Hysbysiad

Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021

Mae'r Papur Gwyn hwn, ‘Helpu i Lunio Ein Dyfodol’, yn amlinellu cynigion Awdurdod Ystadegau'r DU ar gyfer cynnal Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Dogfennau

Helpu i Lunio Ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021 (Welsh language version)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch accessible.formats@cabinetoffice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi gwneud argymhellion ynglŷn â chynnwys Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr a’r broses o’i gynnal, fel y nodir yn y Papur Gwyn hwn.

Yn eu plith, mae’r cynnig y dylai’r cyfrifiad gael ei gynnal ar lein yn bennaf, a hynny am y tro cyntaf.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn nodi’r canlynol:

  • y dyddiad arfaethedig ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.
  • y pynciau yr argymhellir eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2021 a’r broses ymgynghori a lywiodd yr argymhellion hyn
  • darpariaethau cyfrinachedd ar gyfer casglu data personol a diogelwch digidol
  • cynlluniau i gyhoeddi data Cyfrifiad 2021 a chael gafael arnynt

Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gael ar y fersiwn Saesneg o’r dudalen hon.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil a’r gwaith ymgynghori sydd wedi llywio’r argymhellion ynglŷn â chynnwys Cyfrifiad 2021 a’r broses o’i gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Cyhoeddwyd ar 14 December 2018