Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 76: gorchmynion tâl

Diweddarwyd 22 August 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae arwystl a osodir gan orchymyn tâl yn dod i rym fel arwystl ecwitïol (adran 3(4) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979) naill ai:

  • ar yr ystad gyfreithiol, neu
  • ar fudd llesiannol o dan ymddiried tir

Gellir gwarchod gorchymyn tâl sy’n arwystlo’r ystad gyfreithiol trwy gofnodi rhybudd (adran 32 o o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ni ellir gwarchod gorchymyn tâl sy’n arwystlo budd llesiannol o dan ymddiried tir trwy rybudd ond gellir ei warchod trwy gofnodi cyfyngiad (Mae adran 33(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn rhagwahardd cofnodi rhybudd mewn perthynas â budd o dan ymddiried tir). Ni fydd cofnodi rhybudd yn gwarantu dilysrwydd y budd ond, cyn belled â bod y budd yn ddilys, bydd yn gwarchod ei flaenoriaeth at ddibenion adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Gellir gwarchod y gorchymyn tâl interim a’r gorchymyn tâl terfynol trwy gofnodi rhybudd neu gyfyngiad, fel y bo’n briodol.

Fodd bynnag, gall person â budd gorchymyn tâl dros fudd llesiannol mewn tir cofrestredig a ddelir o dan ymddiried tir wneud cais i gofnodi cyfyngiad safonol Ffurf K (adran 42(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rheol 93(k) o Reolau Cofrestru Tir 2003)).

Gall pennu a yw gorchymyn tâl wedi arwystlo’r ystad gyfreithiol ai peidio fod yn gymhleth, fel yr eglurir yn y canllawiau manwl sy’n dilyn. Rhaid ystyried nifer o ffactorau, yn cynnwys ffurf y gorchymyn a wnaed, a ddelir yr eiddo ar ymddiried ar gyfer personau ac eithrio’r perchennog (perchnogion) cofrestredig, ac a yw buddion llesiannol cydberchnogion wedi’u llyffetheirio. Yn aml, ni fydd y gofrestr yn rhoi ateb terfynol i’r cwestiynau hyn, ond bydd rhai cofnodion, yn enwedig cyfyngiadau, yn rhoi dynodiad. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y sefyllfa fel y’i heglurir yn y 2 algorithm isod, er bod yn rhaid ystyried unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd ar gael hefyd.

Algorithm 1: unig berchennog yn gofrestredig

Algorithm 2: cydberchnogion yn gofrestredig

I gael rhagor o wybodaeth am effaith rhybudd neu gyfyngiad a gytunwyd, neu rybudd neu gyfyngiad unochrog, a sut i wneud cais i’w cofnodi neu i’w tynnu ymaith, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr. Gall cwsmeriaid Cofrestrfa Tir EF sydd â chytundeb mynediad i’r rhwydwaith wneud cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog yn electronig. Am na ellir cyflwyno cais i gofnodi cyfyngiad yn electronig oni bai mai’r ceisydd yw’r perchennog cofrestredig, neu ei fod wedi cael caniatâd y perchennog cofrestredig, neu ei fod yn berson sydd â hawl i gael ei gofrestru’n berchennog, byddai’n anarferol i gais i gofnodi cyfyngiad Ffurf K gael ei wneud yn electronig.

2. Pryd y mae gorchymyn tâl yn arwystlo’r ystad gyfreithiol

Mae’n werth dyfynnu geiriau perthnasol adran 2 o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979:

“2 Property which may be charged
(1) …………. a charge may be imposed by a charging order only on—
(a) any interest held by the debtor beneficially—
(i) in any asset of a kind mentioned in subsection(2) below, or
(ii) under any trust; or
(b) any interest held by a person as trustee of a trust (“the trust”), if the interest is in such an asset or is an interest under another trust and—
(i) the judgment or order in respect of which a charge is to be imposed was made against that person as trustee of the trust, or
(ii) the whole beneficial interest under the trust is held by the debtor unencumbered and for his own benefit, or
(iii) in a case where there are two or more debtors all of whom are liable to the creditor for the same debt, they together hold the whole beneficial interest under the trust unencumbered and for their own benefit.
(2) The assets referred to in subsection (1) above are—
(a) land,……………..”

Yn achos cydberchnogion tir, byddant bob amser yn dal yr ystad gyfreithiol fel ymddiriedolwyr ymddiried tir, y gallent hefyd fod yn cael budd ohono, neu beidio. Mae’n bosibl hefyd, er yn llai arferol, i berchennog unigol fod yn ymddiriedolwr.

2.1 Tir a ddelir gan unig berchennog nad yw’n ymddiriedolwr

Bydd gorchymyn tâl a wneir yn erbyn unig berchennog nad yw’n ymddiriedolwr yn arwystlo’r ystad gyfreithiol (adran 2(1)(a)(i) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979).

2.2 Tir a ddelir gan ymddiriedolwr neu ymddiriedolwyr

Yn y sefyllfa hon, ni ellir gwneud gorchymyn tâl o dan adran 2(1)(a)(i) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979 (Clark v Chief Land Registrar [1993] 2 All ER 936 at 943). Yn hytrach, gall y gorchymyn osod arwystl ar fudd llesiannol y dyledwr o dan adran 2(1)(a)(ii) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979, ac yn yr achos hwn ni ellir cofnodi rhybudd, neu gall arwystlo’r ystad gyfreithiol a ddelir gan yr ymddiriedolwr(wyr) o dan adran 2(1)(b) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979.

Mae adran 2(1)(b) yn darparu ar gyfer 3 sefyllfa lle bydd gorchymyn tâl yn erbyn tir a ddelir gan ymddiriedolwr neu ymddiriedolwyr yn dod i rym fel arwystl ar yr ystad gyfreithiol.

  • Os yw’r dyfarniad neu orchymyn sy’n sail i osod yr arwystl wedi’i wneud yn erbyn y perchennog (perchnogion) cofrestredig fel ymddiriedolwr(wyr) yr ymddiried (adran 2(1)(b)(i) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979). (Mae’n anarferol i orchymyn tâl gael ei wneud yn erbyn perchennog (perchnogion) “fel ymddiriedolwr(wyr)”. Anaml y bydd y dyfarniad y mae’r gorchymyn tâl yn ei orfodi yn datgan yn ffurfiol fod y dyfarniad yn erbyn y dyledwyr fel ymddiriedolwyr. Dylai ceisydd sy’n dymuno dibynnu ar adran 2(1)(b)(i) ar gyfer cofnodi rhybudd gynnwys digon o dystiolaeth gefnogol i ddangos bod y dyfarniad wedi’i wneud yn erbyn y perchennog (perchnogion) fel ymddiriedolwr(wyr).)

  • Os gwnaed y gorchymyn tâl yn erbyn dyledwr unigol sy’n unig berchennog llesiannol o dan ymddiried a bod ei fudd llesiannol yn rhydd o lyffethair (adran 2(1)(b)(ii) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979). (Dylai ceisydd am rybudd sy’n dymuno dibynnu ar adran 2(1)(b)(ii) ddarparu tystiolaeth gefnogol ychwanegol (a) bod y perchennog (perchnogion) cofrestredig yn dal y budd ar ymddiried ar ran y dyledwr, (b) mai’r dyledwr yw unig fuddiolwr yr ymddiried ac (c) bod budd llesiannol y dyledwr yn rhydd o lyffethair.)

  • Os gwneir gorchymyn tâl yn erbyn 2 neu fwy o ddyledwyr, sy’n atebol, bob un ohonynt, i’r credydwr am yr un ddyled ac sydd gyda’i gilydd yn dal yr holl fudd llesiannol o dan yr ymddiried yn rhydd o lyffethair er eu budd eu hunain (adran 2(1)(b)(iii) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979). (Mae adran 2(1)(b)(iii) yn gymwys mewn achosion lle delir tir gan gydberchnogion sy’n dal y tir er eu budd eu hunain yn ogystal ag achosion lle delir tir ar ymddiried dros 2 neu fwy o fuddiolwyr a lle gwnaed gorchymyn tâl yn erbyn y buddiolwyr hynny. Os nad y dyledwyr yw’r perchennog (perchnogion) cofrestredig, dylid cyflwyno tystiolaeth i ddangos (a) mai’r perchennog (perchnogion) cofrestredig sy’n dal y budd ar ymddiried ar ran y dyledwyr, (b) mai’r dyledwyr yw’r unig berchnogion llesiannol ac (c) bod eu buddion yn rhydd o lyffethair.)

Noder na fydd arwystl sydd eisoes yn bodoli ar yr ystad gyfreithiol yn atal gorchymyn tâl rhag dod i rym fel arwystl ar yr ystad gyfreithiol gan fod adran 2(1)(b)(ii) a (iii) yn mynnu mai’r budd llesiannol yn hytrach na’r ystad gyfreithiol ddylai fod yn rhydd o lyffethair.

3. Ceisiadau i gofnodi rhybudd

Bydd cais i gofnodi rhybudd mewn perthynas â gorchymyn tâl nad yw’n ymddangos ei fod yn arwystlo’r ystad gyfreithiol yn cael ei wrthod. Wrth benderfynu a yw hyn yn wir ai peidio, bydd y cofrestrydd yn ystyried:

  • yn erbyn pwy y gwnaed y gorchymyn
  • ym mha rinwedd yr ymddengys bod y perchnogion cofrestredig yn dal y tir, fel y dynodir gan unrhyw gyfyngiadau a chofnodion eraill ar y gofrestr (Er enghraifft, bydd y cofrestrydd hefyd yn ystyried unrhyw rybuddiadau yn erbyn deliadau a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925. Rhoddir ystyriaeth i’r budd a hawlir yn y cais gwreiddiol i gofnodi’r rhybuddiad. Os yw’r budd a hawlir yn fudd o dan ymddiried, bydd y cofrestrydd yn bwrw ymlaen fel pe na bai’r budd hwnnw wedi’i warchod gan gyfyngiad.)
  • unrhyw dystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd gyda’r cais

Bydd y camau a roddir ar waith gan y cofrestrydd os ceir cyfyngiad nad yw’n pennu’n derfynol pa un a oes buddion sy’n atal y gorchymyn tâl rhag creu arwystl ar ystad gyfreithiol yn dibynnu ai cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog a wneir fel yr eglurir yn yr adrannau sy’n dilyn.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

3.1 Effaith cyfyngiadau sy’n bodoli

Yn amodol ar unrhyw gofnodion perthnasol eraill yn y gofrestr, os na chofnodir cyfyngiadau yn y gofrestr a bod y gorchymyn tâl wedi’i wneud yn erbyn unig berchennog cofrestredig, neu bob un o’r perchnogion cofrestredig, fel arfer bydd y cofrestrydd yn bwrw ymlaen ar y sail bod y gorchymyn yn arwystlo’r ystad gyfreithiol o dan adran (1)(a)(i) neu adran 2(1)(b)(iii) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979.

Gallai amryw o gyfyngiadau sy’n bodoli ddynodi bod yr ystad gofrestredig yn cael ei dal, neu y gallai fod yn cael ei dal, ar ymddiried ar gyfer trydydd parti, neu y gallai budd llesiannol y dyledwr fod wedi’i lyffetheirio. Ond mae’n annhebygol y gall Cofrestrfa Tir EF benderfynu’n derfynol ar gais i gofnodi rhybudd i warchod gorchymyn tâl pa un a yw hyn yn wir ai peidio, oherwydd hyd yn oed yn achos cyfyngiad sy’n dynodi’n gryf fod y tir wedi’i gadw ar ymddiried ar gyfer trydydd parti, gallai’r ymddiried fod wedi dod i ben, neu wedi newid mewn rhyw ffordd arall, ers cofnodi’r cyfyngiad. Yn yr un modd, nid yw absenoldeb unrhyw gyfyngiad yn y gofrestr yn brawf terfynol nad yw’r tir yn cael ei ddal ar ymddiried ar gyfer trydydd parti – er enghraifft, gallai olygu’n syml fod y perchennog cofrestredig wedi methu â gwneud cais i gofnodi cyfyngiad pan oedd o dan ymrwymiad i wneud hynny (gallai ymrwymiad o’r fath i wneud cais i gofnodi cyfyngiad fod wedi codi o dan reol 94 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Fodd bynnag, os yw cyfyngiad yn dynodi’n gryf fod yr ystad gofrestredig yn cael ei dal, neu y gallai fod yn cael ei dal, ar ymddiried ar gyfer trydydd parti, neu y gallai budd llesiannol y dyledwr fod wedi’i lyffetheirio, bydd cais i gofnodi naill ai rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, yn cael ei wrthod, oni chyflwynir tystiolaeth i’r gwrthwyneb, neu i ddangos bod y gorchymyn yn arwystlo’r ystad gyfreithiol yn rhinwedd adran 2(1)(b)(i) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979. Y rheswm am hyn yw na all y gorchymyn tâl yn y sefyllfa hon fod yn arwystl ar yr ystad gyfreithiol o dan adrannau 2(1)(a)(i) neu 2(1)(b)(iii) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979. Os yw’r cyfyngiad yn dynodi’n fwy amwys, bydd cais i gofnodi rhybudd unochrog yn cael ei dderbyn, ond gallai cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd gael ei ddileu yn absenoldeb tystiolaeth bellach i ddangos nad yw’r gorchymyn tâl yn arwystlo’r ystad gyfreithiol.

3.1.1 Perchennog unigol

3.1.1.1 4.1.1.1 Enghreifftiau o gyfyngiadau a fydd fel arfer, yn absenoldeb tystiolaeth ychwanegol, yn cael eu cymryd fel dynodiad cryf y gallai’r tir fod wedi’i ddal ar ymddiried ar gyfer trydydd parti

  • cyfyngiad safonol Ffurf A
  • cyfyngiad safonol Ffurf B
  • cyfyngiad safonol Ffurf C
  • cyfyngiad safonol Ffurf Q
  • cyfyngiad safonol Ffurf II

3.1.1.2 Enghreifftiau o gyfyngiadau a fydd fel arfer yn cael eu trin fel rhai mwy amwys

  • cyfyngiad safonol Ffurf K

Yn absenoldeb unrhyw gyfyngiad arall i ddynodi y gallai’r tir fod wedi’i ddal ar ymddiried, bydd cyfyngiad safonol Ffurf K a wnaed mewn perthynas â gorchymyn tâl cynharach yn ymwneud â dyled wahanol, gan arwystlo budd y perchennog unigol yn yr eiddo, yn cael ei gymryd fel dynodiad mwy amwys. Efallai bod y credydwr a wnaeth gais am y gorchymyn tâl cynharach yn gwybod bod yr unig berchennog yn dal y tir ar ymddiried ar gyfer trydydd parti ac nad oedd y gorchymyn tâl felly’n creu arwystl ar yr ystad gyfreithiol. Fel arall, efallai bod y credydwr wedi gwneud cais am y cyfyngiad yn syml am nad oedd yn gwerthfawrogi bod y gorchymyn tâl yn arwystlo’r ystad gyfreithiol ac y gellid ei warchod trwy gofnodi rhybudd. Dylid nodi hefyd na fydd cofnodi cyfyngiad Ffurf K mewn perthynas â gorchymyn tâl interim yn atal rhag cofnodi rhybudd mewn perthynas â’r gorchymyn tâl terfynol sy’n ymwneud â’r un ddyled, cyn belled â bod y gorchymyn yn cael ei wneud yn erbyn yr unig berchennog ac nad oes dim arall sy’n dynodi y gallai’r tir fod wedi’i ddal ar ymddiried ar gyfer trydydd parti.

3.1.2 Cydberchnogion

3.1.2.1 Enghreifftiau o gyfyngiadau a fydd fel arfer, yn absenoldeb tystiolaeth ychwanegol, yn cael eu cymryd fel dynodiad cryf y gallai’r tir fod wedi’i ddal ar ymddiried ar gyfer trydydd parti neu y gallai’r buddion llesiannol fod wedi’u llyffetheirio

  • cyfyngiad safonol Ffurf B
  • cyfyngiad safonol Ffurf C
  • cyfyngiad safonol Ffurf K

Os caiff ei gofnodi mewn perthynas â gorchymyn tâl cynharach yn ymwneud â dyled wahanol lle gwnaed y gorchymyn yn erbyn un yn unig o 2 neu fwy o gydberchnogion. Fel arall, os gwnaed y gorchymyn tâl cynharach yn erbyn pob un o’r cydberchnogion, cymerir bod cofnodi cyfyngiad Ffurf K mewn perthynas â’r gorchymyn hwnnw yn rhoi dynodiad mwy amwys. Efallai bod y credydwr a wnaeth gais i gofnodi’r cyfyngiad yn gwybod bod y cydberchnogion yn dal y tir ar ymddiried ar gyfer trydydd parti neu fod y buddion llesiannol wedi’u llyffetheirio, ac nad oedd y gorchymyn tâl felly’n creu arwystl ar yr ystad gyfreithiol. Fel arall, efallai bod y credydwr wedi gwneud cais am y cyfyngiad yn syml am ei fod wedi methu â gwerthfawrogi bod y gorchymyn yn arwystlo’r ystad gyfreithiol ac y gellid ei warchod trwy gofnodi rhybudd. Dylid nodi hefyd na fydd cofnodi cyfyngiad Ffurf K mewn perthynas â gorchymyn tâl interim yn atal rhag cofnodi rhybudd mewn perthynas â’r gorchymyn tâl terfynol sy’n ymwneud â’r un ddyled, cyn belled â bod y gorchymyn wedi’i wneud yn erbyn pob un o’r cydberchnogion a bod dim arall sy’n dynodi neu’n awgrymu y gallai’r tir fod wedi’i ddal ar ymddiried ar gyfer trydydd parti neu y gallai’r buddion llesiannol fod wedi’u llyffetheirio.

  • cyfyngiad safonol Ffurf Q
  • cyfyngiad safonol Ffurf II

3.1.2.2 Enghreifftiau o gyfyngiadau a fydd fel arfer yn cael eu trin fel rhai mwy amwys

  • cyfyngiad safonol Ffurf A

Yn achos cydberchnogion, gallai cyfyngiad safonol Ffurf A ddangos bod y perchnogion cofrestredig yn dal eiddo ar ymddiried ar gyfer trydydd parti. Ond gallai ddynodi’n syml eu bod yn dal y budd llesiannol i gyd iddynt eu hunain fel tenantiaid cydradd yn hytrach na chyd-denantiaid mewn ecwiti, neu na chyflwynwyd tystiolaeth i’r cofrestrydd ynglŷn â’r buddion llesiannol.

Wrth benderfynu sut i warchod gorchymyn tâl yn y gofrestr, mae’n dilyn fod yn rhaid ystyried cofnodion yn y gofrestr a allai ddynodi nad yw’r gorchymyn tâl wedi arwystlo’r ystad gyfreithiol, a’r math o gais y dylid ei wneud er mwyn gwarchod y gorchymyn tâl.

3.2 Penderfynu rhwng gwneud cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog

Ni ellir cofnodi rhybudd a gytunwyd na rhybudd unochrog os nad yw’r budd yn effeithio ar yr ystad gyfreithiol. Wrth gofnodi rhybudd a gytunwyd rhaid i’r cofrestrydd fod yn fodlon hefyd ynglŷn â dilysrwydd cais y ceisydd, oni fo’r cais yn cael ei wneud gan, neu gyda chaniatâd, y perchennog cofrestredig neu berson sydd â hawl i gael ei gofrestru’n berchennog (adran 34(3)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae’r cyfarwyddyd hwn yn cymryd y bydd cais gan gredydwr yn cael ei wneud heb ganiatâd y perchennog. Yng nghyd-destun cais i warchod gorchymyn tâl trwy rybudd a gytunwyd, nid oes angen cydsyniad y perchennog beth bynnag, oherwydd ei fod yn barti yn yr achos llys y gwnaed y gorchymyn tâl ynddo, felly gall y cofrestrydd dderbyn gorchymyn tâl fel tystiolaeth ddigonol o ddilysrwydd budd y credydwr sy’n gwneud cais. Fodd bynnag, golyga hyn fod yn rhaid i’r cofrestrydd fod yn fodlon o hyd bod y gorchymyn tâl yn arwystlo’r ystad gyfreithiol. Gan hynny:

  • os yw cyfyngiad yn dynodi’n gryf y gallai’r eiddo fod wedi’i ddal ar ymddiried ar gyfer trydydd parti neu y gallai’r budd llesiannol fod wedi’i lyffetheirio, bydd y cofrestrydd yn gwrthod y cais pa un a yw’r cofnod ar gyfer rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, oni chyflwynir tystiolaeth ychwanegol gyda’r cais i ddangos bod y gorchymyn tâl yn arwystlo’r ystad gyfreithiol
  • os yw cyfyngiad yn y gofrestr yn awgrymu, ond heb fod yn dynodi’n gryf, y gallai’r eiddo fod wedi’i ddal ar ymddiried ar gyfer trydydd parti neu y gallai’r budd llesiannol fod wedi’i lyffetheirio, yna, oni chyflwynir tystiolaeth ychwanegol fod y gorchymyn tâl yn arwystlo’r ystad gyfreithiol, gall y cofrestrydd gymeradwyo cais i gofnodi rhybudd unochrog mewn perthynas â’r gorchymyn tâl hwnnw ond bydd yn dileu cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd

Os gwneir cais am rybudd unochrog a chaiff ei gofnodi yn y gofrestr, mae gan y perchennog cofrestredig hawl statudol, yn rhinwedd adran 36 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, i wneud cais ar unrhyw adeg i ddileu’r rhybudd, heb roi rheswm dros wneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Mae adran 77(1)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gosod dyletswydd ar geisydd i beidio ag arfer yr hawl i wneud cais i gofnodi rhybudd heb achos rhesymol. Felly, ni ddylai ceisydd wneud cais i gofnodi rhybudd oni bai ei fod yn credu’n rhesymol fod y gorchymyn tâl yn arwystlo’r ystad gyfreithiol.

3.3 Dyledwr nad yw’n berchennog cofrestredig

Os nad y dyledwr y gwnaed y gorchymyn tâl yn ei erbyn yw’r perchennog cofrestredig a lle honnir bod arwystl ar yr ystad gyfreithiol wedi codi o dan adrannau 2(1)(b)(ii) neu (iii) o Ddeddf Gorchmynion Tâl 1979, dylid cyflwyno’r dystiolaeth y cyfeiriwyd ati yn Tir a ddelir gan ymddiriedolwr neu ymddiriedolwyr gyda’r cais i gofnodi rhybudd mewn perthynas â’r gorchymyn tâl. Bydd y cofrestrydd yn ystyried unrhyw gofnodion sy’n bodoli yn y gofrestr, megis cyfyngiadau, wrth benderfynu a yw’r dystiolaeth yn dangos yn ddigon da mai’r dyledwr(wyr) yw unig fuddiolwr neu fuddiolwyr yr ymddiried y delir y tir arno ac a yw’r budd llesiannol wedi’i lyffetheirio ai peidio. Felly, os oes cyfyngiad yn bodoli yn y gofrestr sy’n cyfeirio at fudd llesiannol rhywun ac eithrio’r dyledwr, dylai’r dystiolaeth a gyflwynir ystyried y budd llesiannol hwnnw.

3.4 Gwybodaeth sydd ei hangen gyda’r cais i gofnodi rhybudd

Dylid cyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn tâl gyda’r cais am rybudd a gytunwyd. Nid oes angen cyflwyno copi o’r gorchymyn tâl gyda chais am rybudd unochrog, ond os na wnewch hynny, rhaid ichi gynnwys manylion y llys (neu fanylion Canolfan Hawliadau Ariannol y Llys Sirol), dyddiad y gorchymyn, cyfeirnod llawn y llys a’r partïon ym mhaneli 11 neu 12 ar ffurflen UN1. Os cyflwynir copi o’r gorchymyn tâl bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei ddal fel dogfen gyhoeddus. Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â sut i wneud cais i gofnodi rhybudd.

4. Ceisiadau i gofnodi cyfyngiad Ffurf K

Dylid cyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn tâl gyda chais sy’n defnyddio ffurflen RX1 ar gyfer cofnodi cyfyngiad Ffurf K. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cadw hwn fel dogfen gyhoeddus. Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â sut i wneud cais i gofnodi rhybudd.

Ystyrir bod gan berson sydd â hawl i fudd gorchymyn tâl o ran budd o dan ymddiried hawliau hefyd mewn perthynas ag eiddo’r ymddiried (adran 42(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae rheol 93(k) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cadarnhau bod digon o fudd gan berson o’r fath i wneud cais o dan adran 43(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i gofnodi cyfyngiad Ffurf K. Ni ddylid gwneud cais er mwyn gwarchod, trwy gyfyngiad, blaenoriaeth gorchymyn tâl sydd, neu a allai fod, yn destun rhybudd.

Byddwn yn dileu cyfyngiad safonol ffurf K yn awtomatig ar ôl cydymffurfio ag ef wrth gofrestru trosglwyddiad o’r ystad gofrestredig am gydnabyddiaeth werthfawr (ac eithrio lle bo’r trosglwyddiad i un neu ragor o’r perchnogion presennol). Byddwn yn cymryd yn ganiataol os na fydd y ddyled a sicrhawyd gan y gorchymyn tâl wedi ei thalu, y bydd budd eich cleient wedi dod i ben wrth ohirio budd llesiannol a arwystlwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Os gwneir cais mewn perthynas â gorchymyn tâl sy’n arwystlo budd person nad yw’n un o’r perchnogion cofrestredig, dylid cyflwyno tystiolaeth bod gan y person fudd llesiannol yn yr eiddo.

Os gwnaed gorchmynion ar wahân yn erbyn cydberchnogion cofrestredig yn yr un achos, bydd y gorchmynion yn cael effaith fel arwystl ar fudd llesiannol y perchnogion unigol yn hytrach nag ar y cyd gan greu un arwystl dros yr ystad gyfreithiol. Yn y sefyllfa hon, gellir gwneud cais i gofnodi cyfyngiadau Ffurf K ar wahân mewn perthynas â phob gorchymyn tâl.

5. Achosion tir arfaethedig

Mae cais i’r llys (gan gynnwys un i Ganolfan Hawliadau Ariannol y Llys Sirol) am orchymyn tâl ar yr ystad gyfreithiol yn achos tir arfaethedig, a gellir ei warchod trwy gofnodi rhybudd (adran 87(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 172 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Ni ellir gwarchod cais i’r llys (gan gynnwys un i Ganolfan Hawliadau Ariannol y Llys Sirol) am orchymyn tâl mewn perthynas â budd llesiannol o dan ymddiried yn unig am nad yw’n ymddangos fel pe bai’n achos tir arfaethedig, gan fod y ceisydd yn ceisio gorchymyn tâl dros fudd ar ymddiried ac nid mewn tir (o fewn adran 17(1) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972). Gan nad yw cais i’r llys (gan gynnwys un i Ganolfan Hawliadau Ariannol y Llys Sirol) yn rhoi budd llesiannol i’r ceisydd, ni ellir gwarchod cais o’r fath trwy gyfyngiad.

Y dystiolaeth arferol fydd ei hangen i gefnogi cais am rybudd a gytunwyd fydd copi ardystiedig o’r ffurflen gais ac unrhyw lythyr i’r llys neu Ganolfan Hawliadau Ariannol y Llys Sirol ynghyd â sicrwydd ysgrifenedig y gwnaed y cais.

Dylai’r sawl sy’n gwneud cais i gofnodi rhybudd unochrog gadarnhau yn y ffurflen UN1 manylion byr yn ymwneud â gwneud y cais am y gorchymyn tâl i’r llys neu Ganolfan Hawliadau Ariannol y Llys Sirol, a’r dyddiad y gwnaed y cais.

6. Dileu a thynnu ymaith rhybuddion o’r gofrestr

Gweler adran 2.7 o gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Yng nghyd-destun dileu rhybuddion a gytunwyd, y dystiolaeth addas i’w hamgáu gyda ffurflen CN1 yw un o’r canlynol.

  • Gorchymyn llys yn rhyddhau’r gorchymyn tâl.

  • Derbynneb am dalu’r arian a sicrhawyd. Gellir cymeradwyo hyn ar gopi o’r gorchymyn tâl. Rhaid i statws y llofnodwr fod yn glir.

  • Rhyddhad – gall hwn fod ar ffurflen DS1 wedi ei newid yn addas.

  • Lle mai’r credydwr gwreiddiol yw’r ceisydd, datganiad wedi ei lofnodi gan y ceisydd neu ei gyfreithiwr:

    • yn tynnu sylw’n glir at y rhybudd a gytunwyd mewn perthynas â’r gorchymyn tâl, ac
    • yn nodi bod yr holl arian a sicrhawyd gan y gorchymyn wedi ei dalu i’r ceisydd.
  • Os nad oes derbynneb neu ryddhad wedi eu llofnodi gan y credydwr gwreiddiol, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth briodol o aseinio’r ddyled. Gallai hyn fod, er enghraifft:

    • yn gopi ardystiedig o’r ddogfen aseinio

    • yn gopi ardystiedig o’r rhybudd o’r aseinio a roddwyd i’r perchennog cofrestredig sy’n ddyledwr.

7. Dileu a thynnu ymaith cyfyngiadau o’r gofrestr

Gweler adran 3.7 o gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Ar gyfer ceisiadau i ddileu cyfyngiad, bydd angen ichi amgáu’r dystiolaeth a nodir uchod ar gyfer dileu rhybudd a gytunwyd.

Fel rheol, byddwn yn dileu cyfyngiad Ffurf K ar drosglwyddiad am werth heb gais, unwaith y cydymffurfir â’r gofyniad am y dystysgrif (gweler adran 3.7.5 o gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud hyn os yw’n ymddangos y gallai arian fod wedi ei dalu am gyfran lesiannol yn yr eiddo.

8. Aseinio dyfarniad

Efallai bydd buddiolwr dyfarniad arian yn aseinio budd y dyfarniad hwnnw i drydydd parti. Os yw, bydd yr aseiniad hefyd yn trosglwyddo budd unrhyw:

  • gais am orchymyn tâl sy’n aros i’w brosesu, a/neu
  • orchymyn tâl presennol sy’n sicrhau’r symiau sy’n ddyledus.

Bydd y ceisiadau sy’n angenrheidiol i adlewyrchu hyn ar y gofrestr yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

8.1 Rhybudd a gytunwyd ar y gofrestr

Nid yw cofnod rhybudd a gytunwyd yn nodi buddiolwr y budd a warchodir gan y rhybudd. Mae’r cofnod yn cofnodi manylion y ddogfen neu’r gweithredu a arweiniodd at y budd a nodwyd yn unig. O ganlyniad, ni allwn dderbyn cais i ddiweddaru’r rhybudd os yw’r buddiolwr yn newid.

8.2 Rhybudd unochrog ar y gofrestr

Gweler adran 2.8.2 o gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Un o’r canlynol yw’r dystiolaeth bod y budd a hawlir wedi breinio yn y ceisydd:

  • tystysgrif gan drawsgludwr ym mhanel 11 ffurflen UN3 yn rhoi manylion yr aseiniad
  • copïau ardystiedig o’r dogfennau sy’n peri’r aseiniad, neu
  • datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol yn rhoi manylion yr aseiniad honedig ac sy’n atodi unrhyw dystiolaeth gefnogol

Pan fo’r rhybudd unochrog yn ymwneud ag achos tir arfaethedig, dylai tystysgrif y trawsgludwr neu dystiolaeth arall ddangos hefyd bod yr aseinai wedi cymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol o dan y Rheolau Trefniadaeth Sifil yn lle’r aseiwr neu wedi ymuno fel parti yn yr achos (yn ôl y digwydd).

8.3 Cyfyngiad Ffurf K

Dylai naill ai:

• buddiolwr presennol y cyfyngiad Ffurf K wneud cais i’w dynnu’n ôl gan ddefnyddio ffurflen RX4

• yr aseinai wneud cais i’w ddileu gan ddefnyddio ffurflen RX3

a dylai’r aseinai wneud cais gan ddefnyddio ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad Ffurf K newydd gan gynnwys ei fanylion cyswllt.

Os nad yw hynny’n ymarferol, mae’n bosibl bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried arfer y disgresiwn statudol i addasu’r cyfyngiad. Gweler adrannau 3.9.2 a 3.9.3 gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr am fanylion pellach.

8.4 Diweddariadau eraill

I gael arweiniad ar gadw cofnodion yn gyfredol ac eithrio dilyn aseiniad, gweler adrannau 2.8.2 a 3.8 o gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

9. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.