Skip to main content
Stori newyddion

Tŷ’r Cwmnïau i gyflwyno newidiadau i’r broses ffeilio cyfrifon o fis Ebrill 2028

Bydd cwmnïau bach a micro-endidau yn ffeilio cyfrifon elw a cholled, ond maent yn gallu dewis peidio â’u cyhoeddi. Bydd angen i bob cwmni ffeilio cyfrifon drwy feddalwedd fasnachol gyda mwy o amser i baratoi.

Heddiw, cyhoeddodd y llywodraeth sut y bydd mesurau diwygio cyfrifon a nodir yn Neddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 (“ECCTA 2023”) yn cael eu gweithredu. Mae hyn yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid i ystyried eu safbwyntiau ynghylch yr effaith y gallai rhai o’r diwygiadau ei chael ar gwmnïau.

O dan ECCTA 2023, bydd y llywodraeth yn cyflwyno newidiadau i sut mae cwmnïau’n adrodd eu gwybodaeth a pha wybodaeth maen nhw’n ei hadrodd wrth ffeilio eu cyfrifon blynyddol gyda Thŷ’r Cwmnïau. Nod y diwygiadau hyn yw:

  • gwella tryloywder, cywirdeb a dibynadwyedd data ar y gofrestr cwmnïau
  • llywio penderfyniadau busnes
  • moderneiddio arferion yn unol â gwledydd eraill
  • mynd i’r afael â throseddu economaidd.

Ar ôl rhywfaint o ystyriaeth, bydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r diwygiadau i’r cyfrifon, gan gynnwys y canlynol:

  • ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau bach a micro-endidau ffeilio cyfrifon elw a cholled gyda Thŷ’r Cwmnïau fel y mae cwmnïau eraill yn ei wneud, ond gyda’r opsiwn i ddewis i pheidio â chyhoeddi’r wybodaeth hon ar y gofrestr gyhoeddus;
  • ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffeilio eu cyfrifon blynyddol drwy feddalwedd fasnachol;
  • dileu’r opsiwn i gwmnïau ffeilio cyfrifon cryno;
  • datganiad cymhwysedd cryfach ar gyfer pob cwmni sy’n hawlio eithriad archwilio; gan ei gwneud yn ofynnol i rannau cydrannol o’r cyfrifon a’r adroddiadau a ffeiliwyd gael eu ffeilio gyda’i gilydd; a
  • lleihau faint o weithiau gall cwmni fyrhau ei gyfnod cyfeirio cyfrifyddu.

Er mwyn rhoi mwy o amser i gwmnïau baratoi, bydd y newidiadau hyn i’r broses o ffeilio cyfrifon yn dod i rym o fis Ebrill 2028, yn hytrach nag Ebrill 2027. Mae hyn yn golygu y bydd gan bob cwmni un flwyddyn gyfrifyddu lawn, ynghyd â naw mis (21 mis) i baratoi.

Byddwn yn cysylltu â phob cwmni drwy eu cyfeiriad e-bost cofrestredig i roi gwybod am y newidiadau hyn a chyfeirio at y canllawiau sydd ar gael.

Cydbwyso tryloywder â lleihau baich ar fusnesau

Mae’r newid hwn yn caniatáu i gwmnïau bach a micro-gwmnïau ddewis peidio â chyhoeddi cyfrifon elw a cholled. Mae’n helpu i fynd i’r afael â phryderon ynghylch preifatrwydd a risgiau masnachol.

Bydd manylion sut y gall cwmnïau llai ddewis peidio â chyhoeddi elw a cholled yn cael eu cadarnhau maes o law.

Gall cwmnïau sydd am fwynhau manteision cyhoeddi, fel mynediad gwell at gyllid a thryloywder gwell, barhau i wneud hynny.

Pan fydd cwmni’n dewis peidio â chyhoeddi ei gyfrifon elw a cholled, bydd gan Dŷ’r Cwmnïau, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a Chyllid a Thollau EM fynediad o hyd i helpu i nodi a mynd i’r afael â thwyll, troseddau economaidd ac achosion o osgoi trethi.

Ffeilio cyfrifon meddalwedd yn unig

O fis Ebrill 2028 ymlaen, rhaid i bob cwmni yn y DU ffeilio eu cyfrifon ar fformat iXBRL. Bydd angen iddynt ddefnyddio meddalwedd fasnachol i wneud hyn.

Mae hyn yn berthnasol p’un a yw cwmnïau’n ffeilio cyfrifon eu hunain neu’n defnyddio asiant neu gyfrifydd. O hynny ymlaen, ni fydd modd ffeilio ar y we ac ar bapur ar gyfer cyfrifon bellach.

Rydym yn darparu rhestr o ddarparwyr meddalwedd ar GOV.UK i helpu cwmnïau i ddod o hyd i becyn meddalwedd addas.

Bydd hyn yn gwella ansawdd data ariannol ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio’r gofrestr a dros amser, yn darparu mwy o gyfleoedd i ddata cyfrifon cwmnïau gael ei agregu, ei gymharu a’i ddadansoddi ar gyfer defnydd ehangach.

Bydd gwasanaethau ffeilio ar y we Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i fod ar gael ac wedi’u cefnogi’n llawn ar gyfer ffeilio nad yw’n ymwneud â chyfrifon, gan gynnwys datganiadau cadarnhau a diweddariadau i fanylion cyfarwyddwyr.

Darllenwch y Datganiad Ysgrifenedig Gweinidogol.

Mae canllawiau ar gael i helpu defnyddwyr i ddeall y newidiadau a pharatoi ar gyfer y newid i ddefnyddio meddalwedd i ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau..

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mehefin 2026