Barwnes Breswyl (Chwip y Llywodraeth) a Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol

Baroness Buscombe

Baroness Buscombe

Cynnwys

Bywgraffiad

Penodwyd y Farwnes Buscombe fel Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau (Barwnes Breswyl) ar 15 Mehefin 2017.

Roedd yn Chwip y Llywodraeth (Barwnes Breswyl) o’r 21 Rhagfyr 2016 i 15 Mehefin 2017. Fe’i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 15 Mehefin 2017.

Mae hi’n aelod Ceidwadol o Dŷ’r Arglwyddi.

Barwnes Breswyl (Chwip y Llywodraeth)

Mae gan Chwipiaid yr Arglwyddi yr un safle cyfansoddiadol a gweinidogion adrannol. Mae eu rôl yn Nhŷ’r Arglwyddi yn wahanol i un y Chwipiau yn Nhŷ’r Cyffredin, sydd yn bennaf rheolaeth pleidiol.

Mae gan Chwip yr Arglwyddi rôl weithredol wrth siarad yn y Tŷ i hyrwyddo ac amddiffyn polisi adrannol sy’n cynnwys:

  • ateb cwestiynau
  • ymateb i ddadleuon
  • mynd a deddwriaeth sylfaenol ac ailaidd drwy’r Tŷ

Os nad oes gan yr adran dan sylw weinidog adrannol yn Nhŷ’r Arglwyddi, bydd holl fusnes yr adran yn disgyn i’r Chwip.

Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol

Mae cyfrifoldebau’r gweinidog yn cynnwys:

  • llefarydd ar draws yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhŷ’r Arglwyddi
  • strategaeth twyll, gwall a dyled
  • polisi Rhif Yswiriant Gwladol
  • goruchwylio offerynnau statudol adrannol a rheoli’r berthynas gyda’r Pwyllgor Cynghori ar Nawdd Cymdeithasol
  • cynllunio adrannol a rheoli perfformiad, gan gynnwys gohebiaeth weinidogol
  • busnes adrannol, gan gynnwys polisi masnachol contractio, polisi dulliau talu, tryloywder a rhannu data, ymchwil a threialu, diogelwch TG, gweithrediad y Cyfamod Milwrol