Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth

Diweddarwyd 5 February 2024

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Er mwyn lleihau’r perygl o dwyll cofrestru, mae Cofrestrfa Tir EF yn dibynnu ar y camau mae trawsgludwyr yn eu cymryd, pan fo’n briodol, i gadarnhau hunaniaeth eu cleientiaid.

O dan rai amgylchiadau, mae angen cais ar Gofrestrfa Tir EF i gynnwys cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu pa wiriadau, os o gwbl, y gall fod angen i ni eu gwneud cyn cwblhau cofrestriad.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn egluro pryd y mae angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 hwnnw a sut y dylid ei ddarparu.

Mae’r wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn yn berthnasol dim ond i’r cadarnhad y mae’n rhaid ei ddarparu i Gofrestrfa Tir EF. Nid yw’n berthnasol i wiriadau hunaniaeth y mae cyrff rheoleiddiol neu gynrychioladol yn gofyn amdanynt, neu sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, er enghraifft o dan ddeddfwriaeth gwyngalchu arian.

Wrth gyflwyno cais, os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallwch fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

Nid bwriad ein gofynion yw gosod unrhyw rwymedigaethau newydd ar drawsgludwyr. Mae hawl atebolrwydd statudol gan Gofrestrfa Tir EF i adennill symiau a dalwyd ar gyfer indemniad o dan baragraff 10 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ond nid yw’r hawl yn cael ei defnyddio’n awtomatig neu’n rheolaidd. Ni ddefnyddir yr hawl atebolrwydd lle nad y trawsgludwr wedi bod yn dwyllodrus neu’n esgeulus.

Sylwer y caiff eich cais, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ei ddileu os na ddarperir tystiolaeth hunaniaeth pan ofynnir am hyn.

2. Cadarnhau hunaniaeth neu hunaniaeth rheol 17

Rhaid i Gofrestrfa Tir EF wneud hyn er mwyn osgoi twyll cofrestru.

Fel rheol, tir ac adeiladau yw’r asedau mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl. Gellir eu gwerthu a’u morgeisio i godi arian ac felly gallant fod yn dargedau deniadol i dwyllwyr. Mae gan Gofrestrfa Tir EF ac eraill sy’n gysylltiedig â thrafodion yn ymwneud ag eiddo drefniadau mewn grym i ddiogelu yn erbyn twyll ac mae’r angen i gadarnhau hunaniaeth ar gyfer mathau arbennig o drafodion a cheisiadau yn ein cynorthwyo i wneud hyn.

Yn y rhan fwyf o achosion o dwyll, y gwaredwr honedig, yn hytrach na’r ceisydd, sy’n ymddwyn yn dwyllodrus. Er mwyn ymdrin â thwyll yn effeithiol, rydym o’r farn ei bod yn hanfodol bod hunaniaeth y gwaredwr (ac eraill) yn cael eu cadarnhau cyn i’r trafodion ddigwydd, ac felly, y dylai’r trawsgludwyr sy’n cyflwyno’r ceisiadau i’w cofrestru ddarparu tystiolaeth o hyn.

Felly, fel trawsgludwr, o ran y rhan fwyaf o drafodion, mae’n bosibl y bydd ein gofynion hunaniaeth yn effeithio arnoch mewn 2 ffordd.

  • fel y trawsgludwr sy’n anfon cais i Gofrestrfa Tir EF ar ran cleient
  • fel trawsgludwr yn darparu tystiolaeth hunaniaeth am unigolyn nad yw wedi ei gynrychioli sy’n ymwneud â thrafodiad, gan ddefnyddio ffurflen ID1, ffurflen ID2 neu ffurflen ID5

Bydd angen i rywun nad yw’n drawsgludwr sy’n darparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer person heb gynrychiolaeth yn ymwneud â thrafodiad lenwi ffurflen ID3.

Tynnwyd Ffurflen ID4 (ar gyfer cyrff corfforaethol) yn ôl ar 5 Chwefror 2024. Byddwn yn parhau i dderbyn ffurflen ID4 fel rhan o gyfnod trosiannol o dri mis er mwyn caniatáu i ffurflenni a gadarnhawyd cyn y dyddiad hwnnw gael eu cyflwyno.

Ni dderbynnir ffurflen ID4 ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar ôl 6 Mai 2024.

3. Diffiniadau

3.1 Trawsgludwr

Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘drawsgludwr’, rydym yn golygu unigolyn awdurdodedig o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 sydd â’r hawl i ddarparu’r gwasanaethau trawsgludo y cyfeirir atynt ym mharagraffau 5(1)(a) a (b) Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, neu unigolyn sy’n cyflawni’r gweithgareddau yn rhinwedd eu dyletswyddau fel swyddog cyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys unigolyn neu gorff sy’n cyflogi, neu sydd ag unigolyn awdurdodedig o’r fath ymhlith eu rheolwyr, a fydd yn cyflawni neu’n goruchwylio’r gweithgareddau trawsgludo hyn (rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003). Sylwer, er mwyn dod o fewn diffiniad trawsgludwr yn rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003, rhaid i unigolyn gael ei awdurdodi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 i ddarparu gwasanaethau trawsgludo; i bob pwrpas, rhaid iddo gael tystysgrif ymarfer.

Byddwn yn derbyn cadarnhad o hunaniaeth ar ffurflenni ID1 ac ID2 gan gyfreithiwr Albanaidd.

Nid yw paragyfreithiwr yn drawsgludwr. Rhywun sy’n cynorthwyo cwmnïau cyfreithiol yw paragyfreithiwr – gall hefyd arwyddo ffurflenni cais ar ran cwmni trawsgludo awdurdodedig os oes ganddo awdurdod i wneud hynny gan y cwmni. Ni all gadarnhau hunaniaeth fodd bynnag.

Nid yw pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn drawsgludwr, dim ond y rheiny a awdurdodwyd gan Reoliad CILEx i ymgymryd â gweithgareddau offeryn neilltuedig. Rydym wedi cytuno â Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx) a Rheoliad CILEx fodd bynnag y gall pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gadarnhau hunaniaeth er na fydd pob un o bosibl yn drawsgludwr.

Er gall pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gadarnhau hunaniaeth, dim ond Ymarferyddion Trawsgludo CILEX all ddarparu tystysgrifau i gydymffurfio â chyfyngiadau Ffurf LL. Sylwer nad yw’n ddigon i’r person sy’n rhoi’r dystysgrif ddisgrifio’i hunan fel Ymarferydd CILEX; rhaid nodi Ymarferydd Trawsgludo CILEX bob tro.

Rydym wedi cytuno â Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC), y gall ymarferyddion profiant trwyddedig a reoleiddir gan CLC gadarnhau hunaniaeth er nad ydynt efallai’n drawsgludwyr neu’n gyfreithwyr.

3.2 Rhywun nad yw’n drawsgludwr

Mae ein harfer presennol yn caniatáu i rywun nad yw’n drawsgludwr gadarnhau hunaniaeth ar ffurflen ID3 (gweler hefyd Rhywun nad yw’n drawsgludwr yn cadarnhau). At y diben hwn, mae rhywun nad yw’n drawsgludwr yn unigolyn o un o’r proffesiynau canlynol.

  • Meddyg
  • Deintydd
  • Cyfrifydd siartredig neu ardystiedig
  • Cynghorydd ariannol rheoledig
  • Aelod Seneddol
  • Aelod o’r Senedd

Byddwn yn parhau i adolygu’r rhestr hon a gallwn ychwanegu neu ddileu rhai proffesiynau os ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny.

Gweler Tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID3 am ragor o wybodaeth am broffesiynau sydd wedi eu dileu.

3.3 Cadarnhad o hunaniaeth

‘Cadarnhad o hunaniaeth’ yw’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan:

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn ymwneud â lle bo’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EF gan drawsgludwr ac felly nid yw paneli 14 ffurflen AP1, 10 o ffurflen DS2 ac 16 o ffurflen FR1 yn berthnasol, am eu bod yn delio â lle bo’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EF gan rywun nad yw’n drawsgludwr.

Lle bo’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EF gan drawsgludwr, mae cadarnhad o hunaniaeth yn golygu’r trawsgludwr yn darparu manylion trawsgludwr (weithiau eu hunain) a fu’n cynrychioli’r unigolyn o ran pa gadarnhad hunaniaeth sy’n ofynnol (trwy lenwi paneli 13(1) ffurflen AP1, 9(1) ffurflen DS2 neu 15(1) ffurflen FR1).

Mewn unrhyw achos lle nad oedd yr unigolyn wedi ei gynrychioli gan drawsgludwr, rhaid i’r trawsgludwr sy’n anfon y cais naill ai:

  • cadarnhau ei fod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth yr unigolyn hwnnw (trwy lenwi’r blwch cyntaf ym mhaneli 13(2) ffurflen AP1, 9(2) ffurflen DS2 neu ffurflen FR1)
  • amgáu ‘tystiolaeth hunaniaeth’ o ran y person hwnnw
  • datgan yr eithriad rhag darparu tystiolaeth hunaniaeth sy’n cael ei hawlio o dan Eithriadau ac amgáu unrhyw dystiolaeth ofynnol

3.4 Tystiolaeth hunaniaeth

Diffinnir ‘tystiolaeth hunaniaeth’ (yn nheitl y cyfarwyddyd hwn a hyd at, ac yn cynnwys adran 1, mae tystiolaeth hunaniaeth yn cyfeirio at gadarnhau hunaniaeth a thystiolaeth hunaniaeth rheol 17) ym mhaneli 12 ffurflen AP1, 8 ffurflen DS2 ac 14 ffurflen FR1 fel tystiolaeth a ddarperir yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyfredol a wneir gan y Prif Gofrestrydd Tir o dan adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 at ddibenion cadarnhau hunaniaeth unigolyn. Mae’r cyfarwyddyd presennol yn darparu ar gyfer naill ai ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 lle bo’r cadarnhau gan drawsgludwr neu ffurflen ID3 lle bo’r cadarnhau gan rywun nad yw’n drawsgludwr, i’w amgáu gyda’r cais perthnasol, oni bai bod eithriad yn berthnasol. Mae’r eithriadau hyn yn cael eu trafod yn Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17. Yn ychwanegol, rhaid llenwi ffurflen ID5 lle mae trawsgludwr wedi cadarnhau hunaniaeth unigolyn trwy fideo-alwad ar-lein. At ddiben y cyfarwyddyd ymarfer hwn, wrth gyfeirio at y ffurflenni a baratowyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 100(4), (ffurflenni ID1, ID2, ID3 ac ID5) byddwn yn defnyddio ‘ffurflen(ni) ID’.

3.5 Tystiolaeth hunaniaeth Rheol 17

Mae rheol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ein caniatáu i ofyn am ragor o ddogfennau neu dystiolaeth i’n helpu i gwblhau cais. Efallai byddwn yn dileu cais os nad ydych yn darparu’r hyn sydd ei angen arnom. Yn y cyfarwyddyd hwn rydym yn defnyddio’r term ‘tystiolaeth hunaniaeth rheol 17’ i gyfeirio at y dogfennau neu’r dystiolaeth ychwanegol y gallwn ofyn amdanynt.

Rydym yn nodi yn y cyfarwyddyd hwn ac mewn mannau eraill rai achosion lle rydym yn debygol o ofyn am gadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gofyn ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 mewn achosion eraill, weithiau hyd yn oed pan fo trawsgludwr eisoes wedi cadarnhau ei fod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth rhywun.

Efallai byddwch yn ei chael yn anodd yn ymarferol i gael tystiolaeth hunaniaeth gan werthwr neu waredwr arall ar ôl i warediad gael ei gwblhau. Gall hyn fod yn wir hyd yn oed pan fo’r gwaredwr wedi gwarantu y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i basio teitl i’r gwaredai (fel sy’n digwydd fel arfer lle rhoddwyd gwarant teitl llawn neu gyfyngedig). Felly ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol oni bai ein bod yn fodlon bod hyn yn angenrheidiol neu’n ddymunol.

Mewn nifer o achosion, gofynnwn am dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 oherwydd amgylchiadau cais yn hytrach nag oherwydd y wybodaeth benodol a gawsom. Yn aml, ni fyddwn yn esbonio’r union sail i’n pryder. Mae hyn yn helpu i warchod ein gweithdrefnau rhag twyllwyr. Rydym yn deall y gall hyn fod yn rhwystredig ac y bydd yn eich atal rhag rhoi esboniad llawn i’ch cleient.

4. Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17

Bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 lle nodir hynny yn y tabl canlynol. Disgrifir eithriadau A i E y cyfeirir atynt yn y tabl yn union ar ôl y nodyn i’r tabl.

Lle byddwch chi neu drawsgludwr arall wedi cynrychioli unigolyn, nid yw’r eithriadau’n gymwys, a rhaid ichi, lle mae cadarnhad o hunaniaeth yn briodol, ddarparu manylion y trawsgludwr, fel y nodir ym mlwch cyntaf paneli 13(2) ffurflen AP1, 9(2) ffurflen DS2 neu 15(2) ffurflen FR1, neu lle mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol, ddarparu’r wybodaeth gyfatebol.

Cais Unigolyn o ran yr hwn y mae cadarnhad o dystiolaeth hunaniaeth neu reol 17 tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol Eithriadau posibl
1. Trosglwyddiad (i) ystad gofrestredig neu (ii) arwystl cofrestredig – cais i gofrestru’r trosglwyddai’n berchennog.

(Yn ymdrin â throsglwyddiadau boed am werth ai peidio, yn cynnwys y rheiny’n ymwneud â phenodi ymddiriedolwyr a throsglwyddiadau o dan bŵer gwerthiant. Gweler hefyd 2.) Hefyd yn ymdrin â chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol .
- Trosglwyddwr a throsglwyddai

- Atwrnai’r naill neu’r llall
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Eithriad E
2. Ildiad prydles gofrestredig – cais i gau teitl prydlesol cofrestredig.

Sylwer: Bydd yr ildiad yn drosglwyddiad datganedig neu’n drosglwyddiad trwy weithredu’r gyfraith ac felly o fewn 1 uchod.
- Landlord a thenant

- Atwrnai’r naill neu’r llall
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D
3. Prydles (boed am werth ai peidio) ystad gofrestredig – cais i gofrestru’r brydles. - Landlord a thenant

- Atwrnai’r naill neu’r llall

Sylwer: Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 os yw prydles yn cael ei nodi’n unig, neu os yw’r cais dim ond i nodi hawddfreintiau mewn prydles na ellir ei chofrestru.
electronic discharge
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Eithriad E
4. Cofrestriad cyntaf tir rhydd-ddaliol neu brydlesol – cais yn seiliedig ar gofrestriad cyntaf gorfodol ac mae’r digwyddiad sy’n ei beri ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008. - Trosglwyddwr a throsglwyddai neu landlord a thenant

- Atwrnai’r naill neu’r llall
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Lle bo eithriadau un o’r 3 dogfen teitl a gollwyd neu a ddinistriwyd a nodir yn 7 yn gymwys
5. Arwystl cofrestredig – cais i gofrestru arwystl cofrestredig1ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig (isarwystl ohono) neu ar gofrestriad cyntaf y tir. - Cymerwr4a rhoddwr benthyg

- Atwrnai’r naill neu’r llall

Sylwer: Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 os yw arwystl yn cael ei nodi’n unig.
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Eithriad F
6. Rhyddhau neu ollwng arwystl cofrestredig ar ffurf papur (ffurflen DS1 neu DS3) – cais i’w beri2 - Rhoddwr benthyg

Sylwer: Ar gyfer ffurflenni papur DS1 neu DS3 a ddefnyddir i ryddhau arwystl cofrestredig, neu ar gyfer gweithred arwystl amnewidiol, mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer y rhoddwr benthyg ond nid ar gyfer atwrnai’r rhoddwr benthyg neu asiant arall.
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D
7. Cais gwirfoddol am gofrestriad cyntaf lle mae’r dogfennau teitl wedi eu colli neu eu dinistrio. - Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir

- Atwrnai’r ceisydd
- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Collwyd neu dinistriwyd y dogfennau teitl tra roeddynt ym meddiant y trawsgludwr a oedd yn anfon y cais.

- Collwyd y dogfennau teitl tra roeddynt ym meddiant prif roddwr benthyg sy’n gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod y dogfennau teitl yn cael eu cadw fel sicrwydd ar gyfer morgais y rhoddwr benthyg3.

- Mae’r trawsgludwr sy’n anfon y cais yn gweithredu ar ran awdurdod lleol, adran y llywodraeth neu gorff cenedlaethol adnabyddus sy’n gwneud cais am gofrestriad oherwydd collwyd dogfennau teitl yn ymwneud â’u tir neu i dir lle mae morgais ganddynt arno, tra roeddynt yn eu meddiant.
8. Cais i newid y gofrestr yn dilyn unigolyn yn newid ei enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd. - Yr unigolyn sydd wedi newid ei enw (yn ei enw newydd). - Lle bo’r cais wedi ei gyfuno ag unrhyw gais arall. Ond os yw’r cais yn un o fewn 1 i 7 uchod, mae’n bosibl y bydd tystiolaeth o newid enw yn ofynnol fel rhan o’r gofynion ar gyfer y ceisiadau hynny.

1 Mae’r tabl hwn yn ymdrin â sefyllfa lle mae trawsgludwr yn anfon y cais i Gofrestrfa Tir EF. Ceir eithriad i 5 ond mae’n gymwys pan fo’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn gwneud y cais yn ei enw ei hunan ar ffurflen AP1 i gwblhau trwy gofrestriad arwystl cofrestredig ac mae wedi cwblhau panel 7 ffurflen AP1).

2 Mae’r tabl hwn yn delio â sefyllfa lle mae trawsgludwr yn anfon cais i Gofrestrfa Tir EF. Ceir 2 eithriad i 6 ond maent yn gymwys lle:

  • mai’r rhoddwr benthyg yw’r:
    • ceisydd, yn gwneud y cais yn ei enw ei hunan ac mae wedi cwblhau panel 6 ffurflen DS2 neu banel 7 ffurflen AP1, fel sy’n gymwys
    • banc wedi ei ymgorffori, neu gymdeithas adeiladu a ffurfiwyd yn y Deyrnas Gyfunol
  • mai’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yw’r ceisydd ac yn gwneud y cais yn ei enw ei hunan:
    • ar ffurflen DS2 neu ar ffurflen AP1 i ryddhau arwystl cofrestredig ar ffurflen DS1, ac mae wedi cwblhau panel 6 ffurflen DS2 neu banel 7 ffurflen AP1, fel sy’n gymwys
    • ar ffurflen AP1 i gwblhau trwy gofrestriad arwystl cofrestredig ac mae wedi cwblhau panel 7 ffurflen AP1

3Mae hawl gan geisydd i gymryd bod rhoddwr benthyg yn ‘brif roddwr benthyg’ os yw’r rhoddwr benthyg yn aelod o Gyllid y DU neu Sefydliad y Cymdeithasau Adeiladu.

4Nid yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer cymerwyr benthyg neu warantwyr nad ydynt yn berchennog cofrestredig neu nad ydynt yn dod yn berchennog cofrestredig.

Sylwer: O ran unrhyw gais arall, gall y ceisydd mewn achos arbennig ofyn am dystiolaeth hunaniaeth, o dan reol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gallwn hefyd estyn y gofynion i fathau eraill o geisiadau ar fyr rybudd.

4.1 Eithriadau

Ym mhob achos isod, rhaid i geiswyr gwblhau panel 13(1) ffurflen AP1 ar gyfer y parti a eithrir o hyd. Mae’r eithriadau’n ymwneud â’r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen fel rheol pan nad yw parti’n cael ei gynrychioli gan drawsgludwr.

A. Yr eithriad gwerth-isel

Nid oes angen ffurflen ID mewn perthynas â pharti heb gynrychiolaeth lle mae gwir werth y tir sy’n destun y gwarediad, arwystl neu ryddhad yn £6,000 neu lai. Yn yr achosion hyn, rhaid i’r trawsgludwr gyflwyno tystysgrif gan rywun sy’n gymwys i roi prisiadau eiddo yn cadarnhau gwerth y tir; megis asiant gwerthu tai, syrfëwr, prisiwr tir ac eiddo neu ocsiwnïer sy’n meddu ar gymhwyster gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu rywun arall sydd â chymhwyster tebyg.

Gallwch ddarparu tystiolaeth hunaniaeth o hyd os yw’n well gennych ac mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw’r hawl i ofyn am dystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 mewn unrhyw achos penodol.

B. Yr eithriad swyddog ansolfedd, ac ati

Nid oes angen ffurflen ID1 ac ID3 mewn perthynas â rhywun sy’n gweithredu yn un o’r swyddogaethau canlynol:

  • fel ymddiriedolwr mewn methdaliad, datodwr, goruchwyliwr, gweinyddwr neu dderbynnydd gweinyddol a benodwyd o dan Ddeddf Ansolfedd 1986
  • fel derbynnydd o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925
  • fel dirprwy a benodwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
  • fel gwarcheidwad a benodwyd o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017

Sylwer bod yn rhaid cyflwyno tystiolaeth o’u penodiad o hyd gydag unrhyw gais.

C. Yr eithriad nad yw’n ymarferol

Gall sefyllfaoedd godi lle nad yw’n ymarferol i ddarparu ffurflen ID, megis lle y cyfnewidiwyd contractau gan y partïon cyn 10 Tachwedd 2008 (y diwrnod y cyflwynwyd y gofyniad i gadarnhau hunaniaeth) heb ddarparu’r ffurflenni hyn, neu lle bo tenant wedi ‘cerdded ymaith’ o’ brydles a gwneir cais nawr i gau’r teitl prydlesol ar ôl ildiad trwy weithredu’r gyfraith. Yn y sefyllfaoedd hyn ac eraill, dylai’r trawsgludwr sy’n anfon y cais amgáu llythyr eglurhaol gyda’r cais yn esbonio pam na ellir darparu ffurflen ID.

Efallai na fydd yn bosibl hefyd i ddarparu ffurflen ID1 neu ID3 ar gyfer unigolyn nad oes ganddo alluedd meddyliol. Fodd bynnag, lle y mae’r unigolyn hwnnw wedi gwneud naill ai atwrneiaeth arhosol (neu atwrneiaeth barhaus nad yw wedi ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus) ond mae’n ymddangos nad oes gan yr unigolyn alluedd meddyliol, byddai angen tystiolaeth fel llythyr neu adroddiad gan feddyg ar Gofrestrfa Tir EF yn nodi nad oes galluedd meddyliol gan y rhoddwr. (Lle gwnaed atwrneiaeth barhaus a gofrestrwyd gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ni fydd angen y dystiolaeth feddygol). Ym mhob achos, byddai tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer yr atwrnai yn ofynnol o hyd.

Yn yr un modd, pan fydd person ar goll, ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth o’i hunaniaeth lle mae gwarcheidwad a benodwyd yn unol â Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017 yn gwneud cais am ei eiddo.

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn ystyried ‘anghyfleustra’ yn rheswm digonol dros beidio â darparu ffurflen ID. Er enghraifft, nid yw’r ffaith bod person yn byw tramor yn rheswm derbyniol ynddo’i hun. Gweler Cadarnhau hunaniaeth person sy’n byw tramor i gael rhagor o wybodaeth lle bo unigolyn yn byw tramor.

Sylwer hefyd y bydd Cofrestrfa Tir EF yn disgwyl, lle y bo’n briodol, bod darpariaeth wedi ei wneud ar gyfer cadarnhau hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 lle y cyfnewidiwyd contractau cyn neu ar ôl 10 Tachwedd 2008.

D. Yr eithriad llythyr cyfleuster Cofrestrfa Tir EF

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyflwyno llythyrau cyfleuster mewn perthynas â hunaniaeth nifer gyfyngedig o bobl sy’n delio’n rheolaidd â Chofrestrfa Tir EF. Gellir amgáu copi o’r llythyr cyfleuster gydag unrhyw gais yn lle ffurflen ID mewn perthynas â pherson o’r fath.

Cyflwynir ‘llythyrau cyfleuster’ i unigolion preifat a chyrff corfforaethol sy’n delio’n rheolaidd â thrafodion tir gwerth isel (o dan £100,000), megis gwerthu rhent tir a thir cofrodd. Mae’r terfyn £100,000 yn ymwneud â gwerth y tir sy’n gysylltiedig â’r trafodiad.

Ar hyn o bryd, mae Cofrestrfa Tir EF yn derbyn ceisiadau am lythyrau cyfleuster a fydd yn ddilys am gyfnod o 12 mis. Os caiff llythyr cyfleuster ei adnewyddu ar ôl y 12 mis, bydd cyflwyno ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 pellach yn ofynnol.

E. Yr eithriad tystiolaeth hunaniaeth a gedwir (ar ôl cymeradwyaeth Cofrestrfa Tir EF o drosglwyddiad neu brydles o ran drafft)

Mae Cofrestrfa Tir EF yn darparu gwasanaeth cymeradwyo ffurflenni drafft trosglwyddiadau neu brydlesi o ran ar gyfer datblygiadau penodol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 3: ystadau sy’n datblygu: gwasanaethau cofrestru – cymeradwyo trosglwyddiadau a phrydlesi drafft. Nid oes rhaid cyflwyno tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 ar gyfer unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y trosglwyddai neu’r landlord gyda phob trosglwyddiad neu brydles unigol lle y cyflwynwyd y dystiolaeth gyda’r drafft, fel rhan o’r gwasanaeth hwn, i’w gymeradwyo ac wedi ei gadw gan Gofrestrfa Tir EF.

F. Arwystl cyfreithiol hyd at £10,000 i awdurdod lleol o ran benthyciad ffïoedd gwasanaeth

Nid yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer unrhyw barti, gan gynnwys y ceisydd, lle gwneir cais:

  • i gofrestru arwystl cyfreithiol i awdurdod lleol
  • mae gwerth yr arwystl a nodir ar y weithred arwystl neu’r ffurflen gais hyd at £10,000
  • mae’r arwystl o ran benthyciad ffïoedd gwasanaeth ac mae hyn wedi ei nodi’n glir yn y weithred arwystl neu ar y ffurflen gais

Efallai y bydd yn ofynnol i awdurdod lleol o dan y deddfau tai neu ddeddfwriaeth arall gynnal a chadw ac atgyweirio adeiladwaith, gan gynnwys y rheiny lle y mae tenant wedi caffael y brydles o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu. Mae rhwymau statudol ar yr awdurdod i sicrhau cost y gwaith hwn trwy arwystl.

5. Cadarnhau hunaniaeth

5.1 Sut i ddarparu cadarnhad o hunaniaeth

Lle mae eich cais yn un o fewn 1 i 6 yn y tabl Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 rhaid i chi ddefnyddio ffurflen AP1, ffurflen FR1 neu ffurflen DS2 fel y bo’n briodol ar gyfer eich math chi o gais a llenwi’r paneli perthnasol fel y nodir yn y ffurflenni ar gyfer pob person perthnasol (ar gyfer atwrneiod, gweler Atwrneiod).

Mae’r cyfarwyddyd canlynol yn berthnasol i ffurflen AP1 lle yr anfonir y cais gan drawsgludwr at Gofrestrfa Tir EF, ond mae’r un egwyddorion yn berthnasol i ffurflen FR1 a ffurflen DS2.

Panel 12

Cadarnhau eich bod yn drawsgludwr.

Panel 13

Yn rhan gyntaf y panel hwn, nodwch enwau’r holl unigolion y mae angen cadarnhad o hunaniaeth ar eu cyfer yn y golofn gyntaf. Peidiwch â defnyddio llythrennau cyntaf yr enwau. Nodwch bob parti mewn blwch unigol (er enghraifft trosglwyddwr, trosglwyddai, rhoddwr benthyg) – gweler Enghraifft 1 yn yr Atodiad. Lle bo atwrnai’n gweithredu, er mwyn eglurder, rhaid rhestru’r atwrnai a’r rhoddwr mewn blychau ar wahân ar ffurflen AP1 a ffurflen FR1 – gweler Enghraifft 2 yn yr Atodiad. Rhowch groes yn yr ail golofn yn erbyn enwau unrhyw unigolion rydych yn eu cynrychioli. Yn y drydedd golofn, nodwch fanylion y trawsgludwr/trawsgludwyr sy’n gweithredu ar gyfer unrhyw unigolion eraill neu os na chânt eu cynrychioli, nodwch ‘dim’.

Hefyd, bydd angen i chi lenwi ail ran y panel hwn os nodwyd ‘dim’ gennych er mwyn cadarnhau na chaiff y person hwnnw ei gynrychioli, oni bai bod un o’r eithriadau a nodir yn Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn berthnasol. Os felly, dylech gyfeirio at yr eithriad a darparu’r dystiolaeth berthnasol. Er enghraifft, os yw eithriad C (nid yw’n ymarferol darparu tystiolaeth hunaniaeth) yn berthnasol, dylech gyfeirio ato a darparu’r llythyr eglurhaol angenrheidiol.

Lle nad oes eithriad yn berthnasol, dylech nodi un o’r canlynol ar gyfer pob unigolyn na chaiff ei gynrychioli:

Os gallwch ddarparu cadarnhad o rai o’r unigolion na chaiff eu cynrychioli, ond nid pob un ohonynt, dylech nodi enwau’r unigolion rydych yn darparu cadarnhad ar eu cyfer.

Os nad oes digon o le yn y panel, defnyddiwch ffurflen CS neu gallwch gynnwys y wybodaeth mewn llythyr eglurhaol.

5.2 Rhyddhau ar ffurflen DS1 ar bapur neu ollwng ar ffurflen DS3

Mae’n ofynnol cadarnhau hunaniaeth mewn perthynas â’r rhoddwr benthyg ar gyfer rhyddhau ar bapur. Nid oes angen cadarnhad arnom lle yr anfonir y rhyddhad at Gofrestrfa Tir EF yn electronig, hynny yw trwy EDs neu e-DS1.

Mae trawsgludwyr wedi nodi nad ydynt yn gweithredu fel rheol ar gyfer rhoddwr benthyg sy’n rhyddhau, er enghraifft pan fyddant yn gweithredu ar ran trosglwyddai wrth werthu. Ond barn Cofrestrfa Tir EF yw gan eu bod yn adbrynu morgais y trosglwyddai, mewn cysylltiad â’r rhoddwr benthyg ac yn barod i drosglwyddo symiau arian yr adbryniad iddynt, rhaid eu bod yn fodlon eu bod yn delio â’r person cywir a dylent allu cadarnhau i Gofrestrfa Tir EF neu i drawsgludwr y prynwr eu bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth y rhoddwr benthyg. Os nad ydynt yn fodlon gwneud hyn, bydd angen ffurflen ID arnom mewn perthynas â’r rhoddwr benthyg hwnnw.

6. Sut i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17

6.1 Atwrneiod

Mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol fel rheol ar gyfer unrhyw atwrnai a nodir yn y tabl yn Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17, ac eithrio pan fo un o’r eithriadu y cyfeirir atynt yn y tabl yn berthnasol.

Fel rheol, dylech nodi enw’r atwrnai ym mhanel 13 ffurflen AP1 neu banel 15 ffurflen FR1. Os nad oes digon o le, defnyddiwch ffurflen CS neu gallwch gynnwys y wybodaeth mewn llythyr eglurhaol.

Lle bo atwrnai’n gweithredu, er mwyn eglurder, dylid rhestru’r atwrnai a’r rhoddwr mewn blychau ar wahân ar ffurflen AP1 a ffurflen FR1.

Os caiff yr atwrnai ei gynrychioli gennych, ticiwch y blwch perthnasol yn y panel. Os caiff yr atwrnai ei gynrychioli gan drawsgludwr arall, nodwch ei fanylion yn y panel neu ar ffurflen CS neu yn y llythyr eglurhaol.

Lle na chaiff yr atwrnai ei gynrychioli, dylech ddarparu tystiolaeth o’i hunaniaeth. Gall fod yn naill ai:

Awgrymir y geiriad canlynol ar gyfer y dystysgrif:

“Rwy’n cadarnhau fy mod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth ………….., atwrnai ……………..”.

Gellir cynnwys y dystysgrif mewn llythyr eglurhaol neu ffurflen CS neu, er enghraifft, gallech newid y dystysgrif yn ail ran panel 13 ffurflen AP1 neu ail ran panel 15 ffurflen FR1.

Er nad yw Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer newid y geiriad mewn ffurflenni penodedig, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwrthod neu’n cwestiynu unrhyw ran o ffurflen AP1 neu ffurflen FR1 a newidiwyd yn y modd hwn.

Sylwer bod rhoddwr pŵer a’i atwrnai yn unigolion ar wahân at ddibenion ein gofynion hunaniaeth a rhaid darparu cadarnhad o hunaniaeth mewn perthynas â’r rhoddwr a, fel rheol, tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 mewn perthynas â’r atwrnai, ac eithrio lle bo’r cyfarwyddyd hwn yn nodi nad oes ei angen.

Bydd angen tystiolaeth hunaniaeth (neu dystiolaeth gyfatebol lle bo rheol 17 yn berthnasol) ar gyfer y naill neu’r llall os na chânt eu cynrychioli. Pan fydd atwrneiaeth wedi ei gwneud a’i chyflawni gan atwrnai, bydd yn ofynnol ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 ar gyfer pob atwrnai yn y gadwyn.

6.1.1 Pam fod tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol gan Gofrestrfa Tir EF ar gyfer atwrneiod?

Lle bo atwrnai yn gweithredu, mae angen bodloni Cofrestrfa Tir EF fod ganddo bwerau digonol i beri’r hyn mae’n yn honni i’w wneud. Yn ogystal, mae angen ein bodloni bod y pŵer maent yn gweithredu oddi tano yn ddilys ac mai’r person y mae’n honni i fod yw’r atwrnai. Rydym yn credu bod hyn yn rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn atal twyll cofrestru.

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi gofyn am dystiolaeth o fodolaeth a chwmpas y pŵer erioed, a byddwn yn derbyn naill ai’r pŵer neu dystysgrif ar Ffurflen 1 i Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Yn ogystal â’r uchod, mae angen tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 arnom mewn perthynas â’r atwrnai. Nid Cofrestrfa Tir EF sy’n delio â’r gwaredwr neu ei atwrnai, y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran y ceisydd sy’n gwneud hynny, ac felly mae mewn gwell sefyllfa i fodloni’i hun ei fod yn delio â’r person cywir.

6.2 Ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf lle mae’r gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio

Mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 mewn perthynas â’r ceisydd ar gyfer cofrestriad yn ofynnol ar gyfer pob cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol lle mae’r dogfennau teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio, ac eithrio lle bo un o’r eithriadau y cyfeirir atynt neu a nodir yn 7 yn y tabl yn Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn berthnasol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed pan fo’r ceisydd yn cael ei gynrychioli a bod trawsgludwr yn cyflwyno’r cais am gofrestriad.

Gan na fydd gwarediad wedi peri’r cofrestriad cyntaf, gellir newid y geiriad ym mhanel 15 ffurflen FR1 i gyfeirio at y ceisydd yn hytrach na’r trosglwyddai, er enghraifft.

I gael rhagor o wybodaeth am geisiadau am gofrestriad cyntaf lle mae’r dogfennau wedi cael eu colli neu eu dinistrio, gweler cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf teitl os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio.

6.3 Newid enw

Mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol lle y gwneir cais i newid y gofrestr ar ôl newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd ac nid yw’r cais wedi ei gyfuno â cheisiadau eraill.

Rhaid cyflwyno cais i newid enw arunig lle y mae’r dystiolaeth ategol yn weithred newid enw, datganiad statudol neu’n ddatganiad o wirionedd gan ddefnyddio ffurflen AP1 a rhaid iddynt gynnwys naill ai tystysgrif sy’n cadarnhau eich bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth y person neu dystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1.

Awgrymir y geiriad canlynol ar gyfer y dystysgrif, sy’n gorfod nodi enw cyfredol yr unigolyn:

“Rwy’n cadarnhau fy mod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth ………….. ac mae hwy yw’r perchennog cofrestredig neu’r person a enwyd yng nghofnod [X] cofrestr teitl ……….”.

Efallai y rhoddir y dystysgrif mewn llythyr eglurhaol, neu, er enghraifft, trwy newid y dystysgrif yn ail ran panel 13 ffurflen AP1.

Er nad yw Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer newid geiriad ffurflenni penodedig, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwrthod nac yn holi unrhyw ffurflen AP1 a newidiwyd yn y modd hwn.

Fel y nodwyd, os na ellir rhoi tystysgrif o’r fath, dylech gyflwyno ffurflen ID1 yn yr enw newydd yn ogystal â chopïau o ddogfennau swyddogol i sefydlu cysylltiad â’r person a enwir yn y gofrestr. Gall hyn fod yn basbort, trwydded yrru neu fil cyfleustod sy’n dangos yr enw blaenorol (gweler Llenwi ffurflen ID1 a ffurflen ID2 i weld pa un).

7. Cais yn cael ei ailgyflwyno gan drawsgludwr gwahanol i’r un a gyflwynodd yn wreiddiol

Bydd achlysuron pan fydd cais sydd wedi ei dynnu’n ôl neu wedi ei ddileu’n cael ei ailgyflwyno i’w gofrestru gan drawsgludwr gwahanol i’r un a gyflwynodd yn wreiddiol. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, yn dilyn ymyriad yn ymarfer y trawsgludwr gwreiddiol, lle nad yw’r trawsgludwr gwreiddiol yn masnachu bellach neu lle y mae parti i drafodiad wedi newid ei drawsgludwr.

Lle bu ymyriad yn y cwmni, mae’n dderbyniol i’r asiant rhyngol ddangos ar y ffurflen gais (AP1, FR1 neu DS2) pwy weithredodd yn wreiddiol ar gyfer y parti – nid oes yn rhaid iddo ddangos pwy sy’n gweithredu ar ei gyfer ar hyn o bryd – a chynnwys y dystiolaeth a’r datganiadau o ran hunaniaeth a ddarparwyd gan y trawsgludwr gwreiddiol. Dylai’r asiant rhyngol nodi ar y ffurflen gais a yw’r trawsgludwr gwreiddiol wedi rhoi’r gorau i fasnachu.

Lle na fu ymyriad, dylai’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais bob amser lenwi ei ffurflen gais i ddangos pwy sy’n gweithredu ar gyfer partïon ar hyn o bryd, nid pwy fu’n gweithredu ar eu cyfer yn flaenorol. Nid yw’n briodol i’r trawsgludwr sy’n cyflwyno ddweud bod parti’n cael ei gynrychioli gan y trawsgludwr blaenorol; rhaid iddo ddatgan pwy sy’n gweithredu dros y blaid honno ar hyn o bryd. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn, fodd bynnag, ffurflen hunaniaeth (ffurflen ID1 neu ID2) wedi ei chadarnhau gan y cyn-drawsgludwr neu gan drawsgludwr arall ar yr amod nad yw dros 6 mis oed ar adeg adnewyddu’r cais. Byddwn hefyd yn derbyn cadarnhad o hunaniaeth lle y mae’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’n cwblhau panel 13(2) o ffurflen AP1 (neu gyfwerth ar ffurflen FR1 neu DS2) i’r perwyl bod camau digonol wedi eu cymryd i gadarnhau hunaniaeth plaid. Os yw’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’n gwybod, dylai nodi hefyd a yw’r trawsgludwr gwreiddiol wedi peidio â masnachu.

8. Llenwi ffurflen ID1 a ffurflen ID2

Gallwch gyflwyno naill ai’r ffurflen wreiddiol neu gopi ardystiedig o fersiwn diweddaraf ein ffurflen(ni) ID. Rhaid i gopïau o ffurflenni, sut bynnag y cânt eu cyflwyno, gynnwys dwy ochr y llun wedi ei lofnodi a’i ddyddio ar y cefn bob tro. Gall defnyddio hen fersiwn o’r ffurflen arwain at ymholiad yn cael ei anfon atoch.

8.1 Tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 a ffurflen ID2

Os na allwch gadarnhau bod trawsgludwr wedi gweithredu ar eu rhan, neu eich bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau eu hunaniaeth, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth pob unigolyn nad yw wedi ei gynrychioli fel yr eglurwyd yn Cadarnhad o hunaniaeth a Sut i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 Dylai’r dystiolaeth fod ar ffurflen ID1 (ar gyfer unigolion preifat) neu ffurflen ID2 (ar gyfer corff corfforaethol).

Rhaid dyddio 2 ran y ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 (a ffurflen 1D5 lle bo’n briodol) a gyflwynir i gefnogi cais a’u llofnodi dim mwy na 3 mis cyn cyflwyno’r cais. Ein harweiniad dros dro oedd derbyn ffurflenni ID1 ac ID2 a oedd yn ddyddiedig hyd at 6 mis cyn y cais. Byddwn yn parhau i dderbyn ffurflenni dyddiedig hyd at 6 mis ar gyfer ceisiadau a wneir tan 28 Chwefror 2023. Ar ôl y dyddiad hwn rhaid dyddio ffurflenni ID1 ac ID2 o fewn 3 mis i’r cais.

Pan fydd trawsgludwr yn cadarnhau hunaniaeth trwy fideo-alwad, rhaid iddo lenwi ffurflen ID5 yn lle adran B ffurflenni ID1 neu ID2. Rhaid cadw’r ffurflen ID5 gyda’r ffurflenni ID1 neu ID2 a’i chyflwyno gyda’r ffurflenni hynny.

Rhaid i’r llun a atodir i’r ffurflen fod o faint pasbort, ar bapur ffotograffig ac mewn lliw. Rhaid i’r trawsgludwr neu weithiwr proffesiynol sydd wedi cadarnhau’r hunaniaeth lofnodi a dyddio’r llun ar y cefn. Bydd angen i geisiadau a gyflwynir yn electronig gynnwys sgan o flaen a chefn y llun. Nid yw’n ofynnol gennym i’r ddelwedd fod o’r un safon sy’n ofynnol gan Swyddfa Pasbort EM er enghraifft. Rhaid bod modd gweld wyneb y person yn glir ac ni ddylai’r llun fod yn hŷn na 3 neu 6 mis, yn dibynnu a gafodd y cais ei gyflwyno cyn neu ar ôl 28 Chwefror 2023, fel uchod. Gellir gwrthod ffurflenni ID oni wneir hyn. Os gwnaed y cadarnhau trwy fideo-alwad a bod ffurflen ID5 yn cael ei llenwi, gweler Cadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein.

Nid yw ffurflenni ID1, ID2 ac ID5 wedi eu llenwi ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ac fel rheol, ni ellir gwneud cais am gopi swyddogol ohonynt (rheolau 133 a 135 o Reolau Cofrestru Tir 2003, yn ddarostyngedig i reol 140 – ceisiadau mewn perthynas ag achos llys, ansolfedd a rhwymedigaeth treth).

8.2 Trawsgludwr yn cadarnhau hunaniaeth

Rhaid i hunaniaeth rhywun y cyflwynir ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 ar ei gyfer gael ei chadarnhau gan unigolyn sy’n drawsgludwr, sy’n gorfod llenwi adran B o’r ffurflen. Gall hwn fod yn unrhyw drawsgludwr. Nid oes rhaid iddo fod y trawsgludwr sy’n gweithredu ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n berthnasol i’r trafodiad. Er enghraifft, os nad yw’r trosglwyddwr yn cael ei gynrychioli ac mae’n rhaid iddo ddarparu ffurflen ID1, nid yw’n ofynnol mai trawsgludwr y trosglwyddai sy’n cadarnhau hunaniaeth y trosglwyddwr. Gall y trosglwyddwr fynd at unrhyw drawsgludwr i’r perwyl hwnnw. Ni ddylai unigolyn sy’n gweithredu fel cyflogai trawsgludwr lenwi adran B ffurflen ID oni bai bod yr unigolyn hwnnw’n drawsgludwr yn ei rinwedd ei hun.

Pan fydd hunaniaeth unigolyn yn cael ei chadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein, gweler Cadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cysylltu â thrawsgludwyr a chadarnhawyr eraill i wneud yn siwr bod ffurflen a lenwir yn eu henwau yn ddilys. Mae’n bwysig felly eu bod yn cadw cofnod o unrhyw un y maent wedi cadarnhau eu hunaniaeth a gwneud ail gopi o’r ffotograff a ardystiwyd ganddynt. Os na all cadarnhäwr gadarnhau hyn, efallai bydd angen ffurflen ID newydd. Os gwnaed y cadarnhau trwy fideo-alwad, rhaid i’r un sy’n cadarnhau dynnu sgrinlun o’r person y cadarnhawyd ei hunaniaeth yn ystod yr alwad hefyd. Rhaid i’r sgrinlun gael ei gynnwys gyda’r ffurflen ID5 a ddylai gael ei chynnwys gyda’r ffurflen ID1 neu ID2. Dylai’r trawsgludwr gadw copi gyda’i gofnodion hefyd.

8.3 Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn cadarnhau hunaniaeth

Rydym wedi cytuno gyda CILEx a Rheoliad CILEx y gall pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gadarnhau hunaniaeth er na fydd pob un o bosibl yn drawsgludwr.

8.4 Ymarferyddion Profiant Trwyddedig a Reoleiddir gan CLC yn cadarnhau  hunaniaeth

Rydym wedi cytuno â Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC), y gall ymarferyddion profiant trwyddedig a reoleiddir gan CLC gadarnhau hunaniaeth er nad ydynt efallai’n drawsgludwyr neu’n gyfreithwyr.

8.5 Swyddog o luoedd arfog y DU sy’n gwasanaethu dramor yn cadarnhau hunaniaeth

Lle y mae aelod o luoedd arfog y DU yn gwasanaethu dramor, gall swyddog sy’n gwasanaethu gydag ef dramor ei chadarnhau. Yn y sefyllfa hon, rhaid i’r cadarnhäwr ddangos ei rif pasbort.

8.6 Cadarnhau hunaniaeth unigolion sy’n byw tramor

Lle bo unigolyn yn byw tramor ac nid yw’n bosibl i’w hunaniaeth gael ei chadarnhau gan drawsgludwr yn y DU, dylid llenwi adran B ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 yna ei llofnodi gan gyfreithiwr neu notari cyhoeddus sy’n gymwys i ymarfer yng ngwlad breswyl y person. Rhaid anfon tystiolaeth ysgrifenedig o awdurdod y cyfreithiwr neu’r notari i ymarfer yn ei awdurdodaeth gyda’r ffurflen.

Bydd angen ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 bob amser. Ni ellir defnyddio’r opsiwn yn ffurflen AP1, ffurflen FR1 a ffurflen DS2 y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth rhywun.

8.7 Cymorth pellach yn ofynnol

Os oes angen cymorth pellach arnoch oherwydd eich cyflwr neu amgylchiadau, cysylltwch â ni.

8.8 Cyrff corfforaethol

Gellir ‘dwyn’ hunaniaeth cyrff corfforaethol yn yr un modd â dwyn hunaniaeth unigolion preifat, felly mae’n gofynion o ran cadarnhau hunaniaeth yr un mor gymwys iddynt. Os ydych yn cadarnhau hunaniaeth rhywun at ddiben ffurflen ID2, dylech bob amser fynnu eu bod yn darparu tystiolaeth ddigonol:

  • mai’r un yw’r corff corfforaethol sy’n cael ei gynrychioli gan yr unigolyn â’r perchennog cofrestredig neu’r person sydd â hawl i’w gofrestru fel perchennog
  • bod y corff corfforaethol yn dal i fodoli
  • bod gan yr unigolyn sy’n eu cynrychioli’r awdurdod i weithredu

8.7.1 Ai’r un yw’r cyrff corfforaethol?

Wrth gadarnhau hunaniaeth corff corfforaethol, dylech fod yn ofalus i sicrhau mai’r un sefydliad a enwir yn y gofrestr yw’r parti i drafodiad mewn gwirionedd. Er enghraifft, oes gan y parti i’r trafodiad yr un rhif cofrestru cwmni, neu rif cofrestru arall priodol ar gyfer y math hwnnw o sefydliad â’r perchennog cofrestredig a enwir yn y gofrestr? Os yw’r enwau’n wahanol allech chi esbonio’r newid enw?

Yn achos cwmni, a fu unrhyw newid o ran cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu swyddogion y cwmni yn ddiweddar? Os oes newidiadau, oes modd eu hesbonio?

Oes unrhyw wybodaeth yn y chwiliad cwmni, fel dyddiad cofrestru’r cwmni, a allai awgrymu nad y perchennog cofrestredig yw’r parti i’r trafodiad?

8.7.2 Ydy’r corff corfforaethol yn dal i fodoli?

Oes unrhyw arwydd bod y corff corfforaethol wedi cael ei ddiddymu? Yn achos cwmnïau, rhaid gwneud chwiliad cwmni bob amser i sicrhau bod y cwmni yn dal i fodoli.

8.7.3 Beth yw perthynas yr unigolyn â’r corff corfforaethol?

Wrth gadarnhau hunaniaeth bydd yn rhaid i chi hefyd sefydlu swyddogaeth yr unigolyn yn y sefydliad neu eu perthynas â’r sefydliad. Ai cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni yw’r unigolyn neu oes ganddynt berthynas asiant gyda’r sefydliad, er enghraifft fel atwrnai? Pa dystiolaeth a gyflwynwyd i gadarnhau hyn?

Os nad yw’n gyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni ydy’r unigolyn wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth ddogfennol i gadarnhau ei awdurdod i weithredu?

Sylwch nad oes arnom angen cadarnhad o hunaniaeth ar gyfer ymddiriedolwyr mewn methdaliad, derbynyddion, datodwyr neu weinyddwyr, gan fydd rhaid cyflwyno tystiolaeth arall o’u hawdurdod i weithredu gyda cheisiadau lle maent yn gweithredu.

8.7.4 Corfforaethau tramor

Os oes unrhyw arwydd yn y gofrestr bod y perchennog yn gorfforaeth dramor, ydych chi’n fodlon mai’r un yw’r parti i’r trafodiad â’r sefydliad? Bydd chwiliad cwmni yn dangos a yw cwmni yn y DU wedi ei sefydlu gyda’r un enw.

Wrth ymwneud â chorff corfforaethol tramor heb gynrychiolaeth gyfreithiol, dylech ddisgwyl gweld, er enghraifft, llythyr gan gyfreithiwr wedi ei awdurdodi i ymarfer yn y wlad lle cafodd y corff ei gorffori, yn cadarnhau ei fod yn dal i fodoli a bod y cynrychiolydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar eu rhan.

9. Rhywun nad yw’n drawsgludwr yn cadarnhau

Gallwch gyflwyno naill ai’r gwreiddiol neu gopïau ardystiedig o ffurflen ID3. Rhaid i gopïau o ffurflenni, sut bynnag y cânt eu cyflwyno, bob amser gynnwys copïau o’r dudalen manylion personol o basbortau’r ddau berson.

Tynnwyd Ffurflen ID4 (ar gyfer cyrff corfforaethol) yn ôl ar 5 Chwefror 2024. Byddwn yn parhau i dderbyn ffurflen ID4 fel rhan o gyfnod trosiannol o dri mis er mwyn caniatáu i ffurflenni a gadarnhawyd cyn y dyddiad hwnnw gael eu cyflwyno.

Ni dderbynnir ffurflen ID4 ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar ôl 6 Mai 2024.

9.1 Tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID3

Os nad ydych yn gallu cadarnhau bod trawsgludwr wedi gweithredu ar ei ran na’ch bod yn fodlon bod camau digonol wedi eu cymryd i gadarnhau ei hunaniaeth, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer pob person heb gynrychiolaeth fel yr eglurir yn Cadarnhad o hunaniaeth a Sut i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17.

Yn unol â’r cyfarwyddyd a wnaed gan y Prif Gofrestrydd Tir o dan adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 at ddiben cadarnhau hunaniaeth person, rhaid llenwi’r ffurflenni canlynol bob amser pan fo’r hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan rywun sy’n gweithio yn un o’r proffesiynau awdurdodedig isod.

  • Meddyg
  • Deintydd
  • Cyfrifydd siartredig neu ardystiedig
  • Cynghorydd ariannol rheoledig
  • Aelod Seneddol
  • Aelod o’r Senedd

Cafodd rhai proffesiynau eu tynnu oddi ar ffurflen ID3 ar 5 Chwefror 2024. Byddwn yn parhau i dderbyn hen fersiynau o ffurflen ID3 am gyfnod trosiannol o dri mis er mwyn caniatáu i ffurflenni a gadarnhawyd cyn y dyddiad hwnnw gael eu cyflwyno.

Ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar ôl 6 Mai 2024, byddwn yn derbyn fersiwn newydd ffurflen ID3 a gadarnhawyd gan un o’r gweithwyr proffesiynol awdurdodedig uchod yn unig.

Rhaid i’r person sy’n cadarnhau’r hunaniaeth a’r person y mae ei hunaniaeth yn cael ei chadarnhau beidio â bod yn perthyn mewn unrhyw ffordd. Rhaid iddynt hefyd beidio â bod yn rhan o’r un trafodiad, er enghraifft, ni all person sy’n gwerthu neu’n cydsynio eiddo ac sydd hefyd yn un o’r personau awdurdodedig sy’n gallu cadarnhau hunaniaeth gadarnhau hunaniaeth y person sy’n caffael yr eiddo.

9.2 Rhywun nad yw’n drawsgludwr yn cadarnhau

Ni all y ffurflen ID3 fod yn hŷn na 3 mis pan gaiff ei chyflwyno gyda chais i gofrestru.

Rhaid bodloni pob un o’r amodau canlynol.

  • Rhaid i’r person y mae ei hunaniaeth i’w chadarnhau a’r cadarnhäwr feddu ar basbort llawn cyfredol dilys y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
  • Rhaid eu bod wedi adnabod ei gilydd ers o leiaf blwyddyn.
  • Rhaid iddynt beidio â bod yn perthyn i’w gilydd mewn unrhyw ffordd.
  • Rhaid iddynt beidio â bod yn rhan o’r un trafodiad.

Yn ogystal:

  • Rhaid i’r ddau ohonynt ddarparu copi o dudalen manylion personol eu pasbort i Gofrestrfa Tir EF. Sylwer, lle mae’r cadarnhäwr yn cadarnhau hunaniaeth mwy nag un person, rhaid iddo ddarparu nifer cyfatebol o gopïau o’u tudalen manylion personol i’r nifer o bobl y mae wedi cadarnhau eu hunaniaeth. Nid yw un copi i bawb yn dderbyniol.

10. Cadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein

Mae’n bosibl i drawsgludwyr gadarnhau hunaniaeth gan ddefnyddio fideo-alwad ar-lein.

Tynnwyd y gallu i bobl nad ydynt yn drawsgludwyr gadarnhau hunaniaeth trwy alwad fideo ar-lein yn ôl ar 5 Chwefror 2024. Byddwn yn parhau i dderbyn hen fersiynau ffurflen ID3 a chadarnhau hunaniaeth am gyfnod trosiannol o dri mis. Ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar ôl 6 Mai 2024, byddwn yn derbyn fersiwn newydd ffurflen ID3 a chadarnhau sydd wedi digwydd yn bersonol yn unig.

10.1 Y fideo-alwad

Nid ydym yn rhagnodi unrhyw wasanaeth, darparwr neu ddyfais benodol ond dylid cymryd gofal i ddefnyddio un sy’n ddiogel.

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar-lein ar sut i dynnu sgrinlun ar gyfer y ddyfais sy’n cael ei defnyddio.

10.2 Trawsgludwr yn cadarnhau fideo-alwad ar-lein

Lle bo trawsgludwr yn cadarnhau at ddiben llenwi ffurflen ID1 neu ID2, rhaid tynnu sgrinlun o’r person y mae ei hunaniaeth yn cael ei chadarnhau tra bod y fideo-alwad yn cael ei chynnal. Rhaid cyflwyno copi lliw printiedig o’r sgrinlun hwnnw ynghyd â’r ffurflen ID5 sydd i’w chynnwys gyda’r ffurflen ID1 neu ID2.

Dylai’r sgrinlun fod o’r person y mae ei hunaniaeth yn cael ei chadarnhau yn unig.

11. Ceisiadau lluosog

Os ydych yn bwriadu cyflwyno 2 gais neu fwy ar yr un pryd trwy’r un sianel electronig neu i’n cyfeiriad post, ac os yw unrhyw o’r partïon y mae angen i chi gyflwyno cadarnhad o hunaniaeth yn eu cylch yn gysylltiedig â’r holl geisiadau, dim ond un set o dystiolaeth hunaniaeth y mae’n rhaid i chi ei darparu ar gyfer y ceisiadau i gyd.

Ond os yw’r partïon yn y ceisiadau yn wahanol bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer pob parti ar wahân.

12. Polisi dileu a gwrthod Cofrestrfa Tir EF

Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwrthod ceisiadau lle y mae tystiolaeth neu gadarnhad o hunaniaeth ar goll yn llwyr nes y clywir yn wahanol. Fodd bynnag, rydym yn dal i ddisgwyl i gwsmeriaid gwblhau ceisiadau mor gywir ac mor llawn â phosibl. Byddwn yn anfon cais am wybodaeth (ymholiad) lle na ddarperir y dystiolaeth neu’r cadarnhad sy’n ofynnol yn y sefyllfaoedd a ddisgrifir ar ffurflen AP1, ffurflen FR1 neu ffurflen DS2.

Gellir dileu ceisiadau pan na ddarperir y dystiolaeth neu gadarnhad o hunaniaeth y gofynnwyd amdani.

13. Atodiad: enghreifftiau o ffurflen AP1 wedi ei llenwi

Mae’r enghraifft hon yn cymryd bod y cais yn cael ei gyflwyno gan drawsgludwr. Dangosir cofnodion enghreifftiol mewn italig.

13.1 Sut i gwblhau panel 4

Panel explained part 1
  1. Rhaid i’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais gofnodi’r holl drafodion a gyflwynwyd ym mhanel 4 (er enghraifft: rhyddhau, trosglwyddo, arwystl, cyfyngiad).

  2. Rhaid iddo gwblhau’r blwch hwn os yw’n talu trwy ddebyd uniongyrchol.

13.2 Sut i gwblhau panel 6

  1. Nid y ceisydd yw’r trawsgludwr sy’n cyflwyno cais – ei gleient yw.

  2. Os yw’r cwmni yn gwmni yn y DU (sy’n cynnwys Gogledd Iwerddon), rhowch rif cofrestru’r cwmni gan gynnwys unrhyw rhagddodiad.

  3. Cwblhewch gyda rhif adnabod yr endid tramor a ddyroddir gan Dŷ’r Cwmnïau gan gynnwys unrhyw ragddodiad, a phan fo’r endid tramor yn gwmni, unrhyw rif cofrestru yn y DU, gan gynnwys unrhyw ragddodiad.

13.3 Sut i gwblhau panel 10

Panel explained part 4
  1. Ni ddylid llenwi’r panel hwn fel rheol lle bo gan yr arwystl sy’n cael ei gofrestru gyfeirnod MD Cofrestrfa Tir EF (ar flaen y ddogfen). Yr eithriad yw pan fo’r arwystl yn fanc sydd â chyfeirnod MD ond nad yw’n defnyddio un cyfeiriad ar gyfer gohebu.

  2. Gweler y nodyn i banel 6.

  3. Dylai’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ddefnyddio ffurflen DI ar wahân, i ddatgelu unrhyw fuddion digofrestredig sy’n gor-redeg gwarediadau cofrestredig. Gallai’r rhain gynnwys hawddfraint gyfreithiol gyda gwybodaeth wirioneddol y person y gwneir y gwarediad iddo. Gweler Buddion gor-redol a’u dadlennu: Cyfarwyddyd ymarfer 15 am ragor o wybodaeth. Nid oes angen i drawsgludwyr gadarnhau mwyach nad oes unrhyw fuddion gor-redol dadlenadwy yn effeithio ar yr ystad.

13.4 Sut i gwblhau panel 12

Panel explained part 5
  1. Dylai’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais roi ‘X’ yn y blwch hwn.

Rwy’n drawsgludwr, ac rwyf wedi cwblhau panel 13.

13.5 Sut i gwblhau panel 13

Rhaid i’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais restru’r holl bartïon i’r trosglwyddiadau, prydlesi neu arwystlon yng ngholofn un y tabl ym mhanel 13. Lle nad yw parti yn cael ei gynrychioli gan drawsgludwr, dylid llenwi adran (2) Tystiolaeth hunaniaeth hefyd. Os nad yw’r paneli perthnasol yn cael eu llenwi, caiff y cais ei wrthod.

Enghraifft 1 – dim atwrnai/atwrneiod yn gweithredu

no attorney acting

Dylai trawsgludwyr gwblhau fel a ganlyn:

  1. Cwblhewch gydag enw(au) llawn y trosglwyddwr(wyr) gan gynnwys enwau canol (peidiwch â defnyddio blaenlythrennau). Os gweithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhau’r panel canol trwy roi ‘X’ yn y blwch.

  2. Cwblhewch gydag enw(au) llawn y trosglwydde(ion) gan gynnwys enwau canol (peidiwch â defnyddio blaenlythrennau). Os gweithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhau’r panel canol trwy roi ‘X’ yn y blwch.

  3. Cwblhewch gydag enw llawn y rhoddwr benthyg ar gyfer y trosglwyddeion. Os gweithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhau’r panel canol trwy roi ‘X’ yn y blwch. Gall ddefnyddio’r panel hwn ar gyfer unrhyw atwrnai ar gyfer unrhyw un o’r partïon hefyd.

  4. Cwblhewch gydag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwyr a weithredodd ar ran y trosglwyddwyr. Os gweithredodd y trosglwyddwyr drostynt eu hunain, cwblhewch gyda ‘Dim’.

  5. Os na weithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ran y trosglwyddeion, rhaid llenwi hwn gydag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr a wnaeth, neu os gweithredodd y trosglwyddeion drostynt eu hunain, ynghyd â ‘Dim’.

  6. Os na weithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ran rhoddwr benthyg y trosglwyddeion, rhaid llenwi hwn gydag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr a wnaeth.

Enghraifft 2 – atwrnai/atwrneiod yn gweithredu

example attorney acting

Dylai trawsgludwyr gwblhau fel a ganlyn:

  1. Cwblhewch gydag enw(au) llawn y trosglwyddwr(wyr). Os gweithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhau’r panel canol trwy roi ‘X’ yn y blwch.

  2. Cwblhewch gydag enw(au) llawn yr atwrnai/atwrneiod. Os gweithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhau’r panel canol trwy roi ‘X’ yn y blwch.

  3. Os nad yw’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais wedi nodi ‘X’ yn y blwch canol, rhaid llenwi hwn ag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran y trosglwyddwr neu’r landlord. Os na chafodd ei gynrychioli gan drawsgludwr, ysgrifennwch ‘Dim’.

  4. Os nad yw’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais wedi nodi ‘X’ yn y blwch canol, rhaid llenwi hwn ag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran yr atwrnai/atwrneiod. Os na chafodd ei gynrychioli gan drawsgludwr, ysgrifennwch ‘Dim’.

13.6 Sut i gwblhau panel 13: rhyddhau ar bapur

Nid oes rhaid i drawsgludwyr gwblhau’r adran ‘Enw’r rhoddwr benthyg’ oni bai ei fod yn cyflwyno rhyddhad ar bapur.

Sylwer: Mae’r tabl hwn ar wahân i’r adran ‘Manylion y trawsgludwr sy’n gweithredu’ oherwydd os mai rhyddhad yw’r unig gais sy’n cael ei gyflwyno, dim ond un parti sydd. Nid oes angen gwybodaeth am y cyn-forgeisiwr arnom.

Os yw’r trawsgludwr yn anfon cais i weithredu rhyddhau yn ffurflen DS1 neu ollwng yn ffurflen DS3, rhaid iddo roi manylion y trawsgludwr (os o gwbl) a oedd yn cynrychioli pob rhoddwr benthyg.

Os nad yw rhoddwr benthyg yn cael ei gynrychioli gan drawsgludwr rhaid i’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais lenwi (2) isod hefyd.

Panel explained part 8

Rhaid i drawsgludwyr gwblhau fel a ganlyn:

  1. Cwblhewch gydag enw’r cwmni morgais. Os gweithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhau’r panel canol drwy roi ‘X’ yn y blwch.

  2. Os na weithredodd y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ran y trosglwyddeion, rhaid llenwi hwn gydag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr a wnaeth, neu os gweithredodd y rhoddwyr benthyg eu hunain, ynghyd â ‘Dim’. Sylwer y gall rhai rhoddwyr benthyg cyflogi trawsgludwyr mewnol sy’n goruchwylio

13.7 Panel: tystiolaeth hunaniaeth

Dim ond os yw wedi nodi ‘Dim’ yn erbyn unrhyw un o enwau’r partïon yn nhrydedd golofn y tablau uchod mae angen i’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais lenwi’r panel canlynol.

Panel explained part 9
  1. Rhaid i’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais roi ‘X’ yn y blwch hwn a nodi enwau pob person heb gynrychiolaeth y gall roi’r cadarnhad hwn ar ei gyfer. I’r rhai na all trawsgludwr wneud hyn, rhaid iddo gadarnhau’r blwch nesaf.

  2. Gellir addasu geiriad y dystysgrif os caiff ei roi ar gyfer atwrnai neu mewn sefyllfa newid enw – gweler adran 6 ‘Sut i ddarparu tystiolaeth rheol 17’.

  3. Rhaid i’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais roi ‘X’ yn y blwch hwn, os oes yn rhaid iddo gyflwyno tystiolaeth hunaniaeth unrhyw barti.

Panel explained part 10

Dylai hwn gael ei lofnodi gan y trawsgludwr a enwir ym mhanel 6. Gall fod yn enw’r cwmni.

Rhybudd

Os ydych yn rhoi gwybodaeth yn mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol, gallwch fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll. Yn ogystal, os nad ydych yn llenwi’r ffurflen hon â gofal priodol, gall diogelwch o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gael ei golli.

14. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.