Newid yr enw neu rywedd ar eich trwydded yrru

Anfonwch eich hen drwydded yrru i DVLA ynghyd â’r ffurflen gais gywir ac unrhyw ddogfennau ategol i newid eich enw neu rywedd.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r broses yr un peth os ydych am newid eich teitl, er enghraifft o Ms i Dr. Nid oes angen ichi anfon tystiolaeth oni bai ei fod yn deitl etifeddol.

Byddwch yn cael trwydded newydd. Gallwch barhau i yrru wrth ichi aros am eich trwydded newydd.

Nid yw’n costio unrhyw beth i newid eich enw na’ch rhyw ar eich trwydded yrru.

Rhaid ichi hefyd ddiweddaru eich tystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (llyfr log) os ydych yn newid eich enw.

Mae proses wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Llenwi’r ffurflen gais

Llenwch:

  • ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’ os oes gennych drwydded gar neu feic modur

  • ffurflen D2W ‘Cais am drwydded lori/bws’ os oes gennych drwydded lori neu fws

Gallwch eu cael o’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i DVLA gyda’r canlynol:

  • eich trwydded yrru cerdyn-llun neu bapur

  • unrhyw ddogfennau gwreiddiol sy’n cadarnhau eich enw neu rywedd newydd

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Rhaid ichi anfon ffotograff steil pasbort diweddar.

Os ydych am newid eich ffotograff ar yr un pryd

Bydd angen ichi anfon:

  • ffotograff steil pasbort diweddar

  • siec neu archeb bost am £17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 oed neu os oes gennych drwydded feddygol cyfnod byr)

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi neu eu newid.

Os na allwch anfon eich hen drwydded yrru

Gallwch barhau i wneud cais os yw eich hen drwydded wedi ei cholli, ei dwyn neu ei dinistrio. Bydd rhaid ichi ddweud beth ddigwyddodd iddi wrth lenwi’r ffurflen. Bydd angen cynnwys siec neu archeb bost am £20, yn daladwy i DVLA.

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi neu eu newid.

Ble i anfon eich cais

Anfonwch eich cais am drwydded gar neu feic modur newydd i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BN

Anfonwch eich cais am drwydded lori neu fws newydd i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BR