Papur polisi

Gofyniad Plismona Strategol 2023

Mae'r Gofyniad Plismona Strategol yn nodi barn yr Ysgrifennydd Cartref am beth yw'r bygythiadau cenedlaethol presennol, a'r galluoedd plismona cenedlaethol sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r bygythiadau hynny.

Dogfennau

Y Gofyniad Plismona Strategol

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch alternativeformats@homeoffice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Cyhoeddwyd y Gofyniad Plismona Strategol (SPR) am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2012, yn unol ag adran 77 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cafodd y Gofyniad Plismona Strategol blaenorol ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2015.

Rhaid i gomisiynwyr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid ystyried yr SPR wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Bygythiadau cenedlaethol

Mae fersiwn 2023 yn cyflwyno trais yn erbyn menywod a merched fel bygythiad cenedlaethol ychwanegol, ac yn ailddatgan dilysrwydd y bygythiadau presennol.

Y bygythiadau cenedlaethol a nodir yn yr SPR yw:

  • trais yn erbyn menywod a merched
  • terfysgaeth
  • troseddau difrifol a chyfundrefnol
  • digwyddiad seibr cenedlaethol
  • cam-drin plant yn rhywiol
  • anrhefn cyhoeddus
  • argyfyngau sifil

Mae cynnwys trais yn erbyn menywod a merched fel bygythiad cenedlaethol yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer:

  • galluoedd heddlu lleol a rhanbarthol i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
  • sut mae heddluoedd lleol yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys cydweithio ag asiantaethau eraill

Diweddariadau eraill

Mae newidiadau eraill yn cynnwys:

  • disgrifiad manylach o sut y dylai bygythiadau gael eu taclo gan luoedd heddlu
  • trefniadau llywodraethu a sicrwydd cryfach, gan gynnwys gofyniad am gyfeiriadau mwy penodol at SPR mewn cynlluniau heddlu a throsedd
  • adran troseddau difrifol a threfnedig well, er mwyn sicrhau amlygrwydd i fathau o droseddau fel twyll a throseddau mewnfudo cyfundrefnol
Cyhoeddwyd ar 20 February 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 June 2023 + show all updates
  1. Accessible English version added.

  2. Added Welsh translation.

  3. First published.