Ffurflen

Cyfarwyddyd: llenwi ffurflen DS2

Diweddarwyd 29 August 2023

Applies to England and Wales

1. Cyflwyniad

Tir ac adeiladau yw’r asedau mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl fel arfer. Gellir eu gwerthu a’u morgeisio i godi arian ac felly gallant fod yn dargedau deniadol i dwyllwyr. Mae gan Gofrestrfa Tir EM, trawsgludwyr proffesiynol a rhoddwyr benthyg morgeisi fesurau diogelwch i leihau’r perygl o dwyll llwyddiannus ac mae hyn yn cynnwys gwirio hunaniaeth cleientiaid a phartïon sy’n ymwneud â thrafodion sy’n effeithio ar eiddo.

Rhaid i Gofrestrfa Tir EM hefyd wirio hunaniaeth partïon sy’n ymwneud â rhai mathau o drafodion eiddo lle nad yw trawsgludwr yn gweithredu, i wneud yn siwr nad yw’r cais yn dwyllodrus.

Rhybudd am dwyll


Os oes gofyniad i gadarnhau hunaniaeth neu i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth, ac rydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

2. Gofynion cadarnhau hunaniaeth

Cais Unigolion y mae cadarnhad hunaniaeth yn ofynnol ar eu cyfer
Trosglwyddo tir neu drosglwyddo morgais (p’un ai yw am arian ai peidio. Mae hefyd yn cynnwys trosglwyddiadau i benodi neu ddiswyddo ymddiriedolwr a chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol Trosglwyddwr (gwerthwr), Trosglwyddai (prynwr), unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y gwerthwr neu’r prynwr
Prydles (p’un ai yw am arian ai peidio) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Ildio prydles gofrestredig: cais i gau’r teitl prydlesol (yn cynnwys ildio trwy drosglwyddiad a thrwy weithredu’r gyfraith) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Morgais (arwystl): o dir cofrestredig neu dir digofrestredig ar gofrestriad cyntaf gorfodol Rhoddwr benthyg (arwystlai), Cymerwr benthyg (arwystlwr) unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg neu’r cymerwr benthyg
Rhyddhau morgais ar bapur ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 Rhoddwr benthyg
Mae cofrestriad cyntaf gorfodol yn esbonio pryd bydd cais am gofrestriad cyntaf yn orfodol Gwerthwr neu landlord, Prynwr neu denant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran yr uchod
Cofrestriad cyntaf gwirfoddol ond dim ond lle collwyd y gweithredoedd ac nid yw’r ceisydd yn drawsgludwr neu’n gorff corfforaethol adnabyddus a gollodd y gweithredoedd eu hunain Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir, unrhyw atwrnai ar gyfer y ceisydd
Newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd Yr unigolyn sy’n newid ei enw (yn ei enw newydd)
Newid cyfeiriad Yr unigolyn sy’n newid ei gyfeiriad

2.1 Eithriadau

Ceir rhai eithriadau, a nodir yn llawn yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr. Y prif eithriadau sy’n effeithio ar geisiadau a anfonir gan rai nad ydynt yn drawsgludwyr lle nad oes angen cadarnhad hunaniaeth arnom ar gyfer rhai neu bob parti yw:

  • prydles neu arwystl sy’n cael ei nodi’n unig yn y gofrestr
  • ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf oni bai bod y gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio

Nid oes angen cadarnhad hunaniaeth chwaith ar gyfer rhai partïon sydd eisoes yn gorfod anfon tystiolaeth o’u penodiad atom. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr personol (ysgutorion neu weinyddwyr ystad person ymadawedig), ymddiriedolwyr mewn methdaliad, datodwyr a dirprwyon Ddeddf Iechyd Meddwl (mae rhestr lawn ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pan fyddant yn bartïon i weithred, a phan fônt yn anfon y cais o dan sylw atom eu hunain hefyd.

Noder er hynny bod cadarnhad hunaniaeth yn ofynnol o hyd ar gyfer y buddiolwr o dan gydsyniad (ac eithrio mewn achos lle y mae rhywun yn cydsynio’r eiddo iddynt eu hunain) neu’r trosglwyddai o dan drosglwyddiad, a hefyd ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n cyflwyno’r cais (oni bai ei fod yn ysgutor, ymddiriedolwr mewn methdaliad ac ati fel y cyfeirir ato yn y paragraff uchod). Mae hyn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle y mae’r tir eisoes yn gofrestredig a hefyd lle gwneir cais am gofrestriad cyntaf gorfodol. Yn ychwanegol at yr uchod, nid oes angen cadarnhad hunaniaeth arnom lle nad yw gwir werth y tir o dan sylw yn y gwarediad yn uwch na £6,000.

2.2 Yr hyn i’w wneud

Os ydych yn anfon neu’n dod â chais atom, gwnewch yn siwr bod yr holl ddogfennau cywir a’r dystiolaeth ofynnol sydd eu hangen ar gyfer eich cais gyda chi. Gwnewch yn siwr hefyd bod popeth wedi ei lenwi’n gywir. Yna bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gais ofynnol ar gyfer eich math o gais a gwirio hunaniaeth unrhyw berson sydd heb gynrychiolaeth, lle bo hyn yn angenrheidiol.

  1. Rhaid ichi ddarparu cadarnhad hunaniaeth ar gyfer unrhyw un o’r partïon neu bersonau a grybwyllir yn y tabl uchod trwy lenwi’r paneli perthnasol yn ffurflen gais AP1, DS2 neu FR1

  2. Os nad oes gan unrhyw un o’r partïon a grybwyllir yn y tabl gynrychiolaeth gyfreithiol, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth hefyd. Gweler Tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y camau i’w cymryd

  3. Os yw’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EM gan rywun nad yw’n un o’r partïon neu bersonau a grybwyllir yn y tabl, bydd yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o’u hunaniaeth

Bydd gweithredoedd a dogfennau a anfonir atom gyda cheisiadau yn cael eu sganio ac yna eu dinistrio os ydynt yn rhai gwreiddiol neu’n gopïau.

Os ydych am gadw’r gwreiddiol o ddogfen, ni ddylech ei hanfon atom. Yn lle hynny, dylech wneud llungopi ac yna ardystio ei fod yn gopi gwir o’r gwreiddiol. Gwneir hyn trwy ysgrifennu “Tystiaf fod hwn yn gopi gwir o’r gwreiddiol” ac arwyddo ar frig tudalen 1. Gallwch anfon copïau o ffurflenni ID1 neu ID2 atom ond bydd yn rhaid i’r sawl sy’n cwblhau rhan B lofnodi a dyddio’r llun ar y cefn a bydd yn rhaid i’ch copi ardystiedig gopïo dwy ochr y llun.

Ceir un eithriad. Os nad yw eich tŷ yn gofrestredig, bydd yn rhaid ichi anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol sydd yn eich meddiant atom, a byddwn yn eu dychwelyd.

3. Cadarnhau paneli hunaniaeth

Panel 8: Cadarnhau hunaniaeth

Rhaid ichi gwblhau’r ail ddewis, ac yna mynd i banel 10.

Panel 10: Lle y mae’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EM gan rywun nad yw’n drawsgludwr

(1) Manylion y trawsgludwr gweithredol

Os yw eich cais yn un o’r rhai a grybwyllir yng ngholofn gyntaf y tabl yn adran 2 uchod, rhaid ichi wedyn gwblhau rhan gyntaf panel 10 gydag enwau llawn y partïon neu bersonau y cyfeirir atynt yn y tabl rydych yn eu hanfon atom, a nodi manylion unrhyw drawsgludwr a weithredodd ar eu rhan. Os nad yw unrhyw un o’r partïon yn cael eu cynrychioli’n gyfreithiol ysgrifennwch ‘Dim’ yn yr ail golofn.

Dim ond mewn achosion lle y mae rhyddhad neu ollyngiad morgais ar ffurf papur DS1 neu DS3 yn cael ei gyflwyno gyda’r cais ail y mae angen cwblhau ail ran y panel hwn. Mae’r cwblhau yn debyg i’r rhan gyntaf uchod.

(2) Tystiolaeth hunaniaeth

Rhaid ichi gwblhau’r adran hon ar bob amser.

Dim ond os yw’r ceisydd a ddangosir ym mhanel 5 eich ffurflen yn wahanol i unrhyw un o’r personau a enwyd ym mhanel 10 mae angen ichi groesi’r blwch cyntaf (‘ar gyfer pob ceisydd a enwir ym mhanel 5 wedi ei hamgáu’).

Rhaid ichi groesi’r ail flwch (‘ar gyfer pob trosglwyddwr, ac ati’) os ydych wedi ysgrifennu ‘Dim’ yn yr ail golofn yn unrhyw un o’r paneli uchod.

Panel 11: Llofnod

Rhaid ichi gwblhau’r panel hwn ar bob adeg, hyd yn oed os nad ydych yn cwblhau panel 10. Rhaid i bob person a restrir ym mhanel 5 lofnodi. Nid yw’n ddigonol i’r sawl a enwir ym mhanel 6 (os yw’n wahanol) lofnodi.