Rôl Gweinidogol

Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gymorth i Deuluoedd, Tai a Chynhaliaeth Plant

Cyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau’r gweinidog yn cynnwys:

  • llefarydd ar draws yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhŷ’r Cyffredin
  • teuluoedd di-waith, cymorth a chefnogaeth perthynas i grwpiau dan anfantais
  • gofal plant a budd-daliadau mamolaeth
  • cynhaliaeth plant
  • cymorth ariannol ar gyfer tai, gan gynnwys o fewn Credyd Cynhwysol
  • cymorth cymdeithasol eraill, gan gynnwys llety â chymorth, Cymorth ar gyfer Llog Morgais, Taliadau Tywydd Oer, budd-daliadau profedigaeth a thaliadau angladd
  • gweithredu’r cap ar fudd-daliadau ac uwchraddio budd-daliadau

Deiliad y rôl : Caroline Dinenage MP

Penodwyd Caroline Dinenage yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 14 Mehefin 2017.

Roedd hi’n Is-ysgrifennydd Gwladol dros Fenywod, Cydraddoldeb a Blynyddoedd Cynnar yn yr Adran Addysg o 17 Gorffennaf 2016 i 14 Mehefin 2017.

Fe’i etholwyd yn AS Ceidwladol dros Gosport, Stubbington, Lee-on-the-Solent a Hill Head yn 2010.

Addysg

Astudiodd Caroline gwleidyddiaeth a Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Gyrfa wleidyddol

Rhwng 1998 a 2003 gwasanaethodd Caroline ar gyngor lleol Dinas Winchester. Fe’i penodwyd yn Llysgennad Busnesau Bychan ar gyfer De Lloegr gan y Prif Weinidog ym mis Mehefin 2013, a rhwng 2012 a 2015 bu’n eistedd ar Bwyllgor Busnes, Menter a Sgiliau’r Tŷ Cyffredin.

O fis Ebrill 2014 i fis Mai 2015 gwasanaethodd Caroline fel Ysgrifennydd Preifat Seneddol i’r Gwir Anrhydeddus Nicky Morgan AS. O fis Mai 2015 i fis Gorffennaf 2016 bu’n gwasanaethu fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Fenywod, Cydraddoldeb a Chyfiawnder Teulu yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Adran Addysg.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Mae gan Caroline fwy nag 20 mlynedd o brofiad fel perchennog busnes bychan, wedi sefydlu ei chwmni gweithgynhyrchu ei hun cyn mynd i’r brifysgol.

Cyhoeddiadau

Get updates to this list email feed

Copy and paste this URL in to your feed reader

  1. Views on proposed improvements to Funeral Expenses Payments sought

    • Press release
  2. Department for Work and Pensions welcomes new ministerial team

    • Press release