Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddiweddaru eich cyfeiriad ar gyfer:
- Treth Incwm
- Yswiriant Gwladol
- Pensiwn y Wladwriaeth
- credydau treth a Budd-dal Plant
Mae ffordd wahanol o ddiweddaru’ch manylion ar gyfer treth busnes.
Mae angen i chi aros hyd nes eich bod wedi symud cyn rhoi gwybod i CThEF am eich cyfeiriad newydd.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau
I ddiweddaru’ch cyfeiriad, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Os nad oes gennych gyfrif treth personol
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch, neu’ch cod post, a dau o’r canlynol:
- pasbort dilys y DU
- trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
- slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
- manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
- manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad (o’r ddwy flynedd ddiwethaf), os cyflwynoch un
- gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Gallwch hefyd ddefnyddio’ch cyfrif treth personol i wirio’ch cofnodion gyda CThEF a rheoli’ch manylion eraill.