Canllawiau

Talu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen Gwasanaeth Un Cam TAW

Sut i dalu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen Gwasanaeth Un Cam (GUC) TAW a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad ddod i law CThEF.

Cyn i chi dalu’ch Ffurflen Gwasanaeth Un Cam (GUC) TAW, dylech ddysgu sut i lenwi’ch ffurflen (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd i dalu

Gallwch dalu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen GUC TAW drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein:

  • pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen
  • yn y dyfodol, cyn belled â bod y TAW yn cael ei thalu’n llawn erbyn diwrnod olaf y mis, yn dilyn diwedd pob chwarter

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

I fewngofnodi i’ch cyfrif GUC, mae angen i chi gael eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Bydd eich cyfeirnod talu yn cael ei rag-lenwi.

Gallwch hefyd dalu heb fewngofnodi, drwy ddefnyddio’ch rhif cofrestru TAW.

Talu-nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd wneud taliadau a gweld eich hanes talu drwy gael mynediad at gynllun Undeb y GUC drwy eich cyfrif treth busnes CThEF.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.

Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwch yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Byddwch yn cael cadarnhad drwy e-bost pan fydd eich taliad wedi’i wneud.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Dylech ofyn i’ch banc ddefnyddio’r cod ‘OUR’ yn y maes ‘Detail of charge’ pan fydd yn prosesu’ch taliad.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08-32-00
  • rhif y cyfrif — 12001047
  • enw’r cyfrif — HMRC VAT ON E

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB34 BARC 2005 1710 7534 91
  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC VAT ON E

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP).

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Help a chymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am daliadau Ffurflen GUC TAW, e-bostiwch: paymentteam.moss@hmrc.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 1 October 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 May 2024 + show all updates
  1. The 'paying online through your bank account' section has been updated.

  2. You can now select a date to pay when paying online through your bank account.

  3. Welsh translation of this guidance has been added.

  4. You can now access the OSS Union scheme through your HMRC business tax account.

  5. More detailed information about different payment methods has been added to the 'How to pay' section.

  6. The 'How to pay' section has been updated.

  7. An email address to contact HMRC about One Stop Shop (OSS) VAT Return payments has been added.

  8. First published.