Canllawiau

Hawlio ad-daliad treth pan eich bod wedi cymryd cyfandaliad pensiwn bach (P53)

Sut i hawlio yn ôl y dreth sydd ar CThEF i chi ar gyfandaliad pensiwn bach rydych wedi’i gael yn ystod y flwyddyn dreth bresennol (P53).

Gallwch hawlio yn ôl unrhyw dreth sydd arnom i chi ar gyfandaliad pensiwn gan ddefnyddio ffurflen P53 os ydych wedi cymryd:

  • eich holl bensiwn fel arian parod — cymudiad pitw o gronfa bensiwn
  • pensiwn bach fel cyfandaliad

Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen P53Z yn lle os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn hawlio treth yn ôl oherwydd eich bod wedi cyrchu’n hyblyg (yn Seasneg) eich cronfa pensiwn, ac wedi’i gwacáu
  • rydych wedi cael cyfandaliadau afiechyd difrifol — i hawlio yn ôl, yn ystod y flwyddyn, unrhyw dreth a ordalwyd ar y cyfandaliadau hyn

Cyn i chi ddechrau

Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Rhoi gwybod i ni am unrhyw incwm arall yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth

  2. Gwirio bod gennych ran 2 a rhan 3 o bob ffurflen P45 sy’n ymwneud â’ch taliadau pensiwn — i fyddwn yn gallu delio â’r hawliad heb y P45

Gallwch roi ffigurau wedi’u hamcangyfrif i ni os nad oes gennych y ffigurau terfynol. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio rhifau cyfan, wedi’u talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf. Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.

Dylech gadw’r gwaith papur hwn tan fod y gwiriadau hyn wedi dod i ben.

Hawlio ar-lein

I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth:

Dechrau nawr

Llenwch y ffurflen hon ar-lein os na allwch fewngofnodi

Gallwch ddefnyddio ein harweiniad rhyngweithiol. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Dechrau eich hawliad ar-lein.

  2. Argraffu’r ffurflen.

  3. Llofnodi’r datganiad.

  4. Anfon y ffurflen at CThEF.

Talu Wrth Ennill
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein

P53 – fersiwn i'w argraffu, llenwi a phostio

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.
  1. Argraffu’r ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen â llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen at CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn cyfrifo unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi, ac yn anfon siec atoch. Gallwn anfon hon yn uniongyrchol i’ch cyfeiriad cartref, neu i gyfeiriad eich enwebai. Dim ond i gyfrif sydd yn eich enw chi neu eich enwebai y gallwn dalu’r siec.

Ni ellir gwneud ad-daliadau drwy gyfrwng Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr).

Cael gwybod pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeirnod TWE y Cyflogwr — os yw hwnnw gennych
  • rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad ydynt gennych, bydd yn rhaid i chi esbonio pam
  • elw a wnaed o’ch hunangyflogaeth yn ystod y flwyddyn dreth hon — os oes elw o gwbl

Mae’ch P45 yn dangos faint o dreth rydych wedi’i thalu ar eich cyflog hyd yma yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Bydd yn rhaid i chi gadarnhau os ydych wedi cael unrhyw un o’r canlynol:

  • pensiynau gan gyflogwr blaenorol
  • pensiynau gwasanaethau cyhoeddus
  • pensiynau y lluoedd arfog
  • blwydd-dal pensiwn personol
  • pensiynau bach a delir fel cyfandaliadau (cymudiad pitw)
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau trethadwy ers 6 Ebrill o’r flwyddyn dreth bresennol

Dylech hefyd wirio a ydych wedi cael unrhyw incwm o’r canlynol:

  • eiddo
  • ymddiriedolaethau
  • comisiynau
  • cildyrnau
  • incwm tramor
  • elw a delir ar bolisïau yswiriant bywyd y DU
  • unrhyw incwm arall nad ydych wedi’i nodi ar y ffurflen
Cyhoeddwyd ar 23 August 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2023 + show all updates
  1. The planned downtime for our interactive guidance that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.

  2. Due to planned downtime, our interactive guidance will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.

  3. Added translation