Canllawiau

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd

Efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd ynghyd â neu yn lle Credyd Cynhwysol (UC), yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Trosolwg

Os ydych yn sâl neu gyda chyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eich gallu i weithio, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd.

Mae ESA Dull Newydd yn daliad bob pythefnos y gellir gwneud cais amdano ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol (UC). Os ydych chi’n cael y ddau fudd-dal, mae’ch taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau yn ôl y swm rydych chi’n ei gael ar gyfer ESA Dull Newydd.

Mae ESA Dull Newydd yn fudd-dal sy’n seiliedig ar gyfraniadau. Fel arfer, mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu ei gael os ydych wedi talu neu wedi cael eich credydu gyda digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y 2 flwyddyn dreth lawn cyn y flwyddyn rydych yn gwneud cais ynddi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael mewn ffurf hawdd i’w ddarllen.

Pam ddylech chi wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd?

Ni fydd eich cynilion (neu gynilion eich partner) yn effeithio ar faint o ESA Dull Newydd a gewch eich talu. Os yw’ch partner yn gweithio, nid yw’n effeithio ar eich cais.

Ni chaiff y rhan fwyaf o incwm ei ystyried (ond gall pensiwn personol effeithio ar y swm y gallech ei gael).

Tra byddwch yn cael ESA Dull Newydd byddwch yn ennill credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, a all helpu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar gyfraniadau yn y dyfodol.

Mae’n daliad rheolaidd bob pythefnos.

Mae’r tabl hwn yn dangos beth allech chi wneud cais amdano yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Eich amgylchiadau ESA Dull Newydd Credyd Cynhwysol
Rydych wedi colli eich swydd ac rydych yn rhy sâl i weithio. Rydych angen help gyda chostau byw, e.e. rhent.

Rydych wedi talu a/neu wedi’ch credydu gyda chyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf (cyflogedig neu hunangyflogedig).
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd – hyd yn oed os yw’ch partner yn gweithio neu os oes gennych chi a’ch partner gynilion dros £16,000. Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) £16,000 neu lai o gynilion rhyngoch.

Bydd incwm eich partner yn cael ei ystyried gan y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl.

Mae Credyd Cynhwysol yn asesiad cartref a gallwch gael swm ar gyfer plant a chostau tai.

Bydd unrhyw ESA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei ystyried fel incwm ond efallai y byddwch yn dal i gael Credyd Cynhwysol.
Rydych wedi colli eich swydd ac rydych yn rhy sâl i weithio.

Nid ydych wedi talu unrhyw gyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf
Rydych yn annhebygol o gael ESA Dull Newydd os nad ydych wedi talu cyfraniadau YG. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) £16,000 neu lai o gynilion rhyngoch chi.

Bydd incwm eich partner yn cael ei ystyried gan y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl.

Mae Credyd Cynhwysol yn asesiad cartref a gallwch gael swm ar gyfer plant a chostau tai.
Rydych yn sâl ac yn methu â gweithio.

Rydych wedi talu a/neu wedi’ch credydu gyda chyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf (cyflogedig neu hunangyflogedig).

Rhyngoch chi, mae gennych chi a’ch partner fwy na £16,000 o gynilion.
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd hyd yn oed os yw’ch partner yn gweithio neu os oes gennych chi a’ch partner gynilion dros £16,000. Rydych yn annhebygol o gael Credyd Cynhwysol oherwydd bod eich cynilion yn rhy uchel.
Rydych yn sâl ac yn methu â gweithio.

Rydych wedi talu a/neu wedi’ch credydu gyda chyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf (cyflogedig neu hunangyflogedig).

Mae eich partner yn gweithio.

Rhyngoch chi, mae gennych chi a’ch partner llai na £16,000 o gynilion.
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd, oherwydd nad yw gwaith eich partner yn effeithio arno. Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd bod gennych chi a’ch partner llai na £16,000 o gynilion.

Bydd incwm eich partner yn cael ei ystyried gan y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl.

Bydd unrhyw ESA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei ystyried fel incwm ond efallai y byddwch yn dal yn gallu cael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn gweithio ond rydych i ffwrdd yn sâl ac mae eich Tâl Salwch Statudol wedi dod i ben.

Rydych wedi talu a/neu wedi’ch credydu gyda chyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf (cyflogedig neu hunangyflogedig).
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd. Os oes gennych chi a’ch partner llai na £16,000 o gynilion, gallech hefyd gael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn sâl ac yn methu â gweithio.

Rydych yn cael incwm pensiwn o gyflogaeth flaenorol.

Rydych wedi talu a/neu wedi’ch credydu gyda chyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf (cyflogedig neu hunangyflogedig).
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd.
Efallai y bydd eich incwm pensiwn yn cael ei ystyried.
Os oes gennych chi a’ch partner llai na £16,000 o gynilion, gallech hefyd gael Credyd Cynhwysol.

Bydd eich incwm pensiwn yn cael ei ystyried.

Bydd unrhyw ESA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei ystyried fel incwm ond efallai y byddwch yn dal yn gallu cael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn sâl ac yn methu â gweithio.

Mae gennych blant.

Rydych wedi talu a/neu wedi’ch credydu gyda chyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf (cyflogedig neu hunangyflogedig).
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd oherwydd eich bod wedi talu cyfraniadau YG felly efallai y byddwch yn gymwys.

Nid yw ESA Dull Newydd yn cynnwys symiau ychwanegol ar gyfer plant.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol, oherwydd ei fod yn asesiad cartref a gallwch gael swm ar gyfer plant.
Rydych yn sâl ac yn methu â gweithio.

Rydych yn byw mewn llety ar rent, neu mae gennych forgais neu fenthyciad cartref, ac rydych angen help i dalu’r gost.

Rydych wedi talu a/neu wedi’ch credydu gyda chyfraniadau YG yn y 2 i 3 blynedd diwethaf (cyflogedig neu hunangyflogedig).
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd oherwydd eich bod wedi talu cyfraniadau YG felly efallai y byddwch yn gymwys.

Nid yw ESA Dull Newydd yn cynnwys swm ychwanegol ar gyfer costau tai.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol, oherwydd ei fod yn asesiad cartref a gallwch gael swm ar gyfer eich costau tai.

Cymhwyster

I gael ESA Dull Newydd fel arfer bydd angen i chi fod wedi bod yn gweithio o fewn y 2 i 3 blynedd diwethaf, ac wedi gwneud (neu wedi cael eich credydu gyda) chyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 1 neu ddosbarth 2.

Gall hyn fod trwy gyflogaeth neu hunangyflogaeth.

Os nad ydych yn siŵr faint o Yswiriant Gwladol rydych wedi’i dalu, gallwch wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol ar-lein.

Sut i wneud cais

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd ar-lein.

Byddwch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif cyfrif a chod didoli eich banc neu gymdeithas adeiladu (gallwch ddefnyddio cyfrif ffrind neu aelod o’r teulu os nad oes gennych un)
  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn eich meddyg
  • nodyn ffitrwydd (a elwir hefyd yn ‘nodyn salwch’ neu ‘datganiad ffitrwydd am waith’) os nad ydych wedi gallu gweithio am fwy na 7 diwrnod cydlynol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd
  • manylion eich incwm os ydych yn gweithio
  • y dyddiad y bydd eich Tâl Salwch Statudol (SSP) yn dod i ben os ydych yn ei hawlio

Mae’n rhaid i chi wneud cais dros y ffôn os ydych yn benodai sy’n gwneud cais ar ran rhywun arall.

Ni allwch gael ESA Dull Newydd os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol (SSP) gan gyflogwr. Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd hyd at 3 mis cyn bydd eich SSP yn dod i ben.

Gwneud cais nawr

Os na allwch wneud cais ar-lein

Ffoniwch linell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith os:

  • ni allwch wneud cais ar-lein
  • rydych yn benodai i rywun

Llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith

Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 055 6688
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith o wneud cais.

Os ydych yn gymwys

Bydd DWP yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith i drefnu apwyntiad sy’n rhaid i chi fynychu. Bydd fel arfer dros y ffôn gydag anogwr gwaith o’ch Canolfan Byd Gwaith lleol. Bydd eich anogwr gwaith yn esbonio yr hyn y bydd angen i chi eu gwneud i gael ESA Dull Newydd. Byddant yn creu cytundeb gyda chi a elwir yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Mae’n rhaid i chi gytuno ar eich ‘Ymrwymiad Hawlydd’ cyn eich bod yn gallu cael ESA Dull Newydd.

Yn yr apwyntiad, bydd gofyn i chi:

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud bod gennych lai na 12 mis i fyw, ni fydd angen i chi fynd i apwyntiad na gwneud Ymrwymiad Hawlydd. Darganfyddwch fwy am gael budd-daliadau os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud wrthych y gallai fod gennych lai na 12 mis i fyw.

Os nad ydych chi’n gymwys

Bydd DWP yn anfon llythyr atoch o fewn 10 diwrnod gwaith o wneud cais i esbonio pam nad ydych yn gymwys am ESA.

Asesiad Gallu i Weithio

Rhaid i chi lenwi’r ‘holiadur Gallu i weithio’ a’i anfon at y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen. Mae’r holiadur yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Fe’ch hysbysir beth sy’n digwydd nesaf, er enghraifft os oes angen apwyntiad arnoch i ddeall eich cyflwr iechyd yn well.

Defnyddir Asesiad Gallu i Weithio i ddarganfod a yw’ch salwch neu anabledd yn effeithio ar faint y gallwch weithio.

Os oes angen Asesiad Gallu i Weithio arnoch fe gewch lythyr yn dweud wrthych beth i’w wneud.

Efallai na fydd angen un arnoch, er enghraifft os ydych yn yr ysbyty neu os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud wrthych y gallai fod gennych lai na 12 mis i fyw.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac ESA Dull Newydd, dim ond un Asesiad Gallu i Weithio fydd gennych.

Gallwch ofyn i’ch asesiad gael ei recordio. Os hoffech hyn, dywedwch wrth y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn eich llythyr gwahoddiad apwyntiad.

Sut mae’r asesiad yn digwydd

Gall asesiadau fod yn bersonol, trwy alwad fideo neu ar y ffôn. Fe’ch hysbysir sut y bydd eich asesiad yn digwydd.

Os gofynnir i chi ddod yn bersonol dywedir wrthych sut i wneud hyn yn ddiogel oherwydd coronafeirws (COVID-19).

Gallwch gael rhywun arall gyda chi yn eich asesiad, er enghraifft ffrind neu weithiwr cymorth. Os yw eich asesiad trwy alwad fideo neu ar y ffôn, gallwch ofyn i’r asesydd ffonio’r person os nad ydynt gyda chi pan fydd yr asesiad yn dechrau.

Byddwch yn aros ar y ‘gyfradd asesu’ nes y gellir gwneud penderfyniad ar eich Asesiad Gallu i Weithio.

Ar ôl i’ch cais gael ei asesu

Os ydych yn gymwys am ESA byddwch yn cael eich gosod mewn un o 2 grŵp:

  • grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (ni allwch weithio nawr, ond gallwch baratoi at weithio yn y dyfodol, er enghraifft drwy ysgrifennu CV)
  • grŵp cymorth (ni allwch weithio nawr ac nid oes disgwyl i chi baratoi at waith yn y dyfodol)

Byddwch:

  • fel arfer yn y grŵp cymorth os yw eich salwch neu anabledd yn cyfyngu’n ddifrifol ar yr hyn y gallwch ei wneud
  • yn y grŵp cymorth os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud bod gennych lai na 12 mis i fyw

Os ydych yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae’n rhaid i chi fynychu cyfweliadau rheolaidd gydag anogwr gwaith. Maent yn gallu eich helpu i wella eich sgiliau neu ysgrifennu CV i’ch helpu yn ôl i’r gwaith.

Os ydych yn y grŵp cymorth

Rydych fel arfer yn y grŵp hwn os yw eich salwch neu’ch anabledd yn rhoi terfyn difrifol ar yr hyn y gallwch eu gwneud. Nid oes rhaid i chi fynychu cyfweliadau. Gallwch ddweud wrth eich anogwr gwaith os hoffech gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith.

Am ba hyd y byddwch chi’n cael ESA

Mae ESA Dull Newydd yn para am 365 diwrnod os ydych chi yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith. Nid oes terfyn amser os ydych chi yn y grŵp cymorth.

Er mwyn parhau i gael ESA rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Efallai y bydd angen i chi anfon nodiadau ffitrwydd yn rheolaidd hefyd.

Os ydych yn derbyn sancsiwn

Gall eich ESA gael ei ostwng os nad ydych yn mynychu cyfweliadau neu wneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith fel y cytunwyd gyda’ch anogwr gwaith yn eich ‘Ymrwymiad Hawlydd’. Gall y gostyngiad hwn barhau hyd at 4 wythnos ar ôl i chi ail-ddechrau weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith.

Byddwch yn derbyn llythyr yn datgan efallai y byddwch yn derbyn sancsiwn. Dywedwch wrth eich anogwr gwaith os oes gennych reswm da am beidio â gwneud yr hyn y cytunwyd yn eich ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Byddwch yn derbyn llythyr arall os yw’r penderfyniad yn cael ei wneud i roi sancsiwn. Bydd eich budd-dal dim ond yn cael ei effeithio ar ôl gwneud penderfyniad.

Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol yn syth os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth Cyngor. Byddant yn dweud wrthych yr hyn y dylech eu gwneud i barhau i gael cefnogaeth.

Os ydych yn derbyn sancsiwn gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto.

Ni fyddwch yn derbyn sancsiwn os ydych yn y grŵp cymorth.

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn neu nad ydych yn dweud wrthym am newid ar unwaith, efallai cewch eich talu gormod. Os cewch, efallai bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl.

Cyhoeddwyd ar 7 December 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 November 2022 + show all updates
  1. Link to Easy Read version of guidance has been added.

  2. From 1 July 2022, you can get a fit note to support your claim from a registered nurse, occupational therapist, pharmacist or physiotherapist. as well as from a GP or hospital doctor.

  3. Removed guidance on claiming New Style Employment and Support Allowance (ESA) if you had to self isolate because of coronavirus (COVID-19). You can no longer claim ESA under the rules introduced during the pandemic for people who had to self isolate.

  4. People near the end of their life who have been told by a medical professional that they might have less than 12 months to live, do not need attend an appointment at the start of their claim for Employment and Support Allowance or make a Claimant Commitment and they will be put in the 'support group'. This has changed from 6 months.

  5. Updated the guidance on claiming New Style Employment and Support Allowance because of coronavirus (COVID-19) because the temporary eligibility rules have ended.

  6. The service to apply for New Style Employment and Support Allowance will be unavailable from 6pm on Thursday 17 March to 00:01am on Friday 18 March.

  7. Updated to explain a change to the rules for claiming Employment and Support Allowance that mean if a medical professional has said you have less than 6 months to live, you will not need a Claimant Commitment and you will be placed in the support group after your claim is assessed.

  8. Added a message about not having to provide fit notes (sick notes) until 27 January 2022 to give GPs more time to work on the coronavirus vaccination boosters.

  9. Clarified that if you get Universal Credit as well as New Style Employment and Support Allowance (ESA), your Universal Credit payment is reduced by the amount you get for New Style ESA.

  10. Updated the eligibility conditions for New Style ESA if you've been affected by coronavirus (COVID-19) for the new rules on returning from abroad.

  11. Removed guidance on claiming New Style Employment and Support Allowance (ESA) because you or your child were advised to ‘shield’ (take extra precautions to reduce contact with others) because you’re at very high risk of severe illness from COVID-19. Shielding in England, Scotland and Wales has stopped and the time limit for making a backdated claim has passed.

  12. Updated because face-to-face Work Capability Assessments have resumed for some claimants.

  13. Added guidance about needing to attend an interview with a work coach after you have made a claim and attending regular interviews with a work coach if you are in the 'work-related activity group'.

  14. Shielding in England and Wales has stopped. You can still apply for ESA if you were shielding in England or shielding in Wales before 1 April 2021, or if you’re shielding in Scotland.

  15. From 27 January 2021 you can claim New Style ESA if you’re getting Severe Disability Premium (SDP), or if you received SDP in the last month and are still eligible for it.

  16. Replaced guidance that you do not need to go to an appointment with a work coach at the moment with new guidance that DWP will make an appointment to talk to you, either over the phone or face-to-face.

  17. Added information about benefit overpayments.

  18. Added guidance on evidence you'll need to provide if you're claiming New Style Employment and Support Allowance because of coronavirus (COVID-19).

  19. Updated guidance to explain that Work Capability Assessments are currently taking place over the phone because of coronavirus (COVID-19).

  20. Universal Credit claimants should now apply for New Style Employment and Support Allowance online or by phone instead of through their online account.

  21. Updated guidance with link to new service to apply for New Style Employment and Support Allowance online and for new eligibility conditions introduced because of coronavirus (COVID-19).

  22. Updated with a revised process to apply for New Style Employment and Support Allowance.

  23. Eligibility section amended to include information about Class 2 national contributions.

  24. 'New Style' Employment and Support Allowance claimant guides (print and fold versions) updated.

  25. Added Welsh translations.

  26. 'New style' Employment and Support Allowance (ESA) content updated and printable 'new style' ESA claimant guide added.

  27. Amended wording from 'you must have a Work Capability Assessment' to 'you may be required to attend a Work Capability Assessment'.

  28. Updated the weekly amount you receive if you're in the support group in line with changes to benefit rates for the 2019/2020 financial year.

  29. Updated the guidance on how to claim new style Employment and Support Allowance.

  30. Removed Universal Credit live telephone details as no longer relevant.

  31. Updated guidance to reflect that new claims to Universal Credit can now be made by households with more than 2 children.

  32. Updated Welsh guide with information about how the severe disability premium might affect a claim.

  33. Added information about how the Severe Disability Premium may affect your claim to new style Employment and Support Allowance.

  34. Updated to show that Universal Credit is now available everywhere in Great Britain.

  35. Universal Credit live service telephone helpline opening hours changed to 9am to 4pm.

  36. Added translation

  37. Added translation

  38. Added translation

  39. Added information about if you have more than 2 children.

  40. Updated the weekly amount you receive if you're in the Support group in line with changes to benefit rates for the 2018/2019 financial year.

  41. Explained that claimants will be placed in either the work-related activity group or the support group after their Work Capability Assessment instead of after 13 weeks. The timeframe can vary.

  42. Updated for changes to who can claim new style Employment and Support Allowance from 1 January 2018 if you don't live in a Universal Credit full service area.

  43. Updated guide with new 0800 freephone numbers for Universal Credit.

  44. Corrected the weekly amounts of new style Employment and Support Allowance for people who are still entitled after 13 weeks.

  45. First published.