Canllawiau

Sut y caiff llog ei gyfrifo – Benthyciad Ôl-raddedig

Cael gwybod sut y caiff llog ei gyfrifo a’i ychwanegu os oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig o Gymru neu Loegr, a chael gwybod am gyfraddau llog blaenorol.

Os cawsoch gyllid myfyrwyr ôl-raddedig o Ogledd Iwerddon, byddwch yn ad-dalu dan Gynllun 1.

Os cawsoch gyllid myfyrwyr ôl-raddedig o’r Alban, byddwch yn ad-dalu dan Gynllun 4.

Pryd y caiff llog ei ychwanegu

Codir llog arnoch o’r diwrnod y byddwn yn gwneud y taliad cyntaf i chi neu’ch prifysgol neu goleg, a hyd nes y bydd eich benthyciad wedi’i ad-dalu yn llawn neu wedi’i ganslo. Caiff llog ei ychwanegu at eich balans bob mis.

Newidiadau blynyddol i’r gyfradd llog

Fel rheol, caiff y gyfradd llog ei phennu ar 1 Medi bob blwyddyn, ar sail y Mynegai Prisiau Manwerthu yn y mis Mawrth blaenorol.

Y gyfradd llog a godir fel arfer yw’r Mynegai Prisiau Manwerthu ynghyd â 3%.

Fodd bynnag, yn ystod rhai cyfnodau efallai y byddwn yn gosod cap llog i sicrhau na chodir cyfradd llog uwch arnoch na chyfraddau tebyg a geir yn y farchnad fasnachol.

Beth yw’r Mynegai Prisiau Manwerthu?

Mae’n ddull o fesur chwyddiant, sy’n mesur newidiadau i gost byw yn y DU.

Beth yw’r cap ar y gyfradd llog?

Mae’r Adran Addysg yn monitro cyfraddau marchnad cymaradwy gan ddefnyddio data misol a gyhoeddir gan Fanc Lloegr.

Os yw cyfradd gyfartalog y farchnad yn is na’r gyfradd llog a godir arnoch ar eich benthyciad Cynllun 2, byddwn yn cymhwyso cap cyfradd llog dros dro, fel na fyddwch dan anfantais. Adolygir cyfradd y farchnad gymaradwy yn fisol a gwneir newid i’r cap cyfradd llog os oes angen.

Y cap cyfradd llog ar hyn o bryd yw 7.8%.

Cyfraddau llog blaenorol

Mae’r cyfraddau sydd yn y tabl yn berthnasol i Fenthyciad Ôl-raddedig yn unig.

Dyddiad Cyfradd llog
1 Mawrth 2024 i 31 Mawrth 2024 7.7%
1 Ionawr 2024 i 29 Chwefror 2024 7.6%
1 Rhagfyr 2023 i 31 Rhagfyr 2023 7.5%
1 Medi 2023 i 30 Tachwedd 2023 7.3%
1 Mehefin 2023 i 31 Awst 2023 7.1%
1 Mawrth 2023 i 31 Mai 2023 6.9%
1 Rhagfyr 2022 i 28 Chwefror 2023 6.5%
1 Medi 2022 i 30 Tachwedd 2022 6.3%
1 Mawrth 2022 i 31 Awst 2022 4.5%
1 Ionawr 2022 i 28 Chwefror 2022 4.4%
1 Hydref 2021 i 31 Rhagfyr 2021 4.1%
1 Medi 2021 i 30 Medi 2021 4.2%
1 Gorffennaf 2021 i 31 Awst 2021 5.3%
1 Medi 2020 i 30 Mehefin 2021 5.6%
1 Medi 2019 i 31 Awst 2020 5.4%
1 Medi 2018 i 31 Awst 2019 6.3%
1 Medi 2017 i 31 Awst 2018 6.1%
1 Medi 2016 i 31 Awst 2017 4.6%
Cyhoeddwyd ar 15 May 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 April 2024 + show all updates
  1. Current interest rate and previous interest rates table have been updated

  2. Previous interest rates table has been updated

  3. Interest rate information has been updated

  4. The current interest rate cap and previous interest rates table have been updated

  5. Previous interest rates table has been updated

  6. The interest rate cap and previous interest rates table have been updated

  7. Updates have been made to the previous interest rates table

  8. Updates have been made to the previous interest rates table

  9. Updates have been made to the current interest rate

  10. The interest rate has been updated, currently there is no interest rate cap. The previous interest rates table has also been updated.

  11. Updates have been made to the current interest rate cap and the previous interest rates table

  12. Updates made to the current interest rate cap and previous interest rates table

  13. Current interest rate cap has been updated to 4.2% 1 July 2021 to 31 August 2021 - 5.3% has been added to the previous interest rates table.

  14. Interest rate information updated due cap being applied.

  15. Link to Plan 4 information added to Welsh side of the page

  16. Hyperlinks for Plan 1 and Plan 4 updated.

  17. New line added to 'call to action' box for Scottish postgraduate students, who will repay postgraduate student finance through Plan 4

  18. Updated table with interest rate for 2018/19

  19. Added translation

  20. Added translation

  21. First published.