Canllawiau

Ad-dalu tocynnau ar gyfer digwyddiadau elusennol a ganslwyd yn ystod yr achos o goronafeirws (COVID-19)

Cael gwybod am newidiadau i helpu elusennau i brosesu ad-daliadau, casglu rhoddion a hawlio Rhodd Cymorth ar gyfer digwyddiadau a ganslwyd oherwydd coronafeirws (COVID-19).

Er mwyn helpu i leihau beichiau gweinyddol ar elusennau, os caiff digwyddiad elusennol ei ganslo oherwydd coronafeirws (COVID-19), bydd CThEM yn derbyn, pan fydd person ag ad-daliad yn ddyledus iddo yn penderfynu rhoi hyn i elusen, fod gofynion S416 ITA07 yn cael eu bodloni, ar yr amod:

  • bod yr unigolyn:
    • yn peidio â chael budd-dal o ganlyniad i’w rodd
    • yn cytuno bod cost ei docyn yn troi’n rhodd
    • yn cwblhau datganiad Rhodd Cymorth
  • bod yr elusen yn cadw llwybr archwilio, gan gynnwys copi o’r cytundeb gan unigolyn sy’n cytuno i roi cost y tocyn fel rhodd

Nid oes rhaid i’r elusen ad-dalu pris y tocyn yn gorfforol mwyach er mwyn i’r unigolyn ei roi fel rhodd yn ddiweddarach.

Digwyddiadau y mae’r newid yn effeithio arnynt

Mae unrhyw docyn ar gyfer digwyddiad elusennol sydd wedi’i ganslo oherwydd coronafeirws (COVID-19) yn gymwys ar gyfer y newidiadau dros dro hyn.

Digwyddiadau nad yw’r newid yn effeithio arnynt

Os yw’r digwyddiad elusennol wedi’i ohirio a heb ei ganslo, nid yw unrhyw docynnau ar gyfer y digwyddiad hwnnw’n gymwys ar gyfer y newidiadau dros dro.

Proses i’w dilyn

Rhaid i’r elusen wneud y canlynol:

  • cysylltu â’r unigolyn a wnaeth brynu ynghynt docynnau’r digwyddiad a ganslwyd
  • esbonio bod gan yr unigolyn hawl i ad-daliad ond efallai y dymunai roi cost y tocyn i’r elusen
  • ei gwneud yn glir nad oes rhaid i’r unigolyn roi’r ad-daliad fel rhodd – ond os yw’n dewis ei roi fel rhodd, ni ellir ei ad-dalu
  • gwneud yn siŵr bod gan yr unigolyn ddigon o dreth i dalu am y rhodd
  • dogfennu’r sgwrs â’r unigolyn a chadw cofnodion o hyn
  • sicrhau bod datganiad Rhodd Cymorth ar waith ar gyfer yr unigolyn
Cyhoeddwyd ar 16 April 2020