Rôl Gweinidogol
Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth
- English
- Cymraeg
Cyfrifoldebau
Mae cyfrifoldebau’r gweinidog yn cynnwys:
- Credyd Cynhwysol, yn cynnwys agweddau’r farchnad lafur a rheolaeth o’r rhaglen gyfan
- strategaeth gyflogaeth ac ymyriadau yn y farchnad lafur, gan gynnwys:
- amodoldeb a sancsiynau
- cyflogaeth ieuenctid
- cyflogaeth merched
- cyflogaeth pobl dduon, Asiaidd ac lleafrifoedd ethnig
- ‘Fuller Working Lives’
- Lwfans Menter Newydd
- Canolfan Byd Gwaith, gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu â chyflogwyr
- yr UE a materion rhyngwladol, yn cynnwys cefnogaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Brexit
- cefnogaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol ar ddatganoli
Deiliad y rôl : Damian Hinds MP
Penodwyd Damian Hinds yn Gweinidog Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 15 Gorffennaf 2016. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ddwyrain Hampshire ym mis Mai 2010.
Addysg
Mynychodd Damian Ysgol Ramadeg St Ambrose, Altrincham cyn cwblhau gradd mewn gwleidyddiaeth, athroniaeth ac economeg.
Gyrfa wleidyddol
Yn fuan ar ôl mynd i San Steffan, etholwyd Damian i’r Pwyllgor Dethol Addysg a gwasanaethodd hyd at fis Hydref 2012. Cyn hynny bu’n gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Symudedd Cymdeithasol. Yn flaenorol bu’n gwasanaethu fel Cynorthwyydd Chwip y Llywodraeth o fis Gorffennaf 2014 tan fis Mawrth 2015 ac fel Ysgrifennydd y Trysorlys o fis Mai 2015 tan fis Gorffennaf 2016.
Ei yrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Treuliodd Damian 18 mlynedd yn gweithio yn y diwydiannau tafarndai, bragu a gwesty, ym Mhrydain a thramor.
Bywyd personol
Mae gan Damian a’i wraig Jacqui 3 o blant ifanc.
Cyhoeddiadau
-
Immediate access to hardship payments extended to help mental health and homelessness
- Press release
-
Employment has reached a new record high
- Press release
-
Delivering a more efficient and modern employment service
- Press release
-
More than 105,000 businesses helped through start-up fund
- Press release
-
Department for Work and Pensions welcomes new ministerial team
- Press release
-
Employment remains at record high rate of 74.6%
- Press release
-
Unemployment rate falls to lowest since 2005
- Press release
-
Unemployment rate at 11-year low
- Press release
-
Flexible hours key to working longer, says new report
- Press release
-
95,000 businesses launched with jobcentre scheme
- Press release