Canllawiau

Symud o DLA i PIP: newidiadau i gyfraith PIP o 23 Tachwedd 2017

Diweddarwyd 4 April 2022

1. Cefndir

Rhedodd yr ymarfer hwn rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mai 2019.

Os cawsoch Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ac yna gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), fe wnaethoch barhau i gael DLA tan 28 diwrnod ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud penderfyniad am eich cais PIP.

Fodd bynnag, gwnaethom atal eich taliadau DLA a’ch hawliad PIP os na wnaethoch:

  • fynd i asesiad wyneb yn wyneb pan ofynasom i chi wneud hynny, neu
  • dilyn y broses hawlio PIP

2. Newidiadau i gyfraith PIP

Fe wnaethom adfer eich DLA os oeddem ni neu dribiwnlys yn canfod bod gennych ‘reswm da’ i beidio â:

  • mynd i asesiad PIP wyneb yn wyneb pan ofynasom ichi wneud hynny, neu
  • darparu’r wybodaeth neu’r dystiolaeth y gwnaethom ofyn amdano

Roedd y newid hwn yn berthnasol i benderfyniadau a wnaeth DWP ynghylch pobl yn symud o DLA i PIP o 23 Tachwedd 2017.

3. Beth oedd hyn yn ei olygu i chi

3.1 Os oeddech chi’n cael PIP

Gwnaethom edrych eto ar geisiadau y gwnaethom benderfynu arnynt ar neu ar ôl 23 Tachwedd 2017 tan 17 Rhagfyr 2018 i wirio a oedd y newid hwn yn golygu y gallech fod wedi bod yn gymwys i gael mwy o DLA.

3.2 Os oeddech chi’n gwneud cais am PIP

Os cawsoch DLA ac wedi gwneud cais am PIP, fe wnaethoch barhau i gael DLA tan 28 diwrnod ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud penderfyniad am eich cais PIP. Roedd yn rhaid i chi gael asesiad wyneb yn wyneb o hyd pe byddem yn gofyn ichi ddilyn y broses hawlio a pharhau i’w dilyn. Fe wnaethom atal eich DLA a’ch hawliad PIP os na aethoch i asesiad wyneb yn wyneb pan ofynasom ichi wneud hynny, neu os na wnaethoch ddilyn y broses hawlio.

Ond fe wnaethom adfer eich DLA os gwnaethom benderfynu derbyn eich rhesymau dros beidio â mynd i asesiad PIP neu beidio â dilyn y broses hawlio PIP.

Gwnaethpwyd y newid hwn o 17 Rhagfyr 2017.

Mae’r newid o ganlyniad i dyfarniad y Tribiwnlys Uchaf.

3.3 Help gyda PIP

Gallwch gysylltu â sefydliad cymorth lleol neu Cyngor ar Bopeth i gael help i ddeall PIP.