Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o weithgareddau cofrestr cwmnïau 2015-16

Diweddarwyd 25 August 2016

Yn y Deyrnas Unedig yn y 12 mis i 31 Mawrth 2016, cafwyd 611,372 o gorfforiadau cwmnïau a 399,736 o ddiddymiadau. O ganlyniad, nifer y cwmnïau ar y gofrestr gyfan – gan gynnwys y rheiny oedd yn y broses o gael eu diddymu neu eu datod (245,080) – oedd 3,678,860, sef cynnydd o 214,704 o gwmnïau (6.2%) o gymharu â 31 Mawrth 2015.

8.4 blynedd oedd oed cyfartalog y cwmnïau ar y gofrestr gyfan yn 2015/2016. Mae oed cyfartalog cwmnïau ar y gofrestr yn gymharol ifanc, gan ostwng yn raddol o 10.7 blynedd yn 2000 i 8.4 blynedd yn 2016.

Ers 2006, cwmnïau cyfyngedig preifat yw mwy na 96% o’r holl fathau o gorff corfforaethol yn gyson. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r tri math mwyaf cyffredin o gorff corfforaethol, sef cwmnïau cyfyngedig preifat, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) a phartneriaethau cyfyngedig wedi aros yn ddigyfnewid, a hwy yw oddeutu 99% o’r holl gyrff corfforaethol bob blwyddyn.

Ar 31 Mawrth 2016, roedd 10,938 o gyrff corfforaethol tramor ar y gofrestr oedd â phresenoldeb ffisegol yn y Deyrnas Unedig. Cyrff corfforaethol wedi’u corffori yn Unol Daleithiau America oedd 22.5% o’r holl gwmnïau tramor.

Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y darperir yr adroddiad ystadegol llawn. Os hoffech weld cyfieithiad Cymraeg o fersiynau o’r adroddiad hwn yn y dyfodol, anfonwch neges e-bost at: statistics@companieshouse.gov.uk.