir yn rheoli buddsoddiadau dewisol), neu os hoffech ganiatáu i’ch atwrneiod ddefnyddio unrhyw gynllun sy’n cynnwys rheoli buddsoddiadau dewisol, dylech ystyried cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch a oes angen gwneud darpariaeth benodol ar gyfer hyn yn eich atwrneiaeth arhosol.

Mae hyn oherwydd bod un sefydliad ariannol mawr o leiaf wedi cymryd y safbwynt y bydd contractau cyfredol sy’n ymwneud â chynlluniau rheoli buddsoddiadau dewisol yn dod i ben adeg y bydd rhoddwr atwrneiaeth arhosol yn colli galluedd, ac y bydd unrhyw fuddsoddiadau newydd gan atwrneiod mewn cynlluniau rheoli buddsoddiadau dewisol ond yn cael eu caniatáu os oes cyfarwyddyd penodol ar y mater yn yr atwrneiaeth arhosol.

Gall cyfarwyddiadau cymhleth neu gyfarwyddiadau sydd wedi’u geirio’n wael wneud yr atwrneiaeth arhosol yn anymarferol.

Dewisiadau a chyfarwyddiadau: diffiniadau

Dewisiadau

Dewisiadau yw’r hyn yr hoffech i’ch holl atwrneiod feddwl amdano pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan. Nid oes rhaid i’ch atwrneiod eu dilyn, ond dylent eu cadw mewn cof.

Os ysgrifennwch unrhyw ddewisiadau, ceisiwch osgoi geiriau fel ‘rhaid’ a ‘dylid’. Yn hytrach, defnyddiwch eiriau fel ‘ffafrio a ‘hoffwn’, fel ei bod yn amlwg eich bod yn rhoi cyngor i’ch atwrneiod. Os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhywbeth, dylech ei gynnwys yn eich cyfarwyddiadau.

Cyfarwyddiadau

Mae cyfarwyddiadau yn dweud wrth eich atwrneiod beth mae’n rhaid iddynt ei wneud wrth weithredu ar eich rhan.

Os byddwch yn ysgrifennu unrhyw gyfarwyddiadau, defnyddiwch eiriau fel ‘rhaid’, ‘dylid’ a ‘gorfod’.

Mae cyfarwyddiadau yn achosi mwy o broblemau na dewisiadau. Os ydych am roi cyfarwyddiadau, darllenwch drwy’r wybodaeth isod i gael gwybod am broblemau a chamgymeriadau cyffredin. Efallai y byddai’n well eu geirio fel dewisiadau.

Os ydych am dalu ffioedd i’ch atwrneiod, eglurwch hyn yn y cyfarwyddiadau. Gweler Cyfarwyddiadau ar dalu ffioedd yn y canllaw hwn.

Isod ceir rhai enghreifftiau o ddewisiadau a chyfarwyddiadau cyffredin ar gyfer y ddau fath o atwrneiaeth arhosol. Efallai nad ydynt yn iawn i chi - maen nhw’n rhoi syniad i chi o’r hyn y gallech ei ysgrifennu. Dylai eich dewisiadau a’ch cyfarwyddiadau ymwneud â’r hyn sy’n bwysig i chi.

Enghreifftiau o Ddewisiadau

Atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal

Dyma rai enghreifftiau o ddewisiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal:

Mae’n well gen i fyw o fewn pum milltir i fy chwaer.

Hoffwn i feddyginiaethau generig gael eu rhagnodi lle maen nhw ar gael.

Hoffwn wneud ymarfer corff o leiaf dair gwaith yr wythnos pryd bynnag y byddaf yn gorfforol abl i wneud hynny. P’un a wyf yn symudol ai peidio, hoffwn dreulio amser yn yr awyr agored o leiaf unwaith y dydd.

Hoffwn i’m hanifeiliaid anwes fyw gyda fi cyn hired â phosibl – os byddaf yn mynd i gartref gofal, hoffwn fynd â nhw gyda fi.

Hoffwn gael torri fy ngwallt, triniaeth dwylo a thriniaethau traed yn rheolaidd.

Atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol

Dyma rai enghreifftiau o ddewisiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn atwrneiaeth arhosol ariannol:

Rwy’n hoffi ail-fuddsoddi’r holl log o fuddsoddiadau pob blwyddyn i lwfans ISA y flwyddyn nesaf.

Hoffwn gadw balans o £1,000 fan lleiaf yn fy nghyfrif cyfredol.

Mae’n well gen i fuddsoddi mewn cronfeydd moesegol.

Hoffwn i fy atwrneiod ymgynghori â’m meddyg os ydynt yn credu nad oes gen i’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am fy nhŷ.

Hoffwn gyfrannu £100 y flwyddyn i Age UK.

Enghreifftiau o gyfarwyddiadau

Atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal

Dyma rai enghreifftiau o gyfarwyddiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal:

Ni ddylai fy atwrneiod benderfynu fy mod yn symud i ofal preswyl oni bai, ym marn fy meddyg, na allaf fyw’n annibynnol mwyach.

Ni ddylai fy atwrneiod roi cydsyniad i unrhyw driniaeth feddygol sy’n cynnwys cynnyrch gwaed, gan ei fod yn mynd yn groes i’m crefydd.

Rhaid i fy atwrneiod sicrhau mai dim ond bwyd llysieuol a roddir i fi.

Atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol

Dyma rai enghreifftiau o gyfarwyddiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn atwrneiaeth arhosol ariannol:

Rhaid i’m atwrneiod ymgynghori ag ymgynghorydd ariannol cyn gwneud buddsoddiadau dros £10,000.

Ni ddylai fy atwrneiod werthu fy nghartref oni bai, ym marn fy meddyg, na allaf fyw’n annibynnol mwyach.

Ni ddylai fy atwrneiod roi unrhyw roddion.

Rhaid i’m atwrneiod barhau i gyfrannu at elusennau rydw i wedi’u cefnogi neu elusennau rwyf wedi sefydlu taliadau archeb sefydlog ar eu cyfer.

Rhaid i’m atwrneiod anfon cyfrifon blynyddol at fy mrodyr a’m chwiorydd.

Rhaid i’m atwrneiod roi cyfarwyddyd i gyfrifydd treth baratoi fy ffurflen dreth flynyddol.

Os ydych wedi dewis (yn adran 5 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol) i’ch atwrneiod weithredu o dan atwrneiaeth arhosol ariannol os ydych wedi colli galluedd meddyliol yn unig, efallai y byddwch chi’n ychwanegu cyfarwyddiadau ynglŷn â sut gallai eich galluedd meddyliol gael ei asesu. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n ysgrifennu:

Dim ond os oes meddyg yn cadarnhau’n ysgrifenedig nad oes gen i’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am fy materion ariannol y mae’r atwrneiaeth arhosol hon yn gymwys.

Os oes gennych ffydd yn eich atwrneiod i farnu lefel eich galluedd meddyliol, nid oes angen i chi ychwanegu cyfarwyddiadau fel hyn.

Achos arbennig: gwneud dau atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol

Efallai y byddwch am wneud dau atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniad ariannol, un ar gyfer eich materion ariannol personol a’r llall ar gyfer eich materion busnes, fel y gall atwrneiod gwahanol edrych ar ôl pethau gwahanol. Os felly, dylech egluro beth rydych am ei weld yn digwydd yn y cyfarwyddiadau ar gyfer pob un. Er enghraifft, mewn un atwrneiaeth arhosol, gallech ddweud:

Dim ond yr awdurdod i ddefnyddio fy nghyfrif banc personol sydd gan fy atwrneiod. Ni chaniateir iddynt gael mynediad at fy nghyfrif busnes na gwneud unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â’m busnes.

Yn yr atwrneiaeth arhosol arall, gallech ddweud:

Dim ond yr awdurdod i ddefnyddio fy nghyfrifon busnes a gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â’m busnes sydd gan fy atwrneiod. Ni chaniateir iddynt gael mynediad at fy nghyfrif personol na gwneud penderfyniadau am fy materion ariannol personol.

Osgoi problemau

Gall cyfarwyddiadau a dewisiadau greu problemau. Mae’n hawdd gofyn am rywbeth na fydd y gyfraith yn ei ganiatáu.

Os hoffech ychwanegu cyfarwyddiadau a dewisiadau, dyma rai camgymeriadau cyffredin i’w hosgoi.

Ni allwch newid y ffordd y caiff atwrneiod eu penodi i weithredu

Peidiwch â phenodi atwrneiod i wneud penderfyniadau mewn un ffordd, ac yna cynnwys cyfarwyddiadau i wneud iddynt weithredu’n wahanol.

Os ydych wedi dweud yn adran 3 bod rhaid i’ch atwrneiod weithredu ‘ar y cyd’ - felly mae’n rhaid iddynt gytuno ar bob penderfyniad yn unfrydol – ni ddylech ychwanegu fan hyn os bydd rhywun yn stopio bod yn atwrnai, y gall y gweddill barhau i weithredu.

Os dywedoch y dylai eich atwrneiod weithredu ‘ac y cyd ac yn unigol’ - fel y gallant wneud unrhyw benderfyniad ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd – ni ddylech ychwanegu’r mathau hyn o gyfarwyddiadau:

  • bod yn rhaid i un atwrnai wneud beth mae atwrnai arall yn ei ddweud
  • bod yn rhaid i un atwrnai ddelio â’ch busnes a’r llall i ddelio â’ch materion preifat
  • dylai’r mwyafrif benderfynu lle bo atwrneiod yn anghytuno
  • bod yn rhaid iddynt wneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd – os mai dyma’r hyn rydych ei eisiau, dylech eu penodi yn adran 3 o’r atwrneiaeth arhosol i weithredu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ yn lle hynny

Ni fydd eich atwrneiaeth arhosol yn gweithio os wnewch chi gynnwys cyfarwyddiadau fel y rhain.

Mae’r dewisiadau neu’r cyfarwyddiadau ar gyfer yr holl atwrneiod

Rhaid i unrhyw ddewisiadau neu gyfarwyddiadau fod yn berthnasol i’ch holl atwrneiod. Ni ddylech ysgrifennu, er enghraifft, mai dim ond eich merch sy’n cael gwerthu eich tŷ, neu bod un atwrnai na all wneud penderfyniadau am roddion.

Byddwch yn ofalus gyda rhoddion

Gall cyfarwyddiadau am roddion achosi problemau’n aml. Ceir cyfyngiadau llym ar y mathau o roddion y gall atwrneiod eu rhoi ar eich rhan. Gallant roi anrhegion ar ‘achlysuron arferol’, gan gynnwys priodasau, penblwyddi a gwyliau crefyddol. Gallant gyfrannu at elusennau rydych wedi rhoi iddynt yn y gorffennol. Dylai unrhyw roddion fod yn rhesymol a chymryd i ystyriaeth faint o arian sydd gennych.

Ni allwch roi cyfarwyddiadau i’ch atwrneiod fynd y tu hwnt i’r trothwyon hyn.

Dyma rai mathau o anrhegion na allwch eu hawdurdodi:

  • cronfeydd ymddiriedolaeth ar gyfer wyrion
  • talu ffioedd ysgol yr wyrion
  • benthyciadau di-log ar gyfer y teulu
  • cynhaliaeth ar gyfer unrhyw aelod o’r teulu heblaw eich gwraig, gŵr, partner sifil neu blentyn o dan 18 oed

Rhaid i’ch atwrneiod wneud cais i’r Llys Gwarchod os ydynt eisiau gwneud rhoddion fel hyn ar eich rhan. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi canllawiau ar roddion i atwrneiod.

Camgymeriadau eraill

Dylech osgoi’r camgymeriadau cyffredin canlynol:

  • Ni allwch ddweud wrth eich atwrneiod i wneud unrhyw beth anghyfreithlon – mae hyn yn cynnwys unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag ewthanasia a hunanladdiad â chymorth
  • Ni allwch ddweud y dylai atwrneiod weithredu er lles pennaf unrhyw un arall, gan gynnwys eich gwraig, gŵr, partner neu blant. Mae eich atwrneiod yn gweithredu ar eich rhan chi’n unig
  • Ni allwch ddweud y gall atwrnai newydd ddechrau gweithredu mewn amgylchiadau penodol yn unig. Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio cyfyngiadau i ychwanegu amgylchiadau arbennig – fel atwrnai gwreiddiol ar wyliau – lle gall eich atwrnai newydd gamu i mewn
  • Peidiwch ag ychwanegu cyfyngiadau iechyd a gofal at atwrneiaeth arhosol ariannol. Peidiwch ag ychwanegu cyfyngiadau ariannol at atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal. Yn lle hynny, dylech wneud atwrneiaeth arhosol ar wahân ar gyfer pob un.
  • Ni allwch ddweud wrth atwrnai i newid eich ewyllys – mae hynny y tu allan i’w pwerau
  • Ni allwch roi pŵer i atwrnai benodi atwrnai i gymryd ei le

Cyfarwyddiadau i dalu ffioedd

Atwrneiod proffesiynol

Mae atwrneiod proffesiynol, fel cyfreithwyr neu gyfrifydd, yn codi ffi am eu gwasanaethau. Gallant hefyd hawlio ffioedd a threuliau rhesymol.

Ysgrifennwch yr hyn rydych wedi cytuno i’w dalu yng nghyfarwyddiadau adran 7 neu bennwch eu ffi drwy gyfeirio at gyfraddau safonol ac ysgrifennwch rywbeth fel:

Dymunaf i’m atwrneiod proffesiynol gael eu talu yn ôl cyfradd safonol cyfreithwyr fel y pennwyd gan [nodwch enw sefydliad proffesiynol perthnasol fan hyn].

Telir ffioedd a threuliau o’ch cronfeydd.

Atwrneiod nad ydynt yn broffesiynol

Mae nifer o atwrneiod ddim yn derbyn ffioedd. Er enghraifft, os ydych yn penodi atwrnai nad yw’n broffesiynol – fel eich gŵr, gwraig, partner, aelod o’r teulu neu ffrind – mae’n debyg y byddant yn hapus i weithredu ar eich rhan heb gael eu talu. Serch hynny, maen nhw’n dal i allu hawlio treuliau rhesymol, fel post, costau teithio a chost cyfrifydd wrth baratoi cyfrifon blynyddol.

Os nad ydych eisiau talu ffioedd i’ch atwrneiod, peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth. Gallant dal hawlio treuliau.

Os byddwch yn cytuno i dalu ffi, rhaid i chi ysgrifennu hyn yn eich cyfarwyddiadau. Os na wnewch chi, ni ellir talu eich atwrnai. Gallwch bennu ffioedd gwahanol ar gyfer atwrneiod gwahanol.

Ar gyfer atwrneiod nad ydynt yn broffesiynol, mae ffioedd yn aml yn cael eu pennu fel taliad blynyddol.

Dyma enghreifftiau o’r math o gyfarwyddiadau y gallech eu hysgrifennu i dalu ffi i’ch atwrneiod:

Mae’n rhaid talu ffi unigol o £1,000 y flwyddyn i bob atwrnai, a dylid talu ar 20 Rhagfyr bob blwyddyn. Bydd y ffioedd yn stopio pan fydd fy ystâd yn disgyn i £[llenwch y swm].

Dymunaf i bob un o’m atwrneiod gael eu talu £ [llenwch y swm] y flwyddyn am eu gwasanaethau o dan yr atwrneiaeth arhosol hon. Bydd fy atwrneiod yn stopio cael eu talu pan fydd fy arian yn disgyn i £[llenwch y swm].

Caiff ffioedd a threuliau eu talu o’ch cronfeydd.

Rhan A8 – Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol

Darllenwch adran 8

Rhaid i bawb sy’n gysylltiedig â’r atwrneiaeth arhosol hon ddarllen yr adran hon cyn llofnodi.

Mwy o wybodaeth

Cytundeb cyfreithiol yw atwrneiaeth arhosol (sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘weithred’) rhyngoch chi a’ch atwrneiod.

Mae adran 8 yn cynnwys gwybodaeth bwysig y mae’n rhaid i chi, eich atwrneiod a’ch darparwr tystysgrif ei darllen, gan ei bod yn rhan o gytundeb cyfreithiol rydych chi a nhw’n ei gwneud. Nodir egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r rheolau yng Nghod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, y mae’n rhaid i’ch atwrneiod eu dilyn, yn yr adran hon o’r atwrneiaeth arhosol.

Os oes angen help arnoch i edrych ar wefannau, ewch i’ch llyfrgell leol.

Eich lles pennaf

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i’ch atwrneiod weithredu er eich lles pennaf drwy’r amser wrth wneud penderfyniadau a gweithredu ar eich rhan.

Rhaid iddynt:

  • wneud popeth o fewn eu gallu i’ch helpu i wneud penderfyniad cyflawn neu ran o benderfyniad
  • nodi’r hyn y byddech yn ei ystyried pe baech yn gwneud penderfyniad
  • cael eich arwain gan eich credoau a’ch gwerthoedd personol, gwleidyddol, diwylliannol, moesol neu grefyddol wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar eich rhan

I wneud hynny, dylent:

  • ganfod eich dewisiadau a’ch safbwyntiau wrthoch chi neu o’r ffordd rydych wedi ymddwyn a’r hyn rydych wedi’i ddweud neu ei ysgrifennu yn eich atwrneiaeth arhosol a thu hwnt
  • asesu a ellir gadael y penderfyniad am gyfnod arall, pan fydd hi’n haws i chi ei wneud
  • osgoi cyfyngu ar eich hawliau
  • ymgynghori â theulu a ffrindiau ac unrhyw un arall a oedd yn gwybod neu’n deall eich dymuniadau, eich teimladau a’ch safbwyntiau
  • peidio â gwneud rhagdybiaethau am ansawdd eich bywyd neu am yr hyn sydd ei angen arnoch dim ond oherwydd eich oedran, ymddangosiad, cyflwr neu ymddygiad

Cyn i chi lofnodi

Gwiriwch eich bod wedi cwblhau’r holl adrannau sydd angen eu llenwi ac unrhyw adrannau dewisol rydych eisiau eu defnyddio.

Ar ôl i chi lofnodi, ni allwch newid eich atwrneiaeth arhosol – bydd angen i chi wneud atwrneiaeth arhosol newydd os ydych chi eisiau gwneud newidiadau.

Isod, ceir crynodeb o’r holl wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi a phopeth y dylech fod wedi’i wneud cyn i chi lofnodi. Mae rhai adrannau yn angenrheidiol, eraill yn ddewisol.

Adran 1: Y rhoddwr (angenrheidiol)

Rhowch eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad. Rhowch gyfeiriad e-bost hefyd os oes gennych un.

Adran 2: Yr atwrneiod (angenrheidiol)

Bydd angen i chi roi enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni eich atwrneiod. Os oes gennych fwy na phedwar atwrnai, defnyddiwch dudalen barhad 1 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol.

Adran 3: Sut dylai eich atwrneiod wneud penderfyniadau? (angenrheidiol)

Marciwch un blwch i ddangos sut mae eich atwrneiod yn gwneud penderfyniadau.

Adran 4: Atwrneiod newydd (dewisol)

Bydd angen i chi roi enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni unrhyw atwrneiod newydd. Os oes gennych mwy na dau atwrnai newydd, defnyddiwch dudalen barhad 1 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol.

Os ydych yn newid y ffordd y mae eich atwrneiod newydd yn gweithredu neu’n camu i mewn, defnyddiwch dudalen barhad 2 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol.

Adran 5: Pryd all eich atwrneiod wneud penderfyniadau? (angenrheidiol)

Atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol yn unig – ticiwch un blwch i ddewis pryd gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau.

Atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a lles yn unig: triniaeth cynnal bywyd – ticiwch un blwch i naill ai roi pŵer i’ch atwrneiod (opsiwn A) neu eich meddygon (opsiwn B) i benderfynu ar driniaeth cynnal bywyd.

Adran 6: Pobl i’w hysbysu pan fydd yr atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru (dewisol)

Bydd angen i chi roi enwau a chyfeiriadau unrhyw bobl i’w hysbysu. Os oes pump o bobl i’w hysbysu, defnyddiwch dudalen barhad 1 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol.

Adran 7: Dewisiadau a chyfarwyddiadau (dewisol)

Gallwch nodi unrhyw ddewisiadau neu gyfarwyddiadau rydych chi eisiau i’ch atwrneiod eu dilyn neu eu hystyried. Os oes mwy o ddewisiadau neu gyfarwyddiadau, defnyddiwch dudalen barhad 2 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol.

Rhan A9 – Llofnod: rhoddwr

Adran 9: llofnodwch eich atwrneiaeth arhosol

 

Rhaid i’r bobl sy’n gysylltiedig â’r atwrneiaeth arhosol ei llofnodi yn y drefn gywir. Os nad ydynt, ni fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei chofrestru ac ni fydd eich atwrneiod yn gallu ei defnyddio.

Rhaid i chi lofnodi eich atwrneiaeth arhosol cyn unrhyw un arall.

Os ydych wedi defnyddio tudalennau parhad 1 neu 2, gwnewch yn siŵr eich bod wedi’u llofnodi cyn i chi lofnodi’r adran hon.

Os ydych yn gwneud atwrneiaeth arhosol iechyd a lles, llofnodwch adran 5 hefyd – triniaeth cynnal bywyd – cyn i chi lofnodi’r adran hon.

Pan fyddwch yn llofnodi adran 9 o’r atwrneiaeth arhosol, rydych yn creu cytundeb cyfreithiol gyda’ch atwrneiod. Rydych wedi eich rhwymo’n gyfreithiol gan bopeth sydd wedi’i ysgrifennu yn y ffurflen hyd at y pwynt hwn, gan gynnwys adran 8 o’r atwrneiaeth arhosol (‘Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol’) a’r datganiad ar y dudalen hon.

Mwy o wybodaeth

Trefn y llofnodi

Rhaid i’r atwrneiaeth arhosol gael ei llofnodi yn y drefn hon:

1. Rydych chi ( y rhoddwr) yn llofnodi

Rhaid i chi (y rhoddwr) lofnodi’r atwrneiaeth arhosol cyn unrhyw un.

Rhaid i chi (y rhoddwr) lofnodi:

  • adran 5 o’r atwrneiaeth arhosol, am driniaeth cynnal bywyd os yw’n atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a gofal
  • Tudalen/tudalennau parhad 1; os yn defnyddio
  • Tudalen /tudalennau parhad 2; os yn defnyddio
  • adran 9 o’r atwrneiaeth arhosol

Mae’n well llofnodi popeth ar yr un diwrnod – er nad oes rhaid – ond adran 9 ddylid ei llofnodi olaf.

Os na allwch lofnodi, gwnewch farc.

Os na allwch lofnodi neu wneud marc, edrychwch ar Roddwyr na allant lofnodi neu wneud marc, isod. Bydd y person rydych wedi’i ddewis yn gallu ei llofnodi ar eich rhan.

Rhaid cael tyst annibynnol i’ch gwylio chi’n llofnodi’ch atwrneiaeth arhosol. Rhaid i’r tyst lofnodi yn syth ar eich ôl chi.

Os yw’n atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a gofal, rhaid iddynt hefyd fod yn dyst i chi’n llofnodi adran 5, ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd.

Ni all eich tyst fod:

  • o dan 18 oed
  • un o’ch atwrneiod
  • un o’ch atwrneiod newydd
  • gweithiwr yng nghorfforaeth ymddiriedolaeth sef eich atwrnai neu atwrnai newydd (atwrneiaeth arhosol ariannol yn unig)

2. Mae’r darparwr tystysgrif yn llofnodi adran 10 o’r atwrneiaeth arhosol

Gweler rhan A10 o’r canllaw hwn, o’r enw ‘Llofnod: darparwr tystysgrif’.

3. Mae’r holl atwrneiod a’r atwrneiod newydd yn llofnodi adran 11 o’r atwrneiaeth arhosol

Gweler rhan A11 o’r canllaw hwn, o’r enw ‘Llofnod: atwrnai neu atwrnai newydd’.

Rhoddwyr na allant lofnodi neu wneud marc: tudalen barhad 3

Os na allwch lofnodi neu wneud marc, gall rywun llofnodi ar eich rhan drwy ddefnyddio tudalen barhad 3.

Rhaid i chi fod yn bresennol a dweud wrth y person i lofnodi.

Rhaid i lofnod y person hwnnw gael ei dystio gan ddau berson. Ni all y ddau dyst fod:

  • o dan 18 oed
  • eich atwrneiod
  • eich atwrneiod newydd
  • gweithiwr yng nghorfforaeth ymddiriedolaeth sef eich atwrnai neu atwrnai newydd (atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol yn unig)

Rhan A10 – Llofnod: darparwr tystysgrif

Llenwch adran 10

Rhaid i’r darparwr tystysgrif lofnodi ar ôl y rhoddwr ond cyn yr atwrneiod.

Rhaid i’r darparwr tystysgrif ddarllen adrannau 8 a 10 o’r atwrneiaeth arhosol cyn iddynt lofnodi eich atwrneiaeth arhosol. Yna gallant lenwi eu henw a’u cyfeiriad, a llofnodi a dyddio adran 10.

Mwy o wybodaeth

Person diduedd yw’r darparwr tystysgrif sy’n cadarnhau eich bod chi’n deall beth rydych chi’n ei wneud ac nad oes neb yn eich gorfodi i wneud atwrneiaeth arhosol. Rhaid iddynt gadarnhau:

  • eich bod yn deall arwyddocâd yr atwrneiaeth arhosol
  • na chawsoch eich rhoi o dan bwysau i’w gwneud
  • na chafwyd unrhyw dwyll wrth wneud yr atwrneiaeth arhosol
  • nad oes unrhyw reswm arall dros bryderu

Os yn bosibl, dylent drafod eich atwrneiaeth arhosol gyda chi’n breifat, heb atwrneiod neu unrhyw bobl eraill yn bresennol, cyn iddynt lofnodi i ‘ardystio’ eu rhan nhw o’r atwrneiaeth arhosol.

Gall darparwr tystysgrif fod yn dyst i’ch llofnod chi a llofnod eich atwrneiod.

Pwy gaiff fod yn ddarparwr tystysgrif?

Rhaid i ddarparwr tystysgrif fod yn 18 oed o leiaf a naill ai’n:

  • ffrind, cydweithiwr neu rywun rydych chi wedi’i adnabod yn dda ers o leiaf dwy flynedd – mae’n rhaid iddynt fod yn fwy na chydnabod yn unig
  • eich meddyg neu gyfreithiwr neu rywun sydd â’r sgiliau proffesiynol i farnu a ydych yn deall yr hyn rydych yn ei wneud ac nad ydych yn cael eich gorfodi i wneud atwrneiaeth arhosol

Gall ‘pobl i’w hysbysu’ fod yn ddarparwyr tystysgrif.

Mae yna lawer iawn o bobl na allant fod yn ddarparwr tystysgrif – er enghraifft, aelodau o’ch teulu neu deuluoedd eich atwrneiod. Ceir rhestr fwy cynhwysfawr isod.

Rhaid i ddarparwr tystysgrif lofnodi ar eich ôl chi a gall lofnodi ar yr un dydd â chi (y rhoddwr) neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

Rhywun sydd wedi eich adnabod yn dda ers o leiaf dwy flynedd

Dylech ofyn i ffrind neu gymydog, rhywun o’ch clwb cymdeithasol neu chwaraeon, cydweithiwr, neu rywun tebyg. Mae’n rhaid eu bod yn eich adnabod yn dda ers o leiaf dwy flynedd. Mae’n rhaid iddynt eich adnabod yn ddigon da i gael sgwrs onest gyda chi am wneud eich atwrneiaeth arhosol a’r pethau sy’n rhaid iddynt eu cadarnhau pan fyddant yn llofnodi’r atwrneiaeth arhosol.

Os yn bosibl, dylent drafod eich atwrneiaeth arhosol gyda chi’n breifat, heb atwrneiod neu unrhyw bobl eraill yn bresennol, cyn iddynt lofnodi i ‘ardystio’ eu rhan nhw o’r atwrneiaeth arhosol.

Rhywun â sgiliau proffesiynol perthnasol

Fel arfer, byddai rhywun â sgiliau proffesiynol perthnasol yn un o’r canlynol:

  • gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, fel eich meddyg teulu
  • cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu eiriolwr
  • gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
  • eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol (IMCA)

Efallai y bydd gan weithwyr proffesiynol eraill sgiliau sy’n addas ar gyfer barnu a allwch wneud atwrneiaeth arhosol – cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os ydych yn ansicr ynglŷn â’ch dewis o ddarparwr tystysgrif.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu gweithiwr proffesiynol i weithredu fel eich darparwr tystysgrif.

Pobl na allant fod yn ddarparwr tystysgrif

Ni ddylai’r darparwr tystysgrif fod yn:

  • atwrnai neu atwrnai newydd ar gyfer yr atwrneiaeth arhosol
  • atwrnai neu atwrnai newydd mewn unrhyw atwrneiaeth arhosol arall, neu atwrneiaeth barhaus rydych eisoes wedi’i gwneud
  • aelod o’ch teulu chi neu deulu eich atwrneiod – gan gynnwys gwragedd, gwŷr, partneriaid sifil, teulu yng nghyfraith a llys-berthnasau
  • partner, cariad neu gariad di-briod i chi neu unrhyw un o’ch atwrneiod – p’un a ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad ai peidio
  • eich partner busnes neu un o bartneriaid busnes eich atwrneiod
  • eich gweithiwr neu un o weithwyr eich atwrneiod
  • perchennog, rheolwr, cyfarwyddwr neu weithiwr cartref gofal rydych chi’n byw ynddo, neu aelod o’u teulu
  • unrhyw un sy’n rhedeg neu’n gweithio i gorfforaeth ymddiriedolaeth a benodwyd fel atwrnai mewn atwrneiaeth arhosol penderfyniadau ariannol

Os nad ydych yn siŵr os oes hawl gan rywun fod yn ddarparwr tystysgrif i chi, gallwch gysylltu â ni yn customerservices@publicguardian.gov.uk neu drwy ffonio 0300 456 0300.

Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Rhan A11 – Llofnod: atwrnai neu atwrnai newydd

Llenwch adran 11

Rhaid i’ch atwrneiod a’ch atwrneiod newydd ysgrifennu eu henwau a llofnodi a dyddio eich atwrneiaeth arhosol.

Rhaid i atwrneiod ac atwrneiod newydd lofnodi ar ôl y darparwr tystysgrif.

Rhaid i’w llofnodion gael tystion. Rhaid i’r tyst neu’r tystion ysgrifennu eu henw llawn a’u cyfeiriad yn ogystal â llofnodi. Ni all y tyst fod yn rhoddwr.

Mae pedwar copi o’r dudalen hon yn y ffurflen. Os oes angen mwy arnoch, gwnewch lungopïau. Rhaid i bob atwrnai ac atwrnai newydd lofnodi adran 11. (Corfforaethau ymddiriedolaeth yw’r unig eithriad: maen nhw’n cwblhau ac yn llofnodi tudalen barhad 4 yn lle hynny.)

Mwy o wybodaeth

Pan fydd eich atwrneiod yn llofnodi adran 11, maent yn ffurfio cytundeb cyfreithiol gyda chi (y rhoddwr). Maent yn rhwym wrth bopeth a ysgrifennwyd yn y ffurflen hyd at y pwynt hwn, gan gynnwys adran 8 o’r atwrneiaeth arhosol (‘Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol’) a’r datganiad yn adran 11.

Rhaid iddynt ddarllen yr atwrneiaeth arhosol (gan gynnwys adran 8) neu dylid ei darllen iddynt. Yna, rhaid iddynt lofnodi adran 11 ym mhresenoldeb tyst diduedd.

Gall atwrneiod ac atwrneiod newydd fod yn dyst i lofnodion ei gilydd. Ni allwch chi (y rhoddwr) fod yn dyst. Dylai atwrneiod ac atwrneiod newydd lofnodi cyn gynted â phosibl ar ôl y darparwr tystysgrif – gorau oll os yw pawb yn llofnodi ar yr un dydd.

Rhan B1 – Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol

Rhaid i chi gofrestru

Ni ellir defnyddio’r atwrneiaeth arhosol nes iddi gael ei chofrestru gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Dim ond y rhoddwr neu un o’r atwrneiod sy’n gallu gwneud cais i’w chofrestru.

Gall atwrnai wneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol ar eu pen eu hunain os ydynt:

  • yr unig atwrnai
  • wedi’u penodi ‘ar y cyd ac yn unigol’
  • wedi’u penodi ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ – oni bai bod y rhoddwr wedi nodi yn y ddogfen atwrneiaeth arhosol bod rhaid i’r holl atwrneiod wneud cais gyda’i gilydd

Os ydych wedi cael eich penodi i weithredu ar y cyd, mae’n rhaid i chi wneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol gyda’r holl atwrneiod eraill. Gwiriwch sut mae’r atwrneiod wedi’u penodi drwy edrych ar adran 3 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol.

Cyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru atwrneiaeth arhosol, rhaid iddo wneud yn siŵr bod:

  • yr atwrneiaeth arhosol yn gyfreithiol gywir
  • nad oes unrhyw gamgymeriadau yn yr atwrneiaeth arhosol
  • pobl wedi cael cyfle i wrthwynebu os oes ganddynt bryderon

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth unrhyw ‘bobl i’w hysbysu’ cyn i chi gofrestru. Rhaid gwneud hynny drwy ddefnyddio ffurflen LP3. Ceir mwy o fanylion yn rhan C o’r canllaw hwn. Mae cyfnod cyfreithiol o bedair wythnos cyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru atwrneiaeth arhosol. Mae hynny’n rhoi cyfle i ‘bobl i’w hysbysu’ wrthwynebu.

Os nad oes rhesymau da dros wrthwynebu a dim problemau gyda’r atwrneiaeth arhosol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei chofrestru ac yn ei phostio nôl. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn stampio’r ffurflen wreiddiol i ddangos ei bod yn ddilys ac yn barod i’w defnyddio. Dyma’r ddogfen atwrneiaeth arhosol swyddogol.

Cofrestrwch nawr

Os wnewch chi gais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol cyn gynted ag y caiff ei llofnodi, gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ganfod camgymeriadau tra gellir eu newid o hyd. Dim ond os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol y gellir cywiro camgymeriadau.

Os ydych yn oedi’r broses gofrestru a bod y rhoddwr yn colli ei alluedd meddyliol, gall yr atwrneiod dal wneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol. Serch hynny, ni fydd yn bosib cywiro unrhyw gamgymeriadau. Os oes camgymeriadau, ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru’r atwrneiaeth arhosol ac ni ellir defnyddio’r atwrneiaeth arhosol. Bydd rhaid i rywun wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael y pŵer i wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr neu gael datganiad y gellir trin yr atwrneiaeth arhosol fel un dilys. Gall fod yn broses hir a chostio llawer mwy nag atwrneiaeth arhosol.

Serch hynny, nid oes rhaid i chi gofrestru’r atwrneiaeth arhosol ar unwaith. Os ydych eisiau oedi’r broses gofrestru, yna cwblhewch adrannau 12 i 15 a’r ffurflen LP3 pan fyddwch yn barod i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol.

Pan welwch y gair ‘chi’ o hyn ymlaen, yn rhan B o’r adran hon, mae’n golygu’r person sy’n gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol – naill ai’r rhoddwr neu’r atwrneiod.

Rhan B2 – Pwy sy’n gwneud cais i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol

Llenwch adran 12

Marciwch un blwch yn unig ag ‘X’ i nodi mai chi yw’r rhoddwr neu’r atwrneiod a’ch bod yn gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol. Os ydych yn atwrnai neu’n grŵp o atwrneiod, llenwch eich enwau a’ch dyddiadau geni. Fel arall, gadewch y blychau hynny’n wag.

Rhan B3 – Pwy rydych chi eisiau i dderbyn yr atwrneiaeth arhosol?

Llenwch adran 13

Mae angen i chi ddewis un person y gallwn gysylltu ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau. Bydd y person hwn hefyd yn derbyn y ddogfen atwrneiaeth arhosol gofrestredig.

Rhaid i chi farcio un o dri opsiwn ag ‘X’:

  • y rhoddwr
  • atwrnai
  • arall

Os yw’n rhoddwr neu’n atwrnai, gwiriwch fod y cyfeiriad a roddwyd yn adran 1 neu 2 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol yn gywir. Os ydynt wedi symud, rhowch eu cyfeiriad newydd fan hyn.

Rhan B4 – Ffi gwneud cais

Llenwch adran 14

Sut hoffech chi dalu?

Dewiswch ffordd o dalu a rhowch ‘X’ yn y blwch ‘Siec’ neu ‘Cerdyn’.

Os dewiswch ‘Cerdyn’, peidiwch ag anfon manylion eich cerdyn debyd neu gredyd. Nodwch eich rhif ffôn a bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich ffonio i drefnu’r taliad.

Os dewiswch ‘Siec’, anfonwch siec o £82 yn daladwy i Office of the Public Guardian gyda’r ffurflen hon. Ysgrifennwch enw’r rhoddwr ar gefn y siec.

Ffi rhatach ar gyfer gwneud cais

Os ydych ar incwm isel, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r swm llawn.

Ysgrifennwch ‘X’ yn y blwch a llenwch ffurflen LPA120. Mae’r ffurflen hon yn y pecyn gwneud cais.

Ydych chi’n gwneud cais arall?

Os cafodd eich ffurflen atwrneiaeth arhosol ei dychwelyd atoch oherwydd nad oedd modd ei chofrestru, gallwch wneud cais arall gyda ffurflen atwrneiaeth arhosol newydd o fewn tri mis am £41.

Marciwch y blwch yn yr adran hon ag ‘X’ a rhowch rif eich achos. Fe welwch hwn yn y llythyr a ddaeth gyda’ch cais a ddychwelwyd.

Mwy o wybodaeth

Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru eich atwrneiaeth arhosol nes i chi dalu’r ffi.

Mae cofrestru un atwrneiaeth arhosol yn costio £82 pan ddiweddarwyd y canllaw hwn ddiwethaf. Gall ffioedd newid. Gallwch wirio eich bod yn talu’r swm iawn neu ffoniwch ganolfan gyswllt Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 0300 456 0300.

Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Ffioedd rhatach: ffurflen LPA120

Os yw’r rhoddwr ar incwm isel, efallai eu bod yn gymwys am ffi rhatach neu efallai na fydd yn rhaid iddynt dalu ffi o gwbl.

Y ffurflen i wneud cais ar gyfer hyn yw’r LPA120. Os nad yw’r ffurflen gennych, gallwch ei lawrlwytho neu ffoniwch ganolfan gyswllt Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 0300 456 0300 am gopi.

Mae’r ffurflen yn egluro’n llawnach:

  • pwy sy’n gymwys am ffi rhatach neu ddim ffi o gwbl
  • pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Cwblhewch y ffurflen hon a’i hanfon atom gyda’r ffurflen atwrneiaeth arhosol wedi’i chwblhau a’i llofnodi a thystiolaeth o incwm isel y rhoddwr.

Os ydych mewn brys i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol ond nad oes gennych y dystiolaeth am ffi rhatach, talwch y ffi yn llawn. Yna mae gennych dri mis i wneud cais am ad-daliad neu ad-daliad rhannol, eto drwy ddefnyddio’r LPA120.

Pethau i’w cofio

Mae ffioedd rhatach yn aml yn cael eu gohirio neu eu gwrthod oherwydd bod pobl yn gwneud camgymeriadau:

  • pwy bynnag sy’n gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol, mae gostyngiadau yn seiliedig ar incwm y rhoddwr
  • anfonwch dystiolaeth – os na wnewch chi, bydd y cais am ffi rhatach yn cael ei wrthod
  • gwnewch yn siŵr bod y dystiolaeth o incwm neu fudd-daliadau’r rhoddwr yn cwmpasu’r cyfnod iawn. Dylai gynnwys y dyddiad rydych yn gwneud cais i gofrestru
  • nid yw cyfriflenni banc yn brawf o incwm ar eu pen eu hunain

Rhan B5 – Llofnod

Llenwch adran 15

Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol ddarllen adran 15 a’i llofnodi.

Rydych chi’n llofnodi i ddweud eich bod yn gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol a’ch bod eisoes wedi rhoi gwybod i unrhyw bobl i’w hysbysu a restrir yn adran 6 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol. Gallwch wneud hynny drwy anfon ffurflen LP3 at y bobl i’w hysbysu. Gweler rhan C o’r canllaw hwn.

Os yw atwrneiod sy’n cael eu penodi i weithredu ar y cyd yn adran 3 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol yn gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol, rhaid i bob un ohonynt lofnodi. Os oes mwy na phedwar atwrnai ar y cyd, gwnewch gopïau o’r dudalen hon er mwyn i’r atwrneiod eraill ei llofnodi. 

Gwiriwch eich atwrneiaeth arhosol

Defnyddiwch y rhestr wirio sy’n dilyn adran 15 i wneud yn siŵr bod yr atwrneiaeth arhosol wedi’i gwneud yn gywir.

Anfonwch yr holl ddogfennau at:
 

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Rhan C: Pobl i’w hysbysu

Llenwch adran LP3

Rhaid i bob person i’w hysbysu dderbyn ei ffurflen LP3 ei hun.

Ar gyfer pob person, llenwch eu manylion ar dudalen 1 o’r ffurflen, a elwir yn ‘Hysbysiad o fwriad i gofrestru atwrneiaeth arhosol’.

Bydd gweddill y ffurflen – y tudalennau am y rhoddwr a’r atwrneiod – yr un peth ar gyfer y bobl i’w hysbysu. Gallwch eu llenwi unwaith, yna llungopïo’r fersiwn wedi’i chwblhau o’r tudalennau hynny i bob person i’w hysbysu.

Ar dudalen 2 o’r ffurflen, llenwch fanylion y rhoddwr. Yna ticiwch un blwch ar gyfer pob un o’r ddau gwestiwn nesaf:

  • Pwy sy’n gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol?
  • Pa fath o atwrneiaeth arhosol sy’n cael ei chofrestru?

Yna mae’n rhaid i chi nodi’r dyddiad y llofnododd y rhoddwr yr atwrneiaeth arhosol.
Dylech ychwanegu fanylion yr atwrneiod.

I gloi, marciwch un blwch ag ‘X’ i ddangos sut cawsant eu penodi.

Mwy o wybodaeth

Os ydych yn gwneud cais i gofrestru dau atwrneiaeth arhosol – un ar gyfer penderfyniadau ariannol ac un ar gyfer iechyd a gofal – a bod y bobl i’w hysbysu yr un peth ar bob ffurflen, bydd dal angen i chi hysbysu pob un ohonynt ddwywaith.

Nid oes angen i chi ddweud wrth y bobl i’w hysbysu am atwrneiod newydd.

Gwrthwynebu

Mae ffurflen LP3 hefyd yn egluro pam a sut mae’r bobl i’w hysbysu yn gallu gwrthwynebu i’r atwrneiaeth arhosol gael ei chofrestru.

Lle nad oes unrhyw bryderon

Os nad oes gan berson i’w hysbysu unrhyw bryderon, nid oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth.

Lle ceir rhesymau dros wrthwynebu atwrneiaeth arhosol

Os yw person i’w hysbysu eisiau codi pryderon am eich atwrneiaeth arhosol, mae ganddynt dair wythnos i wrthwynebu i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r dyddiad y cawsant eu hysbysu.

Ceir rheolau ynghylch y math o bryderon y gall pobl eu codi. Ni allant wrthwynebu eich atwrneiaeth arhosol am y rheswm syml nad ydynt ei hoffi. Mae LP3 yn egluro’r seiliau ‘ffeithiol’ a ‘rhagnodedig’ hyn.

Ffurflen LP3: y manylion sydd eu hangen arnoch

Os na wnaethoch yr atwrneiaeth arhosol, efallai nad ydych yn gwybod ble i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lenwi ffurflen LP3. Dyma’r manylion sydd angen i chi eu gwybod a ble yn yr atwrneiaeth arhosol y gallwch ddod o hyd iddynt.

Enwau a chyfeiriadau’r bobl i’w hysbysu

Gellir dod o hyd i hyn yn Adran 6 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol. Rhestrir hyd at bedwar. Os yw’r blwch ar y gwaelod wedi’i farcio, mae pumed person i’w hysbysu.

Os oes pumed person i’w hysbysu, chwiliwch am gopi o dudalen barhad 1, lle mae ‘person i’w hysbysu’ wedi’i farcio ag ‘X’.

Manylion yr atwrnai

Mae’r manylion sydd eu hangen arnoch yn Adran 2 o’r atwrneiaeth arhosol. Mae lle i bedwar atwrnai. Os yw’r blwch ar waelod yr ail dudalen wedi’i farcio ag ‘X’, mae mwy na phedwar atwrnai.

Os oes mwy o atwrneiod, chwiliwch am unrhyw gopïau o dudalen barhad 1, lle mae ‘atwrnai’ wedi’i farcio ag ‘X’.

Sut caiff atwrneiod eu penodi?

Edrychwch ar Adran 3 o’r atwrneiaeth arhosol. Bydd un blwch ar y dudalen honno wedi’i dicio.

Pa fath o atwrneiaeth arhosol sy’n cael ei chofrestru?

Mae tudalen flaen yr atwrneiaeth arhosol yn dangos hyn.

Pryd lofnododd y rhoddwr yr atwrneiaeth arhosol?

Fel welwch chi hyn yn Adran 9 o’r atwrneiaeth arhosol. Mae’r dyddiad sydd ei angen arnoch yn y blwch llwyd o dan lofnod y rhoddwr.

Rhan D – Canslo eich atwrneiaeth arhosol, pryderon am atwrneiod, polisi preifatrwydd a chysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Canslo eich atwrneiaeth arhosol

Gallwch chi (y rhoddwr) ganslo eich atwrneiaeth arhosol unrhyw bryd, cyhyd â bod gennych alluedd meddyliol. Does dim ots os yw’r atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru.

Os yw wedi’i chofrestru, rhaid i chi ysgrifennu ‘gweithred ddirymu’ i’w chanslo. Dyma enghraifft o weithred ddirymu y gallwch ei defnyddio:

“Caiff y weithred ddirymu hon ei gwneud gan [enw’r rhoddwr] o [gyfeiriad y rhoddwr].”

  1. “Rhoddais ganiatâd am atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol/penderfyniadau iechyd a gofal [dileer fel y bo’n briodol] ar [y dyddiad wnaethoch chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol] drwy benodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrneiod.”
  2. “Rwy’n dirymu’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod a roddwyd ganddi.
    Wedi’i llofnodi a’i chyflwyno fel gweithred [llofnod y rhoddwr]
    Dyddiad llofnodi [dyddiad]
    Tystiwyd gan [llofnod tyst]
    Enw llawn y tyst [enw’r tyst]
    Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]”

Mae’n rhaid i chi lofnodi a dyddio’r weithred tra bydd tyst yn ei gwylio, a rhaid iddo hefyd ei llofnodi a’i dyddio.

Nid oes rhaid i’ch tyst fod yr un fath â’r un a ddefnyddiwyd ar gyfer yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol.

Yna, mae’n rhaid i chi anfon y weithred at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda’r ddogfen atwrneiaeth arhosol gofrestredig wreiddiol.

Rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich holl atwrneiod eich bod yn canslo eich atwrneiaeth arhosol.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd gartref, gall eich llyfrgell leol eich helpu.

Pryderon am atwrneiod

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn diogelu pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Os oes unrhyw un yn credu nad yw atwrneiod yn gweithredu er lles pennaf y rhoddwr, gallant leisio eu pryderon gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol.

Eich gwybodaeth bersonol

Mae’r siarter wybodaeth hon yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu’n ei defnyddio neu’n ei rhannu. Mae’n dweud wrthych sut i gael mynediad at y wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw asiantaeth weithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Y weinyddiaeth yw’r ‘rheolwr data’ o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 ac sy’n gyfrifol am y wybodaeth bersonol sydd gennym. Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i’n helpu i gyflawni dyletswyddau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn:

  • gwneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol drwy ddefnyddio gwasanaeth digidol atwrneiaeth arhosol neu drwy’r post
  • talu ffi drwy ddefnyddio cerdyn credyd, cerdyn debyd neu drwy ddebyd uniongyrchol
  • cytuno i gymryd rhan yn ein hymchwil cwsmeriaid
  • cysylltu â ni gyda chwestiwn
  • gwneud cwyn

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:

  • gofrestru eich atwrneiaeth
  • prosesu eich ffi
  • cadw cofrestr o atwrneiaethau
  • cynnal ymchwil cwsmeriaid
  • gweinyddu

Rydym yn addo i:

  • ofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnom yn unig
  • gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac na all neb heb awdurdod ei chael
  • gwneud yn siŵr nad ydym yn cadw eich gwybodaeth yn hirach nag sy’n rhaid i ni
  • rhoi cyfle i chi ofyn i ni newid eich gwybodaeth os credwch ei fod yn anghywir

Yn gyfnewid, gofynnwn i chi:

  • sicrhau bod y wybodaeth a roddwch i ni yn gywir
  • dweud wrthym am unrhyw newidiadau perthnasol i’ch sefyllfa bersonol (fel newid enw, teitl neu gyfeiriad) cyn gynted â phosibl

Rhannu gwybodaeth bersonol

Dim ond pan fydd y gyfraith yn dweud y gallwn ni y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth i ddiogelu pobl agored i niwed.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyswllt â sefydliadau sy’n cynnal ymchwil cwsmeriaid ar ein rhan. Rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw wybodaeth a roddwn iddynt yn ddiogel ac i beidio â’i defnyddio at unrhyw ddiben arall.

Mynediad at wybodaeth bersonol

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. (Gelwir hyn yn ‘gais gwrthrych am wybodaeth’.)

Ysgrifennwch atom yn:

Data Access & Compliance Unit
Information Directorate
Ministry of Justice
Post point 10.34
102 Petty France
London
SW1H 9AJ

Bydd angen i chi gynnwys:

  • siec o £10 yn daladwy i Dâl-feistr Cyffredinol EM (HM Paymaster General)
  • dau fath o brawf adnabod, e.e.: llungopi o’ch pasbort neu drwydded yrru neu fil trydan, nwy, treth gyngor gwreiddiol neu fil arall yn eich enw o’r chwe mis diwethaf

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennym wybodaeth anghywir amdanoch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk