Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 20: hawliau cartref a cheisiadau o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996

Diweddarwyd 11 July 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Prif ddiben Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (a newidiwyd ei hunan gan Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o’r Rhyw Arall) 2019) yw gwarchod hawl priod neu bartner sifil i feddiannu’r cartref. Nid yw’r hawl hon yn fudd gor-redol ond mae’n ffurfio arwystl ar y cartref y bydd modd ei warchod ar y gofrestr trwy rybudd a gytunwyd (rheol 82 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Cyn 14 Chwefror 1983, byddai modd gwarchod arwystl o’r fath ar y gofrestr hefyd trwy rybuddiad. Mae’r arwystl yn codi ar ba un bynnag yw’r diweddaraf o’r dyddiadau canlynol:

  • y dyddiad pan fydd y priod neu bartner sifil arall yn caffael y cartref
  • dyddiad y briodas neu’r bartneriaeth sifil
  • 1 Ionawr 1968

er na ragwelir y bydd yn cael ei geisio nes bydd y briodas neu bartneriaeth sifil yn ymddangos mewn perygl.

Nid oes angen unrhyw warchodaeth o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 mewn achosion lle mae’r cartref yn cael ei ddal ar y cyd, yn gyfreithiol ac yn fuddiol fel ei gilydd, gan y priod neu’r partner sifil a’r priod arall neu’r partner sifil arall.

Os oes gan y priod neu’r partner sifil hawliau cartref o ran budd y priod arall neu’r partner sifil arall o dan ymddiried, nid oes modd cofrestru rhybudd o’r arwystl os nad oes neb, byw neu heb ei eni, sydd neu a allai ddod yn fuddiolwyr o dan yr ymddiried (Adrannau 31(4), (5) a (13) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). Mae hyn yn golygu, os yw’r tir yn cael ei ddal ar ymddiried, y bydd angen i ni fod yn fodlon nad oes gan neb fudd yn yr ymddiried heblaw’r naill briod neu’r partner sifil neu’r llall.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Ydy’r ystad neu fudd yn y cartref wedi ei gofrestru?

Mae’n hanfodol gwybod a yw ystad neu fudd y priod arall neu’r partner sifil arall yn y cartref yn cael ei ddal o dan deitl cofrestredig neu ddigofrestredig. Os yw’n cael ei ddal o dan deitl digofrestredig, rhaid gwneud cais i’r Adran Pridiannau Tir i gofrestru pridiant tir Dosbarth F – gweler Tir digofrestredig.

Os yw’n cael ei ddal o dan deitl cofrestredig, mae cofrestru pridiant tir Dosbarth F yn aneffeithiol o ran gwarchod hawliau meddiannaeth y priod neu’r partner sifil. Rhaid gwneud cais i gofrestru rhybudd – gweler Cais am rybudd.

Os nad yw’n hysbys a yw ystad neu fudd y priod arall neu’r partner sifil arall yn y cartref wedi ei gofrestru, dylid gwneud cais am chwiliad swyddogol o’r map mynegai i swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF gan ddefnyddio ffurflen SIM. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai – chwiliadau swyddogol i gael rhagor o fanylion.

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn ddi-dâl i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r porthol ac mae’n darparu canlyniadau chwilio ar unwaith.

Pan fydd chwiliad o’r map mynegai yn cael ei wneud mewn perthynas â chais o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, mae’n bwysig bod y nodyn canlynol yn cael ei ysgrifennu ar ben y ffurflen SIM:

“Mae’r chwiliad hwn yn cael ei wneud yn unig at ddibenion Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.”

Bydd hyn yn ein galluogi i:

  • osgoi codi unrhyw faterion a allai godi fel arall ar union derfynau’r eiddo
  • rhoi manylion unrhyw brydles

Bydd tystysgrif swyddogol canlyniad y chwiliad yn cael ei chyhoeddi gennym cyn pen diwrnod neu 2 wedi derbyn y cais a bydd yn dadlennu unrhyw ystad(au) gofrestredig neu fudd(buddion) yn y cartref.

3. Ffurflenni cais

Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn pennu’r ffurflenni cais canlynol.

4. Cais am rybudd

Pan fo’r teitl i ystad neu fudd y priod arall neu’r partner sifil arall yn y cartref wedi ei gofrestru a bod gan y priod neu’r partner sifil hawliau meddiannaeth sy’n arwystl ar yr eiddo yn ôl darpariaethau adrannau 31(2) neu 31(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, dylid gwneud cais i warchod yr arwystl trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd ar y teitl cofrestredig gan ddefnyddio ffurflen HR1.

Gall trawsgludwr ardystio ym mhanel 10 ffurflen HR1 fod ganddo gopi swyddfa o unrhyw orchymyn llys a wnaed o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

Nid oes dim i’w dalu.

Sylwer: Mae adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn sefydlu hawl i weithredu am dorri dyletswydd statudol yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud cais am rybudd heb achos rhesymol. Mae’r hawl o blaid unrhyw berson sy’n dioddef niwed o ganlyniad.

5. Gorchymyn llys yn parhau hawliau

Fel arfer, bydd hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 dim ond yn parhau yn ystod bodolaeth y briodas neu’r bartneriaeth sifil (gweler Darfyddiad hawliau). Fodd bynnag, mae adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, yn darparu, os digwydd anghydfod priodasol neu ddieithriad, y gall y llys orchymyn yn ystod bodolaeth y briodas neu’r bartneriaeth sifil, gyfarwyddyd bod hawliau cartref y priod neu’r partner sifil i barhau er y gall y briodas neu bartneriaeth sifil ddod i ben.

Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn o’r fath ac na warchodwyd hawliau’r priod neu’r partner sifil eisoes, dylid gwneud cais mor fuan ag y bo modd i gofrestru rhybudd yn unol â Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004. (Os yw’r hawliau wedi eu gwarchod ar y gofrestr eisoes, gweler Adnewyddu gwarchodaeth). Dylid gwneud y cais gan ddefnyddio ffurflen HR1. Rhaid i gopi swyddogol o’r gorchymyn llys fod gyda’r cais a bydd yn cael ei gadw gennym. Fel arall, lle bo trawsgludwr yn gweithredu, mae modd cwblhau’r dystysgrif ym mhanel 10 ffurflen HR1 yn lle cyflwyno’r gorchymyn llys.

Nid oes dim i’w dalu.

6. Adnewyddu gwarchodaeth

Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 pan fo hawliau’r priod neu’r partner sifil wedi eu gwarchod ar y gofrestr eisoes trwy rybudd neu rybuddiad, dylid gwneud cais mor fuan ag y bo modd i adnewyddu’r warchodaeth gynharach rhag ofn i’r priod arall neu’r partner sifil arall geisio ei ddileu heb ddadlennu bodolaeth y gorchymyn llys.

Dylid gwneud y cais gan ddefnyddio ffurflen HR2 a rhaid iddo ddod gyda chopi swyddogol o’r gorchymyn. Mae tystysgrif trawsgludwr ym mhanel 8 ffurflen HR2 yn ddigonol i gydymffurfio â’n gofynion. Bydd yr adnewyddiad yn cael ei beri ar y gofrestr trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd. Nid yw’r adnewyddiad hwn o gofrestriad yn effeithio ar flaenoriaeth yr arwystl gwreiddiol (paragraff 4(5), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996).

Nid oes dim i’w dalu.

7. Darfyddiad hawliau

Mae modd darfod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil yn y ffyrdd canlynol.

  • trwy farwolaeth y naill briod neu bartner sifil neu’r llall (adran 31(8)(a) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996), ond gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth ar bŵer y llys i wneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996
  • trwy ddiweddu’r briodas neu bartneriaeth sifil heblaw trwy farwolaeth (adran 31(8)(b) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996), ond gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth ar bŵer y llys i wneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996
  • trwy orchymyn y llys (paragraff 4(1)(c), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996)
  • trwy i’r priod neu’r partner sifil ryddhau’r hawliau’n wirfoddol yn ysgrifenedig (paragraff 5(1), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996)

8. Cais i ddileu rhybudd

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd ar ffurflen HR4, a rhaid cynnwys y dystiolaeth briodol. Lle gwneir y cais yn dilyn un o’r digwyddiadau a ddisgrifir yn Darfyddiad hawliau, dylai’r dystiolaeth gynnwys:

  • tystysgrif marwolaeth
  • copi swyddfa o’r gorchymyn terfynol neu’r gorchymyn dirymu priodas (a elwid yn archddyfarniad terfynol o ysgariad neu ddirymedd cyn 6 Ebrill 2022)
  • copi swyddfa o orchymyn llys yn diweddu’r hawliau cartref
  • copi swyddfa o’r gorchymyn terfynol neu orchymyn rhagdybiaeth marwolaeth, neu o’r gorchymyn ymwahanu, yn ymwneud â’r bartneriaeth sifil
  • rhyddhad o’r hawliau cartref, wedi ei lofnodi gan y priod neu’r partner sifil naill ai trwy lythyr neu gan ddefnyddio ffurflen HR4

Os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 y cyfeirir ato ar y gofrestr (gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth), bydd angen i’r ceisydd gyflwyno tystiolaeth foddhaol hefyd bod y gorchymyn hwn wedi peidio â bod yn effeithiol (gweler paragraff 4(2)(b), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996).

Nid oes dim i’w dalu.

9. Cais i ddileu rhybuddiad

Mae modd gwneud cais i ddileu rhybuddiad mewn un o’r ffyrdd canlynol:

  • trwy lythyr, gyda’r dystiolaeth briodol yn cadarnhau un o’r digwyddiadau a ddisgrifiwyd yn y 3 nodyn bwled cyntaf yn Darfyddiad hawliau. Os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 y cyfeirir ato ar y gofrestr (gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth), bydd angen i’r ceisydd gyflwyno tystiolaeth foddhaol hefyd bod y gorchymyn hwn wedi peidio â bod yn effeithiol (gweler paragraff 4(2)(b), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996)
  • trwy dynnu’r rhybuddiad yn ôl o dan reol 222 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gan ddefnyddio ffurflen WCT, wedi ei llofnodi gan y priod neu drawsgludwr y priod
  • trwy i’r priod arall ddileu’r rhybuddiad o dan reol 223 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gan ddefnyddio ffurflen CCD

Nid oes dim i’w dalu.

10. Cyflwyno rhybudd i’r perchennog cofrestredig

Caiff rhybudd ei gyflwyno bob amser ar y perchennog cofrestredig pan ddaw unrhyw gais i gofnodi neu adnewyddu hawl cartref.

11. Gwarchodaeth yn gyfyngedig i un cartref yn unig

Nid oes modd gwarchod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil ond o ran un cartref ar unrhyw adeg arbennig, pa un ai yw ystad neu fudd y priod arall neu bartner sifil arall yn y cartref yn cael ei ddal o dan deitl cofrestredig neu ddigofrestredig (paragraff 2, Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). Rhaid i drawsgludwr, felly, ddarganfod a oes gan ei gleient unrhyw warchodaeth eisoes o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 ac yna rhaid dadlennu’r sefyllfa ar ffurflen HR1.

12. Chwiliad swyddogol gan forgeisai

O dan adran 56 o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 rhaid i forgeisai tŷ preswyl sy’n dwyn achos i ddiogelu eu gwarant, roi rhybudd o’r achos i’r priod neu’r partner sifil sydd â’i hawliau meddiannaeth yn cael eu diogelu naill ai trwy:

  • pridiant tir Dosbarth F (yn achos tir digofrestredig)
  • rhybudd neu rybuddiad (yn achos tir cofrestredig)

Gan ddefnyddio ffurflen HR3 gall morgeisai tir cofrestredig wneud cais am chwiliad swyddogol i ddadlennu a oes rhybudd neu rybuddiad wedi ei gofrestru i ddiogelu hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil. Rhaid cyflwyno ffurflen HR3 i swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF. At ddibenion adran 56(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, bydd blaenoriaeth ar y chwiliad am gyfnod o 15 diwrnod busnes.

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru am yr hyn sydd i’w dalu. Os yw’r tŷ preswyl yn ddigofrestredig, dylai’r morgeisai wneud chwiliad swyddogol yn yr Adran Pridiannau Tir gan ddefnyddio ffurflen K15 – gweler Tir digofrestredig.

13. Hawliau meddiannaeth methdalwr

Mae gan briod neu bartner sifil methdalus, sydd â hawl i feddiannu tŷ preswyl yn rhinwedd ystad neu fudd llesiannol, hawliau meddiannaeth mewn perthynas â’r ymddiriedolwr mewn methdaliad o dan yr amgylchiadau sy’n cael eu hamlinellu yn adran 337 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Mae hyn yn berthnasol boed gan briod neu bartner sifil y methdalwr unrhyw hawliau meddiannaeth o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 neu beidio.

Mae modd cofnodi rhybudd o hawl meddiannaeth y methdalwr ar y gofrestr ar yr amod bod y cais (gan ddefnyddio ffurflen HR1) yn cael ei helaethu i ddatgan:

  • bod y methdalwr yn gwneud cais o dan adran 337 o Ddeddf Ansolfedd 1986
  • bod budd y methdalwr yn yr eiddo wedi ei freinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad (y dylid ei enwi)

14. Cyfeiriad swyddfa Cofrestrfa Tir EF lle dylid anfon cais

  • os oes gennych gytundeb gyda thîm cwsmeriaid, dylech anfon eich ceisiadau papur at eich tîm cwsmeriaid
  • os nad oes gennych gytundeb gyda thîm cwsmeriaid, argymhellwn eich bod yn anfon eich ceisiadau papur i swyddfa arbennig, yn dibynnu ar yr ardal weinyddol y lleolir eich busnes.

15. Tir digofrestredig

Dylid anfon pob cais o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 o ran tir digofrestredig i’r cyfeiriad canlynol:

Land Charges Department
PO Box 292
Plymouth
PL5 9BY
(DX8249 Plymouth 3)

Ffôn: 0300 006 6616

16. Pethau i’w cofio

Efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu’n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Gwnewch yn siwr

  • bod yr ystad neu fudd yn y cartref wedi ei gofrestru
  • eich bod wedi defnyddio’r ffurflen gywir ar gyfer eich trafodiad
  • bod hawliau meddiannaeth wedi eu gwarchod eisoes o ran cartref arall
  • lle bo’n berthnasol, eich bod wedi naill ai amgáu’r gorchymyn llys priodol neu wedi cwblhau’r dystysgrif trawsgludwr briodol y cyfeirir atynt yn ffurflenni HR1 a HR2
  • lle bo’n berthnasol, eich bod wedi talu’r ffïoedd cywir

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.