Rôl Gweinidogol

Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol

Cyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau’r gweinidog yn cynnwys:

  • llefarydd ar draws yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhŷ’r Arglwyddi
  • strategaeth twyll, gwall a dyled
  • polisi Rhif Yswiriant Gwladol
  • goruchwylio offerynnau statudol adrannol a rheoli’r berthynas gyda’r Pwyllgor Cynghori ar Nawdd Cymdeithasol
  • cynllunio adrannol a rheoli perfformiad, gan gynnwys gohebiaeth weinidogol
  • busnes adrannol, gan gynnwys polisi masnachol contractio, polisi dulliau talu, tryloywder a rhannu data, ymchwil a threialu, diogelwch TG, gweithrediad y Cyfamod Milwrol

Deiliad y rôl : Baroness Buscombe

Penodwyd y Farwnes Buscombe fel Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau (Barwnes Breswyl) ar 15 Mehefin 2017.

Roedd yn Chwip y Llywodraeth (Barwnes Breswyl) o’r 21 Rhagfyr 2016 i 15 Mehefin 2017. Fe’i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 15 Mehefin 2017.

Mae hi’n aelod Ceidwadol o Dŷ’r Arglwyddi.

Cyn-ddeiliaid y rôl yma

  1. The Rt Hon Lord Henley

    • 2016 to 2017