Trethu eich cerbyd heb nodyn atgoffa treth cerbyd

Gallwch drethu eich cerbyd heb lythyr atgoffa treth cerbyd (V11W), e-bost atgoffa neu neges destun atgoffa gan ddefnyddio:

  • tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) yn eich enw os mai chi yw’r ceidwad presennol
  • cais am dystysgrif gofrestru V62W os mai chi yw’r ceidwad presennol
  • slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd os ydych newydd brynu’r car (ac nid oes gennych V5CW yn eich enw eto)

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os nad oes gennych V5CW neu slip ceidwad newydd

Os mai chi yw’r ceidwad presennol, rhaid ichi wneud cais am V5CW amnewid. Gallwch drethu eich cerbyd ar yr un pryd.

Gallwch drethu eich cerbyd mewn Swyddfa’r Post, os yw’n well gennych.

Os mai chi yw’r ceidwad newydd, ni allwch drethu eich cerbyd heb slip ceidwad newydd. Bydd angen ichi wneud cais am V5CW newydd drwy’r post. Gallwch hefyd gael y ffurflen o Swyddfa’r Post.

Mae V5CW newydd yn costio £25.

Talu ar-lein

Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein os oes gennych:

  • y cyfeirnod 11 digid oddi ar eich V5CW (os mai chi yw’r ceidwad presennol)
  • y cyfeirnod 12 digid oddi ar y slip ceidwad newydd gwyrdd os ydych newydd brynu’r car (ac nid oes gennych V5CW yn eich enw eto)

Talu dros y ffôn

Bydd angen ichi gysylltu â DVLA i drethu dros y ffôn. Bydd arnoch angen eich V5CW (llyfr log) neu eich slip ceidwad newydd pan fyddwch yn ffonio.

DVLA
Ffôn: 0300 123 4321 
Cael gwybod am gostau galwadau

Talu mewn Swyddfa’r Post

Gallwch wneud cais mewn Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd.

Bydd arnoch angen un o’r canlynol hefyd:

  • eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) yn eich enw
  • cais am dystysgrif gofrestru V62W os mai chi yw’r ceidwad presennol
  • slip ceidwad newydd os ydych newydd brynu’r car (ac nid oes gennych V5CW yn eich enw eto)

Efallai y bydd arnoch angen y canlynol hefyd:

  • taliad am eich treth cerbyd
  • prawf o MOT gyfredol  - er enghraifft, sgrin lun o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Mae angen ichi fynd â’r canlynol hefyd:

  • tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn sicrwydd

Sefydlu Debyd Uniongyrchol mewn Swyddfa’r Post

Bydd hefyd angen ichi ddod â’ch cyfeiriad, dyddiad geni a manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu os ydych yn sefydlu Debyd Uniongyrchol i drethu eich cerbyd.

Gwirio eich treth cerbyd

Gallwch wirio bod eich cerbyd wedi cael ei drethu ar-lein.