Ffurflen

Tudalen barhad Rhestr Gwerthiannau yn y GE

Defnyddiwch VAT101A os ydych yn brin o le ar y ffurflen Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101).

Dogfennau

Tudalen barhad Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101A)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Find out how accessible our forms are

Manylion

Os ydych yn brin o le ar ffurflen VAT101 (yn agor tudalen Saesneg), defnyddiwch un neu ragor o daflenni parhad VAT101A. Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon ar y sgrin cyn ei hargraffu (ar un ochr) a’i hanfon i (CThEM). Mae’n rhaid cynnwys ffurflen VAT101 wedi’i llofnodi gyda phob ffurflen VAT101A.

Ni allwch gofnodi gwybodaeth am stoc ‘call-off’ ar y ffurflen bapur. Defnyddiwch y Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101) Electronig (yn agor tudalen Saesneg) i gofnodi’r wybodaeth hon ar-lein.

Ar ôl llenwi a llofnodi’r ffurflen VAT101, anfonwch hi ac unrhyw VAT101A i:

Tîm ESL / ESL Team
Cyllid a Thollau EF
BX9 1QT

Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn.

Cyn i chi ddechrau

Mae’r ffurflen hon yn rhyngweithiol (un yr ydych yn ei llenwi ar y sgrin) ac mae’n rhaid i chi gael Adobe Reader er mwyn ei llenwi. Gallwch lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg).

Mae CThEF yn creu fersiynau newydd o’i ffurflenni nad ydynt yn dibynnu ar Adobe Reader. Tra bo’r gwaith hwn ar y gweill, gellir defnyddio’r dulliau canlynol er mwyn sicrhau y bydd y ffurflen yn lawrlwytho neu’n agor yn Adobe Reader:

  • pa bynnag porwr rydych yn ei ddefnyddio, gwiriwch eich gosodiadau fel mai Adobe Reader yw’r rhaglen ddiofyn ar gyfer agor dogfennau PDF
  • os ydych yn defnyddio Windows, defnyddiwch fotwm de eich llygoden i glicio ar gysylltiad y ffurflen, ac yna dewis ‘Save target as’ neu ‘Save link as’
  • os ydych yn defnyddio Mac, defnyddiwch fotwm de eich llygoden i glicio ar gysylltiad y ffurflen, ac yna dewis ‘Save linked file as’
  • cadw’r ffurflen — y ffolder dogfennau yw’r man a argymhellir
  • defnyddio Adobe Reader i agor y ffurflen

Os yw’r ffurflen yn gwrthod agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am ragor o gymorth.

Cyhoeddwyd ar 1 October 2009
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 December 2020 + show all updates
  1. A new version of the VAT101A continuation sheet is available.

  2. Information added to use the Electronic EC Sales List (VAT101) to record call-off stock information online. Welsh translation added.

  3. Postal address to send completed forms to updated.

  4. First published.