Canllawiau

Opsiynau tymor byr ar gyfer iechyd, lles a phenderfyniadau ariannol

Dysgwch am y ffyrdd y gall pobl wneud rhai penderfyniadau drosoch chi neu wneud rhai pethau ar eich rhan.

Efallai yr hoffech gael rywbeth wrth gefn wrth i chi aros am eich atwrneiaeth arhosol. Mae hyn er mwyn i bobl allu gwneud penderfyniadau penodol drosoch chi neu wneud rhai pethau ar eich rhan os ydych chi’n hunan-ynysu.

Fel atwrneiaeth arhosol, dim ond tra bod gennych alluedd meddyliol y gallwch wneud unrhyw un o’r pethau a restrir isod.

Ysgrifennwch eich dymuniadau

Ysgrifennwch yr hyn yr ydych eisiau ddigwydd am eich iechyd a’ch lles yn y dyfodol neu eich eiddo a’ch materion ariannol. Siaradwch â’ch teulu a’ch ffrindiau am y ddogfen hon a gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod ble mae’n cael ei chadw. Fodd bynnag, nid yw’n rwymol yn gyfreithiol.

Penderfyniadau eiddo a chyllid

Os ydych yn gwarchod eich hun ac eraill neu’n hunanynysu, mae yna ffyrdd y gallwch ganiatáu i rywun arall ddelio â’ch eiddo a materion ariannol.

Mandad trydydd parti

Mae mandad trydydd parti yn caniatáu i chi awdurdodi rhywun arall i wneud trafodion banc ar eich rhan. Siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu i gael rhagor o fanylion.

Atwrneiaeth cyffredinol

Gydag atwrneiaeth gyffredinol, rydych yn awdurdodi rhywun i reoli eich materion ariannol neu wneud rhai pethau ar eich rhan. Dim ond tra bod gennych y gallu meddyliol i ddweud wrthynt beth i’w wneud y gellir ei ddefnyddio. Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol neu gyfreithiwr am fwy o fanylion.

Penderfyniadau Iechyd a Lles

Gelwir cofnodi eich dymuniadau ar gyfer eich triniaeth a’ch gofal yn y dyfodol yn ‘gynllunio gofal ymlaen llaw’ ac yn ogystal ag atwrneiaeth arhosol gall gynnwys penderfyniad ymlaen llaw a datganiad ymlaen llaw.

Penderfyniad ymlaen llaw

Mae penderfyniad ymlaen llaw yn benderfyniad y gallwch ei wneud nawr i wrthod math penodol o driniaeth ar ryw adeg yn y dyfodol. Os yw’n bodloni gofynion penodol, mae penderfyniad ymlaen llaw yn rwymol yn gyfreithiol.

Datganiad ymlaen llaw

Gallwch ysgrifennu datganiad ymlaen llaw i nodi eich dewisiadau, eich dymuniadau, eich credoau a’ch gwerthoedd mewn perthynas â’ch gofal yn y dyfodol. Nid yw’n rwymol yn gyfreithiol, ond rhaid i unrhyw un sy’n gwneud penderfyniadau am eich gofal ei ystyried.

Os byddwch yn colli galluedd meddyliol

Os byddwch yn colli galluedd meddyliol ac nad oes gennych atwrneiaeth arhosol, mae’r gyfraith (Deddf Galluedd Meddyliol 2005) yn dweud bod yn rhaid i’r bobl sy’n gofalu amdanoch barhau i:

  • wneud penderfyniadau er eich budd gorau chi
  • ceisio dod o hyd i’ch dymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd yn y gorffennol a’r presennol
  • ystyried barn unrhyw un arall sydd â diddordeb yn eich lles, er enghraifft eich teulu a’ch ffrindiau agos

Os oes angen awdurdod penodol ar rywun, megis aelod o’r teulu neu gyfaill agos, i wneud penderfyniadau ar eich rhan, gall wneud cais i’r Llys Gwarchod i ddod yn ‘ddirprwy’. Fel arfer, mae’n cymryd rhai misoedd i’r llys roi gorchymyn llys dirprwyedig. Dysgwch ragor am ddirprwyaeth.(Saesneg)

Cyhoeddwyd ar 17 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 December 2021 + show all updates
  1. Updating guidance to reflect new information on how to prevent omicron spread.

  2. Amending the Welsh text to reflect changes to government guidelines on 19 July

  3. updating guidance to meet with current announcements including information on self isolation and pandemic measures

  4. Changing the time taken to register an LPA from 8 weeks to 20 weeks

  5. Editing the wording so as not to discourage people from taking out an LPA at the minute

  6. Adding Welsh language version

  7. First published.