Correspondence

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Rhifyn 62

Updated 30 January 2019

1. Gwiriwch a diweddarwch manylion eich elusen cyn anfon y ffurflen flynyddol

Cyn y gallwch anfon eich ffurflen flynyddol bydd rhaid i chi wirio bod holl fanylion eich elusen yn gywir ar y gofrestr, a’u diweddaru os oes angen.

Y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi i lenwi eich ffurflen flynyddol bydd y gwasanaeth yn eich arwain trwy gyfres o 6 sgrin i ddangos holl fanylion eich elusen. Bydd rhaid i chi ddiweddaru unrhyw fanylion nad ydynt yn gywir ac yna gallwch anfon eich ffurflen flynyddol.

Gwybod rhagor am y newid hwn a pha wybodaeth sy’n cael sylw yn y gwasanaeth.

Os oes angen cymorth arnoch i baratoi ffurflen flynyddol mae ein canllaw yn esbonio beth y mae’n rhaid i chi wneud.

2. Newidiadau i enwau arddangos cyhoeddus ar y gofrestr elusennau

Fel rhan o’r newidiadau i’n gwasanaethau ar-lein, os yw ymddiriedolwyr presennol wedi defnyddio enw arddangos cyhoeddus ar y gofrestr elusennau, caiff eu henw cyfreithiol llawn ei ddangos i’r cyhoedd o 1 Ebrill 2019, oni bai eu bod yn gwneud cais i’w dileu. Gelwir hyn yn oddefeb.

Gallwn roi goddefeb os oes posibilrwydd y gallai dangos enw cyfreithiol i’r cyhoedd roi’r person neu’r bobl berthnasol mewn perygl personol. Ni chaiff goddefebau eu rhoi’n awtomatig.

Gwybod am y newidiadau i’r enw arddangos a sut i wneud cais am oddefeb.

Os yw ymddiriedolwyr eisoes wedi cael goddefeb i’w henw cyfreithiol beidio â chael eu harddangos i’r cyhoedd ar y gofrestr, caiff hyn ei gadw. Ni fydd angen gwneud cais arall am oddefeb.

3. Ansawdd a thryloywder wedi lleihau mewn cyfrifon elusennau

Yn ein hadolygiad diweddar o gyfrifon elusennau gwelwyd bod ychydig dros hanner o’r elusennau yn bodloni’r gofynion adrodd budd cyhoeddus.

Dim ond 70% o adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr a chyfrifon yn yr adolygiad o adroddiadau cyhoeddus oedd wedi bodloni’r meincnod sylfaenol o ofynion defnyddwyr.

Seiliwyd y meincnod ansawdd ar ymchwil diweddar ar ffydd mewn elusennau a ddangosodd mai ‘sicrhau bod cyfran resymol o roddion yn cyrraedd lle y dylai’ a ‘gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r achos y maent yn gweithio iddo’ oedd y ffactorau pwysicaf ar gyfer ffydd a hyder cyhoeddus mewn elusennau.

Y prif resymau pam nad oedd cyfrifon elusennau yn bodloni’r meincnod sylfaenol oedd:

  • methu â dangos tystiolaeth bod cyfrifon wedi bod yn destun craffu annibynnol gan archwiliwr ariannol neu archwiliwr annibynnol, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith
  • peidio â darparu gwybodaeth ystyrlon ynghylch dibenion neu weithgareddau’r elusen sy’n cael eu cwblhau i gyflawni’r dibenion hynny

Hefyd, dim ond 52% o’r adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr yn yr adolygiad o adroddiadau budd cyhoeddus oedd wedi bodloni’r gofynion adrodd budd cyhoeddus.

Nid yw ymddiriedolwyr yn bodloni’r gofynion i esbonio’r gweithgareddau y mae’r elusen yn ymgymryd â nhw i hyrwyddo ei dibenion er budd y cyhoedd, a darparu datganiad budd cyhoeddus.

Mae’n bwysig eich bod yn esbonio’r gweithgareddau y mae’ch elusen yn ymgymryd â nhw a’r effaith rydych yn ei chael. Rydym am weld yr elusen yn ffynnu, felly mae’n rhaid i elusennau fod yn gliriach ynghylch pwy y maent yn eu helpu a pha wahaniaeth y maent yn ei wneud.

4. Dylai elusennau baratoi ar gyfer Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Ar Werth

Ar gyfer cyfnodau TAW yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, bydd rhaid i’r rhan fwyaf o endidau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW gyda throsiant trethadwy yn uwch na’r trothwy TAW (£85,000) gadw cofnodion digidol ac anfon eu data ffurflen TAW at Gyllid a Thollau EM (HMRC) trwy ddefnyddio meddalwedd sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol.

Yr eithriad yw nifer fach o endidau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW gyda gofynion mwy cymhleth. Ar gyfer y rhain bydd y rheolau Gwneud Treth yn Ddigidol yn gymwys o 1 Hydref 2019. Gallwch chi baratoi trwy:

  • ystyried sut y gallwch chi gadw eich cofnodion yn ddigidol, os nad ydych yn gwneud hynny eisoes
  • gofyn i’ch darparwr meddalwedd pryd y bydd yn gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol os ydych yn defnyddio meddalwedd cyfrifyddu masnachol ar hyn o bryd
  • (ar gyfer elusennau mwy cymhleth) ystyried eich gweithrediadau mewnol er mwyn sicrhau bod eich proseso o ddechrau i’r diwedd yn ddigidol
  • ymuno â chynllun peilot Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth ar Werth cyn gynted â phosibl

Cewch wybod mwy ynghylch Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW ar wefan HMRC. Os oes unrhyw ymholiadau gennych am hyn, cysylltwch â HMRC.

5. Pwysigrwydd diogelu a gwarchod pobl

Mae diogelu yn flaenoriaeth llywodraethu allweddol ar gyfer pob ymddiriedolwr, nid yn unig y rhai sy’n gweithio gyda grwpiau a ystyrir yn draddodiadol yn rhai sydd mewn perygl.

Dylech ddarllen y canllaw ar ddyletswyddau diogelu ymddiriedolwyr elusen a gafodd ei ddiweddaru yn ddiweddar. Fe’ch cynghorwn i gynnal adolygiad trwyadl o drefniadau a pherfformiad llywodraethu a rheoli diogelu eich elusen os na wnaethoch hynny yn y 12 mis diwethaf.

Mae’n bwysig hefyd eich bod yn cysylltu â ni i drafod unrhyw faterion diogelu, neu ddigwyddiadau diogelu difrifol, cwynion neu honiadau nad ydych wedi rhoi gwybod i ni amdanynt cyn hynny.

Gwybod sut i adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn eich elusen fel ymddiriedolwr.

Gwybod sut i adrodd am ddrwgweithredu difrifol mewn elusen fel gweithiwr neu wirfoddolwr.

6. Cadw mewn cysylltiad â ni

O 31 Mawrth 2019 bydd ein cyfeiriadau e-bost yn newid, ni fydd .gsi yn y cyfeiriad mwyach. Byddwn yn diweddaru ein holl gyfeiriadau e bost ar ein gwefan mewn pryd ar gyfer y newid hwn.

Mae ein canolfan gyswllt ar agor 10am - 12 hanner dydd a 1pm - 3pm, Llun - Gwener ar 0300 066 9197. Byddwn yn gallu eich helpu os ydych yn cael problemau technegol gyda’r ffurflen flynyddol, cais i gofrestru neu unrhyw un o’n ffurflenni ar-lein.

Gallwch gofrestru i gael rhybuddion e-bost GOV.UK hefyd. Hon yw’r ffordd symlaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwn ar ein gwefan. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad, a gallwch ddewis pa mor aml yr hoffech chi gael rhybudd.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i ddilyn ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Twitter a LinkedIn. Rhannwn wybodaeth bwysig a diweddariadau yn rheolaidd ar gyfer y sector elusennol.