Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf

Diweddarwyd 8 April 2019

Applies to England and Wales

Sylwer bod Cyfarwyddiadau Ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf yn fath o warchod ar gyfer buddion sy’n effeithio ar dir digofrestredig. Ei effaith yw ei gwneud yn ofynnol i Gofrestrfa Tir EF roi i’r sawl sydd wedi gwneud cais am y rhybuddiad – y rhybuddiwr – rybudd o gais am gofrestriad cyntaf yr ystad gyfreithiol y mae’r rhybuddiwr yn honni y mae’n cael ei effeithio gan fudd y mae ganddo hawl iddo (a chais am gofrestriad cyntaf o rai ystadau eraill).

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw cofrestr o rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf, gyda chofrestr rhybuddiad unigol (a rhif teitl rhybuddiad) ar gyfer pob rhybuddiad. Mae pob cofrestr rhybuddiad unigol yn cynnwys:

  • cofrestr eiddo rhybuddiad
  • cofrestr y rhybuddiwr.

Mae cofrestr eiddo rhybuddiad yn cynnwys:

  • disgrifiad o’r ystad gyfreithiol y mae’r rhybuddiad yn berthnasol iddo – mewn geiriau eraill, yr ystad gyfreithiol y mae’r ceisydd yn honni ei fod yn berchen arno neu y mae’n honni ddo gael budd
  • disgrifiad o’r tir o dan sylw
  • datganiad o hawliad y rhybuddiwr a gymrwyd naill ai o ddatganiad statudol neu dystysgrif trawsgludwr
  • disgrifiad o unrhyw dir a dynnwyd o ardal y rhybuddiad
  • lle bo’n briodol, cofnod yn datgan y cafodd y rhybuddiad ei gyflwyno’n wreiddiol o dan adran 53 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925

Mae cofrestr y rhybuddiwr yn cynnwys:

  • enw’r rhybuddiwr ynghyd â chyfeiriad(au) ar gyfer cyflwyno rhybudd
  • enwau unrhyw rai sydd wedi cydsynio i gyflwyno’r rhybuddiad o dan reol 47 o Reolau Cofrestru Tir 2003

2. Cofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf

2.1 Pwy sy’n gallu gwneud cais

Effaith adran 15 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yw y gall unrhyw un sy’n hawlio bod yn berchennog (un o’r ystadau cyfreithiol canlynol):

  • ystad mewn tir
  • rhent-dâl
  • rhyddfraint
  • proffid à prendre mewn gros

neu fod â hawl i fudd sy’n effeithio ar un o’r ystadau cyfreithiol hynny, gyflwyno rhybuddiad yn erbyn y cofrestriad cyntaf o deitl i’r ystad honno. Cyfeirir at yr ystadau cyfreithiol hyn fel “ystadau cymwys” yn y rhan o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 sy’n delio â rhybuddiadau. Gellir arfer yr hawl i gyflwyno rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf trwy gais.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi na all perchennog ystad rydd-ddaliol mewn tir (gan gynnwys rhydd-ddaliad a gafwyd trwy feddiant gwrthgefn), neu ystad brydlesol mewn tir a roddwyd am gyfnod y mae dros 7 mlynedd ohoni ar ôl, wneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Ni chaniateir rhybuddiad yn y sefyllfaoedd hyn oherwydd y gwaharddiad yn adran 15(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Y ffurf gywir o warchod ar gyfer perchennog ystad mewn tir yw gwneud cais am gofrestriad cyntaf o’i deitl.

Mae’n dilyn na all yr ymddiriedolwr mewn methdaliad unig berchennog ystad gyfreithiol mewn tir wneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Bydd yn rhaid breinio’r ystad gyfreithio ynddo.

Nid oes modd darparu rhestr gynhwysfawr o’r holl fuddion y gellir eu gwarchod gyda rhybuddiad – cyfeirir at y buddion hyn yn y cyfarwyddyd ymarfer hwn fel “buddion rhybuddiadwy”. Fel canllaw cyffredinol, mae unrhyw fater y gellir ei gofrestru fel pridiant tir, p’un a yw wedi cael ei gofrestru felly neu beidio, yn fudd rhybuddiadwy. Byddai hyn yn cynnwys contract ystad, opsiwn, arwystl ecwitïol, cyfamod cyfyngol, gweithrediad tir sy’n aros i’w brosesu o fewn ystyr Deddf Pridiannau Tir 1972 a gorchymyn arwystlo. Yn ogystal, mae hawliau eiddo fel hawddfraint, boed yn gyfreithiol neu’n ecwitïol (gan gynnwys hawddfreintiau trwy bresgripsiwn), a budd llesiannol o dan ymddiriedolaeth tir yn fuddion rhybuddiadwy.

Ar y llaw arall, ni ellir gwneud cais ar y sail eich bod yn fuddiolwr gweddilliol, oni bai bod yr ystad wedi cael ei gweinyddu’n llawn a’r gweddill net wedi ei gyfrifo: nid oes unrhyw fudd perchnogol gan fuddiolwr o’r fath. Byddwn yn derbyn cais gan gymynedig penodol, er y dylech nodi adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, isod.

Os yw cofrestriad cyntaf gorfodol wedi cael ei gychwyn ac ni wneir cais am gofrestriad cyntaf o fewn y cyfnod penodedig (2 fis oni bai bod dyddiad hwyrach yn cael ei nodi ar gyfer cais arbennig mewn gorchymyn gan y cofrestrydd), yna os mai trosglwyddiad oedd wedi ei gychwyn, bydd y teitl cyfreithiol yn dychwelyd i’r trosglwyddwr a fydd yn dal y rhydd-ddaliad ar ymddiriedaeth ar gyfer y trosglwyddai; os mai rhoi prydles oedd wedi ei gychwyn, bydd gan y rhoddai gontract ystad yn unig (adran 7(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Felly mae’n ymddangos y gallai’r trosglwyddai neu’r rhoddai gyflwyno rhybuddiad ar y cam hwnnw; bydd budd ganddynt sy’n effeithio ar ystad rydd-ddaliol neu brydlesol mewn tir, yn hytrach na pherchnogaeth o’r ystad. Fodd bynnag, wrth gwrs, ni fydd hyn yn rhoi ystad gyfreithiol iddynt, felly nid yw’n dewis arall boddhaol yn lle cofrestru.

Sylwer, ni all rhywun arfer yr hawl i gyflwyno rhybuddiad heb achos rhesymol; mae arno’r ddyletswydd hon i unrhyw un sy’n dioddef niwed o ganlyniad i gamweithredu: adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Felly gall rhywun a effeithir yn niweidiol ddod ag achos dros gael iawndal.

2.2 Ffurf y cais

Rhaid ichi ddefnyddio ffurflen CT1 i wneud cais i gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Mae hon ar gael o ddogfenwyr cyfreithiol hefyd.

Panel 1: Rhowch yr awdurdod y byddech yn talu’r dreth gyngor neu ardrethi busnes ar gyfer yr eiddo iddo fel rheol.

Panel 2: Rhowch gyfeiriad, gan gynnwys cod post, y tir y mae’r rhybuddiad yn berthnasol iddo. Os nad oes unrhyw gyfeiriad, bydd disgrifiad cyffredinol fel ‘tir ar ochr ogleddol Ffordd Llundain, Tredderi’ yn gwneud y tro.

Panel 3: Rhaid dangos ardal y tir y mae’r rhybuddiad yn berthnasol iddo ar gynllun atodedig neu raid cyfeirio at y cyfeiriad a nodir ym mhanel 2: mae’r ail ddewis ar gael dim ond os yw’r cyfeiriad wedi cael ei roi ym mhanel 2 a cheir ffens o amgylch y tir neu nodweddion terfyn tebyg. Pa bynnag un a ddewisir, rhaid i’r stent gael ei nodi’n eglur ar yr argraffiad cyfredol o fap Arolwg Ordnans (rheol 42 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Byddwn yn gwrthod y cais os na allwn nodi stent y tir.

Panel 4: Rhowch y ffi daladwy yn unol â’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Panel 5: Rhowch enw’r rhybuddiwr – nid y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais ar ei ran. Rhaid i’r rhybuddiwr fod yn rhywun cyfreithiol, fel unigolyn neu gorff corfforaethol. Fodd bynnag, er nad yw partneriaeth yn rhywun cyfreithiol, gellir cyflwyno rhybuddiad yn enw cwmni. Os yw’r rhybuddiwr yn gwmni, rhaid ichi gynnwys rhif cofrestredig y cwmni.

Panel 6: Cwblhewch gyda manylion y sawl sy’n anfon y cais atom – trawsgludwr fel arfer.

Panel 7: Rhowch fanylion yr ystad gymwys – a fydd yn rhydd-ddaliad, prydles arbennig, rhent-dâl, rhyddfraint neu broffid à prendre mewn gros. Ym mhob achos heblaw lle bo’r ystad yn ystad rydd-ddaliol mewn tir, rhowch fanylion llawn yr ystad, gan gynnwys dyddiad, natur a phartïon yr offeryn trwy’r hwn y crëwyd yr ystad, os ydych yn eu gwybod. Hefyd, os yw’r ystad yn brydles, rhowch hyd cyfnod y brydles; os yw’r ystad yn rhent-dâl, rhowch y swm; os yw’r ystad yn rhyddfraint neu’n broffid a prendre, rhowch natur y rhyddfraint neu’r proffid.

Os bydd mwy nag un ystad gymwys, rhaid ichi wneud ceisiadau ar wahân ar ffurflen CT1, a thalu ffi ar gyfer pob un o’r ystadau.

Gallai rhywun sydd â phrydles gyfreithiol gyda 7 mlynedd neu lai ar ôl arni roi fel yr ystad gymwys naill ai’r ystad rifersiwn neu ei ystad brydlesol. Gan fod y mater yn debygol o ymwneud â chofrestru’r ystad rifersiwn, mae’n ymddangos y byddai’n fwy priodol i nodi manylion yr ystad honno fel yr ystad gymwys (er, fel yr esbonnir yn Effaith rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, dylai Cofrestrfa Tir EF roi rhybudd i’r rhybuddiwr am unrhyw gais am gofrestriad cynnar o deitl i’r rifersiwn hyd yn oed os yw’r ystad gymwys yn ystad brydlesol y rhybuddiwr).

Panel 8: Caiff pob rhybuddiwr roi hyd at 3 chyfeiriad ar gyfer gohebu, a rhaid i un ohonynt fod yn gyfeiriad post ond nid oes rhaid iddo fod yn y DU. Gall y lleill fod yn gyfuniad o gyfeiriadau post, boed yn y DU neu beidio, rhifau blwch mewn cyfnewidfa ddogfennau (DX) yn y DU neu gyfeiriadau electronig (rheol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Panel 9: Hunaniaeth y sawl sy’n gwneud y datganiad o wirionedd. Llenwch y blwch priodol yn dibynnu ar bwy sy’n gwneud y datganiad, y rhybuddiwr neu rywun ar ei ran, neu drawsgludwr sy’n gweithredu dros y rhybuddiwr. Dim ond un o’r blychau dylid ei lenwi. Pan fyddwch yn llenwi’r blwch, dylech gynnwys enw llawn y sawl sy’n gwneud y datganiad o wirionedd.

Panel 10: Llenwch y datganiad o wirionedd gyda manylion byr trwy nodi natur budd y rhybuddiwr yn yr ystad gymwys fel y nodir ym mhanel 7. Er enghraifft:

  • “trwy fod â budd opsiwn i brynu’r eiddo yn unol â Chytundeb a wnaed rhwng…a dyddiedig…”

  • “fel hawliwr mewn achos yn Adran Siawnsri yr Uchel Lys Cyfiawnder, A yn erbyn B, Achos Rhif… lle mae’r hawliwr yn hawlio teitl i (neu fudd yn) y tir”

  • ‘“fel morgeisai ecwitïol o dan arwystl a wnaed gan… o blaid…dyddiedig…”

  • “y sawl sydd â budd o hawl tramwy dros y tir y mae’r rhybuddiad yn berthnasol iddo [wedi ei roi mewn Gweithred Rhoi a wnaed rhwng…a dyddiedig…]”

Fel rheol bydd modd datgan natur budd y rhybuddiwr mewn un neu ddwy linell yn unig. Sylwer, caiff yr hyn a ysgrifennir yn y panel hwn ei ddefnyddio air am air yn y gofrestr.

Rhaid i’r sawl sy’n gwneud y datganiad – boed y rhybuddiwr, rhywun sy’n gwneud y datganiad ar ran y rhybuddiwr neu drawsgludwr yn gweithredu dros y rhybuddiwr – ei lofnodi ar waelod y panel a phrintio ei enw llawn ac ychwanegu’r dyddiad.

Ni ddylid atodi unrhyw ddogfennau sy’n cefnogi’r datganiad o wirionedd i ffurflen CT1 neu eu cyflwyno fel arall. Rhaid i natur budd y rhybuddiwr gael ei nodi yn y datganiad ei hun; ni ddylai fod angen cyfeirio at ddogfennau eraill i gael y wybodaeth hon. Er enghraifft, nid yw datganiad sy’n datgan bod budd gan y rhybuddiwr yn yr ystad ‘fel y nodir yn y ddogfen atodedig’ neu ‘fel y nodir mewn gohebiaeth â Chofrestrfa Tir EF’ yn dderbyniol a chaiff y cais ei wrthod.

Panel 11: Rhaid i’r ceisydd neu ei drawsgludwr lofnodi a dyddio’r ffurflen (hyd yn oed os ydynt wedi llofnodi a dyddio panel 10).

Panel 12: Rhaid nodi enwau a llofnodion unrhyw un sy’n cydsynio i gyflwyno’r rhybuddiad yma.

Sylwer: Ni all rhywun sydd wedi cydsynio yn ysgrifenedig ym mhanel 12 neu mewn unrhyw ddogfen arall a roddir gerbron y cofrestrydd, wneud cais wedi hynny i ddileu’r rhybuddiad o dan adran 18(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 oni bai bod un o’r eithriadau o dan reol 46 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn berthnasol.

2.3 Effaith rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf

Nid oes gan rybuddiad “unrhyw effaith ar ddilysrwydd neu flaenoriaeth unrhyw fudd y rhybuddiwr” yn yr ystad gymwys (adran 16(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yn hytrach, ei effaith yw ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd roi rhybudd i’r rhybuddiwr o, ac o’i hawl i wrthwynebu, unrhyw gais a wneir am gofrestriad cyntaf sy’n “berthnasol” i’r ystad gymwys (adran 16(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Sylwer, bydd Cofrestrfa Tir EF yn cyflwyno rhybudd ar y rhybuddiwr pan fydd yn derbyn unrhyw gais am gofrestriad cyntaf yr ystad gymwys neu’n derbyn cais am gofrestriad cyntaf uwch-ystad neu is-ystad i’r ystad gymwys. Er enghraifft, lle bo’r ystad gymwys yn ystad les-ddaliol, caiff rhybudd ei gyflwyno pan dderbynnir cais i gofrestru ystad rydd-ddaliol. Fodd bynnag, ni chaiff rhybudd ei gyflwyno os yw’n amlwg bod y cofrestrydd yn cofrestru ystad a roddwyd o is ystad gofrestredig. Er enghraifft, unwaith eto lle bo’r ystad gymwys yn ystad les-ddaliol, ni chyflwynir rhybudd ar gais i gofrestru prydles neu broffid à prendre mewn gros o’r hyn sydd erbyn hyn yn is-brydles gofrestredig. Ni chyflwynir rhybudd os yw’r cais am gofrestriad cyntaf o ryddfraint berthynol oni bai bod yr ystad gymwys yn rhyddfraint sy’n ymwneud â’r un pwnc – er enghraifft, mae’r ddau yn ymwneud â hawliau i gynnal marchnadoedd.

Yn aml ni wrthwynebir y ceisydd am gofrestriad cyntaf yn cael ei gofrestru fel perchennog, ond yn hytrach gwrthwynebu cofrestru heb i unrhyw gofnod gael ei wneud yr un pryd mewn perthynas â’r budd a hawlir gan y rhybuddiwr. Felly, er enghraifft, efallai y bydd y rhybuddiwr am sicrhau bod hawl tramwy yn ddarostyngedig i rybudd yn y teitl cofrestredig newydd. Fodd bynnag, nid oes rhaid i’r budd a hawlir fod yn un a all gael ei warchod yn y gofrestr pan gaiff y teitl i’r ystad gymwys ei gofrestru – er enghraifft, byddai prydles am gyfnod o flwyddyn yn fudd rhybuddiadwy.

2.4 Rhybuddiadau a deliadau â thir cyn cwblhau cofrestriad cyntaf

Weithiau, bydd angen delio eto ag ystad ddigofrestredig mewn tir sydd erbyn hyn yn ddarostyngedig i gofrestriad cyntaf gorfodol oherwydd trosglwyddiad cyn bod y trosglwyddai (trosglwyddai A) wedi gwneud cais i gofrestru. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd Deddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys i’r deliad neu’r deliadau diweddarach fel pe bai’r ystad eisoes wedi ei chofrestru (rheol 38 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Dylai’r sawl y mae’r ystad yn cael ei throsglwyddo iddo (trosglwyddai B) neu y mae prydles neu arwystl yn cael ei roi iddo, ei gwneud yn ofynnol i drosglwyddai A wneud cais am gofrestriad cyntaf o dan adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a dylai gyflwyno ei gais ei hun (ar ffurf AP1) yr un pryd neu’n ddiweddarach. Mae dewis arall gan drosglwyddai B, sef yn syml iawn i wneud cais am gofrestriad cyntaf ei hun. Mae hyn oherwydd bod adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu i’r cais gael ei wneud gan yr olynydd yn nheitl perchennog yr ystad a oedd yn gyfrifol i’w wneud yn gyntaf. Yn yr un modd, os yw trosglwyddai A wedi rhoi arwystl sy’n forgais cyntaf, mae dewis arall gan y morgeisai hefyd, sef gwneud cais i gofrestru’r tir yn enw’r morgeisiwr ac i’r morgais gael ei gofrestru fel arwystl (adran 6(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 21 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn y cyfamser, byddai’n ymddangos na all unrhyw un ohonynt – boed yn drosglwyddai B, prydlesai neu arwystlai – wneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, oherwydd byddant i gyd yn berchen ar ystad gyfreithiol.

Fodd bynnag, os nad oes cofrestriad cyntaf, yna ar ddiwedd y cyfnod penodedig ar gyfer cofrestru byddai’n ymddangos bod trosglwyddai B, y prydlesai a’r arwystlai yn colli eu teitl cyfreithiol yn yr un modd ag y byddai trosglwyddai A yn colli ei deitl. Gall trosglwyddai B ddal y budd llesiannol yn yr ystad ddigofrestredig mewn tir a fyddai fel arall yn cael ei ddal gan drosglwyddai A o ganlyniad i adran 7(2)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Byddai’n ymddangos y gall budd y prydlesai neu’r arwystlai fod yn un sy’n effeithio ar fudd llesiannol trosglwyddai A (neu drosglwyddai B) yn unig. Er bod lle i ddadlau ynghylch hawl trosglwyddai B, y prydlesai a’r arwystlai i gyflwyno rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, derbyniwn geisiadau am rybuddiadau yn yr amgylchiadau hyn.

Os yw ystad ddigofrestredig mewn tir erbyn hyn yn ddarostyngedig i gofrestriad cyntaf gorfodol oherwydd bod prydles wedi ei rhoi, gall y tenant, fel trosglwyddai, ddelio â’r brydles cyn iddi gael ei chofrestru. Mae’n ymddangos bod y sefyllfa hon yn adlewyrchu’r sefyllfa lle mai trosglwyddiad sydd wedi ei gychwyn, heblaw os na fu cofrestriad cyntaf erbyn diwedd y cyfnod penodedig ar gyfer cofrestru, mae’n ymddangos y byddai gan aseinai (sy’n cyfateb i drosglwyddai B), fel (is)-brydlesai neu arwystlai, fudd sy’n effeithio ar gontract ystad yr aseinai yn unig sy’n codi o adran 7(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Unwaith eto, er bod y sefyllfa gyfreithiol gywir yn aneglur, derbyniwn geisiadau am rybuddiadau yn yr amgylchiadau hyn.

Mae’r cymhlethdod a’r ansicrwydd hyn yn golygu bod methu â gwneud cais am gofrestriad cyntaf o ystad yn unol â’r ddyletswydd o dan adran 6 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gallu creu risgiau difrifol i’r rhai sy’n prynu’r eiddo neu sy’n cymryd budd ynddo, a gallai achosi oedi ac anhawster gyda deliadau dilynol. Felly, cynghorwn yn gryf fod y cais angenrheidiol am gofrestriad cyntaf yn cael ei wneud mewn digon o amser.

3. Dileu rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf

Mae modd gwneud cais i ddileu teitl rhybuddiad, sydd i bob pwrpas yn agor y ffordd i gofrestriad safonol.

3.1 Pwy sy’n gallu gwneud cais

Gall naill ai perchennog yr ystad gymwys neu berchennog ystad gyfreithiol sy’n dod o’r ystad honno (fel prydlesai neu arwystlai), wneud cais i ddileu’r teitl rhybuddiad (adran 18(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 45 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Ni all rhywun sydd wedi cydsynio â rhybuddiad, neu berson sy’n cael teitl gan rywun a gydsyniodd trwy weithredu’r gyfraith, wneud cais i’w ddileu oni bai naill ai:

  • bod y budd perthnasol wedi dod i ben
  • ei fod yn hawlio i’r cydsynio gael ei beri trwy dwyll, camliwio, camgymeriad neu ormod o ddylanwad, neu gael ei roi o dan orfodaeth

(adran 18(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 46 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

3.2 Ffurf y cais

Rhaid ichi ddefnyddio ffurflen CCT wrth wneud cais i ddileu teitl rhybuddiad. Mae ar gael o ddogfenwyr cyfreithiol hefyd.

Nid oes unrhyw daliad am wneud y cais hwn.

Os yw’r cais i ddileu rhan yn unig o’r teitl rhybuddiad, rhaid bod digon o fanylion gyda’ch cais trwy gynllun, neu fel arall, i ganiatáu dynodi’r ardal ar fap yr Arolwg Ordnans (rheol 44(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Caiff hyn ei drin ym mhanel 8 o’r ffurflen.

Llenwch banel 9 i ddangos sut mae gan geisydd y dileu yr hawl i wneud cais. Rhaid i’r dystiolaeth y cyfeirir ati yn y panel hwn fod ar ffurf ddogfennol yn dangos teitl, yn unol â darpariaethau adran 44 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Os nad oes modd gwneud hyn, er enghraifft os ydych yn hawlio bod y teitl dogfennol ar goll, yna dylech esbonio’r amgylchiadau’n llawn fel bod modd ystyried y mater.

Os ydych yn ateb ‘Ydy’ i banel 10, rhaid ichi gyflenwi’r dystiolaeth angenrheidiol fel y manylir yn y panel hwn. Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonwch atom gyda cheisiadau sydd eu hangen arnom. Pan fyddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonwch atom, cânt eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

3.3 Beth sy’n digwydd pan gaiff y cais ei wneud

Ar yr amod bod y cais yn dderbyniol, byddwn yn rhoi rhybudd i’r rhybuddiwr a chaiff y cais ei ddal heb ei benderfynu am y cyfnod rhybuddio penodedig, a dros y cyfnod hwnnw gall y rhybuddiwr arfer ei hawl i wrthwynebu’r cais (adran 18(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Dim ond y rhybuddiwr all wrthwynebu (adran 73(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Y cyfnod rhybudd penodedig yw 15 diwrnod gwaith neu gyfnod hwy fel y gall y cofrestrydd ei ganiatáu yn dilyn cais gan y rhybuddiwr (rheol 53 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os nad yw’r rhybuddiwr wedi arfer ei hawl i wrthwynebu cyn bod y cyfnod rhybudd penodedig yn dod i ben, caiff y teitl rhybuddiad ei ddileu (adran 18(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Os yw’r rhybuddiwr yn gwrthwynebu’r cais, byddwn yn rhoi’r manylion i’r ceisydd. Ni all y cofrestrydd benderfynu’r cais nes bydd y gwrthwynebiad wedi cael ei benderfynu (adran 73(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

3.4 Cwblhau

Lle bo’r cais yn llwyddiannus, byddwn yn eich hysbysu ein bod wedi ei gwblhau ac wedi dileu’r teitl rhybuddiad (neu ran ohono). Lle bo rhan yn unig o’r teitl rhybuddiad wedi ei dileu byddwn yn amgáu’r copïau diweddaraf o’r gofrestr a’r cynllun rhybuddiad.

Ar yr un pryd, byddwn yn gwahodd perchennog yr ystad i wneud cais am gofrestriad cyntaf o’r ystad.

4. Tynnu rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf yn ôl

4.1 Pwy sy’n gallu gwneud cais

Gall y rhybuddiwr wneud cais i dynnu ei rybuddiad yn ôl unrhyw bryd (adran 17 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Fel arfer gall hyn fod oherwydd:

  • nid yw mwyach yn dal y budd yn yr ystad y mae’r rhybuddiad yn berthnasol iddi
  • ei fod yn fodlon bod ei fudd wedi ei warchod yn ddigonol mewn rhyw ffordd arall
  • bod cais am gofrestriad cyntaf yn cael ei wneud ac nad yw am ei arafu
  • ei fod yn gwneud cais am gofrestriad safonol ei hun

4.2 Ffurf y cais

Rhaid ichi ddefnyddio ffurflen WCT wrth wneud cais i dynnu rhybuddiad yn ôl. Mae ar gael o ddogfenwyr cyfreithiol hefyd.

Nid oes unrhyw daliad am wneud y cais hwn.

Dim ond y rhybuddiwr all wneud cais i dynnu’r rhybuddiad yn ôl. Os yw’r rhybuddiwr wedi marw, rhaid i’r cynrychiolwyr personol wneud cais yn gyntaf i’w cofrestru yn lle’r rhybuddiwr o dan reol 51 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gallant wedyn wneud cais fel rhybuddiwr i dynnu’r rhybuddiad yn ôl.

Os mai rhan yn unig o’r teitl rhybuddiad sy’n cael ei thynnu’n ôl bydd yr ail ddewis ym mhanel 8 yn berthnasol a rhaid ichi roi manylion, trwy gynllun neu fel arall, i alluogi dynodi stent y rhan honno yn eglur ar fap yr Arolwg Ordnans.

4.3 Beth sy’n digwydd pan gaiff y cais ei wneud

Ni fyddwn yn anfon rhybudd at y rhybuddiwr fel rheol:

  • lle cafodd ei gyflwyno gan drawsgludwr, neu
  • lle daw gyda chais am gofrestriad cyntaf ac mae’r rhybuddiwr yn cael ei gofrestru fel perchennog oherwydd y cais am gofrestriad cyntaf. Mae hyn yn berthnasol os cyflwynwyd y rhybuddiad gan drawsgludwr neu beidio

Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anfon rhybudd at y rhybuddiwr:

  • lle na chyflwynwyd cais, heb fod gyda chais am gofrestriad cyntaf, gan drawsgludwr, neu
  • mewn unrhyw achos arall lle bo’r cofrestrydd yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol (rheol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os bydd rhybudd yn cael ei roi, byddwn yn caniatáu’r cyfnod rhybuddio penodedig o dan reol 197 o Reolau Cofrestru Tir 2003 i’r rhybuddiwr wrthwynebu’r cais. Os derbyniwn wrthwynebiad i’r cais oddi wrth y rhybuddiwr byddwn yn rhoi’r manylion ichi. Ni all y cofrestrydd benderfynu’r cais nes bydd y gwrthwynebiad wedi cael ei benderfynu (adran 73(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.4 Cwblhau

Lle bo’r cais yn llwyddiannus, byddwn yn eich hysbysu ein bod wedi ei gwblhau a chaiff y teitl rhybuddiad ei dynnu’n ôl. Lle tynnwyd rhan yn unig o’r teitl rhybuddiad yn ôl, byddwn yn amgáu copïau diweddaraf o’r gofrestr a’r cynllun rhybuddiad.

5. Gwneud cais i newid y gofrestr rhybuddiad

5.1 Pryd y bydd modd newid y gofrestr rhybuddiad

Gall y cofrestrydd newid y gofrestr rhybuddiad naill ai:

  • er mwyn cywiro camgymeriad
  • i’w diweddaru (adran 21 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • er mwyn gweithredu gorchymyn y llys (adran 20 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

5.2 Ffurf y cais

Rhaid ichi ddefnyddio ffurflen AP1 wrth wneud cais i newid y gofrestr rhybuddiad. Rhaid i fanylion ysgrifenedig y newid sydd ei angen, sail y cais ac unrhyw ddogfennau ategol fynd gyda’r cais (rheol 50(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os yw’r ceisydd yn hawlio y breiniwyd y budd cyfan ynddo trwy weithredu’r gyfraith gall wneud cais i newid y gofrestr (rheol 51(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes rhwymedigaeth ar y cofrestrydd i newid y gofrestr rhybuddiadau i ddisodli’r rhybuddiwr gyda rhywun arall oni bai bod y budd perthnasol cyfan yn breinio yn yr unigolyn hwnnw trwy weithredu’r gyfraith (rheol 49(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid i dystiolaeth briodol o ddisgyniad teitl fod gyda’r cais.

Os yw’r ceisydd yn hawlio bod y budd cyfan wedi ei freinio ynddo heblaw trwy weithredu’r gyfraith (trwy aseiniad, er enghraifft), gall wneud cais i newid y gofrestr (rheol 50(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gall y cofrestrydd benderfynu newid y gofrestr rhybuddiadau er mwyn disodli’r rhybuddiwr gyda rhywun arall o dan yr amgylchiadau hyn (adran 49(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Felly rhaid i’r dystiolaeth o ddisgyniad teitl briodol gael ei chyflwyno gyda’r cais.

Mae taliad i’w wneud mewn achosion lle mae rhybuddiwr newydd yn cael ei gofrestru yn lle rhybuddiwr presennol. Gall fod taliad am geisiadau eraill, gan ddibynnu ar natur a maint y newid sydd ei angen. Dylech gyfeirio at Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru i gael rhagor o arweiniad.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonwch atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Pan fyddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonwch atom, cânt eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

5.3 Rhybuddion

Oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon bod hynny’n ddiangen, bydd yn anfon rhybudd at y rhybuddiwr gan roi manylion unrhyw gais i newid y gofrestr rhybuddiad (rheol 50(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gall y rhybuddiwr wrthwynebu’r newid o fewn y cyfnod hysbysu penodedig o dan reol 197 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Lle bo’r rhybuddiwr a ddangosir yng nghofrestr y rhybuddiwr yn cynnwys mwy nag un unigolyn, mae gan bob un ohonynt yr hawl i wrthwynebu cais a wnaed o dan adran 18 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (rheol 52(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

5.4 Cwblhau

Os yw’r cais yn dderbyniol, a’r rhybuddiwr wedi cydsynio ar ôl rhoi unrhyw rybudd a dybiwyd yn angenrheidiol, byddwn yn newid y gofrestr ac yn eich hysbysu o gwblhau. Byddwn yn anfon copi diweddaraf o’r gofrestr rhybuddiad a’r cynllun, lle cafodd ei newid, atoch.

6. Darpariaethau trosiannol

Mae rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf a gofrestrwyd o dan adran 53 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 yn parhau i fod mewn grym hyd nes yr adeg pan gânt eu dileu, eu tynnu’n ôl, neu hyd nes y caiff yr ystad gymwys ei chofrestru. Nid yw’r gwaharddiad o dan adran 15(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys yn ôl-weithredol. Fodd bynnag, mewn agweddau eraill, caiff rhybuddiadau a gofrestrwyd o dan adran 53 eu trin yr un ffordd â rhybuddiadau a gofrestrwyd o dan adran 15 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (paragraff 16 o Atodlen 12 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Daeth y gwaharddiad o dan adran 15(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i rym am hanner nos ar 12 Hydref 2005. Cyn hynny, roedd modd i berchennog ystad warchod ei hawl i berchnogaeth trwy rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Fodd bynnag, peidiodd unrhyw rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf ar sail hawlio perchnogaeth o ystad gyfreithiol ar ôl 13 Hydref 2003 i fod yn weithredol am hanner nos ar 12 Hydref 2005 (paragraff 14 (1) a (2) o Atodlen 12 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Dylai perchenogion ystadau a warchodwyd trwy rybuddiad sydd wedi peidio â bod yn weithredol ystyried gwneud cais i gofrestru’r ystad yn safonol.

7. Tir demên

Lle bo tir demên dan

  • mae’r hawl i gyflwyno rhybuddiad yn gweithredu fel pe bai Ei Fawrhydi yn berchennog ystad rydd-ddaliol mewn tir (adran 81 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • ni ddaeth y gwaharddiad yn adran 15(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i rym tan hanner nos ar 12 Hydref 2013, ond roedd unrhyw rybuddiad a gyflwynwyd ar sail yr eithriad hwn wedi peidio â bod yn weithredol (paragraff 15 o Atodlen 12 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • gall naill ai Ei Fawrhydi, neu berchennog ystad gyfreithiol sy’n effeithio ar y tir demên, wneud cais i ddileu
  • gallwch wneud addasiadau priodol i ffurflen CCT os mai’r sawl sy’n gwneud cais i’w ddileu yw Ei Fawrhydi (rheol 44(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003)

8. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.