Skip to main content
Ffurflen

Sut i lenwi atodlen D38

Diweddarwyd 19 Mai 2026

Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon

Dylech lenwi’r ffurflen hon os ydych yn didynnu Rhyddhad Busnes a bod y trosglwyddwr neu’r setlwr yn berchen ar unrhyw un o’r canlynol:

  • cyfranddaliadau mewn cwmni

  • busnes neu ran o fusnes

  • asedion a ddefnyddir mewn busnes

Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob daliant o gyfranddaliadau, busnes neu ased.

Sylwer: yn yr arweiniad hwn, mae ‘ymddiriedolaeth’ a ‘setliad’ yn cael eu trin fel termau cyfnewidiol.

Yr hyn sy’n gymwys i gael Rhyddhad Busnes

Pan fo Rhyddhad Amaethyddol a Rhyddhad Busnes yn berthnasol i’r un eiddo, dylai’r hawliad a wneir fod am Ryddhad Amaethyddol. Gall Rhyddhad Busnes fod yn berthnasol i unrhyw werth sydd dros ben nad yw’n gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol.

Dylech drin Rhyddhad Busnes ar asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth yn yr un modd ag asedion yn ystâd person.

Mae yna isafswm i’r cyfnod y mae’n rhaid i’r trosglwyddwr neu’r setlwr fod wedi perchen ar yr asedion. 2 flynedd yw hyn fel arfer. Gallwch hawlio rhyddhad ar drosglwyddiadau sy’n ymwneud â’r cyfranddaliadau a’r asedion canlynol.

Busnes neu fuddiant mewn busnes

Gallwch hawlio rhyddhad ar fusnes neu fuddiant mewn busnes.

Stociau a chyfranddaliadau

Gallwch hawlio rhyddhad ar fathau penodol o gyfranddaliadau mewn cwmni.

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u rhestru a chwmnïau anrhestredig.

Cwmnïau sydd wedi’u rhestru

Mae hyn yn golygu bod cwmni wedi’i restru ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig.

Ar gyfer trosglwyddiadau ar ôl 9 Mawrth 1992, mae hyn hefyd yn cynnwys masnachu cyfranddaliadau ar y canlynol:

  • NASDAQ America (National Association of Securities Dealers Automatic Quotation System)

  • EASDAQ Ewrop (European Association of Securities Dealers Automatic Quotation System)

Gallwch hawlio rhyddhad ar gwmnïau sydd wedi’u rhestru os oedd y trosglwyddwr neu’r setlwr yn rheoli mwy na 50% o’r pwerau pleidleisio ar adeg y digwyddiad. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘daliannau sy’n rhoi rheolaeth’.

Cwmnïau anrhestredig

Mae hyn yn golygu bod cwmni heb ei restru ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig.

Mae rhai cwmnïau wedi’u rhestru yn Rhestr Swyddogol Ddyddiol y Gyfnewidfa Stoc, ond maent yn anrhestredig at ddibenion Rhyddhad Busnes. Mae hyn yn cynnwys cyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar farchnadoedd fel y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM).

Ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar ac ar ôl 6 Ebrill 2026, os nad yw marchnad yn cael ei chyfrif fel un ‘rhestredig’ at ddibenion CThEF (fel AIM), bydd y cyfranddaliadau a ddelir mewn cwmnïau sydd wedi’u rhestru ar y marchnadoedd hyn dim ond yn gymwys i gael rhyddhad ar gyfradd o 50%.

Gallwch hawlio rhyddhad ar gwmnïau anrhestredig os yw’r canlynol yn wir am y trosglwyddwr neu’r setlwr:

  • roedd yn berchen ar unrhyw gyfranddaliadau mewn cwmni anrhestredig

  • roedd yn rheoli mwy na 50% o’r pwerau pleidleisio ar adeg y digwyddiad — enw arall ar hyn yw ‘daliannau sy’n rhoi rheolaeth’

  • roedd yn rheoli mwy na 25% o’r pwerau pleidleisio ar adeg y digwyddiad — enw arall ar hyn yw ‘daliant sylweddol’

Tir, adeiladu neu offer a pheiriannau a ddefnyddir mewn busnes

Gallwch hawlio rhyddhad ar yr asedion hyn os ydynt yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd canlynol:

  • mewn busnes lle’r oedd y trosglwyddwr neu’r setlwr yn bartner ar ddyddiad y digwyddiad

  • gan gwmni yr oedd y trosglwyddwr neu’r setlwr yn ei reoli

Bydd asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth dim ond yn gymwys i gael Rhyddhad Busnes os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • mae gan y trosglwyddwr neu’r setlwr yr hawl i elwa o’r ymddiriedolaeth

  • defnyddiwyd yr ased mewn busnes gan y perchennog blaenorol fel rhan o’i fusnes ef

Cyfrifo swm y rhyddhad

Gallwch gyfrifo swm y rhyddhad drwy ddidynnu’r ganran o gyfanswm gwerth yr ased.

Os yw’r ased yn gymwys i gael rhyddhad o 100%, dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr ased yn y blwch cyfatebol yn adran ‘Asedion’ y gyfres o ffurflenni IHT100 .

 O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’r rhyddhad o 100% ar werth cyfunol eiddo amaethyddol cymhwysol a/neu eiddo busnes cymhwysol wedi’i gyfyngu gan lwfans rhyddhad newydd. Pan fo cyfanswm gwerth yr eiddo cymhwysol yn fwy na’r lwfans rhyddhad perthnasol, bydd y swm sydd dros ben yn gymwys i gael rhyddhad ar gyfradd o 50%.

Mae’r lwfans perthnasol yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Trosglwyddiadau trethadwy

Ar gyfer trosglwyddiadau trethadwy (gan gynnwys ar farwolaeth) a nodwyd ar IHT100a a 100b, mae lwfans personol y trosglwyddwr yn berthnasol. Hynny yw, £2.5 miliwn llai gwerth cymhwysol unrhyw drosglwyddiadau trethadwy a wnaed gan yr unigolyn yn y 7 mlynedd cyn y digwyddiad trethadwy hwn.

Ar adeg y farwolaeth, gellir trosglwyddo’r lwfans o £2.5 miliwn sydd heb ei ddefnyddio gan briod neu bartner sifil a fu farw i ystâd yr ymadawedig, ar yr amod bod yr hawliad yn cael ei wneud o fewn pedair blynedd i farwolaeth y goroeswr neu o fewn chwe mis cyntaf y cynrychiolwyr personol yn eu rôl.

Digwyddiad trethadwy

Ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar gyfer setliadau eiddo perthnasol a nodwyd ar IHT100c ac IHT100d

Os dechreuodd y setliad cyn 30 Hydref 2024, a’i fod yn cynnwys eiddo amaethyddol neu eiddo busnes a oedd yn gymwys i gael rhyddhad 100% (ac eithrio cyfranddaliadau heb eu rhestru, fel cyfranddaliadau AIM, sydd bellach yn gymwys i gael rhyddhad 50% yn unig), yna lwfans yr ymddiriedolaeth yw £2.5 miliwn, a hynny’n berthnasol ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar ôl y 10 mlynedd gyntaf ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.

Os dechreuodd y setliad ar ôl 30 Hydref 2024, neu os nad oedd ganddo unrhyw eiddo y gellid ei ryddhau ar gyfradd o 100% (ac eithrio cyfranddaliadau heb eu rhestru, fel cyfranddaliadau AIM, sydd bellach yn gymwys i gael rhyddhad 50% yn unig) ar y dyddiad hwnnw, yna mae angen i chi gyfrifo’r lwfans rhyddhad sydd ar gael ar gyfer y setliad ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026. Mae hyn yn seiliedig ar y rhyddhad 100% sydd ar gael i’r setlwr wrth drosglwyddo i’r ymddiriedolaeth, a hynny wedi’i gyfyngu i uchafswm o £2.5 miliwn ar gyfer yr holl ymddiriedolaethau a wneir gan yr un setlwr ar neu ar ôl 30 Hydref 2024.

Digwyddiadau trethadwy ar gyfer ymddiriedolaethau arbennig

Ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar gyfer ymddiriedolaethau arbennig a nodwyd ar IHT100e, y lwfans ymddiriedolaeth yw £2.5 miliwn.

Digwyddiadau trethadwy ar gyfer ymddiriedolaethau 18-25

Ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar gyfer ymddiriedolaethau 18-25 a nodwyd ar IHT100h, lwfans yr ymddiriedolaeth yw £2.5 miliwn fesul buddiolwr.

Mwy nag un digwyddiad trethadwy

Os oes mwy nag un digwyddiad trethadwy ar yr un diwrnod sy’n gymwys i gael rhyddhad 100%, neu fwy nag un elfen o ystâd ymadawedig sy’n gymwys i gael rhyddhad 100%, yna mae’r lwfans rhyddhad yn cael ei dosrannu.

Gweler IHTM25500 i gael rhagor o fanylion ynghylch lwfansau rhyddhad a’r broses o ddosrannu.

Dod o hyd i ragor o wybodaeth am Ryddhad Busnes

Gwiriwch pa asedion nad ydynt yn gymwys i gael Rhyddhad Busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Darllenwch ganllawiau technegol am Ryddhad Busnes yn y Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Dylech ddefnyddio’r ffigurau yn yr atodlen hon i’ch helpu i lenwi’r gyfres o ffurflenni IHT100 (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen hon ochr yn ochr â’r ffurflen gyflawn o’r gyfres IHT100. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys copïau o unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt.

Cael help

Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon.