Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Newid mewn amgylchiadau
Mae rhaid i chi gysylltu â llinell ymholiadau Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) os:
- yw eich manylion personol yn newid, er enghraifft eich enw, cyfeiriad neu feddyg
- yw’r cymorth sydd ei angen arnoch neu eich cyflwr yn newid
- yw eich cyflwr wedi gwaethygu ac nid oes disgwyl i chi fyw mwy na 12 mis
- byddwch yn mynd i mewn i ysbyty neu gartref gofal
- ydych yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos
- cewch eich carcharu neu ddal yn y ddalfa
- yw eich statws mewnfudo yn newid, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig
Gallech gael eich erlyn neu orfod talu cost ariannol os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Sut i hysbysu newid mewn amgylchiadau
Cysylltwch â llinell ymholiadau PIP i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.
Ffoniwch ‘llinell ymholiadau PIP’.
Os ydych angen rhywun i’ch helpu, gallwch:
- ofyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch galwad – ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ffôn testun
- ofyn i rywun ffonio ar eich rhan - byddwch angen bod gyda hwy pan maent yn ffonio
Llinell ymholiadau PIP
Ffôn: 0800 121 4433\
Ffôn testun: 0800 121 4493\
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 4433
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen\
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Os ydych wedi cael eich gordalu
Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:
- na wnaethoch roi gwybod am newid ar unwaith
- gwnaethoch roi gwybodaeth anghywir
- cawsoch eich gordalu drwy gamgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.