Gwiriadau cydymffurfio: gohirio cosbau am wallau esgeulus ar Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau – CC/FS10
Diweddarwyd 21 December 2016
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn yn ystyried p’un ai i ohirio cosbau am wallau esgeulus ar Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres o daflenni gwybodaeth am wiriadau cydymffurfio.
Pryd y gallwn ohirio cosb
Gallwn ohirio cosbau am wallau esgeulus ar Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau dim ond os gallwn osod o leiaf un amod gohirio a fydd yn eich helpu i osgoi cosbau am wallau tebyg yn y dyfodol. Mae’n rhaid i bob amod fod yn ‘SMART’. Mae SMART yn golygu:
- penodol (specific) – mae’n rhaid iddo fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r hyn a achosodd y gwall
- mesuradwy (measurable) – bydd angen i chi ddangos i ni p’un a ydych wedi bodloni’r amod
- cyraeddadwy (achievable) – bydd angen i chi ddangos i ni eich bod yn gallu bodloni’r amod
- realistig (realistic) – gallwn ddisgwyl yn realistig y byddwch yn bodloni’r amod
- bod terfyn amser ar waith (time-bound) – bydd yn rhaid i chi fodloni’r amod cyn pen y cyfnod gohirio
Gosodir yr amodau SMART hyn ar ben yr amod bod yn rhaid i chi gyflwyno’ch holl Ffurflenni Treth mewn pryd yn ystod y cyfnod gohirio.
Os byddwn yn gohirio cosb, ni fydd yn rhaid i chi ei thalu os gallwch ein sicrhau eich bod wedi bodloni’r holl amodau ar ddiwedd y cyfnod gohirio, ac nad ydych wedi cael cosb arall yn ystod y cyfnod gohirio.
Pryd na allwn neu na fyddwn yn gohirio cosb
Ni allwn ohirio cosbau am wallau bwriadol, neu wallau bwriadol a chudd.
Ni fyddwn yn gohirio cosbau am wallau esgeulus os na allwn osod unrhyw amodau SMART, neu os ydym o’r farn ei fod yn annhebygol y byddwch yn cydymffurfio â’r amodau gohirio.
Os ydych yn agored i gosb am wall esgeulus a gododd oherwydd gwnaethoch geisio defnyddio cynllun arbed treth, mae’n annhebygol y byddwn yn gallu gohirio’r gosb.
Os ydym yn penderfynu peidio â gohirio cosb, gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w chael yn yr adran Beth i’w wneud os anghytunwch.
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud cyn i ni ohirio cosb
Cyn i ni ohirio cosb, bydd angen i chi gytuno ar amodau gyda ni. Mae’n bwysig:
- eich bod yn deall yr amodau
- eich bod yn gallu bodloni’r amodau
- bod yr amodau’n gymesur â hyd a lled y gwall
- bod yr amodau’n rhoi ystyriaeth i’ch amgylchiadau
- y bydd yn glir i chi, yn ogystal â ni, pan fyddwch wedi bodloni’r amodau
Yn ogystal â chytuno i amodau SMART penodol i’ch helpu i osgoi gwallau tebyg yn y dyfodol, bydd yn rhaid i chi hefyd gytuno i gyflwyno’ch holl Ffurflenni Treth mewn pryd yn ystod y cyfnod gohirio.
Ystyriwch yn ofalus a allwch fodloni’r amodau cyn i chi gytuno iddynt. Rhowch wybod i ni os nad ydych yn siŵr am rywbeth. Os oes gennych ymgynghorydd, gallwch ofyn iddo am gymorth. Ar ôl i chi gytuno i’r amodau a osodwyd gennym, byddwn yn anfon hysbysiad gohirio atoch. Bydd hwn yn dangos yr amodau a’r cyfnod gohirio.
Sut yr ydym yn pennu hyd y cyfnod gohirio
Bydd hyd y cyfnod gohirio yn dibynnu ar ba mor hir y bydd yn cymryd i chi fodloni’r amodau gohirio penodol. Y cyfnod gohirio hiraf y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu yw 2 flynedd, ond fel arfer bydd yn fyrrach na hynny.
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yn ystod y cyfnod gohirio
Yn ystod y cyfnod gohirio, mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau yr ydych wedi cytuno iddynt. Yn ogystal, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydych yn anfon Ffurflenni Treth eraill sy’n wallus yn ystod y cyfnod. Gall hyn eich gwneud yn agored i gosb arall am wallau. Os bydd cosb arall am wallau’n cael ei chodi arnoch yn ystod y cyfnod gohirio, bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb a ohiriwyd yn flaenorol.
Yr hyn fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod gohirio
Ar ddiwedd y cyfnod gohirio, byddwn yn gofyn i chi a ydych wedi bodloni’r amodau. Mae’n bosibl y bydd angen i ni wirio’ch cofnodion a gofyn am dystiolaeth arall er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi’u bodloni. Os ydym yn cytuno eich bod wedi bodloni’r amodau, byddwn yn dileu’r gosb. Os ydym yn penderfynu nad ydych wedi bodloni’r amodau, bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb. Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am arolwg barnwrol o’n penderfyniad. Gall hwn fod yn ddrud, felly dylech geisio cyngor cyfreithiol yn gyntaf.
Beth i’w wneud os anghytunwch
Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, dylech roi gwybod i ni.
Os ydym yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio’r penderfyniad a rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog yr ydych wedi bod yn delio ag ef a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog Cyllid a Thollau EM (CThEM) na fu’n ymwneud â’r mater
- trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater
Pa ddull bynnag a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Gelwir y broses hon yn ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’ (Alternative Dispute Resolution, neu ADR).
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â rhai o’r trethi a’r meysydd eraill yr ydym yn eu gweinyddu y mae’r dull hwn ar gael.
Bydd y swyddog sy’n delio â’ch gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer y mater yr ydych yn dadlau yn ei gylch.
Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau, adolygiadau ac ADR yn: