Rôl Gweinidogol

Gweinidog Gwladol dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith

Cyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau’r gweinidog yn cynnwys:

  • materion anabledd ar draws y llywodraeth
  • strategaeth gwaith a iechyd, yn cynnwys noddi’r Uned Gwaith a Iechyd ar y Cyd
  • cyflogaeth anabledd, gan gynnwys Yn Hyderus o ran Anabledd, Dewis Gwaith, Mynediad at Waith, y Rhaglen Gwaith a Iechyd a iechyd meddwl yn y gweithle
  • cefnogaeth ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o golli gafael ar waith, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a Thâl Salwch Statudol
  • cymorth ariannol ar gyfer hawlwyr sâl ac anabl, gan gynnwys o fewn:

    • Credyd Cynhwysol
    • Lwfans Byw i’r Anabl
    • Taliad Annibyniaeth Personol
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
    • Lwfans Gweini
    • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
    • Lwfans Gofalwr
  • lles penodol a materion yn gysylltiedig a iechyd, gan gynnwys ‘Motability’ a chynlluniau iawndal hyd braich
  • goruchwylio’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Swyddfa dros Reoli Niwclear

Disodlwyd rôl y Gweinidog Gwladol dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith gan rôl yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Bobl Anabl ym mis Gorffennaf 2016.

Deiliad y rôl : Penny Mordaunt MP

Cafodd Penny Mordaunt ei phenodi yn Gweinidog Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 15 Gorffennaf 2016. Fe’i hetholwyd yn AS Ceidwadol dros Gogledd Portsmouth yn 2010.

Addysg

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gatholig Oaklands ac ym Mhrifysgol Reading lle astudiodd Athroniaeth.

Gyrfa wleidyddol

Gweithiodd Penny i Swyddfa Ganolog y Ceidwadwyr, gan ddod yn Bennaeth Darlledu o dan William Hague. Yn 2000 gwasanaethodd fel Pennaeth y Wasg Dramor ar gyfer ymgyrch etholiad arlywyddol George W. Bush.

Yn San Steffan, gwasanaethodd Penny ar y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd, Pwyllgor Dethol yr Amddiffyn, ac fel cadeirydd y Grwpiau Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Gwyddor Bywyd ac ar gyfer Heneiddio a Phobl Hŷn. Yn yr hydref 2013, cafodd ei phenodi’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, y Gwir Anrh. Philip Hammond AS. Bu’n gwasanaethu fel Gweinidog Gwladol dros y Lluoedd Arfog o fis Mai 2015 tan fis Gorffennaf 2016.

Ei gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Gweithiodd Penny fel gweithiwr cymorth yn Romania ôl-chwyldroadol cyn ac yn ystod y brifysgol. Hi oedd cyfarwyddwr cyfathrebu yng Nghyngor Kensington a Chelsea a’r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau ac roedd yn gyfarwyddwr ‘Diabetes UK’, y Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Loteri Fawr. Yn 2004 sefydlodd Penny cwmni cyfryngau, yna’i werthu yn 2010.

Cyhoeddiadau

Get updates to this list email feed

Copy and paste this URL in to your feed reader

  1. Department for Work and Pensions welcomes new ministerial team

    • Press release
  2. Professor Francis Davis appointed to the Office for Disability Issues

    • News story
  3. Paul Gray publishes second review of Personal Independence Payment

    • Press release
  4. New business champions to support rights of disabled consumers

    • Press release
  5. New figures show more than £84 million awarded in compensation through Diffuse Mesothelioma Payment Scheme

    • Press release
  6. Seeking disability sector champions

    • News story
  7. Appointment of the Chair of the Disability Confident Business Leaders Group

    • Press release
  8. Dame Carol Black publishes review on links between work and addiction

    • Press release