Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 26: prydlesi – terfynu

Diweddarwyd 14 November 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae amrywiol ffyrdd y gall ystad brydlesol mewn tir ddod i ben ac effeithio naill ar deitl cofrestredig, neu deitl sy’n destun cofrestriad cyntaf, er enghraifft:

  • cyd-doddiad prydles – pan fo’r ystad brydlesol yn gofrestredig a’r ystad rifersiwn naill ai’n gofrestredig, neu’n destun cais am gofrestriad cyntaf
  • dileu rhybudd prydles ddigofrestredig o deitl rifersiwn cofrestredig
  • terfynu prydles gofrestredig i mewn i ystad rifersiwn nad yw’n gofrestredig nac yn destun cais am gofrestriad cyntaf

Yn fwy penodol gall y brydles ei hun derfynu ar:

  • gyd-doddiad
  • ildiad trwy weithred
  • ildiad trwy weithredu’r gyfraith
  • ymwadiad
  • allrediad amser
  • fforffediad
  • gorchymyn llys
  • terfynu trwy rybudd
  • llesteirio
  • estyniad

2. Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 a gwneud ceisiadau safonol i’r Gofrestrfa Tir

2.1 Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais

Bydd yn rhaid ichi ystyried y pwyntiau canlynol a chymryd unrhyw gamau priodol.

Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol.

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2.1.1 Dogfennau angenrheidiol

Yn ogystal ag unrhyw ddogfennau a nodir yn yr adrannau sy’n trafod dull terfynu’r brydles, bydd yn rhaid cyflwyno’r dogfennau canlynol, yn dibynnu ar p’un ai a yw’r ystad brydlesol a/neu’r ystad rifersiwn yn gofrestredig ai peidio.

2.1.1.1 Mae’r ddau fudd yn gofrestredig

I gau teitl prydlesol cofrestredig ar derfynu a dileu rhybudd y brydles honno yn y teitl(au) rifersiwn cofrestredig, bydd yn rhaid ichi gyflwyno:

a) ffurflen AP1 i gau’r teitl prydlesol cofrestredig (oni bai bod y brydles wedi terfynu ar estyniad – gweler Terfynu: trwy estyniad ac i dynnu rhybudd am y brydles o’r teitl rifersiwn (gweler hefyd Sylwer 2 a Sylwer 3 isod)

b) copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol a/neu’r brydles wrthrannol os ydynt yn eich meddiant, neu roi cyfrif am eu habsenoldeb

Sylwer 1: Bydd hyn yn berthnasol hefyd os yw’r ystad rifersiwn yn destun cais am gofrestriad cyntaf.

Sylwer 2: Os nad yw’r AP1 yn cyfeirio at y teitl rifersiwn, byddwn yn tynnu’r rhybudd am y brydles ymaith er mwyn diweddaru’r gofrestr, ond ni fyddwn yn anfon copi swyddogol o’r gofrestr ar gyfer y teitl hwnnw.

Sylwer 3: Os yw’r brydles sy’n terfynu’n brydles gydamserol, bydd yn rhaid ichi ddarganfod â pha brydles mae’n gydamserol, a chyfeirio at y teitlau hynny yn yr AP1.

2.1.1.2 Dileu rhybudd prydles ddigofrestredig – pan fo’r ystad rifersiwn yn gofrestredig

Gall teitl rifersiwn cofrestredig fod yn ddarostyngedig i brydles er nad yw’r brydles hon wedi’i chofrestru’n safonol. Cofnodir y brydles naill ai ar y gofrestr arwystlon neu mewn atodlen rhybudd prydlesi yn y teitl rifersiwn cofrestredig. Gallwch wneud cais i ddileu’r brydles a gofnodwyd os gallwch gyflwyno tystiolaeth ddogfennol briodol i brofi bod yr ystad brydlesol ddigofrestredig wedi terfynu. Bydd yn rhaid ichi gyflwyno’r canlynol:

a) ffurflen CN1 – gweler rheol 87(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 (oni bai bod y brydles wedi terfynu ar estyniad – gweler Terfynu: trwy estyniad)

Sylwer 1: Bydd yn rhaid ichi lenwi paneli 9 a 10 fel y bo’n briodol.

Sylwer 2: Bydd angen ichi gyflwyno ffurflen AP1 hefyd os ydych yn gwneud cais i gofrestru gweithredoedd ychwanegol sy’n effeithio ar y teitl rifersiwn cofrestredig.

Sylwer 3: Os cofnodwyd y brydles yn y teitl rifersiwn cofrestredig trwy rybudd unochrog (yn hytrach na thrwy rybudd a gytunwyd neu rybudd a gofnodwyd gan y cofrestrydd fel rhan o gais am gofrestriad cyntaf), rhaid gwneud cais naill ai i ddileu neu dynnu’r rhybudd unochrog ymaith ar ffurflen UN4 neu ffurflen UN2 – gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau, a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr – Dileu a thynnu rhybuddion o’r gofrestr am wybodaeth bellach).

b) dogfennau teitl i’r ystad brydlesol sy’n terfynu wedi’u rhestru ar ffurflen DL (yn ddyblyg), a’r rheiny’n dangos tystiolaeth ddigonol i brofi teitl i’r brydles ddigofrestredig, yn debyg i’r dystiolaeth sydd ei hangen ar gofrestriad cyntaf – gweler rheol 87(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Lle bo’r cais yn cael ei gyflwyno gan y landlord, gall y brydles wrthrannol a chopïau o unrhyw aseiniadau ddangos tystiolaeth ddigonol o deitl

Sylwer: Bydd hyn yn berthnasol hefyd os yw’r ystad rifersiwn yn destun cais am gofrestriad cyntaf.

c) copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol a/neu’r brydles wrthrannol os ydynt yn eich meddiant, neu roi cyfrif am eu habsenoldeb

Sylwer: Bydd yn rhaid ichi gyflwyno chwiliadau Pridiannau Tir cyfredol yn erbyn enw(-au) perchennog (perchnogion) yr ystad brydlesol a derfynir a rhaid egluro unrhyw gofnodion a ddatgelir.

2.1.1.3 cau teitl prydlesol cofrestredig – pan fo’r ystad rifersiwn yn ddigofrestredig

Gall teitl prydlesol cofrestredig derfynu i mewn i ystad rifersiwn ddigofrestredig yn y tir, heb beri cofrestriad cyntaf yr ystad rifersiwn. I gau’r teitl prydlesol cofrestredig, rhaid ichi gyflwyno’r canlynol:

a) ffurflen AP1 (oni bai bod y brydles wedi terfynu ar estyniad – gweler Terfynu: trwy estyniad)

b) copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol a/neu’r brydles wrthrannol os ydynt yn eich meddiant, neu roi cyfrif am eu habsenoldeb

c) crynodeb teitl y landlord wedi ei archwilio

2.1.2 Llyffetheiriau sy’n effeithio ar y brydles wedi’i therfynu

Bydd yn rhaid ichi ystyried unrhyw lyffetheiriau sy’n effeithio ar yr ystad brydlesol i’w therfynu a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol.

  • os yw prydles yn cael ei therfynu trwy rybudd, fforffediad neu lesteirio, bydd pob llyffethair yn dod i ben yn awtomatig wrth derfynu’r brydles fel arfer ac felly gellir eu hanwybyddu
  • os yw prydles yn cael ei therfynu trwy allrediad amser, fel arfer bydd pob llyffethair heblaw unrhyw brydles israddol yn diweddu’n awtomatig a gellir eu hanwybyddu. Bydd prydles israddol yn parhau i fodoli os yw’r cyfnod yn cael ei estyn gan Ddeddf Landlord a Thenant 1954 neu Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
  • os yw prydles yn cael ei hestyn, fel arfer caiff unrhyw lyffetheiriau sy’n effeithio ar yr ystad brydlesol eu trosglwyddo i’r teitl rhydd-ddaliol cofrestredig newydd
  • os yw prydles yn cael ei therfynu trwy gyd-doddiad, ildio neu ymwadiad, bydd yn rhaid delio fel y bo’n briodol â phob llyffethair sy’n effeithio ar yr ystad brydlesol sy’n cael ei therfynu
    • yn achos llyffetheiriau sy’n effeithio ar deitl prydlesol cofrestredig, er enghraifft arwystlon cofrestredig neu arwystlon a nodwyd, cyfyngiadau a rhybuddiadau, dylid naill ai rhyddhau, tynnu’n ôl neu ddileu’r rhain a dylid cyflwyno’r ddogfennaeth briodol i beri hyn
    • yn yr un modd, os yw’r ystad brydlesol yn ddigofrestredig, bydd yn rhaid naill ai rhyddhau, tynnu’n ôl neu ddileu unrhyw lyffetheiriau fel arwystl cyfreithiol a fyddai’n atal terfynu a rhaid cyflwyno’r ddogfennaeth briodol i beri hyn
    • lle bo cyfyngiad Ffurf A ar deitl prydlesol cofrestredig a/neu ar deitl rifersiwn cofrestredig, ni fydd yn bosibl terfynu’r teitl prydlesol cofrestredig trwy gyd-doddiad oni bai eich bod yn gallu cyflwyno tystiolaeth ddigonol bod y ceisydd yn dal y ddwy ystad trwy’r un ymddiriedau. Yn yr un modd, os yw’r ystad brydlesol a/neu’r ystad rifersiwn yn ddigofrestredig ac os oes arwydd o ymddiried, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddigonol bod y ceisydd yn dal y ddwy ystad trwy’r un ymddiriedau
    • lle bo cyfyngiad Ffurf A yn y teitl prydlesol cofrestredig a’r brydles yn cael ei therfynu trwy ildio, ‘gwarediad’ yw’r ildiad at ddibenion y cyfyngiad. Os yw arian cyfalaf yn codi o bremiwm sy’n cael ei dalu gan y landlord i’r tenant ac un perchennog cofrestredig yn unig sy’n ildio, mae’r ildiad yn ddarostyngedig i delerau’r cyfyngiad ac ni ellir cau’r teitl prydlesol cofrestredig
    • caiff llyffetheiriau eraill fel hawddfreintiau darostyngedig a chyfamodau cyfyngu eu trosglwyddo fel arfer i unrhyw deitl rifersiwn cofrestredig, oni bai eu bod yn cael eu hailadrodd yn safonol ar y teitl hwnnw

Sylwer 1: Lle bo prydles wedi cael ei therfynu trwy rybudd, fforffediad neu lesteirio, caiff unrhyw brydlesi israddol (sef unrhyw is-brydlesi sy’n deillio o’r brydles honno ac unrhyw is-brydlesi sy’n deillio o’r rheiny) eu terfynu hefyd. Lle bo prydles wedi ei therfynu trwy ymwadiad, gweler cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol. Mewn achosion eraill, bydd prydles israddol sy’n effeithio ar yr ystad rifersiwn yn cael ei nodi yn erbyn unrhyw deitl rifersiwn cofrestredig oni bai y cyflwynir tystiolaeth bod y brydles israddol hefyd wedi terfynu ac, os yw’r brydles israddol yn gofrestredig, gwneir cais i gau’r teitl cofrestredig hwnnw.

Sylwer 2: Lle bo ystad brydlesol yn gofrestredig gyda dosbarth teitl prydlesol meddiannol, ni fydd yn bosibl terfynu’r teitl prydlesol cofrestredig hwnnw, oni bai eich bod yn cyflwyno ffurflen UT1, neu y gellir uwchraddio’r teitl i deitl prydlesol llwyr fel arall. Y rheswm am y gofyniad hwn yw’r ffaith y gallai prydles a gofrestrwyd gyda dosbarth teitl prydlesol meddiannol fod yn ddarostyngedig i fuddion digofrestredig eraill a allai atal terfynu.

Sylwer 3: Lle bo’r llyffethair yn arwystl cyfreithiol, gall fod yn bosibl delio â’r mater trwy weithred arwystl amnewidiol, a gellir gwneud cais i’w gofrestru yn erbyn teitl rifersiwn cofrestredig fel y bo’n briodol.

2.1.3 Ffi am y cais

Dylech anfon gyda’ch cais y ffi briodol sy’n daladwy yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.

2.1.4 Rhybuddion

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i Gofrestrfa Tir EF gyflwyno rhybudd o ran y cais i unrhyw un yr ymddengys bod y cais yn effeithio arno. Cofrestrfa Tir EF fydd yn penderfynu a oes angen y fath rybudd, ac os oes, yn trefnu cyflwyno’r rhybudd angenrheidiol.

2.2 Dull terfynu

Bydd yn rhaid ichi benderfynu pa ddull terfynu sy’n berthnasol i’r brydles i’w therfynu. Mae’r adrannau canlynol yn manylu ar y gwahanol sefyllfaoedd all godi wrth ddelio â therfynu prydles, a sut y dylech gyflwyno’ch cais ym mhob sefyllfa.

3. Terfynu: ar gyd-doddiad

Mae cyd-doddi’n digwydd pan ddaw ystad brydlesol mewn tir, ynghyd â’r ystad rifersiwn i’r un berchnogaeth ac maent yn cael eu dal yn yr un modd. Mae’r brydles yn cael ei chynnwys yn yr ystad rifersiwn ac felly fe’i terfynir. Yn ogystal, rhaid bod bwriad clir i gyd-doddi’r ystadau sy’n golygu bod yn rhaid gwneud cais penodol ar gyfer hyn wrth i’r tenant wneud cais am (un o’r canlynol):

  • dileu rhybudd y brydles ar ffurflen CN1
  • cau’r teitl prydlesol cofrestredig ar ffurflen AP1
  • cyd-doddi ystad brydlesol ddigofrestredig fel rhan o gais am gofrestriad cyntaf yr ystad rifersiwn ar ffurflen FR1 fel y bo’n briodol

Os nad oes cais penodol ar y ffurflen gais ond nodir y bwriad i gyd-doddi mewn gweithred, byddwn yn bwrw ymlaen i gau’r ystad brydlesol dim ond os bodlonir yr holl amodau ar gyfer cyd-doddi. Os nad yw cyd-doddi’n bosibl yn yr achos hwn, er enghraifft oherwydd bod llyffethair yn effeithio ar yr ystad brydlesol ond ni chyflwynwyd tystiolaeth ryddhau, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â’r cyd-doddi neu’n gofyn am y dystiolaeth honno.

3.1 Cyd-doddi prydles gofrestredig i mewn i ystad rifersiwn sydd naill ai’n gofrestredig neu’n destun cais am gofrestriad cyntaf

Gall teitl prydlesol cofrestredig gyd-doddi i mewn i ystad rifersiwn yn y tir sydd naill ai’n gofrestredig eisoes neu’n destun cais am gofrestriad cyntaf. Gallwch wneud cais i gau’r teitl prydlesol cofrestredig os yw’r un perchennog yn dal yr ystad rifersiwn a’r ystad brydlesol gofrestredig yn yr un modd.

3.2 Cyd-doddi prydles ddigofrestredig i mewn i ystad rifersiwn cofrestredig – dileu rhybudd prydles ddigofrestredig o deitl rifersiwn cofrestredig

Gallwch wneud cais i ddileu’r brydles a gofnodwyd os gallwch gyflwyno tystiolaeth ddogfennol briodol i brofi bod yr un perchennog yn dal yr ystad rifersiwn gofrestredig a’r ystad brydlesol ddigofrestredig yn yr un modd.

Sylwer: Gallwch hefyd wneud cais i gyd-doddi ar ffurflen FR1 os yw’r ystad rifersiwn yn destun cais am gofrestriad cyntaf ac yn destun ystad brydlesol ddigofrestredig a derfynir trwy gyd-doddi.

3.3 Cyd-doddi prydles gofrestredig i mewn i ystad rifersiwn nad yw’n gofrestredig neu’n destun cais am gofrestriad cyntaf

Gellir cyd-doddi teitl prydlesol cofrestredig i mewn i ystad rifersiwn ddigofrestredig yn y tir. Gallwch wneud cais i gau’r teitl prydlesol cofrestredig os gallwch gyflwyno tystiolaeth ddogfennol ddigonol i brofi bod yr un perchennog yn dal yr ystad rifersiwn ddigofrestredig a’r ystad brydlesol gofrestredig yn yr un modd.

3.4 Hawddfreintiau llesiannol sy’n effeithio ar yr ystad brydlesol

Yn achos Wall v Collins [2007] EWCA Civ 444, roedd y Llys Apêl o’r farn fod yn rhaid i hawddfraint fod yn berthynol i randir trech, ond nid o angenrheidrwydd i fudd penodol yn y rhandir trech hwnnw. Felly pan fo prydles yn cael ei therfynu ar gyd-doddiad, nid yw’r tenant yn colli unrhyw hawliau a roddwyd iddo neu i denantiaid blaenorol er budd yr eiddo prydlesol yn awtomatig; gall yr hawddfreintiau hyn barhau i fodoli a chael eu hymarfer gan ddeiliad yr ystad rifersiwn am y cyfnod y cawsant eu rhoi.

Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi budd hawddfreintiau o’r fath yn y teitl cofrestredig i’r ystad rifersiwn (os yw’n gofrestredig) yn awtomatig. Fodd bynnag, gallwch wneud cais i gofrestru budd yr hawddfreintiau yn y teitl cofrestredig i’r ystad rifersiwn, naill ai ar adeg cyd-doddiad neu wedi hynny. Bydd yn rhaid ichi gyflwyno:

  • ffurflen AP1 os yw’r ystad rifersiwn yn gofrestredig neu’n destun cais am gofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu
  • ffurflen FR1 sy’n cyfeirio ym mhanel 5 at fudd yr hawddfreintiau os yw cais yn cael ei wneud ar yr un pryd â chais am gofrestriad cyntaf yr ystad rifersiwn
  • tystiolaeth foddhaol bod yr hawddfraint yn bodoli er budd yr ystad rifersiwn

Oni bai bod y brydles a derfynwyd i’r hon y mae’r hawddfreintiau’n perthyn wedi ei chofrestru â theitl llwyr a bod yr hawddfreintiau wedi eu cofnodi heb amod yn y gofrestr ar gyfer y teitl hwnnw, rhaid cyflwyno tystiolaeth i brofi pwerau’r grantwr i roi’r hawddfreintiau – gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau.

Sylwer: Dylid gwahaniaethu rhwng cais o ran hawddfraint yn y brydles a chais o ran hawddfraint a grëir er budd yr ystad rifersiwn yn rhinwedd gweithredu adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau.

3.5 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais, dylech gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a gwneud unrhyw gais angenrheidiol i gofrestru trosglwyddiad neu drawsgludiad sy’n peri’r cyd-doddiad (er enghraifft, trawsgludiad o’r ystad rifersiwn sy’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol).

4. Terfynu: ar ildio trwy weithred

Pan fydd tenant yn ildio eu prydles i’w landlord uniongyrchol, a hwnnw’n derbyn yr ildio, bydd y brydles yn cael ei chynnwys yn yr ystad rifersiwn ac felly’n cael ei therfynu. Nid oes rhaid i ddogfen sy’n peri ildio ystad brydlesol ddisgrifio ei hun fel gweithred ildio, ond rhaid iddi:

  • fod yn weithred (er, os mai dogfen arall sy’n peri hyn, gall fod yn weithredol o hyd fel ildio trwy weithredu’r gyfraith – gweler Terfynu: ar ildio trwy weithredu’r gyfraith
  • gynnwys geiriau sy’n dangos yn glir bod y tenant yn ildio’r brydles

Yn ogystal, rhaid i’r landlord gydsynio i’r ildio. Gellir dangos hyn trwy’r dulliau canlynol:

  • cyflwyno llythyr cydsyniad
  • cais gan y landlord i gau’r teitl prydlesol cofrestredig a/neu i ddileu rhybudd y brydles o’r teitl rifersiwn cofrestredig
  • cyflawni’r weithred gan y landlord a’r tenant

4.1 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais, rhaid ichi gyflwyno copi ardystiedig o’r weithred ildio neu unrhyw weithred arall sy’n peri ildio.

4.2 Treth Tir Toll Stamp

Ar gyfer ildio prydles eiddo yng Nghymru a gwblhawyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, gweler Treth Trafodiadau Tir.

Fel arfer ystyrir ildio prydles fel ‘trafodiad’ at ddibenion Treth Tir Toll Stamp (TTTS). Bydd yn rhaid ichi felly gymryd y camau angenrheidiol, yn dibynnu ar amgylchiadau’r ildio.

O dan TTTS, mae trafodion tir yn syrthio i dri chategori:

  • trafodion y mae’n rhaid hysbysu Cyllid a Thollau EF amdanynt a llenwi ffurflen trafodiad tir. Bydd Cyllid a Thollau EF yn anfon tystysgrif ffurflen trafodiad tir fel tystiolaeth yr ystyriwyd TTTS ar y trafodiad a nodir yn y ffurflen. Rhaid ichi gyflwyno’r dystysgrif wreiddiol neu dderbynneb gyflwyno electronig i Gofrestrfa Tir EF wrth gofrestru’r trafodiad
  • trafodion nad oes yn rhaid hysbysu Cyllid a Thollau EF amdanynt lle cwblhawyd y trafodiad ar neu ar ôl 12 Mawrth 2008. O ran ildiad trwy weithrediad, byddai hyn dim ond yn cynnwys::
    • aseiniad neu ildiad prydles lle:
    • y rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor
    • mae’r gydnabyddiaeth drethadwy am yr aseiniad neu ildiad, yn llai na £40,000
    • ildiad prydles lle yr oedd y cyfnod gwreiddiol a roddwyd yn llai na saith mlynedd ac nad yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr ildiad yn uwch na’r trothwy cyfradd sero
  • trafodion sy’n rhydd o TTTS

Lle gwneir cais i gofrestru gweithred ildiad sy’n dod o fewn y meini prawf ‘dim rhaid ei hysbysu’ a ddisgrifir yn yr ail bwynt bwled uchod, dylid darparu disgrifiad o’r amgylchiadau, oherwydd gallai Cofrestrfa Tir EF wrthod unrhyw gais nad yw’n cynnwys tystysgrif lle bo un yn angenrheidiol.

4.3 Treth Trafodiadau Tir

Mae Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn ymwneud â thrafodion sy’n effeithio ar dir yng Nghymru a gwblhawyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018. Ar gyfer trafodion sy’n effeithio ar dir yng Nghymru a gwblhawyd cyn y dyddiad hwnnw, gweler Treth Tir Toll Stamp (TTTS)

Fel arfer ystyrir ildio prydles fel ‘trafodiad’ at ddibenion TTT. Bydd yn rhaid ichi felly gymryd y camau angenrheidiol, yn dibynnu ar amgylchiadau’r ildio.

O dan TTT, mae trafodion tir yn syrthio i dri chategori, sef:

  • trafodion y mae’n rhaid hysbysu Awdurdod Cyllid Cymru amdanynt a llenwi ffurflen trafodiad tir. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn anfon tystysgrif TTT fel tystiolaeth yr ystyriwyd TTT ar y trafodiad a nodir yn y ffurflen. Rhaid ichi gyflwyno’r dystysgrif wreiddiol neu dystysgrif TTT i Gofrestrfa Tir EF wrth gofrestru’r trafodiad
  • trafodion nad oes yn rhaid hysbysu Awdurdod Cyllid Cymru amdanynt. O ran ildio trwy weithred, byddai hyn dim ond yn cynnwys:
    • aseiniad neu ildiad prydles lle:
      • y rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o saith mlynedd neu ragor
      • mae’r gydnabyddiaeth drethadwy am yr aseiniad neu ildiad yn llai na £40,000
    • ildiad prydles lle yr oedd y cyfnod gwreiddiol a roddwyd yn llai na saith mlynedd ac nad yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr ildiad yn uwch na’r trothwy cyfradd sero
  • trafodion sy’n rhydd o TTT

Lle gwneir cais i gofrestru gweithred ildio sy’n dod o fewn y meini prawf ‘dim rhaid ei hysbysu’ a ddisgrifir yn yr ail bwynt bwled uchod, dylid darparu disgrifiad o’r amgylchiadau, oherwydd gallai Cofrestrfa Tir EF wrthod unrhyw gais nad yw’n cynnwys tystysgrif lle bo un i’w gweld yn angenrheidiol.

5. Terfynu: ar ildio trwy weithredu’r gyfraith

Pan fo tenant yn ildio eu prydles i’w landlord uniongyrchol, a hwnnw’n derbyn yr ildio, mae’r brydles yn cael ei chynnwys yn yr ystad rifersiwn ac felly’n cael ei therfynu. Weithiau nid yw prydles yn cael ei hildio trwy weithred ond bydd gweithredu’r gyfraith yn peri i hyn ddigwydd, o ganlyniad i weithrediadau’r partïon. Yn yr achos hwn bydd yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth ddigonol o’r gweithrediadau sy’n golygu ildio – gweler rheol 161(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Sylwch nad yw ildio trwy weithredu’r gyfraith yn dod i rym o ganlyniad i’r tenant weithredu ar ei ben ei hun. Os yw’r ildio trwy weithred, gweler Terfynu: ar ildio trwy weithred.

Gallai ildio trwy weithredu’r gyfraith gynnwys yr enghreifftiau canlynol:

  • mae’r landlord yn rhoi prydles newydd o’r un anheddau i’r tenant presennol. Os rhoddwyd y brydles newydd yn unol ag adran 14 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967, bydd yn rhaid ichi ddatgelu hyn. Mewn prydles cymalau penodedig dylid dadlennu hyn yng nghymal LR5.2. Sylwer: Gall estyniad tymor prydles bresennol trwy weithred amrywio ddod i rym fel ildio ac ailroi tybiedig
  • mae’r tenant yn ildio meddiant yr anheddau i’r landlord a’r landlord wedyn yn derbyn meddiant
  • mae’r tenant yn ildio meddiant yr anheddau i’r landlord ac mae’r landlord wedyn yn rhoi prydles newydd o’r anheddau i drydydd parti gyda chydsyniad y tenant

Lle bo cais yn seiliedig ar ildio trwy weithredu’r gyfraith, rhaid i’r cais gael ei gefnogi gan ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd) a wnaed gan berson dibynadwy gyda gwybodaeth lawn o’r ffeithiau. Rhaid i’r datganiad neu’r datganiad o wirionedd:

  • nodi maint y gydnabyddiaeth a dalwyd am ildio (os o gwbl)
  • gadarnhau nad ymrwymwyd i unrhyw weithred ildio
  • os oedd y tenant yn meddiannu’r eiddo ac wedi rhoi meddiant gwag i’r landlord, ddisgrifio sut a phryd y gadawyd yr anheddau a sut a phryd y dychwelwyd yr allweddau i’r landlord
  • os oedd is-brydlesai’n meddiannu’r eiddo, gynnwys tystiolaeth bod y landlord yn derbyn y rhent yn uniongyrchol gan yr is-brydlesai hwnnw, megis trwy ddarparu, fel arddangosion i’r datganiad, yr is-brydles wrthrannol a chopi o’r awdurdod sy’n mynnu bod yr is-brydlesai’n talu’r rhent yn uniongyrchol i’r landlord

O dan rai amgylchiadau ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gofyn am ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd i gefnogi’ch cais. Fe’u rhestrir isod:

  • mae’r ystad brydlesol a’r ystad rifersiwn yn gofrestredig a gwneir y cais gan neu gyda chydsyniad perchnogion cofrestredig y ddau deitl, ar yr amod bod yr ystad brydlesol a derfynwyd yn gofrestredig gyda theitl prydlesol llwyr neu ddosbarth teitl prydlesol da
  • mae’r landlord yn rhoi prydles newydd o’r un anheddau i’r tenant presennol

Sylwer: Lle nad oes angen datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, bydd Cofrestrfa Tir EF yn gofyn am lythyr sy’n cadarnhau nad ymrwymwyd i unrhyw weithred ildio. Gall trawsgludwr y naill barti ddarparu’r llythyr.

5.1 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais, dylech gyflwyno’r canlynol:

  • datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (pan fo ei angen)
  • unrhyw dystiolaeth arall sy’n berthnasol i’r ildio, os yw ar gael, megis derbynneb am arian a dalwyd ar ildio, neu offeryn rhyddhau atebolrwydd personol

5.2 Treth Tir Toll Stamp a Threth Trafodiadau Tir

Gweler Treth Tir Toll Stamp a Threth Trafodiadau Tir.

Yn ogystal, ni fydd tystiolaeth TTTS neu TTT yn ofynnol ar gyfer ildiad trwy weithredu’r gyfraith pan fydd yn digwydd o dan un o’r canlynol:

  • pan fydd prydles newydd o’r un eiddo wedi ei rhoi yn gydnabyddiaeth o’r ildiad
  • pan fydd gweithred amrywio prydles yn gweithredu fel ildiad ac ail-roi

Sylwer: Yn rhinwedd adran 43(3)(b) o Ddeddf Cyllid 2003, trafodiad tir yw ildio trwy weithredu’r gyfraith at ddibenion TTTS. Yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017, mae ildiad trwy weithredu’r gyfraith yn drafodiad at ddibenion TTT.

6. Terfynu: trwy ymwadiad

Pan ddaw rhywun yn fethdalwr neu gwmni’n ansolfent gall naill ai ymddiriedolwr mewn methdaliad neu ddatodwr ymwadu eiddo beichus arbennig, gan gynnwys prydlesi trwy gyflwyno’r rhybudd penodedig. Mae hyn yn peri terfynu’r prydlesi.

Sylwer: Lle bo’r ymwadiad yn ymwadiad y goron â phrydles sydd bona vacantia, gweler cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol – Ymwadiad y Goron â bona vacantia.

6.1 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais, gyflwyno’r dogfennau canlynol.

7. Terfynu: trwy allrediad amser

Bydd prydles am gyfnod neu dymor penodol yn terfynu’n awtomatig pan ddaw’r cyfnod penodol i ben. Fodd bynnag mae’r rheol hon yn ddarostyngedig i Deddf Landlord a Thenant 1954 a Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a all estyn y tymor tu hwnt i’r dyddiad pryd y byddai fel arall yn dod i ben.

  • mae Deddf Landlord a Thenant 1954 yn berthnasol i’r rhan fwyaf o brydlesi busnes (a gall rhan 1 y Ddeddf hon fod yn berthnasol o hyd i brydles breswyl hir am rent isel)
  • erbyn hyn mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn berthnasol i’r rhan fwyaf o denantiaethau preswyl (yn lle rhan 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954)

Lle bo cais yn seiliedig ar derfynu trwy allrediad amser, ni ellir cwblhau’r cais oni bai iddo ystyried y ddeddfwriaeth hon (gweler Sut i wneud y cais).

7.1 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais, rhaid ichi gyflwyno’r canlynol:

  • Cadarnhad nad yw Deddf Landlord a Thenant 1954 na Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn effeithio ar y brydles neu ei bod wedi ei therfynu’n unol â’u darpariaethau – lle terfynir trwy rybudd, rhaid amgáu copi o’r rhybudd.

Sylwer: Bydd cwblhau panel 9 ar ffurflen CN1 yn darparu’r wybodaeth hon.

  • Os oes gan denant yr ystad brydlesol opsiwn i adnewyddu’r brydles (a all fod, er enghraifft, yn destun rhybudd yng nghofrestr teitl rifersiwn cofrestredig), dystiolaeth ddigonol nad yw’r opsiwn wedi ei arfer ac nad yw’n bosibl ei wneud erbyn hyn.

  • Os yw’r brydles mewn perthynas â chyfarpar cyfathrebu electronig, dylech gyflwyno cadarnhad naill ai bod y brydles wedi ei therfynu’n unol â darpariaethau’r Cod Cyfathrebiadau Electronig (a lle terfynir trwy rybudd, rhaid cyflwyno copi o’r rhybudd) neu gadarnhad nad yw’r darpariaethau’n gymwys i’r brydles.

8. Terfynu: ar fforffediad

Gall prydles sy’n cynnwys amod ar gyfer ailfynediad neu ‘gymal fforffediad’ alluogi’r landlord i gael ailfynediad i’r anheddau a fforffedu’r brydles, naill ai oherwydd

  • nad yw’r tenant wedi talu’r rhent
  • oherwydd bod y tenant wedi torri rhyw gyfamod(-au) arall yn y brydles, neu
  • ar ansolfedd y tenant

Gall y landlord fforffedu’r brydles trwy achos llys neu trwy ailfynediad heddychlon.

Gall rhywun â budd wneud cais i’r llys am ymwared rhag fforffediad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn sail ddilys ynddo’i hun i wrthwynebu cais i Gofrestrfa Tir EF sy’n seiliedig ar derfynu trwy fforffediad.

Sylwer 1: Ni ellir terfynu tenantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth byrddaliad sicr) trwy fforffediad.

Sylwer 2: Cyn parhau â chais i beri terfyniad prydles ar fforffediad byddwn fel rheol yn anfon rhybudd at y tenant ac at unrhyw arwystlai. Mae hyn yn golygu y bydd oedi cyn y gellir cwblhau’r cais.

Sylwer 3: Mae adran 82 o Ddeddf Coronafeirws 2020 yn cynnwys darpariaethau sy’n gwarchod tenantiaid busnes rhag hawliau ailfynediad neu fforffediad yn cael eu gorfodi yn ystod y cyfnodau perthnasol fel y nodir yn y Ddeddf. Gall y cyfnodau hynny gael eu newid gan reoliadau. Felly, ni dderbynnir ceisiadau lle y mae’r dystiolaeth yn dangos y gorfodwyd hawl i ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent yn ystod y cyfnod perthnasol. Ar gyfer tenantiaethau busnes, mae’r “cyfnod perthnasol”, fel y’i newidiwyd, yn rhedeg o 26 Mawrth 2020 i 25 Mawrth 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr (yn unol â Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Gwarchod rhag Fforffediad: Cyfnod Perthnasol) (Coronafeirws) (Lloegr) (Rhif 2) 2021 a Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2021) yn y drefn honno.

8.1 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais, rhaid ichi gyflwyno’r dogfennau canlynol.

Os yw’r fforffediad yn seiliedig ar orchymyn llys: copi ardystiedig o orchymyn diamod ar gyfer meddiant.

Sylwer: Nid yw dwyn achos yn cyfrif fel ailfynediad at y dibenion hyn.

Os yw’r fforffediad yn seiliedig ar ailfynediad heddychlon:

  • tystiolaeth trwy ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan berson dibynadwy gyda gwybodaeth lawn o’r ffeithiau yn profi’r ffeithiau yr honnir iddynt gyfrif fel ailfynediad cyfreithlon ar ddyddiad penodol. Dylai hyn gynnwys manylion am sut y gwnaed yr ailfynediad a chan bwy
  • os yw’r tenant yn gwmni yn nwylo gweinyddwyr, cydsyniad y gweinyddwr neu’r llys
  • os yw’r fforffediad am fethu â thalu’r rhent, rhaid i’r datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd ddangos:
    • a oedd angen archeb ffurfiol, ac os oedd, a wnaethpwyd y fath archeb ai peidio
    • swm yr ôl-ddyledion rhent, am ba mor hir y bu’r rhent heb ei dalu a chadarnhad bod hyn yn ddigonol i beri’r amod ar gyfer ailfynediad
  • os yw’r fforffediad yn seiliedig ar dorri cyfamod heblaw methu â thalu’r rhent, rhaid i’r datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd ddangos:
    • bod y landlord wedi cyflwyno’r rhybudd angenrheidiol o dan adran 146(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 i’r tenant ar ddyddiad penodol. Os nad yw’r ystad brydlesol yn gofrestredig, rhaid cyflwyno tystiolaeth ddigonol i brofi mai’r tenant oedd y person y cyflwynwyd y rhybudd iddo
    • yn achos torri cyfamod atgyweirio, bod cyflwyno’r rhybudd yn hysbys i’r tenant neu i is-brydlesai, lle nad oes ond rifersiwn mewn enw gan y tenant, neu i’r person diwethaf a dalodd y rhent dyledus o dan y brydles, naill ar eu rhan eu hunain neu fel asiant y tenant neu’r is-brydlesai, a bod digon o amser o fewn rheswm wedi mynd heibio yn sgil hyn, i alluogi cyflawni’r atgyweiriadau – gweler adran 18(2) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927
    • yn achos torri cyfamod atgyweirio mewn prydles oedd â thair blynedd neu fwy heb ddod i ben ar y dyddiad y cyflwynwyd y rhybudd o dan adran 146 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, bod y rhybudd yn cynnwys y datganiad gofynnol i’r perwyl bod hawl gan y tenant gyflwyno gwrthrybudd yn hawlio budd Deddf (Atgyweiriadau) Eiddo Prydlesol 1938 a’i fod heb wneud hynny
    • bod y tenant wedi methu â chydymffurfio â’r rhybudd a gyflwynwyd o dan adran 146 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925
  • os yw’r anheddau yn cael eu gosod fel tŷ, gorchymyn llys yw’r unig ddull cyfreithlon o fynnu hawl ailfynediad tra bod rhywun yn preswylio yno’n gyfreithlon – gweler adran 2 o Ddeddf Gwarchod rhag Dadfeddiannu 1977. Felly ow yw’r anheddau yn cynnwys tŷ, rhaid i’r datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd ddangos naill ai:
    • nad oedd neb yn preswylio yn yr anheddau neu yn unrhyw ran ohonynt
    • os oedd rhywun yn preswylio yno, nad oeddent yn ei wneud yn gyfreithlon
  • os yw’r brydles yn brydles breswyl, rhaid i’r datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd ddangos naill ai nad yw’r darpariaethau canlynol yn berthnasol neu y cydymffurfiwyd â hwy
  • mae adran 81 o Ddeddf Tai 1996, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yn cyfyngu ar hawl y landlord i fforffedu prydles breswyl lle bo ôl-ddyledion taliad gwasanaeth sy’n destun anghydfod yn ôl y tenant. Ni all y landlord arfer yr hawl ailfynediad nes bod y tribiwnlys priodol neu lys wedi pennu’r taliadau gwasanaeth, a bod 14 diwrnod wedi mynd heibio, yn dechrau’r diwrnod ar ôl naill ai:
    • diwedd y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad
    • os oes apêl yn erbyn y penderfyniad, penderfyniad yr apêl a diwedd yr amser ar gyfer dwyn apêl olynol, neu’r apêl yn cael ei ollwng neu beidio â bod yn effeithiol fel arall
  • mae adran 166 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn darparu nad yw tenant o dan brydles hir o dŷ yn atebol am wneud taliad rhent o dan y brydles oni bai bod y landlord wedi rhoi i’r tenant rybudd ynghylch y taliad a bod y rhybudd yn pennu’r dyddiad pryd y maent yn atebol am wneud taliad. Rhaid i’r rhybudd gydymffurfio â’r gofynion a amlinellir yn adran 166
  • mae adran 167 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn darparu na all landlord o dan brydles hir o dŷ fforffedu’r brydles am fethiant y tenant â thalu’r rhent, taliad gwasanaeth neu daliadau gweinyddu oni bai bod y swm yn fwy na swm penodedig (£350 ar hyn o bryd), neu nad yw wedi’i dalu am gyfnod sy’n fwy na chyfnod penodedig (tair blynedd ar hyn o bryd)
  • mae adran 168 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn darparu na all landlord o dan brydles hir o dŷ gyflwyno rhybudd am dorri cyfamod gan y tenant o dan adran 146 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 oni bai bod y tenant wedi cyfaddef iddo ei dorri, neu fod 14 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i’r tribiwnlys priodol neu lys bennu bod toriad wedi digwydd. Sylwer: Dylid cyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol fel arddangosion i’r datganiad neu atodiadau i’r datganiadau o wirionedd.

9. Terfynu tenantiaethau sicr: yn dilyn gorchymyn llys

Tenantiaeth cartref a grëwyd ar ôl 15 Ionawr 1989 sy’n cwrdd ag amodau adran 1 o Ddeddf Tai 1988 yw tenantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth byrddaliad sicr). Mae Atodlen 1 o Ddeddf Tai 1988 yn cynnwys eithriadau sy’n atal tenantiaeth rhag dod yn denantiaeth sicr.

Gall landlord derfynu tenantiaeth sicr dim ond trwy gael gorchymyn llys am feddiant o dan adran 7 o Ddeddf Tai 1988 neu, yn achos tenantiaeth cyfnod penodol, trwy rybudd o dan gymal terfynu; ni ellir ei therfynu trwy fforffediad. Am nad yw’r denantiaeth wedi ei therfynu trwy fforffediad, nid yw’n bosibl hawlio ymwared yn erbyn fforffediad. Bydd unrhyw lyffetheiriau yn erbyn y budd prydlesol yn syrthio pan fo’r brydles yn terfynu.

Bydd tenantiaeth sicr yn terfynu pan fo’r gorchymyn llys yn cael ei gyflawni (gweler adran 5(1A) o Ddeddf Tai 1988).

Dylid anfon y canlynol gyda chais i derfynu prydles trwy orchymyn am feddiant a wneir o dan adran 7 o Ddeddf Tai 1988:

10. Terfynu: trwy rybudd

Gall prydles am gyfnod penodol gynnwys opsiwn a elwir fel arfer yn ‘gymal terfynu’, sy’n caniatáu i naill ai un o’r partïon i’r brydles neu’r ddau ohonynt derfynu’r brydles cyn i’r cyfnod penodol ddod i ben. Fel arfer gellir arfer y cymal trwy rybudd ysgrifenedig yn unig.

10.1 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth o derfynu’r brydles trwy rybudd yn unol â thelerau’r brydles. Gall hyn fod ar un o’r ffurfiau canlynol:

  • copi o’r rhybudd wedi’i dderbynebu gan y landlord/tenant, y’i hanfonwyd ato
  • tystysgrif gan drawsgludwr y ceisydd yn nodi bod rhybudd penodol wedi’i gyflwyno i’r landlord/tenant yn manylu ar ddull a dyddiad cyflwyno. Dylech amgáu copi o unrhyw rybudd gyda’r dystysgrif
  • datganiad statudol gan y ceisydd, sy’n dangos copi o’r rhybudd a gyflwynwyd ac yn manylu ar ddull a dyddiad cyflwyno

11. Terfynu: trwy lesteirio

Gellir terfynu prydles trwy lesteirio, hynny yw, digwyddiad heb ei ragweld sy’n peri bod cyflawni’n anymarferol. Fodd bynnag, mae’r amgylchiadau lle y gellir cymhwyso athrawiaeth llesteirio’n i derfynu prydles yn brin. Caiff unrhyw gais sy’n seiliedig ar derfynu trwy lesteirio ei ystyried ar sail ei ffeithiau penodol.

Sylwer: Mae’r adran hon yn berthnasol i derfynu prydles yn awtomatig trwy athrawiaeth llesteirio, ac nid i derfynu prydles drwy rybudd yn sgil digwyddiad (er enghraifft yr anheddau yn cael eu difrodi gan dân y tu hwnt i atgyweirio) y cyfeirir ato mewn ‘cymal llesteirio’ yn y brydles.

12. Terfynu: trwy estyniad

O dan rai amgylchiadau gall tenant sy’n dal gweddill prydles hir o dir, ei ‘hestyn’ trwy weithred i rydd-ddaliad.

I fod yn brydles sy’n gallu cael ei hestyn, rhaid i’r brydles fodloni pob un o’r gofynion canlynol (gweler adran 153 o Ddeddf Cyfraith Eiddo1925).

  • rhaid bod o leiaf 200 mlynedd yn weddill o gyfnod y brydles sydd heb ddod i ben
  • rhaid bod y cyfnod gwreiddiol am o leiaf 300 mlynedd
  • rhaid nad oes unrhyw ymddiried na hawl i adbrynu yn bodoli o blaid y rhydd-ddaliwr neu unrhyw rifersiynydd arall
  • rhaid nad oes unrhyw rent neu fod rhent hedyn pupur yn unig neu rent arall nad oes gwerth arian iddo, neu raid bod unrhyw rent wedi peidio â bod yn daladwy
  • rhaid nad oes unrhyw hawl ailfynediad ar amod sydd wedi’i dorri
  • rhaid nad yw’r brydles yn is-brydles o brydles na ellir ei hestyn

Sylwer: Tybir bod rhent o ddim mwy na £1 y flwyddyn, sydd heb ei gasglu na’i dalu am 20 mlynedd neu fwy, wedi peidio â bod yn daladwy. Dylid cyflwyno tystiolaeth trwy ddatganiad statudol os bwriedir dibynnu ar yr amod hwn.

Ar estyniad, mae’r tir yn parhau’n ddarostyngedig i’r un ymddiriedau a chyfamodau a effeithiodd ar y brydles wreiddiol.

Mae effaith yr estyniad ar ystad gyfreithiol y landlord blaenorol yn aneglur. O ganlyniad, os yw teitl y landlord yn gofrestredig, ni chaiff ei gau. Mae hyn yn golygu y bydd mwy nag un ystad rydd-ddaliol gofrestredig yn yr un darn o dir.

12.1 Sut i wneud y cais

Yn ogystal â’r dogfennau angenrheidiol, a nodwyd yn Pwyntiau i’w hystyried gyda phob cais rhaid ichi gyflwyno:

  • ffurflen FR1 – a yw’r brydles i’w hestyn yn gofrestredig neu’n ddigofrestredig (a ph’un ai a oes teitl rhydd-ddaliol cofrestredig yn bodoli ai peidio)

Sylwer: Nid oes ffi ychwanegol i’w thalu ar gofrestriad cyntaf o ran yr estyniad ei hun

  • copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol, neu grynodeb o’r brydles a archwiliwyd, os nad yw’r brydles wreiddiol ar gael

Sylwer: os na chyflwynir naill ai’r brydles wreiddiol na thystiolaeth lawn o’i chynnwys gall Cofrestrfa Tir EF roi dosbarth teitl rhydd-ddaliol amodol yn unig, i adlewyrchu’r posibilrwydd y gall y brydles fod yn un na ellir ei hestyn

  • y weithred estyn (a fydd, efallai, wedi ei hardystio ar un o’r gweithredoedd teitl digofrestredig yn ymwneud â phrydles ddigofrestredig sy’n cael ei hestyn)
  • datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd parthed methiant â thalu rhent, os yw’n briodol

Sylwer: Nid oes angen cais ar wahân ar ffurflen AP1 i gau’r teitl prydlesol cofrestredig presennol ac nid oes angen cais ar wahân ar ffurflen CN1 i ddileu rhybudd o’r brydles ddigofrestredig os yw’r ystad rifersiwn yn gofrestredig.

Gan na fydd estyniad yn bosibl efallai, er enghraifft, os nad ydym yn fodlon o’n harchwiliad bod gofynion adran 153 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 wedi eu bodloni, efallai yr hoffech ystyried gwneud cais i gofrestru unrhyw warediad cofrestradwy mewn perthynas â’r ystad brydlesol sy’n bodoli yn gyntaf, cyn gwneud cais ar wahân ar gyfer estyniad. Gallai hyn helpu i sicrhau bod y gwarediad cofrestradwy yn cael ei gwblhau trwy gofrestru o leiaf.

13. Pethau i’w cofio

Gwnewch yn siwr ar bob adeg eich bod:

  • wedi gofyn am gyd-doddi, lle bo’n briodol, naill ai ar ffurflen AP1, ffurflen FR1 neu ffurflen CN1
  • wedi anfon y ffurflen gais gywir – naill ai ffurflen AP1, ffurflen FR1 a/neu ffurflen CN1
  • wedi gwirio bod y ddwy ystad yn cael eu dal yn yr un berchnogaeth ac yn yr un modd, gyda chais sy’n seiliedig ar gyd-doddi
  • wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol briodol, er enghraifft crynodeb teitl, i brofi teitl lle bo ystad brydlesol neu ystad rifersiwn yn ddigofrestredig
  • wedi delio â’r darpariaethau TTTS neu TTT priodol sy’n berthnasol i derfynu trwy ildio
  • wedi cyflwyno unrhyw ffurflenni Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru angenrheidiol
  • wedi sicrhau bod pob llyffethair ar ystad brydlesol i’w therfynu trwy gyd-doddi, ildio neu ymwadu wedi eu rhyddhau, eu tynnu yn ôl neu eu dileu yn briodol a’ch bod wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol briodol gyda’ch cais i ddangos hyn
  • wedi cyflwyno copi ardystiedig a/neu’r brydles wrthrannol
  • wedi cyflwyno datganiad statudol (lle y bo’n briodol), ac wedi amgáu unrhyw arddangosion y cyfeirir atynt
  • wedi cyflwyno’r holl dystiolaeth gefnogol sydd ei hangen
  • wedi amgáu’r ffi briodol gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru
  • Pwysig: cofiwch wirio’r manylion clerigol yn yr holl ffurflenni a gweithredoedd (yn enwedig arwystlon a morgeisi) gan dalu sylw arbennig i’r holl ddyddiadau, disgrifiadau eiddo, rhifau teitl ac enwau llawn partïon, yn enwedig lle maent yn ymddangos mewn mwy nag un weithred

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.