Stori newyddion

Cig eidion o Gymru i'w allforio i'r Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd

Cig eidion o’r DU i’w weini ar blatiau yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers 20 mlynedd

Beef

Beef

  • Cwmni Kepak Group Limited o Ferthyr Tudful ymhlith un o’r busnesau cyntaf i’w restru’n swyddogol gan Wasanaeth Arolygu Diogelwch Bwyd Adran Amaethyddiaeth yr UDA i fod yn gymwys i allforio cig eidion i America
  • Diwydiant cig eidion y DU yn amcangyfrif hwb o £66 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf

Mae’r cig eidion cyntaf o’r DU wedi cael ei allforio i’r Unol Daleithiau heddiw (30ain Medi), sy’n foment hanesyddol i ffermwyr a phroseswyr bwyd y DU.

Yn dilyn gwaharddiad hirhoedlog yr Unol Daleithiau ar gig eidion yr UE – a gyflwynwyd yn sgil yr achosion o BSE yn 1996 – rhoddwyd caniatâd i gig eidion o’r DU gael ei allforio i America ym mis Mawrth 2020. Mae gan gynhyrchwyr cig eidion yng Nghymru fynediad bellach i farchnad yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.

Mae’r newyddion heddiw yn golygu y gall y sector ddechrau gwneud y mwyaf o’r buddion economaidd o fasnachu â’r Unol Daleithiau – gyda’r diwydiant yn amcangyfrif y bydd yr allforion cig eidion gwerth £66 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae pedwar busnes bwyd cyntaf y DU, sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, bellach wedi’u rhestru’n swyddogol gan Wasanaeth Arolygu Diogelwch Bwyd Adran Amaethyddiaeth yr UDA i fod yn gymwys i allforio cig eidion y DU i America. Mae’r busnesau yn cynnwys y cwmni o Ferthyr Tudful, Kepak Group Limited, sydd bellach yn gallu dechrau cynhyrchu ac allforio cig eidion y DU i ddefnyddwyr yr Unol Daleithiau. Yn ystod y misoedd nesaf, disgwylir y bydd mwy o fusnesau bwyd ledled Cymru a gweddill y DU yn gallu manteisio ar y cyfle newydd cyffrous hwn i allforio.

Mae’r allforion cyntaf o gig eidion o Foyle Food Group, Foyle Campsie yng Ngogledd Iwerddon wedi’u hanfon i’r UDA heddiw, a disgwylir i allforion pellach o bob rhan o’r DU gychwyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd George Eustice:

Mae ein cig eidion yn enwog am fod gyda’r gorau’n y byd o ran ei ansawdd uchel, diogelwch bwyd a safonau lles, ac mae’r garreg filltir nodedig hon yn golygu y gall mwy o bobl ledled y byd fwynhau ein cynnyrch.

Mae hyn yn newyddion gwych i’n diwydiant bwyd a ffermio, sydd wedi amcangyfrif y bydd yn hwb o £66 miliwn i gynhyrchwyr cig eidion yn ystod y pum mlynedd nesaf, gan helpu’r sector i fynd o nerth i nerth”.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Masnach Liz Truss:

Mae’n foment hanesyddol i ffermio ym Mhrydain, ac amcangyfrifir y gall y cyfle hwn fod gwerth £66 miliwn i’r rheini sydd eisiau allforio cig eidion i’r Unol Daleithiau.

A megis dechrau yw hyn. Bydd y cytundeb masnach rydd rydym yn ei drafod gyda’r Unol Daleithiau yn creu llu o gyfleoedd allforio i amaethyddiaeth ym Mhrydain. Rydym yn ceisio cael cytundeb uchelgeisiol o safon uchel sydd o fudd i ffermwyr ac yn gweithio i gwsmeriaid.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae agor y farchnad yn yr Unol Daleithiau yn newyddion gwych i gynhyrchwyr cig eidion ar draws Cymru ac yn amlygu’r hyder yn ein sector bwyd a diod byd-enwog.

Mae datgloi’r farchnad hon yn gam mawr ymlaen i’r sector ac yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i hybu allforion o’r cynnyrch Cymreig gorau.

Fel un o’r arweinwyr byd o ran safonau lles anifeiliaid, mae cig eidion y DU yn cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei darddiad, ansawdd a chig y gellir ei olrhain. Drwy’r ymgyrch Food is GREAT, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu codi proffil ac enw da bwyd a diod o’r DU yn rhyngwladol, a helpu mwy o gwmnïau bwyd a diod i allforio eu cynnyrch dramor.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Marchnadoedd Rhyngwladol AHDB Dr Phil Hadley:

Rydym yn falch dros ben o weld yr allforion cyntaf o gig eidion yn mynd am yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, sy’n foment hanesyddol i ffermwyr a chynhyrchwyr y DU. Yn naturiol, rydym yn falch o’n diwydiant, sydd ag enw da am gynhyrchu cig eidion o ansawdd uchel i rai o’r safonau lles gorau’n y byd.

Mae’r UDA yn ddarpar farchnad bwysig i’n hallforion cig coch, ac mae’r allforion cyntaf heddiw yn ffrwyth gwaith caled a dyfalbarhad y diwydiant a’r llywodraeth wrth sicrhau’r cam nesaf hollbwysig hwn. Bydd y garreg filltir bwysig hon yn rhoi hwb gwych i’r sector ac edrychwn ymlaen at weld mwy o’n cig coch yn cael ei weini ar fyrddau bwyd ledled yr Unol Daleithiau yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod”.

Dywedodd Karen Pierce, Llysgennad Prydain i’r UDA:

Am y tro cyntaf ers dros ddau ddegawd, bydd gan Americanwyr gyfle i flasu cig eidion blasus y DU sydd gyda’r gorau’n y byd.

Mae defnyddwyr Americanaidd eisoes wedi cael blas o amrywiaeth o gynnyrch Prydeinig o safon, gan gynnwys cawsiau da, chwisgi, eog a bisgedi, ac mae’n sicr y daw cig eidion yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau.

Wrth i ni barhau gyda’n trafodaethau cyfredol tuag at gytundeb masnach rydd rhwng y DU ac UDA, rwy’n edrych ymlaen at weld sut gallwn gynyddu cyfleoedd i Americanwyr brofi’r cynnyrch gorau o Brydain.

Cyhoeddwyd Adroddiad Gwasanaeth Archwilio a Diogelwch Bwyd yr Unol Daleithiau (FSIS), cam hollbwysig wnaeth arwain at allforwyr o Brydain yn gallu gwerthu i’r Unol Daleithiau, ym mis Mawrth 2020, a chadarnhaodd fod systemau a rheolaethau hylendid cig y DU o safon addas, gyfwerth i fewnforio cynnyrch i’r UDA. Nododd yr adroddiad hefyd fod y DU gyfan yn bodloni gofynion cynhyrchu’r Unol Daleithiau, felly gall cig eidion o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael ei allforio.

Cyn y cyhoeddiad hwn, archwiliodd FSIS nifer o safleoedd ar draws y DU rhwng Gorffennaf ac Awst 2019. Roedd yr ymweliadau hyn yn rhagflaenu blynyddoedd o drafodaethau niferus am fynediad i’r farchnad ac elfennau technegol rhwng UDA a’r DU.

Cafodd yr archwiliadau hyn eu harwain gan grŵp Defra a Phartneriaeth Ardystio Allforio’r DU a’u cynnal gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), mewn partneriaeth â Quality Meat Scotland a Hybu Cig Cymru a chyrff eraill o fewn y diwydiant, yn ogystal ag Adrannau ac Asiantaethau Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig.

Cyhoeddwyd ar 2 October 2020