Rôl Gweinidogol

Is-ysgrifennydd Gwladol dros Bensiynau a Chynhwysiant Ariannol

Cyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau’r gweinidog yn cynnwys:

  • budd-daliadau pensiynwyr, gan gynnwys Pensiwn newydd y Wladwriaeth, Taliadau Tanwydd Gaeaf a Chredyd Pensiwn
  • adolygiad o oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • cynhwysiant ac arweiniad ariannol, gan gynnwys y Corff Arweiniad Ariannol Sengl, Prosiect Ehangu Undebau Credyd a Chyfrifon Cerdyn Swyddfa’r Post
  • pensiynau preifat a galwedigaethol, gan gynnwys pwerau rheoleiddio, Ymrestru Awtomatig yn yr Ymddiriedolaeth Cynilo Cyflogaeth Genedlaethol (NEST)
  • goruchwylio cyrff hyd braich, gan gynnwys y Rheoleiddiwr Pensiynau, Gronfa Diogelu Pensiynau, Cynllun Cymorth Ariannol ar Ombwdsmon Pensiynau

Disodlwyd y rôl o Is-ysgrifennydd Gwladol dros Bensiynau’r Wladwriaeth gan rôl yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Bensiynau a Chynhwysiant Ariannol ym mis Mehefin 2017.

Deiliad y rôl : Guy Opperman MP

Penodwyd Guy Opperman yn Is-Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 14 Mehefin 2017.

Gwasanaethodd fel Chwip y Llywodraeth (Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EM) o’r 17 Gorffennaf 2016 i 14 Mehefin 2017. Fe’i etholwyd yn AS Ceidwladol dros Hexham ym mis Mai 2010.

Addysg

Derbyniodd Guy ei addysg yn Ysgol Harrow, aeth ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Buckingham. Mae hefyd wedi ennill diploma dosbarth cyntaf o Brifysgol Lille.

Gyrfa wleidyddol

Yn flaenorol gwasanaethodd Guy fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Mark Harper, a oedd y pryd hynny yn Weinidog Mewnfudo. Gwasanaethodd fel Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth o fis Mai 2015 tan mis Gorffennaf 2016.

Gyrfa cyn gwleidyddiaeth

Galwyd Guy i’r bar yn 1989. Treuliodd 20 mlynedd fel bargyfreithiwr ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr o fusnes peirianneg y teulu tan 2009.

Bywyd personol

Mae Guy yn joci amatur ac enillodd ei ras cyntaf yn 1985.

Cyhoeddiadau

Get updates to this list email feed

Copy and paste this URL in to your feed reader

  1. Department for Work and Pensions welcomes new ministerial team

    • Press release