Gwneud cais am wiriad DBS sylfaenol

Gwnewch gais am wiriad sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) er mwyn cael copi o’ch cofnod troseddol. Yr enw ar hyn yw ‘datgeliad sylfaenol’. Mae’n costio £18. Mae ar gael i bobl sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch hefyd gael gwiriad DBS sylfaenol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban, ond bod y swydd rydych chi’n gwneud cais amdani yng Nghymru neu Loegr.

Mae yna ffordd wahanol i wneud cais os ydych yn gwneud cais am swydd yng Ngogledd Iwerddon neu yr Alban.

Dim ond collfarnau sydd heb ‘ddarfod’ y bydd y gwiriad yn eu dangos. Er enghraifft, bydd rhai mathau o rybuddiad yn diflannu ar ôl 3 mis.

Rhaid ichi fod yn 16 neu drosodd i wneud cais.

Fel arfer mae’n cymryd hyd at 14 diwrnod ichi gael eich tystysgrif.

Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 8am a 11:30pm.

Cewch dalu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd. Cewch ddefnyddio Google Pay neu Apple Pay hefyd.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Yr hyn y bydd arnoch ei angen

I wneud cais am wiriad DBS sylfaenol bydd arnoch chi angen:

  • eich holl gyfeiriadau ar gyfer y pum mlynedd diwethaf a’r dyddiadau y buoch yn byw yno
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich pasbort
  • eich trwydded yrru

Gofalwch mai gwiriad DBS sylfaenol yw’r un cywir i chi. Ar gyfer rolau penodol, fe all fod rhaid i’ch cyflogwr wneud cais am wiriad cofnodion troseddol ar lefel uwch.

Darganfyddwch ai gwiriad DBS sylfaenol sydd angen arnoch neu holwch eich cyflogwr os nad ydych yn siŵr.

Mynnwch help i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Os oes arnoch angen cymorth i wneud cais ar-lein, ffoniwch llinell gymorth y DBS ar 03000 200 190 a dewiswch opsiwn 2 ac yna opsiwn 1.

Ffyrdd eraill i wneud cais

Gallwch ddewis gwneud cais drwy gwmnïau eraill hefyd. Mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd restr o gwmnïau y gallwch wneud cais drwyddyn nhw.

Ceisiadau trawsryweddol

Cysylltwch â thîm ceisiadau sensitif y DBS os ydych chi’n ymgeisydd trawsryweddol ac nad ydych chi am ddatgelu manylion eich hunaniaeth flaenorol i ddarpar gyflogwr.

Tîm ceisiadau sensitif y DBS
sensitive@dbs.gov.uk
Ffôn: 0300 106 1452
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am daliadau am alwadau

Gwneud cais am eich cofnod heddlu

Yn lle gwiriad DBS sylfaenol bydd angen i chi ofyn am gofnod heddlu:

  • os ydych yn gwneud cais am rai mathau o fisa
  • os hoffech weld eich ffeil heddlu heb gael tystysgrif – bydd hyn yn dangos unrhyw rybuddion neu rybuddiadau nad ydyn nhw ar eich cofnod troseddol swyddogol