Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 36: gweinyddiad a derbynyddiaeth

Diweddarwyd 1 August 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi gwybodaeth am agweddau cofrestru tir ar drafodion ystadau gan weinyddwyr a derbynyddion gweinyddol a benodwyd yn ôl darpariaethau Deddf Ansolfedd 1986.

Ar gyfer materion yn ymwneud â derbynyddion a benodir yn ôl darpariaethau Deddf Cyfraith Eiddo 1925, gweler cyfarwyddyd ymarfer 36A: derbynyddion a benodir o dan ddarpariaethau Deddf Cyfraith Eiddo 1925. Ar gyfer materion yn ymwneud ag ansolfedd personol neu gorfforaethol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol a chyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol.

Er 8 Rhagfyr 2017, mae’r prosesau ansolfedd ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn adlewyrchu’r rhai sydd ar gael i gwmnïau ansolfent ar y cyfan, felly yn y cyfarwyddyd hwn, gellir darllen yr ymadroddion “cwmni” neu “gorff corfforaethol” (ar 8 Rhagfyr 2017 neu ar ôl hynny) i gynnwys partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. (Fodd bynnag, mae Rheolau Ansolfedd 1986 yn dal i fod yn gymwys i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig lle cyflwynwyd deiseb ar gyfer gweinyddu cyn 15 Medi 2003.)

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

2. Gweinyddwyr

2.1 Penodi a phwerau

Gweinyddwr yw rhywun a benodwyd o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 i reoli materion, busnes ac eiddo cwmni. Rhaid i weinyddwr fod yn ymarferydd ansolfedd (paragraff 6 Atodlen B1).

Gall y canlynol benodi gweinyddwr:

  • gorchymyn gweinyddu a wnaed gan y llys (dan baragraff 10 Atodlen B1)
  • deiliad arwystl ansefydlog cymhwysol (dan baragraff 14 Atodlen B1)
  • y cwmni neu ei gyfarwyddwyr (dan baragraff 22 Atodlen B1)
  • unrhyw gredydwr neu ddatodwr partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (o dan baragraff 12(1)(c) neu 38(1) yn y drefn honno o Atodlen B1)

Arwystl ansefydlog cymhwysol yw un sydd naill ai:

  • yn datgan bod paragraff 14 Atodlen B1 yn berthnasol iddo
  • yn awdurdodi ei ddeiliad i benodi gweinyddwr
  • yn awdurdodi ei ddeiliad i benodi derbynnydd fyddai’n dderbynnydd gweinyddol

Mae rhywun yn dal arwystl ansefydlog cymhwysol os yw’n dal naill ai:

  • arwystl ansefydlog cymhwysol (neu nifer o arwystlon tebyg) sy’n berthnasol i eiddo’r cwmni i gyd neu i gyd i bob diben
  • arwystlon a mathau eraill o warant sydd, gyda’i gilydd, yn berthnasol i eiddo’r cwmni i gyd, neu i gyd i bob diben, ac o leiaf un ohonynt yn arwystl ansefydlog cymhwysol

Lle bo’r llys yn penodi’r gweinyddwr, mae’r penodiad yn dod i rym ar adeg a bennwyd gan y gorchymyn neu, os na phennwyd amser, pan gaiff y gorchymyn ei wneud (paragraff 13(2) Atodlen B1).

Lle bo deiliad arwystl ansefydlog, y cwmni neu’r cyfarwyddwyr yn penodi gweinyddwr, daw’r penodiad i rym pan fydd yr apwyntiwr yn cyflwyno rhybudd o benodiad yn y llys ynghyd â’r dogfennau penodedig (paragraffau 19 a 31 Atodlen B1). Ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, rhaid i’r rhybudd gydymffurfio â gofynion rheol 3.17 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (neu reolau 3.24 neu 3.25 os yw’r cwmni neu’r cyfarwyddwyr yn penodi’r penodiad). Cyn 6 Ebrill 2017, neu lle bo darpariaethau trosiannol Rheolau Ansolfedd 2016 yn gymwys, rhaid i’r penodiad fod ar ffurf 2.6B (os mai deiliad arwystl ansefydlog sy’n penodi) (rheol 2.16 o Reolau Ansolfedd 1986), ffurf 2.9B (os mai’r cwmni sy’n penodi) neu ffurf 2.10B (os mai’r cyfarwyddwyr sy’n penodi) (rheol 2.23 o Reolau Ansolfedd 1986). Rhaid ffeilio’r rhybudd o benodiad gyda’r llys a fydd yn rhoi 2 gopi o rybudd y penodiad o dan sêl i’r apwyntiwr, gyda dyddiad ac amser y penodiad arnynt. Rhaid i’r apwyntiwr anfon un o’r rhain at y gweinyddwr cyn gynted ag sy’n ymarferol o fewn rheswm (rheolau 3.18 a 3.26 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016). Rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi rhybudd o’i benodiad cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol (paragraff 46(2)(b) o Atodlen B1) – rhaid rhestru’r rhybudd, gellir ei hysbysebu a rhaid ei anfon at bobl eraill, gan gynnwys y cofrestrydd cwmnïau o dan paragraff 46(4) o Atodlen B1 (mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyhoeddi ffurflen AM01 at y diben hwn).

Lle penodir cyd-weinyddwyr neu weinyddwr cydredol, rhaid i’r penodiad nodi pa swyddogaethau (os o gwbl) sydd i’w harfer ar y cyd, a pha rai (os o gwbl) sydd i’w harfer gan rai neu bob un o’r rhai a benodwyd (paragraff 100, Atodlen B1). Os yw’r penodiad yn dawel ar y mater hwn, bydd agen datganiad neu dystysgrif ar wahân ar Gofrestrfa Tir EF i gadarnhau’r sefyllfa.

Rhaid i’r gweinyddwr gyflawni ei swyddogaethau gydag amcan achub y cwmni fel busnes byw neu, o fethu gwneud hynny, cael gwell canlyniad i gredydwyr y cwmni i gyd nag a fyddai’n debygol petai’n cael ei ddirwyn i ben. Os nad yw’r naill amcan na’r llall yn ymarferol o fewn rheswm, gall sylweddu eiddo er mwyn gwneud dosraniad i un neu fwy o gredydwyr gwarantedig neu ddethol (paragraff 3 Atodlen B1).

Gall y gweinyddwr wneud unrhyw beth angenrheidiol neu gyfleus er rheoli materion, busnes ac eiddo’r cwmni. Heb leihau effaith cyffrediniaeth hynny, mae ganddo’r pwerau a fanylir yn Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986. Mae’r rhain yn cynnwys pŵer gwerthu ac i roi neu dderbyn ildio prydles. Gall y gweinyddwr ddefnyddio sêl y cwmni a chyflawni unrhyw weithred, derbynneb neu ddogfen yn enw ac ar ran y cwmni. Nid oes unrhyw bŵer datganedig i wneud rhodd. Nid oes angen i rywun sy’n delio â’r gweinyddwr yn ddiffuant ac am werth holi a yw’r gweinyddwr yn gweithredu o fewn ei bwerau (paragraffau 59 a 60 Atodlen B1). Mae’r gweinyddwr yn gweithredu fel asiant y cwmni (paragraff 69 Atodlen B1).

2.2 Y berthynas gyda datodiad a derbynyddiad

Nid oes modd penodi gweinyddwr tra bo’r cwmni mewn datodiad, heblaw gan y llys ar gais y datodwr neu, o dan rai amgylchiadau, ar gais deiliad arwystl ansefydlog cymhwysol. Os bydd y llys yn penodi gweinyddwr bydd yn cyflawni unrhyw orchymyn dirwyn i ben (paragraffau 8, 37 a 38 Atodlen B1).

Fel arfer, nid oes modd gosod cwmni sydd mewn gweinyddiad mewn datodiad (paragraffau 40 a 42 Atodlen B1).

Lle bo cwmni mewn derbynyddiaeth weinyddol dim ond y llys all benodi gweinyddwr, ac yn unig o dan yr amgylchiadau cyfyngedig sy’n cael eu manylu ym mharagraff 39 Atodlen B1. Mae penodi gweinyddwr ohono’i hun yn diswyddo unrhyw dderbynnydd gweinyddol sydd gan y cwmni (paragraff 41(1) Atodlen B1). Nid oes modd penodi derbynnydd gweinyddol tra bo’r cwmni’n mewn gweinyddiad (paragraff 43(6A) Atodlen B1).

Nid yw bodolaeth derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn atal rhag penodi gweinyddwr, ac nid yw’n diswyddo derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo ohono’i hun os digwydd hyn. Fodd bynnag, rhaid i dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo adael y swydd os bydd y gweinyddwr yn gofyn iddo wneud hynny (paragraff 41(2) Atodlen B1).

2.3 Effeithiau eraill gweinyddiad

Tra bo cwmni mewn gweinyddiad, erys ei eiddo wedi’i freinio ynddo, ond yn absenoldeb cydsyniad y gweinyddwr neu’r llys (paragraff 43 Atodlen B1):

  • nid oes modd gorfodi unrhyw warant dros eiddo’r cwmni
  • ni ellir adfeddiannu unrhyw nwyddau sydd gan y cwmni o dan gytundeb hurbwrcasu
  • ni all neb ddechrau neu barhau achos neu unrhyw broses gyfreithiol arall yn erbyn y cwmni
  • ni all landlord fforffedu prydles sy’n perthyn i’r cwmni trwy ailfynediad heddychlon

2.4 Nodi penodi gweinyddwr

Gallwch wneud cais i nodi penodi gweinyddwr ar y gofrestr (rheol 184 o Reolau Cofrestru Tir 2003, fel y’i newidiwyd gan Orchymyn Deddf Menter 2002 (Ansolfedd) 2003). Rhaid i chi ddarparu:

  • ffurflen AP1
  • y ffi sy’n daladwy o dan Gymal 12 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru a naill ai
    • copi ardystiedig o orchymyn y llys wedi ei selio yn penodi’r gweinyddwr ac yn dangos dyddiad ac amser y penodiad, neu
    • copi ardystiedig o’r copi o dan sêl (yn dangos dyddiad ac amser y ffeilio) o’r rhybudd o benodiad a ffeiliwyd yn y llys a wnaed o dan reolau 3.17, 3.24 neu 3.25 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (neu, os yw’n gymwys, ar ffurf 2.6B, 2.9B neu 2.10B (a bennir o dan Reolau Ansolfedd 1986)
  • yn achos cyd-weinyddwyr neu weinyddwyr cydredol, datganiad neu dystysgrif i gydymffurfio â pharagraff 100, Atodlen B1, os nad yw’r offeryn penodi’n cynnwys y wybodaeth hon

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

Sylwer nad yw ffurf 2.12B a bennir o dan Reolau Ansolfedd 1986 (er ei bod yn dwyn y pennawd ‘Rhybudd o benodiad gweinyddwr’) yn ddigonol, na chwaith y rhybudd o benodiad o dan reol 3.27 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016, na ffurflen Tŷ’r Cwmnïau AM01. Caiff y ffurf hon ei llunio ar gyfer achosion lle mae gofyn i weinyddwr roi rhybudd i unrhyw un o dan y rheolau hynny neu Ddeddf Ansolfedd 1986. Nid oes unrhyw ofyniad yn Neddf Ansolfedd 1986, Rheolau Ansolfedd 1986 neu Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 i hysbysu Cofrestrfa Tir EF. Felly, nid dyma’r ‘rhybudd o benodiad’ y cyfeiriwyd ato yn rheol 184(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae’r rheol honno’n cyfeirio at y rhybudd a gyflwynwyd yn y llys o dan baragraff 18 neu 29 Atodlen B1 (hy yn unol â rheolau 3.17, 3.24 neu 3.25 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016, neu ar ffurfiau 2.6B, 2.9B neu 2.10B a bennir o dan Reolau Ansolfedd 1986).

Byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr perchnogaeth:

“(Dyddiad) Trwy [orchymyn y Llys a wnaed ar] [rhybudd o benodiad a gyflwynwyd ar] (dyddiad) penodwyd AB o (cyfeiriad) yn weinyddwr XY Cyfyngedig.”

Mae modd gwneud cais i nodi penodi gweinyddwr ychwanegol neu newid gweinyddwr yn yr un modd.

I ddileu’r cofnod hwn, dylid gwneud cais ar ffurflen AP1, gyda thystiolaeth bod y gweinyddiad wedi dod i ben. Nid oes dim i’w dalu. Fel arfer, y dystiolaeth fydd naill ai:

  • copi ardystiedig o orchymyn llys, neu
  • copi ardystiedig o rybudd priodol a gofrestrwyd gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau
  • gan ddibynnu ar yr amgylchiadau a’r dyddiad priodol, gall hyn fod yn rhybudd yn cydymffurfio â rheol 3.53, 3.55, 3.56, 3.59, 3.60 a 3.61 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 neu ar unrhyw un o ffurfiau 2.30B, 2.32B, 2.33B, 2.34B neu 2.35B, fel y pennwyd o dan reolau 2.110, 2.111, 2.113, 2.116, 2.117 a 2.118 o Reolau Ansolfedd 1986

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

Er bod gweinyddiad fel arfer yn terfynu ohono’i hun ar ôl blwyddyn, mae modd ymestyn y cyfnod hwn (gweler Gwarediadau gan weinyddwr isod). Ni fyddwn yn dileu’r cofnod oherwydd treigl amser yn unig heb dystiolaeth y cofrestrwyd rhybudd priodol gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau.

2.5 Gwarediadau gan weinyddwr

Oni bai y nodwyd y penodiad ar y gofrestr fel y disgrifiwyd yn Nodi penodi gweinyddwr, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o benodiad y gweinyddwr wrth wneud cais i gofrestru unrhyw warediad a wnaed gan y gweinyddwr.

Rhaid i’r dystiolaeth fod yn gopi swyddfa, o dan sêl neu ardystiedig o orchymyn y llys neu rybudd o benodiad, fel y disgrifiwyd yn Nodi penodi gweinyddwr. Daw penodiad gweinyddwr i ben ar ôl blwyddyn, oni bai y cafodd ei ymestyn. Mae modd ei ymestyn am gyfnod penodol yn unig ac ond trwy naill ai:

  • copi ardystiedig o orchymyn y llys
  • (unwaith yn unig ac am ddim mwy na deuddeg mis), cydsyniad yr holl gredydwyr gwarantedig a mwyafrif credydwyr anwarantedig y cwmni (paragraffau 76 i 78 Atodlen B1)

Felly, os yw gweinyddwr yn gwneud gwarediad mwy na blwyddyn ar ôl i’r cwmni fynd i weinyddiad, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth yr ymestynnwyd penodiad y gweinyddwr, boed ei benodiad wedi cael ei nodi ar y gofrestr neu beidio. Dylai’r dystiolaeth fod naill ai:

  • copi swyddfa neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn llys perthnasol, neu
  • copi ardystiedig o rybudd estyniad yn cydymffurfio â rheol 3.54 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016

Gall y llys wneud gorchymyn hefyd i ddiweddu’r gweinyddiad. Rhaid i’r gweinyddwr anfon copi o’r gorchymyn llys at y Cofrestrydd Cwmnïau o fewn 14 diwrnod (yn dechrau gyda dyddiad y gorchymyn).

Gall y gweinyddwr waredu eiddo’r cwmni’n rhydd o unrhyw arwystl ansefydlog fel pe na bai’n ddarostyngedig i’r arwystl hwnnw (paragraff 70 Atodlen B1) – yna mae hawl gan ddaliwr yr arwystl i’r un flaenoriaeth dros unrhyw eiddo gan y cwmni sy’n cynrychioli’r eiddo sy’n cael ei waredu. Pan fyddwch yn cyflwyno cais o’r fath bydd ein gofynion ar gyfer dileu rhybudd o’r arwystl ansefydlog yn dibynnu ar sut y cafodd ei gofnodi ar y gofrestr.

Lle cofnodwyd arwystl ansefydlog naill ai:

  • fel rhybudd a gytunwyd
  • gan y cofrestrydd ar gofrestriad cyntaf yr ystad gofrestredig, neu
  • yn ôl darpariaethau Deddf Cofrestru Tir 1925

bydd angen ffurflen CN1 wedi’i llofnodi gan y gweinyddwr arnom, gyda phanel 12 yn datgan yn eglur bod y gwaredu ‘yn unol â pharagraff 70 Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986’.

Lle cofnodwyd arwystl ansefydlog fel rhybudd unochrog, mae modd i’r buddiolwr ei ddileu (gan wneud cais ar ffurflen UN2), neu gall y perchennog cofrestredig, neu rywun â hawl i wneud cais i gofrestru fel perchennog, wneud cais i’w ddileu gan ddefnyddio ffurflen UN4, yn y ffordd arferol (gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr).

Os nad oes cofnod cofrestr yn ymwneud ag arwystl ansefydlog ond bod cofnod o’r math a ddisgrifir yn Cwmni mewn gweinyddiad yn caffael ystad, dylech gyflwyno ffurflen CN1 wedi ei llofnodi gan y gweinyddwr gyda’r cais, a thystysgrif gan y gweinyddwr neu ei drawsgludwr nad oedd unrhyw warantau o’r fath yn effeithio ar y teitl neu, lle’r oedd hyn yn wir, eu bod naill ai wedi eu rhyddhau neu fod y gwarediad yn cael ei wneud yn unol â pharagraff 70 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986. (Nid oes unrhyw ffi ychwanegol yn daladwy.)

Gall y gweinyddwr waredu’r eiddo’n rhydd o unrhyw arwystl arall gydag awdurdodiad y llys (paragraff 71 Atodlen B1). Yn y fath achos bydd angen i chi gyflwyno, gyda’r cais i gofrestru’r gwarediad, copi swyddfa neu ardystiedig o orchymyn y llys yn awdurdodi gwarediad yn rhydd o’r arwystl, fel bod modd dileu cofrestriad (neu rybudd) yr arwystl.

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

2.6 Cwmni mewn gweinyddiad yn caffael ystad

Pan fo gweinyddwr wedi gwaredu eiddo cwmni’n rhydd o arwystl ansefydlog yn ôl y disgrifiad yn Gwarediadau gan weinyddwr, mae gan yr arwystlai hawl i’r flaenoriaeth wreiddiol dros unrhyw ystad newydd y bydd y cwmni’n ei chaffael gyda’r derbyniadau (paragraff 70(2) Atodlen B1).

Oherwydd hynny, wrth gofrestru cwmni y gwyddom sydd â gorchymyn gweinyddu arno fel perchennog ystad, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr arwystlon:

“(Dyddiad) Mae’r ystad gofrestredig yn destun y fath warant neu warantau ag y gall fodoli ac effeithio arni yn rhinwedd darpariaethau paragraff 70(2) Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd, 1986.”

Lle bydd cofnod o’r fath, neu unrhyw gofnod tebyg sy’n cyfeirio at adran 15(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986 wedi ei wneud yn y gofrestr, (yn absenoldeb cais i gofrestru gwarediad gan y gweinyddwr) byddwn yn ei ddileu os yw’r gweinyddwr yn gwneud cais ar Ffurflen CN1 gyda thystysgrif gan y gweinyddwr neu ei drawsgludwr nad oedd gwarantau o’r fath yn effeithio ar y teitl neu, lle’r oedd hyn yn wir, nad oeddent wedi eu crisialu a’u bod wedi eu rhyddhau. Nid oes ffi i’w thalu.

2.7 Gweinyddwr yn cyflawni

Bydd cwmni mewn gweinyddiad yn cyflawni gweithredoedd naill ai trwy ddodi sêl y cwmni ym mhresenoldeb y gweinyddwr (paragraff 60 Atodlen B1 a pharagraff 8 Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986), neu trwy i’r gweinyddwr lofnodi yn enw ac ar ran y cwmni (paragraff 60 Atodlen B1 a pharagraff 9 Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986, ac adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo1925).

Dyma’r ffurfiau a awgrymir:

Lle caiff sêl y cwmni ei defnyddio:

Eenghraifft o ffurflen

Lle na chaiff sêl y cwmni ei defnyddio:

Where the company seal is not used

3. Derbynyddion gweinyddol

3.1 Diffiniad

Derbynnydd gweinyddol yw naill ai:

  • derbynnydd neu reolwr y cyfan (neu’r cyfan i bob diben) o eiddo cwmni a benodwyd gan, neu ar ran, dalwyr unrhyw ddebenturon y cwmni a warantwyd trwy arwystl oedd, fel y’i crëwyd, yn arwystl ansefydlog, neu arwystl o’r fath ac un warant arall neu fwy
  • rhywun fyddai’n dderbynnydd neu reolwr o’r fath ond am benodi rhywun arall fel derbynnydd rhan o eiddo’r cwmni (adran 29(2) i Ddeddf Ansolfedd 1986)

3.2 Penodiad

Gall penodiad fod gan y llys neu o dan bwerau mewn debentur. Rhaid i dderbynnydd gweinyddol fod yn ymarferydd ansolfedd (adran 388 o Ddeddf Ansolfedd 1986) a rhaid iddo gadarnhau derbyn y penodiad (rheol 4.1 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016).

Os yw’r penodiad o dan bwerau sydd mewn debentur a grëwyd trwy weithred, bydd pŵer statudol yn codi:

  • pan fo arian y morgais wedi dod yn daladwy
  • pan fo’r pŵer gwerthu’n arferadwy (adrannau 101(1), 103 a 109 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925)

Gall y debentur amrywio, ymestyn neu eithrio’r pŵer statudol, a gall gynnwys pŵer datganedig i benodi (adrannau 109(3) a 101(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Bydd unrhyw ddebentur a luniwyd yn dda yn cynnwys darpariaethau datganedig yn pennu pryd mae modd gwneud penodiad.

Fodd bynnag, ni all deiliad debentur dyddiedig ar neu ar ôl 15 Medi 2003 benodi derbynnydd gweinyddol, ar waethaf unrhyw ddarpariaeth sydd yn y debentur (adran 72A o Ddeddf Ansolfedd 1986, a ddaeth i rym ar y diwrnod hwnnw).

Ceir eithriadau cyfyngedig i hyn yn ôl adrannau 72B i 72GA o Ddeddf Ansolfedd 1986.

Gall daliwr y debentur wneud y penodiad o dan y pŵer statudol trwy ysgrifennu o dan lofnod.

Os penodir derbynyddion gweinyddol ar y cyd, rhaid i’r penodiad nodi a oes modd iddynt weithio ar y cyd ac yn unigol (adran 231(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

3.3 Pwerau derbynnydd gweinyddol

Ystyrir bod y pwerau ddaw i’r derbynnydd gweinyddol trwy’r debentur yn cynnwys y pwerau statudol yn Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 heblaw i’r graddau eu bod yn anghyson â darpariaethau’r debentur (adran 42(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Mae pwerau Atodlen 1 yn cynnwys pŵer gwerthu ac i roi, neu dderbyn ildio, prydles. Nid oes unrhyw bŵer datganedig i wneud rhodd.

Nid yw rhywun sy’n delio â gweinyddwr mewn didwylledd ac am werth yn poeni ynghylch holi a yw derbynnydd yn gweithredu o fewn ei bŵer (adran 42(3) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Rhaid i dderbynnydd gweinyddol adael y swydd pan fo gorchymyn gweinyddu o ran y cwmni’n dod i rym (adran 8 o Ddeddf Ansolfedd 1986); paragraff 41(1) Atodlen B1).

Gweler Effaith datodiad ar bwerau’r derbynnydd gweinyddol am effaith datodiad ar bwerau’r derbynnydd gweinyddol.

3.4 Derbynnydd gweinyddol yn cyflawni

3.4.1 Yn unol â phwerau statudol yn Neddf Ansolfedd 1986

Mae gan dderbynnydd gweinyddol bŵer statudol i ddefnyddio sêl y cwmni ac i gyflawni unrhyw weithred yn enw ac ar ran y cwmni (adran 42(1) ac Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986). Yn ymarferol, y pŵer statudol hwn sy’n fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio, yn hytrach nag atwrneiaeth a ddisgrifir isod.

Y ffurf gyflawni a awgrymir lle na chaiff sêl y cwmni ei defnyddio:

Enghraifft o ffurflen

3.4.2 Yn unol â phŵer asiantaeth gyffredinol wedi ei gynnwys yn y debentur

Fel arfer bydd y debentur yn rhoi hawl hefyd i’r derbynnydd gweinyddol werthu neu waredu eiddo’r cwmni fel arall. Mae pŵer o’r fath yn cynnwys y pŵer i gyflawni yn enw ac ar ran y cwmni a bydd yn goroesi datodiad (Barrows v Chief Land Registrar, The Times, Hydref 20, 1977). Yn yr achos hwn awgrymir y ffurf gyflawni ganlynol:

Enghraifft o ffurflen

3.4.3 Yn unol ag atwrneiaeth benodol wedi ei chynnwys yn y debentur

Enghraifft o ffurflen

Fel arall, gall y debentur roi atwrneiaeth o blaid y derbynnydd gweinyddol. Nid yw pŵer fel hyn yn bŵer gwarant ac ni fydd yn goroesi datodiad (gweler Effaith datodiad ar bwerau’r derbynnydd gweinyddol). Os yw’r derbynnydd yn cyflawni fel atwrnai, hyd yn oed os yw’r pŵer yn iau na 12 mis, bydd yn rhaid i’r ceisydd am gofrestriad gyflwyno un o’r canlynol gyda’r cais:

  • datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd yn datgan (os felly y mae) nad oeddynt, ar adeg cwblhau’r trafodiad, yn ymwybodol o unrhyw ddirymiad o’r pŵer neu’n ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad (megis dirwyn i ben y cwmni) a gafodd yr effaith o ddirymu’r pŵer
  • dystysgrif wedi ei harwyddo gan drawsgludwr yn ardystio (os felly mae) nad oedd y ceisydd, ar adeg cwblhau’r trafodiad, yn ymwybodol o unrhyw ddirymiad o’r pŵer neu’n ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad (megis dirwyn i ben y cwmni) a gafodd yr effaith o ddirymu’r pŵer

3.4.4 Selio gan y cwmni

Yn ôl cyfarwyddyd y derbynnydd gweinyddol, gall y cwmni selio’r weithred hefyd gan ddefnyddio ei sêl gyffredin ym mhresenoldeb swyddogion y cwmni gydag awdurdod priodol, neu gall cyfarwyddwr ac ysgrifennydd y cwmni ei llofnodi fel gweithred.

4. Cofnodion yn y gofrestr ar benodi derbynnydd

Dylai’r debentur y penodwyd y derbynnydd gweinyddol drwyddo fod wedi ei gofrestru neu ei gofnodi eisoes ar gyfer y teitl. Gan fod yr eiddo yn aros wedi ei freinio yn y cwmni, ni allwch gofrestru’r derbynnydd fel perchennog y teitl na chael rhybudd o gofnod penodiad y derbynnydd ar y gofrestr.

Bydd y derbynnydd am sicrhau bod cyfeiriad y cwmni ar gyfer gohebu fel y mae ar y gofrestr yn un lle bydd unrhyw rybuddion a gyflwynwn yn cael eu derbyn. Gall y derbynnydd ychwanegu cyfeiriad ychwanegol neu newid cyfeiriad sy’n bodoli (caniateir uchafswm o 3 chyfeiriad (rheol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Cofiwch, unwaith y bydd y dderbynyddiaeth wedi dod i ben, ni fydd yn bosibl tynnu cyfeiriad y derbynnydd i ffwrdd pe bai hynny’n gadael y perchennog cofrestredig heb unrhyw gyfeiriad ar gyfer gohebu.

Os byddwch am gyflwyno cais o’r fath, mae arnom angen:

  • ffurflen AP1
  • copi ardystiedig o benodiad y derbynnydd
  • copi ardystiedig o’r debentur (os nad yw wedi ei gofrestru neu ei nodi eisoes a chopi wedi ei ffeilio)

Nid oes dim i’w dalu am y cais hwn.

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

5. Effaith datodiad ar bwerau’r derbynnydd gweinyddol

Asiant y cwmni yw’r derbynnydd gweinyddol. Ar ddatodiad, daw’r asiantaeth hon i ben ond mae’r derbynnydd yn dal i fod â phŵer i weithredu at ddibenion dal a gwaredu eiddo’r cwmni a gall ddefnyddio enw’r cwmni i’r diben hwnnw (Sowman yn erbyn David Samuel Trust Ltd [1978] 1 All ER 616).

Fel y nodwyd yn Derbynnydd gweinyddol yn cyflawni, nid yw atwrneiaeth benodol a grëwyd gan y debentur o blaid y derbynnydd gweinyddol yn bŵer gwarant a chaiff ei ddirymu gan ddirwyn i ben y cwmni. Fodd bynnag, fel rheol mae’r debentur yn rhoi pŵer asiantaeth gyffredinol i werthu, neu i waredu’r cwmni fel arall i’r derbynnydd. Bydd y pŵer yn cynnwys hawl i gyflawni yn enw ac ar ran y cwmni a bydd yr hawl honno’n parhau ar ôl dechrau dirwyn i ben (Barrows v Land Registrar, The Times, Hydref 20, 1977); mae’r hawl i drawsgludo yn enw’r cwmni’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau gwerthiannau a wneir wrth weithredu pŵer gwerthu’r derbynnydd, sy’n goroesi datodiad.

Pan fydd y llys yn dirwyn cwmni i ben, mae unrhyw warediad o eiddo’r cwmni ar ôl dechrau’r dirwyn i ben yn ddi-rym oni bai bod hawl i wneud hynny trwy orchymyn y llys (adran 127 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Fodd bynnag, lle crëwyd debentur cyn trefniadau dirwyn i ben, nid yw unrhyw warediad dilynol gan ddaliwr y debentur neu dderbynnydd o dan bwerau asiantaeth gyffredinol sydd yn y debentur (gweler uchod) sy’n digwydd ar ôl i’r dirwyn i ben gychwyn, yn gofyn am orchymyn y llys.

Gall darpariaethau adrannau 238 i 241 a 244 a 245 o Ddeddf Ansolfedd 1986 sy’n ymwneud â thrafodion am werth rhy isel, blaenoriaethau, trafodion credyd am grocbris ac osgoi arwystlon ansefydlog arbennig, beri annilysu’r debentur yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Pan fydd cais ar sail gwarediad gan dderbynnydd yn cael ei ystyried, os bydd unrhyw awgrym y gall y datodwr geisio osgoi’r debentur yn ôl y darpariaethau hyn, gallwn gyflwyno rhybudd priodol sy’n rhoi cyfle i wrthwynebu. Os yw’r ceisydd yn ymwybodol o unrhyw her o’r fath, rhaid i chi ei datgelu i ni wrth gyflwyno’r cais.

6. Gollwng ystad o forgeisi ac arwystlon ar warediad gan dderbynnydd gweinyddol

Asiant y cwmni nid daliwr y debentur yw derbynnydd gweinyddol (adran 44(1)(A) o Ddeddf Ansolfedd 1986; adran 109(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925).

Nid oes gan dderbynnydd gweinyddol felly unrhyw bŵer i ryddhau eiddo’r cwmni o unrhyw forgais neu arwystl, gan gynnwys y debentur, heb ystyried a grëwyd y morgais neu arwystl cyn neu ar ôl y debentur.

Pan fydd derbynnydd gweinyddol yn gwerthu rhaid i’r prynwr sicrhau cael gollyngiad ar gyfer holl forgeisi ac arwystlon y bydd y prynwr hwnnw i gymryd yr eiddo yn rhydd ohonynt. Mae hyn yn cynnwys yr angen i gael gollyngiad o’r debentur ei hun ac o unrhyw forgeisi ac arwystlon dyddiedig ar ei ôl.

Fodd bynnag, gall y llys orchymyn i waredu ag eiddo yn rhydd o arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd yn dilyn y debentur o dan yr hyn y cafodd y derbynnydd gweinyddol ei benodi, lle y gall y derbynnydd fodloni’r llys ei bod yn fwy manteisiol i waredu â’r eiddo yn rhydd o’r arwystl (adran 43 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Dylid cyflwyno copi swyddfa neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn llys gydag unrhyw gais i gofrestru’r gwarediad ac i ddileu cofnod yr arwystl o’r gofrestr.

7. Tystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi cais i gofrestru ar sail gwarediad gan dderbynnydd gweinyddol

Os yw eich cais i gofrestru yn seiliedig ar warediad gan dderbynnydd gweinyddol, yn ogystal â’r dystiolaeth arferol, bydd angen y canlynol arnom:

  • copi ardystiedig o’r debentur [dylai hwn fod gennym eisoes os yw’r teitl wedi ei gofrestru a’r debentur wedi ei gofrestru neu ei gofnodi]
    • byddwn yn gwirio bod y debentur wedi ei gofrestru o dan adran 859A o Ddeddf Cwmnïau 2006 (adran 860 neu 878 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gynt neu adran 395 o Ddeddf Cwmnïau 1985), ei fod wedi ei gyflawni’n briodol a’i fod yn cynnwys y darpariaethau priodol i ganiatáu penodi’r derbynnydd gweinyddol ac i gynnal y gwarediad
  • tystiolaeth bod pŵer penodi derbynnydd o dan y debentur wedi codi
    • fel arfer byddwn yn derbyn tystysgrif gan yr arwystlai neu gan drawsgludwr ar eu rhan bod pŵer penodi o dan y debentur wedi codi
    • os dyddiwyd y debentur ar neu ar ôl 15 Medi 2003, a’r penodiad heb gael ei wneud gan y llys, mae angen tystiolaeth arnom hefyd bod un o’r eithriadau yn adrannau 72A i 72GA o Ddeddf Ansolfedd 1986, yn berthnasol
  • copi ardystiedig o’r offeryn penodi derbynnydd
    • os bydd derbynyddion gweinyddol ar y cyd yn cael eu penodi rhaid i’r penodiad ddatgan a fyddant yn gallu gweithred ar y cyd ac ar wahân (adran 231(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
  • gollyngiad neu ryddhad o holl forgeisi neu arwystlon, gan gynnwys y debentur, y bydd y ceisydd i gymryd yr eiddo yn rhydd ohonynt
    • os cofrestrwyd y teitl eisoes bydd angen i’r gollyngiad neu ryddhad gynnwys morgeisi neu arwystlon a warchodwyd ar y gofrestr yn unig
    • os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn yn awdurdodi gwaredu eiddo yn rhydd o forgais neu arwystl (gweler Gollwng ystad o forgeisi ac arwystlon ar warediad gan dderbynnydd gweinyddol), bydd angen copi swyddfa neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn llys arnom
  • os yw’r derbynnydd yn cyflawni fel atwrnai, tystiolaeth o fod heb ei ddirymu
  • manylion unrhyw her i ddilysrwydd y debentur gan ddatodwr y cwmni, gan gynnwys enw a chyfeiriad y datodwr
  • os mai endid tramor yw perchennog cofrestredig yr ystad gofrestredig, a bod y gwarediad yn cael ei wneud wrth arfer pŵer gwerthu neu brydlesu gan dderbynnydd a benodir gan berchennog arwystl cofrestredig, neu gan ymarferydd ansolfedd penodedig o dan amgylchiadau penodedig, tystiolaeth i gydymffurfio â’r cyfyngiad canlynol os yw hyn yn ymddangos yn y gofrestr:

CYFYNGIAD: Nid oes unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i’w gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2)(a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor. Sylwer nad yw’r Rheoliadau a fydd yn diffinio ‘ymarferydd ansolfedd penodedig’ ac ‘amgylchiadau penodedig’ wedi eu gwneud eto.

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

8. Pethau i’w cofio

Gwnewch yn siwr:

  • os mai gweinyddwr sy’n gwneud y cais, gwnewch yn siwr eich bod wedi darparu tystiolaeth o’i benodiad – y gorchymyn gweinyddu a wnaed gan y llys, neu gopïau ardystiedig o’r rhybudd o benodiad wedi ei selio gan y llys (gyda’r dyddiad a’r amser wedi ei ardystio)
  • os mai derbynnydd gweinyddol sy’n gwneud y cais, eich bod wedi darparu tystiolaeth o’i benodi
  • os yw derbynnydd gweinyddol wedi gweithredu fel atwrnai, y cyflwynwyd y dystiolaeth o fod heb ei ddirymu
  • eich bod wedi amgáu’r taliad cywir (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
  • eich bod wedi defnyddio ffurflen AP1
  • eich bod yn gwirio’r manylion clerigol yn yr holl ffurflenni a gweithredoedd (yn enwedig arwystlon a morgeisi) gan dalu sylw arbennig i’r holl ddyddiadau, disgrifiadau eiddo, rhifau teitl ac enwau llawn partïon, yn enwedig lle maent yn ymddangos mewn mwy nag un weithred

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.