Canllawiau

Staff y GIG: Chwilio drwy ein cofrestrau o atwrneiod a dirprwyon

Ewch i gael gwybod am yr wybodaeth sydd gennym ni ar ein cofrestrau a sut gall staff y GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ofyn i ni amdani

Applies to England and Wales

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestr o bawb sydd ag atwrneiaeth arhosol (LPA) neu barhaus (EPA), neu sydd â dirprwy’n gweithredu ar eu rhan. Gellir chwilio drwy’r gofrestr i ddod o hyd i fanylion cyswllt y bobl dan sylw.

Ers dyfodiad y coronafeirws, rydyn ni wedi cael nifer o geisiadau brys i chwilio drwy’r gronfa ddata am fanylion pobl sydd wedi colli galluedd meddyliol.

Os nad oes gan rywun y capasiti i roi cydsyniad i driniaeth feddygol fel cael brechiad, dylai dirprwy neu dwrnai sydd â phwerau iechyd a lles, wneud y penderfyniad ar eu rhan.

Rydyn ni’n gweithio’n galed i ymateb i’r ceisiadau hyn yn gyflym ac rydyn ni wedi rhoi proses benodol ar waith i bobl sydd wedi’u hanalluogi oherwydd COVID-19.

Awdurdodau lleol, yr heddlu a’r GIG: Mewn ymchwiliad diogelu, cael gwybod ar frys a oes gan rywun atwrnai neu ddirprwy.

Gwneud cais am wybodaeth am glaf coronafeirws

Anfonwch e-bost i OPGurgent@publicguardian.gov.uk gan ddefnyddio’r templed e-bost isod. Rhowch:

  • ‘COVID-19’, neu ‘Brechiad COVID-19’ yn y llinell destun ar gyfer unrhyw geisiadau am frechiad
  • fanylion y claf
  • eich llofnod e-bost, gan gynnwys teitl eich swydd a’ch tîm

Mae’n rhaid i’r neges gael ei hanfon o gyfeiriad e-bost achrededig, er enghraifft, @wales.nhs.uk neu @llyw.cymru. Ni allwn dderbyn ceisiadau o gyfeiriadau e-bost personol.

Os yw’n bosib, peidiwch ag anfon eich cais trwy ddefnyddio meddalwedd e-bost wedi’i amgryptio megis Egress. Mae hyn yn arafu’r broses chwilio ac efallai na chewch eich canlyniadau mor gyflym. Mae ein cyfeiriad e-bost gov.uk yn ddiogel.

Ein nod yw ymateb i geisiadau o fewn 24 awr, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd ceisiadau a wneir dros y penwythnos yn cael sylw ddydd Llun fel mater o flaenoriaeth.

Bydd ceisiadau nad ydynt ar gyfer cleifion coronafeirws yn cael eu prosesu yn unol â’r broses arferol, sef 5 diwrnod gwaith.

Yr wybodaeth y byddwch yn ei chael

Byddwch yn cael gwybod pa un o’r canlynol sydd ar waith – LPA, EPA neu orchymyn dirprwyaeth gan y llys.

Lle bo un o’r rhain ar waith, byddwch yn cael gwybod:

  • a yw ar gyfer iechyd a lles (mae rhai’n ymwneud â chyllid ac eiddo yn unig)
  • dyddiad cofrestru’r LPA neu EPA neu ddyddiad y gorchymyn llys
  • enwau a manylion cyswllt yr atwrneiod neu’r dirprwyon
  • a oes cyfyngiadau ar bwerau’r atwrnai neu’r gorchymyn llys
  • a oes gan atwrnai awdurdod dros driniaethau cynnal bywyd ar gyfer y rhoddwr
  • lle bo mwy nag un atwrnai neu ddirprwy, sut maen nhw wedi’u penodi i weithredu
  • a yw’r atwrneiaeth arhosol, yr atwrneiaeth barhaus neu’r ddirprwyaeth wedi cael ei cofrestru’r, chanslo, ei dirymu neu wedi dod i ben
  • dyddiad dod i ben unrhyw orchymyn llys

Chwilio am atwrneiaethau parhaus

Gallai gymryd mwy o amser i chwilio am y rhain oherwydd nid yw’r dogfennau wedi cael eu storio’n ddigidol.

Templed e-bost

Annwyl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

A fyddech cystal â chwilio drwy gofrestrau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am unrhyw gwybodaeth ar gyfer yr unigolyn yma:

Enw:
Dyddiad Geni:
Cyfeiriad:

Mae angen yr wybodaeth hon arnaf er mwyn helpu i wneud y canlynol: (dilëwch fel y bo’n briodol)

  • symud yr unigolyn o ofal yn yr ysbyty i leoliad arall er mwyn rhyddhau ei wely/gwely i ofalu am gleifion mae Covid-19 yn effeithio arnyn nhw
  • gwneud penderfyniad am driniaeth er budd pennaf unigolyn sydd yn yr ysbyty am ei fod/bod wedi cael haint Covid-19
  • gwneud penderfyniadau er budd pennaf unigolyn mae Covid-19 yn effeithio arno/arni, gan gyflawni fy nyletswydd diogelu statudol
  • cael gwybod a ddylai’r unigolyn yma gael y brechiad Covid-19, cael prawf neu hunanynysu

Nid wyf yn gallu cael hyn gan yr unigolyn oherwydd bod ganddo/ganddi ddiffyg galluedd meddyliol.

Cyhoeddwyd ar 7 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 March 2021 + show all updates
  1. Amending information about EPA searches from 'only relating to financial information' to 'not stored digitally'

  2. Updating Welsh translation to match the latest changes about vaccinations Adding link to the 'Urgent enquiries rapid register' search on English and Welsh language pages Adding 'registered' to the list of statuses you will be told about the item

  3. Add information about searching on bahalf of patients for COVID-19 vaccinations

  4. Added Welsh translation

  5. First published.