Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i wneud cais

I gael rif Yswiriant Gwladol bydd angen gwneud cais ar-lein. Bydd angen i chi gadarnhau’ch hunaniaeth pan fyddwch yn gwneud cais.

Pa ddogfennau fydd eu hangen arnoch

Os oes gennych y dogfennau canlynol, sicrhewch eu bod ar law cyn i chi ddechrau:

  • pasbort o unrhyw wlad
  • trwydded breswyl biometrig (BRP)
  • cerdyn hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE neu o Norwy, Liechtenstein neu’r Swistir

Efallai y bydd angen i chi roi gwybodaeth am un neu fwy o’r dogfennau.

Gallwch wneud cais o hyd os nad oes gennych y dogfennau hyn, ond efallai y bydd angen i chi fynychu apwyntiad mewn person i gadarnhau’ch hunaniaeth.

Cadarnhau eich hunaniaeth

Os gallwch, bydd angen cymryd a lanlwytho:

  • llun o’ch hunan yn dal eich pasbort
  • lluniau o’r dogfennau hunaniaeth eraill

Gallwch ddefnyddio ffôn clyfar, llechen neu gamera digidol.

Byddwch yn cael gwybod sut i dynnu’r lluniau a sut y dylent edrych yn ystod y broses gwneud cais.

Gallwch ofyn i rywun dynnu’r lluniau ar eich cyfer.

Os na allwch lanlwytho lluniau

Gallwch wneud cais ar-lein o hyd ond bydd y cais yn cymryd fwy o amser.

Efallai y bydd angen mynychu apwyntiad neu anfon llungopïau o’ch dogfennau. Byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod beth i’w wneud ar ôl cyflwyno’ch cais.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais

Ar ôl gwneud cais

Ar ôl gwneud cais byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch rhif cyfeirnod. Bydd yr e-bost yn dweud wrthych os oes angen darparu tystiolaeth bellach o’ch hunaniaeth.

Gall gymryd hyd at 4 wythnos i gael eich rhif Yswiriant Gwladol ar ôl cadarnhau eich hunaniaeth.

Cael help gyda’ch cais

Llinell gymorth ceisiadau am rif Yswiriant Gwladol (Cymru, Lloegr a’r Alban)
Ffôn: 0800 141 2079
Ffôn testun: 0800 141 2438
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Llinell gymorth Gymraeg ceisiadau am rif Yswiriant Gwladol (Cymru, Lloegr a’r Alban)
Ffôn: 0800 141 2349
Ffôn testun: 0800 141 2438
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Llinell gymorth ceisiadau am rif Yswiriant Gwladol (Gogledd Iwerddon)
Ffôn: 0800 587 0024
Ffôn testun: 0800 587 0194
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Darganfyddwch am gostau galwadau