Canllawiau

Ystadau sy’n datblygu: gwasanaethau cofrestru – cymeradwyo trosglwyddiadau a phrydlesi drafft (cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 3)

Diweddarwyd 9 May 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Lluniwyd y gwasanaeth di-dâl hwn i ganfod a datrys yr anawsterau all godi wrth baratoi trosglwyddiadau a phrydlesi lleiniau. Yn aml, bydd yr anawsterau hyn yn ymwneud â phrofi teitl i ganiatáu hawddfreintiau neu’n gyffredinol ag elfen drawsgludo’r ystad. Mae’r gwasanaeth yn cynnig y manteision canlynol:

  • bydd trosglwyddiadau a phrydlesi cymeradwy yn darparu ffurf safonol i’w defnyddio drwy’r datblygiad cyfan
  • bydd ceisiadau ar sail gweithredoedd cymeradwy yn peri llai o ymholiadau neu broblemau eraill ac yn sicrhau agwedd gyson at gofrestru

2. Sut i wneud cais

Rydym wedi dylunio’r gwasanaeth hwn i weithio ar y cyd â gwasanaethau cymeradwyo terfyn yr ystad a chymeradwyo cynllun yr ystad. Anfonwch gopi o’r brydles neu drosglwyddiad drafft atom trwy’r ffurflen ar GOV.UK neu, os ydych yn defnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF, trwy’r ardal Gwasanaeth Cymorth Arbenigol newydd ym mhorthol Cofrestrfa Tir EF cyn eu rhoi i brynwyr. Unwaith y datryswyd unrhyw broblemau byddwn yn cymeradwyo’r drafft i’w ddefnyddio fel sail holl werthiannau ar y datblygiad yn y dyfodol.

Gallwn wrthod cais i gymeradwyo trosglwyddiad neu brydles drafft os ydym yn credu y gallai rhoi’r gymeradwyaeth gamarwain aelodau’r cyhoedd i gredu bod datblygiad pellach yn debygol, megis pan geisir cymeradwyaeth am gynllun y tybir ei fod yn gynllun buddsoddi mewn bancio tir (lle y mae tirfeddiannwr yn rhannu ei dir i nifer o leiniau bychain i’w gwerthu a lle honnir bod gan y lleiniau werth sylweddol o ran buddsoddiad, fel arfer wrth ddisgwyl datblygiad yn y dyfodol).

3. Ffurf y trosglwyddiad

Rhaid i drosglwyddiad o ran o’r tir mewn teitl cofrestredig fod ar ffurflen TP1, os nad yr arwystlai cofrestredig sy’n trosglwyddo o dan ei bŵer gwerthu, pryd y bydd raid iddo fod ar ffurflen TP2. Fel arfer, bydd ffurflenni trosglwyddo yn cael eu paratoi mewn dull electronig. Os ydych wedi creu’r ffurflen ar eich cyfundrefn gyfrifiadurol eich hun yn hytrach na defnyddio pecyn ffurflenni masnachol bydd angen i chi ei chyflwyno i’r Uned Ffurflenni ym Mhencadlys Cofrestrfa Tir EF i gymeradwyo’r ffurflen wag cyn i chi gyflwyno’r drafft i’w gymeradwyo. Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn gofyn bod y ffurflenni trosglwyddo yn cael eu hargraffu ar bapur gwydn maint A4, a’u hatgynhyrchu fel yr argraffwyd o ran geiriad, cynllun, ffont a maint pwynt. Ond, wrth baratoi’r ffurflenni mewn dull electronig gallwch:

  • newid dyfnder y paneli
  • rhannu panel ar doriad tudalen
  • gadael allan y cyfarwyddiadau mewn llythrennau italaidd, tystysgrifau a datganiadau amherthnasol a’r blychau ‘X’ cyfatebol, paneli fyddai’n cynnwys dim ond rhif y panel a phennawd os oes un (ond peidiwch ag ail-rifo paneli dilynol), ac is-benawdau yn y panel darpariaethau ychwanegol
  • newid unigol yn lluosog ac i’r gwrthwyneb
  • ychwanegu at, newid ac ail-leoli is-benawdau yn y panel darpariaethau ychwanegol
  • newid ‘Trosglwyddwr’ yn ‘Gwerthwr’ a ‘Trosglwyddai’ yn ‘Prynwr’ mewn trosglwyddiad trwy werthu. (Cofiwch ddefnyddio ‘Gwerthwr’ a ‘Prynwr’ drwy’r cyfan, hynny yw, ym mhenawdau’r paneli, yn nhestun y ffurflen ei hun (gan gynnwys y panel trosglwyddo) ac yn eich testun eich hun)

4. Ffurf y brydles

Dylech gyflwyno prydlesi drafft yn ogystal â throsglwyddiadau i’w cymeradwyo am y rhesymau a eglurwyd yn Cyflwyniad.

Rhaid i bob prydles o ystad gofrestredig mewn tir a roddir ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 (heblaw am rai eithriadau) fod mewn ffurf prydles cymalau penodedig a chynnwys y cymalau penodedig a nodir yn Atodlen 1A Rheolau Cofrestru Tir 2003. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig am ragor o wybodaeth.

5. Paratoi trosglwyddiad drafft

5.1 Rhifau teitl

Ym mhanel 1 ffurflen TP1 neu ffurflen TP2, rhaid i chi roi rhifau teitl yr holl deitlau cofrestredig y mae’r datblygwr yn dal y rhan o’r ystad sydd o fewn y drafft cymeradwy danynt. Ym mhanel 2 rhowch rifau teitl unrhyw deitlau eraill y mae materion sydd yn y trosglwyddiadau (fel hawddfreintiau neu gyfamodau) i gael eu cofrestru ar eu cyfer. Os oes cyfamodau datblygwr i fod, rhaid i’r teitlau hyn fod ym mherchenogaeth y datblygwr. Lle byddwch yn rhoi hawddfraint mewn rhai achosion ac nid mewn eraill, dylech amgáu unrhyw deitl yr effeithir arno yn unig gan yr hawddfraint mewn cromfachau sgwâr.

Rhaid i chi roi holl rifau teitl yr holl deitlau cofrestredig y mae’r datblygwr yn dal yr ystad danynt. Os yw’r hawddfreintiau a roddwyd gan y trosglwyddiadau neu brydlesi, neu unrhyw un ohonynt, yn effeithio ar dir arall sy’n eiddo’r datblygwr, rhaid i chi roi rhifau teitl y tir hwnnw. Os yw unrhyw hawddfreintiau a roddwyd dros dir sy’n ddigofrestredig, neu’n gofrestredig gyda dim ond teitl meddiannol, yna dylech ddiddwytho teitl. Os yw hawddfreintiau a roddwyd dros dir sydd heb fod ym mherchenogaeth y datblygwr rhaid i chi brofi teitl i roi’r hawddfreintiau.

5.2 Eiddo a drosglwyddwyd

Pryd bynnag y bydd angen hynny, amgaewch gopïau o’r cynlluniau i’w defnyddio yn y trosglwyddiadau neu brydlesi gyda’r brydles neu drosglwyddiad drafft i’w cymeradwyo. Bydd hyn yn rhoi darlun eglur o’ch bwriad i ni. Fodd bynnag, pan fo cynllun ystad cymeradwy, nid oes angen cynlluniau unigol ond i eglurhau materion (fel hawddfreintiau) sydd heb fod yn y cynllun ystad cymeradwy.

Yn y panel eiddo a drosglwyddwyd rhowch ddisgrifiad bras o’r eiddo. Gallwch roi rhifau’r lleiniau yma neu mewn llythyr eglurhaol. Dylech gynnwys unrhyw fodurdy neu fan parcio sy’n rhan o’r eiddo. Peidiwch â chynnwys hawddfreintiau a roddwyd ac a neilltuwyd; dylech roi’r rhain yn y panel darpariaethau ychwanegol. Dylai’r cynlluniau i’w hatodi i’r trosglwyddiadau a phrydlesi drafft fod yn gopïau o gynllun cymeradwy diweddaraf yr ystad (neu ddetholiadau ohono) yn dangos y wir raddfa, y gogledd ac unrhyw liwiau y cyfeiriwyd atynt yn y weithred. Lle bo terfynau yn gymhleth neu fanwl, er enghraifft, lle byddant yn mynd drwy adeilad gall fod angen cynllun ar raddfa fwy neu gynllun mewnosod, gweler Ystadau sy’n datblygu: gwasanaethau cofrestru: gofynion cynlluniau manwl a manylebau arolwg – cyfarwyddyd i arolygwyr tir (cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 5).

Dylid manylu ‘eithriadau corfforol’, sef tir o fewn yr ymyl goch ar y cynllun trosglwyddo sydd wedi ei eithrio o’r trosglwyddiad, yn y panel eiddo a drosglwyddwyd. Dylech ddrafftio’r rhain yn ofalus, i ddynodi lleoliad ac union faint yr eithriad yn eglur. Fel arfer, mae angen cyfeirnod cynllun. Gallwch bennu eithriadau’n gadarnhaol neu’n negyddol, mrgis ‘ac eithrio llawr cyntaf y tir a liwiwyd yn las ar y cynllun’ neu ‘gan gynnwys dim ond llawr isaf y tir a liwiwyd yn las ar y cynllun’. Bydd y cyntaf yn trosglwyddo’r isbridd a’r awyrle uwchlaw tra na fydd yr olaf.

Yn achos tramwyfa o dan do, efallai y bydd modd osgoi eithriad corfforol trwy drosglwyddo rhannau o’r dramwyfa gyda’r ystafelloedd uwch ei phen.

5.3 Panel trosglwyddai a phanel cyfeiriad ar gyfer gwasanaeth

Gadewch y rhain yn wag ar adeg drafft i’w gymeradwyo.

5.4 Panel trosglwyddo

Gan dybio mai cwmni yw’r datblygwr ac y bydd y prynwyr yn gydberchnogion yn y rhan fwyaf o achosion, gall y panel trosglwyddo fod ar un o’r ffurfiau canlynol:

‘Mae’r Trosglwyddwr yn trosglwyddo’r Eiddo i’r Trosglwyddeion’.

‘Mae’r Gwerthwr yn trosglwyddo’r Eiddo i’r Prynwyr’.

Gallai ‘Trosglwyddeion’ neu ‘Prynwyr’ lawn cystal fod yn unigol.

Pa un bynnag a ddewiswch, gall fod yn haws cadw ato wrth baratoi trosglwyddiadau, waeth be fo nifer y prynwyr.

5.5 Cydnabyddiaeth

Os yw’r pris i’w dalu yn gyfan gwbl mewn arian, dewiswch y dewis cyntaf. Yn ôl pob tebyg byddwch eisiau gadael y lleill allan gan ddefnyddio’r rhyddid ddaw o baratoi ffurflenni mewn dull electronig. Os bydd y datblygwr yn cymryd eiddo blaenorol prynwyr fel rhan o’r taliad, gallwch gadw dau ddewis ar adeg drafft i’w gymeradwyo, gan roi’r canlynol fel yr ail:

‘I dalu’r pris prynu o … mae’r Trosglwyddwr wedi derbyn trosglwyddo (disgrifiad cryno o’r eiddo a gymrwyd) a (gweddill y pris) oddi wrth y Trosglwyddai am yr Eiddo’.

5.6 Datganiad o ymddiried

Gadewch hwn yn wag ar adeg drafft i’w gymeradwyo.

5.7 Darpariaethau ychwanegol

Mae’r panel hwn ar gyfer rhoi a neilltuo hawddfreintiau, rhent-daliadau ystad, cyfamodau cyfyngu, cyfamodau personol, cytundebau a datganiadau ac unrhyw ddarpariaethau eraill a gytunwyd, ac ar gyfer unrhyw ddatganiadau gofynnol neu ganiataol, ceisiadau, ac ati. Dylech eu trefnu o dan is-benawdau priodol. Yr is-benawdau yn y ffurflenni penodedig yw:

  • Diffiniadau
  • Hawliau a roddwyd er lles yr Eiddo
  • Hawliau a neilltuwyd er lles tir arall
  • Cyfamodau cyfyngu gan y Trosglwyddai
  • Cyfamodau cyfyngu gan y Trosglwyddwr

Gallwch ychwanegu at, newid, ail-leoli neu ddileu’r is-benawdau hynny fel y dymunwch. Er enghraifft, byddai modd rhannu’r is-bennawd ‘Hawliau a neilltuwyd er lles tir arall’ yn ‘Hawliau a neilltuwyd er lles yr eiddo cyffiniol’ a ‘Hawliau a neilltuwyd er lles gweddill yr Ystad’.

5.8 Diffiniadau

Dylech roi diffiniadau yn y panel darpariaethau ychwanegol lle mae eu hangen i roi sicrwydd i ystyr y trosglwyddiad. Dylid diffinio termau fel ‘y datblygiad’, ‘y cyfnod bythol-barhad’, ‘yr ystad’, ‘ffyrdd yr ystad’ a ‘chynlluniau’r ystad’ yn ofalus. Fodd bynnag, peidiwch ag ailddiffinio ‘yr Eiddo’, ‘y Trosglwyddwr’ na ‘y Trosglwyddai’, gan y gallai hyn effeithio ar ystyr y panel trosglwyddo.

5.9 Hawddfreintiau

Dylai’r trosglwyddiad drafft a gyflwynir i’w gymeradwyo nodi o dan is-benawdau priodol yn y panel darpariaethau ychwanegol yr holl hawddfreintiau a roddwyd ac a neilltuwyd yn y trosglwyddiadau, er na fydd eu hangen ym mhob achos efallai. Os na allwch roi disgrifiad digonol o hyd a lled y tir sydd naill ai’n manteisio neu’n dod o dan yr hawddfreintiau, dylech ei ddiffinio’n eglur trwy gyfeirnod ar gynllun.

Dylid amgáu hawddfreintiau sydd i’w cynnwys mewn rhai achosion ac nid mewn eraill mewn cromfachau sgwâr yn y drafft, a dylid rhoi nodyn gyda rhifau’r lleiniau fydd, neu fel arall na fydd, yn gweld mantais, neu’n teimlo effaith, yr hawddfraint. Wrth baratoi trosglwyddiadau neu brydlesi unedau unigol ar sail y drafft cymeradwy, dylech adael allan hawddfreintiau nad ydynt yn perthyn i nac yn effeithio ar yr uned honno.

Wrth gymeradwyo’r brydles neu drosglwyddiad drafft bydd Cofrestrfa Tir EF yn cadarnhau, ond bod teitl y datblygwr i’w rhoi wedi cael ei ddangos yn briodol, y bydd yr hawddfreintiau a roddwyd yn cael eu cofrestru fel yn perthyn i deitlau prynwyr.

Nid oes angen i chi gynnwys geiriau rhoi neu neilltuo os byddwch yn rhestru’r hawliau o dan yr isbenawdau priodol.

5.10 Rhent-daliadau

Gwaharddodd Deddf Rhent-daliadau 1977 greu’r rhan fwyaf o rent-daliadau ond mae’n dal i fod modd creu rhent-daliadau ystad.

Un o brif ddibenion rhent-daliadau ystad yw talu am i berchennog y rhent gyflawni cyfamodau at ddarparu gwasanaethau, gwaith cynnal a chadw neu drwsio, yswiriant neu daliadau eraill er lles y tir â’r rhent-dâl arno. Bydd y rhent-daliadau a’r cyfamodau hyn yn ffurfio rhan o gynllun i reoli’r ystad. Efallai y dowch o hyd i drosglwyddiadau blaenorol yn neilltuo rhent-daliadau o’r fath.

Lle bo rhent-daliadau ystad i’w neilltuo, dylid cynnwys y geiriad priodol o dan is-bennawd addas yn y panel darpariaethau ychwanegol. I fod yn effeithiol yn y gyfraith rhaid cofnodi’r rhent-dâl yng nghofrestr y teitl o dan sylw. Fodd bynnag ni fyddwn yn cofrestru’r rhent-daliadau yn safonol os na fydd cais penodol i’w gofrestru a’r taliad penodedig yn cael ei wneud.

5.11 Cyfamodau cyfyngu

Dylech gynnwys geiriau o gyfamod, fydd yn atodi budd y cyfamodau i’r tir y bwriadwyd iddynt ei fanteisio. Byddwn yn nodi baich cyfamodau cyfyngu yn y gofrestr, ond nid oes unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Cofrestru Tir 2002 na Rheolau Cofrestru Tir 2003 i gofnodi budd y cyfamodau.

5.12 Cyfamodau personol

Fel arfer, byddwn yn nodi yn y gofrestr berchnogaeth unrhyw gyfamodau cadarnhaol a rhyddarbed a roddwyd gan y perchennog sy’n ymwneud â’r ystad gofrestredig neu faterion sy’n effeithio arni.

5.13 Cyfyngiadau

Mae modd gwneud cais am ffurf safonol o gyfyngiad ym mhanel darpariaethau ychwanegol ffurflen TP1 neu ffurflen TP2 neu ar ffurflen RX1. Rhaid gwneud cais am gyfyngiad ansafonol ar ffurflen RX1. Nid oes modd gwneud cais am y naill fath o gyfyngiad na’r llall mewn prydles; rhaid i chi wneud cais ar ffurflen RX1.

Mae ffurfiau cyfyngiad safonol yn cael eu dangos yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae’r rhain yn adlewyrchu sefyllfaoedd cyffredin a ffurfiau cyfyngiad sy’n cael eu ceisio’n fynych. Lle nad oes unrhyw ffurf safonol ar gyfyngiad i ateb eich gofynion gallwch wneud cais am gyfyngiad ar ffurf wahanol ond bydd angen iddi ateb gofynion cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a diogelu buddion trydydd parti. Os byddwch yn cyflwyno drafft o ffurflen RX1 ynghyd â’r brydles neu drosglwyddiad drafft byddwn yn dweud wrthych os yw’n dderbyniol at ddibenion cofrestru ar yr un pryd â’r weithred.

5.14 Datganiadau

Mae modd defnyddio datganiadau, er enghraifft, i eithrio goblygiad hawddfreintiau neu gaffael hawddfreintiau arbennig trwy bresgripsiwn. Byddwn yn derbyn datganiadau ar derfynau, ond ni ddylech eu defnyddio ar gyfer eithriadau corfforol, nac i greu na neilltuo hawliau cyfreithiol.

5.15 Cyfnewidiadau

Lle bo’r trosglwyddiad yn gyfan gwbl neu’n rhannol mewn cydnabyddiaeth am drosglwyddo ystad, arall rhaid cynnwys y ddarpariaeth ganlynol yn y panel darpariaethau ychwanegol:

‘Mae’r trosglwyddiad hwn mewn cydnabyddiaeth am drosglwyddiad (neu drawsgludiad, neu fel y bo’n briodol) o (disgrifiad cryno o’r eiddo a gyfnewidiwyd) dyddiedig heddiw, [os yw’n berthnasol ac o’r swm a nodwyd uchod a dalwyd er cydraddoldeb cyfnewid].’

5.16 Cyflawni

Dylai’r trosglwyddiad ddangos manylion bwriad y datblygwr i gyflawni. Dylai ddilyn un o’r ffurfiau cyflawni yn Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Os mai’r bwriad yw i atwrnai’r datblygwr gyflawni’r trosglwyddiadau, gellir cyflwyno copi ardystiedig o’r atwrneiaeth pan gyflwynir y weithred ddrafft am gymeradwyaeth. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cadw copi o’r atwrneiaeth ar ffeil ac ni fydd yn rhaid cyflwyno copi ardystiedig gyda phob cais i gofrestru’r trosglwyddiadau unigol.

5.17 Tystiolaeth hunaniaeth

Bydd gofynion cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth yn gymwys pan gyflwynir y trosglwyddiad ar gyfer cofrestriad. Fodd bynnag, os yw’r trosglwyddiadau i gael eu cyflawni gan atwrnai yn gweithredu ar ran y datblygwr, bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn ac yn cadw ar ffeil tystiolaeth hunaniaeth briodol ar gyfer yr atwrnai, wedi ei ddarparu gan drawsgludwr y datblygwr ar yr un pryd y caiff y trosglwyddiad drafft ei gymeradwyo. Bydd hyn yn dileu’r angen i drawsgludwr y prynwr ddarparu tystiolaeth hunaniaeth yr atwrnai pan fyddant yn cyflwyno’r trosglwyddiadau ar gyfer cofrestriad (er y bydd y gofynion a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 67 o ran hunaniaeth y trosglwyddwr yn parhau’n gymwys).

Y dystiolaeth angenrheidiol fydd naill ai ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 wedi eu llenwi (fel sy’n briodol) ar gyfer pob atwrnai, neu lythyr lle mae’r trawsgludwr yn cadarnhau ei fod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i ddilysu hunaniaeth […] atwrnai […]. Sylwer bod yn rhaid cwblhau panel 13 ffurflen AP1 hyd yn oed os oes gan Gofrestrfa Tir EF gopi o’r dystiolaeth hunaniaeth ar gyfer yr atwrnai.

5.18 Hawliau’n ymwneud â chyfarpar gwasanaethau cyhoeddus

Bydd rhai datblygwyr yn arfer rhoi hawliau defnyddiwr gwasanaethau cyflenwi fel telathrebu, nwy, trydan a dŵr i’w prynwyr. Gan y bydd y gwasanaethau cyhoeddus a chwmnïau telathrebu sy’n darparu’r gwasanaethau hyn yn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i’w cwsmeriaid heb ystyried unrhyw hawliau all fod gan y cwsmeriaid fel perchenogion y tir, ni fyddai’n ymddangos fod angen gwneud hyn mewn gwirionedd.

Yn yr un modd wrth werthu tai bydd datblygwyr yn aml yn neilltuo hawliau i osod a chynnal gwasanaethau er lles gwasanaethau cyhoeddus ond byddai’n ymddangos fod hyn yn ddiangen yn gyffredinol oherwydd bod gan yr ymgymerwyr bron bob amser hawliau statudol y gallant eu defnyddio.

Dylai hepgor hawliau o’r fath symleiddio paratoi trosglwyddiadau neu brydlesi drafft. Wrth gwrs, nid yw’r sylwadau hyn yn berthnasol i hawliau draenio, lle mae ystyriaethau gwahanol.

5.19 Eithrio mwynfeydd a mwynau

Lle ceir nodyn mewn teitl cofrestredig sy’n cynnwys mwynfeydd a mwynau’n benodol neu sy’n dawel o ran cynnwys neu eithrio mwynfeydd a mwynau, bydd unrhyw drosglwyddiad o’r teitl hwnnw sy’n eithrio’r mwynfeydd a mwynau yn peri i’r mwynfeydd a mwynau gael eu tynnu o’r tir arwyneb.

O dan yr amgylchiadau hyn, mae o fudd i’r ddwy ochr i gofrestru’r mwynfeydd a mwynau a gedwir gan y trosglwyddwr o dan rif teitl newydd cyn derbyn ceisiadau i dynnu’r tir arwyneb ymaith.

Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, dylid cyflwyno ffurflen AP1 ynghyd â chydsyniad arwystleion unrhyw arwystl cofrestredig.

6. Paratoi prydles ddrafft

6.1 Prydlesi cymalau penodedig

Mae Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005 yn cyflwyno rhai newidiadau pwysig sy’n effeithio ar brydlesi sy’n:

  • warediadau o ystad gofrestredig
  • sy’n rhaid eu cwblhau trwy gofrestru

Rhaid i unrhyw brydles o’r fath a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin fod ar ffurf prydles cymalau penodedig, oni bai ei bod yn brydles eithriedig. (Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig – Eithriadau i’r gofyniad cyffredinol). Mae’r rheolau newydd yn cyflwyno cyfres o gymalau penodedig sy’n gorfod ymddangos ar ddechrau (neu’n union ar ôl dalen flaen) unrhyw brydles o’r fath. Mae’r cymalau hyn yn cynnwys gwybodaeth angenrheidiol i gwblhau cofrestru’r brydles.

Mae gwybodaeth fanwl berthnasol i ddefnyddio cymalau penodedig i’w chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

Er Hydref 2005, rydym wedl argymell cyflwyno prydlesi drafft i’w cymeradwyo i gynnwys y cymalau penodedig. Dylid cwblhau’r rhain yn unol â chyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

Ni fyddwch yn gallu cwblhau’r adrannau perthnasol i ddyddiad y brydles (cymal LR1), enw’r tenant (rhan o gymal LR3) na’r datganiad ymddiried (cymal LR14). Dylid gadael y rhain yn wag.

Yn ogystal â’r cymalau penodedig dylech hefyd ystyried y cyngor cyffredinol y cyfeiriwyd ato yn Diffiniadau, Cyflawni a Hawliau’n ymwneud â chyfarpar ymgymerwyr statudol gan fod yr egwyddorion cyffredinol yn berthnasol i brydlesi drafft hefyd.

6.2 Cyfyngiadau’n ymwneud â chyfamodau wedi eu cynnwys mewn prydles

Gall prydles cymalau penodedig gynnwys cais i gofrestru ffurf safonol o gyfyngiad yng nghymal LR13. I gael gwybodaeth am ddrafftio cyfyngiad yn ymwneud â chyfamodau wedi eu cynnwys mewn prydles, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol.

7. Ceisiadau am gopïau swyddogol

Pan fydd angen copïau swyddogol o’r gofrestr neu dystysgrifau archwiliad o’r cynllun teitl ar ddatblygwyr, dylid gwneud cais am y rhain mewn sypiau, wrth i’r datblygiad fynd rhagddo, ac nid fel un archeb swmp ar y dechrau. Fel hyn, bydd y sypiau diweddarach yn cynnwys cofnodion a wnaed yn y gofrestr a chyfeiriad ychwanegol a wnaed ar y cynllun teitl trwy gofrestru gwerthiannau cynharach. Bydd copïau swyddogol neu dystysgrifau ar ffurflen CI sydd ar ôl yr oes yn aml yn peri trafferth a dryswch i brynwyr ac i Gofrestrfa Tir EF.

8. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.