Gwirio sut i hawlio ad-daliad treth

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael ad-daliad treth os ydych wedi talu gormod o dreth. Defnyddiwch yr offeryn hwn i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud os gwnaethoch dalu gormod o dreth ar y canlynol:

  • cyflog o swydd
  • treuliau swydd, megis gweithio gartref, tanwydd, dillad gwaith neu offer
  • pensiwn
  • Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • taliad diswyddo
  • incwm yn y DU, os ydych yn byw dramor
  • llog o gynilion neu yswiriant diogelu taliadau (PPI)
  • incwm o flwydd-dal bywyd neu flwydd-dal pensiwn
  • incwm tramor
  • incwm gwaith yn y DU cyn i chi adael y DU

Ni allwch hawlio ad-daliad gan ddefnyddio’r offeryn hwn.

Os ydych eisoes wedi hawlio ad-daliad treth, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dechrau nawr