Achosion Da’r Loteri Genedlaethol: Ariannwch beth sy’n bwysig i chi
Diweddarwyd 19 Awst 2026
Rhagair y Gweinidog

Ers tri degawd, mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Prydain. Mae’n sefydliad cenedlaethol dilys, sy’n eiddo i bob un ohonom - fel y GIG neu’r BBC - sy’n rhan annatod o’n cenedl. O’r athletwyr elît sy’n ein hysbrydoli ar y llwyfan byd-eang i’r prosiectau lleol sy’n ganolbwynt i’n trefi, mae’r cyllid hwn yn adnodd hanfodol i sicrhau bod ein chwaraeon, ein diwylliant a’n treftadaeth nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu.
Gyda dros £53 biliwn wedi’i gynhyrchu ar gyfer dros 680,000 o brosiectau, does dim modd gwadu ei heffaith ar draws y DU gyfan. Rydyn ni’n gweld hyn yn y gwaith o adfer a chynnal ein hanes diwydiannol, y llwyddiannau sinematig sy’n adrodd ein stori genedlaethol, yr hybiau cymunedol sy’n dod â ni at ein gilydd a’r clybiau chwaraeon ar lawr gwlad ym mhob cwr o’r DU. Nid adeiladau a sefydliadau’n unig yw’r rhain; nhw yw angorau ein cymunedau a sylfeini ein cymdeithas. Dyma’r mannau lle mae hyder yn cael ei feithrin a lle mae’r genhedlaeth nesaf yn darganfod bod eu doniau’n perthyn ar bob llwyfan ac ar bob cae maen nhw’n dewis chwarae arno.
Ond mae’n rhaid i ni fod yn onest; er bod effaith y cyllid hwn wedi newid bywydau, mae’r ffordd mae’n cael ei ddosbarthu yn dangos ei oedran. Adeiladwyd y model cyllido presennol ar gyfer byd sydd wedi hen fynd heibio. Mae’n fodel sydd wedi’i wreiddio mewn oes wahanol, sy’n dibynnu’n rhy aml ar ganoli, gyda phenderfyniadau ynghylch ble mae’r arian hwn yn mynd yn cael eu gwneud mewn ystafelloedd pell, ymhell o’r cymunedau sy’n gwybod orau beth yw eu hanghenion. Mae angen inni droi’r model hwnnw ar ei ben, ac wrth inni edrych tuag at y deng mlynedd ar hugain nesaf, mae arnom eisiau sicrhau bod y Loteri Genedlaethol nid yn unig yn rhywbeth sy’n digwydd i bobl, ond yn rhywbeth sy’n cael ei hybu ganddynt hwy.
Dyna pam mae’r llywodraeth yn lansio’r galwad hwn am dystiolaeth ar Achosion Da’r Loteri Genedlaethol: Ariannwch beth sy’n bwysig i chi. Nid adolygiad yn unig yw hwn; mae’n ymwneud ag ailwerthuso’n sylfaenol sut mae cyllid achosion da yn cael ei ddosbarthu a sicrhau bod llais y wlad gyfan yn cael ei glywed. Mae ein cenhadaeth yn seiliedig ar dair cred syml:
-
Chi biau’r arian hwn. Dylai’r biliynau o bunnoedd a godir adlewyrchu blaenoriaethau’r cyhoedd ym Mhrydain. Rydym am i’r buddsoddiad hwn dreiddio’n ddwfn i gymunedau ac ariannu eich blaenoriaethau.
-
Chi ddylai wneud y penderfyniadau. Rydym am roi llais go iawn i bobl leol yn y ffordd y mae arian yn cael ei wario yn eu cymunedau eu hunain. Mae’n bryd symud y tu hwnt i fandadau o’r brig i lawr ac ymddiried yn y bobl sy’n adnabod eu strydoedd, eu clybiau a’u treftadaeth orau.
-
Ni ddylai eich uchelgais wynebu biwrocratiaeth. Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar y fiwrocratiaeth sy’n rhwystro ysbryd cymunedol. Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n haws i fudiadau bach ar lawr gwlad gael gafael ar y cymorth maen nhw’n ei haeddu heb orfod boddi mewn gwaith papur.
Mae’r Loteri Genedlaethol yn ein hatgoffa o’r grym sydd gennym pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd. Mae’n ased y mae gan bob un ohonom ran ynddo. Yr alwad hon am dystiolaeth yw’r cam cyntaf tuag at ddiogelu a chryfhau’r sefydliad hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau ei fod yn cael ei yrru gan yr union gymunedau y mae i fod i’w gwasanaethu.
Y Farwnes Twycross (Y Gweinidog dros Amgueddfeydd, Hapchwarae a Threftadaeth)
Grym y loteri
Ers y digwyddiad Loteri cyntaf ar 19 Tachwedd 1994, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cynhyrchu dros £53 biliwn ar gyfer achosion da, gan gefnogi cymunedau a thrawsnewid bywydau ar draws pob cod post yn y DU.
Ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol, mae wedi ein helpu i arddangos y DU, ein hysbrydoli, a’n hatgoffa ni i gyd o’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Nid oes enghraifft well o hyn na Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, a llwyddiant parhaus ein Olympiaid a’n Paralympiaid. Yr un mor ysbrydoledig yw’r tirnodau cenedlaethol y mae wedi helpu i’w creu, o Glôb Shakespeare yn Llundain i Stadiwm y Mileniwm (Stadiwm Principality erbyn hyn) yng Nghaerdydd, Amgueddfa Mary Rose yn Portsmouth i’r Titanic Quarter yn Belfast ac Amgueddfa V ac A yn Dundee. Mae hefyd wedi cyllido rhai o lwyddiannau sinematig mwyaf poblogaidd ac eiconig y DU, gan gynnwys trysorau cenedlaethol fel Billy Elliot, ffefryn blynyddoedd cyntaf y mileniwm, Bend it Like Beckham, a’r ffilm arobryn Aftersun.
Dim ond rhan fach o’r stori yw hyn. Mae’r Loteri Genedlaethol a’r 12 sefydliad sy’n dosbarthu cyllid achosion da wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi pobl leol ledled y wlad i wella eu cymunedau a bywydau eu cymdogion. Mae hyn yn cynnwys clybiau a mudiadau lleol ym mhob dinas, tref a phentref sy’n rhoi mynediad i bobl at chwaraeon a chelf a gwarchod treftadaeth a hanes lleol, yn ogystal â’r elusennau, y mudiadau gwirfoddol a’r grwpiau cymunedol sy’n darparu cefnogaeth leol hanfodol. Yn hollbwysig, er bod gwariant y llywodraeth sy’n cael ei ariannu gan drethdalwyr yn sicrhau ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, mae cyllid y Loteri yn darparu’r hwb ychwanegol hanfodol hwnnw. Mae’n cefnogi’n uniongyrchol yr achosion a’r prosiectau sy’n dod â ni at ein gilydd ac yn ychwanegu cymaint o lawenydd at ein bywydau - gan gyrraedd meysydd nad yw cyllid statudol fel arfer yn gallu eu cyrraedd.
Fel y BBC a’r GIG, mae’r Loteri Genedlaethol yn sefydliad cenedlaethol sy’n cyffwrdd â bywydau pob un ohonom ac mae gan bob un ohonom ran ynddi. Mae’n hanfodol ein bod yn ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a’r galwad hwn am dystiolaeth yw’r cam cyntaf yn y broses honno - gan adeiladu ar lwyddiannau’r Loteri Genedlaethol ar yr un pryd â sicrhau bod cyllid achosion da yn parhau i gyflawni blaenoriaethau’r bobl am flynyddoedd lawer i ddod.
Cyllid achos da ar waith
Mae gan y Loteri Genedlaethol y grym i effeithio ar bawb, o ddarparu cymorth gwerth miliynau o bunnoedd i’n hathletwyr, i’r grantiau bach hanfodol sy’n cynnal curiad calon ein cymunedau lleol.
Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’r cyllid hwn wedi bod yn sylfaen ar gyfer esblygiad diwylliannol a chymdeithasol y DU. Mae ei heffaith i’w gweld yn y canolfannau cymunedol sydd wedi’u hadfer lle gall cymdogion gysylltu, y caeau chwaraeon lleol lle gall pobl ifanc fagu hyder, a’r prosiectau celfyddydau ar lawr gwlad sy’n rhoi llais i’r rhai nad ydynt yn cael eu clywed. Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi gweithgareddau ac achosion hanfodol sydd y tu allan i gylch gwaith gwariant statudol y llywodraeth, gan ei wneud yn golofn unigryw ym mywyd Prydain.
Er mwyn gwerthfawrogi grym y Loteri Genedlaethol yn wirioneddol, rhaid i ni edrych ar galon ein cymunedau. Darllenwch yr astudiaethau achos isod i gael syniad o ehangder yr effeithiau cadarnhaol y mae cyllid achosion da wedi’u sicrhau ar draws pob sector ac ym mhob cwr o’r DU.

Cydnabyddiaeth: Panel Ieuenctid a Baner Above Below Beyond – East Durham Creates, Ffotograffydd: Alex Zawadzki
Lleoliad: Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr
Dosbarthwr: Cyngor Celfyddydau Lloegr, rhaglen Pobl a Lleoedd Creadigol
Prosiect: Mae No More Nowt (East Durham Creates gynt) yn rhaglen gelfyddydol dan arweiniad y gymuned, sy’n grymuso trigolion ledled Swydd Durham i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a thyfu’r ddarpariaeth gelfyddydol mewn ffyrdd cynaliadwy. Drwy weithio mewn partneriaeth â hybiau cymunedol lleol, mae’r prosiect yn sicrhau bod y rheini a allai deimlo bellaf oddi wrth leoliadau celfyddydau ‘traddodiadol’ (er enghraifft, theatrau, orielau, amgueddfeydd) yn cael cyfle i gymryd rhan ac adrodd eu straeon eu hunain. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy raglenni fel Nana’s House, lle cafodd uned wag yn y ganolfan siopa ei thrawsnewid yn ystafell fyw gyhoeddus ac yn hyb cymdeithasol bywiog, ac A Seat at the Table, prosiect theatr a gafodd ei greu ar y cyd â thrigolion i ddathlu a chryfhau’r hybiau cymunedol lleol sy’n darparu achubiaeth hanfodol.
Effaith: Yn y bôn, mae’r prosiect wedi cryfhau seilwaith cymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth, wedi gwella cydlyniant cymdeithasol ac wedi grymuso cymunedau a oedd yn teimlo eu bod wedi’u heithrio o’r celfyddydau o’r blaen, gyda 97% o’i gyfranogwyr yn dod o ardaloedd lle mae lefel isel o ymgysylltu diwylliannol. Mae hefyd wedi darparu llwyfan hanfodol ar gyfer trawsnewid personol a balchder lleol, gydag un darn o waith creadigol cymunedol yn nodi:
Mae’n rhoi cyfle i ni fod yn falch o’n cartref a’r bobl sydd ynddo … gan ddangos pwy ydyn ni heddiw. Ein straeon, ein bywydau, dangos eu bod yn bwysig; ein bod yn cael bod yn greadigol.
Grŵp Adfywio Cymunedol Rathfern

Cydnabyddiaeth: TNLCF
Lleoliad: Newtownabbey, Gogledd Iwerddon
Dosbarthwr: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Prosiect: Mae Grŵp Adfywio Cymunedol Rathfern yn rhedeg hyb cymunedol ac yn darparu gweithgareddau i bobl ifanc yn ardal Newtownabbey. Maent wedi cael cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros y deng mlynedd diwethaf i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni a rhedeg clybiau ieuenctid, sied dynion, cymorth iechyd meddwl, hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a rhaglenni amgylcheddol.
Mae eu canolfan yn Newtownabbey yn hyb croesawgar sy’n darparu gweithgareddau a chefnogaeth i bawb yn y gymuned. Mae grant diweddaraf y grŵp yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl ifanc yn yr ardal i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, magu hyder a gwella eu hiechyd meddwl. Mae pobl ifanc yn dod i’r hyb bob wythnos i gysylltu â’u ffrindiau mewn lle diogel ac i chwarae rhan weithredol yn eu cymuned.
Effaith: Mae’r prosiect hwn yn dangos pa mor hanfodol yw cyllid cymunedol i ddarparu mannau diogel i bobl ifanc fynd iddynt a darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol. Mae’r cyllid hefyd wedi galluogi’r hyb cymunedol i osod paneli solar i wella cynaliadwyedd, gan sicrhau ei fod yno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae hyn wedi bod yn rhan hanfodol o’n prosiect i bobl ifanc gan ei fod wedi cysylltu â’u gwaith effaith amgylcheddol ac wedi dangos iddyn nhw bwysigrwydd lleihau ein hôl troed carbon - ac rydyn ni wedi gallu arbed arian ar ein biliau ynni a rhoi’r arbedion yn ôl i’n gwasanaethau - mae lleihau costau a helpu’r amgylchedd yn dda i bawb.

Cydnabyddiaeth: Sport Wales
Lleoliad: Cymru
Dosbarthwr: Chwaraeon Cymru
Prosiect: Mae Cronfa Cymru Actif yn gynllun grant sydd wedi’i gynllunio i gefnogi clybiau chwaraeon a mudiadau cymunedol ar lawr gwlad ledled Cymru i helpu i gael mwy o bobl i gadw’n heini. Mae’r gronfa’n darparu grantiau sy’n amrywio o £300 i £50,000, gan alluogi sefydliadau i fuddsoddi mewn offer hanfodol, llogi lleoliadau, gwella eu cyfleusterau, ac uwchsgilio hyfforddwyr a gwirfoddolwyr drwy gyrsiau hyfforddi. Mae’r gronfa wedi bod yn weithredol ers dros bum mlynedd ac mae’n dyfarnu miliynau o bunnoedd mewn grantiau bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys ei 30,000fed prosiect yn 2024 - dyfarniad i alluogi Clwb Rygbi Cadeiriau Olwyn Aberystwyth a’r Scarlets i sefydlu hyb newydd ar gyfer chwaraeon anabledd yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, gan helpu i ariannu 10 cadair olwyn rygbi arbenigol ac amrywiaeth o offer arall.
Effaith: Mae’r prosiect hwn wedi cryfhau tirwedd chwaraeon Cymru drwy gael gwared ar y prif rwystr ariannol i gymryd rhan a symleiddio mynediad at offer allweddol. Mae’n grymuso cymunedau lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn helpu unigolion i fod yn fwy egnïol. Drwy leihau’r rhwystrau i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys menywod, merched a chyfranogwyr anabl, mae’r gronfa’n caniatáu i filoedd o unigolion gymryd rhan weithredol. Mae ymchwil yn awgrymu, am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru, bod tua £4.44 o werth cymdeithasol ehangach yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y wlad, gan gynnwys arbedion iechyd, gwell lles a manteision economaidd.

Cydnabyddiaeth: South West College
Lleoliad: Enniskillen, Gogledd Iwerddon
Dosbarthwr: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Prosiect: Mae Workhouse Connect yn Wyrcws Enniskillen yn fenter treftadaeth gynhwysol sy’n adfywio hanes lleol, wrth ddarparu hyfforddiant galwedigaethol i fyfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig.
Drwy gyllid treftadaeth, roedd pobl ifanc yn gallu ail-greu gardd gegin furiog draddodiadol ar dir wyrcws hanesyddol. Roedd hyn yn cynnwys ymgysylltu â dysgu ymarferol, gan gynnwys codi waliau cerrig sych a phlannu ategol - gan ei droi yn lle modern ar gyfer gweithdai addysg a chymunedol yn y pen draw.
Effaith: Mae’r prosiect hwn yn dangos sut gall cyllid treftadaeth - sydd weithiau’n cael ei ystyried yn gysylltiedig â gwaith adfer ar raddfa fawr - hefyd gael effaith ar gydlyniant cymdeithasol lleol drwy rymuso cymunedau.
Roedd myfyrwyr sy’n aml yn wynebu rhwystrau i ddysgu traddodiadol yn gallu meithrin arbenigedd technegol a chysylltiadau cymdeithasol parhaol.
Dywedodd Mukesh Sharma, Ymddiriedolwr a Dirprwy Gadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd pwyllgor Gogledd Iwerddon:
Roedd brwdfrydedd myfyrwyr ac arweinwyr prosiect dros ddysgu am dreftadaeth bwysig sy’n ymwneud â’u lle ac ymgysylltu â hi yn amlwg. O ganlyniad, mae cyfranogwyr wedi ennill sgiliau newydd mewn treftadaeth adeiledig a naturiol ac wedi datblygu cyfeillgarwch. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau treftadaeth sy’n sicrhau bod pawb yn gallu dysgu, datblygu sgiliau newydd ac archwilio treftadaeth.
Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI

Cydnabyddiaeth: Romy Gregory o weithgareddau cynulleidfa a ariennir gan y BFI a'r Loteri Genedlaethol
Lleoliad: Ledled y DU (wyth Hyb Ffilm rhanbarthol)
Dosbarthwr: Sefydliad Ffilm Prydain (BFI)
Prosiect: Mae Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm (FAN) y BFI yn fenter strategol sydd wedi’i chynllunio i ehangu mynediad a chyfleoedd i bawb ledled y DU ddarganfod diwylliant ffilm a sgrin y DU ac annibynnol, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael y cyfle gorau posibl i wylio a mwynhau diwylliant sgrin cyfoethog ac amrywiol lle bynnag y maent yn byw a phwy bynnag ydynt. Mae FAN y BFI yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau lleol a chreu effaith leol, ac mae’n cael ei ddarparu drwy wyth Hyb Ffilm, sydd wedi’u lleoli ym mhob gwlad a rhanbarth yn y DU. Er enghraifft, mae cynllun ‘Rhaglennwyr Ffilm Ifanc’ Hyb Ffilm Gogledd Lloegr yn grymuso pobl ifanc 16 i 25 oed i redeg eu rhaglenni sgrinio eu hunain mewn sinemâu lleol fel Sinema Tyneside yn Newcastle a’r Showroom yn Sheffield. Mae hygyrchedd i gynulleidfaoedd yn nod sylfaenol i FAN y BFI, gan gydnabod bod gan 24% o bobl sy’n byw yn y DU anabledd. Mae enghreifftiau’n cynnwys dangosiadau â disgrifiadau sain, dangosiadau disgrifiadol ag isdeitlau, digwyddiadau â chapsiynau byw a dehongliad BSL, dangosiadau hamddenol sy’n gwneud y profiad sinema’n fwy cyfforddus i bobl awtistig a niwrowahanol, a dangosiadau sy’n ystyriol o ddementia.
Effaith: Mae’r fenter hon yn hyrwyddo lles cymunedol cryf ochr yn ochr â datblygiad proffesiynol, personol a diwylliannol. Mae gwerthusiadau’n dangos bod prosiectau FAN wedi galluogi ymgysylltu gan gynulleidfaoedd mwy amrywiol, wedi meithrin partneriaethau cydweithredol ar draws sefydliadau diwylliannol lleol, ac wedi cyfrannu at ymdeimlad o berthyn mewn cymunedau lleol. Mae data hefyd yn dangos bod mynd i’r sinema yn ail yn unig i ddarllen fel y math mwyaf poblogaidd o ymgysylltu â’r celfyddydau, gyda gwylio ffilmiau’n cael ei gysylltu’n gyfartal â gwelliannau uniongyrchol yn swyddogaeth yr ymennydd, cysylltiad cymdeithasol, cynhyrchiant a chreadigrwydd.
Ble mae eich arian yn mynd
Yn 2025, cynhyrchodd y Loteri Genedlaethol dros £8 biliwn mewn cyfanswm refeniw o werthiant tocynnau. Mae’r gweithredwr (Allwyn ar hyn o bryd) yn talu 12% o Dreth y Loteri, sy’n cyfrannu at wariant ehangach y llywodraeth, ac yn tynnu symiau ar gyfer gwobrau ac i dalu am gostau gweithredu y cytunwyd arnynt. O’r gweddill, mae cyfran sylweddol yn mynd at achosion da, a chanran y cytunwyd arni o ran elw gweithredwyr. Yn 2025, rhoddwyd £1.7 biliwn i achosion da o werthiant tocynnau.
Mae’r ddelwedd isod yn dangos dadansoddiad dangosol disgwyliedig ar gyfartaledd o ble mae pob £1 sy’n cael ei gwario ar y Loteri Genedlaethol yn mynd dros y Bedwaredd Drwydded.
Ffynhonnell y ddelwedd: Y Loteri Genedlaethol (2025). Blwyddyn o Chwarae. Y Loteri Genedlaethol 2024/2025.
Mae’r diagram yn dangos yn weledol sut y disgwylir i bob £1 sy’n cael ei gwario ar y Loteri Genedlaethol gael ei dyrannu ar gyfartaledd ar draws y Bedwaredd Drwydded, gyda 56c ar wobrau i chwaraewyr, 23c ar achosion da, 12c ar Dreth y Loteri i Drysorlys EF, 3c ar gomisiwn manwerthwyr, 5c ar gostau gweithredu ac 1c ar elw gweithredwyr.
Mae’r cyllid hwn yn cael ei ddosbarthu ar draws pedwar achos. Mae’r achosion hyn, y cyrff sy’n dosbarthu cyllid (y ‘dosbarthwyr’), a’r gyfran sy’n mynd i bob un wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Ar ôl i’r dosbarthwyr dderbyn eu dyraniad statudol o gyllid, nhw sy’n gyfrifol am ei ddosbarthu ledled y DU, ar lefel genedlaethol a lleol.
Mae’r holl ddosbarthwyr hyn yn gyrff cyhoeddus sy’n cael eu goruchwylio naill ai gan lywodraeth y DU neu lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, maent yn gweithredu hyd braich oddi wrth y llywodraeth ac yn gwneud penderfyniadau grant yn annibynnol ar sail eu blaenoriaethau a’u harbenigedd eu hunain. Gyda’i gilydd, maent yn dyfarnu degau o filoedd o grantiau y flwyddyn i brosiectau a sefydliadau ledled y wlad, yn amrywio o gyn lleied â £300 i filiynau o bunnoedd.
Mae’r llywodraeth hon yn dal wedi ymrwymo i’r egwyddor hyd braich.
Tabl: Dosbarthiad cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol ar draws achosion a dosbarthwyr (fel y nodir yn Neddf y Loteri Genedlaethol 1993)
| Achos | Rhaniad % statudol o gyfanswm y cyllid | Corff dosbarthu | % cyfran dosbarthwyr o gyfanswm cyllid achosion | Cyfanswm y dyfarniadau grant a roddwyd* yn fras yn ystod y 10 mlynedd diwethaf |
|---|---|---|---|---|
| Celfyddydau a Diwylliant | 20% | Cyngor Celfyddydau Lloegr | 69.78% (o’r 20%) | £2.36 biliwn |
| Celfyddydau a Diwylliant | 20% | Creative Scotland | 8.9% (o’r 20%) | £213.03 miliwn |
| Celfyddydau a Diwylliant | 20% | Cyngor Celfyddydau Cymru | 5% (o’r 20%) | £153.96 miliwn |
| Celfyddydau a Diwylliant | 20% | Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon | 2.8% (o’r 20%) | £78.59 miliwn |
| Celfyddydau a Diwylliant | 20% | Sefydliad Ffilm Prydain (ledled y DU) | 13.52% (o’r 20%) | £503.58 miliwn |
| Chwaraeon | 20% | Sport England | 62% (o’r 20%) | £1.94 biliwn |
| Chwaraeon | 20% | Sport Scotland | 8.1% (o’r 20%) | £179.22 miliwn |
| Chwaraeon | 20% | Chwaraeon Cymru | 4.5% (o’r 20%) | £141.12 miliwn |
| Chwaraeon | 20% | Sport Northern Ireland | 2.6% (o’r 20%) | £66.97 miliwn |
| Chwaraeon | 20% | UK Sport (ledled y DU) | 22.8% (o’r 20%) | £878.13 miliwn |
| Treftadaeth | 20% | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (ledled y DU) | 100% (o’r 20%) | £2.39 biliwn |
| Gweithgareddau elusennol, iechyd, addysg a’r amgylchedd | 40% | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (ledled y DU) | 100% (o’r 40%) | £6.23 biliwn |
*Mae’r ffigurau ‘dyfarniadau a roddwyd’ yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio Cronfa Ddata’r Loteri Genedlaethol y DCMS sydd ar gael i’r cyhoedd ac maent yn cynnwys dyfarniadau a wnaed rhwng 31 Mawrth 2016 a 31 Mawrth 2026. Mae’r ffigurau a ddangosir yn gywir ar 25 Mehefin 2026.
Egwyddor sylfaenol sy’n llywio dosbarthiad cyllid achosion da yw’r cysyniad o ‘ychwanegedd’, sy’n golygu mai dim ond i gefnogi gweithgarwch na fyddai’n debygol o gael cyllid gan y llywodraeth y mae cyllid ar gael. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, er gall cyllid y Loteri Genedlaethol gefnogi achosion elusennol sy’n gysylltiedig ag iechyd ac addysg, ei fod wedi’i wahardd rhag cymryd lle gwariant statudol craidd. Er enghraifft, ni ddylid defnyddio arian y Loteri ar gyfer cyllidebau ysgolion safonol, cyflogau clinigol y GIG na gwariant amddiffyn.
Mae cynnal y ffin hon yn hanfodol ar gyfer tryloywder cyhoeddus ac ymddiriedaeth chwaraewyr, gan ei bod yn gwarantu bod gwerthiannau uniongyrchol yn gwella cymdeithas drwy achosion da.
Mae’r llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymroddedig i’r egwyddor ychwanegedd.
Newidiadau hanesyddol i ddosbarthiad achosion da
Er bod y model dosbarthu presennol yn adlewyrchu fframwaith 1994 i raddau helaeth, dros y tri degawd diwethaf bu uno a newidiadau i enwau cyrff dosbarthu i fynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol sy’n newid.
Bu newidiadau hefyd i achosion da, gan gynnwys ym 1998 drwy gyflwyno’r Gronfa Cyfleoedd Newydd ar gyfer iechyd ac addysg. Yn 2012, fodd bynnag, ail-gydbwyswyd pwysau cymharol y cyllid ar gyfer achosion da er mwyn cyd-fynd yn agosach â’r pwysoliad gwreiddiol ar draws y Celfyddydau, Chwaraeon, Treftadaeth, ac ailadeiladu ffocws achosion da Cymunedol ar y sectorau gwirfoddol a chymunedol.
Gallwch ddod o hyd i ddiagram isod sy’n dangos y newidiadau amrywiol hyn i gyrff dosbarthu dros amser:
Mae’r diagram uchod yn dangos newidiadau amrywiol i strwythurau cyrff dosbarthu dros amser. Mae’n dangos bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi’i ffurfio yn 2019 o’r Gronfa Gymunedol, y Gronfa Loteri Fawr a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd. Cafodd Cronfa Treftadaeth y Loteri ei hailenwi’n Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2019. Ffurfiwyd Creative Scotland yn 2010 gan Gyngor Celfyddydau’r Alban a Scottish Screen. Cafodd swyddogaeth cyllido Loteri Cyngor Ffilm y DU ei chyfuno â Sefydliad Ffilm Prydain yn 2011. Nid yw’r wyth mudiad loteri arall wedi newid ers iddynt gael eu creu yn 1994, nac yn achos Chwaraeon y DU, ym 1999.
Mae’r holl arian a godir ar gyfer yr achosion da hyn yn cael ei ddal yn ganolog yng Nghronfa Ddosbarthu’r Loteri Genedlaethol (NLDF), a lansiwyd ym 1994 ochr yn ochr â’r Loteri Genedlaethol. Fe’i lansiwyd i dderbyn a chadw arian a gynhyrchwyd gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sydd wedyn yn cael ei ddyrannu hyd braich i’r 12 corff sy’n dosbarthu’r Loteri uchod. Mae’r NLDF yn cael ei reoli gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Beth rydyn ni am ei gyflawni
Rydyn ni eisiau adeiladu, diogelu a thyfu’r Loteri Genedlaethol ar gyfer y dyfodol. Lansiwyd y system bresennol ar gyfer dosbarthu cyllid achosion da ym 1994. Ar ôl 32 mlynedd, mae’n briodol ein bod yn cymryd camau i sicrhau ei fod yn dal i adlewyrchu ein blaenoriaethau fel cymdeithas, yn diwallu anghenion cymunedau ledled y DU, ac yn taro tant â chwaraewyr. Gydag ymrwymiad Allwyn i ddyblu elw achosion da erbyn 2034, mae’r amodau ar eu gorau i’r llywodraeth gynnal yr adolygiad hwn.
Pan fyddwn yn prynu tocyn Loteri, byddwn i gyd yn cyfrannu at achosion da ledled y wlad, a dylai pob un ohonom gael llais yn y ffordd y caiff yr arian hwn ei wario. Dyna pam rydym yn lansio’r galwad hwn am dystiolaeth i gasglu barn o bob cwr o’r wlad ynghylch sut y dylid dosbarthu cyllid achosion da. Byddwn yn defnyddio ymatebion i ddeall beth yw blaenoriaethau’r bobl ar gyfer arian y Loteri, beth yw ei lwyddiannau mwyaf a sut y gallwn eu hamddiffyn, ac unrhyw feysydd y gallwn eu gwella hyd yn oed ymhellach.
Ein tri amcan craidd ar gyfer y gwaith hwn yw:
- Ariannu beth sy’n bwysig i chi: Sicrhau bod cyllid achosion da yn parhau i gyflawni blaenoriaethau’r cyhoedd, yn genedlaethol ac yn lleol; ei fod o fudd i gymunedau ledled y wlad, yn enwedig y rheini sydd fwyaf mewn angen; a’i fod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
- Enghraifft: Mae rhaglen ‘Treftadleoedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn enghraifft uniongyrchol o’r ymrwymiad i ariannu’r hyn sy’n bwysig i bobl, drwy symud grym o strwythurau canolog i galon cymunedau lleol. Mae’r prosiect 10 mlynedd hwn, sy’n werth £200 miliwn, yn symud oddi wrth ddyrannu grantiau unwaith ac am byth ac yn ffafrio dull gweithredu sy’n fwy seiliedig ar leoedd mewn 20 o leoliadau dynodedig ledled y DU sydd, yn hanesyddol, wedi wynebu tanfuddsoddi. Mae’r buddsoddiad hirdymor hwn yn sicrhau bod treftadaeth nid yn unig yn cael ei chadw, ond ei bod hefyd yn cael ei defnyddio fel adnodd i wella tai, swyddi a lles lleol. Mae hyn yn cynnwys gwaith adnewyddu parhaus Sauchiehall Street yn Glasgow, lle mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i adfywio prif stryd i sbarduno adnewyddu economaidd a chymdeithasol yn seiliedig ar anghenion y gymuned.
- Grymuso eich cymunedau: Nodi cyfleoedd i roi mwy o lais i gymunedau o ran sut mae cyllid achosion da yn cael ei wario, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddynt. Ei gwneud yn haws i gymunedau a sefydliadau llai gael gafael ar gyllid, gan gynnwys o bosibl drwy grantiau bach a micro.
- Enghraifft: Mae rhaglen ‘Partneriaethau Lleoedd Sport England’ yn cynrychioli newid sylfaenol yn y ffordd rydyn ni’n ceisio grymuso pobl leol, gan symud oddi wrth dempledi cenedlaethol anhyblyg at gyllid sy’n cael ei siapio gan brofiad bywyd. Yn hytrach na gwneud i grwpiau cymunedol bach gystadlu am grantiau cenedlaethol cymhleth, mae’r model hwn yn adeiladu partneriaethau hirdymor mewn ardaloedd penodol ledled Lloegr sydd â’r angen mwyaf, gan roi llais uniongyrchol i breswylwyr yn y ffordd y defnyddir buddsoddiad. Enghraifft wych o’r model hwn ar waith yw’r bartneriaeth ‘Move Together Blackpool’, lle mae dros 150 o arweinwyr traws-sector ac 20 o gyfranogwyr ieuenctid yn cydweithio i chwalu seilos a chodi lleisiau lleol. Drwy’r rhwydwaith hwn a rennir, mae’r bartneriaeth wedi gallu ariannu mentrau ar lawr gwlad yn uniongyrchol fel ‘House of Wingz’, sefydliad dan arweiniad pobl ifanc sy’n defnyddio dawnsio stryd, sglefrio a chelfyddydau creadigol i gyrraedd teuluoedd sy’n aml yn teimlo eu bod wedi’u heithrio o leoliadau chwaraeon traddodiadol.
- Symleiddio mynediad: Lleihau biwrocratiaeth a gwella effeithlonrwydd i sicrhau bod cymaint o’r cyllid a gynhyrchir â phosibl yn mynd i gymunedau a’i fod yn cael ei wario’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys nodi unrhyw gyfleoedd i elwa o ddatblygiadau technolegol.
- Enghraifft: Dangosir enghraifft ymarferol o’r amcan hwn yn y Cynllun ‘Gwobrau i Bawb’‘ sy’n cael ei weithredu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF). Nod hyn yw symleiddio cyllid i’w wneud yn fwy effeithlon i sefydliadau ar lawr gwlad. Gan gydnabod bod grwpiau bach a gwirfoddolwyr yn aml yn cael trafferth gyda rhwystrau gweinyddol ceisiadau, mae’r cynllun yn defnyddio proses ymgeisio ddigidol symlach a model penderfynu ‘un cam’ i sicrhau bod arian yn cael ei roi cyn gynted â phosibl. Enghraifft bwerus o’r dull symlach hwn ar waith oedd y cyllid diweddar a ddarparwyd ar gyfer dathliadau pen-blwydd Windrush yn 75 oed.
Er bod ein 12 o ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol yn arloesi’n barhaus i gyflawni’r amcanion hyn, rydym yn cydnabod mai’r cyhoedd sy’n berchen ar y Loteri Genedlaethol. Rydym am adeiladu ar eu llwyddiannau drwy ddefnyddio’r cais hwn am dystiolaeth i wrando ar gynifer o leisiau â phosibl. Yn y pen draw, bydd eich barn yn ein helpu i warchod sefyllfa a threftadaeth unigryw’r Loteri Genedlaethol ar yr un pryd â sicrhau ei bod yn parhau i fod yn gryf, yn gynhwysol ac yn barod ar gyfer y 30 mlynedd nesaf o wasanaeth i’r cyhoedd drwy gyllid achosion da.
Cwmpas
Mae hwn yn adolygiad eang ac rydym yn gofyn am farn a gwybodaeth i’n helpu i gyflawni pob un o’n hamcanion yn y ffordd orau. Bydd ein canfyddiadau’n sail i gynigion polisi manwl a fydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Rydym am glywed beth y mae pobl yn ei werthfawrogi yn y system bresennol, yn ogystal â’r meysydd hynny y gallem eu gwella. Mae hyn yn cynnwys safbwyntiau ar sut mae cyllid achosion da yn cael ei ddosbarthu, ar beth mae’n cael ei wario a phrofiadau unigolion, mudiadau a chymunedau o ran cael gafael ar gyllid neu geisio cael gafael arno.
Mae’n bwysig i ni fod hyn yn cynnwys barn y mudiadau a’r cymunedau ym mhob rhan o’r wlad, gan gynnwys y rheini sydd wedi elwa ac sydd heb elwa o gyllid y Loteri Genedlaethol. Rydym yn darparu rhaglen o ymgysylltu wedi’i dargedu â’r grwpiau hyn, ochr yn ochr â’r alwad hon am dystiolaeth i gyflawni hyn.
Mae hwn yn adolygiad ledled y DU sy’n canolbwyntio ar ddosbarthu cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol. Gan fod llawer o’r cyrff sy’n dosbarthu arian y Loteri wedi’u gwasgaru ar draws y DU, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r llywodraethau datganoledig fel rhan o’r alwad hon am dystiolaeth a thu hwnt.
Sut mae ymateb
Bydd yr alwad am dystiolaeth yn para am 12 wythnos, gan gau am hanner dydd ar 23 Medi 2026. Rydym yn gofyn am amrywiaeth eang o safbwyntiau gan fudiadau ac unigolion. Er mwyn gwneud y broses mor syml â phosibl, bydd ein hymateb yn eich arwain yn awtomatig at y cwestiynau perthnasol yn seiliedig ar y capasiti rydych chi’n ymateb.
Dim ond pobl 16 oed a hŷn sy’n gallu cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Drwy fwrw ymlaen, rydych yn cadarnhau eich bod yn bodloni’r gofyniad hwn.
Mae’r arolwg hwn yn cymryd tua 15 - 20 munud i’w gwblhau. Nid oes angen i chi orffen ar unwaith; gallwch gadw eich cynnydd drwy gau’r ffenestr a dychwelyd drwy’r ddolen yn nes ymlaen. Sylwch y bydd ymatebion anghyflawn yn cael eu cau’n awtomatig a’u cofnodi wythnos ar ôl eich cofnod diwethaf, a rhaid cwblhau pob cyflwyniad cyn i’r arolwg gau i gael ei gynnwys yn ein canlyniadau.
Gellir cyflwyno ymatebion i’r alwad am dystiolaeth yn y ffyrdd canlynol:
Drwy e-bost neu drwy’r post
Os hoffech rannu unrhyw wybodaeth bellach â ni sy’n ymwneud â’r cwestiynau yn yr arolwg, gallwch wneud hynny:
-
Drwy e-bost - rhowch y teitl canlynol i’ch e-bost: ‘Achosion Da’r Loteri Genedlaethol - Ariannwch Beth sy’n Bwysig i Chi’. Dylid anfon ymatebion drwy’r dull hwn at: lottery-good-causes@dcms.gov.uk
-
Drwy’r post - Nodwch destun eich llythyr fel: ‘Achosion Da’r Loteri Genedlaethol - Ariannwch Beth sy’n Bwysig i Chi’. Os byddwch yn penderfynu anfon ymateb ysgrifenedig ar ffurf copi caled, dylid ei anfon at:
National Lottery Good Causes Team
The Department for Digital, Culture Media and Sport
100 Parliament Street, London
SW1A 2BQ
Ymatebion Cymraeg
Rydym yn croesawu ymatebion i’r alwad am dystiolaeth yn Gymraeg. Os hoffech ymateb yn Gymraeg, gallwch gyflwyno eich tystiolaeth drwy e-bost neu drwy’r post i’r cyfeiriad e-bost a’r cyfeiriad post a nodir uchod. Bydd pob ymateb, waeth beth fo’r iaith neu’r fformat, yn cael ei drin yn gyfartal ac yn cael yr un ystyriaeth â’r rhai a gyflwynir drwy’r arolwg ar-lein.
Mae’r llywodraeth yn gofyn i ymatebwyr nodi bod yr alwad hon am dystiolaeth yn canolbwyntio ar ddosbarthu cyllid achosion da. Gwahoddir ymatebwyr i gyflwyno eu barn ar y pynciau a godir yn y ddogfen hon, ond efallai yr hoffech hefyd rannu unrhyw wybodaeth ehangach y teimlwch sy’n berthnasol i’r mater hwn.
Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn fanwl, ond ni fydd yn bosibl rhoi ymatebion sylweddol i sylwadau unigol. Rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i ddadansoddi’n drylwyr a grwpio’n thematig y nifer fawr o ymatebion a ddisgwylir.
Hysbysiad preifatrwydd
Pwy sy’n casglu fy nata
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) sy’n derbyn ac yn dal y data a gesglir drwy gwblhau’r alwad hon am dystiolaeth.
Mae’r Alwad am Dystiolaeth wedi’i hadeiladu ar y system Qualtrics, sef system arolygon ar-lein trydydd parti sydd wedi’i thrwyddedu gan y DCMS. Bydd Qualtrics hefyd yn cadw’r data a ddarperir hyd at 90 diwrnod ar ôl i’r DCMS ddileu’r arolwg o’r system Qualtrics.
Mae’r Alwad am Dystiolaeth hon yn cael ei chynnal i gasglu tystiolaeth fel rhan o ymarfer ymgysylltu ehangach ar Achosion Da’r Loteri Genedlaethol, o’r enw: “Achosion Da’r Loteri Genedlaethol - Ariannwch Beth sy’n Bwysig i Chi”, a bydd yn cael ei dadansoddi, ochr yn ochr â mathau eraill o gasglu tystiolaeth, i lywio’r canlyniadau a’r argymhellion.
Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn
Pwrpas yr hysbysiad hwn yw egluro eich hawliau a rhoi’r wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (“y Ddeddfwriaeth Diogelu Data”). Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut byddwn yn defnyddio eich data personol.
Beth yw data personol
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â bod dynol byw adnabyddedig neu adnabyddadwy, a elwir fel arall yn ‘destun data’. Testun data yw rhywun y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy wybodaeth fel enw, rhif adnabod, data lleoliad, dynodwr ar-lein, neu ddata sy’n ymwneud â’u hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol. Gelwir y mathau hyn o wybodaeth sy’n gallu datgelu pwy yw’r unigolyn yn ‘ddata personol’. Mae cyfraith diogelu data yn berthnasol i brosesu data personol, gan gynnwys ei gasglu, ei ddefnyddio a’i storio.
Pa ddata personol ydym ni’n ei gasglu
Mae’r wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu a’i phrosesu yn cael ei darparu i ni’n uniongyrchol gennych chi drwy eich ymatebion i’r Alwad am Dystiolaeth. Mae’r wybodaeth bersonol - os byddwch yn dewis ei darparu - rydym yn ei chasglu drwy’r Alwad am Dystiolaeth yn cynnwys:
Data personol unigolion
-
Lleoliad rhanbarthol (e.e. gogledd-ddwyrain Lloegr / de-ddwyrain Cymru) a’r opsiwn i gynnwys eich cod post.
-
Ystod oedran
-
Rhywedd neu hunan-ddisgrifiad
*Os ydych chi’n ateb ar ran mudiad, byddwn hefyd yn gofyn am fanylion eich fudiad. Ni fydd hon yn wybodaeth a all ddatgelu pwy ydych chi.
Bydd yr ymatebion yn ddienw.
Dim ond set ddata ddienw fydd gan y DCMS a fydd yn cuddio eich cyfeiriad IP, data lleoliad a gwybodaeth gyswllt, oherwydd gall yr wybodaeth bersonol hon ddatgelu pwy ydych chi.
Yn ddiofyn, bydd y system Arolwg Qualtrics yn storio eich data pori fel eich cyfeiriad IP ar ffurf cwcis rhyngrwyd. Mae disgrifiad o sut mae Qualtrics yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg i gasglu a storio gwybodaeth ar gael yn eu datganiad cwcis sy’n agor mewn ffenestr newydd.
Er gellid ystyried rhywfaint o’r wybodaeth proffil y gofynnwyd amdani (fel ystod oedran, lleoliad rhanbarthol, a rhyw/hunan-ddisgrifiad) yn ddata personol, bydd yr ymatebion a gesglir yn cael eu gwneud yn gwbl ddienw yn ddiofyn gan Qualtrics wrth eu cyflwyno ac ni ellir eu defnyddio i’ch adnabod. Mae anonymeiddio Qualtrics yn gweithio drwy ddileu eich data technegol (cyfeiriad IP a metadata lleoliad), gan ddatgysylltu’r data hwn o’r ymateb a gyflwynwyd i bob pwrpas, cyn cadw’r cofnod yn y gronfa ddata. Mae hyn yn sicrhau nad oes modd cysylltu’r ymatebion yn ôl â chyfranogwr yr arolwg.
Mae’r Alwad am Dystiolaeth yn cynnwys gwahanol ddulliau o ofyn am wybodaeth gennych chi, gan gynnwys cwymplenni amlddewis a blychau testun rhydd sy’n eich galluogi i roi eich ymatebion yn eich geiriau eich hun. Mae’n bwysig nad ydych chi’n rhoi unrhyw wybodaeth sy’n gallu datgelu pwy ydych chi yn y blychau testun rhydd. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei hysgrifennu eich hun yn y blychau testun rhydd yn cael ei gwneud yn ddienw’n awtomatig gan y system Qualtrics, gan mai dim ond data technegol (metadata) mae’r system yn ei ddileu’n awtomatig, a fyddai’n golygu efallai na fydd eich ymateb Galwad am Dystiolaeth yn ddienw ac y bydd modd ei rannu â model deallusrwydd artiffisial trydydd parti (manylion isod) at ddibenion dadansoddi.
Ar gyfer ymatebion e-bost: bydd yr ymateb yn cael ei redeg drwy adnodd dadsensiteiddio data i ganfod a dileu Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy (PII) fel enwau, cyfeiriadau e-bost, a llofnodion, cyn echdynnu ymateb dienw i’w ddadansoddi.
Ar gyfer ymatebion copi caled/post: bydd yr ymateb yn cael ei sganio i mewn i’r system, bydd gwybodaeth adnabyddadwy yn cael ei thynnu gan yr offeryn dadsensiteiddio data, ac yna bydd yr ymateb wedi’i anonymeiddio’n cael ei gynnwys ar gyfer dadansoddi.
Sut byddwn ni’n defnyddio eich data
Byddwn yn defnyddio eich data i gasglu tystiolaeth sy’n sail i ganlyniadau’r Alwad am Dystiolaeth. Gall DCMS ddewis cyhoeddi tablau data sy’n dangos data lefel uchel drwy ddefnyddio ymatebion o’r arolwg hwn, lle mae’n briodol gwneud hynny. Ni fydd y tablau data’n adnabod unigolion na mudiadau sydd wedi ymateb i’r Alwad am Dystiolaeth.
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data
I brosesu’r data personol hwn, ein rheswm cyfreithiol dros gasglu neu brosesu’r data hwn yw: Erthygl 6(1)(e) ei bod yn angenrheidiol cyflawni tasg gyhoeddus (er mwyn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu arfer pwerau a nodir mewn cyfraith, neu i gyflawni tasg benodol er budd y cyhoedd a nodir yn y gyfraith):
Mae rhagor o ofynion ar gyfer prosesu data personol mwy sensitif, neu ‘gategori arbennig’. Gallwch ddarganfod mwy am y seiliau hyn dros brosesu data personol drwy ymgynghori â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yn agor mewn ffenestr newydd). Nid yw’r arolwg hwn yn ceisio casglu data categori arbennig.
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n rhoi’r data hwn
Gallwch dal gwblhau’r arolwg, ond ni fydd y data personol na fyddwch yn dewis ei ddarparu yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad demograffig o’r ymatebion.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data
Byddwn yn dewis Qualtrics, platfform arolwg ar-lein i gynnal yr arolwg hwn. Gallwch ddarganfod mwy am sut y gall Qualtrics ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol drwy ddarllen Datganiad Preifatrwydd Qualtrics (yn agor mewn ffenestr newydd).
Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor.
Pa mor hir ydym yn cadw’r data
Cedwir y data a roddir hyd nes y cwblheir yr Alwad am Dystiolaeth. Mae hyn er mwyn i DCMS allu dadansoddi’r ymatebion i lywio’r gwaith hwn yn llawn, ac unrhyw waith dilynol a wneir gan y Adran oherwydd ei ganlyniadau. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei gwneud yn ddienw cyn ei chynnwys mewn unrhyw adroddiadau, ac ni fydd modd eich adnabod.
Bydd eich data personol yn cael ei wneud yn ddienw yn ddiofyn gan Qualtrics ar ôl ei gyflwyno, yna bydd y data’n cael ei storio mewn system TG ddiogel y llywodraeth ac ar blatfform arolygon ar-lein Qualtrics. Ar ôl cwblhau’r adolygiad, bydd yr holl ddata’n cael ei ddileu o systemau DCMS a Qualtrics. Mae Qualtrics yn ymrwymo i ddileu pob copi wrth gefn o’r data dan sylw ar gyfer dibenion adfer ar ôl trychineb o fewn 90 diwrnod.
Bydd yr arolwg yn cofnodi ymatebion arolwg anghyflawn ac yn cau mynediad at yr arolwg ar ôl dyddiad dod i ben yr arolwg.
A fydd fy nata’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomatig, neu broffilio neu ddeallusrwydd artiffisial
Mae deallusrwydd artiffisial yn derm am ystod o dechnolegau a dulliau sy’n aml yn ceisio dynwared meddyliau dynol i ddatrys tasgau cymhleth. Mae pethau y mae pobl wedi eu gwneud yn draddodiadol drwy feddwl a rhesymu yn cael eu gwneud fwyfwy gan ddeallusrwydd artiffisial, neu gyda chymorth deallusrwydd artiffisial.
Byddwn yn defnyddio model iaith mawr (LLM) i brosesu ymatebion testun rhydd. Mae LLM yn systemau deallusrwydd artiffisial wedi’u hyfforddi ar lawer iawn o ddata testun. Gallant ddeall a chreu testun sy’n debyg i beth a ysgrifennir gan fodau dynol ar gyfer amryw o dasgau fel ateb cwestiynau, ysgrifennu cynnwys, a chyfieithu ieithoedd. Er eu bod yn gallu prosesu a chynhyrchu iaith yn dda iawn, maen nhw’n gweithio drwy adnabod patrymau a rhagfynegi.
Bydd y model yn helpu DCMS i ddeall y themâu sy’n dod i’r amlwg a’r dystiolaeth o ganlyniadau’r arolwg.
Mae ein defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn cael ei lywodraethu gan weithdrefnau sy’n mynd i’r afael â diogelwch data, preifatrwydd a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol.
Bydd y model yn gwneud hyn trwy gyfuno’r holl atebion i bob cwestiwn a darparu adroddiad cryno o’r themâu a’r mewnwelediadau a’u cyffredinoldeb. Gall DCMS wedyn annog yr LLM i ddadansoddi’r canlyniadau ymhellach trwy groesgyfeirio gyda’r data proffil a ddarparwyd. Mae hyn yn hanfodol i’n dealltwriaeth o farn a safbwyntiau’r demograffeg eang o gyfranogwyr. Ni fydd unrhyw ystyriaethau ychwanegol o ran rhannu data yn sgil defnyddio LLM.
Nid oes unrhyw benderfyniadau awtomatig yn cael eu gwneud wrth ddefnyddio’r model hwn.
Beth yw eich hawliau diogelu data
Mae gennych hawliau dros eich data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw’r awdurdod goruchwylio ar gyfer deddfwriaeth diogelu data, ac mae’n rhoi [esboniad llawn o’r hawliau hyn ar eu gwefan] (https://ico.org.uk/for-the-public/).
Bydd y DCMS yn sicrhau ein bod yn cynnal eich hawliau wrth brosesu eich data personol.
Bydd y system arolwg Qualtrics ac offeryn dadsensiteiddio data ar gyfer fformatau cyflwyno eraill yn gwneud yr atebion yn ddienw. Ar y pwynt hwn bydd y data’n gwbl ddi-enw ac ni fydd yn cael ei ystyried yn ddata personol mwyach
Sut ydw i’n cwyno
Teitl y Rheolydd Data:
Tîm Achosion Da’r Loteri y DCMS
Cyfeiriad y Rheolydd Data:
Department for Digital, Culture, Media and Sport
100 Parliament St
London
SW1A 2BQ
E-bost: enquiries@dcms.gov.uk
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddog Diogelu Data’r rheolydd data yw:
Data Protection Officer
The Department for Digital, Culture, Media and Sport
100 Parliament Street
London
SW1A 2BQ
E-bost: dpo@dcms.gov.uk
Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydym wedi delio â’ch data personol ac yn dymuno gwneud cwyn, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data’r adran neu at y Rheolwr Diogelu Data yn yr asiantaeth berthnasol. Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r adran drwy ddefnyddio’r manylion uchod. Os ydych chi am gysylltu, rhowch wybod yn glir yn y llinell bwnc neu ar frig eich llythyr ei fod yn ymwneud â chymryd rhan yn yr arolwg adolygu ACE.
Darllenwch siarter gwybodaeth bersonol y DCMS.
Sut mae cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Os ydych chi’n credu bod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gamdrafod, gallwch chi gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol. Gallwch hefyd gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth i gael cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data.
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Ffôn: 0303 123 1113
Ni fydd unrhyw gŵyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhagfarnu ar eich hawl i geisio gwneud yn iawn drwy’r llysoedd.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn. Os felly, bydd y dyddiad ‘diweddariad diwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.
Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, bydd y DCMS yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.
Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 1 Gorffennaf 2026.