Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol

Diweddarwyd 25 October 2021

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ar agweddau cofrestru tir ar drafodion ystadau gan ddatodwyr cwmnïau cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau. Mae’n disgrifio’r dystiolaeth fydd ei hangen ar Gofrestrfa Tir EF pan fydd cwmni, sy’n berchennog ystad gofrestredig, mewn datodiad. Mae’n egluro sut mae modd cofnodi penodiad datodwr yn y gofrestr. Mae’n rhoi cyfarwyddyd ar y gwarediadau all gael eu gwneud gan ddatodwyr, gan gynnwys dosbarthiadau in specie. Yn olaf, mae’n ystyried y sefyllfaoedd fydd yn codi lle bo’r datodwr yn ymwadu ag ystad gofrestredig, a lle bo cwmni’n aros yn y gofrestr fel perchennog ystad gofrestredig ar ôl ei ddiddymu.

Er 8 Rhagfyr 2017, yn gyffredinol mae’r prosesau ansolfedd ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn adlewyrchu’r rhai sydd ar gael i gwmnïau ansolfent, felly yn y cyfarwyddyd hwn, gellir darllen yr ymadroddion “cwmni” neu “gorff corfforaethol” (ar neu ar ôl 8 Rhagfyr 2017) i gynnwys partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. (Fodd bynnag, mae’r Rheolau Ansolfedd 1986 yn dal i fod yn gymwys i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig lle cyflwynwyd deiseb ar gyfer gweinyddiad cyn 15 Medi 2003.)

Ar gyfer ansolfedd sefydliad elusennol corfforedig gweler cyfarwyddyd ymarfer 14A: sefydliadau elusennol corfforedig.

Gwnaed newidiadau i brosesau datodiad, yn weithredol o 6 Ebrill 2017, gan Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016, fel y’u newidiwyd gan Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2017. Mae darpariaethau trosiannol yn gymwys.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Tystiolaeth o ddatodiad

2.1 Cyflwyniad

Er mwyn gweld bod cwmni mewn datodiad ac y penodwyd datodwr, mae angen i chi gyflwyno tystiolaeth i Gofrestrfa Tir EF. Mae rhannau diweddarach y cyfarwyddyd hwn yn nodi’r achlysuron pan fydd angen i chi wneud hyn. Mae natur y dystiolaeth yn amrywio yn ôl y math o ddatodiad, fel yr eglurir yn y paragraffau canlynol.

2.2 Ardystio copïau o ddogfennau

Bydd angen ardystio copïau o ddogfennau neu orchmynion y llys gaiff eu crybwyll isod fel copïau cywir cyn eu hanfon atom (rheol 214 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae modd i’r datodwr neu ei drawsgludwr wneud hyn, o ran unrhyw ddogfen. Gall ysgrifennydd y cwmni neu ei drawsgludwr ardystio copïau o benderfyniadau cyfarfodydd y cwmni. Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

2.3 Aelodau’n dirwyn i ben yn wirfoddol

Y dystiolaeth sydd arnom ei hangen yn achos aelodau’n dirwyn i ben yn wirfoddol yw naill ai:

  • (i) tystysgrif ysgrifennydd y cwmni neu’r datodwr neu drawsgludwr yn gweithredu ar ran y cwmni neu’r datodwr, bod datganiad statudol o ddiffyg dyled yn cydymffurfio â gofynion adran 89 o Ddeddf Ansolfedd 1986 wedi cael ei ffeilio gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau; neu
  • (ii) ffurflen LIQ01 Tŷ’r Cwmnïau ac un o’r canlynol:
    • copi ardystiedig o benderfyniad cyfarfod cyffredinol y cwmni yn penodi’r datodwyr (o dan adran 91(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
    • (cyn 8 Rhagfyr 2017), copi o rybudd o benodiad y datodwr ar ffurflen 600 Tŷ’r Cwmnïau neu (ar neu ar ôl 8 Rhagfyr 2017), ffurflen 600CH Tŷ’r Cwmnïau

2.4 Credydwyr yn dirwyn i ben yn wirfoddol

Y dystiolaeth sydd arnom ei hangen yn achos credydwyr yn dirwyn i ben yn wirfoddol yw copi ardystiedig o benderfyniad cyfarfod cyffredinol y cwmni (weithiau’n cael ei alw’n ‘gyfarfod yr aelodau’) bod y cwmni’n cael ei ddirwyn i ben (o dan adran 84(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986) ac yn penodi’r datodwr. (Gallwch adnabod y math hwn o ddirwyn i ben trwy ddatganiad yn y penderfyniad bod y cwmni i gael ei ddirwyn i ben am na all barhau ei fusnes, oherwydd ei ddyledion), a naill ai:

  • (cyn 8 Rhagfyr 2017), copi o rybudd o benodiad y datodwr ar ffurflen 600 Tŷ’r Cwmnïau neu (ar neu ar ôl 8 Rhagfyr 2017), ffurflen 600CH Tŷ’r Cwmnïau
  • (cyn 8 Rhagfyr 2017), copi ardystiedig o benderfyniad cyfarfod y credydwyr yn penodi’r datodwr (o dan adran 100(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
  • tystysgrif y datodwr a benodwyd yng nghyfarfod cyffredinol y cwmni, neu ei drawsgludwr, y cynhaliwyd cyfarfod o’r credydwyr yn briodol yn unol ag adran 98(1) o Ddeddf Ansolfedd1986 a bod cyfarfod y credydwyr naill ai wedi cadarnhau penodi’r datodwr gan gyfarfod y cwmni neu heb benderfynu enwebu datodwr (os bydd cyfarfod cyffredinol y cwmni a chyfarfod y credydwyr yn enwebu gwahanol ddatodwyr, pwy bynnag gaiff ei enwebu gan y credydwyr fydd yn gweithredu oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud gan y llys ar gais sydd i’w wneud o fewn 7 diwrnod i enwebiad y credydwyr – adran 100(2) a (3) o Ddeddf Ansolfedd 1986.)
  • (ar neu ar ôl 8 Rhagfyr 2017) naill ai (i) copi o ffurflen 600CH Tŷ’r Cwmnïau neu (ii) copi o rybudd penderfyniad y credydwyr (wedi ei ardystio fel copi gwir gan y datodwr neu ei drawsgludwr) neu (iii) a thystysgrif gan y datodwr neu ei drawsgludwr y cadarnhawyd penodiad y datodwr gan weithdrefn penderfyniad cymhwysol y credydwyr neu weithdrefn caniatâd tybiedig. Sylwer: Mae ffurflen 600CH i’w defnyddio ar gyfer apwyntiadau a wneir ar ac neu ôl 8 Rhagfyr 2017 ar gyfer cwmnïau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr. Defnyddiwch ffurflen 600 ar gyfer penodiadau a wnaed cyn 8 Rhagfyr 2017, ac ar gyfer cwmnïau sydd wedi eu cofrestru yn yr Alban

Mae modd i gwmni symud yn uniongyrchol o weinyddiad i gredydwyr yn dirwyn i ben yn wirfoddol (paragraff 83 Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986). Yn yr achos hwnnw, pan ddigwyddodd y symud ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, yn lle’r dystiolaeth a bennwyd uchod, mae angen tystiolaeth arnom sy’n cydymffurfio â gofynion rheol 3.60 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (mae ffurflen AM22 Tŷ’r Cwmnïau’n dderbyniol). Pan ddigwyddodd y symud o weinyddiad i ddatodiad cyn 6 Ebrill 2017, neu pan fydd y ceisydd yn cadarnhau bod darpariaethau trosiannol yn gymwys, mae angen copi ardystiedig o ffurflen 2.34B (‘Rhybudd symud o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol credydwyr’) (yn ôl rheol 2.117 o Reolau Ansolfedd 1986 wedi’i llofnodi gan y gweinyddwr a’i stampio bod y Cofrestrydd Cwmnïau wedi’i derbyn arnom – bydd y cwmni’n mynd i ddatodiad pan fydd y Cofrestrydd Cwmnïau’n cofrestru’r ffurflen (paragraff 83(6) Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 a rheol 2.117 o Reolau Ansolfedd 1986).

2.4.1 Symud o weinyddiad i ddiddymiad (heb ddatodiad ffurfiol)

Yn ogystal, gall gweinyddwr cwmni symud cwmni o weinyddiad i ddiddymiad trwy anfon rhybudd at y cofrestrydd cwmnïau (paragraff 84 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986). Lle y mae hyn wedi digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, bydd angen tystiolaeth arnom sy’n cydymffurfio â gofynion rheol 3.61 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (mae ffurflen AM23 Tŷ’r Cwmnïau yn dderbyniol). Lle digwyddodd y symud o weinyddiad i ddiddymiad cyn 6 Ebrill 2017, neu os yw’r ceisydd yn cadarnhau bod darpariaethau trosiannol yn gymwys, mae angen copi ardystiedig o ffurflen 2.35B arnom (Rhybudd o symud o weinyddiad i ddiddymiad) a bennir gan reol 2.118 o Reolau Ansolfedd 1986, wedi ei lofnodi a’i stampio fel ar gyfer ffurflen 2.34B uchod. Yn absenoldeb unrhyw orchymyn i’r gwrthwyneb, ystyrir bod y cwmni wedi ei ddiddymu 3 mis ar ôl i’r rhybudd (neu’r ffurflen) gael ei gofrestru gan y Cofrestrydd Cwmnïau (paragraff 84(6) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986).

2.5 Datodiad trwy orchymyn y llys

Mae angen copi ardystiedig o’r gorchymyn dirwyn i ben (o dan adran 125 o Ddeddf Ansolfedd 1986) arnom ym mhob achos. Os mai’r derbynnydd swyddogol yw’r datodwr nid oes angen dim byd arall. O ran datodwyr eraill, rhaid i chi gyflwyno un o’r canlynol yn dystiolaeth:

  • (cyn 8 Rhagfyr 2017) copi ardystiedig o benderfyniad cyfarfod y credydwyr yn penodi’r datodwr (o dan adran 139(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986) (mae copi o benodiad y datodwr ar ffurflen 600 Tŷ’r Cwmnïau’n dderbyniol) neu (ar neu ar ôl 8 Rhagfyr 2017), ffurflen 600CH Tŷ’r Cwmnïau
  • copi ardystiedig o benderfyniad cyfarfod y cyfranwyr yn penodi’r datodwr a thystysgrif y datodwr, neu ei drawsgludwr, y cynhaliwyd cyfarfod o’r cyfranwyr yn briodol a bod cyfarfod y cyfranwyr naill ai: wedi cadarnhau penodi’r datodwr neu heb benderfynu enwebu datodwr, os yw cyfarfodydd y credydwyr a’r cyfranwyr yn enwebu gwahanol ddatodwyr, pwy bynnag gaiff ei enwebu gan y credydwyr fydd yn gweithredu oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud gan y llys ar gais sydd i’w wneud o fewn 7 diwrnod i enwebiad y credydwyr – adran 139(3) a (4) o Ddeddf Ansolfedd 1986
  • copi ardystiedig o orchymyn y llys yn penodi’r datodwr o dan adrannau 139(4) neu 140 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Ar unrhyw adeg ar ôl cyflwyno deiseb dirwyn i ben, gall y llys benodi datodwr dros dro i wneud y fath swyddogaethau ag y gall eu pennu. Gall y gorchymyn sy’n gwneud y penodiad gyfyngu pwerau datodwr dros dro. Mae copi o ffurflen 4.15A (penodi datodwr dros dro) neu ffurflen 4.31 (penodi datodwr) yn dderbyniol ar gyfer penodiadau cyn 6 Ebrill 2017. Ar gyfer penodiadau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, mae copi o ffurflen WU02 (datodwr dros dro) neu WU04 (datodwr) yn dderbyniol
  • copi ardystiedig o benodiad y datodwr gan yr Ysgrifennydd Gwladol (o dan adran 137 o Ddeddf Ansolfedd 1986)

2.6 Cofrestru datodwr fel perchennog ystad neu arwystl cofrestredig

Gan fod y datodwr yn gweithredu fel asiant y cwmni, gyda phwerau o dan Atodlen 4 o Ddeddf Ansolfedd 1986 sy’n cynnwys y pŵer i gyflawni gweithredoedd a dogfennau ar ran y cwmni, ni fyddai’r datodwr fel arfer yn cael ei gofrestru yn lle’r cwmni fel perchennog ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig. Rhaid gwneud unrhyw gais i wneud hynny gan ddefnyddio ffurflen AP1, ynghyd â’r dystiolaeth a grybwyllir yn Tystiolaeth o ddatodiad, a’r ffi briodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru a hefyd naill ai:

  • gorchymyn breinio sy’n breinio eiddo’r cwmni yn y datodwr (yn rhinwedd ei swydd)
  • tystiolaeth neu ddadl i gefnogi cofrestriad y datodwr (yn hytrach na’r cwmni) fel perchennog yr ystad neu’r arwystl (er enghraifft, cymerir arwystl fel gwarant ar gyfer dyledion, rhwymedigaethau neu hawliadau sy’n ddyledus i’r cwmni, yn unol â phŵer y datodwr yn Atodlen 4 paragraff 3 o Ddeddf Ansolfedd 1986, neu’n unol â phwerau yn Atodlen 4 paragraff 13); a thystysgrif gan y datodwr (neu ei drawsgludwr) nad oes gohirio dyled nac estyniad credyd o fewn ystyr Deddf Credyd Defnyddwyr 1974

Yn y naill achos neu’r llall, os yw’r datodwr, yn hytrach na’r cwmni, wedi ei gofrestru fel perchennog, yna ar unrhyw newid datodwr, bydd angen cyflwyno trosglwyddiad neu aseiniad o’r ystad neu arwystl o blaid y datodwr newydd, gyda thystiolaeth o’i benodiad, er mwyn diweddaru’r gofrestr.

2.7 Datodwyr ar y cyd

Os penodir datodwyr ar y cyd, rhaid i’r penodiad ddatgan a allant weithredu ar y cyd ac yn unigol (adran 231 (2) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

3. Cofnodi penodiad datodwr yn y gofrestr

3.1 Cais yn ofynnol

Byddwn yn gwneud y cofnodion gaiff eu crybwyll yn rhan hon y cyfarwyddyd dim ond os bydd y datodwr yn cyflwyno cais (o dan reol 184(4) a (5) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes unrhyw beirianwaith i wneud y cofnodion hyn ohonynt eu hunain pan fydd cwmni fel perchennog ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig yn mynd i ddatodiad.

Rhaid gwneud eich cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 gyda’r dystiolaeth gaiff ei chrybwyll yn Tystiolaeth o ddatodiad, gyda’r tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Os ydych yn cyflwyno cais i gofrestru cwmni fel perchennog ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig, rhaid i chi ddarparu’r dystiolaeth gaiff ei chrybwyll yn Tystiolaeth o ddatodiad hefyd. Ni fydd angen i chi wneud unrhyw daliad ychwanegol o ran y cofnodion datodiad. Mae angen yr un dystiolaeth pan fydd cwmni mewn datodiad yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf ei deitl i ystad. O ganlyniad, dylid newid y dystysgrif yn y ffurflen gais am gofrestriad cyntaf o ran absenoldeb unrhyw ddeiseb neu benderfyniad i ddirwyn i ben.

3.2 Cwmni mewn datodiad fel perchennog ystad gofrestredig

Yn dibynnu ar y dull penodi, byddwn yn gwneud un o’r ffurfiau cofnod canlynol yn y gofrestr perchnogaeth.

“(Dyddiad) Trwy Benderfyniad dyddiedig 11 Mai 1995 penodwyd John Jones o 2 Stryd y Dewin, Dolystwyth, Sir Digonedd KV3 3PH yn ddatodwr XYZ Cyfyngedig.”

“(Dyddiad) Trwy Orchymyn y llys dyddiedig 20 Awst 1995 [daeth] [penodwyd] Carys Davies o 4 Llys Myrddin, Heol Non, Dolystwyth, Sir Digonedd KV3 5XJ yn ddatodwr XYZ CCC.”

“(Dyddiad) Trwy Benodiad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dyddiedig 16 Ebrill 1995 penodwyd Dafydd Williams o 6 Adeiladau’r Orsedd, Ffordd Dewi, Dolystwyth, Sir Digonedd KV3 7XY yn ddatodwr XYZ Cyfyngedig.”

Byddwn hefyd yn cofnodi’r cyfyngiad canlynol yn y gofrestr perchnogaeth (ond bod yr amgylchiadau hyn yn berthnasol) os byddwch yn gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 ac yn cwblhau panel 9 gyda’r geiriad isod.

“(Dyddiad) CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig ac eithrio trosglwyddiad trwy werthu i’w gwblhau trwy gofrestru oni bai iddo gael ei wneud yn unol â phwerau a roddwyd gan Ddeddf Ansolfedd 1986.”

Lle bo’r dirwyn i ben trwy orchymyn y llys, byddwn yn cofnodi unrhyw gyfyngiad y gall fod ei angen i adlewyrchu darpariaethau’r cyfryw orchymyn. Lle bo’r llys wedi gorchymyn i’r datodwr wneud cais, neu fod y datodwr yn penderfynu gwneud cais, i gofnodi cyfyngiadau rhaid gwneud cais o’r fath ar ffurflen RX1. Lle bo’r llys wedi gorchymyn i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad, gan ddefnyddio ei bwerau o dan adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, dylid llenwi a chyflwyno ffurflen AP1 ynghyd â chopi ardystiedig o’r gorchymyn llys.

Bydd angen i chi dalu’r tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol hefyd am gofnodi’r cyfyngiad os byddwch yn gwneud y cais ar ffurflen RX1, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru. Lle bo angen cofnodi cyfyngiad trwy orchymyn llys nid oes dim i’w dalu.

3.3 Cwmni mewn datodiad fel perchennog arwystl cofrestredig

Lle bo’r cwmni mewn datodiad yn berchennog, neu’n cael ei gofrestru fel perchennog, arwystl cofrestredig bydd cofnodion tebyg i’r rhai gaiff eu crybwyll yn Cwmni mewn datodiad fel perchennog ystad gofrestredig yn cael eu gwneud yn y gofrestr arwystlon fel a ganlyn:

“(Dyddiad) Trwy Benderfyniad dyddiedig 2 Chwefror 1996 penodwyd Gwenllian Hywel o 54 Lôn Cadwaladr, Dolystwyth, Sir Digonedd KV3 8NR yn ddatodwr XYZ Cyfyngedig.”

“(Dyddiad) Trwy Orchymyn y llys dyddiedig 15 Ionawr 1996 [daeth] [penodwyd] Ian Jones o 94 Teras Pendref, Dolystwyth, Sir Digonedd KV3 5XJ yn ddatodwr XYZ CCC.”

“(Dyddiad) Trwy Benodiad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dyddiedig 22 Hydref 1994 penodwyd Ceri Lewis o 6 Rhodfa Beuno, Dolystwyth, Sir Digonedd KV3 7PR yn ddatodwr XYZ Cyfyngedig.”

Byddwn hefyd yn cofnodi’r cyfyngiad canlynol yn y gofrestr arwystlon (ond bod yr amgylchiadau hyn yn berthnasol) os byddwch yn gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 ac yn cwblhau panel 9 gyda’r geiriad isod.

“(Dyddiad) CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad gan berchennog yr Arwystl dyddiedig 25 Mawrth 1989 o blaid XYZ Cyfyngedig y cyfeiriwyd ato uchod i’w gofrestru ac eithrio rhyddhau, trosglwyddo Arwystl am werth neu drosglwyddo wrth arfer pŵer gwerthu, oni bai iddo gael ei wneud yn unol â’r pwerau a roddwyd gan Ddeddf Ansolfedd 1986.”

Lle bo’r dirwyn i ben trwy orchymyn y llys, byddwn yn cofnodi unrhyw gyfyngiad y gall fod ei angen i adlewyrchu darpariaethau’r cyfryw orchymyn. Lle bo’r llys wedi gorchymyn i’r datodwr wneud cais, neu fod y datodwr wedi penderfynu gwneud cais, i gofnodi cyfyngiadau o’r fath rhaid gwneud cais ar ffurflen RX1. Lle bo’r llys wedi gorchymyn i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad, gan ddefnyddio ei bwerau o dan adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, dylid llenwi a chyflwyno ffurflen AP1 ynghyd â chopi ardystiedig o’r gorchymyn llys.

Os byddwch yn gwneud y cais ar ffurflen RX1 i gofnodi’r cyfyngiad, bydd angen i chi dalu’r tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol hefyd, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru. Lle bo angen cofnodi cyfyngiad trwy orchymyn llys, nid oes dim i’w dalu.

3.4 Pwerau cyfyngedig i gymryd benthyg

Weithiau bydd y penderfyniad neu’r gorchymyn llys yn penodi’r datodwr yn dadlennu bod ganddo bwerau cyfyngedig i gymryd benthyg arian ar ran y cwmni.

Os yw pŵer y datodwr yn gyfyngedig yn y penderfyniad, a’ch bod eisiau cael cofnodi hyn yn y gofrestr fel cyfyngiad, byddwn angen ffurflen RX1 wedi’i llenwi. Rhaid i chi gwblhau panel 9 ffurflen RX1 gyda’r union eiriad sydd arnoch ei angen.

Os yw pŵer y datodwr yn gyfyngedig trwy’r gorchymyn llys byddwn yn cofnodi unrhyw gyfyngiad y gall fod ei angen i adlewyrchu’r cyfyngiad ar bŵer y diddymwyr i gymryd benthyg. Lle bo’r llys wedi gorchymyn i’r datodwr wneud cais, neu fod y datodwr yn penderfynu gwneud cais, i gofnodi cyfyngiadau o’r fath rhaid gwneud cais ar ffurflen RX1. Lle bo’r llys wedi gorchymyn i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad, gan ddefnyddio ei bwerau o dan adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, dylid llenwi a chyflwyno ffurflen AP1 ynghyd â chopi ardystiedig o’r gorchymyn llys.

Os byddwch yn gwneud y cais ar ffurflen RX1 i gofnodi’r cyfyngiad, bydd angen i chi dalu’r tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol hefyd, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru. Lle bo angen cofnodi cyfyngiad trwy orchymyn llys, nid oes dim i’w dalu.

4. Gwarediadau gan gwmnïau mewn datodiad

4.1 Ystyriaethau cyffredinol

Rhaid i bawb sy’n delio â chwmni’n gweithredu trwy ei ddatodwr fodloni eu hunain bod y trafodiad o dan sylw o fewn pwerau’r datodwr, hyd yn oed os cofnodwyd y cyfyngiadau gaiff eu crybwyll yn Cwmni mewn datodiad fel perchennog ystad gofrestredig yn y gofrestr. Yn ymarferol, fodd bynnag, o ystyried y pwerau eang sydd yn Atodlen 4 o Ddeddf Ansolfedd 1986, rydym yn annhebygol o fod yn amheus yn achos gwarediad, fel trosglwyddiad trwy werthu, sydd yn ôl pob golwg yn cael ei wneud i sylweddu asedau’r cwmni. Lle na nodwyd y datodiad yn y gofrestr eisoes, rhaid i chi ddarparu’r dystiolaeth gaiff ei chrybwyll yn Tystiolaeth o ddatodiad gydag unrhyw gais i gofrestru gwarediad gan y cwmni yn gweithredu trwy ei ddatodwr.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

4.2 Dosbarthiadau in specie

Rhaid i’r datodwr ddosbarthu unrhyw asedau sydd dros ben wedi dirwyn i ben yn wirfoddol aelodau, ar ôl talu holl ddyledion a threuliau, ymysg aelodau’r cwmni yn ôl eu hawliau a’u buddion ynddo (o dan adran 107 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Os yw memorandwm ac erthyglau cyweithio yn darparu ar gyfer hynny, mae modd gwneud y dosbarthiad hwn in specie. Pan gaiff ei gyflwyno i’w gofrestru, rydym yn mynnu bod unrhyw drosglwyddiad o’r fath gan gwmni i aelod o’r cwmni, yn gweithredu trwy ei ddatodwr, yn dod ynghyd â’r canlynol:

  • y dystiolaeth gaiff ei chrybwyll yn Tystiolaeth o ddatodiad (os nad ydym eisoes wedi nodi’r datodiad yn y gofrestr)
  • copi ardystiedig o’r memorandwm ac erthyglau cyweithio sy’n rhoi’r pŵer i ddosbarthu in specie
  • copi ardystiedig o unrhyw benderfyniad sydd ei angen gan y memorandwm ac erthyglau cyweithio i awdurdodi’r dosbarthiad
  • tystiolaeth (er enghraifft copi ardystiedig o benderfyniad neu dystysgrif datodwr) y cydymffurfiwyd ag unrhyw ddarpariaethau
  • tystysgrif o werth yr ystad a drosglwyddwyd
  • y taliad wedi’i asesu ar y gwerth hwnnw o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Mewn dirwyn i ben yn wirfoddol credydwyr, mae gan y datodwr y pŵer i ddosbarthu asedau mewn specie i gredydwyr (y cyfeirir ato weithiau fel “dosbarthiad mewn nwyddau”). Ar ôl i asedau’r cwmni gael eu gwireddu a bod digon o arian ar gael, rhaid i’r datodwr ddatgan difidend a dosbarthu’r enillion i gredydwyr sydd â’u dyledion (neu y bernir eu bod wedi profi bod ganddynt eu dyledion), gan gadw symiau digonol i dalu treuliau datodiad (rheol 14.27 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016). Mae rheol 14.13 hefyd yn galluogi’r datodwr – gyda chaniatâd gofynnol y credydwyr neu’r pwyllgor datodiad – i rannu ymhlith y credydwyr ac yn ei ffurf bresennol unrhyw eiddo na ellir ei werthu yn hawdd oherwydd ei natur ryfedd neu amgylchiadau arbennig eraill. Dylai cais i gofrestru unrhyw drosglwyddiad o ased gan gwmni mewn datodiad gwirfoddol credydwyr, yn gweithredu gan y datodwr, gynnwys:

  • yr un dystiolaeth ag yn y 2 bwynt bwled cyntaf uchod
  • cadarnhad bod y cwmni mewn datodiad gwirfoddol ‘credydwyr’ (yn hytrach nag ‘aelodau’)
  • cadarnhad bod y datodwr wedi cyflwyno i’r credydwyr y rhybudd o fwriad gofynnol i ddatgan difidend a bod unrhyw ganiatâd gofynnol wedi ei sicrhau
  • tystysgrif ynghylch gwerth yr ystad a drosglwyddwyd
  • y ffi a aseswyd ar y gwerth o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)

4.3 Cyflawni dogfennau

Mae modd i’r datodwr gyflawni unrhyw warediad gan gwmni mewn datodiad, naill ai trwy ddodi sêl y cwmni a llofnodi’r ddogfen i dystio y dodwyd y sêl yn ei bresenoldeb (mae paragraff 7 Atodlen 4 i Ddeddf Ansolfedd 1986 yn rhoi pŵer i ddatodwr ddefnyddio sêl y cwmni pan fo angen) neu trwy lofnodi’r ddogfen fel gweithred yn enw ac ar ran y cwmni. Mae paragraff 7 Atodlen 4 i Ddeddf Ansolfedd 1986 yn rhoi pŵer i ddatodwr gyflawni holl weithredoedd a dogfennau eraill yn enw ac ar ran y cwmni. Mae hawl gan rywun â phŵer statudol cyffelyb gyflawni gweithred trwy lofnodi enw’r cwmni ym mhresenoldeb o leiaf un tyst – gweler adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o gymalau ardystio fyddai’n dderbyniol.

Enghraifft o gymal ardystio fyddai'n dderbyniol

Os nad yw’r datodwr yn barti yn y weithred, nid yw cyflawni yn ei enw ei hun yn cael ei ystyried yn hanfodol.

Mae gwneud gorchymyn dirwyn i ben yn rhoi diwedd ar bwerau’r cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd i gyflawni dogfennau ar ran y cwmni. Yn achos dirwyn i ben yn wirfoddol daw’r pwerau hynny i ben wrth benodi’r datodwr heblaw i’r graddau eu bod yn cael eu cymeradwyo:

  • wrth i aelodau ddirwyn i ben yn wirfoddol, y datodwr neu’r cwmni mewn cyfarfod cyffredinol (adran 91(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
  • wrth i gredydwyr ddirwyn i ben yn wirfoddol, gan y pwyllgor datodi, neu’r credydwyr (os nad oes pwyllgor o’r fath) (adran 103 o Ddeddf Ansolfedd 1986)

Rhaid i unrhyw ddogfen a gyflawnwyd o dan bwerau o’r fath fod â chefnogaeth tystiolaeth y rhoddwyd y gymeradwyaeth ofynnol.

Pan benodir datodwyr ar y cyd (p’un ai y mae’r penodiad wedi ei nodi yn y gofrestr ai peidio), yna:

  • os cânt eu penodi i weithredu ar y cyd, rhaid enwi’r ddau/pawb fel datodwr gwaredwr y cwmni mewn gwarediad, a bydd angen i’r ddau/pawb ei gyflawni
  • os cânt eu penodi i weithredu ar y cyd ac yn unigol, yna gellir enwi un ohonynt neu bawb fel datodwr(wyr) gwaredwr y cwmni mewn gwarediad, ac os felly, bydd angen i’r person(au) a enwir ei gyflawni

Fodd bynnag, os yw datodwyr ar y cyd wedi eu cofrestru fel perchnogion, rhaid i bob un ohonynt uno mewn gwarediad.

5. Ymwadiad y datodwr

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

5.1 Pŵer i ymwadu ag eiddo beichus

Gall datodwr ymwadu ag eiddo beichus trwy roi’r rhybudd penodedig. Gall y datodwr wneud hyn er ei fod eisoes wedi cymryd meddiant o’r eiddo, wedi ceisio ei wared neu wedi arfer ei hawliau drosto fel arall (adran 178(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986). Bydd y rhybudd yn gweithredu i bennu hawliau, buddion a chyfrifoldebau’r cwmni o ran yr eiddo. Fodd bynnag, nid yw fel arall yn effeithio ar hawliau neu gyfrifoldebau neb arall (adran 178(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Mae arwystl yn goroesi ymwadiad gan y datodwr fel y mae pŵer gwerthu’r arwystlai (SCMLLA Properties Ltd v Gesso Properties [1995] BBC 793, 802-806, yn dibynnu ar adran 104(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Mae’n amherthnasol a gododd y pŵer cyn neu ar ôl yr ymwadiad.

Gallwch anfon rhybudd o ffurflen ymwadiad NDISC i Gofrestrfa Tir EF fel tystiolaeth o ymwadiad.

5.2 Hysbysu Cofrestrfa Tir EF heb gais ffurfiol

O dan reol 4.187(3A) o Ddeddf Ansolfedd1986, rhaid i’r datodwr anfon copi o’r rhybudd ymwadiad o ystad gofrestredig neu o arwystl cofrestredig cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei ddilysu (arwyddo) a’i ddyddio gan y datodwr. Gall hwn fod yn gopi plaen. Nid oes angen cais ffurfiol ar ffurflen AP1 ar yr adeg hon ac nid oes ffi i’w thalu. Byddwn yn gwneud nodyn yn debyg i hyn yn y gofrestr.

“Datganodd rhybudd dyddiedig […] gan y datodwr […] fod yr [ystad gofrestredig yn y teitl hwn] [arwystl cofrestredig dyddiedig […] y cyfeirir ato uchod] yn cael ei ymwadu o dan adran 178 o Ddeddf Ansolfedd 1986.

NODYN: Copi yn y ffeil.”

Er nad yw’n ofynnol i ddatodwr anfon copi o rybudd ymwadiad o fudd llesiannol neu fudd a nodwyd, byddwn yn gwneud nodyn tebyg os yw’r rhybudd yn ymwneud â budd a nodwyd. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod os yw’r rhybudd ymwadiad yn ymwneud â budd llesiannol yn unig.

5.3 Ymwadiad â les-ddaliadau

Nid yw ymwadiad ag eiddo prydlesol yn dod i rym nes bydd copi o’r ymwadiad wedi cael ei gyflwyno i unrhyw isbrydlesai neu forgeisai (i’r graddau y mae’r datodwr yn gwybod eu cyfeiriadau), a naill ai:

  • nad oes dim cais am orchymyn breinio yn cael ei wneud i’r llys o fewn cyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg wedi’r diwrnod pryd y cyflwynwyd y copi diwethaf o’r rhybudd

  • fod y llys wedi gorchymyn bod yr ymwadiad i ddod i rym (adran 179 o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Gall datodwr sydd wedi ymwadu â phrydles gofrestredig wneud cais i rybudd ffurfiol o’r ymwadiad gael ei gofnodi yn y gofrestr gyda neu heb gais i gau’r teitl o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a/neu i ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig yn nheitl y landlord.

5.3.1 Cais i gofnodi rhybudd ymwadiad a/neu i gau’r ystad brydlesol gofrestredig o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Rhaid i’r cais fod ar ffurflen AP1 a rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd:

Os ydych yn gwneud cais i gau’r teitl prydlesol cofrestredig, rhaid ichi hefyd gyflwyno:

  • copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol (neu eglurhad digonol pam na all gael ei chyflwyno)
  • tystiolaeth o ddisgyniad teitl os nad y prydlesai gwreiddiol yw’r cwmni. Byddwn yn anfon rhybudd o’r cais at berchennog cofrestredig y teitl rhydd-ddaliol neu’r teitl prydlesol uwch ar yr hwn y mae’r brydles a ymwadwyd wedi ei nodi, neu at unrhyw arwystlai neu isbrydlesai ac at unrhyw barti arall y byddai cau’r teitl hwn yn effeithio ar ei fudd

Os nad oes tystiolaeth o unrhyw arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd, is-brydles neu hawliau trydydd parti eraill yn effeithio ar y teitl prydlesol a ymwadwyd, neu gallwch ddarparu tystiolaeth ddigonol bod pob budd hefyd wedi dod i ben, byddwn yn cau’r teitl prydlesol ac yn dileu unrhyw rybudd o’r brydles ar deitl cofrestredig y landlord.

Fodd bynnag, am nad yw terfynu prydles trwy ymwadiad yn effeithio ar yr hawliau a rhwymedigaethau a gafwyd cyn yr ymwadiad gan bobl heblaw’r tenant, ni fyddwn yn cau’r teitl prydlesol cofrestredig os oes arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd yn y teitl prydlesol a ymwadwyd oni bai eich bod hefyd yn cyflwyno:

  • cais i ryddhau’r arwystl cofrestredig neu i ddileu cofnod yr arwystl a nodwyd
  • tystiolaeth bod cais yr arwystlai am orchymyn breinio wedi ei wrthod (fel bod yr arwystlai’n cael ei eithrio o bob budd yn yr eiddo o dan adran 182(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986), neu tystiolaeth o fforffedu’r brydles.

Os na allwn gau’r teitl prydlesol oherwydd bod tystiolaeth o arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd sy’n parhau, byddwn yn gwneud y cofnodion canlynol yn y teitl ar gyfer y brydles a ymwadwyd:

  • yn y gofrestr eiddo:

“Ymwadwyd â’r brydles hon gan ddatodwr y perchennog cofrestredig ar [dyddiad] yn unol ag adran 178 Deddf Ansolfedd 1986.

NODYN: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil.”

  • yn y gofrestr perchnogaeth:

“CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig i’w gwblhau trwy gofrestriad.”

Byddwn hefyd yn ychwanegu’r nodyn canlynol i’r rhybudd ymwadiad yn nheitl rhydd-ddaliol neu uwch y landlord:

“Ymwadwyd â’r brydles hon gan ddatodwr y perchennog cofrestredig ar [dyddiad]. Nid yw’r teitl prydlesol cofrestredig wedi ei gau oherwydd bod arwystl [cofrestredig] neu [wedi ei nodi] yn bodoli o blaid [enw] dyddiedig [dyddiad].

NODYN : Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl prydlesol].”

Gellir cau’r teitl prydlesol ar gyfer prydles a ymwadwyd os nad oes arwystl cofrestredig neu arwystl wedi ei nodi ond bod is-brydles gofrestredig neu hawliau trydydd parti eraill wedi eu nodi yn y teitl – os felly, gwneir y cofnodion canlynol:

yng nghofrestr eiddo unrhyw is-brydles gofrestredig a nodwyd:

“Cofrestrwyd teitl y prydleswr ond ymwadwyd â’r brydles gan ddatodwr y perchennog cofrestredig ar [dyddiad].

NODYN: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil o dan [rhif teitl prydlesol].”

ac yng nghofrestr arwystlon neu Atodlen L teitl y landlord:

“Ymwadwyd â’r brydles hon gan ddatodwr y perchennog cofrestredig ar [dyddiad]. Mae’r teitl prydlesol cofrestredig wedi ei gau. Mae budd [isbrydlesol neu fanylion hawl(iau) eraill sydd wedi goroesi] yn bodoli o dan y brydles hon.

NODYN: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl prydlesol].”

5.3.2 Cais i ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig

Rhaid i’r cais fod ar ffurflen CN1 a rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd:

Os nad oes tystiolaeth o unrhyw arwystl, is-brydles neu hawliau trydydd parti eraill yn effeithio ar y brydles a nodwyd a ymwadwyd, gellir dileu rhybudd o’r brydles ar deitl y landlord.

Os oes tystiolaeth o unrhyw arwystl sy’n parhau, is-brydles neu hawliau trydydd parti eraill yn effeithio ar y brydles a nodwyd a ymwadwyd, ni ellir dileu rhybudd o’r brydles, ond gwneir y cofnodion canlynol:

  • yng nghofrestr eiddo unrhyw is-brydles gofrestredig sy’n bodoli a roddwyd o’r brydles ddigofrestredig:

“Ymwadwyd â phrydles y prydlesai gan y datodwr ar [dyddiad].

NODYN: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl prydlesol rhydd-ddaliol/uwch].”

• ac yn y cofnod sy’n bodoli ar gyfer y brydles yn y gofrestr arwystlon neu Atodlen L teitl prydlesol y landlord:

“Ymwadwyd â’r brydles hon gan y datodwr ar [dyddiad]. Mae budd [isbrydlesol neu fanylion hawl(iau) eraill sydd wedi goroesi] yn bodoli o dan y brydles hon.

NODYN: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil.”

5.4 Ymwadiad â rhydd-ddaliadau

Mae modd ymwadu ag ystad rydd-ddaliol mewn tir, ond mae’n llai cyffredin.

Os nad yw’r llys yn gwneud gorchymyn breinio, mae’r ystad rydd-ddaliol yn terfynu ac mae’r eiddo’n asiedu i’r Goron neu i un o Ddugiaethau Brenhinol Cernyw neu Gaerhirfryn. Fodd bynnag, nid ydym yn cau’r teitl cofrestredig oni bai a hyd nes i ni gofrestru naill ai grant ystad rydd-ddaliol newydd o’r Goron neu drosglwyddiad o un o’r Dugiaethau Brenhinol.

5.4.1 Hysbysu Cofrestrfa Tir EF heb gais ffurfiol

Rhaid i ddatodwr anfon copi o’r rhybudd ymwadiad o ystad rydd-ddaliol, fel yr eglurir yn Hysbysu Cofrestrfa Tir EF heb gais ffurfiol.

5.4.2 Cais am rybudd ffurfiol ymwadiad i’w gofnodi yn y gofrestr o dan reol 79 a 173 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Mae’r gofynion wedi eu nodi yn Cais i gofnodi rhybudd ffurfiol ymwadiad/a neu gau’r ystad brydlesol gofrestredig o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr eiddo.

“Mae’r ystad gofrestredig yn y teitl hwn wedi terfynu ar ymwadiad gan ddatodwr y perchennog cofrestredig ar [dyddiad] yn unol ag adran 178 o Ddeddf Ansolfedd 1986.

NODYN: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil.”

Os yw’r teitl a asiedwyd yn ddarostyngedig i brydles(i) cofrestredig neu fudd is arall, byddwn hefyd yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr eiddo ar gyfer y teitl hwnnw.

“Mae ystad gofrestredig y [prydleswr (neu yn ôl fel y digwydd)] wedi terfynu ar ymwadiad gan y datodwr ar [dyddiad] yn unol ag adran 178 o Ddeddf Ansolfedd 1986 ond mae’r cofnodion yn ymwneud â’r ystad i barhau yn y gofrestr.

NODYN: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl rhydd-ddaliol a ymwadwyd].”

Gallwn gymhwyso’r cofnodion uchod lle ceir amheuaeth a yw asiedu wedi digwydd.

6. Breinio ystadau cofrestredig ar ddiddymiad

6.1 Diddymiad

Ystyrir bod cwmni sydd wedi ei ddirwyn i ben yn wirfoddol (datodiad gwirfoddol aelodau) wedi ei ddiddymu 3 mis ar ôl i’r datodydd ffeilio’r cyfrif terfynol a ffurflen yn y Gofrestrfa Cwmnïau (adran 201 o Ddeddf Ansolfedd 1986) (oni bai bod gorchymyn llys yn gohirio dyddiad y diddymiad neu (pan ddechreuodd y dirwyn i ben ar ôl 26 Mehefin 2017) oni bai nad yw deiliad swydd ansolfedd ar gyfer y cwmni a benodwyd mewn aelod-wladwriaeth arall yn yr UE yn cydsynio i’r diddymiad – adran 201 (2A)). Os caiff datodiad gwirfoddol yr aelodau ei drosi’n ddatodiad gwirfoddol credydwyr (o dan adran 95 o Ddeddf Ansolfedd 1986) yna, unwaith eto, ystyrir bod y cwmni wedi ei ddiddymu 3 mis ar ôl ffeilio cyfrif terfynol a ffurflen y datodwr yn y Gofrestrfa Cwmnïau.

Ystyrir y diddymwyd cwmni sydd wedi gwneud cais i ddileu ei enw’n wirfoddol o’r gofrestr cwmnïau (yn unol ag adrannau 1003 – 1011 o Ddeddf Cwmnïau 2006) 2 fis ar ôl i’r datodwr ffeilio’r cyfrif terfynol a ffurflen yng Nghofrestrfa’r Cwmnïau lle y gwneir cais y cwmni ar neu ar ôl 10 Hydref 2015 (adran 1003(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y’i newidiwyd gan adran 103(7) o Ddeddf busnesau bach, menter a chyflogaeth 2015. Tri mis oedd hyn yn flaenorol.

Lle bo’r llys wedi peri’r dirwyn i ben, bydd diddymiad yn dilyn ohono’i hun 3 mis ar ôl ffeilio rhybudd y datodwr o ganlyniad y cyfarfod terfynol neu rybudd y Derbynnydd Swyddogol bod y dirwyn i ben yn gyflawn (adran 205(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986) yng Nghofrestrfa’r Cwmnïau. Gall y Derbynnydd Swyddogol wneud cais i’r Cofrestrydd Cwmnïau am ddiddymiad cynnar pe na bai’r asedau yn talu treuliau dirwyn i ben a’i bod yn ymddangos nad oes angen archwilio materion y cwmni ymhellach (adran 202 o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Mae pŵer gan y Cofrestrydd Cwmnïau i ddiddymu cwmnïau darfodedig trwy ddileu eu henwau oddi ar y gofrestr (adran 1000 o Ddeddf Cwmnïau 2006). Mae’r pŵer hwn yn berthnasol lle bo’n ymddangos nad yw cwmni yn gweithredu ac nad yw’n ymateb i rybuddion neu lle bo cwmni yn cael ei ddirwyn i ben a naill ai nad oes datodwr yn gweithredu neu ei bod yn ymddangos i’r materion gael eu dirwyn i ben yn llawn ond na ffeiliwyd y ffurflenni terfynol.

Pan fydd gweinyddwr cwmni yn ei symud o weinyddiad i ddiddymiad trwy ffeilio rhybudd yn y Gofrestrfa Cwmnïau, ystyrir bod y cwmni fel arfer wedi ei ddiddymu 3 mis ar ôl i’r rhybudd gael ei gofrestru gan y Cofrestrydd Cwmnïau.

Pan gaiff Cofrestrfa Tir EF wybod am ddiddymiad cwmni sy’n berchennog ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig, mae’n bosibl y byddwn yn cofnodi rhybudd o’r ffaith honno yn y gofrestr.

6.2 Eiddo cwmni a ddiddymwyd

Ar ddiddymiad, ystyrir holl eiddo a hawliau cwmni (heblaw eiddo’n cael ei ddal ar ymddiried i un arall) fel bona vacantia (adran 1012 o Ddeddf Cwmnïau 2006), a bydd yn perthyn i’r Goron neu i Ddugiaeth Caerhirfryn neu i Ddug Cernyw, yn ôl fel y bo’n digwydd. Os oedd swyddfa gofrestredig y cwmni a ddiddymwyd naill ai yn Nugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw, yna’r Ddugiaeth honno sy’n cymryd unrhyw ystad sy’n perthyn i’r cwmni pa le bynnag y mae. Mae ystadau sydd yn ardal Dugiaeth Cernyw yn breinio yn y Dug ar ddiddymiad, pa le bynnag y bo swyddfa gofrestredig y cwmni. Mae Dugiaeth Cernyw yn fras yr un maint â’r sir bresennol. Mae modd anfon ymholiadau o ran maint Dugiaeth Caerhirfryn, sydd yn sylweddol fwy na Swydd Gaerhirfryn bresennol, i’n swyddfa yn Fylde.

Ar gais i’w gofrestru gan y Goron, Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddug Cernyw fel perchennog tir sydd yn bona vacantia ar ôl diddymu cwmni, bydd y dystiolaeth y byddwn yn ei mynnu yn dibynnu ar sut y diddymwyd y cwmni.

6.2.1 Dirwyn i ben yn wirfoddol

Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth bod y datodwr wedi ffeilio’r cyfrif terfynol a ffurflen yng Nghofrestrfa’r Cwmnïau 2 fis yn gynharach.

6.2.2 Dirwyn i ben gan y llys

Rhaid ichi ddarparu aill ai:

  • copi o rybudd y cyfarfod terfynol gan y datodwr (neu gopi o’r rhybudd gan y Derbynnydd Swyddogol bod y dirwyn i ben yn gyflawn), a ffeiliwyd yng Nghofrestrfa’r Cwmnïau 3 mis yn gynharach, neu
  • tystiolaeth o’r diddymiad cynharach os yw’r Derbynnydd Swyddogol wedi gwneud cais i’r Cofrestrydd Cwmnïau am ddiddymiad cynnar pe na bai’r asedau yn talu treuliau dirwyn i ben ac nid oes angen archwilio materion y cwmni ymhellach

6.2.3 Cwmni darfodedig

Tystiolaeth bod y Cofrestrydd Cwmnïau wedi dileu enw’r cwmni oddi ar y gofrestr

Ymhob achos bydd angen i’r cais fod ar ffurflen AP1. Mae taliad i’w wneud ar sail gwerth yr ystad, yn daladwy o dan y ffi a bennwyd o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Bydd y cwmni yn cael ei ddileu o’r gofrestr perchnogaeth a bydd un o’r parau o gofnodion canlynol yn cael ei wneud fel y bo’n briodol.

“(Dyddiad) Perchennog: Y CYFREITHIWR DROS FATERION TRYSORLYS EI FAWRHYDI o 1 Kemble Street, Llundain WC2B 4TS.

(Dyddiad) Mae’r cofrestriad hwn o berchennog yr ystad gofrestredig yn gweithredu adran 1012 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ac yn amodol ar ei darpariaethau.”

“(Dyddiad) Perchennog: Y CYFREITHIWR DROS FATERION DUGIAETH CAERHIRFRYN o Duchy of Lancaster Office, 1 Lancaster Place, Strand, London WC2E 7ED.

(Dyddiad) Mae’r cofrestriad hwn o berchennog yr ystad gofrestredig yn gweithredu adran 1012 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ac yn amodol ar ei darpariaethau.”

“(Dyddiad) Perchennog: EI UCHELDER BRENHINOL TYWYSOG WILLIAM ARTHUR PHILIP LOUIS TYWYSOG CYMRU, DUG CERNYW, ROTHESAY A CHAERGRAWNT, IARLL CARRICK A STRATHEARN, BARWN RENFREW, BARWN CARRICKFERGUS, ARGLWYDD YR YNYSOEDD, TYWYSOG A STIWARD MAWR YR ALBAN o 10 Buckingham Gate, London SW1E 6LA ac o The Old Rectory, Newton St. Loe, Bath BA2 9BU trwy hawl ei Ddugiaeth Cernyw.”

“(Dyddiad) Mae’r cofrestriad hwn o berchennog yr ystad gofrestredig yn gweithredu adran 1012 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ac yn amodol ar ei darpariaethau.”

Lle bo ystad sydd wedi ei breinio felly fel bona vacantia yn cael ei gwared wedyn, ni fydd gorchymyn diweddarach yn adfywio’r cwmni a ddiddymwyd yn cael unrhyw effaith ar y gwarediad. O dan adrannau 1029-1032 o Ddeddf Cwmnïau 2006, gall y llys ddatgan diddymiad cwmni (pa un ai wedi ei ddirwyn i ben neu â’i enw wedi ei ddileu) yn ddi-rym ar gais i’w wneud o fewn 6 blynedd i’r diddymiad). Gall fod gan y cwmni a adfywiwyd hawl i iawndal.

7. Ymwadiad y Goron â bona vacantia

7.1 Pŵer i ymwadu ag eiddo beichus

Mae gan Gyfreithiwr y Trysorlys a Chyfreithwyr Dugiaethau Caerhirfryn a Chernyw bŵer i ymwadu ag eiddo sydd wedi breinio fel bona vacantia fel y crybwyllwyd yn Eiddo cwmni a ddiddymwyd (adran 1013 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu lle diddymwyd y cwmni cyn 1 Hydref 2006, adran 656 o Ddeddf Cwmnïau1985). Caiff yr ymwadiad ei weithredu trwy rybudd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan y Cyfreithiwr priodol. Gall y Cyfreithiwr priodol anfon copi o rybudd o’r fath at y cofrestrydd.

7.2 Hysbysu Cofrestrfa Tir EF am ymwadiad heb gais ffurfiol

Er nad yw’n ofynnol iddynt wneud hynny’n ffurfiol, gall Cyfreithiwr y Trysorlys neu un o’r Dugiaethau Brenhinol anfon rhybudd ymwadiad atom heb wneud cais ffurfiol i gau’r teitl perthnasol neu ddileu cofnod yn ymwneud â’r ystad neu fudd a ymwadwyd.

Ar yr amod bod gan y cwmni a ddiddymwyd a enwyd yn y rhybudd yr un enw â’r cwmni a gofrestrwyd yn berchennog, neu fod y cyfreithiwr yn cadarnhau mai’r un ydynt, ac mai dim ond un perchennog sydd, byddwn yn gwneud cofnod fel a ganlyn.

Yn achos rhybudd ymwadiad o brydles gofrestredig, proffid à prendre mewn gros neu arwystl:

“Datganodd rhybudd dyddiedig […] gan [Cyfreithiwr y Trysorlys][Cyfreithiwr [dros Faterion Dugiaeth Caerhirfryn neu Gernyw]] fod yr [ystad gofrestredig yn y teitl hwn] [arwystl cofrestredig dyddiedig […] y cyfeirir ato uchod] yn cael ei ymwadu o dan adran [1013 o Ddeddf Cwmnïau 2006] [656 o Ddeddf Cwmnïau 1985].

NODYN: Copi yn y ffeil.”

Byddwn yn gwneud nodyn tebyg os yw’r nodyn o ymwadiad yn ymwneud â budd a nodwyd. Yn achos rhybudd ymwadiad o ystad rydd-ddaliol mewn tir, gweler Ystadau rhydd-ddaliol mewn tir.

Nid oes ffi yn daladwy. Ni fyddwn yn cyflwyno rhybudd i’r cwmni a nodir yn berchennog cofrestredig ac ni wneir cofnodion ar unrhyw deitlau cofrestredig uwch neu is. Cyfrifoldeb unrhyw bartïon a chanddynt fudd fydd gwneud cais ar ffurflen AP1 ac anfon y ffi briodol i gau’r teitl a ymwadwyd, fel yr eglurir yn Cais i gau’r teitl cofrestredig am brydles neu broffid à prendre mewn gros o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

7.3 Cais i gau’r teitl cofrestredig am brydles neu broffid à prendre mewn gros o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Rhaid i’r cais fod ar ffurflen AP1 a rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd:

Byddwn yn delio â’r cais fel yr eglurir yn Cais i gofnodi rhybudd ymwadiad a/neu gau teitl prydlesol cofrestredig o dan adran 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol i’r cofnodion perthnasol i gyfeirio at y cyfreithiwr a darpariaeth statudol briodol.

7.4 Cais i ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig neu broffid à prendre mewn gros

Rhaid i’r cais fod ar ffurflen CN1 a rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd:

Byddwn yn delio â’r cais fel yr eglurir yn Cais i ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig.

7.5 Ymwadiad â rhydd-ddaliadau

Os yw’r cyfreithiwr perthnasol yn ymwadu ag ystad rydd-ddaliol mewn tir, mae’n terfynu ar asiedu ac yn dychwelyd i’r Goron fel tir demên neu i naill ai Ddugiaeth Caerhirfryn neu Ddug Cernyw. Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu y gall y cofrestrydd wneud nodyn yn y gofrestr ynghylch terfyniad yr ystad rydd-ddaliol. (Dylid nodi nad yw rheol 173 yn gymwys i broffidiau à prendre rhydd-ddaliol neu rhydd-freintiau.) Lle y mae’r cyfreithiwr priodol yn anfon copi o rybudd ymwadiad o ystad rydd-ddaliol mewn tir atom, gwneir nodyn yn nheitl cofrestredig yr ystad honno. Nid yw cais yn ofynnol ac nid oes ffi i’w thalu.

Penderfynwyd yn achos SCMLLA Properties Limited yn erbyn Gesso Properties (BVI) Limited [1995] BCC 793 pan fydd ystad rydd-ddaliol mewn tir yn asiedu i’r Goron, nad yw buddion is fel tenantiaethau ac arwystlon sy’n cael eu dal dani yn terfynu.

Lle bo’n ymddangos bod buddion is yn parhau ar waethaf yr ymwadiad, bydd rhybudd yn cael ei gyflwyno i’r perchnogion, i’r graddau y mae modd gwybod eu cyfeiriadau o’r gofrestr. Bydd y cofnod i’w wneud o dan reol 173 fel a ganlyn.

“Mae’r ystad gofrestredig yn y teitl hwn wedi terfynu ar ymwadiad [Cyfreithiwr y Trysorlys][Cyfreithiwr [dros Faterion Dugiaeth Caerhirfryn][Dug Cernyw]] ar ___ yn unol ag adran [1013 o Ddeddf Cwmnïau 2006].

Nodyn: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil.”

Trwy adran 1013(2) o Ddeddf Cwmnïau 2006, gall y Goron golli’r gallu i ymwadu â vacantia trwy ildiad pendant, gan gymryd meddiant neu unrhyw weithred yn dangos yn eglur y bwriad i wneud hynny. O wneud cais i gofrestru Cyfreithiwr y Trysorlys, Cyfreithiwr Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddug Cernyw fel perchennog, gallai fod yn ildiad o’r fath. Felly, os cofnodwyd y breinio fel bona vacantia yn y gofrestr eisoes, yna bydd y cofnod yn cael ei addasu.

“[Cyflwynodd [Cyfreithiwr y Trysorlys][Cyfreithiwr [dros Faterion Dugiaeth Caerhirfryn][Dug Cernyw]] rybudd ei fod yn ymwadu â’r ystad gofrestredig ar ___ yn unol ag adran 1013 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Roedd yr ymwadiad yn effeithiol i derfynu’r ystad gofrestredig yn y teitl hwn yn unig i’r graddau na ildiwyd yr hawl i ymwadu o dan adran 1013(2) y Ddeddf honno cyn y dyddiad hwnnw.

Nodyn: Copi o’r rhybudd yn y ffeil.”

Bydd cofnod yn cael ei wneud yng nghofrestr eiddo unrhyw deitl cofrestredig is.

“(Dyddiad) Mae ystad gofrestredig y [prydleswr (neu yn ôl fel y bo’n digwydd)] wedi terfynu trwy ymwadiad [Cyfreithiwr y Trysorlys][Cyfreithiwr [dros Faterion Dugiaeth Caerhirfryn][Dug Cernyw]] ar _____ yn unol ag adran [1013 o Ddeddf Cwmnïau 2006] ond bod y cofnodion perthnasol i’r ystad yn aros yn y gofrestr.

Nodyn: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil o dan ––––– .”

“(Dyddiad) Cyflwynodd [Cyfreithiwr y Trysorlys][Cyfreithiwr [dros Faterion Dugiaeth Caerhirfryn][Dug Cernyw]] rybudd ei fod yn ymwadu ag [ystad gofrestredig y prydleswr (neu yn ôl fel y bo’n digwydd)] ar ___ yn unol ag adran 1013 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Roedd yr ymwadiad yn effeithiol i derfynu’r ystad gofrestredig honno yn unig i’r graddau na ildiwyd yr hawl i ymwadu o dan adran 1013(2) y Ddeddf honno cyn y dyddiad hwnnw. Mae’r cofnodion perthnasol i’r ystad honno yn aros yn y gofrestr.

Nodyn: Copi o’r rhybudd yn y ffeil o dan ––––– .”

Os oes amheuaeth am unrhyw reswm arall ynghylch effeithiolrwydd yr ymwadiad gall y cofrestrydd wneud cofnod priodol yng nghofrestr yr ystad y gwnaed cais i ymwadu â hi ac unrhyw ystad is (rheol 173(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Bydd geiriad y cofnod yn adlewyrchu amgylchiadau’r achos.

7.6 Rifersiwn ac ail-roi ystad rydd-ddaliol ar asiedu

Dylech wneud cais i gofrestru ail-roi ystad rydd-ddaliol yn dilyn asiedu gan ddefnyddio ffurflen FR1 a ffurflen DL. Bydd y grant neu drosglwyddiad gan y Goron neu Ddugiaeth yn croniclo manylion yr asiedu gan gynnwys y rhif teitl os yw’r ystad a derfynwyd wedi ei chofrestru.

Yn amodol ar gyflwyno rhybudd i berchennog cofrestredig yr ystad a derfynwyd, byddwn yn cofrestru’r ceisydd fel perchennog yr ystad rydd-ddaliol newydd a bydd teitl yr ystad a derfynwyd yn cau.

Bydd yr holl lyffetheiriau ar yr ystad newydd oedd gynt yn effeithio ar yr ystad a derfynwyd, oni bai eich bod yn gallu cyflwyno tystiolaeth nad ydynt mwyach yn effeithio arni, er enghraifft gorchymyn llys neu dystiolaeth eu bod yn anorfodadwy.

7.7 Cyfyngiadau o blaid cwmnïau a ddiddymwyd

7.7.1 Tir prydlesol

Ceir llawer o ddatblygiadau prydlesol lle mae’r teitlau prydlesol cofrestredig i’r fflatiau neu unedau eraill yn cynnwys cyfyngiad sy’n gorfod cael cydsyniad cwmni rheoli os yw gwarediad gan y perchennog i gael ei gofrestru. Weithiau mae’n digwydd bod enw cwmni o’r fath wedi ei ddileu am beidio â chyflwyno ffurflenni blynyddol. Cyn delio â’r teitl, bydd angen i’r perchennog cofrestredig gymryd camau i sicrhau bod modd cofrestru’r delio. Am wybodaeth bellach lle y mae cwmni landlord neu gwmni rheoli wedi diddymu, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol

7.7.2 Tir rhydd-ddaliol

Bydd rhai datblygiadau rhydd-ddaliol yn cynnwys cyfamodau ystad o blaid cwmni rheoli sy’n gyfrifol am gynnal a chadw rhannau cyffredin megis ardaloedd tirwedd a ffyrdd mynediad. Ni fydd cyfamodau cadarnhaol yn ymwneud â thir rhydd-ddaliol, megis i dalu arian ar gyfer cynnal a chadw, neu i gadw ffens derfyn, yn rhedeg gyda’r tir. Mae’n bosibl mai cyfamod cadarnhaol ynghyd â chyfyngiad yn y gofrestr fydd yr unig ffordd realistig i sicrhau rheolaeth y rhannau cyffredin. Mae’n annhebygol y bydd y cofrestrydd yn fodlon y gall y cyfyngiad gael ei ddileu oni bai bod trefniadau eraill wedi eu gwneud. Yn y cyfamser, mae’n bosibl mai datgymhwyso’r cyfyngiad fod yr opsiwn priodol. Gweler Atgyfodi’r cwmni rheoli, Datgymhwyso neu addasu’r cyfyngiad a Cais i’r llys.

7.7.3 Atgyfodi’r cwmni rheoli

Yn aml mae bodolaeth y cwmni’n sylfaenol i reoli’r datblygiad yn drefnus. Y ffordd gallaf o weithredu yn y fath achos yw gwneud cais i’r llys o dan adran 1024 o Ddeddf Cwmnïau 2006 i’r cwmni gael ei adfer i Gofrestr y Cwmnïau. Os oedd y perchennog, fel y digwydd yn aml, yn aelod o’r cwmni bydd ganddo hawl i wneud y cais. Fe all y bydd prydleseion eraill yn barod i ymuno a rhannu’r costau gan y bydd problemau tebyg yn eu hwynebu hwythau ar eu teitlau eu hunain.

7.7.4 Dileu’r cyfyngiad

Lle nad oes angen y cyfyngiad mwyach ac y gall y perchennog gyflwyno tystiolaeth i ddarbwyllo’r cofrestrydd o hyn, gall wneud cais i ddileu’r cyfyngiad.

Gallai hyn fod lle cofnodwyd y cyfyngiad i warchod budd nad yw mwyach yn berthnasol neu i sicrhau cydymffurfio ag ymrwymiadau a gyflawnwyd eisoes. Fel arall, efallai y gall y perchennog ddangos bod y cyfyngiad i warchod budd sydd wedi ei warchod yn ddigonol gan gofnod arall yn y gofrestr. Rhaid gwneud y cais ar ffurflen RX3 ynghyd â thystiolaeth briodol (rheol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os yw’r cyfyngiad yn berthnasol i fudd oedd yn breinio yn y Goron ar ddiddymiad y cwmni, dylai tystiolaeth o’r diddymiad fod gyda’r cais a gall fod angen cefnogaeth Cyfreithiwr y Trysorlys (neu Gyfreithiwr Dugiaeth Caerhirfryn neu Gernyw).

7.7.5 Datgymhwyso neu addasu’r cyfyngiad

O dan amgylchiadau priodol, efallai y gall y perchennog wneud cais i’r cofrestrydd am orchymyn i ddatgymhwyso effaith y cyfyngiad neu i’w addasu (adran 41(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rheol 96 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Rhaid gwneud y cais ar ffurflen RX2 a rhaid iddo wneud y canlynol:

  • datgan os yw i ddatgymhwyso neu addasu’r cyfyngiad (gyda manylion unrhyw addasiad sydd ei angen)
  • esbonio pam fod gan y ceisydd fudd digonol yn y cyfyngiad
  • rhoi manylion y gwarediad neu fath o warediad y bydd y gorchymyn y gwnaed cais amdano yn effeithio arno
  • dweud pam fod y ceisydd yn ystyried y dylai’r cofrestrydd wneud y gorchymyn Sylwch fod y cofrestrydd yn annhebygol o ystyried y ffaith bod cyfyngiad o blaid cwmni y tynnwyd ei enw oddi ar Gofrestr y Cwmnïau yn sail ddigonol ynddi’i hun i wneud gorchymyn.

7.7.6 Cais i’r llys

Lle nad oes un o’r dewisiadau uchod ar gael, efallai y gall y perchennog wneud cais i’r llys am orchymyn i newid y gofrestr, efallai trwy ddileu’r cyfyngiad.

8. Datodiad cwmnïau tramor

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

8.1 Datodiad tramor

Mae Cyfraith Loegr yn cydnabod datodiad cwmni tramor yng ngwlad ei gorfforiad. Os ydych am wneud cais i gofrestru gwarediad a wnaed gan neu ar ran cwmni o’r fath yna rhaid gwneud eich cais ar ffurflen AP1, ynghyd â thystiolaeth briodol o’r datodiad ac o’i effaith. Gallai hyn gynnwys:

  • copïau ardystiedig o’r gorchmynion llys neu ddogfennau eraill y dibynnir arnynt
  • barn ysgrifenedig cyfreithiwr sy’n gymwys i arfer cyfraith cwmnïau yng ngwlad y corfforiad o ran natur ac effaith yr achos ar y cwmni ac o ran pwerau’r datodwr neu rywun arall yn cynrychioli’r cwmni, gan gynnwys y pŵer i gyflawni dogfennau ar ran y cwmni
  • dylid darparu cyfieithiadau ardystiedig o unrhyw ddogfennau nad ydynt yn y Gymraeg neu’r Saesneg

8.2 Datodiad yn y Deyrnas Unedig

Mae modd dirwyn cwmni tramor sydd wedi bod yn cynnal ei fusnes yn y Deyrnas Unedig i ben fel cwmni digofrestredig o dan Ddeddf Ansolfedd1986 er y gall fod wedi ei ddiddymu eisoes, neu wedi dod i ben fel arall yn ôl cyfraith gwlad ei gorfforiad (Adran 225 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Bydd y dirwyn i ben trwy orchymyn y llys a bydd angen y dystiolaeth fel y nodwyd yn Datodiad trwy orchymyn y llys.

9. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.